– Senedd Cymru ar 19 Hydref 2022.
Symudwn ymlaen at eitem 9, dadl y Ceidwadwyr Cymreig: ardrethi busnes. Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Orllewin Clwyd, a chroesawaf y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heno. Mae busnesau yng Nghymru yn hollbwysig i’n ffyniant economaidd. Maent yn sbardun pwysig i dwf, gan greu swyddi a chyfoeth, ac maent yn sail i’n cymunedau, gyda llawer yn darparu gwasanaethau pwysig i bobl leol. Yn syml: eu llwyddiant hwy yw llwyddiant Cymru. Ond—ac rydym wedi clywed hyn droeon yn y Siambr a thu hwnt—mae llawer o fusnesau wedi wynebu cyfnod anodd iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. O’r pandemig i’r argyfwng ynni presennol a phwysau chwyddiant, mae busnesau wedi gorfod ymdopi ag ystod o heriau sydd wedi llesteirio eu potensial.
Mae'r materion hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar fusnesau, megis drwy gynyddu gorbenion, ond mae iddynt effeithiau anuniongyrchol hefyd, a gwyddom y bydd yr argyfwng costau byw a chwyddiant yn lleihau pwerau gwariant dewisol, sy’n golygu bod busnesau’n wynebu ergyd arall i'w ffrydiau incwm. Mae llawer wedi ceisio amsugno'r pwysau ar brisiau dros yr ychydig fisoedd diwethaf eisoes, ond yn amlwg, nid yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Gwyddom fod busnesau a pherchnogion busnesau'n wirioneddol bryderus.
Croesawaf y mesurau amrywiol sydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chefnogi busnesau. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, a roddodd gymorth sylweddol i fusnesau yn ystod y pandemig, yn ogystal â’r cynllun rhyddhad ar filiau ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae gwelliant Llywodraeth Cymru, fel y'i nodwyd ar yr agenda, hefyd yn rhestru’r cymorth y mae hi’n ei roi i fusnesau ledled Cymru, sy'n rhywbeth yr ydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn ei groesawu’n fawr, wrth gwrs.
Ond mae angen mwy o gymorth. Rydym mewn argyfwng costau gwneud busnes yn ogystal ag argyfwng costau byw ar hyn o bryd, a dyna pam na fydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Oherwydd pe bai’r gost o wneud busnes yn gostwng, ni fyddai angen cymorth mor sylweddol arnynt i leddfu baich ardrethi busnes. Ac yn anffodus, nid yw gwelliant y Llywodraeth yn cyfleu’r angen i ailystyried trethiant busnes i sicrhau nad yw’n rhwystr atchweliadol i ddyheadau a thwf busnes.
Fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae busnesau’n poeni y bydd gwneud gwelliannau i’w hadeiladau—gan gynnwys ymdrechion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy, er enghraifft—yn achosi i werth ardrethol eu heiddo godi, gan olygu y byddent yn cael eu gorfodi i dalu mwy am eu bod am ehangu eu busnes neu wella eu rhagolygon, neu yn achos gwelliannau ynni, lleihau eu gorbenion a helpu'r amgylchedd. Mewn gwirionedd, mae’r ffordd y mae ardrethi busnes yn gweithio yn golygu bod cwmnïau’n cael eu gorfodi i dalu treth cyn iddynt gael unrhyw incwm hyd yn oed, heb sôn am wneud unrhyw elw. Ychwanegwch y ffaith bod ardrethi yng Nghymru yn gymharol uchel o gymharu â gwledydd eraill—Cymru sydd â’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain ar hyn o bryd—a gallwch weld pam fod y sector yn galw am ailystyried y ffordd yr ydym yn trethu ffyniant.
Lywydd, nid wyf yn mynd i esgus fod gennyf yr holl atebion, nac yn wir y bydd y ddadl hon yn datrys y mater; mae’n sefyllfa gymhleth ac mae’n mynd i gymryd amser i weithio gyda busnesau i gael y cydbwysedd cywir rhwng cefnogi gwasanaethau cyhoeddus drwy drethiant a thwf economaidd.
Nodaf yr awgrym o dreth gwerth tir, fel y mae Plaid Cymru yn dadlau o'i phlaid yn eu gwelliant hwy. Fodd bynnag, yn anffodus, ni fyddwn ni ar yr ochr hon yn gallu cefnogi’r gwelliant hwnnw ychwaith fel y saif pethau. Er fy mod yn cydnabod bod gan ddiwygio o’r fath rai manteision o gymharu â’r system bresennol, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn ynghylch yr effeithiau y gallai diwygiadau mor eang â’r hyn a gynigir eu cael, fel y bydd yr holl Aelodau'n cytuno, rwy'n siŵr. Er enghraifft, mae llawer o fusnesau bach ar hyn o bryd yng nghanol trefi a dinasoedd lle mae gwerth tir yn ddrud. A allai diwygiadau o’r fath eu gyrru oddi ar ein stryd fawr, lle mae taer angen eu presenoldeb? Mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain: beth y byddem yn dymuno'i weld: canol trefi bywiog, neu rywbeth arall? A fyddai treth gwerth tir yn annog pobl i sefydlu mwy o fusnesau ar-lein yn hytrach na chael presenoldeb ffisegol er mwyn osgoi talu’r dreth hon? Sut, felly, y byddem yn sicrhau bod busnesau ar-lein yn cael eu trethu’n deg, ac yn cael eu trin yn gyfartal â’r rheini sydd ag eiddo ffisegol? Ond edrychaf ymlaen at glywed gan feinciau Plaid Cymru sut y gallai treth o’r fath weithio’n ymarferol, a sicrhau y byddai’r pot o arian sy'n cael ei godi ar hyn o bryd drwy ardrethi annomestig yn aros yr un fath, gan fod yn decach i fusnesau ar yr un pryd.
