3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Gyngor Decach

– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 12 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:49, 12 Gorffennaf 2022

Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: treth gyngor decach. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:50, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein rhaglen lywodraethu ni a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ymrwymo i wneud diwygiadau i'r dreth gyngor i'w gwneud hi'n decach ac yn fwy blaengar. Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddais i y byddwn i'n ymgynghori eleni ar becyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i fod yn fan cychwyn ar daith tuag at gyflawni'r nodau hynny. Fe ddaeth ein gwaith cyhoeddedig ni'r llynedd i'r casgliad, ar gyfer cyflawni'r nodau hynny yn y tymor byrrach, y byddai angen i ni ystyried ailbrisio i ganiatáu i ni newid y bandiau a'r cyfraddau treth. Fe dynnodd hynny sylw hefyd at yr angen i ni wella ein cynllun cymorth cenedlaethol ni ac archwilio'r fframwaith ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, fe fyddwn ni'n parhau i weithio ar ffyrdd amgen o godi trethi lleol a allai rannu'r baich gyda mwy o degwch i'r dyfodol, fel treth leol ar werth tir.

Rwy'n mynd ati'n raddol i gynllunio system newydd oherwydd rwy'n awyddus fod gan bawb y cyfle i gyfrannu at y gwaith hwn. Mae'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei lansio heddiw yn nodi map ffordd. Mae'n cynrychioli cam 1 o sgwrs aml-lwyfan, gan geisio barn mewn ffordd sy'n agored a chydweithredol. Fe fyddaf i'n ystyried popeth a fyddwn ni'n ei ddysgu o'r cam hwn, ac yn gobeithio bod mewn sefyllfa i lansio ymgynghoriad ar gynigion manwl yng ngham 2 y flwyddyn nesaf. Mae'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei lansio heddiw yn anelu at system deg a blaengar sy'n cydbwyso baich y dreth o'r newydd ar aelwydydd, yn ariannu gwasanaethau sydd o fudd i bawb, a bod yn dreth sy'n cysylltu pobl â chymunedau, ac sydd wedi cael ei llunio i gael ei diweddaru yn rheolaidd er mwyn iddi barhau i fod yn deg yn y dyfodol.

Rwyf i wedi gweithio yn agos gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell AS, ar y flaenoriaeth hon a rennir gennym ni. Rwyf i wedi parhau i gwrdd ag arweinwyr llywodraeth leol i gasglu safbwyntiau o bob rhan o Gymru. Rwyf i wedi sefydlu trefniadau llywodraethu, ac rydym ni'n ymgysylltu â phartneriaid sy'n allweddol i gyflawni'r hyn yr oeddem ni'n bwriadu ei gyflawni. Mae'r rhain yn cynnwys ymarferwyr yn yr awdurdodau lleol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Rydym ni wedi parhau i weithio gyda sefydliadau arbenigol uchel eu parch yn y maes hwn, gan gynnwys y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.

Mae yna lawer iawn o bethau cadarnhaol ynglŷn â'r system treth gyngor na ddylem ni golli golwg arnyn nhw. Mae hi wedi sefyll prawf amser ers y 1990au ac mae hi'n cynrychioli democratiaeth leol ar waith. Yn gyffredinol, mae hi'n dreth effeithlon a sefydlog iawn, sy'n codi £2 biliwn yn flynyddol ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol—gwasanaethau na allwn ni wneud hebddyn nhw. Mae ei chostau gweinyddol hi'n isel hefyd, mae trethdalwyr yn ei deall hi'n dda, ac mae ei sail sylfaenol hi, sef gwerth tai, yn gallu bod yn effeithiol wrth ddangos yn fras faint o arian sydd gan bobl o'u cymharu nhw ag eraill. Serch hynny, rwy'n cydnabod nad yw hi'n berffaith. Mae'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn rhoi baich treth cymesur uwch ar bobl sydd â lefelau is o gyfoeth. Fel gŵyr yr Aelodau, mae pob eiddo yng Nghymru sy'n atebol am y dreth gyngor yn cael ei roi mewn un o naw band, yn seiliedig ar werth eiddo ym mis Ebrill 2003. Mae hyn yn golygu bod y dreth wedi dyddio ar ôl bron i 20 mlynedd, ac nid yw'r hyn a dalwn ni'n adlewyrchu ein hamgylchiadau ni erbyn hyn. Mae swm y dreth gyngor a godir am eiddo band I dair gwaith a hanner cymaint â band A, ond fe allai cartrefi yn y band uchaf fod yn werth mwy na naw gwaith cymaint â'r rhai yn y band isaf. Mae'r Llywodraeth hon o'r farn y dylid cynnal ailbrisiad, ac fe ddylem ni anelu at weithredu strwythur newydd ar gyfer y dreth gyngor yn seiliedig ar brisiadau mwy cyfredol. Pe byddem ni'n gwneud felly, mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar wneud hynny o fis Ebrill 2025.

