1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i wneud sylw ar dei'r Prif Weinidog? Mae'n edrych yn llachar iawn heddiw, gyda chwlwm ar y top, anarferol i'r Prif Weinidog, a bod yn deg. Efallai mai rhyw deimlad diwedd tymor sydd ganddo. [Chwerthin.]
Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog, os caf i, am amseroedd aros y GIG. Pe baem yn sefyll yma yr adeg hon y llynedd, y ffigur aros dwy flynedd ar gyfer pobl yn y GIG yng Nghymru fyddai 7,600. Heddiw, mae'r ffigur dwy flynedd hwnnw bron yn 70,000 o bobl yn aros. Mae angen i ni roi gobaith i bobl y gallan nhw symud ymlaen oddi ar restr aros a thrwy'r GIG yn ôl i ryw fath o normalrwydd yn eu bywydau. Nid yw pobl ar restrau aros oherwydd eu bod yn dewis bod yno, maen nhw'n aros am driniaethau meddygol, Prif Weinidog. Felly, a allwch chi roi'r gobaith hwnnw wrth i ni fynd tuag at doriad yr haf y bydd y niferoedd hyn yn dechrau gostwng ac na fyddwn yn sefyll yma yr adeg hon y flwyddyn nesaf yn siarad mewn termau tebyg?
Diolch i arweinydd yr wrthblaid. Cynigiaf esboniad byr i chi ynghylch fy nhei, sef ei fod yn dei a gafodd ei wau i mi gan wraig oedrannus iawn a ddaeth i'r wlad hon yn union ar ôl yr ail ryfel byd yn ffoadur o Wcráin. Mae'r cwlwm hwn o batrwm Wcreinaidd y mae hi wedi'i wau a'i anfon i gydnabod y gwaith sydd, ledled Cymru, yn mynd ymlaen i groesawu pobl o Wcráin, fel y trafododd ef gyda mi ychydig wythnosau'n ôl, yma i Gymru. Ar ein sesiwn olaf cyn yr egwyl, Llywydd, roeddwn yn meddwl y byddwn yn ei wisgo i gydnabod ei dymuniad i ddangos hynny. Felly, diolch i chi am hynny.
O ran amseroedd aros y GIG, rwy'n credu bod rhesymau pam y gall pobl ddechrau gweld gwelliant. Yn y ffigurau diwethaf a oedd ar gael, gwellodd ein hamseroedd ambiwlansys, gwellodd amseroedd aros mewn adrannau achosion brys, roedd yr amseroedd yr oedd pobl yn aros am therapïau wedi gostwng 10.5 y cant o'i gymharu â'r mis blaenorol, ac roedd amseroedd aros hir yn dechrau gwella. Edrychwch, mae'n ddechrau taith hir yma, oherwydd mae'r GIG yn parhau i ymdrin bob dydd â gwaddol cyfnod y pandemig ond hefyd gydag effaith coronafeirws yma yng Nghymru heddiw. Mae gennym 1,900 o staff a fyddai fel arall mewn gwaith yn y GIG heddiw nad ydyn nhw yn y gwaith oherwydd eu bod nhw eu hunain yn sâl gyda choronafeirws. Mae un o bob 20 o bobl yng Nghymru yn arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos diwethaf yn sâl yn yr un ffordd. Gwelsom, ddydd Gwener, dros 1,000 o bobl eto mewn gwelyau'r GIG yn sâl gyda choronafeirws. Cynyddodd nifer y bobl mewn gofal dwys gyda choronafeirws eto yr wythnos diwethaf. Ac ar ben y 1,900 o bobl sy'n sâl gyda choronafeirws, nid yw dros 600 o bobl eraill yn y gwaith am eu bod yn hunanynysu ar ôl bod mewn cysylltiad â rhywun. Felly, dyna 2,500 o bobl a allai fod yn y gwaith heddiw, yn darparu'r triniaethau hynny, yn cael yr amseroedd aros hynny i lawr, nad ydyn nhw yno oherwydd bod y coronafeirws yma yng Nghymru o hyd. Felly, mae'r system yn gweithio mor galed ag y gall i gynyddu'r cyflenwad o driniaethau, er mwyn gwneud iawn am yr ôl-groniad, ond mae'r anawsterau sy'n ei hwynebu yn sylweddol iawn ac nid ydyn nhw wedi diflannu.
