– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 25 Hydref 2022.
Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 4, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Banc Datblygu Cymru—Buddsoddi Uchelgeisiol. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd dros dro. Rwy'n gwybod bod busnesau a gweithwyr yn ymgodymu o'r newydd ag ysgytwadau gwirioneddol unwaith eto. Yn dilyn llawer o drafodaethau a gefais i gyda busnesau yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwy'n cydnabod yr anawsterau aruthrol y maen nhw'n eu hwynebu. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw amheuaeth ynghylch difrifoldeb y sefyllfa. Mae ein heconomi ni'n fwy dibynnol ar fusnesau bach, felly fe fydd y risgiau y maen nhw'n eu hwynebu yn sicr o ergydio ein cymunedau ni'n anghymesur. Mae llawer o fusnesau bach yn anadl einioes i'n cymunedau ni ac yn cynnig man cyfarfod i bobl, gan lunio rhan o gymeriad y cymdogaethau ledled Cymru. Yn oes datganoli, rwy'n falch ein bod ni wedi cydweithio i estyn cefnogaeth sy'n ymateb i fusnesau bach a chanolig.
Rwy'n gwybod bod y Banc Datblygu â rhan ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau. Cafodd hynny ei fynegi yn hyglyw ac eglur yn ein huwchgynhadledd economaidd ni'n ddiweddar. Fe geir safbwyntiau amrywiol wrth gwrs o ran ein dull ni o sicrhau economi gryfach yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hir, ond mae pob un ohonom ni'n awyddus i feithrin amgylchedd sy'n rhoi mwy o gydnerthedd i ni. Yn fy marn i, mae hynny'n golygu economi lle ceir sgiliau ac amddiffyniadau sy'n rhoi diogelwch i bobl drwy'r cyfnodau anodd sydd i ddod.
Nawr, mae gan Gymru gydnerthedd cynhenid. Mae busnesau Cymru wedi camu i'r adwy ac wedi datblygu gallu rhyfeddol i addasu i'r heriau anoddaf. Yr ysbryd hwn sydd wedi cynnal cymaint o fusnesau yn ystod ansicrwydd y cyfnod diweddar. Yn gwrthgyferbynu yn llwyr â Llywodraeth y DU, mae gan Gymru Lywodraeth sefydlog, aeddfed yn ogystal â rhwydwaith o bartneriaid cymdeithasol sy'n ein helpu i wneud y penderfyniadau cywir. Roedd yr uwchgynhadledd yn gynharach y mis hwn yn enghraifft ardderchog o dîm Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i feintioli problemau a chynnig datrysiadau.
Fe fyddaf i'n cwrdd â rhanddeiliaid allweddol unwaith yn rhagor ar ddechrau mis Tachwedd i gael eu hadborth nhw ynglŷn ag ymdrechion Llywodraeth y DU i sefydlogi'r economi yn dilyn y gyllideb Calan Gaeaf. Y gobaith yw y gallwn ni asesu gyda mwy o sicrwydd wedyn o ran yr ystod o gymorth sydd ei angen yma yng Nghymru a'r ysgogiadau ymarferol sydd ar gael i ni os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ac yn torri cyllideb Llywodraeth Cymru eto.
Ond, heddiw, fe hoffwn i nodi pum mlynedd ers sefydlu Banc Datblygu Cymru, banc datblygu rhanbarthol cyntaf y DU, a sôn am fy uchelgeisiau ar gyfer ei ddyfodol. Mae'r banc datblygu wedi tyfu i reoli arian gyda chyfanswm o tua £2 biliwn, ac wrth wneud hynny mae wedi dod yn rhan allweddol o'r ecosystem datblygu economaidd a chyllid yma yng Nghymru. Mae'r banc â rhan ganolog wrth ariannu busnesau sydd â chynlluniau busnes cadarn ond sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyllid o'r farchnad. Mae'n gwneud hyn drwy weithio law yn llaw yn gyfochrog â'r cyngor a'r cymorth sy'n cael eu darparu gan Busnes Cymru a thrwy gysylltiadau clos iawn â banciau prif ffrwd a chyd-fuddsoddwyr eraill, lle mae'n llunio rhan yn unig o'r pecyn buddsoddiad yn ei gyfanrwydd. Drwy fynd i'r afael â bylchau yn y farchnad, mae'r banc yn caniatáu i fusnesau gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnyn nhw. Dros bum mlynedd gyntaf ei fodolaeth, mae'r banc wedi rhagori ar nodau buddsoddi, gan gyflawni effaith economaidd o £1.2 biliwn. Fe gyrhaeddodd buddsoddiad cyffredinol o ran dyled ac ecwiti £110 miliwn yn 2021-22 yn ôl bwriad, a bennwyd yn ôl yn 2017, i gyrraedd £80 miliwn erbyn y flwyddyn honno.
O ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gymryd rheolaeth uniongyrchol ar y rhaglenni a addawyd yn lle'r rhaglenni a oedd yn cael eu hariannu gan yr UE, mae'r dirwedd ariannu yn llawer mwy cymhleth erbyn hyn nag yr oedd hi bum mlynedd yn ôl. Mae'r ffaith bod ein banc datblygu ein hunain sydd â digon o gyfalaf gennym ni nawr yma yng Nghymru yn golygu y gallwn ni gynnal y gallu a'r sefydlogrwydd i helpu i ysgogi datblygiad economaidd.
Wrth gynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf, rydym ni wedi ystyried y dirwedd newidiol hon o ran ariannu, sy'n cynnwys arian newydd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd a Banc Busnes Prydain. Gyda'i gilydd, mae hi'n bosibl y bydd yr arian hwn yn dod â thua £35 miliwn y flwyddyn o gyfalaf ychwanegol i Gymru. Mae hwnnw'n ddatblygiad i'w groesawu, a fydd, o'i gyfuno â'r buddsoddiadau blynyddol a fwriedir gan y banc datblygu, sydd am godi i dros £120 miliwn y flwyddyn dros yr un cyfnod, yn helpu i sicrhau y bydd mwy o fusnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar gyllid. Fe fydd y banc datblygu yn cydweithio yn glos â nhw i sicrhau bod eu buddsoddiad oddi wrth brifddinas-ranbarth Caerdydd a Banc Busnes Prydain yn ategu ei gilydd ac yn cefnogi busnesau ledled ein cenedl ni.
Yn ein rhaglen lywodraethu ni, rydym ni'n amlinellu ein huchelgais i gynyddu'r defnydd o gyfran ecwiti mewn cymorth busnes. Fe all buddsoddi ecwiti gefnogi busnesau arloesol sydd â thwf dichonadwy, gan greu swyddi o werth mawr a rhoi hwb i allforion. Mae cyfran ecwiti nid yn unig yn dod ag adnodd y cyllid ond ag arbenigedd i fusnesau hefyd, ac fe all fod yn gatalydd pwerus ar gyfer twf economaidd hirdymor.
Hyd yn hyn, mae ein banc datblygu ni wedi buddsoddi £78 miliwn o ecwiti mewn busnesau yng Nghymru, sydd, ochr yn ochr â buddsoddwyr eraill, wedi eu helpu i godi dros £200 miliwn. Rwyf i wedi rhoi gorchwyl i'r banc datblygu i anelu at nod o £100 miliwn o leiaf o ran cyfanswm buddsoddi ecwiti, a all, ochr yn ochr â chyd-fuddsoddi'r sector preifat, gyflawni dros £250 miliwn o gyfalaf i fusnesau arloesol—chwistrelliad o gyfalaf a fydd yn helpu i greu swyddi newydd, ehangu sectorau twf newydd yn ein heconomi, a helpu i ddiogelu safle Cymru i'r dyfodol.
