– Senedd Cymru am 5:57 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Eitem 15 sydd nesaf, sef y ddadl ar Gyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n falch o gyflwyno Bil Deddfau Treth Cymru etc (Pŵer i Addasu) i'r Senedd i'w gymeradwyo. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r holl swyddogion sydd wedi gweithio mor ddiwyd dros flynyddoedd lawer ar y Bil hwn. Fel y gwyddom ni, mae treth yn faes pwysig a chynyddol yn y setliad datganoli. Mae arnom ni, Lywodraeth Cymru, felly, angen, fel pob gweithrediaeth, cyfres gymesur ac effeithiol o ddulliau i reoli'r pwerau trethu hynny'n strategol ac, yn hollbwysig, i ddiogelu trethdalwyr a chyllid cyhoeddus yn effeithiol. Mae angen i'r Senedd hon, fel pob senedd, oruchwylio'r dulliau hynny'n gryf ac yn gadarn. Mae'r Bil yn sicrhau hyn oherwydd mai dim ond gyda chydsyniad y Senedd ar ôl iddi roi ystyriaeth briodol y gellir gwneud y newidiadau neu sicrhau effaith barhaol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam cyntaf pwysig tuag at y system gydlynol a thryloyw sydd ei hangen arnom ni i gefnogi datganoli trethi yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i bawb yn y Senedd a thu hwnt sydd wedi helpu i lunio a gwella'r Bil sydd gerbron yr Aelodau heddiw. Rydym ni wedi gwrando ac wedi diwygio'r Bil yn sylweddol er mwyn ymateb i'r adborth a gafwyd i'r Bil. Rwyf wastad wedi ceisio deall a myfyrio ar y sylwadau a wnaeth Aelodau'r gwrthbleidiau ac yn enwedig yr hyn y mae ein pwyllgorau craffu wedi'i ddweud pan fyddan nhw wedi edrych ar y Bil. Mae canlyniadau'r trafodaethau hynny wedi newid y Bil yn sylweddol mewn ffordd gadarnhaol.
Mae'r Bil yn ceisio sicrhau y gall Gweinidogion Cymru ymateb yn gyflym i newidiadau y mae angen eu gwneud i'n deddfwriaeth dreth o ganlyniad i amgylchiadau allanol na allwn eu rheoli, megis ymateb i newidiadau polisi treth Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu ein refeniw yng Nghymru. Gwnaed diwygiadau sylweddol i'r Bil hwn, gan gynnwys darparu cymal machlud a phroses adolygu, yn ogystal â chyfyngiadau pellach ar ddefnyddio deddfwriaeth ôl-weithredol. Mae'r newidiadau a wnaed yn golygu bod y Bil hwn bellach yn wahanol iawn i'r un a gyflwynwyd gyntaf i'r Senedd ac yn un gwell oherwydd y craffu hwnnw.
Mae hefyd yn werth adlewyrchu fy mod wedi addasu cryn dipyn ers amlinellu'r cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Ymatebais i ganlyniad yr ymgynghoriad drwy gyfyngu ar gwmpas y pŵer i wneud rheoliadau i gynnwys y profion pedwar diben, gostyngiad sylweddol yn yr amgylchiadau lle gallai Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r pŵer. Yn bwysig, rwyf hefyd wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed gan Aelodau'r Senedd hon ac wedi ymrwymo i gymryd camau, ynghyd â'r Senedd a'i phwyllgorau, tuag at ddod o hyd i ateb deddfwriaethol priodol, tymor hirach i'r materion y mae Aelodau wedi'u codi, ond, yn hollbwysig, sicrhau y caiff ein trethdalwyr a'n cyllideb eu diogelu yn y cyfamser.