Er bod prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol ers 2003, rwy'n awyddus i egluro nad yw hyn yn golygu y bydd y dreth gyngor yn cynyddu i bawb. Fe fydd y system a fyddwn ni'n ei chynllunio hi'n parhau i fod yn un sy'n gymharol. Mae ymchwil flaenorol yn awgrymu y byddai hyd at 75 y cant o aelwydydd naill ai'n gweld dim effaith neu y bydden nhw'n gweld eu biliau nhw'n gostwng. Rwy'n dymuno bod yn eglur hefyd nad diben ailbrisio yw cynyddu'r cyfanswm a godir oddi wrth y trethdalwyr, ond ar gyfer ailddosbarthu'r baich i sicrhau cyfiawnder a chywirdeb y system. Fe fyddai'r ymarfer hwn yn rhoi cyfle i ychwanegu bandiau at ben uchaf neu at waelod y raddfa, ac fe allai hynny helpu i greu cyfraddau treth sy'n fwy blaengar. Fe fydd yna bwyntiau pellach pan fyddwn ni'n gallu ystyried y ffordd orau o ailgynllunio'r system. O 2025 ymlaen, ac am y tro cyntaf yn hanes y dreth gyngor, rydym ni'n awyddus i gyflwyno ailbrisiadau treigl i osgoi'r afluniadau o ran biliau yr ydym ni'n gwybod y gallan nhw ddigwydd pan gaiff diweddariadau eu gohirio dros flynyddoedd lawer. Rydym ni'n dymuno cyflwyno cylch ailbrisio nid yn unig i roi eglurder i drethdalwyr a chyrff cyflenwi, ond i sicrhau bod baich y dreth gyngor yn cael ei ailddosbarthu gyda thegwch a hynny'n rheolaidd.

Gan symud ymlaen at ein system ni o roi cymorth gyda'r dreth gyngor i aelwydydd ar incwm isel, o heddiw ymlaen byddaf yn gofyn am farn ar wella ein cynllun cenedlaethol ni i leihau'r dreth gyngor. Rwy'n falch ein bod ni wedi parhau i gynnal yr hawliau i ostyngiadau ar gyfer tua 270,000 o aelwydydd sy'n agored i niwed ac ar incwm isel. Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, mae cefnogaeth o'r math hwn hyd yn oed yn fwy allweddol i filoedd o aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd. Ond fe ellid gwella'r nifer sy'n elwa ar y cynllun. Mae'r rheoliadau yn gymhleth, ac rydym ni'n cael ein rhwystro rhag gwneud newidiadau yn ystod y flwyddyn pan fo angen. Wrth i'r broses o gyflwyno graddfeydd credyd cynhwysol ddatblygu, mae hynny'n cymhlethu pethau ymhellach o ran y ffordd y mae pobl yn gwneud cais am gymorth a'r ffordd y caiff maint eu taliadau eu cyfrifo. Rwy'n awyddus i gasglu barn ymarferwyr ymysg eraill ynglŷn â sut y gallwn ni symleiddio neu foderneiddio'r cynllun i'w gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl gael gafael arno.

Elfen allweddol arall o'r ymgynghoriad yw canolbwyntio ar ostyngiadau ac eithriadau'r dreth gyngor. Mae llawer o'r trefniadau presennol wedi bodoli ers 1993. Mae rhai yn helpu i gydnabod amgylchiadau'r cartref a gallu pobl i dalu, ac mae rhai yn gwneud synnwyr ymarferol o safbwynt casglu trethi. Rwy'n awyddus i sicrhau bod ein penderfyniadau ni'n rhai teg ac yn rhai sy'n addas ar gyfer system fodern. Mae angen iddi fod yn hawdd i ymarferwyr ei gweinyddu hi ac yn eglur i bobl ei deall hi. Rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau yn hyn o beth drwy ein hymgynghoriad ni. Mae'r ymgynghoriad y gwnes i ei lansio heddiw yn chwilio am farn o ran llwybr uchelgeisiol tuag at newid. Dyna pam mae angen i'r diwygiadau hyn fod yn rhan o sgwrs genedlaethol, ddinesig gyda phobl Cymru. Fe hoffwn i sicrhau'r Aelodau a'r cyhoedd heddiw, os byddwn ni'n ymgymryd â'r diwygiadau yr ydym ni'n gofyn am farn ynglŷn â nhw, y byddem yn ystyried trefniadau trosiannol a anelir ar gyfer y rhai y gallai fod angen amser arnyn nhw i ymgyfarwyddo ag unrhyw newidiadau.

Yn olaf, rwy'n dymuno bod yn eglur iawn: ni fydd unigolion yn gweld unrhyw newidiadau yn syth i'w biliau nhw o ganlyniad i'r ymgynghoriad yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw. Mae llawer iawn o waith gennym ni i'w wneud cyn y gellir cyflwyno diwygiadau. Fe fydd y diwygiadau hyn yn ymrwymiadau sylweddol y bydd angen amser deddfwriaethol arnyn nhw a chefnogaeth gan Aelodau o bob rhan o'r Senedd hon. Rwy'n croesawu'r holl sylwadau ar gam 1 ein hymgynghoriad, ac fe fyddaf i'n rhoi gwybod i'r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw ynglŷn â threth gyngor decach, un yr wyf i wedi bod yn edrych ymlaen ato ac rwy'n siŵr fod llawer ohonom ni wedi bod yn edrych ymlaen ato hefyd? A gaf i hefyd groesawu cydbwysedd eich sylwadau chi o ran cydnabod rhai o elfennau cadarnhaol y dreth gyngor fel mae hi ar hyn o bryd? Rwy'n credu i chi ddweud y ceir llawer iawn o bethau cadarnhaol yn y system treth gyngor na ddylem ni golli golwg arnyn nhw, a'i bod hi wedi sefyll prawf amser ers y 1990au ac yn cynrychioli democratiaeth leol ar waith, ac rwy'n siŵr y byddai'r ddau ohonom ni'n awyddus i weld hynny'n parhau. Yn ogystal â hynny, rwy'n cydnabod eich pwynt chi wrth dynnu sylw at rai gwelliannau yn y system a allai ac a ddylai ddigwydd hefyd.

