2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 13 Gorffennaf 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fel chithau, roeddwn yn gwrando ar y drafodaeth rhwng arweinydd yr wrthblaid a'r Prif Weinidog ddoe ynglŷn ag amseroedd aros ac mae hynny'n drywydd yr wyf am ei barhau heddiw. A wnewch chi gadarnhau bod nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth GIG yng Nghymru wedi cynyddu bron 900 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod nifer y bobl sy'n aros am ddwy flynedd wedi gostwng yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ychydig wythnosau'n ôl. Bu gostyngiad o 3.4 y cant. Felly, credaf fod hynny'n dangos ein bod, mewn gwirionedd, yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Yn amlwg, bydd gennym fwy o ffigurau'n dod allan yr wythnos nesaf, a fydd yn dangos i ni a yw'r newid hwnnw wedi parhau. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni ystyried y ffaith nad yw COVID ar ben, ac mae'r ffaith bod gennym bron i 2,000 o bobl yn dal i fod yn sâl oherwydd COVID neu broblemau'n ymwneud â COVID yn golygu bod yr her yn dal yno. Ac felly, wrth gwrs, mae'n rhaid inni gynllunio. Wrth gwrs, os byddwch yn parhau i gael y tonnau hyn, yr anhawster yw y byddwn yn cael ein bwrw'n ôl. Ond fe'm calonogwyd yn fawr gan y ffaith ein bod, am y tro cyntaf, wedi gweld y ffigurau hynny'n gostwng yn ystod y mis diwethaf.
Diolch am yr ateb, Weinidog, ac er ei fod yn newyddion da wrth gwrs fod yr amser aros wedi gostwng dros gyfnod o un mis, mae'r taflwybr parhaus hirdymor yn mynd i'r cyfeiriad anghywir wrth gwrs. Felly, os edrychwn yn ôl ar 12 mis yn ôl, y ffigur oedd 7,600 ac erbyn hyn mae'n 68,000. Felly, dyna'r ffigurau dros y 12 mis diwethaf. Ac mae'r niferoedd, yn anffodus, wedi saethu i fyny yn y cyfnod hwnnw. Er gwaethaf yr hyn a ddywedwch, mae'r niferoedd wedi saethu i fyny. Ac wrth gwrs, rwy'n cytuno â chi: mae mater COVID a'r pandemig—mae hynny wedi effeithio ar wasanaethau'r GIG ledled y DU ac ar draws y byd. Ond mae'r hyn a welsom yma yn sefyllfa lawer gwaeth, a byddwn yn dweud bod hynny o ganlyniad i gamreoli gan y Llywodraeth a dyna pam ein bod yn gweld tangyflawni enfawr yma yng Nghymru. Oherwydd mae nifer o bobl yng Nghymru, gyda llawer ohonynt, yn anffodus, yn aros mewn poen ar restr aros sydd bum gwaith—bum gwaith—yn uwch na Lloegr gyfan, a hynny gan ystyried y boblogaeth lawer mwy o faint yn Lloegr—. Rydym wedi gweld pum gwaith y ffigur o bobl yn aros ar ein rhestr aros yma na sydd ar y rhestr aros yn Lloegr. Ar ben hynny, mae'r amser aros cyfartalog yma ddeng wythnos yn hwy nag yn Lloegr. Ac mae un o bob pedwar claf yng Nghymru yn aros dros flwyddyn am driniaeth; mae hynny, yn Lloegr, yn un o bob 20. Nawr, rwy'n derbyn, Weinidog—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Rwy'n derbyn eich ymrwymiad personol, Weinidog, ac rwy'n sylweddoli mai dim ond ers 12 mis yr ydych wedi bod yn eich swydd, ac rwy'n derbyn eich bod wedi cael lwc ddrwg. Ond a gaf fi ofyn i chi am eich asesiad chi o pam y mae Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa hon sy'n llawer gwaeth na'r sefyllfa mewn unrhyw ran arall o'r DU? A rhaid i chi gydnabod methiannau er mwyn deall lle mae angen gwneud gwelliannau.
Diolch yn fawr. Wel, bydd Russell yn ymwybodol fod y ffigurau wedi codi ym mhobman yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; nid yw hon yn sefyllfa unigryw—maent wedi saethu i fyny ym mhobman. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn cael ein herio yn awr, o ran lleihau'r rhestrau hynny, a dyna pam y gwnaethom gyhoeddi ein cynnig ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn ôl ym mis Ebrill, lle mae'r targedau wedi'u nodi'n glir iawn. Gallaf ddweud wrthych fy mod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda chadeiryddion y byrddau iechyd, er mwyn tanlinellu pwysigrwydd cyrraedd y targedau hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y ffordd yr ydym yn cyfrif ein rhestrau yn wahanol iawn i'r ffordd y maent yn cyfrif yn Lloegr. Felly, rydym yn cynnwys nifer y bobl sy'n aros am driniaeth ddiagnostig a therapïau—mae hynny'n nifer sylweddol o bobl. Felly, rydych yn cymharu dau beth gwahanol yma, ac mae'n bwysig fod pobl yn deall hynny. Rydym hefyd yn cynnwys apwyntiadau dilynol ar ôl profion diagnostig. Ac os byddwch yn trosglwyddo rhwng un meddyg ymgynghorol a'r llall, rydym yn dechrau llwybr newydd, felly mae hynny'n cael ei gyfrif eto. Felly, weithiau nid ydym yn helpu ein hunain, os wyf yn onest. Felly, mae hynny'n anodd, ac rwy'n amlwg wedi gofyn a gawn ni edrych ar y ffordd yr awn ati i gyfrif, ond mae newid y ffordd yr awn ati i gyfrif yn fater enfawr. Ac i fod yn gwbl onest, rwy'n credu ein bod yn fwy tryloyw gyda'r cyhoedd am realiti'r sefyllfa, yn wahanol i'ch Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr mae arnaf ofn.
Wel, na, y gwir amdani yw bod gennym 68,000 o bobl yng Nghymru yn aros dros ddwy flynedd, ac yn Lloegr mae'n 12,700. Dyna y mae'r ffigurau'n ei ddweud. Nawr, rwy'n derbyn—
Nid ydych yn cyfrif eu hanner, dyna pam.
—yr hyn yr ydych newydd ei ddweud. Rwy'n derbyn hyn yr ydych newydd ei ddweud, a'ch parodrwydd i edrych ar y ffordd yr ydych yn mesur y ffigurau hynny, oherwydd efallai mai dyma'r gwaith cywir i'r Llywodraeth ei wneud, sef gwneud y gymhariaeth honno. Oherwydd beth fyddai'r ffigurau hynny wedyn yn gallu ei ddweud wrthym? Byddent yn gallu dweud wrthym ein bod yn dal yn yr un sefyllfa—fod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa lawer gwaeth. Nawr, yr hyn a fyddai'n helpu'r ôl-groniad, wrth gwrs, a lleihau'r ôl-groniad, fyddai cyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol, y gwnaethom alw amdanynt yn ôl yn haf 2020. Rwyf wedi siarad â nifer o gyrff iechyd a gweithwyr proffesiynol yr wythnos hon, a oedd yn dweud wrthym nad ydym wedi'u cael yng Nghymru o hyd, rydym yn dal i aros amdanynt, a dyna'r ffordd allan, yn rhannol, o'r sefyllfa yr ydym ynddi. A gwn eich bod wedi gwneud addewidion y byddant yn cael eu cyflwyno, Weinidog, ond rydym eto i'w gweld yn cael eu darparu. A hyd nes yr eir i'r afael â hyn, nid ydym yn mynd i osgoi'r rhestrau aros sydd gennym ar hyn o bryd. Dechreuodd Llywodraeth y DU baratoi ar gyfer y cyfnod ar ôl y pandemig yn llawer cynharach. Mewn gwirionedd, dywedodd eich rhagflaenydd y byddai'n ffôl gwneud yr un peth yma. Felly, a ydych yn gresynu at eiriau eich rhagflaenydd, pan ddywedodd—ac mae'n dangos ymagwedd hunanfodlon yn fy marn i—y byddai'n ffôl dechrau'r gofal wedi'i gynllunio ar gyfer y cyfnod ar ôl y pandemig cyn i'r pandemig ddod i ben? Ac onid ydych yn derbyn hefyd, er mwyn gwneud cynnydd, fod yn rhaid inni weld canolfannau llawfeddygol rhanbarthol yn cael eu cyflwyno'n gyflymach o lawer, a bod hynny'n rhan o'r ffordd allan o'r broblem yr ydym ynddi? Ac a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ganolfannau llawfeddygol rhanbarthol?
Wel, fel y gwyddoch, rwy'n awyddus iawn i weld canolfannau llawfeddygol rhanbarthol yn cael eu datblygu. Rwyf wedi fy nghyfyngu gan faint o arian cyfalaf a roddwyd inni gan Lywodraeth y DU—dyna sy'n clymu fy nwylo ar hyn o bryd. A gadewch imi ddweud wrthych ein bod eisoes yn cychwyn y rhain; byddwch wedi gweld ddoe ein bod yn canoli ac yn cael un o'r canolfannau llawfeddygol hyn, ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, yn ne Cymru. Felly, mae eisoes yn digwydd. Ceir llawer o enghreifftiau eisoes o hyn yn digwydd mewn meysydd orthopedig ac mewn llawdriniaethau cataract llygaid. Rydych wedi gweld beth sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd; mae canolfan ranbarthol arall yn Abertawe. Felly, mae'r rhain eisoes yn bodoli. Nawr, faint yn rhagor y gallwn ei wneud? Yn amlwg, mae gennym ddiddordeb mawr mewn gweld faint yn fwy, ond cawn ein cyfyngu a'n rhwystro ar hyn o bryd gan ein cyfalaf. Ond gadewch imi ddweud wrthych ein bod wedi cael trafodaeth gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ddiweddar, a'r hyn yr oeddent yn awyddus inni ei wneud, a'r hyn y bûm yn pwyso ar y byrddau iechyd i'w wneud, yw sicrhau ein bod yn defnyddio'r capasiti presennol yn fwy effeithlon, a chredaf fod gennym rywfaint o gynnydd i'w wneud ar hynny o hyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi am ganolbwyntio ar COVID hir. Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu y gallai fod rhyw 60,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo COVID hir, ac mae'r don dŷn ni ynddi rŵan, wrth gwrs, yn gwneud imi bryderu bod y niferoedd yn mynd i fod yn cynyddu. Mae llawer o'r rhai sydd yn dioddef yn bobl wnaeth gael y feirws tra'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal. Rŵan, ers dechrau'r mis yma, dydy'r rheini wnaeth fynd yn sâl yn gynnar yn y pandemig ddim yn cael eu talu yn llawn bellach, tra eu bod nhw mewn swyddi iechyd tebyg yn Lloegr a'r Alban. Ydy'r Gweinidog yn cytuno y dylai byrddau iechyd ddefnyddio'r disgresiwn dwi'n deall sydd ganddyn nhw i barhau i dalu cyflog yn llawn tan eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod â'r gweithwyr yma sydd eisiau gwasanaethu o fewn y gwasanaethau iechyd yn ôl i swyddi lle maen nhw'n gallu gwneud hynny?
Diolch yn fawr, ac mae'n wir, mae yna lot fawr o bobl yn dioddef o COVID hir. Roeddwn i'n siarad gyda mam ddoe a oedd yn sôn wrtha i am ei mab hi sy'n dioddef o COVID hir, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hon yn sefyllfa sy'n anodd iawn i'r rheini, yn arbennig y rheini sydd wedi ein gwasanaethu ni i gyd yn ystod y pandemig. A dyna pam rŷn ni wedi bod yn eithaf gofalus yn yr ardal yma wrth wneud yn siŵr ein bod ni wedi siarad gydag undebau cyn ein bod ni wedi symud ymlaen, a bod pob un yn deall bod yna eithriadau sydd yn bosibl, a bod y byrddau iechyd yn cael defnyddio eu disgresiwn nhw, ac mi fyddwn i'n awgrymu eu bod nhw'n cymryd y cyfle yna.
Dwi'n falch iawn o glywed hynny, a dwi'n gobeithio y bydd Aelodau yma, wrth gynrychioli eu hetholwyr nhw, yn atgoffa eu byrddau iechyd yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau nhw fod y disgresiwn yna ganddyn nhw.
Dwi'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn am COVID hir, ac fel mae o'n effeithio plant yn arbennig. Dwi yn bryderus bod yna ddiffyg cefnogaeth i blant a phobl ifanc efo COVID hir. Rydw innau wedi siarad efo nifer o rieni—un yn dweud eu bod nhw wedi gorfod aros pum mis am referral, ac wedi gorfod mynd yn breifat at paediatrician yn y pen draw, a thalu cannoedd y mis am chiropractor er mwyn rhoi rhyw fath o gysur i'w mab hi. Mae mudiad Long Covid Kids yn dweud ei bod hi dal yn anodd cael gweithwyr iechyd proffesiynol, meddygon ac ati, i dderbyn bod rhywbeth sydd o'u blaenau nhw yn COVID hir.
A all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa ymchwil mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w gomisiynu a buddsoddi ynddo fo, i mewn i COVID hir, ac fel mae o'n effeithio plant a phobl ifanc yn arbennig, a beth all gael ei wneud i sicrhau bod y gefnogaeth yno ar gyfer plant a phobl ifanc, achos maen nhw'n mynd i gael eu gadael ar ôl oherwydd yr amser mae hwn yn digwydd o fewn eu bywydau nhw?
Rŷch chi'n eithaf reit, a dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn. Mae'r effaith ar blant yn rhywbeth sydd yn mynd i effeithio arnyn nhw am amser hir os nad ydyn ni'n delio gydag e'n gynnar. Mi fyddwn ni'n cael update ar adferiad cyn bo hir, a dwi wedi gofyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n ystyried plant wrth inni edrych ar y rhaglen. Ac rydych chi'n ymwybodol, wrth inni ddatblygu'r cynllun yna, fod hwn yn rhywbeth roeddwn i eisiau gweld yn newid wrth ein bod ni'n dysgu mwy am y feirws ac am y ffordd mae pobl yn dioddef.
Felly, mae'r ffaith ein bod ni o hyd, pob chwe mis, â chyfle i ailedrych ar beth sy'n digwydd dwi'n meddwl yn rhoi cyfle inni edrych ar yr hyn rŷch chi wedi pwyntio allan heddiw.
Mae cwestiwn 3 [OQ58355] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 4, Joel James.