2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 26 Hydref 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Christianne Glossop, a wasanaethodd fel prif swyddog milfeddygol Cymru am 17 mlynedd cyn iddi roi'r gorau iddi yn gynharach y mis hwn? Mae hi wedi gwasanaethu dan nifer o Weinidogion materion gwledig, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i gofnodi ein diolch am ei gwasanaeth a dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol. Hefyd, hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau.
Bythefnos yn ôl, wrth drafod adroddiad parthau perygl nitradau'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, gofynnais sawl cwestiwn na chafodd eu hateb, ynghylch effaith achosion TB yn benodol. O ystyried hyn, a gaf fi ofyn am eglurhad y bydd ffermwyr sydd â chyfyngiadau symud yn cael mynd y tu hwnt i'r terfyn nitrad o 170 kg yr hectar? Fel y gwyddoch, nid yw ffermwyr o dan gyfyngiadau TB yn cael symud gwartheg, sy'n golygu y bydd niferoedd stoc yn anochel yn cynyddu, ac felly bydd y ffermwr yn torri eich rheoliadau dŵr. Gallai ufuddhau i un set o reolau olygu eu bod yn torri set arall o reolau. A oes unrhyw eithriadau ar gyfer achosion o TB mewn buchesi, neu a yw hyn yn rhywbeth i'w ystyried yn yr ymgynghoriad trwyddedu ar gyfer y rhanddirymiad 250 kg yr hectar? A pha bryd y gallwn ni ddisgwyl gweld yr ymgynghoriad yn dechrau, gan fod amser yn mynd yn ei flaen?
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei eiriau caredig am Christianne Glossop sy'n gadael ei swydd fel prif swyddog milfeddygol cyntaf Cymru ar ôl 17 mlynedd. Yn sicr fe fydd hi'n gadael esgidiau mawr i'w llenwi. Rwy'n gwybod y bydd hi'n falch iawn o glywed eich sylwadau.
Ar y cwestiwn ynglŷn â ffermydd sydd ag achosion o TB, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried, a bydd yn cael ei ystyried yn y cynllun y byddwn yn ei gyflwyno. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio y mis nesaf. Rydym yn dal i weithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio ar baratoi'r ymgynghoriad hwnnw.
Rwy'n ddiolchgar am hynny. Yn ail, wrth graffu ar y Bil amaethyddiaeth, mae'r pwyllgor rwy'n rhan ohono wedi cymryd tystiolaeth gan undebau ffermio a sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, ac er bod gwahaniaeth barn, ceir consensws a chytundeb cyffredinol. Ond ar ôl derbyn tystiolaeth gan Gymdeithas y Ffermwyr Tenant a Chymdeithas Cominwyr Mynydd Eglwysilan, Mynydd Meio a Chraig Evan Leyshon, mae yna rwystredigaeth ddofn ynglŷn â'r ffaith mai cyfeiriad cyfyngedig yn unig a geir at ffermwyr tenant a thir comin yn y Bil amaethyddiaeth ei hun. Er bod gweithgor tenantiaeth wedi'i sefydlu, a wnewch chi ymrwymo i greu gweithgor ar gyfer tir comin, i sicrhau bod y rhai sy'n ffermio ac yn mwynhau tir comin, sydd bron yn 10 y cant o dir Cymru, yn gallu siapio a chyfrannu at y Bil Amaethyddiaeth?
Rwy'n credu ei bod yn dda iawn gweld cymeradwyaeth yr undebau amaeth a'r sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, fel y dywedoch chi, yn ogystal â'r gymeradwyaeth drawsbleidiol, os mynnwch chi, i'r ffordd y mae'r Bil amaethyddiaeth wedi dechrau. Rwy'n gwybod y bydd gwelliannau'n cael eu cyflwyno, ac unwaith eto, rydym yn gweithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio i gyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth ar y cam nesaf.
Mae ffermwyr tenant yn rhan bwysig iawn; fe wyddoch fod nifer fawr o'n ffermwyr yn ffermwyr tenant yma yng Nghymru. Roedd hynny'n rhan o'r rheswm dros sefydlu'r gweithgor. Oherwydd yn sicr, mae fy nhrafodaethau gyda hwy dros y chwe blynedd diwethaf, wrth inni sefydlu'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r Bil amaethyddiaeth, yn dangos bod gan ffermwyr tenant bryderon gwahanol a phenodol iawn yn hynny o beth.
O ran tir comin, nid ydym wedi meddwl am gael grŵp penodol ond mae'n sicr yn rhywbeth y gallaf edrych arno. Nid wyf yn dweud y byddaf yn cyflwyno grŵp arall, ond rwy'n credu, unwaith eto, fod yna faterion sy'n benodol iawn i dir comin, a byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod fy swyddogion yn siarad â phobl os ydynt yn credu bod ganddynt unrhyw beth nad yw wedi cael ei ystyried yn barod gennym ni.