Wrth ymateb i'ch datganiad chi heddiw, Gweinidog, fe hoffwn i groesawu'r ffaith hefyd eich bod chi'n ymgynghori ar ddyfodol y dreth gyngor yma yng Nghymru. Fel gwyddom ni, mae'r dreth gyngor yn effeithio ar bob aelwyd ar hyd a lled Cymru, ac mae hi'n hanfodol bwysig ein bod ni'n annog cynifer o bobl â phosibl i ymgysylltu ag unrhyw broses o newid, gan gynnwys un sy'n ymwneud â'r dreth gyngor. Ond, un pryder sydd gennyf i o ran ymgynghoriadau, Gweinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi yn hyn o beth o bryd i'w gilydd, yw nad ydym ni'n aml yn cael ymateb sy'n ddigon cynhwysfawr, gyda llawer o rannau o'n cymuned ni'n dal yn ôl. Felly, yng ngoleuni hyn, tybed pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd yr ymgynghoriad hwn yn sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael eu cynnwys a bydd eu llais yn cael ei glywed.

Yn ail, Gweinidog, fel gwyddom ni o'ch datganiad chi heddiw, bydd cynnig y dreth gyngor yn arwain at ailbrisiad llwyr o bob un o'r 1.5 miliwn o dai sydd yng Nghymru, gyda'r nod o sicrhau bod prisiadau yn gyfredol a bod pobl yn talu'r swm priodol o dreth gyngor. Yn sicr, fe fyddem ni'n dymuno gweld yr wybodaeth fwyaf cyfredol bosibl. Rwyf innau'n cytuno â hynny. Wrth gwrs, yr ailbrisio hwn fydd y cyntaf ers 2003 yng Nghymru, ac roedd hwnnw'n ddadleuol ar y pryd, oherwydd fe gafodd un o bob tair aelwyd fil uwch nag yr oedden nhw'n ei dalu o'r blaen. Mae hi'n hanfodol bwysig bod unrhyw newid yn arwain at newid teg i dalwyr y dreth gyngor ac na fydd yn gorfodi unrhyw un i ddioddef colled ariannol ddirfawr. Felly, yn ogystal â hynny, mae hi'n hanfodol bod y rhai sydd ar incwm sefydlog, fel pensiynwyr, nad oes ganddyn nhw incwm sylweddol o bosibl yn gymesur â gwerth eu tai nhw, yn cael eu hystyried mewn ffordd briodol hefyd. Felly, Gweinidog, sut ydych chi am sicrhau na fydd unrhyw ailbrisio yn gweld yr un camgymeriadau ag yn 2003, ac na fydd teuluoedd sy'n gweithio'n galed a'r rhai ar incwm sefydlog yn cael eu taro gyda biliau uwch fel hyn?

Ac yn olaf, Gweinidog, rwy'n sylwi o ddatganiad heddiw eich bod chi'n defnyddio'r term 'treth gyngor decach' nawr, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn gefnogol i'r syniad hwnnw, ond roeddech chi'n sôn o'r blaen am ddiwygio'r dreth gyngor, roeddech chi'n bwriadu cyflawni mwy yn eich datganiadau blaenorol, efallai. Ac rwy'n meddwl tybed ai'r rheswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru o'r farn erbyn hyn nad yw eich cynigion chi'n golygu digon o newid i alw hynny yn ddiwygio gwirioneddol. Gweinidog, rwy'n sicr yn gallu derbyn bod angen rhywfaint o adolygu ar y system dreth gyngor bresennol. Eto i gyd, nid wyf i'n siŵr a yw eich cynigion presennol chi'n ddiwygiadau gwirioneddol. Felly, yng ngoleuni eich ymgynghoriad chi, tybed a ydych chi'n gweld unrhyw ddewisiadau eraill yn hytrach nag ailbrisio, ac ychydig o fandiau ychwanegol a gynigir hefyd. Er enghraifft, yn yr ymgynghoriad, fe allem ni weld awgrymiadau fel treth eiddo gyfrannol, y gwn i y byddai rhai Aelodau yn y Siambr hon yn ei chefnogi, neu dreth incwm leol, er enghraifft, neu hyd yn oed treth gyngor sy'n gysylltiedig ag effeithlonrwydd ynni eich cartref chi efallai i helpu i gymell pobl i wneud eu tai nhw'n fwy effeithlon o ran ynni.

Felly, yng ngoleuni hyn, pa asesiad a wnaethoch chi o ddewisiadau amgen gwirioneddol y gellir eu tynnu nhw o'r ymgynghoriad, ac os felly, a fyddech chi'n ymrwymo i archwilio'r rhain eto fel gall yr ymgynghoriad fod mor benagored â phosibl? Ac rwy'n siŵr, Gweinidog, yr ydych chi'n gwybod ar yr ochr hon i'r meinciau, fod gennym ninnau syniadau rhagorol ar gyfer diwygio—efallai na fyddech chi'n cytuno â nhw bob amser—ac rwyf innau, wrth gwrs, yn hapus i weithio gyda chi i ystyried y rhain, ac yn edrych ymlaen at yr ymgysylltiad parhaus hwnnw. Diolch yn fawr iawn i chi.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:01, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am ei gyfraniad ef y prynhawn yma, a'i awydd i gydweithio ar agenda sydd mor bwysig o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Mae'n debyg mai'r rheswm pam rydym ni wedi cyfeirio at ein hymgynghoriad fel ymgais i wneud y dreth gyngor yn decach, yn hytrach na diwygio'r dreth gyngor ynddi ei hun, yw oherwydd mai 'mwy o degwch' yw'r hyn yr ydym ni'n ei geisio, a'r 'diwygio', os mynnwch chi, yw'r ffordd yr ydym ni'n ymgyrraedd at hynny.