Fodd bynnag, mae pethau y gellid eu cyflwyno dros y misoedd nesaf i helpu busnesau i oroesi wrth i ddiwygiadau ehangach gael eu hystyried. Er enghraifft, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw am ailgyflwyno seibiant ardrethi busnes o 100 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch tra bo'r hinsawdd economaidd ansicr yn parhau. Fan lleiaf, gellid ystyried ymestyn y cynllun rhyddhad presennol o 50 y cant y tu hwnt i’w oes bresennol yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan fod busnesau ar hyn o bryd yn ofni’r dibyn sydd o'u blaenau. Neu gallai’r Llywodraeth barhau i rewi'r lluosydd, fel y gall busnesau o leiaf gynllunio gyda rhyw fath o sicrwydd. Byddwn hefyd yn dadlau y gallem edrych ar hollti’r lluosydd, yn debyg iawn i’r hyn a welwn mewn rhannau eraill o’r DU, fel nad yw busnesau bach yn cael eu trin yn yr un modd â busnesau mawr, a byddai hynny’n annog twf. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru hefyd wedi nodi pwyntiau dilys iawn, megis lleihau cost apeliadau i fusnesau a sicrhau bod pob busnes yn ymwybodol o’r cynlluniau cymorth amrywiol sydd eisoes yn bodoli.
Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud bod y pethau hyn yn costio arian, ac rwy’n ymwybodol nad oes cronfa ddiderfyn o arian i Lywodraeth Cymru ei defnyddio, ond serch hynny, mae ganddi’r dulliau sydd eu hangen i ddarparu cymorth i fusnesau drwy'r cyfnod hwn, fel y mae wedi'i wneud o'r blaen. Gallwn ddefnyddio adnoddau presennol yn well i ddarparu cymorth sydd nid yn unig yn lleihau baich ardrethi busnes, ond sy’n helpu busnesau i dyfu, gan leihau’r ddibyniaeth ar gymorth ariannol ychwanegol gan y Llywodraeth i dalu’r ardrethi.
Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau o bob rhan o’r Siambr y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddefnyddio’r ddadl hon i drafod yn adeiladol sut y gallwn gefnogi busnesau Cymru yn y ffordd orau, nid yn unig drwy’r cyfnod anodd hwn, ond y tu hwnt, felly gallwn helpu i adeiladu economi gryfach, fwy llewyrchus i bawb. I grynhoi, Lywydd, gofynnaf i’r Aelodau gefnogi’r cynnig gwreiddiol ac i wrthwynebu gwelliannau 1 a 2. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, a dwi’n galw ar y Gweinidog cyllid i gynnig gwelliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig.
2. Yn croesawu:
a) y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau.
b) y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig.
c) y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23.
Yn ffurfiol.
Mae wedi’i gynnig. Dwi’n galw nawr ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegwch pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r system bresennol o ardrethi annomestig gyda chynigion ar gyfer un dreth dir ac eiddo newydd sy'n cwmpasu tir preswyl, tir masnachol, a thir diwydiannol (gyda thir amaethyddol yn parhau i gael ei eithrio).
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am agor y ddadl, er fy mod yn credu na ddylai dadl heddiw fod ynglŷn â pha ran o’r DU sydd â’r lefel ardrethi busnes uchaf neu isaf? Rwy'n credu, ac rydych chi'n cydnabod, fod angen iddi fod yn drafodaeth ehangach, fwy soffistigedig ynghylch, yn y lle cyntaf, ai’r system ardrethi busnes ei hun yw’r dull gorau, ac a oes ffordd decach a mwy effeithiol o'i wneud. Mae ein gwelliant yn awgrymu bod gennym farn benodol ar hynny.
Ond mae'n fater gwirioneddol bwysig, sydd wedi'i godi'n gwbl briodol, gan mai ardrethi busnes yw un o'r costau mwyaf i fusnesau yng Nghymru. Cânt eu crybwyll yn rheolaidd fel un o’r beichiau trymaf y mae llawer o’n busnesau'n eu hwynebu. Ond wrth gwrs, maent hefyd, ar yr un pryd, yn ffrwd incwm bwysig i awdurdodau lleol, fel sydd wedi'i gydnabod. Felly, mae angen taro cydbwysedd yn hyn o beth ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y system a ddefnyddiwn yn deg ac yn flaengar, ond hefyd yn casglu’r refeniw angenrheidiol sydd mor bwysig i gyllid cyhoeddus.
