1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2022.
2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae'r helbul diweddar yn y marchnadoedd ariannol yn ei chael ar Gymru? OQ58590
Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Mae'r aflonyddwch diweddar ym marchnadoedd ariannol y DU, a datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn gatalydd, wedi cynyddu cost benthyca i'r Llywodraeth, busnesau a dinasyddion cyffredin. Bydd yn niweidio twf, yn gwaethygu'r cyllid cyhoeddus ac yn gwneud bywyd yn anoddach i fenthycwyr, gan gynnwys prynwyr tai.
Diolch. Wrth gwrs, mae'r pedwerydd Canghellor, yn yr un faint o fisoedd, bellach wedi claddu Trussonomics ac wedi gwneud tro pedol o ran y gyllideb fach gyfan fwy neu lai, ond, fel yr amlinelloch chi, bydd effeithiau llywio'r economi fel car bympar yn arwain at ganlyniadau dinistriol: trethi uwch, chwyddiant uwch, cyfraddau morgais uchel. Ydy hi'n deg bod pobl Cymru a phobl y DU yn cael eu trin fel testun arbrawf gan y Ceidwadwyr?
Wel, Llywydd, wrth gwrs, nid yw'n deg ein bod ni i gyd wedi gorfod dioddef yr arbrawf aflwyddiannus—arbrawf aflwyddiannus a gymerodd lai na mis i ddymchwel o flaen ein llygaid. A'r rheswm y mae'n arbennig o annheg yw bod yr arbrawf wedi ei thynghedu i fethu o'r cychwyn cyntaf. Doedd dim angen dod i gysylltiad â realiti'r marchnadoedd i bobl ddeall hynny. Roedd dull gweithredu economaidd yn seiliedig ar ddamcaniaethau aflwyddiannus economeg o'r brig i lawr, yn dibynnu ar fenthyca heb ei gostio, bob tro yn mynd i fethu. Nawr, yn yr arbrawf aflwyddiannus hwnnw, fel y dywedais i, Llywydd, bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig nawr yn talu'r pris. Rhoddaf un enghraifft yn unig: oherwydd y cynnydd yn y gyfradd forgais yr ydym bellach yn ei gweld o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd, erbyn 2024, bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig wedi talu £26 biliwn mewn taliadau llog ychwanegol—£26 biliwn wedi'i dynnu allan o bocedi teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, dim ond rhyw ychydig wythnosau yn ôl roedd Prif Weinidog y DU yn ceisio portreadu'r bobl hynny nad oedden nhw'n cytuno â'i syniadau aflwyddiannus fel pobl yn erbyn twf. Doedd hynny erioed, erioed yn wir, wrth gwrs, ond yr hyn sydd bellach yn sicr yw y bydd y dirwasgiad y dywed Banc Lloegr ein bod eisoes ynddo yn ddyfnach ac yn hirach nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd byddai'r £26 biliwn hwnnw, Llywydd, wedi bod ar gael i bobl ei wario mewn siopau, i'w ddefnyddio mewn lletygarwch, i wneud y pethau sy'n cadw'r economi i fynd. Ni fydd y £26 biliwn hwnnw ar ei ben ei hun yno bellach i gefnogi'r economi a'i thyfu ac yma yng Nghymru, yr adeg hon, y flwyddyn nesaf, bydd y person cyffredin â morgais yn talu £2,300 yn fwy y flwyddyn nag y byddai'n ei dalu pe bai cyfraddau llog wedi aros lle yr oedden nhw yn y chwarter presennol. Dyna faint yr arbrawf aflwyddiannus, a dim ond un enghraifft yw honno.