Bydd y buddsoddiad ecwiti newydd hwn yn cael ei gyfeirio yn fwy uniongyrchol eto hyd yn oed, gyda chefnogaeth arall gan Lywodraeth Cymru, o gyngor busnes hyd gymorth arloesi, sy'n ei wneud yn gynnig cyflawn a'r gorau o'r fath. Wrth symud ymlaen, fe fydd gan fusnesau sy'n cael buddsoddiad ecwiti gefnogaeth ddigyffelyb ar hyd eu taith fuddsoddi. Rydym ni o'r farn y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth o ran cefnogi cwmnïau technoleg newydd cyffrous i fynd â'u cynnyrch o fod yn gysyniad cynnar hyd at ei farchnata, a rhoi cymorth i fusnesau uchelgeisiol i anelu at fod â thwf cryf, a thimau rheoli sy'n awyddus i brynu busnesau presennol a'u cadw nhw yn eiddo Cymru. Ac yn wir, dim ond amser cinio heddiw, cyn bod yn bresennol yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, bûm mewn digwyddiad dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol. Ac i'r rhai sydd â diddordeb, roedd Huw Lewis yn bresennol hefyd, gynt o'r parthau hyn, yn ei swydd newydd ef.
O bryder uniongyrchol i fusnesau yw'r heriau sy'n cael eu hachosi gan gostau cynyddol am ddeunyddiau, cyflogau ac, wrth gwrs, ynni. I helpu busnesau, fe fydd y banc datblygu yn parhau i gynnig hyblygrwydd i'w cwsmeriaid nhw drwy ymataliad a gwyliau ad-dalu lle bo hynny'n briodol. Er bod cyfraddau llog ar fenthyciadau'r banc datblygu wedi cael eu pennu wrth eu rhoi nhw—mae hynny'n amddiffyn y cwsmeriaid hyn rhag yr anwadalwch presennol—rydym ni'n gwybod hefyd nad y cyfraddau yw'r unig fater, ac fe all busnesau fod â ffydd fod y banc wedi ymrwymo i weithio gyda nhw drwy'r cyfnod anodd hwn.
Mae gan y banc datblygu swyddogaeth bwysig wrth gefnogi pontio busnes ar egwyddor 'buddsoddi i arbed' ac mae cyllid ganddo ar waith eisoes i gefnogi busnesau ar eu taith hyd at sero net. Ar hyn o bryd, mae'r banc yn datblygu cynllun newydd yn gyflym a fydd yn caniatáu i fusnesau ymgymryd â benthyca i ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n darparu ar gyfer datgarboneiddio. Ei nod fydd cynnig telerau ad-dalu sy'n fwy hyblyg, cyfraddau llog deniadol a chymorth fel arall, megis cymorth tuag at gostau ymgynghori, yn rhan o'r cynnig hwn i alluogi busnesau i fanteisio ar y lwfansau cyfalaf hael presennol a sicrhau eu bod nhw â ffydd fod y technolegau a'r datrysiadau sy'n cael eu mabwysiadu yn addas ar eu cyfer nhw. Rwy'n gofyn i'r banc datblygu wneud popeth yn ei allu i gyflymu ei gynlluniau er mwyn i'r gwaith cyflenwi ddechrau eleni, gan sicrhau buddugoliaeth ddwbl i fusnesau cymwys drwy eu helpu nhw i dorri costau ynni'r dyfodol a symud ymlaen â'n huchelgais gyffredin ni o ran datgarboneiddio.
Mae Banc Datblygu Cymru yn ased i'r genedl. Mae'n parhau i helpu busnesau ledled Cymru i oroesi, tyfu a ffynnu. Rwy'n falch o'r hyn a gyflawnodd hyd yn hyn ac mae gennyf i ffydd yn y cynlluniau sydd ganddo i gyflawni fy uchelgeisiau i o ran dyfodol yr economi yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma a llongyfarch y banc datblygu ar gyrraedd ei ben-blwydd yn bump oed? Nawr, mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn agored iawn i graffu gan Bwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig, ac rwy'n gwybod bod yr Aelodau yn croesawu'r gallu i holi'r tîm ynglŷn â'i fuddsoddiadau a'i gynnydd. Nawr, mae'r datganiad heddiw yn briodol yn cydnabod bod economi Cymru yn dibynnu mwy ar fusnesau bach, ac felly mae hi'n hollbwysig bod y banc datblygu yn ymestyn at fentrau bach a chanolig ac yn cynnig cefnogaeth. Mae'r Gweinidog wedi dweud bod y banc datblygu â swyddogaeth ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau, ond nid yw yn dweud yn iawn wrthym ni sut mae'r gwaith hwnnw'n digwydd, ac felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni sut yn union y mae'r banc datblygu yn gweithio gyda busnesau bach yn benodol, o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol.
Mae datganiad heddiw yn tynnu sylw at waith da iawn gan y banc datblygu. Mae hi'n wych clywed ei fod wedi buddsoddi £78 miliwn o ecwiti i fusnesau yng Nghymru. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod yr arian yn mynd i fusnesau ym mhob rhan o Gymru, ac felly fe allai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym ni efallai ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y banc yn codi ymwybyddiaeth o'i wasanaethau i fusnesau ym mhob cwr o'r wlad.
Mae'r Gweinidog wedi rhoi nod i'r banc o gyfanswm o £100 miliwn o ran buddsoddi ecwiti, sydd, ochr yn ochr â chyd-fuddsoddiad y sector preifat, yn gallu darparu dros £250 miliwn o gyfalaf i fusnesau. Fe fydd gweithio gyda chyd-fuddsoddwyr yn hanfodol os yw'r banc yn dymuno i'w fuddsoddiad mewn busnesau yng Nghymru fod â'r effaith fwyaf. Wrth gwrs, ar gyfer gwneud hynny, mae'n rhaid i'r banc barhau i annog y sector preifat i fuddsoddi ochr yn ochr ag ef ei hun, ac felly efallai y gall y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud i gynyddu'r cyd-fuddsoddiad hwnnw.
Nawr, rydym ni'n gwybod am effaith aruthrol pandemig COVID ar fusnesau yng Nghymru, ac mae gan y banc datblygu swyddogaeth bwysig o ran cefnogi adferiad economaidd a chefnogi busnesau. Mae hi'n hanfodol nad yw dull sy'n trin pawb yr un fath trwy'r amser yn cael ei fabwysiadu gan y banc, ac rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn siarad am gynnig hyblygrwydd i'w gwsmeriaid trwy ataliad a gwyliau ad-dalu. Mae datganiad heddiw yn cydnabod yr heriau oherwydd costau cynyddol am ddeunyddiau, cyflogau ac, wrth gwrs, ynni y mae busnesau yn eu hwynebu ac felly efallai gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut y gall y banc roi cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer busnesau o ran yr heriau penodol hyn.
Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod y swyddi sy'n cael eu creu gan y banc datblygu, ac mae swm o waith da wedi bod yn mynd rhagddo i nodi a mesur cynhyrchiant hefyd. Yn ôl cynllun corfforaethol y banc, ei nod o ran swyddi sylfaenol ar gyfer 2022 i 2027 yw 20,000 o swyddi, ond mae hi'n hanfodol bod cyfran o feintioli ansawdd swyddi. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod llwyddiant o ran swyddi, a'r hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i Lywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.
Mae'r Gweinidog wedi dweud yn eglur heddiw y bydd busnesau sy'n derbyn buddsoddiad ecwiti yn cael cefnogaeth ddigyffelyb ar hyd eu taith fuddsoddi nhw. Mae datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd y banc yn cefnogi cwmnïau technoleg newydd i ddwyn eu cynnyrch nhw ymlaen o gysyniad cynnar hyd at y farchnad, yn ogystal â busnesau sy'n anelu at dwf mawr, a thimau rheoli i brynu busnesau presennol a'u cadw nhw ym mherchnogaeth Cymru.