Byddwn yn dweud wrthych chi a'ch swyddogion fod y dystiolaeth a roddwyd gan yr Aelod a oedd yn cynrychioli tir comin yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf yn eithriadol. Byddwn yn eich annog chi a'ch tîm i edrych ar hynny fel man cychwyn i bryderon y rhai sy'n gysylltiedig â thir comin.
Ac yn olaf, Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy llawenydd wrth weld twf sector gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru, gyda chynnydd o 10.2 y cant yn nhrosiant 2021, o £4.9 biliwn i £5.4 biliwn. Er bod y pandemig wedi tarfu ar bethau, mae'r sector wedi bwrw drwyddi ac wedi tyfu a helpu economïau lleol i ffynnu a chreu swyddi newydd i bobl leol. Mynychais ddigwyddiad yn Stryd Downing yn ddiweddar hefyd i nodi allforio cig oen o Gymru a Phrydain, yn dilyn bwlch o 30 mlynedd, i Unol Daleithiau America, gyda'r cludiant cyntaf yn dod o Dunbia yn Llanybydder yn sir Gaerfyrddin—gan roi cig oen Cymru yn ôl ar y fwydlen yn America. Uchelgais Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yw sicrhau cynnydd o 30 y cant yn allforion bwyd-amaeth y DU erbyn diwedd y degawd. A ydych yn rhannu'r uchelgais hwn, ac os felly, pa ddarpariaeth sy'n bodoli o fewn y Bil amaethyddiaeth i sicrhau bod allforion bwyd a diod Cymru'n parhau i dyfu?
Rwy'n credu mai fi yw cefnogwr mwyaf brwd y cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig sydd gennym. Rwyf wedi sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth ers imi gael y portffolio hwn. Rydym newydd fod yn SIAL ym Mharis, a neithiwr cynhaliwyd digwyddiad yn Qatar, cyn cwpan y byd, i wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o fwyd a diod Cymreig yno hefyd.
Ar eich cwestiwn penodol mewn perthynas â'r Unol Daleithiau, roeddwn yn falch iawn o weld ein bod bellach yn gallu allforio cig oen Cymreig i'r Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. Yn anffodus, mae'n dal i fod bum mlynedd, mae'n debyg, yn hwyrach nag y byddem wedi'i ddymuno. Roeddem bron yno pan ddaeth Donald Trump yn Arlywydd felly mae'n wych ein bod wedi llwyddo i'w wneud yn awr. Rwy'n gweithio'n agos iawn ac yn cefnogi Hybu Cig Cymru, fel y gwyddoch, i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio gyda'r Unol Daleithiau i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ein cig oen Cymreig ym mhobman yn America, rwy'n credu ei bod yn deg dweud. Yn amlwg, mae bwyd yn gwbl ganolog i'r Bil amaethyddiaeth—a chynhyrchu bwyd cynaliadwy hefyd. Felly, mae hyn yn berthnasol i bob math o gig ac i'n holl fwyd a diod Cymreig.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Lywydd. Fe wnaeth grŵp cynghori newydd y Gweinidog ar bysgodfeydd Cymru gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf. Ymhlith y blaenoriaethau a drafodwyd oedd y cynllun ariannu pysgodfeydd—yn lle cronfa pysgodfeydd yr UE. Ond mae yna bryderon fod y cynigion ar gyfer cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn syrthio'n fyr o'r cynllun cronfa pysgodfeydd arforol Ewropeaidd blaenorol a'r cynllun pysgodfeydd a physgod cregyn cyfatebol yn Lloegr. Mae cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru wrthi'n cael ei ddatblygu ac mae eisoes y tu ôl i Loegr o ran ei weithrediad. Felly mae pysgodfeydd a busnesau dyframaethu dan anfantais yma a cheir pryderon pellach nad yw cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn adlewyrchu'r gefnogaeth a'r ymyriadau wedi'u targedu sydd eu hangen i gyflawni amcanion statudol Deddf Pysgodfeydd y DU 2020.
Mae'r cynigion presennol yn cynnig cronfeydd refeniw sy'n cyfyngu felly ar allu pysgotwyr Cymru a chynhyrchwyr bwyd môr eraill i gyfrannu at y gofynion sy'n ei gwneud hi'n bosibl trosglwyddo'n effeithiol er mwyn cyflawni amcanion y Ddeddf pysgodfeydd ac ymrwymiadau sero net ehangach. A yw'r Gweinidog yn cydnabod y pryderon hyn, a sut y bydd yn sicrhau bod cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn cyfeirio'r cymorth a'r ymyriadau angenrheidiol wedi'u targedu sy'n ofynnol er mwyn cyflawni amcanion statudol Deddf Pysgodfeydd y DU 2020?
