– Senedd Cymru am 2:48 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog yr Economi: cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau yr ydym ni'n eu cymryd i helpu i sicrhau economi ymwelwyr gynaliadwy a ffyniannus sy'n cefnogi ac yn gwella cymunedau ledled Cymru. Mae'r economi ymwelwyr yn newid yn gyflym, ac mae rhan llety ymwelwyr yn creu heriau mawr i gymunedau ledled byd. Er enghraifft, mae twf cyfryngau archebu ar-lein wedi dod â llawer o fanteision, fel llwybrau newydd i'r farchnad a mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Fodd bynnag, rydym ni'n ymwybodol o'r pryderon ynghylch cydymffurfio â'r gofynion presennol ac effaith llety gosod tymor byr ar stoc tai a'n cymunedau.
Bydd ein cynlluniau i ddatblygu cynllun trwyddedu statudol yn canolbwyntio ar godi'r gwastad fel rhan o ymateb hirdymor i'r heriau mawr sy'n ein hwynebu. Mae ein cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru yn ymrwymo i gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau fel rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â'r effaith negyddol y gall ail gartrefi a llety gwyliau gosod tymor byr ei chael ar y tai sydd ar gael a'u fforddiadwyedd i bobl leol yn ein cymunedau. Ym mis Gorffennaf eleni, cadarnhaodd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru gynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr, gan gynnwys llety gosod tymor byr, gan ei gwneud yn ofynnol sicrhau trwydded, gyda'r nod o godi safonau ledled y diwydiant twristiaeth.
Cyn hynny, a thros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn archwilio ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o ran sut y gallai cynllun o'r fath weithio yng Nghymru. Cafodd contractwyr eu penodi i ymgymryd â'r gwaith hwn y llynedd ac fe fuon nhw'n cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid allweddol o'r awdurdodau lleol, a chyrff sy'n cynrychioli'r sector a rhai sy'n gweithredu lletyai. Roedden nhw'n ymchwilio i fanteision cynllun o'r fath ac ystyriaethau allweddol ynghylch sut y gellid bwrw ymlaen â chynllun o'r fath a'i weithredu yma yng Nghymru. Ar ben hynny, rhoddwyd ystyriaeth i adolygiad o ymdriniaeth cyrchfannau eraill o gynlluniau fel hyn yn fyd-eang. Mae'r gwaith cychwynnol hwn wedi rhoi ffurf ar yr ymgynghoriad y mae'r Llywodraeth yn gobeithio ei lansio cyn bo hir.
Ond yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i amlinellu amcanion a manteision arfaethedig cynllun fel hwn. Y prif nod yw sicrhau tegwch i bob busnes llety i ymwelwyr sy'n gweithio yn y sector. Mae'r pryder ynghylch diffyg tegwch wedi bod yn bwnc llosg ers amser maith. Yn benodol, fe geir pryderon nad yw rhannau arbennig o'r sector, er enghraifft llety byrdymor anffurfiol, yn bodloni nac yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol nhw, tra bod busnesau sefydledig, gwirioneddol yn gwneud hynny. Fe allai cynllun trwyddedu statudol gynnig mecanwaith i fynd i'r afael â hyn drwy ei gwneud hi'n ofynnol i letywyr roi tystiolaeth o'r gofynion penodol sydd ganddyn nhw ar waith, fel yswiriant priodol, cadarnhâd o statws cynllunio, tystiolaeth o asesiadau risg tân, tystysgrif diogelwch nwy, prawf o ddiogelwch trydan, i roi dim ond ychydig o enghreifftiau. Bydd y cynllun hwn yn helpu i sicrhau cysondeb yn y safon y dylai pob lletywr ei bodloni. Mae bod â chynllun lle mae hi'n rhaid i fusnesau llety i ymwelwyr gyrraedd trothwy penodol o ofynion yn datgan yn eglur iawn i ddefnyddwyr bod busnesau llety i ymwelwyr yng Nghymru yn ateb gofynion penodol o ran safonau a diogelwch.
