4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion newydd ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy? TQ654
Roeddwn yn falch o gyhoeddi ein cynigion ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy heddiw. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn cytgord â'r amgylchedd. Edrychaf ymlaen at glywed barn ffermwyr a rhanddeiliaid ar y cynigion yn ail gam ein gwaith cydgynllunio.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n falch o weld faint o gynnydd y mae’r datganiad hwn wedi'i wneud ers ymgynghoriad cychwynnol 'Brexit a’n tir’ yn 2018, lle trafodwyd arian yn lle arian Ewrop am y tro cyntaf. Yn gyntaf, rwy'n siomedig, o ystyried y datganiad i’r wasg sy’n galw hwn yn gyhoeddiad pwysig—ac yn wir, mae'n bwysig, gan mai dyma’r cynllun a fydd ar waith yn lle cynllun y taliad sylfaenol a’r polisi cymorthdaliadau cyntaf a ddatblygwyd erioed yng Nghymru ar gyfer ffermwyr Cymru—datganiad ysgrifenedig yn unig a gyhoeddwyd y bore yma. Credaf y byddai datganiad llafar i’r Siambr hon wedi bod yn fwy priodol, o ystyried difrifoldeb y newidiadau sydd ar y gweill. Rwy’n sylweddoli bod gennym haf hir o sioeau amaethyddol o’n blaenau, lle byddwch chi, fi ac Aelodau eraill yn trafod y cynllun ffermio cynaliadwy yn fanwl gyda’r undebau a’r rhanddeiliaid, ond gwn y byddai'r Aelodau wedi gwerthfawrogi’r cyfle i’ch holi ar y cynllun hwn cyn y toriad. Felly, rwy’n ddiolchgar i’r Llywydd am dderbyn fy nghwestiwn amserol.
Gan symud ymlaen at y cynnwys, mae llawer i'w ganmol yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Fodd bynnag, mae rhai meysydd yr hoffwn ofyn am eglurhad pellach yn eu cylch. Rydych yn dweud na fydd penderfyniad ar sut y bydd y cynllun terfynol yn edrych yn cael ei wneud hyd nes y bydd ymgynghoriad pellach ar y
'cynigion manwl a'r dadansoddiad economaidd wedi'i gyflwyno yn 2023.'
Bydd hyn yn cynnwys modelu'r camau gweithredu yn y cynllun ac asesu sut y mae'r camau gweithredu yn helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Ymddengys bod y gwaith modelu hwn yn anwybyddu'r angen am ddiogeledd bwyd, ar adeg pan fo amodau byd-eang mor ansicr a bregus. Hoffwn eich annog i sicrhau bod unrhyw waith modelu a wneir cyn y flwyddyn nesaf yn ymgorffori diogeledd bwyd a chynyddu ein cynaliadwyedd hunangynhaliol o ran bwyd. Ar y gwaith modelu hwn, hoffwn bwysleisio bod yn rhaid cael dynodwyr allweddol i bennu effaith y cynllun nid yn unig ar ein cynhyrchiant bwyd cynaliadwy ond hefyd ar ein diwylliant, yr iaith Gymraeg a bywiogrwydd ein cymunedau gwledig. Nid mater amgylcheddol yn unig yw cynaliadwyedd, mae hefyd yn ddiwylliannol ac yn economaidd-gymdeithasol, a byddwn yn gobeithio gweld mwy yn y cynllun ffermio cynaliadwy i ddangos bod yr amcanion allweddol hyn wedi'u cynnwys.
