– Senedd Cymru am 4:49 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg—cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac ar ôl sawl blwyddyn o baratoi, rydyn ni ar fin gwneud newid aruthrol ym myd addysg wrth i ddisgyblion ddechrau dysgu o dan ein cwricwlwm newydd i Gymru. Mae e wedi cael ei greu ar gyfer Cymru drwy weithio ochr yn ochr gyda'r proffesiwn yng Nghymru, a bydd e'n dechrau ei addysgu o'r tymor nesaf. Bydd pob ysgol gynradd a bron i hanner ein hysgolion uwchradd yn cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi, sydd yn golygu bydd 95 y cant o'n hysgolion yn cymryd y cam nesaf ar daith y cwricwlwm. Bydd gweddill ein hysgolion yn ymuno gyda'r daith ym mis Medi y flwyddyn nesaf, ac mae llawer wrthi'n treialu'n dulliau gweithio newydd yn y cyfamser. Erbyn Medi y flwyddyn nesaf, bydd pob dysgwr sydd ym mlwyddyn 8 ac sy'n iau yn cael ei addysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru.
Mae wedi bod yn flwyddyn heriol, Dirprwy Lywydd. Dwi'n parhau i fod yn ddiolchgar dros ben i'n hysgolion, ein lleoliadau a'n staff addysgu am eu hymroddiad a'u ffocws di-baid ar wella canlyniadau eu dysgwyr. Does yr un lle lle mai hyn yn fwy amlwg nag wrth edrych ar y Cwricwlwm i Gymru. Er bod y pandemig wedi effeithio ar y paratoadau, mae yna ymrwymiad cryf o hyd i'r gwaith diwygio ledled y sector, yn ogystal ag awydd i gynnal y momentwm. Mae pob rheswm i fod yn bositif am y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma, gan gydnabod ar yr un pryd, wrth gwrs, fod mwy i'w wneud dros y cyfnod sydd i ddod.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn herio pob ysgol a lleoliad i godi lefel ei uchelgais ar gyfer pob dysgwr yn eu cwricwlwm penodol nhw. Mae ysgolion a lleoliadau'n gweithio'n ofalus i wneud yn siŵr bod eu hegwyddorion ar gyfer cynllunio'u cwricwlwm a'u trefniadau asesu yn cyflawni anghenion pob dysgwr yn eu lleoliad. Codi lefel cyrhaeddiad pob dysgwr yw ein ffocws erioed, yn enwedig ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, er mwyn sicrhau eu bod nhw hefyd yn cyflawni eu potensial, a dyna fydd y ffocws i'r dyfodol hefyd.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais yr adroddiad blynyddol cyntaf ar y Cwricwlwm i Gymru, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, gan nodi'r darlun cyffredinol o'r sefyllfa bresennol o ran cyflwyno diwygiadau, ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o'i gyflwyno, ac edrych ymlaen at y camau nesaf ar gyfer diwygio. Mae'r adroddiad yn gwneud canfyddiadau pwysig ynglŷn â'n sefyllfa ar hyn o bryd, gan gynnwys bod lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir yn mynd rhagddynt yn dda ac wedi gwneud cynnydd arbennig o dda ers troad y flwyddyn. Dros y misoedd diwethaf, mae ysgolion yn gwneud cynnydd cyflymach tuag at gynllunio eu cwricwlwm, mae bron pob ysgol a lleoliad yn nodi eu ffactorau unigryw eu hunain a sut mae'r rhain yn cyfrannu at y pedwar diben ac yn datblygu dealltwriaeth o ystyriaethau dylunio'r cwricwlwm, gan gynnwys elfennau gorfodol a pholisi ieithyddol ysgol mewn perthynas â'r Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion a lleoliadau yn ystyried rôl dilyniant, asesu ac addysgeg yn eu cwricwlwm a'u cyd-destun lleol, ac yn dylunio, cynllunio a threialu eu model cwricwlwm arfaethedig, gan werthuso dyluniadau cychwynnol a datblygu cynlluniau tymor canolig. Yn galonogol, mae mwy o ysgolion yn hapus i drafod dulliau treialu ac yna eu mireinio os nad ydyn nhw'n gweithio, ac mae bron i hanner yr ysgolion uwchradd, fel y dywedais i, yn ogystal â nifer o ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, yn mabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer eu dysgwyr blwyddyn 7 ym mis Medi—flwyddyn yn gynharach na'r gofyn. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu ein camau fel Llywodraeth i helpu i baratoi ysgolion i'w gyflwyno, i atgyfnerthu eu hymdrechion wrth iddyn nhw ddechrau rhoi’r cwricwlwm ar waith a'u galluogi i wella eu cwricwlwm yn barhaus.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi'r pecyn diweddaraf o ddeunyddiau ategol ar gynllunio'r cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr i gefnogi'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm ac i feithrin cysylltiadau clir â chynlluniau ysgolion ar gyfer gwella ysgolion. Bydd y deunyddiau hyn yn parhau i esblygu yn unol ag anghenion ysgolion. Cyn diwedd y tymor, byddwn yn cyhoeddi gweithdai datblygu Asesu ar gyfer y Dyfodol, gan roi adnodd parhaus i ysgolion ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae dysgwyr yn symud ymlaen a sut i asesu'r cynnydd hwnnw.
Y mis hwn, rydym ni hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer datblygwyr adnoddau a deunyddiau ategol. Mae hyn wedi'i gyd-lunio gydag ysgolion a bydd yn rhoi arweiniad clir i ddatblygwyr ar yr hyn sydd ei angen ar ysgolion a sut i sicrhau bod adnoddau'n gyson â Chwricwlwm Cymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gall y system gyfan gydlynu ei hymdrechion i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm.