Rwyf i am ddechrau gyda'r pwynt y gwnaethoch chi orffen arno, mewn gwirionedd, o ran edrych ar ffyrdd eraill o sicrhau gwelliant o ran tegwch yn y dreth gyngor. Wrth gwrs, yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, fe wnaethom ni lawer iawn o ymchwil a oedd yn edrych yn gyfan gwbl ar hynny, mewn gwirionedd, o ran gwahanol ddewisiadau ar gyfer diwygio. Fe wnaethom ni ymgysylltu ag arbenigwyr yn y maes drwy'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd ymysg eraill, ac fe edrychwyd ar nifer o ffyrdd y gallem ni fwrw ymlaen â'r agenda hon. Un ohonyn nhw oedd y dreth incwm leol yr oeddech chi'n cyfeirio ati hi, ac fe wnaethom ni ddiystyru honno am nad oedd ganddi rai o'r manteision y dechreuodd Sam Rowlands sôn amdanyn nhw yn ei gyfraniad ef, yn yr ystyr bod y dreth gyngor yn seiliedig ar eiddo, sy'n ased sefydlog, sy'n syml ei deall, mae hi'n anodd cuddio eich eiddo ac ati. Felly, rwyf i o'r farn fod rhai manteision yn bendant i'w cael drwy system sydd ar sail eiddo.

Rydym ni wedi ystyried treth gwerth tir bosibl hefyd, ac fe wnaeth Prifysgol Bangor rywfaint o ymchwil i ni yn y cyswllt hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i edrych ar y syniad hwnnw, nid yn unig i ddisodli'r dreth gyngor ond ar gyfer ardrethi annomestig hefyd, er fy mod i o'r farn ei bod hi'n dra chydnabyddedig ei bod hi'n anos gwneud hynny ar gyfer ardrethi annomestig. Ond rydym ni'n parhau â'r gwaith hwnnw, gan archwilio sut ffurf allai fod i raglen hirdymor i ddiwygio o bosibl, ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn y byrdymor o ran yr agenda i ddiwygio'r dreth gyngor.

Rydym ni hefyd wedi bod yn ymwybodol iawn o'r ailbrisio a'i effaith. Fel dywed Sam Rowlands, mae tua 1.5 miliwn o anheddau domestig yng Nghymru yn agored i'r dreth gyngor ar hyn o bryd, ac mae pob un yn cael ei roi yn un o'r naw band hynny. Fe fydd ailbrisio yn diweddaru band treth pawb, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl sy'n cymryd diddordeb yn hyn eisoes gydnabod nad yw'r ffaith fod gwerth eich eiddo chi wedi cynyddu ers yr ailbrisiad diwethaf yn golygu, o reidrwydd, y bydd eich treth gyngor chi'n codi, oherwydd ni fydd y defnydd cyffredinol o'r dreth gyngor yn cynyddu; nid hynny yw pwrpas yr ymarfer hwn—mae'n ymwneud ag ailddosbarthiad ledled y bandiau sy'n golygu mwy o degwch.

Rwy'n credu, unwaith eto, fod Sam Rowlands yn iawn o ran cydnabod effaith trefniadau trosiannol. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, yn ystod yr ailbrisiad diwethaf, pan ddaeth i rym yn 2005, i ni fod yn rhy hwyr, mae'n debyg, wrth gyflwyno'r syniad o drefniadau trosiannol. Rydym ni'n gwneud hyn yn iawn o'r cychwyn cyntaf nawr i ystyried sut ffurf y dylai fod i'r trefniadau trosiannol hynny, oherwydd dyna un o'r gwersi a ddysgwyd gennym ni'n sicr o'r ymarfer ailbrisio diwethaf.

Rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni'n ystyried ychwanegiadau at fandiau a chynnal yr ymarfer ailbrisio yn bwysig, ond nid wyf i o'r farn y dylem ni golli golwg ar bwysigrwydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran adolygu ein proses o ddiystyru ac eithrio, oherwydd fe fydd hyn yn hollbwysig o ran sicrhau ein bod ni'n estyn y gyfradd gywir o gymorth i'r rhai sydd ei angen, ochr yn ochr â'r adolygiad o'n cynllun ni i gynnig gostyngiadau yn y dreth gyngor, oherwydd rydym ni'n awyddus i barhau i gefnogi'r aelwydydd hynny y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw.

O ran yr ailbrisio blaenorol, fe gawsom ni'r ffigurau gan Sam Rowlands o ran sut yr effeithiwyd ar aelwydydd yn y gorffennol. Fe wyddom ni o'r gwaith a wnaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid pe byddem ni'n ailbrisio gan gadw'r naw band sydd gennym ni ar hyn o bryd, y byddai tua chwarter yn symud i fandiau uwch, byddai chwarter yn symud i fandiau is ac fe fyddai tua hanner yn aros yr un fath. Ond fe gynhaliwyd yr ymchwil hwnnw cyn y pandemig, ac felly rydym ni wedi gofyn i'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wneud darn arall o ymchwil i ddiweddaru hwnnw er mwyn i ni fod â gwell dealltwriaeth o'r goblygiadau yn hyn o beth.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Mae'n dda gweld yn y datganiad nifer o brif elfennau polisi diwygio treth gyngor Plaid Cymru, wrth gwrs—yr hyn oedd gennym ni yn ein maniffesto—yn enwedig o gwmpas ailbrisio; cynyddu nifer y bandiau, yn enwedig ar ben uchaf gwerthusiadau tai; a hefyd, wrth gwrs, sicrhau nawr fod y dreth gyngor yn dod yn fwy cymesur â gwerth eiddo.

Mae'r cymhelliad i ddiwygio yn glir, onid yw e? Mae'r system bresennol wedi dyddio; i bob pwrpas, mae'n etifeddiaeth o gyfnod Thatcher. Hon yw'r dreth fwyaf regressive yn yr ynysoedd yma, sy'n codi bron i bedair gwaith cymaint o gyfran o gyfoeth ar y tlotaf o gymharu â'r cyfoethocaf. Felly, mae'n hen bryd ailddosbarthu'r baich yna yn decach ar draws cymdeithas a sicrhau bod y rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf yn cario ychydig mwy o'r baich hwnnw.

