– Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2022.
Eitem 9 heddiw yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar Gystadleuaeth Cân Eurovision 2023, a galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8042 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad yr Undeb Darlledu Ewropeaidd ar 17 Mehefin 2022.
2. Yn gresynu at y ffaith na ellir cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yn Wcráin oherwydd ymosodiad parhaus Rwsia.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â'r BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd ynghylch cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn gynnig yn ffurfiol y ddadl a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth heddiw. A gaf fi ddechrau'r ddadl drwy gofnodi fy nhristwch a fy ngofid i a fy ngrŵp na ellir cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision yn Wcráin? Fel bob amser, rydym yn cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt gan ymosodiad Rwsia ar y wlad. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, credaf ei bod yn bwysig inni ystyried sut y bydd DU yn cynnal Eurovision ac ymrwymo i sicrhau bod y gystadleuaeth, lle bynnag y caiff ei chynnal yn y DU, yn edrych ac yn teimlo mor Wcreinaidd â phosibl. Ac rwy'n gobeithio y byddwn, un diwrnod yn y dyfodol agos iawn, yn gweld hoff gystadleuaeth Ewrop yn dychwelyd i Wcráin unwaith eto.
Felly, gyda hynny mewn cof, mae'r Deyrnas Unedig wedi cael cyfle i gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision y flwyddyn nesaf, ac fel Ceidwadwyr Cymreig, gwir blaid Cymru, teimlwn yn gryf mai Cymru, fel gwlad y gân, yw'r cartref amlwg ar gyfer cystadleuaeth cân 2023. Bydd cynnal Eurovision yng Nghymru yn ychwanegu at y rhestr o ddigwyddiadau mawr sy'n cael eu cynnal yng Nghymru. Pethau fel y cyngherddau diweddar gan Ed Sheeran, Stereophonics, Tom Jones a digwyddiad WWE ym mis Medi hefyd. Mae'r digwyddiadau hyn wedi denu pobl o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, a'r byd yn wir, gan adael argraff o Gymru ar y rhai sy'n mynychu ac yn teithio yma'n gorfforol yn ogystal â'r rhai sy'n gwylio'r digwyddiad ar eu sgriniau teledu hefyd. A chyda channoedd o filiynau o bobl yn gwylio Eurovision ar y teledu bob blwyddyn, mae'n gyfle perffaith i arddangos ein cenedl wych i'r byd. Ac rydym eisiau bod yn uchelgeisiol hefyd.
Er bod Cystadleuaeth Cân Eurovision wedi'i chynnal mewn arenau yn draddodiadol, ac mae gan Gymru lawer iawn o arenau, a byddwn ar fai yn peidio â sôn am yr arena newydd, wych yn Abertawe yn fy rhanbarth i, gwyddom y gallai'r cyhoedd yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig lenwi Stadiwm y Principality yn hawdd, cymaint yw eu brwdfrydedd a'u cariad at y digwyddiad. Gwn y gallem werthu 70,000 o docynnau ar gyfer y digwyddiad hwnnw, a chredaf fy mod yn gwybod pwy o'r Siambr hon fyddai'n prynu'r 60 tocyn cyntaf. Felly, er bod yna faterion trafnidiaeth amlwg y mae angen mynd i'r afael â hwy, sy'n rhywbeth a godwyd gennym yn y gorffennol, nid yw heddiw'n ddiwrnod i eistedd yn ôl a chael dadleuon rhwng pleidiau gwleidyddol. Yn hytrach, mae'n ddiwrnod i ddathlu Cystadleuaeth Cân Eurovision a datgan bod y Senedd hon yn sefyll yn unedig ac yn glir ar un nod, sef gwneud popeth yn ein gallu, ac ymrwymo i weithio gyda'n gilydd, i wireddu uchelgais a rennir, sef cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision yma yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau gan gyd-Aelodau.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a dwi’n galw ar Heledd Fychan i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Heledd.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw a hoffwn ddatgan ein cefnogaeth iddo. Hoffwn hefyd ategu sylwadau Tom Giffard gan ddweud rydyn ni’n cytuno, rydyn ni’n gresynu’n fawr at y ffaith na ellir cynnal y gystadleuaeth hon yn Wcráin oherwydd ymosodiadau anghyfreithlon a pharhaus Rwsia. Nid eisiau manteisio ydyn ni ar y ffaith bod Wcráin yn mynd drwy sefyllfa mor echrydus, ac rydyn ninnau'n croesawu bod yn rhaid i 2023 fod yn ddathliad o Wcráin hefyd, ac adlewyrchu hynna lle bynnag bo'r gystadleuaeth. Mi ddylwn i ddatgan hefyd fy mod i’n un o’r rhai sydd ddim yn mynd i ymddiheuro am y ffaith fy mod i’n ffan mawr o Eurovision. Mae’n ddrwg gen i, dwi yn gwylio yn flynyddol efo’r teulu, fel nifer o bobl yng Nghymru, a hefyd fy mod i wedi pleidleisio dros Wcráin eleni.