Diolch i chi am yr esboniad ynghylch y tei, Prif Weinidog. Mae bob amser yn dda cael ychydig o newyddion da yn y Siambr hon. Ond mae ffordd arall, oherwydd fel yr ydym ni wedi gweld yn Lloegr gydag arosiadau dwy flynedd, uchafbwynt y ffigurau hynny oedd 23,000 yn aros dwy flynedd neu fwy allan o boblogaeth o 57 miliwn; maen nhw bellach yn 12,000, neu ychydig dros 12,000. Rwy'n derbyn bod pwysau ar y GIG ac ar staff yn arbennig ar ôl yr hyn a fu'n ddwy i ddwy flynedd a hanner heriol iawn, a'r achosion parhaus o COVID a'r effaith a gaiff hynny ar y gweithlu, ond, yn amlwg, os gall un rhan o'r Deyrnas Unedig sydd â phoblogaeth fawr iawn ostwng yr arosiadau dwy flynedd hynny, ac eto, yn anffodus yma yng Nghymru, lle mae gennym boblogaeth o 3 miliwn, rydym yn gweld ychydig o dan 70,000 o bobl yn aros, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model canolfan lawfeddygol y mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi sôn amdano, sy'n amlwg wedi gweithio yn Lloegr, lle mae 91 o ganolfannau? Mae angen mwy, rwy'n derbyn hynny, ond nid yw'r ffigurau'n dweud celwydd, Prif Weinidog. Mae eu niferoedd nhw yn gostwng, mae ein niferoedd ni yn codi. Fel y dywedais i, mae angen i ni gynnig gobaith i bobl. Felly, a allwch chi roi map i ddangos i ni y ffordd allan o'r anobaith y mae llawer o bobl yn ei deimlo ar hyn o bryd o fod yn sownd ar y rhestr aros hon sydd, i bob golwg, yn mynd i un cyfeiriad?
Wel, Llywydd, nid yw'n mynd i un cyfeiriad yn unig, fel yr eglurais i yn fy ateb gwreiddiol, ac mae'r cynllun eisoes yno ac wedi'i gyhoeddi. Fe'i cyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd, sy'n dangos cerrig milltir dros y cyfnod sydd i ddod o ran sut y byddwn yn lleihau'r amseroedd aros hynny, ac mae ein map yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau a bennwyd ar gyfer Lloegr hefyd.
Mae'r GIG ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig wedi cael amser anodd ac mae'n parhau i gael amser anodd ym mhobman. Dydw i ddim yn mynd i gyfnewid ffigurau gydag ef. Mae mwy na dwywaith poblogaeth Cymru bellach ar restr aros yn Lloegr. Rwy'n cofio, pan oeddwn yn Weinidog iechyd, ateb cwestiynau yn y fan yma ar y diwrnod pan aeth nifer y bobl ar restr aros yn Lloegr, am y tro cyntaf, yn uwch na phoblogaeth Cymru. Nawr, mae'n fwy na dwywaith y lefel honno. Nid beirniadaeth ar y GIG yn Lloegr yw hynny, oherwydd mae'n wynebu'r un mathau o frwydrau ac anawsterau yn union ag a wynebwn ni yma. Mae nifer yr arosiadau hir yn gostwng yng Nghymru, fel y maen nhw yn Lloegr. Rydym eisiau iddyn nhw ddod i lawr yn gyflymach, wrth gwrs.