Rydw i, wrth gwrs, yn croesawu'r uchelgais yma, ac fe wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni efallai ynglŷn â sut mae'r banc yn buddsoddi mewn busnesau newydd ym maes technoleg newydd yn benodol. Mae rhywfaint o waith da wedi digwydd ynghylch cronfa sbarduno technoleg Cymru, ond mae angen gwneud mwy, ac felly fe fyddwn i'n ddiolchgar am unrhyw wybodaeth bellach y gall y Gweinidog ei rhoi yn hyn o beth.
Yn yr un modd, mae hi'n bwysig fod yna gefnogaeth i dimau rheoli sy'n awyddus i brynu busnesau cyfredol a'u cadw nhw ym mherchnogaeth Cymru. Hyd yma, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy'n cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru, wedi bod yn cynnig llwybr ariannu posibl ar sail dyled i'r gweithwyr allu prynu eu busnesau. Ac rwy'n gwybod bod cefnogaeth ar gael i reolwyr brynu busnesau drwy gronfa olyniaeth rheoli Cymru, ond efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae'r cronfeydd hynny'n cael eu gwerthuso a'u monitro, er mwyn i ni sicrhau bod y gefnogaeth briodol ar gael i fusnesau.
Ac yn olaf, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at waith y banc datblygu i hyrwyddo trawsnewid yng Nghymru i amgylchedd busnes sy'n cynnig cryn dipyn yn fwy o ran datgarboneiddio. Mae gennyf i ddiddordeb arbennig yn natblygiad cynllun newydd a fydd yn caniatáu i fusnesau ymgymryd â benthyca ar gyfer ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni datgarboneiddio. Yn wir, mae adroddiad blynyddol y banc yn dangos bod 41 y cant o'i gwsmeriaid wedi mynegi eu bod yn cael eu hysgogi i weithredu ynglŷn â newid hinsawdd, ond nad yw'r arbenigedd hwnnw ganddyn nhw mewn gwirionedd. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn gallu dweud ychydig mwy wrthym ni am y cynllun newydd sy'n cael ei ddatblygu a phryd mae hwnnw'n debygol o fod ar waith.
Felly, wrth gloi, Llywydd dros dro, rydym ni'n gwybod mai un o brif themâu'r banc yw buddsoddi mewn busnesau sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth yn ein cymunedau ni, ac mae'n rhaid i ni gofio bod y banc, yn ei hanfod, yn fuddsoddwr sy'n ceisio creu effaith sydd â phwrpas cymdeithasol. Ac, felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ef y prynhawn yma, a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed mwy am waith y banc datblygu yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf? Diolch i chi.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Mae hon yn sefyllfa fanteisiol i fod yn gwneud datganiad ynddi hi, sef bum mlynedd ar ôl i Ken Skates lansio'r banc datblygu. Mae hi'n deg dweud, ar y pryd, nad oedd pawb mor obeithiol y byddem ni'n gallu dathlu ei daith lwyddiannus ef nawr, a'i gyflawniadau o ran ei nodau buddsoddi sydd wedi bod yn well na'r disgwyl.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â busnesau bach a pha mor ymwybodol ydyn nhw o hyn, mewn gwirionedd, fe ymgymerodd Ffederasiwn y Busnesau Bach â'u harolwg eu hunain, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, ac roedd hwnnw'n canfod bod dwy ran o dair o'u haelodau yn ymwybodol o'r banc datblygu eisoes, a bu cynnydd sylweddol hefyd mewn ymwybyddiaeth o frand y banc datblygu dros y pum mlynedd ers ei sefydlu, a bod 92 y cant o gwsmeriaid, mewn gwirionedd, wedi dweud y bydden nhw'n defnyddio'r banc datblygu ar gyfer anghenion cyllido yn y dyfodol, ac, unwaith eto, bod naw o bob 10 yn cysylltu'r banc datblygu gyda gonestrwydd a hygrededd. Ac, yn fy marn i, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n meddwl am sefydliadau ariannol, mae hynny'n dangos nid yn unig ei fod wedi ennill ei blwyf ac wedi codi'r ymwybyddiaeth ohono i'r fath raddau mewn dim ond pum mlynedd, ond bod enw da iddo hefyd ymhlith ei gwsmeriaid cyfredol, yn ogystal â hynny. Fe fyddem ni'n hoffi gweld mwy o'r bobl hynny yn y traean olaf hwnnw yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r banc yn ei wneud ac yn manteisio ar y cynhyrchion sydd ganddo i'w gynnig.
Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r buddsoddiad a all ddigwydd gan y banc datblygu, boed yn fenthyciad neu'n ecwiti, neu'n gyfuniad o'r ddau, yn rhan o'r pecyn o gefnogaeth buddsoddi yn aml, ac mae hynny, rwy'n credu, yn cyffwrdd â'ch pwynt chi ynglŷn â chyd-fuddsoddi. Yn ddiweddar, fe wnes i gwrdd â banciau'r stryd fawr a'r banc datblygu i siarad am rai o'r heriau i'r economi yng Nghymru, yr heriau yr ydym ni wedi bod yn eu gweld nhw gyda'r cynnydd mewn cyfraddau llog, a sut olwg a oedd ar yr hinsawdd fuddsoddi. Nawr, mae yna her bob amser oherwydd bod rhai busnesau yn ceisio arbed arian ac yn peidio â gwneud dewisiadau o ran buddsoddi, sy'n ddealladwy o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y chwech neu saith wythnos diwethaf. Ond mae yna fusnesau sy'n bwriadu buddsoddi o hyd.
Yr hyn yr ydym ni'n ei sôn amdano heddiw yw'r lansiad, neu'r arwydd ein bod ni'n mynd i allu lansio o fewn y flwyddyn eleni—dyna fy nod i; os nad felly, yna yn gynnar yn y flwyddyn newydd—gynnyrch newydd i helpu pobl i fuddsoddi yn eu dyfodol nhw, i ddatgarboneiddio a helpu gyda chostau ynni hefyd. Felly, rydym ni'n gobeithio cael mwy o bobl i ddod i mewn i'r maes hwnnw. A dyna faes hefyd lle mae llawer o fanciau ar y stryd fawr yn dweud bod ganddyn nhw arian ar gael i'w fuddsoddi ymhellach. Felly, fe fydd yr her o ran cyd-fuddsoddi, yr hyn y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud, yr hyn y mae'r busnesau eu hunain yn ei godi yn aml—mae nhw'n aml yn chwilio am rywun i bontio'r bwlch rhwng eu cyllid nhw a rhywun arall—ond buddsoddwyr posibl eraill hefyd, nid banciau'r stryd fawr yn unig. Mae hynny'n cynnwys, fel dywedais i, fuddsoddwyr ecwiti eraill.
Rhan o'n her ni yw bod y rhan fwyaf o'r buddsoddiad ecwiti sy'n digwydd ledled y DU wedi ei ganoli yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Os oeddech chi'n cael y sgwrs yma gyda de-orllewin Lloegr neu ogledd Lloegr, fe fydden nhw'n dweud fel hyn, 'Y broblem yw, mae gormod o arian yng nghornel de-ddwyrain Lloegr sy'n gorlifo.' Ac maen nhw eu hunain—ac os ydych chi'n siarad â'r Ffederasiwn Busnesau Bach—yn dweud, 'Fe hoffem ninnau gael banc datblygu rhanbarthol fel Banc Datblygu Cymru.' Mae hi'n fantais fawr y mae pobl a busnesau yn ei chydnabod, ond mae angen i ni sicrhau bod buddsoddwyr ecwiti eraill yn edrych ar Gymru hefyd, ar gyfer ychwanegu at yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y banc datblygu.