Ond mae yn gyfle euraid i ni yma yng Nghymru, a dwi’n meddwl bod y pwynt yn un pwysig: mi ddylem ni fod yn ymgyrchu i Eurovision fod yma yng Nghymru. Wedi’r cyfan, mae hi wedi bod yn y Deyrnas Unedig wyth o weithiau o’r blaen, saith o weithiau yn Lloegr ac unwaith yn yr Alban. Felly, mae hi’n hen bryd i Gymru gael y cyfle a'r manteision rhyngwladol o hynny. Fel y dywedwyd gan Tom Giffard, mae gennym ni gyfoeth o gerddoriaeth yma yng Nghymru i’w dathlu, a dwi’n meddwl y gallem ni fod yn dangos yr holl bethau rydyn ni’n enwog yn rhyngwladol amdanyn nhw—ei fod e’n gyfle euraid o ran hynny. Hefyd, os ydych chi’n ystyried ein bod ni’n mynd i gael cyfle aruthrol yn rhyngwladol efo tîm dynion Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yng nghwpan y byd, pam felly ddim wedyn mynd ati i ddathlu diwylliant mewn ffordd hollol wahanol yma yng Nghymru?
Dwi yn mynd i roi sialens i'r Ceidwadwyr. Y ‘true party of Wales’? Cefnogwch, felly, ein gwelliant ni, y dylai Cymru fod yno yn cystadlu fel cenedl, oherwydd dyna ydy ein gwelliant ni, i sicrhau bod Cymru—. A ninnau efo cymaint o dalentau, fel y rhestrwyd, pam na ddylem ni fod yn cystadlu hefyd yno? Pam nad ydyn ni wedi clywed y Gymraeg erioed yn Eurovision? Oherwydd dyna un o’r pethau dwi’n ei fwynhau fwyaf am Eurovision, sef clywed yr holl ieithoedd gwahanol, yr holl ddiwylliannau gwahanol, a dwi’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i Gymru gael y cyfle hwnnw.
Felly, fe fyddwn i yn gofyn i bawb yma: pam na allwn ni—[Torri ar draws.] Dwi’n falch iawn o gymryd gan Andrew, yn enwedig os wnewch chi ei ganu o.
Rwyf wedi darllen eich gwelliant ar y papur trefn, ond nid wyf yn credu, yn ôl rheolau'r gystadleuaeth, y gallem gystadlu, yn union fel na allai Gwlad y Basg gystadlu, a Sbaen sy'n cynrychioli cynnig Sbaen yn y gystadleuaeth. Felly, nid yw'r rheolau'n caniatáu i'r gwelliant hwnnw gael ei weithredu mewn gwirionedd.
Wel, mi ydyn ni wedi gallu efo Junior Eurovision, ac mae hi yn bosibl newid rheoliadau o’r fath, oherwydd pam lai ddathlu’r holl amrywiadau? Mae yna alw yna i ni fod yn mynd ati i edrych ar hynny, oherwydd mi ddylem ni fod yn gallu cystadlu, ac mae yna ffyrdd hefyd i sicrhau bod hynny’n bosibl. Os ydy’n bosibl efo Junior Eurovision, mae’n bosibl newid y rheoliadau i ni fod yno yn Eurovision, ac mae gen i hyder y gallai Cymru fod yn ennill.