Yn syml, nid yw'n bosibl, ac ni fyddai'n iawn ychwaith, i gyflwyno'r trefniadau hyn dros nos heb ymgymryd â'r gwaith trylwyr sydd ei angen o ddatblygu'r polisi ac ymgysylltu yn ei gylch. Bydd pasio'r Bil hwn yn helpu i ddiogelu trethdalwyr a chyllideb Cymru. Bydd yn golygu, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, y caiff cyllideb Cymru a'n trethdalwyr eu gwarchod oherwydd byddwn yn gallu ymateb yn effeithiol i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein trethi yng Nghymru. Er enghraifft, os bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyfundrefn codi tâl newydd sy'n debyg i gyfraddau uwch y dreth dir ar gyfer anheddau ychwanegol, yna, gyda'r Bil hwn, gallwn ddiogelu'r safbwyntiau polisi pwysig yr ydym ni wedi'u datblygu ar ail gartrefi. Neu, pe bai Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn cyflwyno newid a fyddai o fudd arbennig i'r rhai sy'n ceisio sefydlu busnesau ffermio newydd, yna gallem gyflwyno math tebyg o newid yn gyflym er mwyn sicrhau nad yw ein trethdalwyr dan anfantais.
Gwyddom i gyd nad yw Llywodraeth bresennol y DU yn gyfaill i ddatganoli. Mae'n amlwg o'r dyddiau diwethaf fod newidiadau sylweddol i'n system dreth ar y gorwel, a gwyddom o brofiad yn y gorffennol na fydd Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw ffafrau arbennig neu ystyriaeth arbennig inni os nad oes gennym ni'r pwerau i amddiffyn ein hunain. Bydd y Bil hwn yn rhoi amddiffyniad hanfodol arall inni i drethdalwyr Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru mewn cyd-destun o'r fath, felly ni allaf dderbyn y ddadl bod unrhyw beth yn flaengar am ddewis pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth hon heddiw.
Gobeithio y gallwch chi weld yr ewyllys da fu'n gysylltiedig â datblygu'r Bil hwn. Os caiff ei basio, hoffwn weithio yn yr un ysbryd ag Aelodau'r Senedd i sefydlu'r bensaernïaeth hirdymor ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau treth Cymru, a gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw. Diolch.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth yn rhan o waith craffu'r Pwyllgor Cyllid ar y Bil ac i ddiolch ar goedd am y gefnogaeth a'r cyngor a gynigiwyd gan y tîm clercio a chyfreithiol drwy gydol y broses hon. Hoffwn ddiolch hefyd i chi, Gweinidog, am y ffordd yr ydych chi a'ch swyddogion wedi ymgysylltu'n adeiladol â mi a chyd-Aelodau yn ystod y broses ddiwygio. Diolch ichi am hynny.
Yn hyn o beth, rwyf yn credu fod y Bil sydd ger ein bron heddiw ychydig yn gryfach na'r Bil gwreiddiol a gyflwynwyd gerbron y Senedd y llynedd. Eglurodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor cyllid fod angen cryfhau'r Bil gwreiddiol i gyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o ran deddfwriaeth ar bolisi trethiant, felly rwy'n croesawu rhai o'r gwelliannau yr ydym ni wedi'u gweld, megis cyfyngu ar gwmpas y pŵer i wneud rheoliadau o fewn adran 1 o'r Bil mewn perthynas ag ymchwiliadau troseddol, newidiadau i'r defnydd o bwerau ôl-weithredol a chyflwyno cymal machlud. Fodd bynnag, mae'n anffodus nad fu i'r Gweinidog dderbyn unrhyw un o'm gwelliannau, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn unol â nifer o argymhellion y pwyllgor, y Pwyllgor Cyllid a chan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Credaf y byddai'r rhain wedi cryfhau'r Bil ymhellach ac wedi sicrhau y gallai'r Senedd graffu'n ddigonol ar weithrediad y Ddeddf.