Jest i bigo lan ar rai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud, wrth gwrs, mae'n dda gweld y pwyslais, fel roeddech yn ei ddweud, Weinidog, ar wella'r cynllun cefnogi cenedlaethol ac edrych ar y fframwaith ar gyfer y disgowntiau ac eithriadau, oherwydd mi fydd nifer o bobl yn poeni, wrth gwrs, yn enwedig, efallai, pobl mewn oed, fod gwerth eu heiddo nhw ddim o reidrwydd yn adlewyrchu eu gallu nhw i dalu. Felly, y cwestiwn cyntaf gen i yw: pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r rheini y bydd eu hamgylchiadau nhw yn cael eu hystyried yn llawn fel rhan o'r ymgynghoriad yma? Ond hefyd, wrth gwrs, ar y llaw arall, beth yw'ch neges chi i awdurdodau lleol lle mae yna ddiboblogi a lle mae yna boblogaeth sy'n heneiddio, sydd, wrth gwrs, yn ffactorau all effeithio yn sylweddol ar y dreth a fydd yn cael ei chasglu yn yr ardaloedd hynny? Tra'n derbyn bod hwn yn ymarferiad a fydd, fel rŷch chi'n ei ddweud, yn refeniw niwtral, mae angen hefyd sicrhau bod awdurdodau lleol unigol ddim yn colli allan pan fo'n dod i sicrhau'r refeniw i gynnal y gwasanaethau allweddol rŷn ni gyd eisiau eu gweld.

Mae pobl yn cwyno bod y system bresennol yn annheg, ac mae hynny'n gywir, oherwydd mae pobl yn gweld hefyd amrywiaeth amlwg ym miliau'r dreth gyngor ledled Cymru, ac mae'r system yn anghyson. Dwi wedi cyfeirio yn y Siambr hon o'r blaen am lefydd fel pentrefi Ystradowen a Chwmllynfell, sydd tua 100 llath oddi wrth ei gilydd ond mae yna wahaniaeth o gannoedd o bunnoedd rhwng eu biliau priodol. Felly, mae rhywun yn ymwybodol bod yna anghysondeb ac annhegwch. I ba raddau ydych chi'n rhagweld y bydd y broses yma o bosib yn trio mynd i'r afael ag ychydig o hynny, wrth gwrs yn amddiffyn integriti awdurdodau lleol i godi'r refeniw y maen nhw ei angen drwy'r dreth gyngor? Does dim dianc o'r ffaith bod yna densiynau o safbwynt yr amrywiaeth y mae pobl yn ei weld o un rhan o'r wlad i'r llall.

Wrth gwrs, mae'r polisi a'r newid arfaethedig yma yn fwy amserol nag erioed wrth inni wynebu'r creisis costau byw. Fe all diwygiadau i'r dreth gyngor—. Y bil treth gyngor, wrth gwrs, yw un o'r biliau mwyaf sylweddol y mae cartrefi yn ei wynebu bob blwyddyn. Mi all y diwygiadau fod yn gam radical i helpu llawer o'n haelwydydd ni i ymdopi'n well â'r hyn maen nhw'n ei wynebu. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, fod ôl-ddyledion treth gyngor wedi profi i fod yn un o elfennau mwyaf dyled cartref.

Roeddech chi'n sôn, wrth gwrs, ac rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth rŷch chi'n ei rhoi, ynglŷn â'r hyn roeddech chi'n ei alw'n targeted transitional arrangements, ac rŷch chi wedi ymateb i hynny, i raddau, yn barod, ond sut fyddwch chi'n delio, efallai, ag ôl-ddyledion yn benodol wrth symud o un gyfundrefn i'r gyfundrefn newydd? Ac, wrth gwrs, yn y tymor hirach, i ba raddau all unrhyw gynlluniau newydd, neu ddull newydd o gwmpas y dreth gyngor, osgoi sefyllfaoedd lle mae'r ôl-ddyledion yma yn adeiladu i fyny i'r fath raddau yn y lle cyntaf? 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:10, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr Gruffydd am ei sylwadau ef heddiw, a thrwy Llyr fe hoffwn i ddiolch i Cefin Campbell am y gwaith rhagorol, a wnaethom ni, rwy'n credu, gyda'n gilydd, o ran y maes penodol hwn o'n cytundeb cydweithio ni, ac am ei ymagwedd wirioneddol adeiladol ef a'r syniadau a'r her a gyflwynodd i'r gwaith hyd yn hyn. Fe wn i fod llawer mwy i'w wneud gennym ni eto yn hyn o beth, oherwydd, fel dywedais i, dim ond y cam cyntaf o'n hymgynghoriadau yw hwn, a dyna pam mae hi mor bwysig ein bod ni'n edrych ar draws ystod eang o faterion, a ddisgrifiodd Llyr Gruffydd heddiw, a'r cyntaf yw cynllun ar gyfer gostyngiadau i'r dreth gyngor ac archwilio beth yw ein cynlluniau ni ar gyfer diwygio hwnnw. Rwyf i o'r farn y byddai gwneud cynllun ehangach y dreth gyngor yn rhywbeth mwy blaengar yn lleihau'r galw am gymorth drwy ein cynllun gostyngiadau i'r dreth gyngor, ond rydym ni'n dal i ddisgwyl y bydd angen parhaus i gefnogi aelwydydd incwm isel gyda'u biliau treth gyngor nhw, sef un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n ymholi o ran pa newidiadau y gallai fod eu hangen i'r cynllun yn y dyfodol.