Felly, dwi’n falch iawn o fod yn cefnogi hwn, ac yn annog pawb i uno hefyd o ran ein gwelliant. Mae yna gymaint o fanteision economaidd i ni ddathlu Cymru yn rhyngwladol drwy’r cyfle yma, a dwi’n gobeithio y medrwn ni uno ar rywbeth a fyddai’n bositif a chadarnhaol i Gymru, y Gymraeg, hefyd, oherwydd mae’n bosibl y byddem ni’n gweld y Gymraeg yn Eurovision. Felly, pam lai mynd amdani? Diolch.
Yn union fel llawer o bobl yn y Siambr hon, rwy'n gwylio Cystadleuaeth Cân Eurovision bob blwyddyn ac rwyf wedi cael llond bol ar weld 'nul points', ond roedd yn bleser gweld Wcráin yn ennill eleni, a gweld Prydain yn gwneud yn anhygoel o dda. Gyda 161 miliwn o wylwyr eraill, roeddwn wrth fy modd, a rhaid imi ddweud, roeddwn yn ffodus iawn o fod â phennaeth cyfathrebu yn fy nhîm sy'n Encyclopaedia Britannica byw o bopeth sy'n ymwneud ag Eurovision. Felly, rwy'n gobeithio y bydd fy nghyfraniad heddiw yn deyrnged iddo ef a hefyd i holl gefnogwyr Cystadleuaeth Cân Eurovision.
Cystadleuaeth Cân Eurovision yw'r gystadleuaeth gerddoriaeth teledu flynyddol hiraf. Cafodd ei chynnal gyntaf ym 1956 gyda dim ond saith gwlad yn cystadlu, ac mae'r gystadleuaeth wedi tyfu'n sylweddol bellach. Mae chwalfa'r hen Undeb Sofietaidd yn y 1990au wedi arwain at gynnydd sicr yn y niferoedd, gyda llawer o gyn-wledydd y bloc dwyreiniol yn Ewrop yn cystadlu, ac erbyn hyn mae'r gystadleuaeth yn cynnwys Awstralia hyd yn oed. O Dana i Dana International, mae'r ŵyl ddiwylliannol hon, sydd weithiau'n cynnwys geiriau caneuon rhyfedd, perfformiadau bisâr a phleidleisio tactegol, bellach yn cario'r fflam o ran hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chytgord ar draws Ewrop ac mewn mannau eraill, a byddai rhai'n ei alw'n 'brotherhood of man' go iawn.
Roedd buddugoliaeth Wcráin yn y gystadleuaeth eleni yn cael ei ystyried yn gondemniad o ymosodiad Rwsia, ac yn ymgais i nodi dewrder ac ysbrydoliaeth yr Arlywydd Zelenskyy yn wyneb y Putin llwfr. Mae digwyddiadau yn y dwyrain yn golygu na fydd cystadleuaeth Eurovision y flwyddyn nesaf yn debygol o gael ei chynnal yn Kyiv, sy'n mynd yn groes i'r arfer ac na ellir ond ei ddisgrifio ar y gorau fel gwyriad. Mae'r BBC bellach yn cynnal trafodaethau gyda'r Undeb Darlledu Ewropeaidd i gynnal y gystadleuaeth o bosibl, rhywbeth y mae'r DU wedi'i wneud wyth gwaith o'r blaen, mwy nag unman arall. Os byddant yn llwyddiannus, mae'r cwestiwn yn codi: lle y dylid ei leoli? Daw'r ateb yn ôl: 'wherever there's space, man'.
