Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? OQ58305

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:02, 5 Gorffennaf 2022

Diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Yr wythnos diwethaf, cafodd pecyn cymorth gwerth £48 miliwn arall ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Cymorth yw hwn i gefnogi'r broses o adfer gwasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru, ac ardaloedd eraill, yn dilyn y pandemig. Bydd mesurau i ddiwygio'r diwydiant a dad-wneud y niwed o ddadreoleiddio yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 2:03, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae darparu trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy, gyfleus a dibynadwy yn hanfodol, wrth gwrs, os ydym ni am wella mynediad i addysg, cyflogaeth, gwasanaethau cyhoeddus a hamdden, a chreu'r gymdeithas fwy llewyrchus, wyrddach a mwy cyfartal yr ydym ni i gyd yn dymuno ei gweld, yn enwedig o gofio nad oes gan 20 y cant o aelwydydd yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru, gar, sy'n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru o 13 y cant, ac mewn rhannau o fy rhanbarth i fel cymoedd Afan neu Abertawe, gall y ffigur hwn fod hyd yn oed yn uwch. Felly, byddai rhywun yn disgwyl y byddai cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer metro bae Abertawe yn datblygu'n gyflym i wella'r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus eithriadol o wael yn y cymunedau hyn yn y Cymoedd gorllewinol. Ond, nid yw hyn yn wir o gwbl, ac mae bylchau sylweddol yn y mapiau a amlinellwyd yn niweddariad diwethaf y Llywodraeth ar gynlluniau'r metro. Rwy'n croesawu'n gyffredinol y cynlluniau ar gyfer y metro yn ogystal â rhai o'r mesurau a amlinellir yn y Papur Gwyn ar fysiau, ond mae'r rhain flynyddoedd i ffwrdd o gael eu cyflwyno, ac yn achos y metro, mae'n debyg, ni fydd yn arwain at well cysylltedd ar gyfer holl gymunedau'r Cymoedd gorllewinol. A yw'r Prif Weinidog yn addo, felly, i gynnwys ardaloedd fel cymoedd Afan ac Abertawe yng nghynlluniau metro'r Llywodraeth yn briodol a hwyluso'r cynlluniau hynny i sicrhau nad yw fy etholwyr yn cael eu gadael ar ôl? Diolch.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:04, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Sioned Williams am y cwestiynau yna. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn rhai o'r cymunedau yn ei rhanbarth, ond nid wyf yn credu ei bod yn cynnig disgrifiad teg inni o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan fetro bae Abertawe. Mae'r rhaglen eleni, er enghraifft, yn cynnwys astudiaethau achos busnes ac astudiaethau dichonoldeb i ddarparu pedwar trên ychwanegol yr awr rhwng Pontarddulais ac Abertawe, gan fynd drwy Gastell-nedd, a hyd at chwe gorsaf newydd ar draws maestrefi gogledd Abertawe. Bydd prosiect bws hydrogen bae Abertawe yn cael ei gaffael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Dyna gaffael rhwng 20 a 40 o fysiau celloedd tanwydd hydrogen i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth, a'r depo y bydd ei angen er mwyn eu gwasanaethu. Bydd trenau CAF newydd sbon yn rhedeg yn rhanbarth metro bae Abertawe erbyn diwedd eleni, ac mae'r gronfa drafnidiaeth leol, sy'n cyd-fynd â chynigion y metro, yn ariannu adfywiad canolfan drafnidiaeth Castell-nedd. Rydym ni i gyd yn dymuno y gallem wneud mwy; rydym ni i gyd yn dymuno y gallem fynd yn gyflymach. O fewn cyfyngiadau'r gyllideb sydd gennym ni, rwy'n credu bod yna gamau gweithredu gwirioneddol ac uniongyrchol y mae prosiect metro Bae Abertawe a gorllewin Cymru yn eu cymryd, a byddan nhw'n cyfrannu at y system drafnidiaeth integredig honno y gwyddom ei bod yn bwysig, yn ardal Abertawe ei hun ac yn ei chefnwlad hefyd.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:06, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rwyf wedi credu ers tro byd y gall sefydliadau fel colegau addysg bellach weithredu fel sefydliadau angori sy'n helpu i sbarduno gwelliant economaidd yn eu rhanbarthau. Mae cynlluniau campws newydd Coleg Penybont yn enghraifft o hyn, lle gellir defnyddio cyfleusterau hyfforddi newydd i gefnogi'r agenda economaidd ehangach. Fodd bynnag, er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i anghenion trafnidiaeth gyhoeddus y rhai a fydd yn defnyddio'r campws. Beth ydych chi yn ei wneud i sicrhau bod penderfyniadau strategol allweddol fel hyn yn cyd-fynd â'r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i wireddu'r manteision yr ydym i gyd eisiau eu gweld? Diolch.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:07, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r rheini'n bwyntiau pwysig y mae Altaf Hussain yn eu gwneud am natur angori'r sefydliadau mawr hynny. Mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles yn glir gyda'r awdurdodau lleol hynny ac agweddau eraill ar y system addysg bellach sy'n cymryd rhan yn ein rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain na fydd y cynigion hynny'n cael eu cymeradwyo yn y dyfodol oni bai bod cynllun teithio llesol i gyd-fynd â'r cynigion ar gyfer adeiladau ffisegol. Rwy'n credu fy hun, yn rhy aml yn y gorffennol, y bu rhai o'r datblygiadau hynny—cyfleusterau gwych ynddyn nhw eu hunain, cyfleusterau gwych ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ond heb yr agweddau ychwanegol hynny'n cael eu cynllunio yn y ffordd sylfaenol honno. Os ydyn nhw'n mynd i lwyddo yn y dyfodol o ran eu natur angori, yna mae'n rhaid i'r trefniadau trafnidiaeth hynny yn ôl ac ymlaen i'r datblygiadau fod yn rhan o'r cynigion o'r cychwyn cyntaf, nid pethau a gaiff eu hystyried ar ôl i'r safle gael ei nodi a'r adeilad wedi'i greu.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:08, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod y pandemig wedi galluogi ein system trafnidiaeth gyhoeddus i ddod drwodd, er ei bod wedi'i tharo gan ddigwyddiadau, ond mae'n barod i symud ymlaen i'r cam nesaf, a fydd yn cynnwys gwelliannau ac estyniadau i wasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys ar linell Maesteg, deddfu i ddychwelyd pŵer i'r bobl dros fysiau ac integreiddio'r dulliau hyn yn well gyda'i gilydd hefyd. Ond mae hyn i gyd, Prif Weinidog, yn cael ei wneud drwy weithio gyda phartneriaid allan yna, a chyn bwysiced ag unrhyw bartner, gweithio gyda'r gweithwyr eu hunain—y gweithwyr sy'n cadw'r olwynion yn troi ar y trenau a'r bysiau, yn cadw'r gorsafoedd ar waith a'r teithwyr yn symud ymlaen. Dyma yr ydym yn ei alw'n bartneriaeth gymdeithasol. Felly, Prif Weinidog, gan nodi bygythiadau diweddaraf bechgyn Bullingdon Llywodraeth y DU i danseilio ein dull partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, sut y bydd hyn yn effeithio ar ein hymdrechion i wella trafnidiaeth gyhoeddus pan fyddan nhw'n wynebu'r bygythiad hwn?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Atebais gwestiwn yn gynharach gan yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, a gyfeiriodd at y cynnydd presennol mewn achosion o'r coronafeirws yng Nghymru. Nid wyf yn credu ei bod yn cael ei chydnabod yn aml mai'r grŵp unigol o weithwyr yn y boblogaeth yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan coronafeirws oedd gweithwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Roeddech chi'n fwy tebygol o fynd yn sâl, ac yn wir yn fwy tebygol o gael canlyniadau mwy difrifol coronafeirws, fel gyrrwr bws nag unrhyw alwedigaeth arall. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ogwr—fod ein gallu i gadw'r gwasanaethau hynny i fynd yn ystod y pandemig yn dibynnu ar y berthynas waith agos rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyrff hynny sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, a bod hynny, yn ei dro, yn dibynnu'n drwm ar y trefniadau partneriaeth gymdeithasol hynny. Gwnaeth cyngor partneriaeth gymdeithasol Cymru gyfarfod bob pythefnos yn ystod y pandemig mewn cyfarfodydd â phwyslais gwirioneddol lle yr oeddem yn gallu gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion i rai o'r heriau sy'n ein hwynebu i gyd. Roedd ein cydweithwyr yn yr undebau llafur yn hanfodol i'r ymdrech honno. Roedden nhw'n gallu adrodd i'r cyfarfodydd hynny am brofiadau rheng flaen eu haelodau, ac yna caniatáu i lywodraethau—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, cyflogwyr hefyd—gymryd y camau angenrheidiol i ymateb i'r profiadau hynny.