Nawr, roeddwn i'n sôn am brifddinas-ranbarth Caerdydd a'u buddsoddiad nhw, ond am Fanc Busnes Prydain hefyd. Maen nhw'n annhebygol o fod â'u harian nhw'n barod tan y flwyddyn nesaf. Pan gyhoeddwyd y buddsoddiad gan y cyn-Ganghellor, sy'n Brif Weinidog y DU erbyn hyn, fe gyhoeddodd ef y byddai cronfa yng Nghymru. Mae hi'n deg dweud, bryd hynny, nad oedd yna unrhyw gynllun arbennig. Erbyn hyn mae yna rywbeth sy'n edrych yn fwy tebyg i gynllun, ac mae'r banc datblygu, fel rwy'n dweud, wedi bod yn ymgysylltu ac yn cynllunio yn wirioneddol sut wedd a fyddai ar hynny. Fe fydd rhoi hynny ar waith yn cymryd peth amser eto, ac felly rwy'n edrych ymlaen at y buddsoddiad ychwanegol hwnnw sy'n dod i mewn i ategu'r darlun hwnnw. Ac, yn ogystal â hynny, ac nid buddsoddwyr preifat unigol yn unig chwaith, mae nifer o fuddsoddwyr cyfoeth sofran—o Ewrop a thu hwnt—sy'n edrych ar gyfleoedd yng Nghymru. A rhan o'r cydbwysedd y mae'n rhaid i ni ei daro yw, pan fo hwnnw'n gyfle gwirioneddol, yw sut ydym ni am wneud yn siŵr ein bod ni'n cael cytundeb nad yw'n golygu y bydd yr asedau hynny'n cael eu diwreiddio o Gymru, ond eu bod nhw'n cael eu tyfu yma hefyd.
Rwy'n credu bod hyn yn cyffwrdd â'ch pwynt chi am y sector technoleg. Mae technoleg ariannol a seiber yn enghreifftiau da iawn o sector sy'n gryf yng Nghymru a'r cyfle i hwnnw dyfu eto—yn sicr mewn rhannau o'r sgyrsiau a gefais i gyda sefydliadau bancio, gyda chronfeydd cyfoeth sofran eraill, ac yn wir gyda'r sectorau eu hunain. Mae gennym ni grŵp cadarnhaol iawn o sectorau yng Nghymru. Rwyf i o'r farn ei fod yn un o'r pethau yr ydym ni'n ei werthfawrogi, a bod gweddill y byd yn edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ac yn gadarnhaol iawn ynglŷn â'r peth, o ran dysgu sut y daethom ni yma, ond ar gyfer ystyried hefyd a allen nhw fuddsoddi er mwyn helpu i dyfu'r sector yn y fan hon hefyd. Ac ym mhob un o'r sectorau hynny, rydym ni'n debygol o weld cyflogaeth o werth mawr.
Mae'r cynnig gan Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru yn cynnwys cefnogaeth a deilwrwyd, fel crybwyllais i yn fy natganiad, felly nid yn unig y cewch chi arian—fe gewch chi rywfaint o gefnogaeth ac ymgynghoriaeth ynglŷn â hwnnw. Rydym ni wedi dweud, yn y gronfa newydd ar gyfer buddsoddi mewn datgarboneiddio, y gallai cymorth ymgynghori fod yn rhan o'r hyn a gaiff ei greu, i ddeall anghenion penodol busnes unigol. Rwy'n falch iawn o ailadrodd yr hyn a ddywedais i am berchnogaeth gweithwyr, nid yn unig y cronfeydd ar gyfer prynu busnesau gan eu rheolwyr nhw, ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud eisoes gyda grwpiau fel Cwmpas Cymru a'r cronfeydd y maen nhw'n eu gweinyddu, i geisio cynyddu nifer y busnesau sy'n perthyn i'w gweithwyr ledled Cymru a gwireddu ein haddewid maniffesto i ddyblu'r sector.
Ac yn olaf, ynglŷn â'ch pwynt chi am ein dull ni o sicrhau y bydd hyn yn hysbys o gwmpas Cymru, wrth gwrs, mae gan y banc datblygu bum swyddfa, a leolir yng Nghaerdydd, Llanelli, Cyffordd Llandudno, y Drenewydd, a'r pencadlys, wrth gwrs, sydd yn Wrecsam.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Ac wrth gwrs, mae yna rôl bwysig gan y banc yn nyfodol economi Cymru.
Mae Banc Datblygu Cymru yn estyn cymorth i'w gwsmeriaid trwy nifer o sefydliadau, gan gynnwys Busnes Cymru. Mae Busnes Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau yn rhad ac am ddim i gwmnïau ac unig fasnachwyr o Gymru. Bron i flwyddyn yn ôl bellach, cafwyd trafodaethau mewn pwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn hefyd am bryderon ynglŷn â chyllid i Fusnes Cymru, y mae llawer ohono'n mynd at gefnogi'r busnesau hynny. Ar 11 o fis Rhagfyr 2021, fe wnaethoch chi, Gweinidog, nodi bod dros draean o arian Busnes Cymru yn dod o ffynonellau Ewropeaidd. Flwyddyn yn ddiweddarach, sut mae hyn wedi effeithio ar Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, ac a oes asesiad effaith wedi cael ei wneud? Tua'r un pryd, fe ofynnais i'r Gweinidog hefyd am y cyrsiau a gynigir gan Fusnes Cymru, ac roeddwn i'n ddiolchgar am y cyfarfod dilynol a gawsom ni ynglŷn â'r pwnc hwnnw. Ers hynny, a oes unrhyw ehangu wedi bod o ran niferoedd y cyrsiau a faint sydd ar gael?
Nawr, mae cwmnïau cydweithredol a phartneriaethau cymdeithasol yn caniatáu i economi Cymru dyfu mewn ffordd fwy cynaliadwy, ac fe fydd rhan enfawr ganddyn nhw wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Ac rwyf i am achub ar y cyfle hwn i roi cyhoeddusrwydd i'r grŵp trawsbleidiol ar gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol sy'n cael ei gynnal yfory, pryd byddwn ni'n edrych ar yr union fater hwn. Ym mis Mehefin 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau sy'n perthyn i'w gweithwyr yng Nghymru. Yn gynharach eleni, fe ofynnais i'r Gweinidog am y cyllid sydd ar gael ar gyfer cwmnïau cydweithredol, ar gyfer helpu i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr yng Nghymru. Fe fyddwn i'n awyddus i wybod pa gynnydd sydd wedi bod o ran cyrraedd y nod hwnnw. Fe wnes i nodi, yn ei ddatganiad ef, ei fod wedi sôn am gefnogi rheolwyr sy'n prynu busnesau. Ai hynny felly yn hytrach na gweithwyr yn prynu busnesau yn y cyd-destun penodol hwnnw? Mae gwahaniaeth pwysig i'w nodi rhwng rheolwyr yn prynu a gweithwyr yn prynu. Fe fydd gan y ddau grŵp flaenoriaethau a bwriadau gwahanol wrth symud ymlaen.