Ein nod ni, wrth gwrs, yw cefnogi'r rhai sydd â'r angen amdano, ac mae'n rhaid i ni ystyried yr amodau ehangach, fel cyflwyno credyd cynhwysol, sydd wedi cael effaith fawr ar y dreth gyngor a'r cymhwysedd i gael cymorth, a hefyd, wrth gwrs, y newidiadau i'r economi ehangach. Rydym ni'n awyddus i fanteisio ar y cyfle i wella dyluniad y cynllun i'w gwneud hi'n haws i'w weinyddu ef ac yn amlwg ei gwneud hi'n symlach i bobl gael gafael ar y cymorth y mae ganddyn nhw'r hawl iddo yn y lle cyntaf. Ar hyn o bryd mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn cefnogi 270,000 o aelwydydd gyda'u biliau nhw ac mae dros 210,000 ohonyn nhw'n talu dim o gwbl tuag at y dreth gyngor oherwydd y cymorth yr ydym ni'n gallu buddsoddi ynddo. Mae tua 20 y cant o aelwydydd, felly, yn cael rhywfaint o help gyda'u biliau nhw, ond fe wyddom ni fod y dirwedd yn newid trwy'r amser yn hyn o beth, ac felly mae angen i ni roi ystyriaeth i hyn yn rhan o'n hymgynghoriad ni. Mae rhai cwestiynau penodol ar hyn yn yr ymgynghoriad, a fydd yn ein helpu i ddeall y ffordd orau ymlaen.

Yna, hefyd, fe soniwyd am ostyngiadau ac eithriadau. Mae'r dirwedd bresennol yn gymhleth iawn yn hyn o beth, ac mae'r gostyngiadau a'r eithriadau wedi tyfu yn raddol ers sefydlu'r dreth gyngor yn 1993, felly rwy'n credu bod yr adolygiad hwn o'r materion hyn yn hynod amserol, yn fy marn i, o ran deall pa newidiadau y gallem ni fod yn awyddus i'w gwneud. Rwy'n credu ei bod hi'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud beth allai'r newidiadau hynny fod. Mae'n rhaid i ni ymgymryd â'r gwaith sydd gennym ni. Mae'n rhaid inni wrando ar bobl drwy gyfrwng yr ymgynghoriad. Ond rydym ni wedi sefydlu gweithgor o swyddogion ac ymarferwyr yn yr awdurdodau lleol dan arweiniad arbenigwyr i helpu i ystyried yr agwedd benodol hon ac ystyried yr adolygiad o'r trefniadau cyfredol. Ar hyn o bryd, mae tua 37 y cant o anheddau yn gallu cael un neu ragor o ostyngiadau ar hyn o bryd, ac mae 4 y cant o anheddau wedi cael eu heithrio, felly dyna gyfanswm o bron i 600,000 o'n 1.5 miliwn ni o dai yng Nghymru, felly mae hi'n amlwg bod llawer o waith eto i ni ei wneud i sicrhau cywirdeb yr eithriadau a'r gostyngiadau yn y dyfodol. Fe fydd rhai o'r newidiadau hyn yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol; er enghraifft, pe byddem ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r gostyngiad un oedolyn, fe fyddai hynny'n gofyn deddfwriaeth sylfaenol, er enghraifft.

Rwyf i o'r farn y gwnaethpwyd y pwyntiau ynglŷn â dyledion ac ôl-ddyledion yn effeithiol iawn hefyd. Rydym ni wedi cyflwyno protocol y dreth gyngor ar gyfer Cymru, sy'n ffordd i ni geisio adeiladu'r arfer da hwnnw wrth gasglu'r dreth gyngor mewn llywodraeth leol. Lluniwyd hwnnw ar y cyd â llywodraeth leol ac fe'i cymeradwywyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chytunodd pob un o'r 22 awdurdod arno. Ond erbyn hyn rydym ni wedi dechrau adolygu a gwerthuso rhai o'r camau allweddol y gwnaethom ni eu cymryd yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf i geisio sicrhau bod pobl yn gallu ymdrin â dyledion a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, mae honno'n rhan bwysig o'r ymgynghoriad, ac, unwaith eto, fe geir materion ynglŷn â dyled ac ôl-ddyledion.

Yn olaf, rwy'n credu bod y pwyntiau yn wirioneddol bwysig ynglŷn â'r awdurdodau lleol a'r effaith arnyn nhw, oherwydd, wrth gwrs, mae natur y sylfaen drethi yn wahanol ledled Cymru, ac mae ein hymgynghoriad ni'n cydnabod ac yn rhoi ystyriaeth i hynny. Felly, fe fyddwn ni'n dadansoddi effeithiau ailbrisio ar awdurdodau lleol ar ôl i ni gael yr wybodaeth ychwanegol honno, y cyfeiriais i ati, am Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn diweddaru'r ffigurau, gan wneud hynny cyn y pandemig, ac fe fydd hynny'n ein helpu ni i gael golwg manylach ar Gymru a'r goblygiadau posibl. Ond mae hi'n wir, yn fy marn i, y byddai'r diwygiadau a amlinellir yn newid natur y sylfaen drethi yn anochel ym mhob ardal, ac felly mae'r ymgynghoriad yn cynnig wedyn y byddai cyllid ar gyfer awdurdodau drwy'r grant cynnal refeniw yn cael ei ailddyrannu yn ôl y sylfaen dreth ddiweddaraf. Rwy'n credu mai honno yw'r ffordd decaf o wneud hyn. Ond, unwaith eto, mae angen i ni ystyried pa drefniadau trosiannol y gallai fod eu hangen nhw ar lywodraeth leol yn y cyswllt hwn.