Bydd y rhwydwaith cenedlaethol yn parhau i sicrhau bod ysgolion a lleoliadau'n cael cyfleoedd i rannu eu profiadau o gyflwyno'r system, gan eu rhoi wrth wraidd ein hymdrechion parhaus i ddatblygu cefnogaeth bellach i'r system. Bydd y rhwydwaith hefyd yn cyflawni Camau i'r Dyfodol, a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth rannu arfer ac arbenigedd ar ddilyniant, sy'n allweddol i godi safonau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymrwymo a buddsoddi eu hamser yn y sgyrsiau rhwydwaith cenedlaethol, gan helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ac arferion ysgolion. Mae'r amser a fuddsoddwyd gan weithwyr proffesiynol yn y rhwydwaith eisoes wedi cael effaith bwysig, diriaethol, gan lunio canllawiau a deunyddiau ategol yn uniongyrchol ar gyfer ysgolion, cyfrannu at Camau i'r Dyfodol ac Asesu ar gyfer y Dyfodol a llywio dysgu proffesiynol i gefnogi hanes Cymru, er enghraifft. Mae'r sgyrsiau hyn yn gymuned, a thrwy barhau i weithio ar y cyd, rydym ni’n sicrhau ein bod ni’n darparu'r cymorth sydd ei angen ar ysgolion a lleoliadau.
Wrth edrych ymlaen, mae llawer i'w wneud o hyd i sicrhau lles ein dysgwyr a'u dilyniant i'w llawn botensial, ond rydym ni’n gadarn ar y trywydd iawn. Wrth i ysgolion a lleoliadau ddechrau rhoi'r cwricwlwm ar waith, byddwn yn dysgu gwersi newydd ar sut i wella'r arfer mewn ysgolion a'r cymorth y mae ganddyn nhw fynediad iddo. Bydd y broses o ymgorffori ein cwricwlwm newydd a'i wella'n barhaus mewn ysgolion a lleoliadau yn dechrau o ddifrif o fis Medi ymlaen. Rhaid i ni sicrhau bod ein cwricwlwm trawsnewidiol yn cyflawni ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i'n cynnig dysgu proffesiynol fod yn hygyrch i bawb. Yr wythnos diwethaf, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y ffordd yr ydym ni’n gweithio i gwblhau ein hawl genedlaethol i ddysgu proffesiynol, y bydd arweinwyr ysgolion, athrawon a chynorthwywyr addysgu i gyd yn elwa ohoni—cynnig gwirioneddol genedlaethol, ac un a fydd yn llawer haws ei lywio.
Dirprwy Lywydd, mae'r cwricwlwm newydd yn symud i ffwrdd oddi wrth gael pynciau cul yn unig i gael chwe maes dysgu a phrofiad ehangach. Bydd y dysgu'n seiliedig ar ddiben; drwy'r pedwar diben, rydym ni’n cyfleu'r math o ddinasyddion mae Cymru eu heisiau a'u hangen. Bydd yn helpu i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd uwch, gan gefnogi dysgwyr i ddod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog ac i esblygu i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol.
Gallwn fod yn falch bod y cwricwlwm yn cynrychioli'r gorau o ymdrechion ein proffesiwn addysg. Yn hytrach na bod yn ddiwedd y daith ddiwygio, mae mis Medi yn garreg filltir bwysig. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i weithredu a chefnogi'r proffesiwn fel y gall pob dysgwr, beth bynnag fo'i gefndir, elwa o gwricwlwm eang a chytbwys o wybodaeth, sgiliau a phrofiad a fydd yn cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb.
Gweinidog, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i chi am eich datganiad heddiw. Rydym ni i gyd eisiau i'r cwricwlwm newydd, wrth gwrs, weithio. Rwyf i hefyd eisiau nodi ar y cofnod, os caf fi, Dirprwy Lywydd, ein diolch i staff ysgolion am eu gwydnwch a'u gwaith caled ym mhopeth maen nhw’n ei wneud, ond yn enwedig yn eu hymdrechion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Gweinidog, dim ond bron i hanner ein hysgolion uwchradd sy'n rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith ym mis Medi i'r llinell amser wreiddiol. Ac rwy'n dal i glywed nad yw llawer o ysgolion yn teimlo eu bod wedi cael yr amser a'r gefnogaeth ddigonol sydd eu hangen hefyd i deimlo'n ddigon parod i gyflwyno'r cwricwlwm newydd, fel y gallai rhai fod wedi dymuno, ym mis Medi. Waeth beth fo rhai o'r nodau yr ydych chi wedi'u hamlinellu yn eich datganiad, mae'n amlwg na chafwyd digon o gefnogaeth broffesiynol hyd yma i athrawon, ac yn ei dro eu gwaith nhw yw troi gweledigaeth y cwricwlwm yn realiti. Gweinidog, mae hwn yn newid seismig i addysg yng Nghymru, ac, er mwyn bod yn llwyddiannus, mae angen iddo fod ar y cyd â'n hathrawon, ac mae angen i'r gwaith paratoi adlewyrchu eu hanghenion gwahanol.