Yn olaf, cymhelliant sero net busnesau'r flwyddyn nesaf. Mae'r fenter honno'n gobeithio cymell busnesau i ostwng eu hôl troed carbon ar sail yr egwyddor o fuddsoddi i arbed ac fe ddylai hynny leihau'r defnydd o ynni a biliau busnesau is yn yr hirdymor. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu. Fe fydd busnesau sy'n ystyried buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy neu fesurau effeithlonrwydd ynni yn cael cynnig o delerau mwy ffafriol. Fe all busnesau fenthyca i ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni datgarboneiddio drwy delerau ad-dalu mwy hyblyg, cyfraddau llog deniadol a chefnogaeth yn fwy eang, fel cymorth tuag at gostau ymgynghoriaeth. Mae'r Gweinidog yn rhoi'r gorchwyl i'r banc hefyd i anelu at nod uchelgeisiol o fuddsoddi ecwiti o £100 miliwn dros y pump i saith mlynedd nesaf.
Er bod y cyhoeddiad hwn i helpu anelu at nodau sero net yng Nghymru i'w groesawu, mae hwn yn rhywbeth y gwnes i eich holi chi a'r Prif Weinidog ynglŷn ag ef yn ddiweddar, ac fe alwyd amdano gan lawer yn y Siambr hon. Sut mae'r cynnydd hwn mewn buddsoddi yn cyd-fynd ag egwyddor pontio teg? Wrth i mi holi, roeddwn i'n cyfeirio at fusnesau, bragdai annibynnol bychain yn benodol, sydd wedi ymestyn eu cyllid ymhellach nag yr oedden nhw'n credu ei bod hi'n bosibl yn ystod y pandemig, a nawr, yn ystod yr argyfwng costau byw, efallai eu bod nhw'n amharod i ysgwyddo mwy o ddyled. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrthyn nhw yn ogystal â'r rhai na fydden nhw o bosibl yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn?
Hefyd, a fyddai Banc Datblygu Cymru, yn sgil y fenter hon, yn gallu rhedeg dull gweithredu sy'n rhoi blaenoriaeth i ddeunyddiau adeiladu effeithlon o ran ynni, gyda'r telerau mwyaf ffafriol yn cael eu rhoi ar gyfer adeiladu â'r deunyddiau hynny? Mae'r dull o sicrhau effeithlonrwydd ynni sy'n rhoi blaenoriaeth i ddeunyddiau yn ceisio gwella perfformiad y darnau a'r deunyddiau yn lluniad yr adeilad ei hun, cyn defnyddio unrhyw systemau mecanyddol neu drydanol. Diolch yn fawr.
I ddechrau, ynglŷn â'ch pwynt chi am y cyrsiau unigol sydd ar gael, nid wyf i mewn sefyllfa i ateb y pwynt arbennig hwnnw nawr, ond fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr fy mod yn dod yn ôl atoch chi gyda'r manylion o ran y pwynt arbennig hwnnw.
Ynglŷn â'ch pwynt olaf chi ynghylch buddsoddiad sero net a'r cyhoeddiad a wnaethom ni heddiw ynghylch y gefnogaeth newydd a ddylai fod ar gael i helpu gyda datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni a lleihau costau ynni, y tro diwethaf i ni siarad fe fynegais i y byddai gennyf i fwy i'w ddweud yn ystod yr wythnosau nesaf, a dyma ni. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar hynny ers cryn amser. Nid rhywbeth sydd wedi ei greu yn ystod yr wythnos diwethaf fwy neu lai mohono.
Ystyr hyn yn rhannol yw ceisio creu pontio teg, i sicrhau, wrth i ni ddatgarboneiddio, nad ydym ni dim ond yn cadw'r swyddi sydd gennym ni, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn helpu i leihau risgiau'r dyfodol i raddau, nid yn unig o safbwynt ehangach o ran yr hinsawdd, ond o ran y costau sy'n bodoli nawr i fusnesau. Dyma rywbeth yn fy marn i y bydd nifer o fusnesau yn awyddus i'w ystyried yn fanwl iawn. Ac, fel dywedaf i, ar y pwynt ynglŷn ag amgylchiadau unigryw busnesau unigol fel roeddech chi'n sôn, wel, mae'r rhain yw amrywio yn fawr rhwng y naill fusnes a'r llall. Bydd anghenion busnesau unigol yn yr un sector yn wahanol, a chyfleoedd amrywiol ganddyn nhw, efallai, i fanteisio ar hynny. Hynny yw, edrych ar wead eu sefydliadau nhw ar hyn o bryd a'u cyfleoedd nhw i wneud y gorau o hynny. Dyna pam yr oeddwn i'n tynnu sylw at y ffaith mai'r cyfle sydd yma yw gallu edrych ar yr hyn sy'n bosibl i'r busnes unigol hwnnw. Yn ogystal â hynny, fe fydd hi'n bosibl y byddwn ni'n gallu cefnogi cynlluniau ynni ardal yn y pen draw hefyd, os ydych chi'n meddwl am nifer y busnesau a allai rannu ôl troed eang cyffredin yng nghyd-destun parc busnes neu ardal ac sy'n awyddus i ystyried a fyddai hi'n bosib gwneud mwy o fewn lleoliad arbennig ac nid yn unig yng nghyd-destun busnesau unigol. Felly, fe fydd yna amrywiaeth o wahanol amgylchiadau unigol.
Y gwirionedd arall y mae'n rhaid i ni ei wynebu yw, hyd yn oed gyda'r gefnogaeth sydd ar gael, ac mae hyn oddi wrth y banc a'r benthyciadau a gynigir ganddo, pa un a yw ar ffurf ecwiti neu'n gyllid benthyg unigol neu gyfuniad o'r pethau hyn, nid oes gan Lywodraeth Cymru, fel rydym ni wedi dweud heddiw, mo'r grym noeth i ddarparu cynllun ar sail grantiau a fydd yn ymestyn at bob maes yn yr economi. Fe wn i fod yna fwy o fusnesau â heriau a fyddai'n fusnesau hyfyw fel arall yn fy marn i ond nid oes gennym ni fodd i'w cefnogi nhw. Dyna pam yr ydym ni'n aros mor ddisgwylgar am ganlyniad y gyllideb Calan Gaeaf. 'Wn i ddim a gawsoch chi gyfle i wrando ar y Gweinidog cyllid yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg heddiw, ond y sefyllfa wirioneddol o ran ein cyllideb ni'n syml yw nad oes gennym ni arian ychwanegol sy'n cael ei ddal yn ôl mewn gobaith y gallwn ni ei fuddsoddi eto dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae hwn yn ddarlun ariannol dyrys tu hwnt sy'n ein hwynebu ni, ac mae'r busnesau eu hunain yn gwybod hynny hefyd.
Yn y sgyrsiau a gefais i ag amrywiaeth o grwpiau busnes o wahanol feintiau mewn gwahanol sectorau, roedden nhw i gyd yn gwybod nad yw'r arian gennym ni'n aros ar eu cyfer nhw. Mewn gwirionedd, roedd busnesau gweithgynhyrchu yn eglur iawn eu bod nhw'n bryderus ynglŷn â'r dyfodol, nid am nad oedd ganddyn nhw lyfrau'n llawn archebion, ond oherwydd eu bod nhw'n ymwybodol o'r costau a'r prisiau cynyddol ar gyfer nwyddau, yr heriau o ran chwyddiant, ac maen nhw'n gwybod mewn gwirionedd bod angen i Lywodraeth y DU weithio fel pe byddai hi ar eu hochr nhw i'w helpu nhw drwy'r hyn sydd i ddod. Fe fyddwn ni i gyd yn canfod yn weddol fuan sut wedd fydd ar bethau mewn gwirionedd. Fe fyddwn i'n falch iawn o gael fy nghywiro ac y bydd pecyn hael ar gael i helpu busnesau i oroesi yn eu sefyllfa bresennol, ond nid yn unig hynny, i ffynnu mewn gwirionedd yn y dyfodol. Yma yng Nghymru, serch hynny, fe fyddwn yn gwneud y gorau o'r manteision sydd gennym ni, ac mae Banc Datblygu Cymru yn un o'r rhain. Ond ni allaf i ddweud wrthych chi na neb arall y byddwn ni'n gallu achub pob busnes unigol y byddem ni fel arall yn awyddus i'w achub.