Fe fyddai cynllun yn rhoi gwell deallusrwydd i ni hefyd—cronfa ddata gynhwysfawr, nad yw hi ar gael ar hyn o bryd, o bwy yn union sy'n weithredol yn y diwydiant. Ar hyn o bryd nid oes modd cadarnhau o fusnesau llety i ymwelwyr sydd i'w cael yng Nghymru nac mewn unrhyw gymuned benodol. Fe fydd deall graddfa a natur y sector yn offeryn pwysig i ddatblygu polisïau'r dyfodol naill ai ar lefel leol neu genedlaethol. Fe fyddai sefydlu cronfa ddata statudol o fusnesau llety i ymwelwyr trwyddedig yn cynnig mecanwaith i Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, fel yr awdurdodau lleol, i gyfathrebu ynglŷn â materion allweddol sy'n ymwneud â'r sector. Fe welsom ni pa mor heriol y gall hi fod i ymgyrraedd am bob rhan o'r sector oherwydd ein profiadau diweddar yn ystod pandemig COVID-19.
Rydym ni'n cydnabod hefyd y bydd cynllun trwyddedu statudol yn sylfaen bwysig i feysydd eraill o bolisi. Fe fydd bod â'r wybodaeth a ddaw yn sgil cynllun o'r fath yn darparu data ar faint a nodweddion yr hyn sydd gennym ni ar gyfer twristiaeth a fydd yn llywio ystyriaethau o ran polisi, yn lleol ac yn genedlaethol, ynghylch rheoli ail gartrefi yn seiliedig ar y dystiolaeth, ynghyd â llety gwyliau a datblygu'r economi a'r seilwaith sydd yma i ymwelwyr. Fe allai gefnogi'r gwaith o gasglu ardoll ymwelwyr hefyd. Ar gyfer ardoll ymwelwyr, fe fyddai cael system drwyddedu yn cynnig rhestr gynhwysfawr o bob darparwr llety i ymwelwyr sydd mewn ardal. Fe allai hynny gefnogi gweinyddiad parhaus yr ardoll, oherwydd bydd y rhai y mae angen eu trwyddedu nhw yn fwyaf tebygol o fod yr un rhai y bydd gofyn iddyn nhw godi am yr ardoll a'i gasglu. Mae cysylltiadau eglur rhwng y cynigion hyn, ac fe fyddwn ni'n annog cyfraniadau i'r ymgynghoriad 12 wythnos ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr, a fydd yn cau ar 13 o fis Rhagfyr.
Fel crybwyllais i eisoes, wrth geisio sefydlu cynllun trwyddedu statudol, rydym ni'n edrych hefyd ar fecanweithiau o'r fath sydd ar waith neu'n cael eu datblygu yn fyd-eang. Yn y DU, cymerwyd dulliau gwahanol gan ein cymdogion ni ac maen nhw ar wahanol gamau o'u datblygiad. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr dderbyn ardystiad gan Tourism Northen Ireland er mwyn cael bod yn weithredol, ac mae'r cynllun hwn wedi bod ar waith ers 1992. Mae gan Lywodraeth yr Alban ddeddfwriaeth ar waith sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob gwesteiwr a gweithredwyr byrdymor fod â thrwydded er mwyn cael bod yn weithredol, oni bai bod ganddyn nhw eithriad penodol. Mae gan westeion a gweithredwyr presennol tan Ebrill y cyntaf y flwyddyn nesaf i wneud cais am drwydded yn Yr Alban. Ac yn Lloegr, caeodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y DCMS, gais am dystiolaeth o ran cyflwyno cynllun posibl i gofrestru llety twristiaeth. Pwrpas ymgynghoriad y DCMS yw deall manteision a heriau'r cynnydd mewn llety byrdymor a gwyliau yn Lloegr yn well, a chasglu tystiolaeth gychwynnol ar effaith bosibl ystod o ymatebion polisi dichonadwy. Fe geir enghreifftiau eraill hefyd, fel y cynlluniau gorfodol sydd ar waith ar Ynys Manaw ac yng Ngweriniaeth Iwerddon. Rydym ni'n gobeithio dysgu o'r enghreifftiau amrywiol hyn, gan gynnwys pa wersi y gellir eu dysgu o batrwm Rhentu Doeth Cymru o ran datblygu ein cynllun ni ein hunain.