Cynlluniwyd ein Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017, a basiwyd yma yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, i atgyfnerthu'r perthnasoedd gwaith cadarnhaol hynny. Y bobl a ddaeth i roi tystiolaeth yn y pwyllgor o blaid ein cynigion oedd cyflogwyr—pobl a ddaeth i egluro pam y mae cael perthynas sy'n gweithio'n iawn gydag undeb llafur yn eu galluogi i wneud y swyddi y mae angen iddyn nhw eu gwneud. Ni allaf ddychmygu y gall y Blaid Geidwadol gyfeirio at un enghraifft lle mae'r ddeddfwriaeth honno wedi creu anawsterau yn hytrach nag atebion i ni yma yng Nghymru. Dyna pam y mae mor siomedig eu gweld nhw, yn y ffordd filain ideolegol honno, yn ceisio gwrthdroi'r penderfyniadau a wnaethpwyd yma ar lawr y Senedd hon o fewn y pwerau sydd gan y Senedd hon i weithredu. Byddwn yn parhau i amddiffyn ein safbwynt mewn cysylltiad â phartneriaeth gymdeithasol, ac edrychaf ymlaen at weld ein partneriaeth gymdeithasol a'n Bil caffael cyhoeddus ar eu hynt drwy'r Senedd, er mwyn atgyfnerthu ymhellach ein gallu i wneud y swyddi anodd hynny a chefnogi'r bobl hynny sy'n eu cyflawni nhw ar ein rhan ni yn union fel y mae Huw Irranca-Davies wedi awgrymu.