2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau deintyddol cymunedol? OQ58536
Ym mis Awst 2022, cyhoeddodd y prif swyddog deintyddol ganllawiau wedi’u diweddaru ar rôl y gwasanaeth deintyddol cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys ehangu swyddi swyddogion deintyddol cyflogedig i gefnogi cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig, neu ddim mynediad o gwbl, at wasanaethau deintyddol cyffredinol sy’n cael eu darparu fel arfer drwy’r model contractwyr annibynnol.
Diolch. Ces i amser gwych yn ymweld â chlinig a oedd yn rhoi gwasanaethau deintyddol cymunedol yn Llanelli ym mis Medi. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio yn y cymunedau ar draws Cymru, yn enwedig yn ystod cyfnod coch y pandemig, yn sicrhau bod triniaeth frys ar gael.
Wrth ymweld â'r gwasanaethau deintyddol cymunedol yn Llanelli, dysgais lawer am yr hyn y maent yn ei wneud i ddiwallu anghenion pobl agored i niwed: pobl sydd ag anableddau, trafferthion iechyd meddwl, a ffoaduriaid hefyd. Ond roedd pryder ynghylch erydu gwasanaethau deintyddol cymunedol. Roedd y pwysau ar y gwasanaeth deintyddol cyffredinol yn effeithio arnynt yn fawr, ac roedd rhai o'u slotiau brys yn cael eu llenwi gan yr achosion deintyddiaeth gyffredinol brys hynny. Mae hyn yn aml yn golygu nad oes lle ar gael ar gyfer cleifion agored i niwed sydd angen gofal brys. Felly, tybed a wnewch chi ymrwymo i glustnodi'r cyllid a diogelu'r ddarpariaeth hon. Tybed a wnewch chi ymuno â mi ar ymweliad, â Llanelli yn ein rhanbarth efallai, i glywed gan y staff gwych sy'n darparu gwasanaeth. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, ac mae'n galonogol iawn clywed am y gwaith y maent yn ei wneud yn y gwasanaethau deintyddol cymunedol hynny yn Llanelli. Y newyddion da yw ein bod ni wedi rhoi gwerth £2 filiwn ychwanegol o gyllid rheolaidd ers 2022 i wella mynediad, ac mae llawer o'r byrddau iechyd wedi defnyddio'r arian hwnnw i fuddsoddi yn eu gwasanaethau deintyddol cymunedol—ac mae hynny'n wir, rwy'n gwybod, ym Mhowys a sir Gaerfyrddin, sydd yn ein rhanbarth. Felly, maent eisoes yn defnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw'n benodol ar gyfer yr hyn yr oeddech wedi'i obeithio y byddent yn ei wneud.
Y pwynt arall mae'n debyg yw bod y contract deintyddol newydd yn golygu ein bod yn disgwyl i 112,000 o apwyntiadau newydd fod yn bosibl, a dylai hynny ryddhau'r slotiau yr oeddech yn dweud eu bod yn cael eu cymryd gan bobl a ddylai fod yn mynd i rywle arall mewn gwirionedd. Felly, oherwydd y newid cytundebol hwnnw, byddwn yn disgwyl i fwy o'r slotiau cymunedol hynny gael eu rhyddhau.
Diolch am godi'r cwestiwn hwn, Jane Dodds. Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr y bydd degau o filoedd o apwyntiadau newydd yn cael eu creu ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Edrychwn ymlaen at gael gwybod lle a phryd y bydd y rhain ar gael—pryd y byddwn yn dechrau eu gweld. Rwy'n parhau i gael gohebiaeth gan etholwyr pryderus, fel pawb arall yma, sy'n cael trafferth cael mynediad at wasanaethau deintyddiaeth y GIG. Ar hyn o bryd, dim ond 17 y cant o bractisau yn sir Fynwy sy'n derbyn cleifion newydd, yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain. Mae cael mynediad at ddeintydd y GIG yng Nghymru fel claf newydd bron yn amhosibl ar hyn o bryd, neu'n golygu aros am flwyddyn neu ddwy, ond os yw claf yn ymuno â chynllun fel Denplan, gallwch gael eich gweld bron yn syth. Yn amlwg, mae rhywbeth o'i le yma os yw hynny'n digwydd. Weinidog, a wnewch chi amlinellu heddiw pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i gadw staff ac i annog pobl i ddilyn gyrfa yn y diwydiant deintyddiaeth? Sut y gallwch sicrhau nad yw cleifion y GIG o dan anfantais oherwydd awydd rhai deintyddion i dderbyn mwy o gleifion preifat?