Fel y mae ar hyn o bryd, nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr o hyd bod y Bil fel y'i drafftiwyd yn darparu digon o fesurau diogelu rhag defnyddio pwerau a allai fod yn eang eu cwmpas. Nid oedd gwelliannau'r Gweinidog yn mynd mor bell ag y byddwn wedi dymuno. Fodd bynnag, Llywydd, fy mhrif bryder gyda'r Bil hwn yw'r un a soniais yn ei gylch ar ddechrau'r broses: nad yw'n briodol defnyddio is-ddeddfwriaeth yn gyfrwng i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth trethiant sylfaenol. Mae'n codi cwestiynau sylfaenol am y Senedd fel deddfwrfa a'i pherthynas â'r Weithrediaeth. Fel y dadleuodd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi datblygu pecyn mwy strategol, cydlynol a hirdymor o fesurau deddfwriaethol i gyflawni ei chynigion a'i hamcanion mewn perthynas â threth. Mae'n bwysig bod y Senedd yn parhau i fonitro'r Bil yn ofalus wrth iddo gael ei weithredu i sicrhau y caiff y pwerau sydd ynddo eu defnyddio fel yr amlinellwyd gan y Gweinidog yn ystod y broses graffu ac nad ydynt yn mynd y tu hwnt i gylch gwaith y Senedd. Felly, Llywydd, yn anffodus ni allaf gefnogi'r Bil hwn heddiw, ac felly bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Diolch.
Mi gychwynnais i, fel bob tro, y broses yma yn agored fy meddwl ynglŷn â'r ddeddfwriaeth yma ac yn cydnabod bod yna amgylchiadau weithiau lle mae angen medru ymateb i ddigwyddiadau pan fydd hi'n dod i faterion fel hyn, ond, mae'n rhaid i mi ddweud, mi wnaeth tystiolaeth roddwyd i'r pwyllgorau perthnasol oedd yn craffu ar y Bil yma, yn enwedig yng Nghyfnod 1, gan ffigurau cyfreithiol mwyaf nodedig Cymru amlygu sawl elfen wnaeth beri gofid yn sicr i fi o safbwynt y Bil yma.
Rhoddodd Syr Paul Silk dystiolaeth pur gadarn inni pan ddywedodd fod y Bil, a dyfynnaf,
'yn esiampl i mi', dywed
'o bryder mwy cyffredinol sydd gennyf am y ffordd y mae'r Weithrediaeth yn ymgymryd â swyddogaethau sydd, yn fy marn i, yn perthyn yn briodol i'r ddeddfwrfa', gan adlewyrchu rhai o'r sylwadau yr ydym ni eisoes wedi'u clywed. Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei hun yn ei adroddiad yn myfyrio ar hynny, a dyfynnaf eto,
'Mae'n... hynod siomedig bod yr ail ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru yn Fil galluogi sydd, yn ei hanfod, yn gadael i'r holl waith datblygu a gweithredu polisi sylweddol gael ei benderfynu gan is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn golygu y bydd y Senedd a'i Haelodau etholedig yn wynebu pleidleisio ar faterion o'r fath ar sail "popeth neu ddim", oherwydd nid yw is-ddeddfwriaeth yn destun craffu llinell wrth linell ac ni ellir ei diwygio.
Gan ddod i'r casgliad yn y pen draw,
'mae'r dull hwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn groes i arferion ac egwyddorion seneddol sefydledig sy'n gysylltiedig â deddfu da.'
Llyr, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, os gwnaiff y Llywydd ganiatáu mwy o amser imi.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n codi pwynt pwysig a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ond, mewn gwirionedd, roeddem yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn gwneud gwelliannau i'r darn hwn o ddeddfwriaeth nawr er mwyn gallu ymdrin â materion sydd eisoes wedi'u datblygu yn Senedd y DU ac yn y blaen o ran materion treth, ond fe ddywedsom ni hefyd, 'Edrychwch ar y dyfodol o ran yr hyn y gellir ei wneud.' A dim ond i gymeradwyo'r Gweinidog, mae wedi cydnabod y rheini ac wedi dweud y bydd yn gweithio ar hynny ar gyfer fersiynau yn y dyfodol pan fyddwn yn ailgyflwyno hyn i'r Senedd. Credaf fod arnom ni i gyd eisiau gweld hynny. Felly, hoffwn gymeradwyo'r dull a fabwysiadwyd gan y Gweinidog. Dydy hi ddim wedi dweud 'na'; mae hi wedi dweud, 'Allwn ni ddim gwneud hynny'n awr—bydd yn rhaid inni wneud hynny yn y dyfodol.'