Rwy’n arbennig o ymwybodol yma, wrth gwrs, o fuddiannau busnesau bach a chanolig eu maint o fewn yr hafaliad cyfan. Gŵyr pob un ohonom fod amryw gynlluniau rhyddhad wedi eu crybwyll, a gwnaed llawer i ddarparu cymorth i’r busnesau sydd wedi'i chael hi'n anodd oherwydd effeithiau amrywiol Brexit, y pandemig, a bellach, yn ddiweddar, yr argyfwng chwyddiant. Ond gwyddom hefyd nad yw pawb wedi cael mynediad at y cymorth y teimlent fod ei angen arnynt, a bydd llawer ohonom wedi ymdrin â gwaith achos yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau lle roedd pobl yn cwympo drwy'r bylchau hynny. Ac ni waeth a gawsant gymorth ai peidio, mae llawer o fusnesau bellach, fel y gwyddom, yn gorfod dewis rhwng gorfod ymdopi â chostau ychwanegol, ac a ydych yn cynyddu eich prisiau neu'n ceisio parhau i fod yn gystadleuol, ac mae’n her aruthrol i lawer o'n busnesau. Felly, nid yn unig fod chwyddiant cynyddol, y costau ynni, prinder staff, ad-daliadau dyledion i lawer o fusnesau, nid yn unig fod cost economaidd ynghlwm wrth hynny i gyd, ond mae cost ddynol hefyd, onid oes, yn sgil y straen a'r pwysau ar yr unigolion sy'n ceisio cael deupen llinyn ynghyd. Ond rhwng popeth, nid yw'r darlun yn edrych yn gynaliadwy iawn fel y saif pethau.
Felly, dylem gael polisi treth sydd nid yn unig yn deg, ond sydd hefyd yn cymell entrepreneuriaid yma yng Nghymru yn y ffyrdd cywir. Gwyddom hefyd fod ardrethi busnes yn cael eu hystyried yn annheg ac yn atchweliadol i raddau helaeth, ac mae’r Gweinidog, a bod yn deg, wedi dweud o’r blaen ei bod am symud tuag at greu Cymru decach a’i bod wedi ymrwymo i archwilio treth gwerth tir, gyda gwaith amrywiol yn mynd rhagddo ar hynny. Felly, byddai’n dda, yn eich ymateb i’r ddadl hon heddiw, Weinidog, pe baech yn egluro ble rydych chi arni ar hyn o bryd gyda llawer o’r gwaith hwn, ac efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am amserlenni ac ailadrodd eich ymrwymiad, gobeithio, i archwilio a datblygu opsiynau ynghylch y dreth gwerth tir.
Rydym wedi gweld ymchwil, wrth gwrs, gan Brifysgol Bangor sy'n dangos y gall treth gwerth tir fod yn system decach, a chan fod y diwygiadau arfaethedig a nodwyd gennych yn flaenorol i fod i ddigwydd dros gyfnod o bedair blynedd, os cofiaf yn iawn, rwy'n gobeithio y bydd cyfleoedd rheolaidd inni graffu ar gynnydd yn y lle hwn, i sicrhau bod llais busnesau, awdurdodau lleol ac eraill, wrth gwrs, yn ganolog i’r holl broses honno. I mi, mae treth gwerth tir yn cynnig tegwch ac effeithlonrwydd. Mae'n eithaf syml i'w chasglu, byddwn yn dychmygu; mae'n anodd iawn osgoi talu treth gwerth tir—ni allwch ei chuddio mewn cyfrifon alltraeth fel y gallwch gyda phethau eraill yn aml iawn. Gall fod yn ddatgymhelliad cryf i hap-berchnogaeth, oherwydd yn amlwg, byddai tirfeddianwyr sy'n crynhoi tir o ansawdd uchel at y diben hwnnw'n wynebu bil mwy. Ac rwy'n gobeithio, wedyn, y byddai hynny'n helpu i wastatáu'r cylchoedd o ffyniant a methiant, gan wneud eiddo, o bosibl, yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc.
Yn ogystal, gallai treth gwerth tir annog datblygu, gan y byddai gan bobl gymhelliant i ddefnyddio tir segur a thir nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol at ddefnydd mwy cynhyrchiol. Er bod y rhan fwyaf o drethi'n dueddol o annog pobl i beidio â buddsoddi, neu'n ymyrryd mewn marchnadoedd, nid yw trethi gwerth tir yn ystumio gweithgarwch economaidd; yn hytrach, maent yn helpu i gynyddu sefydlogrwydd a thwf hirdymor—dyn a ŵyr, mae angen ychydig o hynny arnom y dyddiau hyn—drwy feithrin defnydd mwy cynhyrchiol o gyfalaf. Ac wrth gwrs, yn hollbwysig, mae'n helpu cyllid y Llywodraeth drwy ddod â refeniw i mewn yn effeithlon ac yn gyflym.