Rhaid i holl ddogfennau a chanllawiau'r cwricwlwm fod yn hawdd eu deall a bod yn hygyrch i'r bobl maen nhw wedi'u cynllunio i'w cefnogi. Mae gormod o'r hyn yr wyf i wedi'i ddarllen mewn perthynas â'r cwricwlwm wedi bod yn ddryslyd, yn gymhleth ac yn aml yn anghyson. Hefyd, mae'n amlwg ein bod ni wedi gadael i ormod o athrawon fynd ar eu pennau eu hunain ar ddiwygio'r cwricwlwm, ac, y tu allan i'r model arloesi, gadael i’r proffesiwn suddo neu nofio ar sail yr hyn maen nhw wedi llwyddo i'w ddeall. Mae rhai o'r pethau yr ydych chi wedi'u hamlinellu yn y datganiad yn mynd beth o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â hyn, ond a yw cefnogaeth ohiriedig yn rhywbeth yr ydych chi wedi'i ystyried, Gweinidog, ar gyfer dysgu proffesiynol, sydd ar gael i athrawon wrth iddyn nhw symud ymlaen at gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llawn, fel cyflwyno'n raddol, gyda chymorth penodol ar gyfer pob cam mae athro'n ei gyrraedd wrth iddyn nhw dyfu mewn hyder a gwybodaeth wrth wneud pethau mewn ffordd newydd? Rydw i’n meddwl yn benodol am athrawon oedd yn arfer bod yn rhan o'r hen gwricwlwm—neu'r cwricwlwm presennol, mae'n ddrwg gen i—ar ôl cael eu haddysgu gan ddefnyddio'r cwricwlwm hwnnw a'i addysgu am gynifer o flynyddoedd, ond, yn amlwg, byddai'n berthnasol i bob athro wrth symud ymlaen.
Hefyd, drwy ddatganoli llawer iawn o gyfrifoldeb am ddysgu proffesiynol i gonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi agor y drws i lu o atebion gwahanol i’r un problemau. Ac, er ein bod ni’n croesawu'r hyblygrwydd, wrth gwrs, yn y cwricwlwm newydd, er mwyn i'r broses o'i gyflwyno fod yn llwyddiannus, rhaid i ni sicrhau lefel o gysondeb ledled Cymru. Mae'r rhwydwaith cenedlaethol wedi bod yn ffordd dda o rannu arfer gorau, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad, ond oherwydd lefel yr hyblygrwydd, Gweinidog, a'r ffaith eich bod chi wedi datganoli penderfyniadau i ysgolion, awdurdodau addysg lleol a chonsortia, sut y byddwch chi’n sicrhau bod safon debyg, lefel o addysg o ansawdd uchel yn cael ei darparu yn yr un modd ledled Cymru?
Nid yw'n glir o hyd chwaith sut rydych chi'n mynd i fesur llwyddiant o'r dechrau, o'r cychwyn cyntaf, ym mis Medi. Bydd angen i ni wybod sut fydd y baromedr ar gyfer mesur methiant neu lwyddiant y cwricwlwm newydd yn edrych, os gwelwch yn dda. Hefyd, os mai dim ond hanner yr ysgolion uwchradd sy'n rhoi’r cwricwlwm ar waith ym mis Medi, sut y gellir cymharu ac asesu ysgolion nad ydyn nhw'n ei weithredu ochr yn ochr â nhw? A beth os bydd myfyriwr yn symud o ysgol sy’n defnyddio'r cwricwlwm newydd i un nad yw'n gwneud hynny ac i'r gwrthwyneb? Ydym ni wedi ymchwilio i hynny? Hefyd, mae angen i ni wybod sut rydym ni’n mynd i asesu, mesur a chefnogi myfyrwyr o dan y cwricwlwm newydd sy'n mynd i fod naill ai'n fwy abl neu'n ddysgwyr sy'n cael trafferth sydd angen cymorth ychwanegol, gan nad ydym ni am i'r myfyrwyr hyn fynd ar goll yn yr heriau o gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Rwy’n gweld yn eich datganiad eich bod am gyhoeddi gweithdai Asesu ar gyfer y Dyfodol, gan roi rhywfaint o arweiniad i ysgolion ynghylch sut maen nhw’n mynd i asesu cynnydd. Ond, Gweinidog, a allwch chi roi ateb i rieni, athrawon a ninnau yn y Senedd heddiw ynghylch sut y byddwch chi’n mesur, yn monitro ac yn cymharu'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd wrth i ni fynd ymlaen, ac a allech chi addo i'r Senedd hon heddiw y cawn ni ddiweddariadau rheolaidd ar y cynnydd a wnaed? Diolch.
Diolch i'r Aelod a diolch iddi am y croeso a roddodd i'r datganiad, ac rwy’n nodi’r brwdfrydedd sydd ganddi dros y cwricwlwm, er gwaethaf yr heriau mae'n eu gosod i mi. Felly, rydw i’n croesawu'r ymrwymiad hwnnw i'r cwricwlwm newydd, y mae'n amlwg sydd ganddi.
O ran y pwyntiau mae hi wedi’u codi, maen nhw’n perthyn i nifer o gategorïau: roedd un yn ymwneud â'r ffaith bod dysgu proffesiynol ar gael. Rydym ni’n gwario symiau sylweddol o arian fel Llywodraeth wrth gomisiynu ac ariannu'r gwaith o gomisiynu dysgu proffesiynol, ac mae corff sylweddol iawn o adnoddau a deunydd a hyfforddiant ar gael i athrawon, ar bob lefel o'u taith, fel yr oedd yn ei ddisgrifio yn ei chwestiwn. Bydd yn gwybod bod dau o'r mesurau a gyhoeddais yn gynharach eleni, mewn gwirionedd, yn mynd at wraidd yr heriau mae'n eu gosod yn ei chwestiynau. Mae'r cyntaf yn ymwneud â sicrhau bod athro mewn unrhyw ran o Gymru yn gallu gwneud y defnydd gorau o adnoddau sy'n cael eu creu mewn unrhyw rannau eraill o Gymru, drwy wasanaethau gwella ysgolion, boed hynny mewn consortia neu mewn gwasanaethau awdurdodau lleol eu hunain. Ac felly, o ddechrau'r tymor nesaf, bydd yna drefniant mynediad cyffredin, fel nad yw, fel petai, yn bwysig ym mha ardal gonsortiwm rydych chi’n ymarfer, bydd gennych chi fynediad i'r cynnig cenedlaethol hwnnw o ddysgu proffesiynol.