A dwi'n dod at hynny mewn munud, achos dwi yn cydnabod hynny, ond mae'n rhaid i mi ddweud bod pwysau y dystiolaeth roddwyd yn y cyfnod yna, i fi, yn sicr, wedi gwneud i mi gamu'n ôl ac edrych ar hwn drwy lens gwahanol a dwi yn gobeithio—. Dwi'n siŵr bod nifer o Aelodau wedi darllen yr adroddiadau, ond mi wnaethoch chi fel Cadeirydd y pwyllgor yn nadl Cyfnod 1 ddweud bod y pwyllgor wedi dod i'r casgliad nad yw'r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i wneud newidiadau i ddeddfau trethi Cymru, a bod y pwyllgor o'r farn bod lefel y pŵer dirprwyedig yn y Bil yn amhriodol ac yn y blaen ac yn y blaen.
Nawr, yr elfen bositif yw fy mod i yn cydnabod bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i rai agweddau ar y Bil yma dros y cyfnod craffu, neu'r cyfnodau craffu, a dwi'n diolch i'r Gweinidog a'i swyddogion am eu parodrwydd i wneud hynny, yn bennaf, wrth gwrs, drwy gyflwyno'r cymal machlud sy'n gwneud y ddeddfwriaeth yma, i bob pwrpas, yn ddeddfwriaeth dros dro, ond yn ddeddfwriaeth gall fod gyda ni tan 2031. Felly, pa mor dros dro yw hynny, dwi ddim yn siŵr. Ond mi wnaeth y Gweinidog ymateb i welliannau Plaid Cymru yng Nghyfnod 2 drwy gyflwyno gwelliannau ei hunan. Mi wnaeth hi hefyd dderbyn fy ngwelliannau i yng Nghyfnod 3 oedd yn cynnig dau beth, sef sicrhau bod yr adolygiad o'r ddeddfwriaeth yn cynnwys y gwaith ehangach o edrych ar drefniadau deddfwriaethol amgen, a hefyd y bydd Aelodau o'r Senedd yn rhan fwy ystyrlon o'r adolygiad hwnnw ac y byddwn ni efallai i gyd, os ydym ni yma adeg hynny, yn cael cyfle i ddweud ein dweud.
Ond, mae yna fater mwy sylfaenol, fel clywon ni, yn y fantol fan hyn, sef gogwyddo gormodol y grym o safbwynt deddfwriaeth gynradd o'r ddeddfwrfa, sef y Senedd, i'r Weithrediaeth, sef y Llywodraeth. Er bod yna welliannau wedi bod, ar sail hynny fedrwn ni ddim caniatáu i'r Ddeddf yma gael ei phasio, felly fe fyddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y prynhawn yma.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i'ch cyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Rwy'n falch bod cydnabyddiaeth bod y Bil yn ganlyniad i gorff sylweddol o waith gan lawer o bobl, a hoffwn gofnodi fy niolch i bob un ohonyn nhw, ac rwy'n siŵr bod y ffordd gydweithredol o weithio yr wyf wedi ceisio'i mabwysiadu wedi helpu i gryfhau'r berthynas bresennol, a fydd, gobeithio, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.