Fel y mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol ohono, mae buddsoddiadau ar sail rhwymedigaeth yn defnyddio'r ecwiti mewn cronfeydd pensiwn i fenthyg arian. Yna, defnyddir yr arian hwn a fenthycwyd i brynu giltiau, sydd yn eu tro yn darparu llog cyfradd sefydlog dros gyfnod penodol. Y risg fawr, fodd bynnag, yw hyn, os bydd cyfraddau llog yn codi'n gyflym ar giltiau, fel sydd wedi digwydd nawr, yna mae'n rhaid i gronfeydd pensiwn gaffael symiau mwy o sicrwydd cyfochrog i dalu am yr arian y maen nhw wedi'i fenthyg, sy'n eu harwain i werthu eu hasedau, gan gynnwys giltiau. Mae hyn yn broblematig pan nad oes prynwr, fel yn yr achos diweddar pan gyhoeddodd yr Unol Daleithiau bod $0.25 triliwn ar werth ychydig dros wythnos yn ôl, ac a ddenodd buddsoddwyr a fyddai fel arfer wedi prynu o farchnad y DU. Fel y cofia'r Prif Weinidog, yn ei gyllideb gyntaf yn 1997, ac er gwaethaf rhybuddion gan y diwydiant pensiwn, tynnodd Gordon Brown gredydau treth difidend pensiwn o gronfeydd pensiwn, ac mae'r canlyniadau'n cael eu teimlo hyd heddiw—[Torri ar draws.]
Bydd rhaid i ni wrando mewn rhywfaint o dawelwch, fel y gall y Prif Weinidog glywed y cwestiwn.
Diolch, Llywydd. Effeithiodd hyn yn sylweddol ar gyllid llawer o gronfeydd pensiwn ac yn y pen draw mae wedi arwain at y defnydd gor-ddibynnol o fuddsoddi ar sail rhwymedigaeth gan gynlluniau pensiwn mewn anobaith yn ceisio gwneud iawn am y diffygion y maen nhw wedi'u dioddef yn barhaus ers hynny. Mewn ymgais wyllt i godi refeniw, mae gwaddol ariannol Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU wedi gweld cronfeydd pensiwn yn ceisio benthyca gyda mwy a mwy o risg—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Aelod ddod at ei gwestiwn, ac rwy'n siŵr y bydd e' yn gyflym iawn, iawn.
Byddaf, y frawddeg olaf, Llywydd—strategaethau benthyca mwy peryglus, rhai ohonyn nhw gyda throsoledd cyllidol hyd at bedair gwaith y sicrwydd cyfochrog sydd ganddyn nhw. Prif Weinidog, yn sgil y polisi Llafur trychinebus hwn sy'n dal i achosi sgil effeithiau hyd heddiw, pa asesiad ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddiogelwch cronfeydd pensiwn yng Nghymru sy'n defnyddio buddsoddiadau ar sail rhwymedigaeth? Diolch.
Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn haeddu gwell oddi wrth Aelodau blaenaf ei grŵp a ddylai fod wedi ei gynghori, cyn iddo sefyll, i beidio â chynnig cyfraniad o'r math yna ar lawr y Senedd. 'Bai Gordon Brown ac Unol Daleithiau America yw'r cyfan.' Wel, hyd yn oed mewn wythnos pan gynigwyd yr esboniadau mwyaf anghyffredin, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un wedi ceisio dwyn perswâd arnom ni i gredu hynny. Diolch i'r Aelod am esbonio'r ffordd y mae'r farchnad gilt yn gweithio a'r effaith ar rwymedigaethau pensiwn. Rwy'n credu fy mod i wedi deall eisoes os oes gennych chi farchnad lle nad oes neb yn barod i brynu ynddi, yna mae gwerth y nwyddau yr ydych chi'n ceisio eu gwerthu yn anochel yn gostwng, a phan fydd hynny'n digwydd, mae'r person sy'n cael ei orfodi i werthu yn wynebu sefyllfa lom iawn. Dyna pam y gorfodwyd Banc Lloegr, wrth gwrs, i ymyrryd, gwario biliynau a biliynau yn fwy y bydd yn rhaid i ni nawr dalu amdano yn y dyfodol. Nid oedd gan y catalydd ar gyfer hynny ddim byd i'w wneud â'r hyn a ddywedodd Gordon Brown ym 1997, nac ychwaith â'r camau gweithredu a gymerwyd yn yr Unol Daleithiau. Dyma ganlyniad uniongyrchol a rhagweladwy gweithred ddi-hid Canghellor y Trysorlys ar y pryd a'r sawl a'i ddiswyddodd am gytuno â hi bryd hynny.