Ac mae'r ail ffordd yr ydym ni’n ei ddefnyddio eisoes i fynd i'r afael â'r pwynt a godwyd gan yr Aelod yn ei chwestiynau yn ymwneud â'r hawl a gaiff ei lansio, eto ar ddechrau'r tymor nesaf, a bydd hynny'n egluro i athrawon, ar wahanol adegau o'u taith broffesiynol, beth yw eu hawl i ddysgu proffesiynol a ble i ddod o hyd iddo. Ac ochr yn ochr â'r darn hwnnw o waith, mae prosiect eisoes ar y gweill—mae wedi bod ar y gweill ers peth amser—i wella'r llywiadwyedd, y gallu i chwilio, y gallu i ddarganfod dysgu proffesiynol ar Hwb, lle mae'r rhan fwyaf o athrawon ar hyn o bryd yn gallu cael gafael ar y deunyddiau rydym ni’n eu comisiynu ac mae’r consortia'n comisiynu hefyd. Ac, fe wyddoch chi, bydd hi'n gwybod mai ethos dysgu proffesiynol yng Nghymru yw bod honno'n daith y mae pob ymarferydd unigol arni, ond ein tasg ni fel Llywodraeth, y mae'r hawl yn mynd i'r afael â hi, yw darparu pensaernïaeth hynny, fel y gellir ei wneud mor syml â phosibl ac mor hygyrch â phosibl i ymarferwyr unigol.
Cododd nifer o gwestiynau ynghylch y cydbwysedd rhwng fframwaith cenedlaethol a gwneud penderfyniadau lleol, ac rwy’n credu bod hynny wedi bod yn rhan o'r ddadl am y cwricwlwm o'r cychwyn cyntaf. Mae hwn yn gwricwlwm sydd â lefel uchel o ddatganoli, os mynnwch chi, i ysgolion. Ar un ystyr, rydym ni’n rhyddhau ysgolion i allu rhoi eu taith ddysgu unigol i ddysgwyr, a dyna'r cyffro sydd wrth wraidd y cwricwlwm, ond mae hefyd yn cynnwys, yn amlwg, set gyffredin o ddibenion, set gyffredin o ddisgwyliadau. Mae'r gofynion trawsgwricwlaidd yr un fath ym mhob rhan o Gymru, a bydd y cymedroli, y gwaith clwstwr a'r cysylltiad rhwng ysgolion mewn rhwydwaith yn mynd i'r safoni hwnnw o safon gyson ar draws y system, ond gan ganiatáu'r creadigrwydd lleol hwnnw a ffynnu a'r cysylltiad rhwng ysgolion a'u cymunedau.
Gofynnodd am y gwerthusiad a beth yw'r mesurau ar gyfer llwyddiant, a bydd wedi gweld, rwy'n siŵr, y cyhoeddiad diweddar a oedd yn rhoi cyngor i ni fel Llywodraeth ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod gennym ni’r arfau, os mynnwch chi, i werthuso dros y tymor hir. Mae hwn yn newid hirdymor i'n systemau, onid yw, fel y byddai hi’n cydnabod? Felly, yn nhymor yr hydref, byddaf yn dweud llawer mwy am yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yn y maes hwnnw, mae rhywfaint ohono'n ymwneud â chomisiynu data newydd, ond mae rhywfaint ohono hefyd yn ymwneud â sicrhau bod gennym ni’r capasiti ymchwil a'r prosiectau ymchwil parhaus i allu eu gwerthuso mewn amser real. Y peth gwych am y cwricwlwm yw ei allu i esblygu ac ymateb i'r hyn y byddwn ni’n ei ddysgu drwy'r broses honno, ond hefyd drwy waith y rhwydwaith cenedlaethol, sydd eisoes yn cael effaith wirioneddol iawn ar esblygiad y cwricwlwm. Mae gan Estyn hefyd rôl bwysig fel yr arolygiaeth ysgolion wrth asesu gallu ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm, datblygu eu cwricwlwm, ond hefyd eu gallu i hunanwella, y bydd yn gwybod o ddatganiad yr wythnos diwethaf ei fod yn rhan hanfodol o'n llwyddiant.
Rwyf i’n croesawu'r her, ond rwyf i’n croesawu'r ymrwymiad sylfaenol i'r cwricwlwm y mae ei chwestiynau hi'n amlwg yn ei ddatgelu.
Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am y datganiad heddiw. Fel y gwyddoch chi, rydym ni’n llawn cyffro ond yn gefnogol i gwricwlwm newydd ac, fel yr amlygwyd gan bumed adroddiad pwyllgor y Senedd, gyda Lynne Neagle yn Gadeirydd, mae'n gyfle mawr iddo fod y newid mwyaf ers dechrau datganoli o ran ein system addysg, ac mae llawer i'w groesawu.