Diolch yn fawr. Rydym eisoes yn gweld gwahaniaeth o ganlyniad i'r contract newydd hwnnw. Felly, mae 73,000 o gleifion newydd eisoes wedi cael mynediad eleni, ac fel rwy'n dweud, rydym yn disgwyl i'r ffigur hwnnw gyrraedd 112,000 o gleifion newydd yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Felly mae'n gwneud gwahaniaeth yn barod. Hefyd, mae gennym yr academi ddeintyddol newydd ym Mangor, ac rydym yn gobeithio y bydd honno'n darparu mynediad i rhwng 12,000 a 15,000 o gleifion, a bydd honno ar agor chwe diwrnod yr wythnos.
Y pwynt yw, er bod llawer o sŵn yn y system am ddeintyddion y GIG yn gadael, y gwir amdani yw mai dim ond 14 y cant o'r cytundebau sydd wedi'u trosglwyddo'n ôl. Mae 89 y cant o gyfanswm gwerth y contract deintyddol wedi symud ymlaen i'r contract newydd. Ond nid ydych yn colli rheini o'r GIG—rydych yn eu hailddosbarthu. Felly nid ydynt yn cael eu colli oherwydd eu bod yn mynd i rywle arall. Cânt eu hailddosbarthu.
Rydym wedi bod yn recriwtio mwy o ddeintyddion, ac rwy'n sicr yn rhoi llawer o bwysau ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn cynyddu nifer y therapyddion deintyddol yn y dyfodol, oherwydd rwy'n credu bod rhaid inni sefydlu model newydd lle rydym yn sôn am ddull tîm yn hytrach na bod popeth yn ddibynnol ar y deintydd.
Weinidog, mae'n amlwg bod yna broblem o fewn y maes yma. Ddydd Gwener diwethaf ces i ddau e-bost oddi wrth etholwyr am fethu â chael gwasanaeth i'w plant nhw. Roedd un yn cael ei hannog i fynd yn breifat gan y deintydd, a dywedwyd wrth y llall gan eu deintydd nhw y byddan nhw'n aros i'w plentyn dwyflwydd oed nhw am o leiaf dwy flynedd cyn cael apwyntiad. Mae iechyd dannedd plant Cymru yn ofid. Mae'r dystiolaeth yn dangos ein bod ni tu ôl Lloegr yn barod. Ar gychwyn mis Gorffennaf y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethoch chi ddweud y bydd gwasanaethau deintyddol yn mynd nôl i'r arfer wedi i wasanaethau brys gael eu delio â nhw yn gyntaf. Pryd mae hynny'n mynd i ddigwydd, Weinidog?
Rydym yn cyrraedd pwynt nawr lle—. Yn amlwg, rydym yn dal mewn sefyllfa lle mae COVID yn realiti. Mae gan un o bob 50 o bobl COVID, felly mae'n rhaid i ni gofio, mewn unrhyw sefyllfa sy'n cynhyrchu aerosol, ceir mwy o risg o ledaenu COVID. Felly, mae'n siŵr y bydd gostyngiad bach yn lefel y gweithgarwch.
O ran plant, rydym yn gobeithio edrych ar fodelau newydd o sut y gallwn edrych ar hynny, ac rwyf wedi gofyn i fy nhîm ystyried lle efallai y gallwn ystyried ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â mater deintyddiaeth plant. Oherwydd rwy'n ymwybodol fod angen inni sicrhau bod pobl yn meddwl yn y ffordd briodol, mewn perthynas ag iechyd dannedd, o oedran cynnar iawn. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n parhau, ac rwy'n gobeithio y gallaf adrodd ar beth yw'r sefyllfa gyda hynny rywbryd yn fuan.