Ceir pryderon ynghylch y cynlluniau i bob fferm sicrhau bod coed wedi'u plannu ar 10 y cant o’u fferm. Er bod y diwydiant yn cytuno bod angen gwelliannau a’i fod yn fodlon chwarae ei ran i gefnogi natur, mae’n hanfodol mai’r coed hyn yw’r coed iawn yn y lle iawn. Gallai polisi sy'n llawn bwriadau da gael effeithiau negyddol. O brofiad, gwn y bydd llawer o ffermydd eisoes yn agos iawn neu hyd yn oed yn uwch na'r gofyniad hwn o 10 y cant, ond mae gan eraill lefelau isel iawn o orchudd coed, oherwydd lleoliadau eu ffermydd. Er enghraifft, mae llawer o ffermydd ar arfordir gorllewin Cymru—
A gaf fi atgoffa’r Aelod mai cwestiwn amserol yw hwn, ac nid dadl o reidrwydd? Felly, os gwelwch yn dda, mae angen inni gael y cwestiynau, o'r gorau.
Iawn, wrth gwrs. Mae gennyf lawer o gwestiynau ar hyn, Ddirprwy Lywydd, felly—
Wel, amser cyfyngedig sydd gennych, fel y gwyddoch.
Wel, diolch yn fawr iawn. Ond o ran hyn, mae llawer o wahanol fathau o ffermydd yng Nghymru—sut y gall gorchudd cyffredinol o 10 y cant fod yn berthnasol i ffermydd ar arfordir Cymru, lle na all coed dyfu cystal ag ar ffermydd mewndirol? Rwy’n derbyn yr hyn y mae’r Dirprwy Lywydd wedi’i ddweud, felly rwyf am ddirwyn i ben yn y fan honno, ond hoffwn glywed mwy am y cynllun ffermio cynaliadwy, wrth symud ymlaen. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A chredaf ichi groesawu'n fras yr amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy a gyhoeddwyd gennym heddiw, ac rwy'n sicr wedi fy nghalonogi'n fawr gan ymateb llawer o'n rhanddeiliaid, ein hundebau ffermio ac unigolion. Ac fel y dywedwch, credaf ein bod yn sicr wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd mewn pedair blynedd, os edrychwch yn ôl at yr ymgynghoriad cyntaf, yn ôl yn 2018, ar 'Brexit a’n tir’. Ac mae hynny oherwydd y ddau ymgynghoriad a gawsom, y Papur Gwyn a gawsom, a cham cyntaf y gwaith cydgynllunio. Ac roeddwn yn awyddus iawn i gyhoeddi'r cynllun amlinellol hwn cyn sioeau'r haf—roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn ei gyhoeddi, fel y gallwn gael y trafodaethau pellach hynny, a hefyd i annog ffermwyr a rhanddeiliaid i ymrwymo i ail gam y gwaith cydgynllunio. Cawsom 2,000 o ffermwyr yn ein helpu ar y cam cyntaf y llynedd; hoffwn guro hynny. Rwyf wedi gosod y targed hwnnw, felly rwy'n awyddus iawn i bawb ymuno yn y sgwrs honno. Ac wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich safbwyntiau chi ar y cynllun.
Fe wnaethoch ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau. Credaf mai'r her fwyaf i ddiogeledd bwyd yw'r argyfyngau hinsawdd a natur. A dyna pam fod gennym yr un agenda hon, os mynnwch—ni allwch ddewis un peth; maent yn amcanion integredig a chyflenwol iawn, yn fy marn i, sy'n mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Ac yn amlwg, awn ymhellach pan fyddwn yn cyhoeddi’r Bil amaethyddol yma yn y Senedd yn yr hydref. Y prif beth yw bod y cynllun wedi’i gynllunio i gadw ffermwyr ar ein tir, ac rwy’n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwch am amcanion a chanlyniadau cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer ein ffermwyr.