Gadewch i mi ddweud hyn wrthych chi, serch hynny, Llywydd: yr hyn na fydd byth yn dod â rhestrau aros i lawr yn Lloegr neu yng Nghymru yw rhai o'r syniadau ffantasi y gwelwn wleidyddion eich plaid yn eu brolio yn Llundain. Sut bydd amseroedd aros yn y GIG yn gostwng yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig os caiff eich Canghellor y Trysorlys presennol ei ffordd gan leihau cyllideb yr adran iechyd 20 y cant, oherwydd dyna a ddywedodd ei fod yn bwriadu ei wneud os caiff ei ethol? Gostyngiad o 20 y cant yn nifer y meddygon, gostyngiad o 20 y cant yn nifer y nyrsys, gostyngiad o 20 y cant yn nifer y gweithwyr cymdeithasol, gostyngiad o 20 y cant yn nifer yr athrawon—i ble y bydd hynny'n arwain gwasanaethau yng Nghymru neu mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig? Ac eto, mae'n ymddangos mai dyna'r unig ddadl sydd gan eich plaid i'w chynnig pan ddaw'n fater o ddewis y diweddaraf mewn cyfres hir o Brif Weinidogion sydd wedi'u diarddel y mae eich plaid wedi'u cynnig i ni dros y chwe blynedd diwethaf.
Prif Weinidog, os ydych eisiau trafod cystadleuaeth arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, byddaf yn hapus i roi ffurflen aelodaeth i chi a gallwch ddod i'r hustyngau. Byddaf hefyd—[Torri ar draws.] Byddaf hefyd yn ddigon bodlon eistedd ar unrhyw lwyfan teledu a dadlau gyda chi ynghylch rhinweddau hynny. A gallaf glywed y fainc flaen yn gweiddi. Mae'r ffigurau yr wyf wedi'u cyflwyno i'r Prif Weinidog, sef bod 68,500 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy yng Nghymru—mae hynny'n ffaith. Dyna'ch ffigur eich hun, y fainc flaen. Yn Lloegr mae'n 12,500, allan o boblogaeth o 57 miliwn. Rwy'n cydnabod bod pwysau ar y GIG, ond gallaf ddeall pam nad yw'r Prif Weinidog eisiau trafod y ffigurau pan fydd ei ffigurau yma mor erchyll. Nawr, ni chynigiodd unrhyw gynlluniau, dim atebion ac nid yw wedi cynnig ffordd allan i lawer o'r bobl hyn sy'n sownd ar yr amseroedd aros, ac eithrio siarad am yr amseroedd aros yn Lloegr, sydd â phoblogaeth, fel y dywedais i, o 57 miliwn o bobl. I gael yr amseroedd aros cyfatebol yma yng Nghymru, byddai angen i chi fod â 13 miliwn o bobl a mwy ar y rhestrau aros yn Lloegr. Nawr, Prif Weinidog, mae angen i chi wneud yn well na hynny. Mae gennych chi'r ysgogiadau i gynnig gobaith mewn gwirionedd, a dyna lle y dechreuais fy nhrywydd o ran eich holi chi ynghylch yr amseroedd aros hyn. Nid ydych wedi cynnig unrhyw obaith nac atebion y prynhawn yma, felly am y tro olaf gofynnaf i chi eto: a fyddwn ni'n trafod y niferoedd hyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, oherwydd mae eich Llywodraeth wedi methu ag ymdrin â nhw a mynd i'r afael â nhw, neu a wnewch chi gynnig rhai atebion fel y gall pobl wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r haf fod yn ffyddiog na fyddant yn wynebu gaeaf mor llwm ar restr aros unwaith eto?
Llywydd, arweinydd yr wrthblaid a ddechreuodd ei gwestiwn cyntaf drwy gyfeirio at amseroedd aros yn Lloegr, nid fi; ef oedd y person a gyflwynodd hynny yn ei gwestiwn gwreiddiol. A dywedaf hyn wrtho: os ydych chi eisiau gofyn i bobl y tu allan i'r Siambr hon a fyddai'n well ganddyn nhw fyw o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru neu yng nghanol llanastr ei blaid yn Lloegr, fe gaiff yr ateb, ac ni fydd yn cymryd llawer o amser i bobl ei roi iddo ychwaith. Nid oes angen y ffurflen gais aelodaeth arnaf—[Torri ar draws.]—Nid oes angen y ffurflen gais aelodaeth arnaf er mwyn canfod beth mae pobl yn eich plaid yn ei feddwl o'i gilydd, oherwydd gallaf ei ddarllen mewn unrhyw bapur newydd unrhyw ddiwrnod. Mae'n annhebygol y bydd ffuredau mewn sach yn llunio cynllun ar gyfer y GIG yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae'r rhaglen gynllunio, y rhaglen ar gyfer llawdriniaethau wedi'u cynllunio yn y GIG yng Nghymru, wedi'i chyhoeddi. Mae ganddi gyfres fesul blwyddyn o—[Torri ar draws.] Llywydd, nid wyf yn mynd i ildio iddo ar hynna.