Yn dilyn cyfres o sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol dros y misoedd diwethaf, fe fyddwn ni'n lansio ymgynghoriad ffurfiol cyn bo hir i ofyn am sylwadau ar ffurf a natur y cynllun trwyddedu statudol arfaethedig yma yng Nghymru. Mae adborth ar rai o'r nodau sydd wrth wraidd cynllun trwyddedu arfaethedig wedi bod o gymorth, yn enwedig o ran sefydlu tegwch, a datblygu mwy o ddeallusrwydd a mwy o hyder i ddefnyddwyr. Serch hynny, codwyd rhai pryderon ynghylch y baich rheoleiddio canfyddedig a allai gyd-fynd â chynllun trwyddedu. Mae hyn yn cynnwys y gwaith sy'n ymwneud â darparu tystiolaeth o'r defnydd cyfredol o ran cynllunio, a swyddogaeth yr awdurdodau lleol wrth ymateb i'r gofyniad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru fel ei gilydd yn cytuno mai cynllun trwyddedu statudol sy'n cynnig y mecanwaith cadarnaf ar gyfer y ddarpariaeth yng Nghymru, gan ei fod yn ddull sy'n pennu'r safon y dylai busnesau llety i ymwelwyr ei chyrraedd. Eto i gyd, fe fydd yr ymgynghoriad yn galluogi cyflwyno amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys o ran gofynion y cynllun trwyddedu. Fe fyddwn ni'n gofyn barn am weithrediad cynllun statudol o'r fath, yn genedlaethol neu yn lleol, neu gyda model hybrid sy'n cyfuno elfennau cenedlaethol a lleol. Yn ogystal â hynny, fe fyddwn yn ceisio barn ynghylch a ddylai fod gofyn i bob busnes llety i ymwelwyr gael trwydded, neu a ddylid bod unrhyw eithriadau. Rydym ni'n bwriadu cynnal profion o ran pa mor aml y dylid adnewyddu trwyddedau hefyd, ynghyd â'r ffioedd y gallai fod angen eu codi am drwyddedau. Wrth benderfynu ar strwythur unrhyw ffioedd, rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau ar fusnesau yn yr hinsawdd bresennol, wrth gwrs.
Rydym ni o'r farn fod y rhan fwyaf o bobl yn dymuno gweithredu o fewn y gyfraith, felly un o'r amcanion yw datblygu cynllun a fydd yn sicrhau cyfradd uchel o gydymffurfiaeth wirfoddol. Serch hynny, fe roddir prawf yn yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer mesurau cydymffurfio a gorfodi, gan gynnwys cosbau, i sicrhau tegwch. Fe fyddwn ni'n lansio'r ymgynghoriad ym mis Rhagfyr ac fe fyddwn ni'n annog ein rhanddeiliaid ni i fod â rhan yn y broses. Diolch yn fawr. Rwy'n hapus i dderbyn cwestiynau.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Yn gyntaf, Gweinidog, fe gyhoeddwyd y polisi hwn o gynllun trwyddedu nôl ym mis Gorffennaf, gyda'r Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn ei gyhoeddi i'r wasg. Rydym ni ym mis Tachwedd erbyn hyn a dyma'r tro cyntaf i'r Siambr glywed am y cynllun gyda rhagor o fanylder. Mae'r rhai sydd yn y diwydiant wedi dweud bod cryn bryder wedi bod yn y sector ers y cyhoeddiad hwnnw, ac mae'r oedi maith yn ystod y misoedd rhwng y cyhoeddiad a'r datganiad yma heddiw wedi bod yn ddi-fudd ar y gorau. Felly, a ydych chi'n derbyn i'r oedi fod yn sylweddol a bod yr ansicrwydd wedi peri gofid yn y sector? Ac a wnewch chi esbonio pam mae'r datganiad hwn wedi cymryd cymaint o amser i ddod gerbron y Senedd?