O ran Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru a'r sefyllfa bresennol wirioneddol gyda chyllid yn lle cyllid o Ewrop, fel nodais i—ac rwyf i wedi bod yn gwbl agored o'r cychwyn cyntaf—fe geir effaith wirioneddol ac arwyddocaol oherwydd y cronfeydd Ewropeaidd sy'n diflannu heb unrhyw beth tebyg o ran gwerth yn eu lle nhw neu, yn wir, o ran eu dibenion nhw. Yr hyn y mae'n yn ei olygu, er hynny, yw ar gyfer cynnal Busnes Cymru, sef yr hyn a wnes i, rwyf i wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn gyda gweddill fy nghyllideb adrannol i. Mae hynny'n golygu nad wyf i wedi gallu buddsoddi mewn meysydd eraill y byddwn i fel arall wedi bod yn awyddus i fuddsoddi ynddyn nhw i helpu i gefnogi dyfodol economi Cymru, am fy mod i o'r farn fod gwasanaeth Busnes Cymru yn wir bwysig ledled Cymru, ac fe allwch chi weld hynny o'r canlyniadau a'r niferoedd o fusnesau sydd wedi cael cefnogaeth, cymorth a chyngor gan Fusnes Cymru. Unwaith eto, mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dweud wrth eu cymheiriaid yng ngweddill y DU yn rheolaidd fod yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru mewn gwirionedd yn werthfawr iawn. Mewn gwirionedd, fe hoffai Ffederasiwn y Busnesau Bach yn Lloegr weld gwasanaeth fel Busnes Cymru mewn rhanbarthau ledled Lloegr. Mae hynny'n esbonio pam y bu i mi warchod y cyllidebau i'r dyfodol ar gyfer y gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig. Pe byddai swm tebyg o arian gennym ni i fuddsoddi mewn gwahanol ddewisiadau, fe fyddai'n golygu y byddem ni'n gallu gwneud mwy, ac, yn wir, fe allai Banc Datblygu Cymru ehangu eto hefyd.
Yn olaf, o ran cefnogaeth ymarferol i fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr—ac rwy'n cydnabod y pwynt nad yw rheolwyr yn prynu busnesau yn gwbl gyfystyr â hynny o reidrwydd—mae gennym ni hyd at 40 o fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr erbyn hyn, ac yn ddiweddar rwyf i wedi cadarnhau bod £170,000 ychwanegol ar gael i Gwmpas Cymru i helpu gyda'r cymorth ymarferol hwnnw i symud busnesau o un dull o berchnogaeth i un arall. Fe geir enghreifftiau da iawn o fusnesau newydd sy'n eiddo i'w gweithwyr yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi pryd y byddwn ni, fel rwy'n ffyddiog y byddwn ni, wedi cyflawni ein nod maniffesto ni, sef dyblu maint y sector.
Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod y banc datblygu yma yng Nghymru yn golygu y gallwn ni gynnal y gallu a'r sefydlogrwydd i ysgogi datblygiad economaidd. Rwyf i, fel Paul Davies, yn falch fod y banc datblygu am fod â rhan ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau. Mae gennyf i dri chwestiwn. Ym mha ffordd y bwriedir iddyn nhw helpu busnesau i symud o fod yn fentrau bach i rai canolig, sef un o wendidau economi Cymru? Ai bwriad y Gweinidog yw blaenoriaethu tri o sectorau twf sef gwyddorau bywyd, TGCh a gwasanaethau ariannol? Ac, efallai, yn bwysicaf i gyd o fy safbwynt i, yn Abertawe, a fydd y banc yn rhoi mwy o gefnogaeth i brosiectau dinas-ranbarth Bae Abertawe?
Diolch i chi am y cwestiynau. Rydych chi'n iawn; mae twf o fach i ganolig ac o ganolig i fawr wedyn yn un o'r heriau mawr i ni o ran yr economi. Mewn gwirionedd, dyma un o'r union bethau y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud, oherwydd, yn aml, methu â chael gafael ar gyllid sy'n dal pobl yn ôl. Dyma pryd mae banciau ar y stryd fawr wedi gweld bwlch yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud ac mae Banc Datblygu Cymru wedi gallu cau'r bwlch hwnnw. O ran y swyddi a'r dewisiadau o ran buddsoddi, nid arian yn unig sydd wedi helpu i greu tua 2,600 o swyddi—i naill ai ddiogelu neu greu rhai oherwydd y buddsoddiadau a fu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf—ond, mewn gwirionedd, mae hynny'n ychwanegu at gynnydd yng ngwerth ychwanegol gros Cymru o tua £85.8 miliwn yn ystod y flwyddyn honno, ac rydych chi'n disgwyl i hynny barhau i dyfu wrth i ni symud ymlaen. Felly, dyna un o'r pethau yr wyf i'n wirioneddol bryderus yn ei gylch.
Oes, mae gweithgarwch mewn gwyddorau bywyd, ac fe geir gweithgarwch mewn gwasanaethau ariannol, yn enwedig yn y sector technoleg ariannol sy'n tyfu yma. Ac ynglŷn â'ch pwynt ehangach chi am y sector technoleg ehangach a sut olwg sydd ar hwnnw, mewn gwirionedd mae'r gwasanaethau hyn yn mynd i mewn i'r rhan fwyaf o fusnesau nawr, ac felly mae yna dipyn o ystyr i'r hyn y mae ein sector technoleg ehangach ni'n ei wneud. Ar daith ddiweddar, y daith fasnach a arweiniais i'r Emiradau Arabaidd Unedig, roedd gennym ni lawer iawn o fusnesau technoleg, busnesau bach a chanolig, yn chwilio am fuddsoddiad ac yn cydnabod bod cyfle iddyn nhw yn hyn o beth, gan gynnwys busnesau yn Abertawe, fe fyddwch chi'n falch iawn o'i glywed.
Ac ie, ynglŷn â'ch pwynt chi o ran bargen ddinesig Bae Abertawe, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud; sut y gall helpu i weithio gyda honno a bargeinion twf eraill yng Nghymru i ddatblygu'r prosiectau sydd ganddyn nhw. Mewn gwirionedd rwy'n gadarnhaol iawn o ran y cynnydd ymarferol y mae grŵp bargen ddinesig Bae Abertawe yn ei wneud nid yn unig o ran bod â phortffolio o brosiectau, ond o ran y buddsoddiad sy'n cael ei wneud eisoes.
Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Mervyn King, cyn-lywodraethwr Banc Lloegr, gyfweliadau amrywiol, gan gynnwys rhai ynglŷn â'r ffaith nad ydym ni wedi datrys y broblem o berygl moesol parhaus sefydliadau sy'n rhy fawr i fethu, a dyna pam y bu'n rhaid i Fanc Lloegr ymyrryd yn y marchnadoedd yn dilyn cyllideb fechan drychinebus Liz Truss, i achub cronfeydd pensiwn a oedd wedi ymhél â buddsoddiadau llawn risg i gynyddu'r difidendau y maen nhw'n eu dosbarthu. Felly, rwy'n croesawu gwaith Banc Datblygu Cymru yn fawr iawn, ac mae angen llawer mwy o sefydliadau fel hyn i gynnig ychydig mwy o sefydlogrwydd yn y marchnadoedd ariannol. Rwy'n croesawu'r wybodaeth i gyd y gwnaethoch chi ei rhannu ynglŷn â'r buddsoddiad ecwiti y mae'r banc datblygu yn ei ddarparu ar gyfer cwmnïau sy'n dymuno datgarboneiddio; mae honno'n ymddangos yn fuddugoliaeth lwyr i'r cwmnïau hynny, yn ogystal ag o ran ein nodau sero net ni ledled Cymru.