Rwy'n credu y gall y Prif Weinidog ymateb i'r cwestiwn yn awr cyn i ni symud ymlaen.
Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod eto: os nad yw wedi cael cyfle i'w ddarllen oherwydd ei fod wedi bod yn rhy brysur yn darllen maniffestos pobl sy'n ceisio arwain ei blaid, gallwn roi copi iddo. Mae'n nodi cyfres o ffyrdd fesul blwyddyn i fynd i'r afael ag amseroedd aros yng Nghymru yn dilyn yr un amserlen ag y mae ei blaid wedi'i phennu ar gyfer Lloegr. Dyna yw ein huchelgais a dymunwn y gallem wneud mwy a hynny'n gyflymach.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae canlyniadau cyntaf y cyfrifiad wedi cael eu cyhoeddi; ffigurau pennawd hyd yma. Mae'r boblogaeth yn lleihau mewn sawl ardal—Ceredigion yn gweld y cwymp mwyaf o bron i 6 y cant. Mae yna awgrym o boblogaeth yn heneiddio hefyd, sy’n pwysleisio’r angen i ddal gafael ar ein pobl ifanc ni, ac mae hynny’n golygu gwneud iddyn nhw fod eisiau aros yma yng Nghymru. Rŵan, ydy'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc edrych ar lawer mwy na chynnig swyddi yn unig, i gynnwys pob agwedd ar anghenion pobl ifanc—tai, amgylchedd, adnoddau, cymunedau llawn bywyd—ac mai dyna sut mae eu hannog nhw i benderfynu byw a ffynnu yma yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn, wrth gwrs, a dwi wedi gweld canlyniadau’r sensws sydd wedi dod mas ar hyn o bryd. Mae lot mwy o wybodaeth i’w dynnu mas o’r ffigurau dros y misoedd sydd i ddod. Un o’r rhesymau pam roeddwn i ac Adam Price wedi sefyll gyda’n gilydd yng nghynhadledd y wasg yr wythnos diwethaf i setio mas y cynllun sydd gyda ni ar gartrefi i bobl yng nghefn gwlad oedd i drial creu posibiliadau am y dyfodol i bobl ifanc sydd eisiau byw yn y cymunedau lle roedden nhw wedi cael eu geni, ac i aros yno i weithio, i godi eu plant ac, wrth gwrs, i gael rhywle i fyw. A thrwy bopeth rŷn ni yn gwneud, wrth gwrs rŷn ni eisiau creu cyfleon lle mae pobl sydd eisiau aros yn y cymunedau lleol yn gallu gwneud hwnna, a gallu gwneud hwnna'n llwyddiannus. Mae’r ffigurau’n dangos ei fod yn bwysig inni wneud mwy na hynny i dynnu pobl i mewn i Gymru sy'n fodlon bod yn rhan o’n dyfodol ni yma, a bydd hwnna'n rhywbeth pwysig i ni yn y dyfodol hefyd.