Wrth symud ymlaen at y cynllun ei hun, rwyf i am ddechrau drwy synnu'r Gweinidog efallai drwy ddweud nad wyf i'n credu bod cynllun cofrestru ar gyfer llety i ymwelwyr yng Nghymru yn syniad drwg ynddo'i hun mewn gwirionedd. Fe allai cynllun fel hwn alluogi Llywodraeth Cymru i feddu ar ddata cynhwysol iawn, er mwyn gweld a oes meysydd lle nad yw'r cyflenwad yn ateb y galw, er enghraifft, ac fe allai hefyd gael ei ddefnyddio fel modd gan y Llywodraeth i hyrwyddo busnesau twristiaeth ledled Cymru, ac fel gwnaethoch chi ei nodi, Gweinidog, at ddibenion cydymffurfio hefyd â'r gofynion presennol, fel roeddech chi'n dweud. Rydych chi'n dweud hefyd, ac rwyf innau'n cytuno â hynny i raddau helaeth,
'Fe fyddai cynllun yn rhoi gwell deallusrwydd i ni hefyd—cronfa ddata gynhwysfawr, nad yw hi ar gael ar hyn o bryd, o bwy yn union sy'n weithredol yn y diwydiant.'
Rwy'n cytuno â hynny hefyd; dyna rywbeth i'w groesawu, yn enwedig ar ôl i'r pandemig dynnu sylw at yr angen am gronfa ddata o'r fath i helpu i dargedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut mae ef yn bwriadu defnyddio'r gofrestr hon, pwy fydd â'r hawl i'w gweld hi, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cwrdd ag unrhyw ran o'r gost ariannol i fusnesau ar gyfer cofrestru?
Ond, mae'n ddrwg gen i ddweud bod lansio'r cynllun heddiw gan Lywodraeth Cymru yn eglur—ac fe wnaethoch chi gyfaddef hynny eich hun, Gweinidog—o ran ei ddefnydd i ragflaenu treth ar dwristiaeth. Dyma'r ymgais ddiweddaraf mewn cyfres faith o bolisïau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ers i chi ddod yn Weinidog yr Economi sy'n ymosod ar y diwydiant ac a allai olygu bod y diwydiant yn llai hyfyw o'i gymharu â'n cystadleuwyr, oherwydd fe wyddom ni, lle bu treth ar dwristiaeth yn weithredol dramor, y cafodd ei defnyddio gyda'r bwriad o gyfyngu ar dwristiaeth mewn ardal benodol yn hytrach na chynyddu hynny. Fe hoffwn i weld mwy o dwristiaeth yng Nghymru, ac fe fyddwn i'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru o'r un farn, ond mae camau'r Llywodraeth yn awgrymu'r gwrthwyneb.
Mae'r diwydiant wedi rhybuddio trwy'r amser y byddai cyffyrddiad ysgafn o gofrestru/trwyddedu yn colli cefnogaeth pe ystyrid hynny gan y diwydiant yn ffordd o gasglu treth ar dwristiaeth, yn hytrach na bod yn fecanwaith ar gyfer cynnal busnesau sy'n ymwybodol o safonau a chwynnu ail gartrefi sy'n cynnig llety achlysurol dros dro.
Fe wnaethoch sôn sawl tro yn eich datganiad chi y bydd y polisi hwn yn canolbwyntio ar gysoni tegwch. Efallai fod hyn yn wir yng Nghymru, ond mewn marchnad fyd-eang a chystadleuol, nid yw hyn yn sicrhau tegwch i Gymru o gymharu â gwledydd eraill. Fe wyddom ni, fel roeddech chi'n dweud, mai cam rhagbrofol yw hwn. Mae'r cam rhagbrofol hwn yn rhagflaenu treth ar dwristiaeth—treth na fyddai'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, sut ar y ddaear y gellid ystyried hynny'n gysoni tegwch?