Daeth asesiad Prifysgol Bangor i’r casgliad fod gwerth tir yng Nghymru yn darparu sylfaen drethu ddigon mawr i sicrhau y gallai treth gwerth tir godi refeniw sy’n cyfateb i’r hynny a godir gan y drefn dreth leol bresennol yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae llawer o waith i’w wneud. Mae nifer o gwestiynau a nifer o heriau y mae angen mynd i'r afael â hwy, a chyfeiriwyd at lawer ohonynt yn gynharach. Ond wrth gwrs, nid ydym yn argymell rhuthro i mewn i hyn, ond o'i wneud yn iawn, rwy'n credu y byddai'n system decach a mwy cyfartal.
Mae'n un sydd wedi dod i amlygrwydd gwleidyddol yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf, gydag ymrwymiadau gan Lafur, gan y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion, Plaid Cymru yma yn cynnig hyn yn ein gwelliant. Mae mwy na 30 o wledydd wedi mabwysiadu gwahanol fathau o dreth gwerth tir, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Kenya, Taiwan, Singapore, Denmarc, a rhai o daleithiau'r UDA hefyd. Felly, wrth gynnig gwelliant Plaid Cymru heddiw, gofynnaf i Aelodau’r Senedd gefnogi datganiad clir fod Cymru'n dymuno bod nesaf.
Mae 126,700 eiddo annomestig yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi busnes, a chodaf fy het iddynt. Mae ardrethi busnes wedi cynyddu 10 y cant dros y chwe blynedd diwethaf; cymharwch hynny â 3 y cant yn Lloegr, 2.9 y cant yn yr Alban. Golyga hynny mai Cymru yw'r gornel fwyaf anghyfeillgar i fusnes yn y Deyrnas Unedig. Dywedodd cadeirydd cenedlaethol y Ffederasiwn Busnesau Bach fod y system ardrethi busnes bresennol yn cyfrannu at nifer y siopau gwag. A phan welwn stryd fawr wag, mae'n fwy na'r ffaith nad oes busnesau yno; nid yw siopau gwag yn edrych yn dda ar stryd fawr. Mae'n gostwng gwerth siopau eraill mewn gwirionedd.
Mae 88 y cant o fusnesau'n credu y dylech fod yn defnyddio rhyddhad trethi i hybu twf, ac rwy'n croesawu'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, ond nid yw ond yn ymestyn i ryddhad o 50 y cant gyda chap o £110,000. A chredaf fod yr hyn y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn ei ddweud yn wir. Dylem ailgyflwyno’r seibiant ardrethi busnes 100 y cant ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mewn gair, gallai rhai busnesau gau eu siopau a masnachu ar-lein yn unig, ac nid ydym am i hynny ddigwydd. Dylem fod yn gwobrwyo eu presenoldeb ar ein stryd fawr, a'u cadw fel mannau bywiog hanfodol y gall pobl eu mynychu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Efallai mai un ffordd ymlaen fyddai codi tâl ar fanwerthwyr ar-lein fel pe baent ar y stryd fawr.
Wel, wyddoch chi beth, ni allaf anghytuno â hynny, Mike? A gwrandewais y tro hwnnw. [Chwerthin.] Credaf eich bod yn gwneud pwynt dilys iawn, oherwydd—
Fe fyddwch yn Ganghellor cyn bo hir yn ôl pob tebyg. [Chwerthin.]
Neu'n Ysgrifennydd Cartref. O, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi mynd. [Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf.
Mae angen synnwyr cyffredin wrth ymdrin gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Gwn pa mor rhwystredig y teimlwch, rwy'n siŵr, oherwydd pan fyddaf yn ceisio gweithio ar ran etholwr ar brisiadau, gall gymryd hyd at ddwy flynedd. Rwyf wedi codi'r mater gyda’r swyddfa brisio, ac os wyf fi'n ei chael hi'n anodd, mae’n rhaid ei fod yn anodd, ond rywsut, mae'n rhaid ichi gael y sgyrsiau hynny. Bydd yn rhaid i bob busnes ar Stryd Mostyn apelio, wrth gwrs, pan gaiff y gwerthoedd ardrethol newydd eu cyhoeddi. A chredaf fod proses apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, fel rwyf wedi sôn—. Mae gennyf rai busnesau yn Aberconwy ar hyn o bryd yn aros pum mlynedd i'w hapeliadau gael eu clywed. Felly, rywsut, mae'n rhaid cael rhywfaint o gyswllt. Nawr, rwyf wedi dadlau ynglŷn â hyn dros y blynyddoedd gyda'r Prif Weinidog, a Gweinidogion eraill, a'u dadl hwy yw, 'O, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae'n adran o Lywodraeth y DU'. Ond, mae'n ddrwg gennyf, Llywodraeth Cymru sy'n caffael gwasanaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Felly, yn fy marn i, os wyf yn tendro am wasanaeth neu'n caffael gwasanaeth fy hun, mae gennyf lais o ran pa mor dda neu ddrwg yw'r gwasanaeth hwnnw. Felly, ni chredaf fod yr esgus yn ddigon da, i chi fel Llywodraeth Cymru ddweud, 'Wel, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhan o Lywodraeth y DU, nid yw'n ddim i'w wneud â ni'. Rydych yn caffael, gan ddefnyddio arian trethdalwyr, felly credaf yn gryf y dylai fod gennych lefel o ddisgwyliad ynghylch safon eu gwaith.