Mae arnaf i eisiau mynd i'r afael â'r pwynt penodol ynghylch deddfwriaeth sylfaenol o'i gymharu ag is-ddeddfwriaeth ac, wrth gwrs, mewn amgylchiadau cyffredin o ran deddfu, lle gwneir cyfraith o ganlyniad i ddatblygu polisi ystyriol yn hytrach na'i bod yn ofynnol ar frys neu mewn ymateb i ddigwyddiadau allanol, mae'n briodol, wrth gwrs, i'r Senedd benderfynu pwy sy'n cael eu trethu a sut y cânt eu trethu, yn unol â'r egwyddorion cyfansoddiadol a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, bwriedir i'r Bil hwn a'r pŵer yn y Bil ymdrin ag amgylchiadau eithriadol a rhai sy'n gwbl unigryw i ddeddfwriaeth treth. Er enghraifft, cafwyd llawer o achosion lle mae elfennau treth newydd o dreth tir y dreth stamp wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth y DU yn syth neu'n fuan iawn ar ôl gwneud cyhoeddiad, ac mae hynny'n gyffredinol, wrth gwrs, i atal trethdalwyr rhag achub y blaen. Ond rwy'n credu bod Senedd y DU wedi cydnabod natur unigryw deddfwriaeth treth pan roddodd y pŵer i Weinidogion y DU yn adran 109 o Ddeddf Cyllid 2003 allu gwneud unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth treth tir y dreth stamp sy'n hwylus er budd y cyhoedd. Rhoddodd Senedd yr Alban lawer o bwerau i Lywodraeth yr Alban wneud rheoliadau yn ei Deddf trethi datganoledig, gan gynnwys pennu cyfraddau a bandiau drwy gyflwyno rheoliadau gweithdrefn gadarnhaol. Wrth gwrs, rhoddodd y Senedd, yn dilyn y cynsail a osodwyd gan Senedd yr Alban, gyfres debyg o bwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, gan gynnwys pennu cyfraddau drwy reoliadau gweithdrefn gadarnhaol. Felly, mae'r Bil hwn yn ceisio adeiladu ar y cynseiliau hynny, gan ddatblygu'r mecanwaith hyblyg ac ystwyth hwnnw i ymateb i amgylchiadau allanol sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, i ddiogelu trethdalwyr Cymru a diogelu cyllideb Cymru.
A wnaiff y Gweinidog ildio yn y fan yna?
Gwnaf.
Diolch, Gweinidog, am ildio. Un sicrwydd y gallai'r Gweinidog ei roi i'r Senedd heddiw, yn y ffordd gydweithredol y mae hi wedi bwrw ymlaen â'r newidiadau hyn i'r ddeddfwriaeth a'r cynigion presennol ar gyfer yr hyn a gyflwynir—. Yn y cynigion hynny o'r hyn a ddaw nesaf, a wnaiff hi roi'r sicrwydd i'r Senedd heddiw y bydd yn gweithio gyda'r pwyllgorau perthnasol a gydag Aelodau'r Senedd yma, ond hefyd gyda'r randdeiliaid allanol hynny? Nid oes rhaid i ni ailadrodd yn union yr hyn sy'n digwydd mewn Seneddau eraill. Efallai y gallwn ddarparu ffordd well o'i wneud sy'n addas i Gymru. A wnaiff roi'r ymrwymiad hwnnw i wneud y gwaith hwnnw mewn cydweithrediad ag eraill sydd ag arbenigedd yma yng Nghymru?
Rhoddaf yr ymrwymiad hwnnw'n llwyr i gydweithio â'r arbenigwyr yn y maes. Os nad yw fy nghyd-Aelodau am wrando arnaf heddiw, gadewch inni wrando ar yr arbenigwyr yn y maes, oherwydd pan oedd fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore yn gofyn i'r Sefydliad Siartredig Trethu yn y pwyllgor a fyddai'n fecanwaith priodol i ddefnyddio is-ddeddfwriaeth, fe wnaethon nhw ymateb, rwy'n credu, o dan yr amgylchiadau—yn enwedig o dan amgylchiadau gweinyddiaeth ddatganoledig, â'r ffordd y mae'r setliad datganoledig yn gweithio—ei fod yn rhesymol, ydy. A gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr a oedd angen y ddeddfwriaeth, ac fe ddywedon nhw,
'Byddwn yn dweud, yn sicr o ran y gallu i ymateb i newidiadau ar lefel y DU, ac osgoi trethi o bosibl, yn enwedig o ystyried rhai o'r newidiadau yr ydym yn eu gweld, neu rai o'r anawsterau penodol gyda threth dir treth stamp y DU, ar gyfer y sbardunau hynny, mae'n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau angenrheidiol i wneud newidiadau, os oes angen, ar fyr rybudd. Felly, "ie" gofalus.