Mae agwedd, yn fy marn i, yn Llywodraeth Cymru, mai y nhw sy'n gwybod orau, yn enwedig pan fydd y diwydiant yn dweud rhywbeth arall wrthych chi—byddai'r dystiolaeth ar y newidiadau o ran hunan-ddarpariaeth, a dim ond 1 y cant o'r ymatebwyr sy'n cefnogi eich cynigion chi yn tystiolaethu i hynny. Ond yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma heddiw yw croesffordd ddifrifol yn nyfodol y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru. Mewn arolwg barn diweddar, roedd 73 y cant o berchnogion llety gwyliau yn y gogledd yn dweud y gallen nhw roi'r ffidil yn y to. Ac fe wnaeth aelod meinciau cefn Llafur yr wythnos diwethaf, yn y Senedd hon, gyfeirio at bobl fel hyn sy'n poeni am ddyfodol y diwydiant hwn fel 'grwgnachwyr'. Ond siawns nad oes yn rhaid derbyn, pan fo tri chwarter o bobl mewn diwydiant yn dweud ei bod hi'n bosibl y bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r ffidil yn y to, ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru eistedd i fyny a gwrando. Ac fe ddywedodd Richard Bond, sef perchennog Finest Retreats,
'byddai cyfuniad o reoleiddio a threthiant ychwanegol â goblygiadau ehangach i ranbarthau sy'n ddibynnol ar dwristiaeth ddomestig' a
'ni ddylid anwybyddu'r anfantais bosibl i economïau lleol'.
Ac yna fe aeth ymlaen i ddweud:
'Yr unig gysondeb i bob golwg yw cosbi'r diwydiant llety gwyliau yn union pryd mae angen y gefnogaeth lwyraf arno i ffynnu'.
Felly, Gweinidog, a ydych chi'n ystyried y sylwadau hynny, yn ogystal â miloedd o rai eraill, yn sylwadau grwgnachwyr? Neu a ydych chi o'r farn eu bod nhw'n sylwadau gan ddiwydiant proffesiynol sy'n ofidus ynglŷn â dyfodol y diwydiant twristiaeth oherwydd eich polisïau gwrth-dwristiaeth chi?
Diolch i chi. Rwyf i am ymdrin â rhan adeiladol cyfraniad yr Aelod yn gyntaf ac, wrth gwrs, eich pwynt chi ynglŷn â phryd y cyhoeddwyd y bwriad cychwynnol gan y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru ym mis Gorffennaf. Ers hynny, fel y dywedais i yn fy natganiad—fe gawsoch chi gopi ohono ymlaen llaw yn ogystal â fy nghlywed i'n ei ddarllen—cafodd contractwyr eu penodi i ymgymryd â gwaith archwilio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid o ran sut y gallai cynllun weithio yng Nghymru. Ac fe wnes i nodi'r cyfweliadau gyda grwpiau ffocws a rhanddeiliaid allweddol hefyd gan awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y sector, a'r lletywyr. Rwy'n deall na fuoch chi yn y Llywodraeth erioed, ond mae'n rhaid i chi geisio profi pethau fel hyn cyn cyhoeddi'r hyn a fyddech chi'n hoffi ei wneud, ac ymgysylltu â phobl wedyn, ac rydym ni'n symud ymlaen nawr i gam ymgynghoriad ffurfiol, a'n bwriad ni yw i hwnnw ddigwydd yn y mis nesaf.
Rwy'n croesawu eich pwyntiau chi o ran y cynllun a'r hyn y gallai ei olygu. Dyma bwynt a phwrpas y cynllun. Mae'n sefyll ar ei rinweddau ei hun o ran cysoni tegwch ar gyfer pob un sy'n weithredol yn y maes hwn. Meddyliwch amdani fel hyn: mae Rhentu Doeth Cymru wedi cysoni tegwch gyda chyfres o safonau i bob landlord am lety mwy hirdymor ar gyfer prif gartref y mae pobl yn byw ynddo. Rydym ni'n edrych nawr ar y manteision i'r diwydiant hwn ar gyfer llety mwy byrdymor, ac fe geir rhesymeg wirioneddol yn hynny, ac mae hynny'n sefyll ar ei ben ei hun. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y gallai hyn ein helpu ni mewn meysydd eraill o bolisi hefyd, ac nid rhywbeth anarferol mo hynny. Nid oes unrhyw beth dichellgar yn hynny, nid ydym ni'n dwyllodrus—rydym ni'n gwbl agored a thryloyw.