Gwyddom fod gennym argyfwng hinsawdd ac ynni. Rwyf eisoes wedi sôn heddiw am rai o’r costau anghredadwy y mae rhai o fy musnesau'n eu hwynebu. Mae pobl wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, ac rwyf wedi gorfod dweud, 'Wel, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ynni’. Ond maent yn fy ateb yn syth, gan ddweud, 'Ond rwy'n gofyn beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'n helpu ni fel busnesau'. Ac i mi, mae ardrethi busnes yn gwbl amlwg. Dyna un o’r ffyrdd y gallwch chi helpu’r busnesau hynny sy'n dioddef yn enbyd.
Erys y ffaith mai busnesau yng Nghymru, busnesau ledled y DU, yw asgwrn cefn economi ein gwlad. Nid yn unig eu bod yn dymuno talu eu ffordd eu hunain, darparu gwasanaeth da, maent hefyd am gyflogi pobl. Mae wedi dod yn llawer anoddach bellach i gynnig prentisiaethau ym maes manwerthu, yn y sector lletygarwch—nawr, ar hyn o bryd. Mae llawer o ffocws wedi bod ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. O ran ardrethi busnes, rwy'n credu o ddifrif y gallech arloesi a chreu ffordd ymlaen i fusnesau—hynny yw, pe bai gennych awydd ac ewyllys i wneud hynny. Diolch.
Gadewch i ni fod yn glir, busnes yw asgwrn cefn ein heconomi—o berchennog y busnes bach ar y stryd fawr i'r cwmnïau mwy sy'n cyflogi cannoedd a miloedd o bobl ar draws y wlad. Y gwledydd mwyaf llewyrchus yn y byd yw'r rhai lle gall busnesau ffynnu, a rhan allweddol o'r llwyddiant hwnnw yw llai o fiwrocratiaeth a llai o drethi i'r busnesau hynny. Yng Nghymru, mae gennym yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan, fel y dywedodd Peter Fox. Mae gennym yr allbynnau cynnyrch domestig gros y pen gwaethaf o gymharu ag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. A hyn ar ôl 23 mlynedd o ddatganoli, a 23 mlynedd o reolaeth Lafur, felly rwy'n credu ei bod yn hen bryd i fusnesau gael ffrind ym Mae Caerdydd.
Mae yna fusnesau yn fy nghymunedau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed sydd wedi nodi bod ardrethi busnes yn un o'r rhesymau pam na allant fforddio dal ati, nad yw ardrethi busnes fel y maent wedi'u gosod ar hyn o bryd yn fforddiadwy i lawer, yn enwedig mewn cyfnod o broblemau economaidd, wedi'u hachosi gan ryfel gwarthus Putin yn Wcráin ac ansicrwydd y farchnad fyd-eang. Maent hefyd wedi gorfod ymdrin â chanlyniadau dinistriol cyfyngiadau COVID-19, a bydd effeithiau hynny'n cael eu teimlo am ddegawdau i ddod, gyda rhai busnesau'n gadael y stryd fawr, a byth yn dychwelyd eto. Heb os, mae'n gyfnod anodd i fusnesau. Felly, byddai diwygio ardrethi busnes, fel rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn ei gredu, yn gwneud Cymru'n wlad gystadleuol ac yn cynnig rhaff achub fawr ei hangen i fusnesau ar yr adeg y maent fwyaf o'i hangen. A hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ystyried hyn yn ymateb y Gweinidog.
Mae mwy o werth i fusnesau na busnes yn unig. Maent yn darparu swyddi, maent yn cynyddu ffyniant, maent yn gwneud ein trefi a'n pentrefi a'n dinasoedd yn fwy deniadol, ac maent yn annog arloesi, ac yn gwella gwerth a dewis i gwsmeriaid. Byddai diwygio ardrethi busnes yng Nghymru yn ein gwneud yn lleoliad llawer mwy deniadol ar gyfer mewnfuddsoddiad, a fydd yn rhoi hwb i swyddi, twf a ffyniant. Ond rwy'n cytuno, fel y mae eraill wedi'i ddweud, fod angen inni edrych ar fesurau ehangach a allai gefnogi ein sector busnes ym maes manwerthu a lletygarwch, oherwydd rydym yn gweld tafarndai'n cau ar raddfa enfawr, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n rhaid rhoi diwedd arno. Felly, gadewch inni roi diwedd ar yr holl ddiflastod a orfodwyd ar fusnesau Cymru a rhoi'r offer a'r rhyddid iddynt ffynnu mewn ffordd a fydd o fudd i'n heconomi ac i bobl Cymru am genedlaethau i ddod. Diolch, Lywydd.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Fel cyn-gynghorydd sir, ond heb gyrraedd uchelfannau statws arweinydd cyngor fel fy nau gyd-Aelod parchus sy'n eistedd bob ochr i mi, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y refeniw y mae ardrethi busnes yn ei godi i awdurdodau lleol, ond rwy'n ymwybodol hefyd o annigonolrwydd y fformiwla gyllido bresennol a'r tro gwael a wneir â llawer o gynghorau drwy setliadau cyllidebol a dosbarthiad cyllid. Oherwydd hyn, rwy'n falch o'r cyfle i gyfrannu.