Heb os, dŷn ni eisiau denu’r ymenyddiau gorau i Gymru hefyd, yn ogystal â chadw ein talent ni yma. Mae’r wasgfa ariannol bresennol, y raddfa chwyddiant fwyaf ers 40 mlynedd, yn effeithio'n drwm ar bobl ifanc. Does dim ond eisiau gweld ymchwil diweddar gan yr NUS i weld hynny: mwy o fyfyrwyr nag erioed yn ddibynnol ar fanciau bwyd neu yn benthyg pres na allan nhw fforddio i'w fenthyg. Mae lefel cyflog prentisiaid yn broblem—mor isel â £4.81 yr awr; mae dod o hyd i le i aros i fyfyrwyr yn argyfwng i lawer; ac mae'r swm sy'n cael ei dalu gan fyfyriwr wedi codi mewn tair blynedd o ryw £4,768 i dros £6,000. Mae eisiau rhoi mwy o gefnogaeth ariannol i bobl ifanc, ac mae eisiau rheoli'r prisiau rhent anghynaladwy yma, achos, yn ogystal â bod yn effeithio ar eu hiechyd meddwl nhw, mae caledi ariannol yn eu hatal nhw rhag cyrraedd eu potensial yn addysgol. Sut mae'r Prif Weinidog felly yn bwriadu gweithredu camau o'r fath er mwyn trio stopio'r brain drain, achos mae ffactorau ariannol rŵan yn risg go iawn o gloi pobl allan o addysg ac felly eu hatal nhw rhag cyrraedd eu llawn botensial?
Wel, Llywydd, Cymru sydd â'r math mwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac ni chlywais unrhyw gydnabyddiaeth o hynny yn yr hyn yr oedd gan yr Aelod i'w ddweud. Wrth gwrs, mae'r argyfwng presennol o ran costau byw yn effeithio ar bobl ifanc a phobl mewn prifysgolion, yn ogystal ag unrhyw un arall, ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfres o fesurau ym maes iechyd meddwl, er enghraifft, i sicrhau bod gwasanaethau ychwanegol ar gael i bobl ifanc, sydd wedi wynebu cyfnodau anodd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac sydd bellach yn bwriadu ailsefydlu eu hunain ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n tybio bod gennyf farn sylfaenol wahanol i'r Aelod ar y mater hwn o ddraen dawn. Y patrwm a welwn yng Nghymru yw ein bod yn gweld pobl yn gadael Cymru wrth iddyn nhw gwblhau eu haddysg, ac fe'u gwelwn yn dod yn ôl i Gymru hefyd ddegawd yn ddiweddarach. Rwy'n credu bod hynny'n beth da. Rwy'n amau rywsut ei fod ef a'i blaid yn arddel yr un farn. Credaf y dylai pobl ifanc sy'n cael eu magu yng Nghymru fod â phob cyfle o'u blaenau, y dylen nhw feddwl am y byd fel rhywle lle gallan nhw weld eu dyfodol. A gwyddom y byddan nhw yn cyrraedd pwynt yn eu bywydau pan fyddan nhw eisiau dod yn ôl i Gymru, lle byddan nhw eisiau magu teuluoedd yma yng Nghymru, a byddan nhw'n dod â'r holl brofiadau y maen nhw wedi'u cael mewn mannau eraill yn ôl i Gymru. Credaf fod hynny o fantais i ni, nid yn anfantais. Nid wyf yn credu mai ceisio sefydlu system gyda'r nod o gadw pobl ifanc yma yng Nghymru, yn hytrach na chaniatáu iddyn nhw eu gweld eu hunain fel dinasyddion ehangach y byd, fydd y ffordd orau o sicrhau ein dyfodol.
Doeddwn i ddim yn chwilio am raniad yma heddiw; roeddwn yn chwilio am gonsensws, a dweud y gwir. Mae bod â merch ym Mharis ar hyn o bryd, wedi graddio o Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain, ar ôl byw yn yr Eidal fy hun, ar ôl treulio amser yn byw yn Llundain fy hun—. Nid ydym yn arddel cau'r drysau i'n pobl ifanc a dweud wrthyn nhw am beidio â gadael, ond y gwir amdani yw bod gormod ohonyn nhw yn dewis peidio â dod yn ôl i Gymru. Ac mae'r rhai sydd yn dod, wel, gwrandwch, rydym eisiau iddyn nhw gyrraedd eu potensial er eu mwyn eu hunain ac er mwyn ein heconomi hefyd, gan ddenu'r gorau i Gymru, fel y dywedais i.