Ar goed, mae gennym darged heriol iawn i greu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 i’n helpu i liniaru newid hinsawdd. Ac fe fyddwch yn ymwybodol o argymhellion Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU mewn perthynas â hynny. Ac yn amlwg, mae gan ffermwyr ran bwysig i’w chwarae yn ein helpu i gyflawni'r targed hwnnw. Rydych yn llygad eich lle, bydd gan lawer o ffermwyr 10 y cant o’u tir wedi'i orchuddio gan goed eisoes. Mewn fferm yr ymwelais â hi ddydd Llun i lansio’r cynllun, nid oes ganddo 10 y cant, ac roedd ganddo gwestiynau heriol iawn ynglŷn â sut y gallai gyrraedd 10 y cant. Bydd gan eraill 10 y cant, a gorchudd cynefin o 10 y cant hefyd. Ac mae hynny'n rhan o'r sgwrs, gwrando ar bryderon ffermwyr, ond hefyd sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y targedau hynny'n cael eu cyrraedd.
Gwn y bydd pobl yn siomedig nad yw'r lefelau ariannol yno. Fodd bynnag, rwy’n aros i weld y dadansoddiad economaidd. Ni allwn wneud unrhyw beth tan y cawn y dadansoddiad a'r gwaith modelu hwnnw, a chredaf fod hynny wedi'i dderbyn, mai dyna fydd y rhan nesaf cyn yr ymgynghoriad terfynol y flwyddyn nesaf. Felly, dim ond cam arall ar y ffordd yw hwn. Mae'n debyg ein bod ar y pedwerydd cam mawr ar y daith honno ar hyn o bryd.
Weinidog, mae’n braf iawn eich clywed yn dweud eich bod am gadw ffermwyr ar y tir, a chredaf mai dyna mae pawb ohonom am ei weld, a dyna roedd ein diwydiant ffermio am ei weld. Ym mharagraff 2.3.5, nodir:
'Dylai pob ffermwr gael manteisio ar y Cynllun.'
'Mae’n bwysig bod y Cynllun yn gweithio er lles ffermydd o bob math. Mae’r Cynllun wedi’i lunio fel y gall pob math o fferm fanteisio arno, gan gynnwys tenantiaid a’r rheini sydd â hawliau ar dir comin.'
Weinidog, mae llawer o ffermwyr tenant yn pryderu efallai mai o fudd i'r tirfeddiannwr yn unig y bydd gwaith da y maent yn mynd i’w wneud ar wella’r amgylchedd, neu o bosibl, y gallai tirfeddianwyr droi tenantiaid allan o’u ffermydd er mwyn elwa ar gyllid y cynllun eu hunain. Gofynnodd ffermwr ifanc o sir Frycheiniog i mi y diwrnod o’r blaen ynglŷn â gwrthbwyso carbon, ac roeddent yn awyddus iawn i wybod a fydd y gwrthbwyso carbon yn cyfrif i'r ffermwr actif sy’n gwneud y gwaith ar y fferm, neu a fydd yn cyfrif i'r tirfeddiannwr, er enghraifft yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Felly, Weinidog, pa amddiffyniadau a roddwch ar waith i warchod ffermwyr tenant a sicrhau bod cyllid y cynllun yn mynd i'r ffermwr actif, yn hytrach nag i uwchgwmnïau mawr nad ydynt yn gwneud unrhyw waith ffermio?
Credaf fod ffermwyr tenant wedi chwarae rhan enfawr yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y sefyllfa rydym ynddi yn awr, ac efallai eich bod yn ymwybodol y byddaf yn cynnull gweithgorau arbenigol i’n helpu i edrych ar sut y mae'r cynllun wedi'i gydgynllunio cyn yr ymgynghoriad terfynol. A thenantiaethau oedd y gweithgor cyntaf yr oeddem am ei sefydlu, gan y credaf fod ganddynt bryderon perthnasol a phenodol iawn. Ac os nad yw'n gweithio i ffermwyr tenant, ni fydd y cynllun yn gweithio i ffermwyr. Felly, rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn, yn enwedig wrth y Gymdeithas Ffermwyr Tenant, y cefais lawer o drafodaethau â hwy.