Ac o ran cael gafael ar y gofrestr o eiddo trwyddedig, rwy'n credu y byddem ni'n awyddus i hynny fod ar gael yn fwy eang fel y gallech chi weld, pe byddech chi'n aros yn rhywle, fod hwnnw'n safle trwyddedig mewn gwirionedd. Dyna ran o'i ddiben o ran defnyddwyr yn cael gwybod eu bod nhw'n aros yn rhywle sydd â thrwydded gymwys ac yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol.
O ran ffioedd ar gyfer bod ar y gofrestr, wel dyna un o'r pethau y byddwn ni'n rhoi prawf arnyn nhw, oherwydd mewn gwahanol rannau o'r byd, mae ganddyn nhw wahanol gynlluniau ar waith, ac weithiau, maen nhw'n amrywio'r ffi o ran maint y llety neu os ydyn nhw'n rhan o grŵp ehangach. Felly, fe ddylem ni geisio profi a deall y pethau hynny, a dyna'n union pam fod gennym ymgynghoriad ac, yn wir, cynllun o ran gweithrediad y gofrestr. Ac, unwaith eto, gyda Rhentu Doeth Cymru mae gennym ni brofiad o system lle mae awdurdodau lleol yn gwneud hyn—mae ganddyn nhw awdurdod lleol arweiniol yn gweithredu ar eu rhan nhw. Dyma un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus i'w brofi a'i ddeall. Felly, yn y grŵp hwnnw o randdeiliaid, busnesau—ie; efallai y bydd cymunedau ac unigolion yn dymuno cymryd rhan; ond rwy'n awyddus iawn i glywed gan awdurdodau lleol hefyd ynglŷn â'r ffordd y gallai cynllun weithredu yn fwyaf effeithiol gan gwrdd ag anghenion eu cymunedau lleol nhw, fel cyrchfannau i dwristiaid, lle mae'r economi honno'n gyfran fawr o weithrediad yr economi mewn llawer cwr o Gymru. Boed hynny'n Wynedd, sir Benfro neu Abertawe neu Gaerdydd, fe geir gwahanol fathau o dwristiaeth ym mhob un o'r ardaloedd hynny, ond yr hyn mae hynny'n ei olygu i'r cymunedau lleol wedyn hefyd.
Ac edrychwch, gan ddod yn ôl at eich pwynt rheolaidd chi, yn fy marn i fy hun, os ydych chi am adrodd y chwedl ddwl hon ar goedd wrthych chi eich hun ac wrth bobl eraill ein bod ni'n ceisio ymosod ar y sector hwn o'r economi, yn hytrach na'i weld yn iach a chynaliadwy i'r dyfodol, yna, wrth gwrs, mewn democratiaeth mae'r hawl gennych chi i ddal ati i wneud hynny, ni waeth pa mor ddwl ydyw gwneud hynny. Ond fe ddylwn eich atgoffa chi'n garedig fod pobl yn y Llywodraeth, mewn democratiaeth, yno oherwydd y ffordd mae pobl wedi pleidleisio a'r hyn a ddewisodd y bobl. Yn yr etholiad diwethaf, roeddem ni'n eglur iawn o ran bod â chynigion ar gyfer amrywiaeth o'r materion hyn yn ein maniffesto ni ac rydym ni wedi dod i gytundeb mewn ffordd dryloyw yn y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru. Ac rwy'n gwybod nad yw hi bob amser yn wir fod Llywodraethau o wahanol dueddiadau yn gwneud ymgais i gadw eu haddewidion nhw, ond rydym ni'n benderfynol o wneud hynny.