Wel, mae sicrhau bod yr arian a ddaw yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop yn gywir, yn briodol, yn bwrpasol—ei fod yn mynd i ble y mae angen iddo fynd. Mae'n un o'r rhesymau pam y newidiais fformat grŵp cynghori'r Gweinidog. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n bwysig iawn i wneud yn siŵr—. Roedd yr un blaenorol mewn bodolaeth ers tua 10 mlynedd ac yn amlwg, mae'r byd wedi newid ac roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym grŵp a fyddai'n fy nghynghori i a swyddogion ar sut i sicrhau cyllid yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop.
Fel y dywedwch, fe wnaeth y grŵp gyfarfod ar 14 Gorffennaf. Mae'r cyfarfod nesaf y mis nesaf. Byddaf yn sicrhau bod y cwynion neu'r materion rydych newydd eu dwyn i fy sylw yn cael eu hystyried, os nad ydynt yn cael eu hystyried, er fy mod yn credu ei bod yn annhebygol iawn nad yw'r hyn a ddaw yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop ar yr agenda, ond byddaf yn sicrhau ei fod. Oherwydd rydych chi'n gywir: mae angen ei wneud yn y ffordd fwyaf priodol. Ond i mi, beth sy'n bwysig iawn—mae ychydig fel y cynllun ffermio cynaliadwy—yw bod angen inni ei wneud drwy gydgynhyrchu gyda'n pysgotwyr a chyda'r sector ehangach. Ac yn hollol, y rheswm dros gael grŵp cynghori'r Gweinidog yw er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu.
Diolch am yr ymateb. Wel, gan barhau â thema cyllid ar gyfer pysgota a dyframaethu, mae gan gronfa bwyd môr y DU gyllid o £100 miliwn o dan dair colofn: gwyddoniaeth ac arloesi, seilwaith, sgiliau a hyfforddiant. Mae cynllun ariannu pysgodfeydd Cymru yn tynnu sylw'n briodol at yr angen i sicrhau bod cymaint ag y bo modd o gronfa bwyd môr y DU sy'n werth £100 miliwn yn dod i Gymru. Mewn egwyddor, mae hyn yn swnio'n synhwyrol, ond yn ymarferol, nid oes gan bysgotwyr yng Nghymru na'r cyrff sy'n cynrychioli pysgota fodd o lywio prosesau cronfa'r DU. Felly, mae'n annhebygol y bydd y sector yn elwa ohono. Dylai Cymru elwa o £8 miliwn o gronfa'r DU, a fyddai, ynghyd ag arian Cymru o £6.2 miliwn, yn drawsnewidiol i gynnig bwyd môr Cymru a'r gadwyn gyflenwi gyfan.
Mae colofn gwyddoniaeth ac arloesi cronfa'r DU yn sicr yn rhoi cyfle i'r sector pysgota, ond mae colofnau eraill yn gyfyngedig i borthladdoedd, harbwrs a chyfleusterau prosesu a sefydliadau hyfforddi, gan adael fawr ddim ar gyfer ein sector dal pysgod. Mae'n anodd gweld sut y byddai cynllun Cymru'n denu unrhyw gyllid o golofnau cronfa bwyd môr y DU. Gallai diwydiant bwyd môr Cymru fod dan anfantais ddifrifol oherwydd rhwystrau rhag cael mynediad at gronfa bwyd môr y DU, a allai olygu bod arian heb ei wario yn dychwelyd i'r Trysorlys neu weinyddiaethau eraill. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r pryderon a fynegwyd gan y sector, ac os felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru'n helpu i sicrhau y gall sector pysgota Cymru sicrhau cymaint â phosibl o'r cyllid sydd ar gael o dan gronfa bwyd môr y DU?
Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, a chodwyd y pryderon hynny'n gynnar iawn—yr adeg hon y llynedd, mae'n debyg, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU eu cynllun bwyd môr. Rwy'n credu ei fod yn ddryslyd iawn, oherwydd byddai wedi bod yn well pe baent wedi rhoi ein cyfran o'r cyllid roedd gennym hawl i'w gael a gallem ni benderfynu beth i'w wneud gyda'r cyllid hwnnw a sut y byddem yn gweithio gyda'r sector i ddyrannu'r cyllid hwnnw. Felly, rwy'n credu iddo greu llawer o ddryswch ar y cychwyn. Felly, rydym wedi cytuno ar ddull o gyrchu'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth y DU fel nad yw ein pysgotwyr ni'n cael eu hamddifadu ohono, a bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd.