1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 21 Medi 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn 2019, gwnaeth Llywodraeth Cymru nifer o ymrwymiadau ynghylch tryloywder, atebolrwydd a chyfranogiad. Un o’r ymrwymiadau hyn oedd codi ymwybyddiaeth o gyllid Llywodraeth Cymru, yn benodol ynglŷn ag o ble y daw arian a sut y caiff ei wario. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod, ar sawl achlysur, wedi ceisio darganfod faint o arian a wariwyd gennych ar brosiectau ffyrdd ledled Cymru, cyn iddynt gael eu dirwyn i ben yn sydyn gan eich adolygiad ffyrdd, ac ni chefais unrhyw beth ond oedi bwriadol a diffyg eglurder. Bu'n rhaid gwneud cais rhyddid gwybodaeth i ddarganfod bod cyfanswm o £24 miliwn wedi’i wario ar brosiectau ffyrdd ledled Cymru cyn iddynt gael eu canslo. Daw hyn ar ôl i’ch Llywodraeth wastraffu £157 miliwn ar brosiect ffordd liniaru’r M4. Mae busnesau Cymru yn erfyn am well seilwaith ffyrdd, ac mae taer angen ffyrdd lliniaru neu ffyrdd osgoi ar gymunedau, fel Llanbedr, i fynd i'r afael â llygredd a thagfeydd. Felly, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi roi’r gorau i’r polisi hurt o rewi prosiectau gwella ffyrdd yng Nghymru a buddsoddi yn y seilwaith y mae cymaint o'i angen arnom?
Wel, nid wyf yn siŵr pam fod hwn yn bolisi mor gymhleth i’w ddeall. Mae pob un ohonom wedi ymrwymo i gyflawni ein targedau newid hinsawdd. Daw 17 y cant o'r allyriadau o drafnidiaeth. Nawr, golyga hynny fod angen inni fabwysiadu dull gwahanol o ymdrin â thrafnidiaeth os ydym am gyflawni'r nodau sero net hynny, gan mai trafnidiaeth yw'r sector sydd wedi newid arafaf ers gosod y targedau am y tro cyntaf ym 1990. Felly, mae angen dull gweithredu gwahanol arnom. Nid ymddengys bod dealltwriaeth sylfaenol o hynny ar feinciau'r Ceidwadwyr. Maent yn ymrwymo i’r targedau lefel uchel, ond pan fydd yn rhaid i chi drosi hynny wedyn i’r hyn y mae’n ei olygu’n ymarferol, maent yn cilio oddi wrtho, ac mae gwleidyddiaeth y peth yn anodd, ond mae angen arweiniad arnom yn y cyfnod heriol hwn. Deallaf gan Brif Weinidog newydd y DU ei bod wedi ymrwymo i gyflawni sero net: mae hi wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu drilio ym Môr y gogledd; mae'n mynd i ddechrau ffracio; ac mae'n mynd i, rwy'n dyfynnu, 'adeiladu ffyrdd yn gyflymach'. Wel, bydd pob un o’r pethau hynny'n cynyddu ein hallyriadau. Byddant yn mynd â ni ymhellach oddi wrth gyflawni'r sero net y clywsom gan Boris Johnson fis Tachwedd diwethaf yn y COP eu bod wedi ymrwymo i'w gyflawni. Felly, mae anghysondeb gwybyddol llwyr ar feinciau'r Torïaid rhwng yr hyn y maent yn dweud eu bod am ei wneud a'r hyn y maent yn barod i'w gefnogi mewn gwirionedd.
Nawr, rydym wedi edrych ar ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy banel arbenigol ar adeiladu ffyrdd i edrych ar gynlluniau sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, nid y rhai sydd wrthi'n cael eu hadeiladu, gan y bydd y rheini'n parhau, ond y rhai nad ydynt wedi dechrau eto, i weld a ydynt yn gydnaws ag amcanion strategaeth trafnidiaeth Cymru er mwyn cyflawni ein cyllidebau carbon. Fel y dywedaf, rydym newydd dderbyn yr adroddiad hwnnw. Rydym yn ei archwilio'n fanwl, a byddwn yn gwneud datganiad arno i’r Senedd yn yr hydref. Ond mae'n amlwg, o gywair ei datganiadau unwaith eto, nad yw hi'n barod i wynebu canlyniadau ei haddewidion ei hun.
Ddirprwy Weinidog, gwn eich bod wrth eich bodd yn trafod Llywodraeth y DU, ond gadewch inni ganolbwyntio ar Gymru, sef yr hyn yr ydych chi a minnau’n gyfrifol amdano yma. Felly, mae'n rhaid ichi gytuno bod seilwaith ffyrdd annigonol yn niweidio busnesau ac yn amharu ar y gwaith o greu swyddi ar adeg pan ydym yn ymadfer wedi effeithiau’r pandemig. Mae eich methiant i wella ffyrdd yn golygu mwy o dagfeydd, allyriadau carbon uwch, ac yn gwneud yr economi'n llai cynhyrchiol a chystadleuol. Mae’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wedi dweud bod eich dull gweithredu, ac rwy'n dyfynnu,
'yn anghydlynol, yn anghynaladwy a bydd yn niweidio busnesau, swyddi a symudedd yng Nghymru gan fethu mynd i'r afael â newid hinsawdd.'
Dywedodd Logistics UK fod y diwydiant logisteg yn dibynnu ar waith ffordd effeithlon i gyflenwi i'r wlad yr holl nwyddau sydd eu hangen ar ein heconomi i weithredu, a bod rhewi pob prosiect adeiladu ffyrdd newydd, mewn gwirionedd, yn gam yn ôl. Beirniadodd hyd yn oed yr AS Llafur—nid Ceidwadwr, yr AS Llafur—dros Alun a Glannau Dyfrdwy y penderfyniad i ganslo'r ffordd yn sir y Fflint, a fyddai’n lleihau llygredd aer i’w etholwyr sy’n byw yn Aston a Shotton. Felly, Ddirprwy Weinidog, a ydych yn derbyn bod symud nwyddau'n effeithlon ac yn gosteffeithiol yn hollbwysig i’r economi, a bod eich dull gweithredu gwrth-ffyrdd, yr ydym wedi’i weld dro ar ôl tro, o fynd i’r afael â'r newid hinsawdd wedi dyddio wrth inni symud i sbectrwm o gerbydau newydd, glanach a gwyrddach?
Rwy’n sylweddoli y bydd yr Aelod wedi ysgrifennu hynny cyn iddi gael cyfle i wrando ar yr hyn a ddywedais a’r her a roddais iddi. Nid wyf yn derbyn cynsail ei phwynt. Mae symud nwyddau a phobl yn amlwg yn hollbwysig. Nid yw hynny’n bosibl ar hyn o bryd gan fod gennym dagfeydd. Nid ydych yn datrys tagfeydd drwy adeiladu mwy o ffyrdd. Mae digon o dystiolaeth ryngwladol yn dangos, os byddwch yn adeiladu mwy o gapasiti ffyrdd, eich bod yn annog mwy o draffig, sy'n arwain at fwy o dagfeydd ac yna at fwy o alw am adeiladu ffyrdd. Ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ers dros 50 mlynedd. Maent yn ysgwyd eu pennau, ond hoffwn weld y dystiolaeth sydd ganddynt i wrth-ddweud yr hyn yr wyf newydd ei ddweud. Mae’r ymchwil academaidd ar hynny'n gwbl glir. Ac os gallwn dynnu traffig nad oes angen iddo fod yno oddi ar y ffyrdd, mae hynny, mewn gwirionedd, yn gwneud mwy o le ar gyfer y sector cludo nwyddau.
Rydym yn amlwg am weld cludiant nwyddau'n symud oddi ar ffyrdd ac ar y rheilffyrdd lle bo modd, ond mae methiant y Llywodraeth Geidwadol i fuddsoddi’n ddigonol yn y rheilffyrdd yng Nghymru, lle rydym £5 biliwn yn brin o fuddsoddiad—sydd, unwaith eto, pe baent yn ddiffuant yn eu safbwyntiau, yn rhywbeth y byddent yn ei gydnabod—wedi llesteirio ein gallu i newid dulliau teithio oddi ar y ffordd ac ar y rheilffyrdd mewn perthynas â chludiant nwyddau. Ond nid yw'n wir fod gennym ffyrdd annigonol ar hyn o bryd. Yr hyn nad ydym wedi bod yn ei wneud yw buddsoddi’n ddigonol mewn cynnal a chadw ffyrdd presennol. Ac un o amcanion yr adolygiad ffyrdd yw edrych ar sut y gallem symud buddsoddiad oddi wrth adeiladu ffyrdd newydd i ofalu am y rhai sydd gennym, ac wrth inni wneud hynny, hybu newid mewn dulliau teithio.
Dywedaf eto wrth yr Aelod ar y meinciau gyferbyn, rydych wedi ymrwymo i sero net erbyn 2050, daw 17 y cant o allyriadau o drafnidiaeth—sut y bwriadwch dorri'r allyriadau hynny er mwyn inni gyflawni ein targedau? Arhosaf i glywed eich ateb.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb. Yn gyntaf, byddwn yn gwella pethau drwy ddarparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan, rhywbeth yr wyf wedi sefyll yma dro ar ôl tro yn gofyn amdanynt ledled Cymru, sef yr hyn yr ydym yn gyfrifol amdano yma, Ddirprwy Weinidog. Y ffaith syml yw bod eich Llywodraeth wedi methu darparu’r seilwaith ffyrdd y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu. Nid ydym yn byw ar adeg lle rydym yn teithio gyda cheffylau a cherti. Nid Little House on the Prairie mo hyn; rydym yng Nghymru yn 2022. Mae gosod terfyn cyflymder o 20 mya yn amhoblogaidd ac yn wrthgynhyrchiol. Mae mwy na 1,600 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am bleidlais gyhoeddus ar y newid hwn—galwad sy’n cael ei hystyried ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Deisebau. Ac mae Cyngor Sir Fynwy eisoes wedi cadarnhau y bydd dwy ardal yng Nghil-y-coed yn dychwelyd i 30 mya wedi i dagfeydd waethygu. I roi halen ar y briw, mae eich strategaeth drafnidiaeth yn bwriadu cyflwyno tollau ffyrdd a thaliadau atal tagfeydd. Felly, Ddirprwy Weinidog, mae ceir yng Nghymru yn angenrheidiol am fod trafnidiaeth gyhoeddus yma yn annibynadwy, yn anghyfleus, ac mewn llawer o fannau, heb fod yn bodoli, diolch i 22 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru. Ond fy nghwestiwn yw: pryd y byddwch yn rhoi'r gorau i geisio gorfodi gyrwyr oddi ar y ffordd ac yn rhoi'r gorau i gosbi modurwyr oherwydd eich methiant chi?
Nid wyf yn siŵr sut mae rhoi ochenaid yn y Cofnod, Lywydd, ond efallai—
Credaf eich bod newydd wneud. [Chwerthin.]
Ardderchog. Os felly, fe lwyddais.
Nid wyf yn gwybod ble i ddechrau, a dweud y gwir. Yn gyntaf oll, nid yw terfynau cyflymder 20 mya yn orfodol. Cytunodd y Senedd drwy fwyafrif llethol ar ddechrau’r haf i newid y terfyn cyflymder diofyn. Mae gwneud eithriadau i hynny o fewn gallu awdurdodau priffyrdd lleol yn llwyr. A chyda llaw, dim ond gyda chefnogaeth Aelodau Ceidwadol yn y Senedd y digwyddodd y broses honno. Aelodau Ceidwadol a bleidleisiodd i sefydlu’r broses o greu tasglu ar gyfer 20 mya; Aelodau Ceidwadol yn y Senedd ddiwethaf a bleidleisiodd i gyflwyno’r polisi hwn. Mae llun yn mynd o gwmpas o Andrew R.T. Davies gyda Rod King ar—[Torri ar draws.] Mae Natasha Asghar bellach yn ymbellhau oddi wrth arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, ond yn amlwg, ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai am gefnogaeth Aelodau Ceidwadol. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â hynny, ac mae’r Senedd hon wedi pleidleisio’n ddemocrataidd i fwrw ymlaen â hynny, gan roi’r grym llawn i awdurdodau lleol osod eu terfynau cyflymder eu hunain o dan y meini prawf ar gyfer eithriadau. Felly, mae hynny, yn syml, yn anghywir ac yn gyfeiliornus ac yn gamarweiniol ac yn anonest.
O ran cerbydau trydan, wrth gwrs, rydym am i bobl newid i gerbydau trydan. Rwyf i wedi newid i gar trydan ac mae'n rhaid dweud, mae'n brofiad dymunol. Ond mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud yn glir iawn: nid ydym yn mynd i gyflawni sero net drwy newid i gerbydau trydan. Unwaith eto, mae hwnnw’n bwynt anghywir arall nad yw’n seiliedig ar ffaith na thystiolaeth. A gwn fod areithiau’r Aelod yn aml yn barthau di-ffaith, ond mae angen iddynt gael rhywfaint o gysylltiad â realiti. Mae’n amlwg fod angen inni leihau nifer y teithiau a wnawn, ac mae gennym darged o ostyngiad o 10 y cant mewn teithiau ceir. O’r teithiau yr ydym yn eu gwneud, mae angen inni wneud mwy ohonynt ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac o’r teithiau na ellir ond eu gwneud mewn car—ac mae nifer fach o deithiau na ellir ond eu gwneud mewn car—rydym am iddynt gael eu gwneud cyn gynted â phosibl mewn cerbydau trydan. Rwy’n canmol Llywodraeth y DU am osod targed uchelgeisiol i wahardd gwerthu cerbydau petrol erbyn diwedd y degawd. Roedd yn gam beiddgar ac arloesol ganddynt, ac rwy'n ei gefnogi'n llwyr. Ond ofnaf unwaith eto nad yw meinciau'r Ceidwadwyr yn fodlon dilyn y dystiolaeth ar gadw at eu hymrwymiad i gyflawni sero net. Gofynnaf eto: os ydych yn gwrthwynebu pob un dim a gyhoeddwn, beth sydd gennych i'w gynnig yn lle hynny?
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Hoffwn innau roi fy nymuniadau gorau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd a gobeithio y caiff wellhad buan.
Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed allyriadau sero net erbyn 2050, a thrwy ein cytundeb cydweithio, mae'n archwilio cyngor a allai ddod â hyn ymlaen, o bosibl, i 2050. Yr argyfyngau hinsawdd a natur, wedi’u cydblethu fel y maent, yw’r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein gwlad, ein byd. Felly, mae cyflawni sero net cyn gynted â phosibl yn hanfodol. Ar ddydd Iau 8 Medi, nododd Liz Truss ymateb Llywodraeth y DU i brisiau ynni uchel, gan gynnwys cyflymu'r broses o roi trwyddedau olew a nwy newydd a chodi’r gwaharddiad ar ffracio. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes sydd newydd ei benodi, Jacob Rees-Mogg, wedi nodi ei amheuaeth ynghylch mynd i’r afael â newid hinsawdd yn glir. Mae’n fuddsoddwr mewn mwyngloddio olew a glo drwy Somerset Capital Management, ac mae wedi datgan yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae angen inni fod yn meddwl am fanteisio ar bob modfedd giwbig o nwy o Fôr y Gogledd'.
Byddai hyn yn drychinebus i'r hinsawdd ac yn tanseilio ymdrechion i gyflawni sero net yn sylweddol. Felly Weinidog, hoffwn wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael, neu'n bwriadu eu cael, gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd goblygiadau eu polisïau ynni newydd yn effeithio ar ein cynlluniau sero net yng Nghymru.
Rhannaf yr anghrediniaeth y credaf eich bod yn ei mynegi, a'r rhwystredigaeth gyda'r cyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, ac yn amlwg, eu hobsesiwn â thanwydd ffosil. Yn fy marn i, mae’n ddigalon iawn gweld pa mor bell yn ôl y maent yn dymuno mynd. Fel y clywsoch y Prif Weinidog yn dweud yn glir iawn ddoe, ni fydd unrhyw ffracio yma yng Nghymru, a chredaf y bydd mainc Plaid Cymru yn rhannu hynny, yn falch o hynny. Credaf ei bod mor siomedig ac mor rhwystredig nad yw Llywodraeth y DU yn rhannu ein huchelgais. Fel y dywedoch chi, rydym yn gobeithio cyflawni sero net erbyn 2050, a chyda'r cytundeb cydweithio—. Credaf mai 2035 roeddech chi'n ei feddwl, ond fel y dywedwch, rydym yn archwilio hynny ar hyn o bryd. Y peth yw, ac mae hyn yn realiti go iawn, ni all y DU gyflawni ei thargedau heb ein cymorth ni, ond ni allwn ninnau yng Nghymru gyflawni ein targed ychwaith heb i Lywodraeth y DU ein helpu a chwarae ei rhan—ei rhan deg, credaf ei bod yn deg dweud—yma yng Nghymru.
Diolch, Weinidog. Mae'r ail gwestiwn a'r olaf yr hoffwn ei ofyn yn ymwneud â mater arall—grymuso cymunedau. Mae'n ymwneud â sawl portffolio, gan gynnwys newid hinsawdd yn ogystal â materion gwledig. Ond gan ganolbwyntio ar y portffolio hwn, gwelwyd dicter cymunedol yn Llanbradach yn ddiweddar ar ôl i gwmni preifat ddinistrio coetir clychau’r gog hardd a oedd yn bwysig i lawer o bobl. Nid oedd y cwmni wedi cael caniatâd cynllunio, a gwnaethant addo adfer y safle ar ôl i gannoedd o bobl brotestio, a diolch byth eu bod wedi gwneud hynny. Er bod y dinistr yn mynd yn groes i'r rheoliadau presennol, gellid bod wedi ei atal pe bai'r safle wedi bod mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar yn dadlau o blaid pasio Bil grymuso cymunedau, a fyddai’n galluogi cymunedau i berchnogi asedau lleol yr ystyrir eu bod yn bwysig. Dywed yr adroddiad mai Cymru sydd â'r nifer lleiaf o hawliau statudol ym Mhrydain mewn perthynas â thir. Yn amlwg, gallai lleisiau cymunedol fod, a byddwn yn dadlau y dylent fod, yn llawer cryfach hefyd. A wnewch chi ddweud wrthyf beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyflwyno deddfwriaeth i rymuso cymunedau fel y gall lleoedd fel Llanbradach a ledled Cymru sicrhau bod yr asedau cymunedol gwerthfawr hyn yn cael eu diogelu, os gwelwch yn dda?
Diolch. Nid wyf yn ymwybodol fod y Gweinidog yn edrych ar unrhyw beth. Byddwn yn awgrymu eich bod yn ysgrifennu ati. Ond credaf fod y pwynt a godwch yn bwysig iawn. Os edrychwch ar broses y cynlluniau datblygu lleol, er enghraifft, mae'n dryloyw iawn, ac mae angen iddi gael yr ymwneud cymunedol hwnnw. Byddwn yn disgwyl y byddai’r Gweinidog yn awyddus iawn i gynyddu cyfranogiad y gymuned. I ddychwelyd at eich cwestiwn cyntaf ynglŷn â'r argyfwng natur, y peth olaf y byddem yn dymuno'i weld yw ardal fel yr un a ddisgrifiwch yn cael ei dinistrio.
Mae cwestiwn 3 [OQ58406] wedi'i dynnu nôl.