Yr wythnos diwethaf, roeddwn i mewn cynhadledd a drefnwyd gan Gynghrair Gweithwyr y Tir ac fe glywais i am ddatblygiad llwyddiannus busnesau garddwriaeth bychain sy'n gwneud elw ac nad oes angen unrhyw gymhorthdal arnyn nhw. Mae'r ddau wedi eu lleoli yn weddol leol yn y de-ddwyrain, ym Mhenrhyn Gŵyr a Bro Morgannwg. Rydych chi'n sôn bod eisiau economi lle mae'r sgiliau a'r amddiffyniadau gan bobl i roi diogelwch iddyn nhw mewn cyfnodau anodd. A wnaeth yr uwchgynhadledd economaidd ddiweddar drafod diogelwch bwyd yng nghyd-destun y ffaith—
A wnaiff yr Aelod ofyn ei chwestiwn hi, os gwelwch hi'n dda?
—nad yw bwyd yn dod i mewn i'r farchnad gyfanwerthu? A pha fuddsoddiadau a ydych chi'n ymwybodol ohonyn nhw y gallai Banc Datblygu Cymru fod yn eu buddsoddi i gynyddu swm y bwyd yr ydym ni'n ei dyfu yng Nghymru?
Nid yw cynyddu diogelwch bwyd yn y wlad yn amcan penodol i'r banc datblygu. Nid yw'n amcan penodol y gwnaethom ni ei bennu. Er hynny, rydym ni wedi pennu amcanion ynghylch helpu Cymru i bontio i economi fwy cynaliadwy a chynlluniau ynghylch sero net. Lesley Griffiths, fel gwyddoch chi, yw'r Gweinidog sy'n arwain y sector fwyd. Fe soniais i am hynny'r wythnos diwethaf, ac fe nododd Alun Davies waith o ran cefnogi'r sector bwyd a diod ar hyd ei oes, mewn ffordd bersonol weithiau—ein bod ni mewn gwirionedd wedi gweld twf gwirioneddol yn y sector o safbwynt allforio. Ond mae yma rywbeth hefyd ynglŷn â'r hyn sydd ei angen i ni ei wneud, ac rydym ni'n cydnabod hynny yn y Llywodraeth, yng nghyd-destun diogelwch bwyd ehangach o ran sut caiff bwyd ei gynhyrchu, ymhle y caiff ei gynhyrchu, a pha mor lleol hefyd.
Nid wyf i'n ceisio osgoi'r mater; dim ond mai fy marn i yw nad y banc datblygu yw'r prif ysgogydd yn hyn o beth. Nid yw hynny'n golygu na fydd yna gefnogaeth i brosiectau sy'n cynnig diogelwch bwyd. Yn wir, yn y sector bwyd a diod rydym ni wedi cefnogi nifer o brosiectau i dyfu ac ehangu. Yn yr uwchgynhadledd economaidd roedd llawer mwy o sôn am fusnesau yn ceisio goroesi ac yn awyddus i ddeall yr hyn sy'n debyg o ddigwydd, ac undebau llafur â diddordeb yn nhelerau ac amodau gweithwyr sy'n symud ymlaen a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, ond yn sicr yn dymuno cefnogi busnesau i fwynhau dyfodol llewyrchus. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n siarad yn groes i'n gilydd o ran diben a phwrpas yr uwchgynhadledd, oherwydd ni wnaeth unrhyw fusnes arbennig sôn am ddiogelwch bwyd yn y digwyddiad hwnnw, ac ni fyddwn i wedi disgwyl hynny o reidrwydd.
Rwy'n deall eich pwynt chi ynglŷn â chronfeydd pensiynau, maint y ddyled a oedd ganddyn nhw a chyfradd y risg a oedden nhw'n ei hwynebu hefyd. Ac wrth gwrs yr hyn a newidiodd mewn gwirionedd ac a oedd yn annisgwyl iawn ychydig wythnosau yn ôl, yw bod dyled y Llywodraeth wedi newid ei phroffil. Felly, roedd gwerth dyled y Llywodraeth honno a buddsoddiad y Llywodraeth yn ffactor gwirioneddol ar gyfer cronfeydd pensiynau a oedd yn ceisio darparu elw sefydlog i ddeiliaid y pensiynau. Rwyf i'n sicr yn gobeithio, o safbwynt busnesau, pensiynwyr, a deiliaid tai, yn wir, y byddwn ni'n gweld mwy o sefydlogrwydd o du marchnad y DU. Mae ganddo effaith wirioneddol nid yn unig ar deuluoedd unigol ond ar fusnesau unigol, oherwydd mae amodau'r ddyled sydd ar gael yn ffactor gwirioneddol wrth rwystro buddsoddi yn economi Cymru.
Rwy'n mwynhau datganiadau'r Gweinidog ac yn mwynhau'r sgyrsiau y mae'n eu cychwyn ar draws y Siambr. Wrth drafod llawer o'i flaenoriaethau amrywiol ef ar gyfer y banc buddsoddi fe'i gwnaeth hi'n eglur ei fod ef yn awyddus i weld y banc datblygu yn gweithio mewn ffordd ystwyth iawn, yn chwilio am gyfleoedd, ac yn buddsoddi mewn ffordd greadigol hefyd, ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd ef brynhawn heddiw am ddatgarboneiddio yn fawr iawn.
Yr hyn sy'n fy mhoeni i weithiau, Gweinidog, yw na osodwyd amcanion na nodau eglur iawn ar gyfer y gweithgarwch hwn. Er enghraifft, un o'r materion mwyaf sy'n ein hwynebu ni yn economi Cymru yw cynhyrchiant. Pa ganllawiau neu gyngor a wnaethoch chi eu rhoi i'r banc datblygu ar gyfer mynd i'r afael â materion cynhyrchiant yn yr economi, a sut fyddwch chi'n mesur a yw'r banc datblygu yn cael effaith yn hynny o beth?
Mae'r etholaeth yr wyf i'n ei chynrychioli ym Mlaenau Gwent, wrth gwrs, yn un o'r ardaloedd lle mae angen mwy o fuddsoddiad arnom ni, nid yn unig o ran cynhyrchiant ond o ran gweithgarwch economaidd. A ydych chi'n rhoi canllawiau eglur i'r banc datblygu ynglŷn ag agwedd ofodol ei fuddsoddiad, fel eich bod chi'n edrych a'ch bod chi'n pennu nodau ar gyfer buddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd, er enghraifft, i sicrhau eich bod chi'n buddsoddi mewn gwirionedd nid yn unig mewn busnesau i sicrhau canlyniadau byd-eang, a fyddai'n ysgogi buddsoddiad i fannau fel Caerdydd a choridor yr M4, ond yn ysgogi buddsoddiad i rai o rannau llai breintiedig Cymru, sy'n dioddef o ran methiant sylweddol yn y farchnad?