Rwy’n credu bod rhai o'r pryderon wedi'u trafod yn helaeth. Rydym ni wedi cael y ddadl hon dros y flwyddyn ddiwethaf o ran y pryderon a godwyd gan undebau'r athrawon ynghylch gallu'r gweithlu i gyflawni. Hoffwn adeiladu ar bwynt Laura Anne Jones o ran y cysondeb hwnnw ledled Cymru, oherwydd, fel y dywedodd Lynne Neagle hefyd fel Cadeirydd, rydym ni’n cydnabod na fydd y cwricwlwm newydd yn unffurf ar draws pob ysgol, ond rhaid iddo fod yn gyson.
Rwy’n cydnabod bod rhai pethau yr ydych chi wedi'u pwysleisio yn eich ymateb yn y fan yna, ond un o'r pethau mae undebau athrawon ac yn y blaen wedi dweud wrthym ni amdano, a gan athrawon, yw'r pryder ar hyn o bryd ynghylch presenoldeb yn yr ysgol, yr ydym ni hefyd wedi'i grybwyll, ac, felly, y ffaith y bydd y rheini yn yr ysgol, ie, yn elwa o'r cwricwlwm newydd, ond mae heriau enfawr ar hyn o bryd o ran presenoldeb, ar ôl COVID, am amrywiaeth eang o resymau. Sut ydym ni'n sicrhau y bydd y rhai mwyaf difreintiedig a'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd yn dal i gael y budd hwnnw os nad ydyn nhw hyd yn oed yn gallu cyrraedd yr ysgol? Roeddwn i’n bryderus iawn yr wythnos diwethaf, yn ymateb y Prif Weinidog i fy nghwestiwn am gost cludiant i'r ysgol, i gael yr ymateb, 'Wel, rydym ni’n blaenoriaethu prydau ysgol am ddim.' Ond, i mi, siawns bod angen i ni edrych hefyd ar sicrhau bod disgyblion yn yr ysgol, fel y gallan nhw fanteisio ar brydau ysgol am ddim, ond hefyd i allu elwa o'r cwricwlwm newydd. Felly, sut mae hyn yn cael ei glymu i'r pryderon gwirioneddol ar hyn o bryd am bresenoldeb mewn ysgolion a rhai o'r heriau yn hyn o beth, fel ein bod ni’n sicrhau nad oes yr annhegwch hwnnw o ran mynediad i'r cwricwlwm newydd?
Hoffwn ategu eich sylwadau o ran pa mor heriol y bu i staff a nodi ein diolch hefyd i'r holl staff sy'n croesawu hyn ac sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn gweithio. Roeddwn i’n falch iawn, hefyd, i chi bwysleisio nad dyma ddiwedd y broses, ei bod yn garreg filltir, a hefyd yr ymrwymiad hwnnw y bydd pethau'n esblygu ac yn ymateb. Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth mae angen i ni ei groesawu, ac, yn sicr, fel gwrthblaid, ie, ein rôl ni yw herio, ond rwyf i hefyd yn croesawu dysgu wrth i ni fynd ymlaen, a gobeithio y cawn ni’r gonestrwydd hwnnw wrth i bethau symud ymlaen o ran yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio, fel y gallwn ni weld rhai o'r lleoedd sydd angen rhagor o fuddsoddiad, neu os ydym ni’n gweld nad yw cymunedau difreintiedig yn gallu manteisio'n llawn ar y cwricwlwm, neu os ydym ni’n gweld bod rhai disgyblion yn colli allan, y gallwn ni gael yr adolygiad rheolaidd hwnnw a gallu addasu yn unol â hynny.
Yn yr un modd, un o'r pethau sydd wedi'i bwysleisio yw'r sefyllfa ariannol ansicr sy'n wynebu ysgolion, yn enwedig yng ngoleuni rhai o'r meysydd sy'n derbyn buddsoddiad nawr. Felly, o ran y pryder hwnnw ynghylch diffyg tryloywder ac anghysondebau o ran dosbarthu cyllid i ysgolion, yn enwedig o ran cyllidebau craidd ysgolion, ydy hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i chi o ran cyflwyno'r cwricwlwm newydd, neu a ydych chi’n hyderus bod y pryderon hynny wedi cael sylw fel y bydd pob ysgol sy'n gweithredu'r cwricwlwm newydd yn gallu gwneud hynny ac y bydd ganddi'r adnoddau i wneud hynny?
Felly, gobeithio y byddwch chi’n cymryd hwn fel ymateb cadarnhaol. Yn amlwg, rydym ni am weld pethau'n gweithio, ond rydym ni hefyd am sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu bod yn yr ysgol i fanteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan y cwricwlwm newydd, a hefyd ein bod yn parhau i gefnogi staff. Yn amlwg, fel rydyn ni’n ei weld nawr, mae COVID yn ffactor arall nad yw wedi diflannu; rydym ni’n gweld effeithiau eto ar ysgolion, a bydd yn parhau i effeithio ar athrawon a chynorthwywyr addysgu yn yr ysgol. Felly, sut rydym ni’n mynd i gefnogi'r gweithlu dros y misoedd nesaf, er mwyn iddyn nhw weld ein bod ni’n Llywodraeth ac yn wrthbleidiau cefnogol, gan y bydd hyn yn cymryd amser i ymsefydlu ac esblygu? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran y pwynt am ymateb y gweithlu addysgu i'r cwricwlwm, rwy’n credu ei bod yn un y byddai hi'n ei chydnabod yn un o gyffro ac ymrwymiad i egwyddorion y cwricwlwm newydd, a'r awydd, ynghyd â phob un ohonom ni yn y Siambr hon, i'w weld yn llwyddo, a dyna sydd wedi ysgogi gwaith caled aruthrol y proffesiwn dros flynyddoedd lawer i fod yn barod ar gyfer y cam nesaf cyffrous hwn ar y daith o fis Medi ymlaen, ac rwy’n gwybod y bydd hi hefyd yn croesawu hynny.