Felly, maes pwysig arall o'r ymgynghoriad lle yr ydym ni'n awyddus i glywed oddi wrth lywodraeth leol ac eraill, ac rwy'n credu na wnes i ymateb i'r pwynt a wnaeth Sam Rowlands yn gynharach am bwysigrwydd ehangder yr ymgynghoriad, felly mae'n amlwg y bydd gan lywodraeth leol farn gref ynglŷn â'r elfen arbennig honno o'r ymgynghoriad, ond fe gyfeiriodd Llyr Gruffydd wedyn at bobl hŷn o bosibl, felly fe fydd sefydliadau pobl hŷn yn awyddus i gyfrannu hefyd, ac fe fydd yna bobl o bob math â diddordeb yn hyn, yn amlwg, oherwydd mae'r dreth gyngor yn effeithio ar bob un ohonom ni.

Ond rwy'n awyddus i egluro nad oes yn rhaid i bobl ateb y cwestiynau i gyd, felly os oes gan breswylydd farn gref ac yn dymuno ei rhannu gyda ni, nid oes yn rhaid teimlo rheidrwydd i ateb y cwestiynau am lywodraeth leol ac ati—dim ond ymgysylltu â ni i'r graddau y mae pobl yn dymuno gwneud hynny, er mwyn i ni allu clywed cymaint o leisiau amrywiol ag y gallwn ni.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:16, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Fe wyddom ni fod angen ailbrisiadau sy'n fwy rheolaidd arnom ni. Nid yw pob 20 mlynedd yn dderbyniol. Fe wyddom ni ddau beth arall: mae treth incwm leol yn cael ei ffafrio gan y cyfoethogion oherwydd mae honno'n arbed arian iddyn nhw drwy gynlluniau gostyngiadau treth. Ond fe wyddom ni hefyd, o dan y system bresennol, fod y rhai sydd â'r lleiaf o fodd i dalu yn gwario cyfran fwy o'u cyfoeth nhw ar y dreth gyngor. Mae rhywun sy'n byw mewn eiddo sy'n werth £100,000 yn talu tua phum gwaith cymaint o dreth gyngor o'i gymharu â gwerth yr eiddo ag y mae rhywun sy'n byw mewn eiddo sy'n werth £1 miliwn. Nid yw tŷ gwerth £420,000 ond yn talu ddwywaith cymaint â thŷ gwerth £120,000. I mi, mae hynny'n annheg, oherwydd nid yw'r taliad yn gymesur â gwerth yr eiddo ac mae gwerth eiddo yn ddangosydd da o gyfoeth personol.

Fy argymhelliad i yw bod band ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y gwaelod a bod o leiaf ddau fand uwch yn cael eu hychwanegu ar y pen uchaf, ac addasiadau wedyn ar y lluosyddion sy'n cael eu defnyddio i sicrhau cyfiawnder. Dyma'r cwestiynau: a ddylai pobl sengl ar fand G ac uwch gael gostyngiad un person? Pwy sy'n elwa ar y gostyngiad i fyfyrwyr, myfyrwyr ynteu landlordiaid? Ac yn olaf, a ddylid hollti'r bandiau yn eu hanner, gan adlewyrchu gwerth y tŷ yn llawer gwell?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:17, 12 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am y cyfraniadau yna ac am ei ymgysylltiad parhaus ar fater y dreth gyngor, ac rwyf innau hefyd yn pryderu am bwysigrwydd ailbrisio mwy rheolaidd. Rwyf i o'r farn yr aeth llawer gormod o amser heibio ers yr ailbrisiad diwethaf. Er fy mod i'n deall pa mor anodd ydyn nhw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysicach ein bod ni'n eu gwneud nhw'n fwy rheolaidd, ac yna ni fydd y newidiadau mor eithafol mewn rhai achosion. Felly, rwy'n credu bod ailbrisio rheolaidd fel hyn yn bwysig ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ymgynghori yn ei gylch yn ein hymgynghoriad ni sy'n cael ei lansio heddiw—felly, yn awyddus i fynegi'r safbwyntiau hynny'n ffurfiol drwy'r ymgynghoriad hefyd.

Ac yna, gan edrych i'r dyfodol, fe allwn ni ystyried pa dechnoleg a allai fod ar gael i ni. A allwn ni gynnal ailbrisiadau treigl? Beth fyddem ni'n ei wneud gyda gwybodaeth wrth iddi ddod drwodd o ran gwerthu tai? Sut allwn ni fod yn siŵr nad ydym ni'n cael ein camarwain gan gynnydd mawr dros dro o ran gwerthiant tai ar yr adeg honno? Felly, mae llawer o bethau amrywiol i ni eu hystyried o ran amlder yr ailbrisiadau. Ond dyna'n hollol yw ein bwriad ni, i ailbrisio yn llawer mwy aml.

Rwy'n credu bod Mike Hedges wedi disgrifio yn gwbl gywir sut y gall y dreth gyngor fod yn dreth atchweliadol; nid yw hi'n dreth flaengar, fel y byddem ni'n awyddus fel arfer i dreth fod. Mae'n golygu bod y bobl sydd â lleiaf o fodd ac sydd leiaf abl i gyfrannu yn gorfod cyfrannu mwy. Felly, dyma un o'r pethau y mae ein dull ni o gael mwy o degwch o ran y dreth gyngor yn bwriadu ymdrin ag ef hefyd—ail-gydbwyso'r dreth gyngor y mae awdurdodau lleol yn ei chasglu.