Ac o ran eich cyhuddiad chi ynglŷn â phwy sy'n gwybod orau, rwyf i am atgoffa'r Aelod mai dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oeddech chi'n ceisio dweud wrth bob un ohonom mai'r bobl a oedd yn gwybod orau oedd deiliaid byrhoedlog Rhif 10 a Rhif 11 Stryd Downing a'r anhrefn a adawyd ar eu holau nhw. Rydym ni'n gwneud hyn drwy ymgynghori yn llawn ar draws y sector; rydym ni wedi ymgysylltu â nhw'n flaenorol. Rydym ni am gael ymgynghoriad priodol, ac fe fyddwn ni'n ystyried rhywbeth wedyn yr wyf i o'r farn a fydd yn codi safonau ar draws y sector, ac er lles y diwydiant a'i ddefnyddwyr, yn wir. Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i gefnogi economi'r ymwelwyr a chydnabod y newidiadau sylweddol sy'n digwydd a sicrhau, fel rwy'n dweud, bod dyfodol iach a chynaliadwy i'r economi a'r cymunedau sy'n gartref iddi.
Does yna ddim amheuaeth fod twristiaeth yn gyfrannwr pwysig i'r economi. Mae ymwelwyr yn gwario £17 miliwn y diwrnod, neu mae hynny'n dros £6 biliwn y flwyddyn, yn yr economi yma. Ond, dim ond rhan o'r darlun ydy hynny, oherwydd pa iws cael economi gref ar draul ein cymunedau? Ac os ydy'r arian hwnnw yn llifo allan o'r cymunedau hynny, ac, yn wir, allan o Gymru, pa ddefnydd ydy hynny? Mae'n rhaid inni sicrhau twristiaeth gynaliadwy, sydd yn gydnaws â'r cymunedau ac yn dod â budd economaidd a chymdeithasol iddynt. Dyna sydd felly wrth wraidd y system drwyddedu yma dŷn ni'n siarad amdani heddiw, a dyna pam ein bod ni yn y blaid wedi gwthio i gael hwn yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth a ninnau ym Mhlaid Cymru.
Dwi eisoes wedi sôn ar lawr y Siambr yma am y twf anferthol yn y sector lletyau gwyliau tymor byr, yn enwedig trwy blatfformau megis Airbnb, Vrbo ac eraill. Fe gyhoeddodd y Sefydliad Bevan adroddiad rhagorol ar effaith Airbnb ar ein cymunedau yn gynharach yr hydref yma, gan ddangos bod dros 14,000 o'r tai ar y platfform yma yn addas i fod fel tai i deuluoedd i fyw ynddyn nhw. Yn wir, fe nododd yr adroddiad fod y tai oedd ar Airbnb a oedd yn addas i bobl fyw ynddyn nhw fel cartrefi hirdymor yn gyfwerth i bron i draean o'r stoc tai preifat yng Ngwynedd, ac un o bob pump o'r tai yn y stoc dai preifat yn Ynys Môn ac yng Ngheredigion.
Mae'r sector wedi tyfu y tu hwnt i reswm; dyna, mewn gwirionedd, sydd wedi tanseilio'r sector llety gwyliau yng Nghymru—sector sydd wedi bod yn rhan o'r ddarpariaeth ymwelwyr yma ers cenedlaethau, ond sydd yn cael ei fygwth oherwydd y platfformau ar-lein yma. Ac wrth gwrs, mae hyn yn rhan ganolog o'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r boneddigeiddio sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau glan morol a gwledig wrth inni weld hyd at 40 y cant o dai mewn rhai cymunedau yn eistedd yn wag am rannau helaeth o'r flwyddyn.
Wrth gwrs, rhan o'r pryderon o amgylch y camau yma ydy'r diffyg data sydd gennym ni o ran diffiniadau, ac yn y blaen. Felly, ydy'r Gweinidog yn cytuno, pan fydd yr elfen ddiweddaraf hon yn weithredol, y bydd y wybodaeth fwy cyfoethog fydd gennym ni am beth sy'n llety gwyliau go iawn a beth sy'n ail gartref yn caniatáu inni dargedu mesurau trethiannol ac ati yn well yn y dyfodol? Bydd unrhyw un sydd wedi ymgynghori go iawn efo'r sector lletyau gwyliau, fel yr ydw i wedi ei wneud, yn gwybod bod y sector wedi bod yn galw am system drwyddedu ers blynyddoedd. Mae'r darparwyr yna sydd yn gweithredu trwy gwmnïau effeithiol ac egwyddorol, fel Daioni yn fy etholaeth i, yn gorfod cydymffurfio â rheolau llym—a chywir—er mwyn sicrhau bod eu gwesteion yn cael y profiad gorau a mwyaf diogel posib. Yn anffodus, dydy hynny ddim yn wir am blatfformau fel Airbnb neu Vrbo. Gall unrhyw un roi llety i fyny ar y platfformau yma, a thanbrisio a thanseilio y darparwyr cydwybodol yn y sector yna sydd yn ceisio sicrhau y ddarpariaeth orau posib.