Rwy’n rhannu ei phryder ynglŷn â'r her presenoldeb, a ddisgrifiodd yn glir iawn yn ei chwestiwn. Mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod angen i ddisgyblion fod yn yr ysgol er mwyn elwa'n llawn o fanteision y cwricwlwm newydd, a dyna pam rydym ni’n blaenoriaethu ein hymateb i sicrhau bod disgyblion yn yr ysgol. Bydd yn gwybod am y buddsoddiad rydym ni wedi'i wneud mewn perthynas â swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, a chawsom drafodaeth ffrwythlon iawn yn y pwyllgor y diwrnod o'r blaen mewn perthynas â rhai o'r ymyriadau eraill rydym ni’n eu rhoi ar waith. Bydd hefyd yn gwybod, rwy’n credu, hyd yn oed i'r rhieni a'r gofalwyr hynny sydd wedi dewis addysgu eu plant gartref, ein bod yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod rhwydwaith Hwb ar gael iddyn nhw, fel bod ganddyn nhw gyfres o adnoddau, ac mae'n amlwg y bydd llawer ohonyn nhw wedi'u teilwra i ddulliau'r cwricwlwm newydd. Felly, byddwn bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o leihau'r gwahaniaethau hynny, ond mae cyfyngiad ymarferol ar hynny, a dyna pam rwyf i mor awyddus i sicrhau, efallai yn enwedig y rhai sydd wedi gwneud penderfyniad diweddar i aros gartref, o ganlyniad i bandemig COVID, ein bod yn annog y rhai sy'n dychwelyd i'r ysgol i fanteisio'n llawn ar y bennod newydd wych hon yn ein stori addysg yma yng Nghymru.
Gofynnodd gwestiwn pwysig am sut rydym ni’n defnyddio esblygiad y cwricwlwm fel ffordd o ddysgu ein hunain, a gallaf roi sicrwydd iddi y bydd yr adroddiad a gyhoeddais yr wythnos diwethaf am barodrwydd y cwricwlwm yn un o ddwsinau lawer o adroddiadau, gobeithio—un bob blwyddyn—a fydd yn rhoi cyfle ffurfiol i'r Senedd asesu ble'r ydym ni, ond rwy'n siŵr y bydd llawer o gyfleoedd rhwng yr adroddiadau hynny i mi roi cyfrif am gynnydd, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n gyflym ac yn barhaus.
Mae'r rhwydwaith cenedlaethol, rwy’n credu, o ran esblygiad y cwricwlwm, yn ddimensiwn pwysig iawn o'r dirwedd wrth symud ymlaen. Mae hynny eisoes, fel y dywedais i yn fy natganiad, wedi cael effaith wirioneddol bendant ar sut rydym ni wedi gweithio ar rai o'r adnoddau sydd ar gael i athrawon a rhai o'r dulliau gweithredu a'u datblygu, ac rwy’n credu na fydd hynny ond yn dwysáu. Mae gennym ni sesiwn ar y gweill yn ystod y misoedd nesaf ar lafaredd a darllen, a bydd cyfres o drafodaethau rhwydwaith a fydd yn nodwedd o'r system wrth symud ymlaen. Mae'n golygu bod ymarferwyr yn rhoi o'u hamser; rydym ni’n darparu cyllid i ysgolion i alluogi hynny i ddigwydd. Ond, mae'n bwysig iawn fy mod i’n gallu dangos gwerth rhoi'r amser yn barhaus, a byddaf yn chwilio am ffyrdd o wneud hynny oherwydd mae'n hanfodol i lwyddiant y rhan honno o'r system ei hun.
Fe wnaeth nifer o bwyntiau am ariannu. Hoffwn ei hatgoffa mai'r setliad llywodraeth leol eleni, sef sut y caiff ysgolion eu hariannu'n gyffredinol, yw'r setliad mwyaf helaeth ers blynyddoedd lawer. Yn amlwg, mae'r hinsawdd economaidd yn newid ac mae wedi newid ers hynny, ond dyna fan cychwyn ein trafodaeth ar ariannu ysgolion. Rwy’n credu ei bod yn gwneud pwynt am gysondeb, yn y bôn, ac, rwy'n credu, yn cyfeirio at waith Luke Sibieta—cymerais y goblygiad hwnnw o'i chwestiwn.
Bydd hefyd yn gwybod, rwy’n credu, o safbwynt parodrwydd y cwricwlwm, ein bod ni’n amlwg wedi darparu cyllid uniongyrchol i'r system gan Lywodraeth Cymru, ac rydym ni’n darparu £21 miliwn i ysgolion eleni ar gyfer paratoi'r cwricwlwm, yn ogystal, wrth gwrs, â'r miliynau lawer rydyn ni’n ei wario ar ddysgu proffesiynol, y mae athrawon yn cael cyfle i fanteisio ar hynny'n uniongyrchol iawn. Felly, gobeithio y bydd yr atebion hynny'n galonogol, ac rwy’n croesawu ei hymrwymiad a'i chefnogaeth i'r cwricwlwm.
Gweinidog, diolch am eich datganiad yma heddiw. Roedd hi'n bleser mawr dod gyda chi yr wythnos diwethaf ar ymweliad ag Ysgol Uwchradd Pontypridd yn fy etholaeth i arddangos y gwaith gwych mae'r ysgol wedi bod yn ei wneud ar y cyd â Menter Canser Moondance, i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn gan ddefnyddio dull amlbroffesiwn sy'n rhedeg drwy lawer o wahanol feysydd pwnc yn y cwricwlwm. Felly, Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi, wrth i'r cwricwlwm gael ei gyflwyno, fod gan fentrau fel hyn y potensial i achub llawer o fywydau yng Nghymru bob blwyddyn, ac, yn fwy na hynny, eu bod yn gwbl addas i natur drawsbynciol, eang a phwrpasol y cwricwlwm newydd, yr ydych chi wedi'i amlinellu mor glir yn eich datganiad yma heddiw?