Credaf mai'r lleoliad perffaith yw Stadiwm y Principality, sy'n gallu dal 74,500 o bobl. Mae gan y stadiwm hanes profedig, fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, o gynnal digwyddiadau cerddoriaeth mawr yn llwyddiannus, fel y gwelsom yn gynharach gyda chyngherddau Ed Sheeran, Tom Jones a'r Stereophonics hefyd yn cael eu cynnal yno. Byddai Eurovision hefyd yn gyfle i farchnata a rhoi cyhoeddusrwydd i atyniadau Cymru fel cyrchfan i dwristiaid i gynulleidfa ryngwladol o filiynau. O'n mynyddoedd godidog i lannau tywod hardd ein harfordiroedd, gallai cynnal y digwyddiad unigryw hwn yn sicrhau manteision hirdymor enfawr i'n heconomi drwy godi ein proffil fel cenedl.
Galwaf ar Lywodraeth Cymru i beidio â gwastraffu amser cyn penderfynu a dod â'r gystadleuaeth gân fwyaf yn y byd i wlad y gân. Gadewch inni sicrhau ein bod yn hedfan y faner dros Gymru. Cefnogwch ein cynnig a gwnewch bopeth yn eich gallu i hyrwyddo Caerdydd a Chymru fel y lleoliad perffaith ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision. Os gwnewch chi hynny, fi fydd y cyntaf i ganu a dweud, 'Congratulations'.
Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nid yw fy ngwybodaeth am Eurovision gystal â'ch un chi, Natasha, ond nid oedd fy enw i lawr i siarad am hyn yn wreiddiol, ond rwy'n falch fy mod o'r diwedd wedi penderfynu cyfrannu heddiw.
I'r rhai sy'n ei ddilyn, mae Eurovision yn ennyn ymdeimlad o ddathliad, diwylliant, cystadleuaeth, creadigrwydd, cyfeillgarwch, oll wedi'u cyfuno mewn un digwyddiad blynyddol. Cyfrinach apêl dorfol drawsffiniol Eurovision yw'r cymysgedd rhyfedd o eironi camp a drama. Ar wahân i ddigwyddiadau chwaraeon, Cystadleuaeth Cân Eurovision yw un o'r digwyddiadau teledu rhyngwladol blynyddol mwyaf poblogaidd yn y byd, ac mae'n denu 600 miliwn o wylwyr bob blwyddyn. Yn dilyn sgyrsiau gan Undeb Darlledu Ewrop yn y 1950au i gysylltu gwledydd o fewn yr undeb yn ystod y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd, mae'r gystadleuaeth wedi cael ei darlledu bob blwyddyn ers y digwyddiad cyntaf ym 1956.
Am y tro, nid yw gwledydd NATO mewn rhyfel uniongyrchol gyda Rwsia, ond rydym mewn cyfnod o ryfel, ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi. Yn y cyd-destun hwn, mae'n sicr ein bod wedi cael ein hatgoffa o ba mor bwysig y gall digwyddiadau fel Eurovision fod. Cyrhaeddodd ymgais y DU yn y gystadleuaeth eleni yr ail safle, yn agos i Wcráin ar y brig. Gyda llawer o bryderon diogelwch, mae sgyrsiau ar y gweill am logisteg cynnal y gystadleuaeth yn Wcráin. Yn ddealladwy, nodwyd ei bod yn annhebygol o fod yn ddigon diogel iddi ddigwydd yn Kyiv neu Lviv, neu unrhyw ddinas arall yn Wcráin yn wir, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud bod Cymru'n barod i'w chynnal yn enw Wcráin y tro hwn.