Nawr, ym mis Mawrth, roedd prifddinas-ranbarth Caerdydd yn brolio am lefelau cyflog cymharol isel graddedigion yng Nghaerdydd o'u cymharu â rhannau eraill o'r DU. Dywedon nhw fod graddedigion yng Nghaerdydd yn cael eu talu tua 20 y cant yn llai, £6,000 yn llai y flwyddyn, na'r rhai yn Glasgow. Nid wyf yn siŵr a ydyn nhw'n disgwyl i ni fod yn falch o hynny rywsut, ond yr oedd yn sarhaus i'n talent ifanc—dewch i Gaerdydd, mae ein graddedigion yn rhad. Maen nhw'n mynd drwy ddigon o gyfnodau caled fel y mae, wedi bod drwy COVID ac yn awr yn wynebu'r argyfwng costau byw. Rhaid i raddedigion o Gymru gael eu gwerthfawrogi'n fwy na llafur rhad os yw draen dawn Cymru i'w wrthdroi. Ac mae yna ddraen dawn, ac os ydych chi'n ddidaro ynghylch colli ein talent, talent efallai na ddaw yn ôl, sy'n digwydd yn aml, mae gwir angen i chi feddwl eto. A yw'r Prif Weinidog yn credu mai hyrwyddo economi cyflog isel yw'r ffordd orau o hybu dyheadau pobl ifanc yng Nghymru, oherwydd nid ydym ni ar y meinciau hyn yn gwneud hynny?
Wel, Llywydd, fe geisiaf fod yn gydsyniol hefyd, oherwydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod gwerthu Cymru fel economi cyflog isel yn bolisi aflwyddiannus o gyfnod Thatcher, ac nid ydym yn bwriadu ail-greu hynny heddiw. Mewn gwirionedd, cynhyrchodd prifddinas-ranbarth Caerdydd restr o ddinasoedd lle mae cyflogau graddedigion yn wahanol—mannau lle mae Cymru'n cynnig mwy na rhai dinasoedd a mannau lle mae Caerdydd yn cynnig llai. Dyna'r gwir amdani. A dwi ddim yn credu y dylem ni gasglu o hynny eu bod nhw'n ceisio denu pobl yma oherwydd ein bod ni'n lle rhad i fyw. Y darlun o'r brifddinas-ranbarth yw bod Cymru'n lle gwych i ddod i fyw, nid yn unig am ein bod yn cynnig swyddi a chyfleoedd ar lefel graddedigion i bobl wneud gyrfaoedd, ond am ein bod yn cynnig cymaint mwy na hynny hefyd.
Nawr, byddwn ni'n anghytuno ar y mater sylfaenol o ran a yw'n dda i Gymru fod ein pobl ifanc yn cael profiadau mewn mannau eraill, ac nid wyf i'n credu ei fod yn ffeithiol gywir, ychwaith, i ddweud nad ydym yn gwneud yn dda o ran denu pobl yn ôl i Gymru ar yr adeg y maen nhw yn dymuno dychwelyd a'u bod yn dymuno gwneud y cyfraniad hwnnw i'n heconomi. Rwyf eisiau i Gymru fod yn rhywle sy'n edrych tuag allan ac yn hyderus fel cenedl—lle mae pobl eisiau dod, eisiau setlo, eisiau byw ac eisiau gweithio am yr holl resymau sy'n gwneud y lle hwn mor arbennig. A chredaf ei bod yn bosibl llwyddo i wneud hynny, ac nid wyf yn credu bod y sôn am ddraeniau dawn a phobl yn gadael ac ati yn ein helpu ni mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Nid yw'n ein helpu ni pan gaiff ei bortreadu fel pe bai Cymru rywsut yn rhywle lle mae pobl yn methu â chael y math hwnnw o ddyfodol, oherwydd nid dyna'r math o Gymru sydd gennym nac y dymunwn ei gweld yn y dyfodol.
Cwestiwn 3, Hefin David.
Clywch clywch. Dyma ni'n mynd.
Pa gefnogaeth y mae—[Chwerthin.] Mae'n ddrwg gen i. Roedd Alun Davies yn bod yn wirion iawn yn y fan yna; fe wnaeth i mi chwerthin.
Mae'r datganiad yna wedi'i gofnodi nawr. [Chwerthin.]
Ie. [Chwerthin.] Ac yn hollol fwriadol felly, NoContextSenedd.