Fe geir dau bwynt bras yn y fan yna. Y cyntaf yw hyn, ydw, pan fyddaf i'n siarad â'r banc datblygu rwy'n hoffi gwybod i ble y bydd y buddsoddiad hwnnw'n mynd. Pe byddai hwnnw'n mynd i gyd yn ddestlus i ranbarth Caerdydd a'r cyffiniau yn unig, ni fyddai hynny'n briodol wedyn yn fy marn i, oherwydd fe gafodd ei sefydlu yn rhannol i ymdrin â'r bwlch y soniwyd amdano ynglŷn â chwmnïau bach i ganolig, fel roedd Mike Hedges yn dweud, am estyn cyfalaf i rai o'r busnesau hynny, a oedd yn broblem i fenthycwyr traddodiadol yn aml. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad yw benthycwyr ar y stryd fawr yn gwneud unrhyw beth i helpu pobl ar y daith honno o ran twf, ond mewn gwirionedd dyma lle mae'r alwad wirioneddol wedi bod am weithredu pellach. A'r rhannau amrywiol o'r wlad y mae pobl ynddyn nhw hefyd, ac rwy'n cydnabod bod honno'n ffactor wirioneddol yn eich etholaeth chi. Felly, ydym, rydym ni'n ystyried hynny, ond nid yw'n ymwneud â'r banc datblygu yn unig.
Nid wyf i wedi pennu nod na mesur arbennig iddyn nhw. Rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gyda'r Aelod ac eraill—ac mae cyfarfod ehangach i ddod ar gyfer trafod rhai o'r pwyntiau hyn—am y cylch gwaith a osodais i iddyn nhw a phryd a sut yr ydym ni'n disgwyl gweld cynnydd. Ond ystyr hyn wedyn hefyd yw cynnal rhan o'r sgwrs gyda'r brifddinas-ranbarth, er enghraifft. Yr hyn yr ydym ni'n ei siarad amdano gyda nhw a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld ac yn disgwyl ei weld wrth i'r brifddinas-ranbarth fuddsoddi mwy o arian yw sicrhau, unwaith eto, nad yw'n digwydd o gwmpas Caerdydd a Chasnewydd yn unig ond bod angen i'r brifddinas-ranbarth yn ei chyfanrwydd weld y budd—ac nid yn unig i dynnu pobl yn gyflym o rannau eraill o'r brifddinas-ranbarth i Gaerdydd neu Gasnewydd neu ganolfannau trefol mawr eraill ond mewn gwirionedd i ysgogi rhywfaint o dwf mewn rhannau eraill o'r rhanbarth hefyd. Ni all fod i gyn i un cyfeiriad, tynnu pobl o'r Cymoedd i mewn i Gaerdydd a Chasnewydd.
Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn o ran y metrigau yr ydym ni'n eu gosod i ni ein hunain, ac mae hynny'n cyffwrdd â'r penbleth o ran cynhyrchiant hefyd, oherwydd ystyr llawer o hynny'n aml yw'r ysgogiadau sydd ar gael i ni ar gyfer buddsoddi mewn cyfalaf dynol, mewn sgiliau a phobl, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael pobl i fuddsoddi wedyn mewn ardaloedd lle mae'r bobl hynny eu hunain yn byw ac yn gallu gweithio ynddyn nhw. Felly, mae'n rhan o'r rheswm pam y mae'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau gennym ni, gan nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Bydd angen i ni edrych eto i weld a oes unrhyw newid cyfeiriad sy'n wahanol yn yr ailadroddiad diweddaraf o Lywodraeth y DU, oherwydd fe nodwyd y cynllun hwnnw pan oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithredol ac roedd pobl yn nes at y farchnad. Mae'n ddigon posibl y bydd angen i ni ystyried unwaith yn rhagor, yn gynt na'r disgwyl yn fy marn i, a ydym ni'n parhau i wneud digon a hynny yn y mannau priodol oherwydd, mae arna' i ofn, fe fyddwn ni'n wynebu darlun economaidd llymach, gyda mwy o bobl ar y clwt yn y misoedd nesaf o bosibl.
Felly, ein hymyriadau ni, fel rhaglen ReAct+—a ydyn nhw am wneud digon i gael pobl yn ôl i waith yn gyflym, ac a ydym ni'n gwneud digon i gael pobl sydd wedi bod mewn segurdod economaidd hirdymor yn ôl ar lwybr i fod yn gweithio a bod â'r sgiliau i wneud mwy na dim ond mynd i'r gwaith ond i lwyddo ym myd gwaith hefyd? Dyma pam yr ydym ni'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein lle polisi sgiliau hefyd, nid yn unig o ran prentisiaethau ond mewn hyfforddiant mewn gwaith yn ogystal â hynny. O ran y gweithlu presennol, mae dyfodol gwaith yma eisoes mewn llu o wahanol ffyrdd. Ymhen 10 mlynedd, fe fydd y rhan fwyaf o'r bobl sydd mewn gwaith eisoes yn gweithio. Yr hyn sydd ei angen i ni ei wneud yw sicrhau bod y sgiliau ganddyn nhw a fydd yn addas ar gyfer y byd gwaith ymhen 10 mlynedd. Felly, ystyr hyn i raddau helaeth fydd buddsoddi yn y gweithlu presennol, ac fe fydd hynny'n bendant yn gwneud gwahaniaeth i gynhyrchiant.
A'r pwynt olaf yn hyn o beth yw buddsoddi yn ansawdd yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth sydd gan fusnesau. Nid gweithwyr ar lawr gwaith yw hynny'n unig, os mynnwch chi, mae hynny'n ymwneud hefyd â'r arweinwyr a'r rheolwyr sydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i effeithiolrwydd a chynhyrchiant busnesau. Ond, fel dywedais i, rwy'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n siarad mwy am hynny yn y Siambr a'r tu allan iddi yn y misoedd i ddod.
Rwyf i am ganiatáu un cwestiwn arall, os yw hwnnw'n un cryno, ac un ateb arall, os yw hwnnw'n un cryno. Huw Irranca-Davies.
Diolch. Yn wir, fe fyddaf i'n gryno. Gweinidog, diolch am y datganiad a hefyd am ddod i lansiad adroddiad y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol amser cinio, 'Owning the workplace, securing the future', ynglŷn â sut yr ydym ni'n cynyddu cyfradd perchnogaeth gan y gweithwyr mewn busnesau yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwneud yn dda eisoes, rydym ni'n ystyried sut y gallwn ni fynd ymhellach. Sut all Banc Datblygu Cymru fod â rhan yn hyn o beth, gan gynyddu perchnogaeth gan y gweithwyr? A oes unrhyw ran arbennig iddyn nhw pan fo problem gennych chi o ran olyniaeth a throsglwyddo i berchnogaeth gan y gweithwyr yn y gweithle, rhyw fath o gyfleuster dal, rhywfaint o gyllid a fyddai'n caniatáu i'r trafodaethau hynny ddigwydd gyda gweithwyr yn y gweithle fel nad oes rhuthr gwyllt o chwe mis hyd at lwyddiant neu fethiant llwyr, ein bod ni mewn gwirionedd yn gallu pwyllo a mynd drwy'r broses honno gyda nhw? Pa swyddogaeth sydd gan Fanc Datblygu Cymru o ran perchnogaeth gan y gweithwyr?
Mae'r banc datblygu yn weithredol yn y maes hwn eisoes, yn cefnogi perchenogaeth gan y gweithwyr, ond mae'n rhaid iddo weithio ochr yn ochr ag eraill fel Cwmpas Cymru, fel gwyddoch chi. Fe fyddwn i'n hapus i gael sgwrs ehangach â chi. Fel gwyddoch chi, yn y digwyddiad heddiw, fe wnes i ymrwymo i gael sgwrs â chi a gweithredwyr eraill yn y maes hwn nid yn unig ar gyfer ystyried y syniadau a fynegwyd amser cinio heddiw ond i weld sut y gall gwahanol sefydliadau wneud eu rhan. Rwyf i o'r farn y bydd hwnnw'n bwynt diddorol i'w godi a gweithio drwyddo gyda'r banc datblygu ei hun.
Diolch i chi, Gweinidog.