Roedd y fasged 'i mewn' ar y ddesg y mae Prif Weinidog y DU bellach yn cuddio oddi tani yn llawn i'r ymylon, ond yn hytrach na wynebu'r heriau economaidd gyda difrifoldeb, gwnaeth Truss ffafrio'r ffantasi o economeg o'r brig i lawr gyda thoriadau treth ar gyfer y cyfoethog. Mae hi wedi cael ei gorfodi i wyrdroi bron pob mesur, ond mae'r niwed i'r economi yma i aros. O ganlyniad uniongyrchol, fel rydym ni wedi clywed, mae fy etholwyr i'n wynebu biliau morgais yn codi'n sydyn, biliau ynni dirfawr o fis Ebrill a chyni pellach. Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na all amddiffyn pobl a gwasanaethau rhag holl rym gweithredoedd Llywodraeth y DU. Rwy'n deall hynny, ond hoffai nifer o fy etholwyr wybod pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio eu diogelu dros y misoedd nesaf. Gan dybio y bydd naill ai Prif Weinidog y DU mewn enw'n unig neu'r Prif Weinidog go iawn, Jeremy Hunt, yn penderfynu cysylltu â chi yn y pen draw, pa neges fyddwch chi'n ei rhoi iddyn nhw, Prif Weinidog, ar ran pobl Cymru?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ac rwyf eisiau ei ailadrodd eto y prynhawn 'ma, fel y gwnes i wythnos diwethaf, oherwydd mae hwn yn gyfnod hollol ddifrifol ym mywydau dinasyddion yng Nghymru. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn werth, o ran pŵer prynu, £600 miliwn yn llai nag yr oedd ym mis Tachwedd y llynedd adeg yr adolygiad gwariant cynhwysfawr, ac mae'r Canghellor wedi dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad o gwbl o wneud iawn am yr erydiad hwnnw yn y cyllidebau sydd ar gael i warchod dinasyddion a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A nawr rydym ni'n gwybod bod toriadau ar ben hynny ar y ffordd.
Er y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob capasiti sydd gennym ni, pob punt yr ydym yn gallu ei defnyddio, pob partneriaeth yr ydym yn gallu dibynnu arni, i wneud yr hyn y gallwn ni i amddiffyn pobl yng Nghymru rhag effaith y toriadau hynny; bydd terfyn, yn syml, na allwn ni fynd y tu hwnt iddo. A bydd pobl yn gweld yn uniongyrchol ac yn anochel, nid yn unig oherwydd bod eu morgeisi bellach yn costio llawer iawn mwy, nid yn unig oherwydd y bydd yr amddiffyniad ynni a addawyd yr wythnos diwethaf a oedd i bara am ddwy flynedd bellach i bara am chwe mis yn unig, nid yn unig oherwydd y gallai'r budd-daliadau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw gael eu torri tra bod bonysau bancwyr heb unrhyw gyfyngiadau, ond fe fyddan nhw'n ei weld hefyd yn y gwasanaethau yr oedden nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw hyd yma na fydd ar gael yn yr un ffordd, os bydd rhaid i ni dorri ein cyllideb ar y raddfa y mae rhai sylwebyddion yn darogan.
Llywydd, daeth y toriad mwyaf erioed yr oedd yn rhaid i ni ei wneud mewn un flwyddyn pan oedd George Osborne yn Ganghellor y Trysorlys. Bu'n rhaid i ni dorri 3 y cant o'n cyllideb, ac fe wnaethom ni hynny ar ôl 10 mlynedd pryd yr oedd ein cyllideb wedi tyfu bob un flwyddyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, twf mewn termau real, ac yna roedd yn rhaid i ni dorri 3 y cant. Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yr wythnos diwethaf, yn dweud y byddai toriad o 15 y cant—15 y cant—mewn gwariant cyhoeddus, a hyn bellach nid ar ôl degawd o dwf, ond ar ôl degawd o gyni hefyd. Ni all neb gymryd arnynt y gall pobl yng Nghymru gael lloches rhag ymosodiad chwyrn hynny, a dyna'r neges y byddaf yn ei chyfleu pryd bynnag y caf y cyfle—fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn ei sgwrs â Phrif Ysgrifennydd diweddaraf y Trysorlys, y chweched un y mae wedi gorfod ymdrin ag ef yn ystod ei chyfnod yn Weinidog cyllid yma yn Llywodraeth Cymru.