Er gwaethaf yr argyfwng costau byw parhaus, mae caredigrwydd a pharodrwydd pobl Cymru wedi bod yn ddiwyro tuag at bobl Wcráin. Rydym wedi gweld gwaith gwych Urdd Gobaith Cymru, sydd wedi cartrefu a chefnogi ffoaduriaid mewn llond llaw o'u lleoliadau ledled y wlad. Felly, er bod ein lluoedd arfog yn parhau i fod yn absennol o feysydd brwydrau Donbas, rhaid inni edrych ar ffyrdd eraill y gallwn gario neges o obaith i Wcráin. Gallai Eurovision a drefnwyd yng Nghymru arwain at roi'r elw i elusen, a dosbarthu tocynnau am ddim i ffoaduriaid yma yng Nghymru. Mae cyfle gwirioneddol i wneud 2023 yn flwyddyn cyfeillgarwch o'r newydd.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Wcráin wedi dangos penderfyniad a chadernid i ymladd dros ryddid a democratiaeth yma yn Ewrop. Ni waeth ble na phryd y cynhelir yr Eurovision nesaf, mae hwn yn gyfle arall inni ymuno i gefnogi ei phobl ac anfon neges galed a chryf i Rwsia. Ni fydd ymgyrch ryfel Rwsia ar bridd Ewropeaidd yn mynd heb ei chosbi. Bydd Putin a'i gadfridogion milwrol yn talu am y troseddau rhyfel y maent wedi'u cyflawni, a bydd Cymru a'r Deyrnas Unedig yn sefyll yn gadarn gyda'u cynghreiriaid o Wcráin nes bod pob tanc, milwr, awyren ryfel a llong forol wedi gadael Wcráin am byth. Rwyf am orffen drwy ddyfynnu Konrad Adenauer, pan ddywedodd
'Pan fydd y byd yn ymddangos yn fawr ac yn gymhleth, mae angen inni gofio bod pob delfryd wych fyd-eang yn dechrau mewn cymdogaeth leol.'
Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi dangos hynny go iawn. Diolch.
Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon yn fyr. Nid oeddwn i lawr i siarad. Hoffwn gytuno mewn gwirionedd â'r hyn a ddywedodd yr Aelodau gyferbyn wrth agor, i ddechrau'r drafodaeth hon a'r cynnig hwn heddiw. Rwy'n cymeradwyo'n llwyr y ffaith bod gennym gonsensws, rwy'n credu—mwyafrif ar draws y Siambr hon heddiw—yn hyn o beth. Credaf ei fod yn awgrym hollol wych ein bod yn ceisio annog y DU i allu cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision wrth inni symud ymlaen.
O ran Cymru fel gwlad y gân, a dweud y gwir, byddai'n briodol inni allu gwneud hynny yn awr, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru hefyd i weithio gyda'r BBC ac eraill i ddathlu'r llwyddiannau gwych, nid yn unig yng Nghymru ond hefyd mewn perthynas â'r amgylchiadau trasig ac ofnadwy y mae Wcráin yn mynd drwyddynt ar hyn o bryd. Mae'n dangos undod, a byddai'n arwydd o'n cefnogaeth. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr iawn. Diolch yn fawr i chi i gyd. Diolch yn fawr, Lywydd.
Dirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon i gyfrannu nawr—Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon? Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod gennym ystod lawn o ddigwyddiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes sy'n rhan hanfodol o'r economi ymwelwyr. Drwy gefnogi digwyddiadau ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru, drwy Digwyddiadau Cymru, yn helpu i greu effaith economaidd gadarnhaol wrth arddangos ein lleoliadau o'r radd flaenaf, gan dynnu sylw at ein dinasoedd, ein trefi a'n cymunedau, a thynnu sylw at ein tirweddau gwych.
Oherwydd rôl hanfodol digwyddiadau yng Nghymru, er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau gwaethaf y pandemig, rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth pellach o £24 miliwn i fwy na 200 o ddigwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes, a chyflenwyr technegol, drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, a pharhaodd i roi arweiniad, cyngor a chanllawiau i'r diwydiant yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gan weithio ar hyn o bryd o dan strategaeth digwyddiadau mawr i Gymru 2010-20—a lansiwyd yn 2010, yn amlwg—rydym bellach ar fin lansio strategaeth digwyddiadau wedi'i hadnewyddu a'i diwygio ar gyfer Cymru. Mae'n ceisio manteisio ar y lefel newydd o gydweithio ac ymgynghori y mae Llywodraeth Cymru wedi'i datblygu gyda'r diwydiant yn ystod y pandemig. Rydym yn mynd i ailasesu enw da Cymru fel cenedl ddigwyddiadau ar lwyfan y byd, lle mae digwyddiadau'n cefnogi llesiant ei phobl, ei lleoedd a'r blaned. Mae'n nodi uchelgeisiau clir i sicrhau dull Cymru gyfan, gan fanteisio i'r eithaf ar asedau presennol a chefnogi dosbarthiad daearyddol a thymhorol o ddigwyddiadau cynhenid a rhyngwladol ar draws y sectorau chwaraeon, busnes a diwylliant ledled Cymru.