Ac rwyf i wedi clywed dadleuon Mike o ran y ffordd yr hoffai ef weld y bandiau ychwanegol, a hollti'r bandiau o bosibl er mwyn i ni fod â bandiau â gwahaniaethau mwy cynnil rhyngddyn nhw hefyd, felly, yn amlwg, fe fyddwn ni'n ystyried hynny yn rhan o'n hymgynghoriad cyffredinol ni. Rwy'n credu bod angen i ni ystyried hefyd, yn rhan o hynny, y system apeliadau ac i ba raddau yr ydym ni'n creu system lle yr ydym ni'n taro'r cydbwysedd cywir o ran peidio â chreu gormod o ddryswch neu debygolrwydd o apeliadau, ond bod ag apeliadau sy'n wirioneddol debygol neu o bosibl yn newid y band y mae pobl ynddo. Felly, mae llawer i ni ei ystyried. Rwy'n credu bod y cyfraniadau hyd yn hyn wedi bod o gymorth mawr ac rwy'n credu eu bod nhw wedi rhoi cychwyn da iawn i'n hymgynghoriad ni.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour

(Cyfieithwyd)

Mae manteision treth ar werth tir yn eglur iawn—fe allai ddisodli system dreth gyngor atchweliadol, nad oes unrhyw gyswllt rhyngddi hi ag incwm aelwydydd, gyda system sy'n creu llawer mwy o gydraddoldeb wrth ddosbarthu cyfoeth, gan ostwng costau tai i lawer o aelwydydd ledled Cymru. Byddai treth ar werth tir yn helpu i roi terfyn ar hapfuddsoddiadau tir hefyd, yn annog dyrannu tir yn fwy effeithlon ac yn cynnig ffynhonnell gynaliadwy a gwell o gyllid llywodraeth leol. Rwy'n deall mai un o'r prif rwystrau rhag cyflwyno treth ar werth tir yw prinder mapiau cadastrol. Byddai cronfa ddata gadastrol fel hon nid yn unig yn fuddiol at ddibenion trethiant, ond o ran cynllunio ac amaethyddiaeth hefyd. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a wnaeth Llywodraeth Cymru unrhyw gynnydd o ran sefydlu cronfa ddata gadastrol i Gymru? Diolch i chi.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am y cyfraniad yna, ac fe hoffwn i sicrhau Carolyn Thomas ein bod ni'n parhau i weithio ar y syniad o dreth leol ar werth tir. Y prif amcan sylfaenol ar gyfer treth leol yw codi'r refeniw cyson sydd mor bwysig ar gyfer gwasanaethau lleol yn y ffordd decaf bosibl. A phan fyddwn ni'n gweld manteision eraill, fel defnyddio tir mewn ffordd amgen, rwy'n credu yn bendant y dylem ni fod yn ceisio gwasgu cymaint o werth o'r pethau hyn ag y gallwn ni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r ymchwil gan Brifysgol Bangor, ac mae hwnnw'n asesu dichonoldeb treth ar werth tir yn lle'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Roedden nhw'n dod i'r casgliad y gallai treth leol ar werth tir yng Nghymru godi digon o refeniw i ddisodli'r trethi lleol presennol, a hefyd y gallai dosbarthu atebolrwydd fod yn llawer mwy blaengar. Felly, rwy'n credu i'r ymchwil fod yn gadarnhaol iawn yn hynny o beth, ond mae'n tanlinellu bod rhaid i ni wneud rhywfaint o waith pellach i asesu gyda mwy o fanylder a fyddai treth ar werth tir gymaint â hynny'n well na'r trefniadau sydd gennym ni nawr, neu'r trefniadau y byddwn ni'n eu rhoi ar waith yn dilyn y gwaith diwygio, sy'n mynd rhagddo.

Felly, yng nghwmpas yr ymchwil, llwyddodd Prifysgol Bangor i lunio model ystadegol rhagarweiniol i amcangyfrif set o werthoedd tir. Nid ydym ni erioed wedi rhoi cynnig ar y math hwnnw o waith yng Nghymru o'r blaen, ac roedd yn galluogi Prifysgol Bangor wedyn i bennu cyfraddau treth posibl lle byddai angen codi treth leol ar werth tir i godi refeniw sy'n cymharu yn weddol â'r system bresennol. Felly, mae hwnnw'n waith cyffrous iawn. Ond rwy'n credu mai un o'r gwersi allweddol a ddysgwyd gennym ni oedd ei bod hi'n llawer mwy heriol i ni amcangyfrif gwerthoedd tir ar gyfer defnyddiau annomestig nag ydyw gwneud hynny ar gyfer eiddo domestig. Felly, rydym ni'n parhau ar hyn o bryd â'r gwaith o ymchwilio i hynny, ond mae'r pwynt ynglŷn â bod â'r gronfa ddata gadastrol honno'n gwbl allweddol. Ni allem ni gyflwyno treth ar werth tir heb gronfa o'r fath.

Fe wn i fod gwaith pwysig yn mynd rhagddo mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru o ran MapDataCymru, ac mae hynny'n ymwneud yn bennaf â chasglu gwybodaeth ledled Cymru mewn fformat y gellir ei ddefnyddio. Ac rwy'n cael trafodaethau diddorol iawn gydag Awdurdod Cyllid Cymru hefyd, oherwydd maen nhw'n arwain ar lawer o'r ffyrdd cyffrous yr ydym ni'n eu hystyried fel y ffyrdd posibl o ddefnyddio technolegau digidol a data, ac felly mae hwn yn faes arall lle rydym ni'n gwneud gwaith diddorol. Oherwydd fe fyddai bod â chronfa fel honno o ddata yn ein helpu ni gyda llawer o bolisïau eraill, mewn gwirionedd. Fe fyddai hi'n ein helpu ni o bosibl yn y dyfodol gyda chyfraddau treth trafodiadau tir lleol. Felly, fe fydd angen cronfa data fel hyn arnom ni. Felly, mae'r gwaith yn sicr yn mynd rhagddo. Rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Carolyn ar unrhyw gyfle a gawn ni.