Holl bwynt y cynllun yw mai'r ffermwyr sy'n mynd ati'n weithredol i reoli'r tir a fydd yn cael eu gwobrwyo. Felly, bydd hynny’n rhan o’r drafodaeth wrth symud ymlaen. Fel y dywedais, rhaid i hyn weithio i bob math o ffermwr. Rhaid i hyn weithio i bob math o fferm hefyd. Felly, roeddwn mewn fferm ddefaid ddydd Llun, fel y dywedaf, i glywed pryderon Russell Edwards am y cynllun, ond roedd hefyd yn wirioneddol galonogol ei fod eisoes yn ticio llawer o'r blychau i gael y taliad sylfaenol hwnnw. Ond fel y dywedaf, dyma ddechrau’r cam nesaf; rwy'n siŵr y bydd newidiadau. Dyma pam nad yw’n ymgynghoriad ffurfiol, oherwydd, wrth inni gael y sgyrsiau hynny, rwy’n siŵr y bydd newidiadau a phethau newydd yn cael eu cyflwyno cyn yr ymgynghoriad terfynol.
Diolch i Sam Kurtz am gyflwyno'r cwestiwn yma heddiw. Ac ystyriwch lle roedden ni ryw bedair mlynedd yn ôl efo 'Brexit a'n tir'; mae yna sifft sylweddol wedi bod fan yma efo'r ieithwedd a'r dôn, ac mae hwnna i'w groesawu. Dwi'n falch hefyd o weld bod y bartneriaeth cydweithredu efo Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi arwain at sicrhau bod yna daliadau sefydlogrwydd am barhau yn ystod y cyfnod trosiannol tan 2029. Eto, mae hynny i'w groesawu yn gynnes.
Ond, ac mae yna 'ond', mae angen i'r system newydd gydnabod y pwysigrwydd o rôl ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Dylai cynhyrchu bwyd fod yn un o'r deilliannau craidd, a dylid gwobrwyo ffermwyr am hyn. A fydd cynhyrchu bwyd felly yn rhan ganolog o unrhyw Fil newydd, ac yn un o'r deilliannau? Yn ogystal â hyn, fel rydyn ni wedi'i glywed, mae pwysigrwydd amaeth efo cymuned a diwylliant yn ganolog i ddatblygiad ein cenedl yma. A fydd diwylliant felly yn un o'r deilliannau craidd, ac a fydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am gynnal ein cymunedau a'n diwylliant?
Mae yna gryn sylw am yr angen i neilltuo tir ar gyfer coedwigaeth, dyfroedd a bywyd gwyllt. A wnewch chi sicrhau na fydd gofyn i ffermwyr neilltuo tir amaethyddol da ar gyfer hyn, ac, yn hytrach, y byddwch yn cydweithio efo ffermwyr i adnabod y tir mwyaf addas? Hefyd, oes yna hyblygrwydd o ran y canran o dir a fydd yn cael ei neilltuo? Ydych chi'n sôn am goedwigaeth, yntau ydych chi hefyd yn sôn am wrychoedd? Ydy tir brwynog yn cyfrif tuag at y 10 y cant o ddyfroedd er enghraifft?
Yn olaf, efo tua 30,000 o unedau fferm yma yng Nghymru, mi fydd yn bwysig sicrhau bod gan Cyswllt Ffermio yr adnoddau cywir i fynd i'r afael â'r gwaith ychwanegol. Pa adnoddau ychwanegol ydych chi am eu rhoi er mwyn sicrhau y gall Cyswllt Ffermio gyflawni eu gwaith? Ac, a fedrwch chi roi sicrwydd na fydd ffermwyr yn cael eu cosbi am fethiannau all ddod yn sgil diffyg capasiti o fewn Cyswllt Ffermio? Dwi'n gofyn hyn nid yn unig ar ran fi fy hun, ond fe ddaru hogyn ifanc o Ddyffryn Ardudwy, Nedw, godi rhai o'r pwyntiau yma efo fi ddoe a gofyn beth fyddai dyfodol ffermio iddo fo. Felly, mae'r cwestiynau yma'n bwysig i'r new entrants hefyd. Diolch.