Rydym eisoes yn cefnogi amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Mae'r enghreifftiau diweddaraf yn cynnwys yr ŵyl Gymraeg, Tafwyl; In It Together yng Nghastell-nedd Port Talbot; gŵyl Gottwood yn Ynys Môn; Merthyr Rising; a'r ŵyl Out & Wild yn sir Benfro. Rydym yn edrych ymlaen at y World Heart Congress; a T20 Lloegr yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd, cyn bo hir; gŵyl Love Trails; yr ŵyl Para Chwaraeon yn Abertawe; a bydd WWE, fel y crybwyllwyd eisoes, yn dod i Gymru ym mis Medi. Rydym yn gyfarwydd iawn â chynnal digwyddiadau rhyngwladol yn llwyddiannus—WOMEX, NATO, prawf y Lludw, Cwpan Ryder a rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, i enwi rhai yn unig.
Rydym yn parhau i fod yn effro i gyfleoedd newydd a chyffrous i gynnal digwyddiadau. Er enghraifft, rydym yn rhan o gais y DU ac Iwerddon am bencampwriaeth Ewro 2028. Rydym bob amser yn agored i drafodaethau ynglŷn â dod â digwyddiadau mawr cyffrous i Gymru. Gall y cyfleoedd hyn, fel sydd wedi digwydd gydag Eurovision, ddod i'r amlwg yn annisgwyl, ac mae'n hanfodol ein bod yn ymateb i'r rhain yn briodol ac yn gwneud asesiad llawn o'r costau a'r manteision tebygol cyn symud ymlaen gydag unrhyw gyfranogiad posibl. Mae asesiad o'r fath yn cynnwys ymgysylltu'n llawn â phartneriaid ac ystyriaeth lawn o'r fanyleb dechnegol fanwl a gyhoeddir gan drefnwyr y digwyddiad.
Mae Cystadleuaeth Cân Eurovision, fel y mae eraill eisoes wedi nodi, yn un o'r digwyddiadau proffil uchel mwyaf yn y byd, ac mae'n rhoi cyfle i'r wlad, y ddinas a'r lleoliad sy'n ei gynnal adeiladu'n sylweddol ar ei henw da a sicrhau effaith economaidd sylweddol a chadarnhaol. Fel enillwyr cystadleuaeth 2022, enillodd Wcráin yr hawl i gynnal y gystadleuaeth yn 2023, ac er bod yr Undeb Darlledu Ewropeaidd, sydd â'r hawliau i'r gystadleuaeth, bellach wedi nodi nad ydynt yn credu y bydd yn bosibl cynnal digwyddiad diogel yn y wlad y flwyddyn nesaf, nodwn fod Wcráin yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal y digwyddiad, ac wedi awgrymu nad dyma'r amser iawn i ddechrau trafodaethau gyda dinasoedd yn y DU, nes eu bod wedi cynnal trafodaethau pellach gyda'r Undeb Darlledu Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud y dylid rhoi cyfle i Wcráin gynnal y digwyddiad os gallant. Felly, nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn ag a fydd y DU yn cynnal y gystadleuaeth, ond os cytunwn i'w chynnal, bydd y BBC wedyn yn cynnal proses ddethol i weld ym mha ddinas y caiff ei chynnal, a dyna pryd y gofynnir am fewnbwn.