Diolch i Vikki Howells am dynnu fy sylw at y gwaith gwych mae Ysgol Uwchradd Pontypridd yn ei arwain ar y cyd ag ysgolion eraill yn yr ardal a gyda chyfraniad Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r gymuned ehangach. Rwy'n gwybod y bydd gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, ddiddordeb mewn clywed mwy am y datblygiad hwn, sy'n enghraifft wych o weithio rhwng y system addysg a'r gwasanaeth iechyd yn y cyd-destun hwnnw, lle gall disgyblion ddysgu, yn y cyd-destun hwn am ganser y coluddyn, a bod y wybodaeth honno ar gael i rieni a'r gymuned yn gyffredinol hefyd drwy waith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roeddwn i fy hun yn meddwl bod manteision iechyd yn amlwg o'r dull hwn, sy'n eithaf clir, ymddengys i mi. Ond o safbwynt y cwricwlwm, mae cyfle cyffrous iawn, rwy'n meddwl, yma. Yr hyn y gwnaethom ni ei glywed yn y drafodaeth oedd bod yr ysgol yn cymryd mater a oedd yn arbennig i'r gymuned leol, lle'r oedd arwyddocâd arbennig, y byddai disgyblion a'u teuluoedd yn teimlo perthynas ag ef, a defnyddio hynny i ddysgu am wyddoniaeth ac am ymddygiadau, sydd, rwy'n credu, mewn ffordd, yn enghraifft o'r hyblygrwydd a'r arloesedd yn y cwricwlwm newydd yn llwyr. A, gaf fi ddweud, rydw i'n llongyfarch yr ysgol yn fawr iawn am ei harweinyddiaeth yn hyn o beth, a diolchaf i Vikki Howells am dynnu fy sylw ato.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Dwi am gyfeirio at baragraff 4 o'ch datganiad heddiw sy'n sôn am godi uchelgeisiau. Dwi'n cymryd bod hyn yn cynnwys sgiliau iaith Cymraeg hefyd, sydd i'w groesawu, ond mae'n rhaid i fi godi fy mhryder ynglŷn â'r sefyllfa yng nghyngor sir Pen-y-bont. Unwaith eto dwi'n ffeindio fy hun yn codi yn y Siambr hon i godi pryderon ynglŷn â sefyllfa addysg Gymraeg yn y sir. Am flynyddoedd, mae ymgyrchwyr wedi bod yn lobïo'r sir ar y pwynt yma a, dro ar ôl tro, maen nhw wedi wynebu gwrthwynebiadau diri. Mae yna fwriad i droi adeilad presennol Bro Ogwr i mewn i ysgol Saesneg. Mae yna hefyd fwriad i ymestyn ysgolion cynradd Pencoed a Choety—eto, ysgolion Saesneg. A, gyda llaw, dwi'n llywodraethwr yn ysgol gynradd Pencoed. Mae yna hefyd fwriad i agor trydedd ysgol gynradd ym Mhencoed, ond mae cynghorwyr yn y sir yn dweud wrtha i bydd yr ysgol honno yn Saesneg eto, a hynny pan fo yna blant ym Mhencoed yn colli mas ar addysg Gymraeg yn barod. Ar yr ochr addysg Gymraeg, rŷn ni'n dal yn aros am ddyddiad ar gyfer ysgol Gymraeg newydd ym Mhorthcawl. Dydy hynny ddim yn ddigon da. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno i ymchwilio i mewn i benderfyniadau swyddogion ac aelodau etholedig ym Mhen-y-bont sydd i'w gweld yn mynd yn erbyn eich gweledigaeth chi a'ch Llywodraeth?
Mae'r Aelod yn gwybod bod gyda fi ymroddiad llwyr i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad hafal at addysg Gymraeg a bod pob plentyn sydd eisiau addysg Gymraeg yn gallu cael hynny. Mae hynny'n gwbl glir, a does dim dwywaith am hynny. O ran materion penodol am y dewisiadau mae'r cyngor yn ei wneud o fewn y cwestiwn gwnaeth yr Aelod godi, bydd e'n gwybod mai at y cyngor mae angen iddo fe gyfeirio'r cwestiynau hynny. Ond, o fy safbwynt i fel Gweinidog, byddaf i'n sicr eisiau gweld cynnydd o ran cynllun strategol addysg Gymraeg pob sir yng Nghymru, yn cynnwys Pen-y-bont, a fy mwriad i yw cael sgyrsiau gydag arweinwyr pob cyngor i amlinellu fy nisgwyliadau i o'r hyn sydd yn digwydd. Byddaf i eisiau gweld cynnydd cynnar ym mhob un o'r ymrwymiadau uchelgeisiol hynny sydd yn digwydd ym Mhen-y-bont, fel ym mhob rhan arall o Gymru.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae'n wych clywed y bydd 95 y cant o ysgolion Cymru yn cymryd y cam nesaf ar eu taith yn y cwricwlwm. Mae'r byd wedi newid yn sylweddol dros gyfnod byr iawn, a bydd yn parhau i newid. Mae'n iawn ein bod ni'n parhau i drawsnewid addysg er mwyn cadw i fyny â'r newid hwn, mae symud i ffwrdd oddi wrth y pynciau cul a rhoi mwy o ymreolaeth yn newid mae athrawon Ysgol Nantgwyn, yr ymwelais â hi yn ddiweddar, yn ei groesawu'n galonnog. Ond mae pryderon gwirioneddol ynghylch absenoldeb disgyblion o ganlyniad i'r pandemig. Dim ond os yw plant yn ymgysylltu y bydd y cwricwlwm hwn yn cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, ac rwy'n credu bod gan dechnoleg rôl bwysig i'w chwarae yn hyn o beth. Felly, Gweinidog, pa waith sydd ar y gweill i fynd i'r afael â chyfraddau absenoldeb disgyblion, ac a ydych chi'n cytuno, er mwyn i'r cwricwlwm weithio i Gymru gyfan, ein bod ni angen seilwaith digidol sy'n addas i'r diben?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Bydd yn gwybod o fy atebion cynharach fod cryn dipyn o waith ar y gweill er mwyn annog disgyblion yn ôl i'r ysgol. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag ariannu swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, ond rydym ni hefyd yn edrych ar yr argymhellion a wnaethpwyd i ni fel Llywodraeth yn yr adroddiad diweddar rydym ni wedi'i gyhoeddi gan Meilyr Rowlands, ac mae rhywfaint ohono yn ein hannog i edrych eto ar y fframwaith rydym ni wedi'i ddefnyddio i arwain ysgolion yn y maes hwn ledled Cymru, y byddwn yn ymgymryd ag ef.