Nid oedd yn syndod mawr mewn gwirionedd mai busnesau yng Nghymru sy'n talu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan, gyda busnesau Cymru'n talu hyd at 4.5 y cant yn fwy na busnesau eraill ar draws Prydain. Mae'r ffaith mai Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain i godi un ardreth safonol ar bawb, beth bynnag fo maint y busnes neu'r trosiant, yn ymddangos yn rhyfedd ac yn anystyriol o'r busnesau yma yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Fynwy, mewn modd mor huawdl wrth agor y ddadl, mae busnesau yng Nghymru yn hanfodol i'n ffyniant economaidd. Mae hyn yr un mor wir am fasnachwyr bach annibynnol ag ydyw am gwmnïau rhyngwladol mwy o faint, sydd fel ei gilydd yn chwarae rhan bwysig ar ein strydoedd mawr. Felly, er bod y sector wedi wynebu ansicrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wneud popeth yn ei gallu, gyda'r dulliau sydd ar gael iddi, i liniaru peth o'r pwysau a helpu busnesau i ganfod llwybr yn ôl at dwf a ffyniant.
Mae'n debyg y byddai llawer ohonom yn y Siambr heddiw yn ymffrostio'n falch am stryd fawr yn eu hetholaeth sy'n llawn o fasnachwyr annibynnol ac sy'n gweithredu fel esiampl o sut yr hoffem i strydoedd mawr ledled Cymru edrych. I mi, Arberth sy'n gwneud hynny, ac nid yn unig am fod fy swyddfa i ar y stryd fawr, ond rwy'n siŵr ei fod yn ffactor sy'n cyfrannu—stryd fawr sy'n llawn o fasnachwyr annibynnol, bwytai o safon uchel a busnesau teuluol yn denu cwsmeriaid i mewn i'r dref. Mae'r Aelodau wedi cyfeirio at drefi eraill ar draws Cymru a'r enghreifftiau cadarnhaol sydd ganddynt hwy yn eu hetholaethau, ond am bob stori lwyddiant, mae gennym hefyd ardaloedd lle mae busnesau wedi cael eu prisio allan o ganol y dref. Yn anffodus, mae trefi hanesyddol Doc Penfro yn sir Benfro neu Hendy-gwyn ar Daf yn sir Gaerfyrddin yn enghreifftiau lle mae busnesau, dros y genhedlaeth ddiwethaf, wedi cau a lle mae siopau'n wag. Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at hyn yw'r drefn ardrethi busnes anhyblyg y mae'n rhaid iddynt weithredu oddi tani. Elwodd trefi fel Arberth yn fawr o gynlluniau rhyddhad ardrethi gwledig blaenorol, a wnaeth lawer i sefydlu'r dref fel cyrchfan siopa i ymwelwyr a phobl leol. Rwy'n deall bod cynlluniau o'r fath yn parhau yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol unigol, ond hoffwn wybod, Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru'n annog eu cydweithwyr mewn llywodraeth leol i wneud defnydd o'r dulliau sy'n parhau i fod ar gael iddynt.
Ymhell cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn, galwodd fy nghyd-Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr am i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio o ardrethi busnes yn gyfan gwbl, ac i fusnesau sy'n werth o dan £18,000 i dalu ardreth sy'n cynyddu'n raddol i'r swm llawn hwnnw. Byddai hyn yn golygu bod modd ailfuddsoddi mwy o arian mewn busnesau bach, yn enwedig yn eu blynyddoedd cyntaf o weithgarwch. Os nad yw ein polisi yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru, a gaf fi annog y Gweinidog i roi ystyriaeth i awgrym a wnaed gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch pryd y dylai busnesau newydd ddechrau talu ardrethi busnes? Yn hytrach na rhoi bil ardrethi i fusnes newydd o'r diwrnod cyntaf, a fyddai'n werth archwilio'r opsiwn o wyliau ardrethi ar gyfer, dyweder, y 12, 18 neu 24 mis cyntaf o weithgarwch? Byddai hyn yn galluogi mwy o fusnesau newydd, yn cynyddu'r gobaith o oroesi'n hirdymor ac yn cynyddu nifer y safleoedd a feddiennir a'r cyfleoedd gwaith a gaiff eu creu.
Weinidog, mae'n amlwg nad oes gan neb yr atebion i gyd i'r broblem hon. Fodd bynnag, ceir amryw o atebion a all fynd rhywfaint o'r ffordd i oresgyn rhai o'r heriau sydd o'n blaenau. Rwy'n annog y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw a dangos i fusnesau yng Nghymru fod Llywodraeth Cymru ar eu hochr hwy mewn gwirionedd. Diolch, Lywydd.