Os caf ddweud, Lywydd, rydym yn ailadrodd ein cefnogaeth ddiamwys i bobl Wcráin yn wyneb ymosodiad Rwsia ar eu gwlad? Rydym yn parchu uchelgais parhaus Wcráin i gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision. Hyd nes y bydd y sefyllfa wedi'i datrys yn llawn, ni fyddwn yn mynd ati'n rhagweithiol i wneud cais am y digwyddiad. Fodd bynnag, os na all Wcráin gynnal y digwyddiad, rydym yn cydnabod, fel yr ail yng nghystadleuaeth 2022, mai'r DU yw'r opsiwn amgen ar gyfer yr Undeb Darlledu Ewropeaidd.
Rydym yn cydnabod bod hanes llwyddiannus Cymru o gynnal digwyddiadau proffil uchel yng Nghaerdydd yn Stadiwm Principality, sef yr unig leoliad yng Nghymru sy'n gallu bodloni'r manylebau ar gyfer y digwyddiad, yn ei gosod mewn sefyllfa i allu cynnal cystadleuaeth Eurovision 2023, os na ellir ei chynnal yn Wcráin. Mae Cyngor Caerdydd a'r stadiwm wedi nodi eu diddordeb mewn cynnal y digwyddiad, ac os na ellir cynnal y digwyddiad yn Wcráin, byddem yn cynnal trafodaethau pellach gyda'r BBC mewn perthynas â'r fanyleb fanwl a'r costau posibl, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallwn, yn debygol o fod yn sawl miliwn o bunnoedd. Byddem hefyd yn edrych ar y manteision a'r cyfraniadau posibl gan y partneriaid hynny, Llywodraeth y DU, a phartneriaid rhyngwladol wrth gwrs.
Yn olaf, os caf roi sylw i welliant Plaid Cymru. Pe byddai unrhyw gais gennym am y digwyddiad gwych hwn yn llwyddiannus, byddem yn llwyr anrhydeddu ymrwymiad yr Undeb Darlledu Ewropeaidd i sicrhau bod digwyddiad 2023 yn adlewyrchu buddugoliaeth Wcráin eleni, a byddai unrhyw gais yn gais ar ran y DU, oherwydd cystadleuaeth a gynhelir rhwng rhwydweithiau darlledu yw Eurovision, a daw'r ceisiadau'n gan brif ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus pob gwlad, ac i'r DU, y BBC yw'r rheini. Felly, byddai angen i'r BBC dynnu'n ôl o fod yn ddarlledwr Eurovision y DU cyn y gellid caniatáu i Gymru gystadlu yn ei hawl ei hun. Nid yw Llywodraeth ddatganoledig yn golygu y gallem gymryd rhan ar wahân.
I grynhoi, Lywydd, hoffwn ddweud y dylem aros am y penderfyniad terfynol ynglŷn â pha wlad fydd yn cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision, ac os mai'r DU fydd honno, byddwn yn cymryd rhan lawn yn y broses o wneud cais i gynnal y digwyddiad.
Tom Giffard nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch. [Torri ar draws.] Ni fyddaf yn canu, mae arnaf ofn. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr am eu cyfraniadau yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw? Rwy'n falch iawn o fod yn cau'r ddadl hon yn ogystal â'i hagor. Fel y gŵyr Aelodau sy'n ymddiddori'n fawr yn Eurovision, fel arfer dim ond yr enillydd sy'n cael perfformio ddwywaith, felly croeso i chi wneud beth a fynnwch o hynny.
Credaf mai'r consensws cyffredinol o'r ddadl yw bod pob un ohonom ar draws y Siambr, o ba blaid bynnag, neu ba ran bynnag o'r wlad yr ydym yn ei chynrychioli, yn unedig ynghylch y syniad o ddod â Chystadleuaeth Cân Eurovision yma i Gymru. A gaf fi grwydro drwy rai o gyfraniadau'r Aelodau? Dof yn ôl at welliant Plaid Cymru ar y diwedd, ond dechreuodd Heledd Fychan drwy ddweud ei bod hi'n hen bryd i Gymru gynnal yr Eurovision. Hollol gywir. Clywsom gan nifer o gyfranwyr am y rôl y byddai Wcráin yn ei chwarae, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Dirprwy Weinidog am dynnu sylw at uchelgais barhaus Wcráin i fod eisiau cynnal Eurovision os yw hynny'n bosibl, ond yn amlwg, mae'r Undeb Darlledu Ewropeaidd wedi gwneud y penderfyniad y dylai'r DU gamu i mewn os nad yw hynny'n bosibl, ac rydym yn teimlo'n gryf iawn mai Cymru a Chaerdydd ddylai fod y lle ar gyfer ei gynnal.