Diolch. Hoffwn ateb y pwynt olaf. Soniais yn fy ateb i James Evans ein bod yn sefydlu rhai gweithgorau arbenigol, a bydd ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn weithgor arbenigol arall, gan y credaf eich bod yn llygad eich lle, mae'n hanfodol fod y cynllun yn gweithio ar gyfer ffermwyr cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Dyma’r tro cyntaf inni gael polisïau a phrotocolau a chynlluniau amaethyddol pwrpasol ar gyfer Cymru, felly mae'n debyg y bydd angen inni gael pethau’n iawn am ddau neu dri degawd, byddwn yn dweud. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn rhan o'r sgwrs honno. Bydd yna bedwar gweithgor arbenigol—tenantiaethau; ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid; busnesau fferm trawsffiniol; a thir comin—gan ei bod yn bwysig iawn inni ystyried yr holl safbwyntiau hynny.
Credaf mai egwyddor drosfwaol y cynllun yw eich bod yn cynhyrchu bwyd. Os nad ydych yn cynhyrchu bwyd, ni fyddwch yn y cynllun, felly rwy'n gobeithio bod hynny’n ateb eich cwestiwn. Rydym yn amlwg yn cydnabod bod cynhyrchu bwyd yn hanfodol i’n gwlad, ond mae’r cynllun hwn hefyd yn cydnabod bod yn rhaid inni ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur os ydym am gael y sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld. Fel y dywedais mewn ateb cynharach, credaf mai’r argyfyngau hynny yw’r bygythiad mwyaf i ddiogeledd bwyd byd-eang.
Fe sonioch chi am Cyswllt Ffermio, ac mae’n bwysig ei fod yn addas at y diben ac yn gallu ymdopi. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y buom yn edrych arno'n fanwl iawn, nid yn unig wrth baratoi'r cynllun hwn, ond dros y tair blynedd diwethaf, mae'n debyg, wrth inni gyflwyno'r polisi. Rydym wedi bod yn edrych ar Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein fel rhyw fath o fesur o sut y gwnaethom hynny i fwrw ymlaen â’r cynllun hwn hefyd.
Ar y 10 y cant, yn sicr, bydd modd cynnwys gwrychoedd. Mae'n debyg na fydd rhai ffermydd yn gallu cyrraedd 10 y cant, felly rheini yw'r ffermwyr y gobeithiaf y byddant yn cael trafodaethau gyda ni. Rydym yn gofyn i bob ffermwr gyrraedd 10 y cant, fel y gallwn rannu'r baich ledled Cymru er mwyn osgoi newid defnydd tir ar raddfa fawr. Fel y dywedaf, rydym am gadw ffermwyr ar y tir, felly mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn cael y sgyrsiau hynny. Er mwyn helpu i gyrraedd y targedau plannu coed, rydym yn mabwysiadu dull 'gwrychoedd ac ymylon' o gyflawni'r camau cyffredinol, felly byddwn yn cefnogi ffermwyr i integreiddio mwy o goed ar eu tir ac yn y system ffermio. Yn sicr, mae ffermwyr wedi dweud wrthyf eu bod yn awyddus i blannu mwy o wrychoedd, eu bod yn awyddus i blannu lleiniau cysgodi, a choed yng nghorneli caeau. Felly, dyna'r hyn y byddwn yn gweithio gydag ef. Ar hyn o bryd, rydym yn argymell caniatáu hyd at bum mlynedd i ffermwyr gyrraedd yr isafswm o 10 y cant. Credaf mai Sam Kurtz a soniodd am y goeden iawn yn y lle iawn; mae hynny'n wirioneddol bwysig, a bydd hynny'n rhan o'r gwaith hwnnw hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.