Ac rydym ni wedi clywed cyfeiriad at yr Athro Emyr Lewis a Syr Paul Silk, a phan ofynnwyd, unwaith eto, gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a oedd y Bil yn gwbl angenrheidiol, dywedodd yr Athro Emyr Lewis,
'Dwi'n meddwl bod angen deddfwriaeth er mwyn galluogi newidiadau cyflym i ddigwydd. Dwi'n credu bod y syniad o roi'r grym i ddiwygio er mwyn cyd-fynd â dyletswyddau rhyngwladol yn un da, oherwydd mae'n rhywbeth sy'n debyg i bwerau eraill er mwyn diwygio deddfwriaeth gynradd er mwyn gwneud y ddeddfwriaeth honno'n gyfreithlon. Mae angen rhywbeth, rwy'n credu, i ddelio â'r broblem sy'n deillio o sut mae Cymru'n cael ei hariannu, sut mae'r fformiwla yn y cytundeb rhwng Llywodraethau yn tynnu arian i ffwrdd oddi wrth Gymru os oes newidiadau treth yn digwydd yn Lloegr er mwyn ein bod ni'n gallu cadw i fyny gyda Lloegr', a chytunodd Syr Paul Silk.
Ond os nad oes arnoch chi eisiau gwrando arnaf i, ac nad oes arnoch chi eisiau gwrando ar yr arbenigwyr hyn, gwrandewch ar ein cyd-Aelod Llyr Gruffydd. Pan gyflwynais i'r Bil, dywedodd yma yn y Senedd—ac mae wedi bod yn gyson ynghylch hyn o'r dechrau un—mai ei ddewis ef fyddai cael Bil cyllid neu Fil cyllideb blynyddol. Ond yna aeth ymlaen hefyd i ddweud ei fod yn cytuno
'efo'r Gweinidog, boed hynny'n digwydd neu beidio, mae'n dal angen y pwerau y mae'r Llywodraeth yn edrych amdanyn nhw yn y Bil sydd o'n blaenau ni heddiw.
'Dwi wedi dweud yn y gorffennol, does gyda fi ddim problem mewn egwyddor i bwerau o'r math yma gael eu rhoi i Weinidogion Cymru.'
O weld eich bod yn fy nyfynnu'n uniongyrchol, gobeithio y gwnewch chi dderbyn ymyriad byr. Eglurais yn fy nghyfraniad agoriadol—
Roeddwn yn dod at hynny.
Iawn, o'r gorau. Wel, ar sail pwysau'r dystiolaeth gan y bobl y clywsom ni ganddyn nhw, newidiais fy meddwl. Rwy'n newid fy meddwl; byddai'n dda weithiau pe bai eraill yn gwneud hefyd.
Mae'n amlwg fy mod i wedi newid fy meddwl, pan edrychwch chi ar y ffyrdd y mae'r Bil wedi'i ddiwygio'n ddramatig. Ac mae'r syniad y tu ôl i'r Bil wedi'i ddiwygio o bŵer eang iawn pan ymgynghorwyd yn gyntaf i rywbeth sy'n gul a phenodol iawn nawr. Ond y pwynt yr oeddwn i'n mynd ymlaen i'w wneud yw fy mod yn cydnabod yr hyn a ddywedoch chi am y ffordd y gwnaethoch chi ymateb i'r dystiolaeth yr ydych chi wedi'i chlywed, ond, er hynny, gyda'r holl welliannau a newidiadau sydd wedi'u gwneud, credaf ein bod fwy na thebyg wedi symud yn agosach at ein gilydd ar y daith hon, a gobeithio y gallwn ni symud ymlaen gyda'n gilydd ar y daith gyda'r hyn a ddaw nesaf.
Fe wnaf i gloi, Llywydd, oherwydd rwyf yn sylweddoli fy mod dros fy amser, drwy ddiolch i chi a'ch staff am eich holl gefnogaeth yn y broses hon. A gofynnaf i Aelodau'r Senedd, wrth ystyried eu pleidlais heddiw a sut y maen nhw'n pleidleisio, gymryd y foment hon a chymryd y cyfle hwn i amddiffyn trethdalwyr Cymru ac i ddiogelu cyllideb Cymru. Ac rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r Bil heddiw.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C bydd rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly bydd y bleidlais ar yr eitem yma yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod pleidleisio.