Ochr yn ochr â hynny, byddwn ni hefyd yn edrych ar ein canllawiau mewn perthynas â gwaharddiadau ac yn edrych ar ddull cyfannol o ymdrin â'r canllawiau rydym ni'n eu darparu i ysgolion. Mae pob ysgol yng Nghymru yn cydnabod pa mor bwysig yw'r mater hwn, ac rwy'n hyderus bod ysgolion yn cydnabod mai'r ffordd orau o wneud hynny yw ailadeiladu'r berthynas honno â rhieni a gofalwyr nad ydyn nhw'n teimlo eu bod yn gallu anfon eu plant i'r ysgol ar hyn o bryd, ac i'w hatgoffa o'r gwerth i'r teuluoedd hynny ac i'r plant o fod yn yr ysgol. Rwy'n credu mewn gwirionedd fod y cwricwlwm newydd yn gyfle gwych iawn er mwyn gwneud hynny hyd yn oed yn fwy llwyddiannus yn y dyfodol, a'r rheswm am hynny yw mai'r holl syniad sydd wrth wraidd y cwricwlwm yw dechrau taith y dysgwr o rywle sy'n gyfarwydd, a mynd â'r dysgwr hwnnw ar daith ddarganfod a all fod yn ddi-derfyn. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd gyffrous o ail-ymgysylltu dysgwyr â byd yr ysgol a gyda'u dysgu.
O ran technoleg, rwy'n cytuno â hi—mae hynny'n bwysig iawn. Bydd yn gwybod am y buddsoddiad gwerth £150 miliwn rydym ni wedi'i wneud er mwyn sicrhau bod technoleg ddigidol ar gael i bob plentyn yng Nghymru. Mae 50 o bobl yn mewngofnodi i rwydwaith Hwb, sef asgwrn cefn y cwricwlwm, bob eiliad erbyn hyn, sy'n enghraifft wych o lwyddiant, ac rydym ni am wneud mwy yn y gofod hwn. Unwaith eto, wrth wraidd y cwricwlwm mae sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn llythrennog yn ddigidol, ac mae hynny, yn fy marn i, yn gyfle cyffrous iawn i bob dysgwr yng Nghymru, ond hefyd i ni fel cenedl.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwyf i'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr heddiw, y brwdfrydedd ar draws y Siambr dros y cwricwlwm newydd, yr arloesi y tu ôl i'r meysydd dysgu, a'r gydnabyddiaeth onest bod newid yn golygu her yn ein hysgolion. Mae fy nghwestiwn yn syml iawn, mewn gwirionedd, yn eich datganiad, yn ymwneud â rôl y consortia rhanbarthol addysg o ran cefnogi rhagoriaeth o fewn ein gweithlu addysgu ac addysg proffesiynol, a'r angen gwirioneddol hwnnw i hyrwyddo'r uchelgais mae eraill wedi sôn amdano yn ein hysgolion drwy'r cwricwlwm newydd.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae gan y consortia a'r gwasanaethau gwella ysgolion rôl bwysig iawn yn y cwricwlwm newydd, fel y gŵyr o'r datganiad a wnes i'r wythnos diwethaf, gan gefnogi ysgolion ar eu taith wella, beth bynnag yw'r daith honno, darparu'r gwasanaeth hwnnw i ysgolion, y gwasanaeth hwnnw i gyrff llywodraethu gan eu bod yn atebol am daith eu hysgol. Mae hynny'n bwysig iawn. Ond hefyd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi'i gyffroi gan y pwynt a wnes i ar y cychwyn cyntaf, sef bod consortia, ledled Cymru, yn creu llawer iawn o ddeunydd a hyfforddiant adnoddau dysgu proffesiynol, ac o'r tymor nesaf, lle bynnag yr ydych chi yng Nghymru, lle bynnag yr ydych chi'n ymarfer fel athro, byddwch chi'n gallu cael gafael ar yr holl ddeunydd sydd ar gael yn unrhyw ran o Gymru, sydd, yn fy marn i, yn un o'r ffyrdd niferus yr ydym ni'n dangos bod hwn yn wir yn gwricwlwm i Gymru.
Diolch i'r Gweinidog.