Soniodd Gareth Davies am y modd y mae hon wedi bod yn wlad groesawgar i Wcreiniaid sydd wedi dianc yma, ac os nad yw'n bosibl ei chynnal yn eu cartref, dylem ei chynnal yng Nghymru, sydd bellach wedi dod yn gartref dros dro i nifer o Wcreiniaid hefyd.
Siaradodd Dawn Bowden, y Gweinidog, ar y diwedd yno am y gefnogaeth ddiwylliannol dros y pandemig, ond ni chlywais ei chefnogaeth lawn i'r gallu i gynnal Eurovision. Deallaf fod dadansoddiad cost a budd i'w wneud, ond hoffwn pe bai'r Dirprwy Weinidog yn dangos 'Ooh Aah... Just a Little Bit' mwy o uchelgais. [Chwerthin.]
A gaf fi sôn yn fyr am welliant Plaid Cymru—[Chwerthin.] Fe symudaf ymlaen. A gaf fi sôn yn fyr am gyfraniad Heledd Fychan a gwelliant Plaid Cymru? Ac fel y clywsom, rwy'n deall uchelgais barhaus Plaid Cymru i weld Cymru'n cystadlu fel cenedl annibynnol yn yr Eurovision—rwy'n deall hynny—ond fel y clywsom gan y Dirprwy Weinidog a chan Andrew R.T. Davies, nid yw hynny'n bosibl. Ac fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, byddai'n rhaid i'r BBC dynnu'n ôl fel darlledwr ar gyfer y digwyddiad. Yn anffodus, mae Plaid Cymru yn defnyddio'r ddadl hon i wthio eu rhaniad ymwahanol arferol rhwng yr hyn y maent hwy yn ei feddwl a'r hyn y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei deimlo mewn gwirionedd.
A fyddech chi'n fodlon derbyn ymyriad?
Yn bendant.
Ni wneuthum eich clywed yn galw tîm pêl-droed Cymru yn 'ymwahanol'.
Wel, mae gennym ddadl wych i ddod nesaf—rwy'n siŵr y gwnewch chi aros amdani—ar bêl-droed yng Nghymru. Ond efallai mai awgrym unllygeidiog Plaid Cymru yw un o'r awgrymiadau gwaethaf—Conchita Wurst—a glywais yn y Siambr. Na, ni weithiodd y jôc. O'r gorau. [Chwerthin.]
Roeddwn am orffen drwy ddweud imi weld ychydig o nonsens ar y cyfryngau cymdeithasol yn gynharach heddiw yn gofyn pam ein bod yn defnyddio amser heddiw i drafod y syniad hwn, y dylem fod yn sôn am faterion mwy sy'n wynebu Cymru, a bod ei drafod yn wastraff amser. Ac am yr holl resymau a glywsom heddiw o bob rhan o'r Siambr, boed yn effaith economaidd enfawr, yn gyfle digyffelyb i ddod â phobl i mewn i stadia yng Nghymru, i dynnu sylw at ein gwlad, neu hyd yn oed er mwyn tyfu ein hunaniaeth genedlaethol a phwy ydym ni fel pobl, nid yw sefydlu consensws ar draws y Senedd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd i ddod â digwyddiad mawr fel Eurovision i Gymru yn wastraff ar amser neb. Felly, gofynnaf i bob Aelod o bob rhan o'r Siambr gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly byddwn ni yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd nawr yr amser i bleidleisio. Mi fyddwn ni'n cymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y bleidlais.