Y Gweinidog cyllid nawr i gyfrannu at y ddadl. Rebecca Evans.
Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn sicr ar ochr busnesau Cymru, ac rydym yn llawn gydnabod yr heriau y mae busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn eu hwynebu o dan yr amodau economaidd presennol, ac yn wir, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn agored i'r un pwysau cyllidebol.
Mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r system cyllid llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd, gan godi mwy na £1.1 biliwn yn flynyddol, ac nid yw hwn yn gyfraniad bach at y cyllid sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt, ac nid yw'n gyfraniad bach i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn wir. Ond mae'n rhaid cofio bod pob ceiniog yn mynd yn ôl i gefnogi awdurdodau lleol a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu. Rwy'n cydnabod bod sicrhau bod refeniw hanfodol yn cael ei gasglu i ariannu'r gwasanaethau lleol y mae pawb ohonom yn eu defnyddio, a sicrhau cyfraniad teg a chynaliadwy gan dalwyr ardrethi, yn gydbwysedd heriol i'w gyflawni. Ond rwy'n herio'r rhai a hoffai ein gweld yn mynd gam ymhellach nag a wnawn eisoes—ac rydym eisoes yn darparu llawer iawn o gefnogaeth—i ddweud pa rai o'r gwasanaethau cyhoeddus hynny y byddech chi eisiau eu gweld yn cael eu torri neu eu lleihau er mwyn darparu'r gefnogaeth ychwanegol honno, oherwydd dyna yw'r dewis gonest yr ydym yn ei wynebu pan fyddwn yn cael y sgyrsiau hyn. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon i ddweud y dylem ddefnyddio adnoddau presennol yn well, oherwydd nid yw hynny'n cyfleu anferthedd yr hyn sy'n cael ei ofyn. Mae'r rhain yn sgyrsiau agored y dylem eu cael ynglŷn â blaenoriaethau, ac rwy'n agored i gael y sgyrsiau hynny.
Ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi capio'r cynnydd yn y lluosydd. Rhwng 2018-19 a 2020-21, rydym wedi defnyddio'r mesur chwyddiant is, y mynegai prisiau defnyddwyr, i gymedroli codiadau blynyddol yn y lluosydd. Gwn fod hynny wedi cael croeso cynnes gan gynrychiolwyr diwydiant. Ers hynny, rydym hefyd wedi rhewi'r lluosydd yn 2021-22 a 2022-23, ac mae hynny'n cydnabod effaith estynedig y pandemig coronafeirws ar fusnesau a thalwyr ardrethi eraill, a gadewch inni gofio bod hynny wedi arbed bron i £200 miliwn i dalwyr ardrethi ar eu biliau ardrethi yng Nghymru ers 2018-19, o'i gymharu â'r refeniw y byddem yn ei godi pe baem wedi cynyddu'r lluosydd yn flynyddol gyda'r mesur chwyddiant uwch, y mynegai prisiau manwerthu.
Mae'r lluosydd yn un ffactor sy'n pennu biliau talwyr ardrethi, ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ffactor arall, wrth gwrs, yw gwerth ardrethol yr eiddo. Mae gan ein sylfaen drethu yng Nghymru werth ardrethol o tua £19,000 ar gyfartaledd, ac mae hynny, yn amlwg, yn wahanol iawn i'r hyn a geir yn Lloegr, sydd â chyfartaledd llawer uwch o tua £32,000. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i gyfartaledd yr hyn a delir gan dalwyr ardrethi. Cymhwysir rhyddhad wedyn i'r biliau sy'n lleihau neu'n dileu'r taliad i fwyafrif y talwyr ardrethi yng Nghymru, felly mae'n rhaid imi ddweud, o ganlyniad i'r gwahaniaethau rhwng ein sylfeini trethu a'n cynlluniau rhyddhad a ariennir yn llawn, fod biliau cyfartalog yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn ydynt yn Lloegr.
Rydym wedi darparu cymorth ariannol digynsail i fusnesau a thalwyr ardrethi eraill dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig ers dechrau'r pandemig coronafeirws. Mae ein cynlluniau rhyddhad parhaol yn golygu nad yw 44 y cant o'r sylfaen drethu yn talu unrhyw ardrethi domestig o gwbl, ni waeth beth fo lefel y lluosydd. Eleni, rydym yn darparu £116 miliwn o ryddhad ychwanegol wedi'i dargedu ar gyfer busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Er mwyn sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn cael digon o gefnogaeth, ac er mwyn adlewyrchu natur ein sylfaen drethu, rydym wedi buddsoddi £20 miliwn ychwanegol at y cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU at y diben hwn, gan arddangos, unwaith eto, y sylfaen drethu wahanol sydd gennym yma yng Nghymru. Ond o ganlyniad i'n cynlluniau rhyddhad parhaol a'r cymorth ychwanegol hwn, rydym yn gwario dros £350 miliwn eleni i ddarparu cymorth llawn neu rannol gyda'u biliau ardrethi i 70 y cant o safleoedd yng Nghymru.
Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2021. Mae hyn yn golygu y bydd y gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu effaith y pandemig coronafeirws, yn ogystal â newidiadau yn y sylfaen drethu ers yr ailbrisiad diwethaf. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyhoeddi fersiwn ddrafft o restr ardrethi newydd cyn diwedd eleni, a byddwn yn asesu effaith ailbrisio ar ein sylfaen drethu.
Ond mae'n iawn fod ein system ardrethi annomestig yn adlewyrchu natur unigryw'r sylfaen drethu yma yng Nghymru. Ar 29 Mawrth, nodais raglen ar gyfer diwygio ardrethi annomestig a fydd yn cael ei chyflwyno dros y pedair blynedd nesaf. Ers hynny rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar amrywiaeth o ddiwygiadau, gan gynnwys ailbrisiadau mwy mynych ac ystod o fesurau i helpu Llywodraeth Cymru i addasu'r system i ddiwallu anghenion Cymru yn y dyfodol, ac wrth gwrs, mae apeliadau hefyd yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw.
Mae ein cynlluniau'n cynnwys archwilio ymhellach y posibilrwydd o gyflwyno treth gwerth tir leol yn lle ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Byddai disodli'r trethi lleol presennol yn orchwyl fawr a fyddai'n galw am fuddsoddiad sylweddol, ac mae'n hanfodol fod gennym ddealltwriaeth drylwyr o'r costau a'r effeithiau. Rwyf wedi nodi fy mwriad i gynhyrchu map ffordd posibl ar gyfer y gwaith hwn tuag at ddiwedd tymor y Senedd hon. Roeddwn yn falch o glywed y cyfeiriad at yr asesiad technegol o’r potensial ar gyfer treth gwerth tir leol yng Nghymru gan Brifysgol Bangor. Roedd hwnnw'n waith a gomisiynwyd gennym yn Llywodraeth Cymru, ac mae'n nodi, fel y clywsom, fod yna amryw o gwestiynau sydd eto i'w hateb, a bod llawer o waith i'w wneud o hyd yn y maes penodol hwn. Ond mae'n rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo i barhau i fynd ar ei drywydd a'i archwilio.
Ar fater gwerthiannau digidol, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwn, ond hoffwn roi sicrwydd i gyd-Aelodau fod fy swyddogion yn ymgysylltu â'u swyddogion cyfatebol ar y mater penodol hwn.
Felly, er bod ein hymyriadau dros y blynyddoedd diwethaf—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders yn gynharach, pam na allwn godi tâl ar y gwerthwyr ar-lein yn eu warysau mawr fel pe baent ar y stryd fawr?
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn archwilio amryw o ffyrdd y gellid cyflwyno treth ddigidol, ac rwy'n gwybod y byddent yn awyddus i glywed syniadau gan gyd-Aelodau yn y Senedd hefyd ynglŷn â sut y gellid cyflwyno'r fath beth. Oherwydd, fel rwy'n dweud, mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y gallai'r cynlluniau a'r cyfleoedd fod a'r modelau gwahanol ar gyfer cyflwyno treth gwerthiannau digidol. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gwneud hynny, ond mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwneud ag ef.
Er bod ein hymyriadau dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos bod y system ardrethi annomestig yn un ffordd sydd gennym o roi cymorth i fusnesau, rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith mai pwrpas trethi lleol yw codi refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol. Mae ein pecyn helaeth o ryddhad ac ymyriadau i gymedroli'r lluosydd yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw effaith wedi bod ar yr arian sydd ar gael i'r awdurdodau lleol, ac nid yw hynny'n hawdd ei gyflawni. Mae wedi codi o benderfyniadau anodd a ystyriwyd yn ofalus ynglŷn â sut i wario cyllideb gyfyngedig er budd gorau posibl holl bobl Cymru.
Ers dros 30 mlynedd, mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o'r ffordd yr ariannwn ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud gwelliannau i'r system yn unol â'n huchelgeisiau ar gyfer Cymru decach, wyrddach a chryfach, gan gynnal cryfderau'r dreth leol bresennol ar yr un pryd. Rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros welliant y Llywodraeth heddiw.
Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud ei bod yn bleser cau dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar ardrethi busnes? Rwyf am fod yn gryno iawn wrth gloi'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, a dynnodd sylw at bwyntiau pwysig ynghylch y ffaith mai ardrethi busnes Cymru yw'r rhai uchaf ym Mhrydain. Wrth gwrs, cododd Plaid Cymru eu cynnig ar gyfer un dreth dir ac eiddo. Rwy'n credu bod Peter Fox wedi amlinellu'n glir iawn pam fod pryderon ynghylch hynny. Lywydd, hoffwn alw ar bob Aelod i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gwrthwynebu gwelliannau Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly mae'r bleidlais yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddaf i'n symud yn syth i'r bleidlais. Oes yna dri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch? Un, dau, tri. Oes. Felly, canu'r gloch.