Bydd system drwyddedu yn tynnu safonau y ddarpariaeth i fyny ac yn sicrhau fod ymwelwyr sydd yn dod yma yn cael y profiad gorau posib o wyliau yng Nghymru, efo darparwyr sydd yn amlwg wedi buddsoddi yn y busnes ac yn ymrwymo i ddiogelwch yr ymwelwyr. Bydd y gofyn i gael trwydded a'i chynnal yn cyflwyno mwy o reolaeth i gymunedau yn ogystal ag ymwelwyr. Byddwn ni am weld mecanwaith clir fel rhan o fanylion y system drwyddedu arfaethedig er mwyn galluogi cymunedau i allu cwyno am dai niwsans—er enghraifft, tŷ mewn stryd wedi ei roi ar Airbnb ac sy'n amharu ar amwynderau lleol achos sŵn neu wastraff. Fedrwch chi gadarnhau, felly, mai'r bwriad ydy y bydd yna fecanwaith o'r fath i ddelio â phryderon pan fydd pethau'n mynd o chwith? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am y sylwadau. Roedd un cwestiwn ar y diwedd ynghylch mecanwaith cwynion rwy'n credu ac mae hynny'n rhan o'r pwynt ynghylch cael trwydded gydag eiddo cofrestredig sy'n caffael trwydded—ar gyfer cyrraedd y safonau a gwneud yn siŵr wedyn ei fod yn cael ei redeg mewn modd sydd yn unol â'i drwydded. Dyna'r pwynt a wnes i tua'r diwedd. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o fusnesau yn awyddus i gydymffurfio â'r amodau ac y byddan nhw'n dymuno ufuddhau i'r gyfraith o ran rhedeg eu busnesau ac ennill elw. Ond, mae angen i ni ym mhob system bron iawn lle rydym ni'n bwriadu cael rhyw fath o fesurau amlinellol sy'n cael eu nodi mewn statud, mae angen i chi gael rhyw ffordd o geisio gorfodi'r rhain mewn gwirionedd. Felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n bwriadu rhoi prawf arno yn yr ymgynghoriad. Fe fydd hi'n bwysig i ni glywed oddi wrth gymunedau a rhanddeiliaid fel ei gilydd, oherwydd fe fydd yna nifer o'r busnesau eu hunain, rwy'n siŵr, sydd â syniadau ynglŷn â'r hyn y maen nhw'n ei ystyried a allai fod yn ffordd deg o ymdrin â phobl. Yr ystrydeb weithiau yw nad yw busnesau yn dymuno unrhyw fath o reoleiddio effeithiol, ac eto, mewn gwirionedd, mae llawer o fusnesau yn dymuno rheoleiddio effeithiol sy'n sicrhau nad yw pobl sy'n llai egwyddorol na nhw ac nad ydyn nhw'n gofalu cymaint am eu heffaith nhw ar y gymuned leol yn gallu gostwng eu prisiau er mwyn bod yn fwy cystadleuol. Felly, mae honno'n rhan bendant o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei brofi yn yr ymgynghoriad.
Rwy'n lled gytuno gydag ystod o'r pwyntiau a wnaethoch chi yn y cyfraniad. Mae angen i ni fod â thwristiaeth sy'n gynaliadwy, ag amrywiaeth y cynnig, boed yn ddigwyddiadau mawr, boed yn newyddion da fel bydd y Tour of Britain yn gorffen yng Nghymru, boed yn bethau fel gwyliau teuluol traddodiadol, penwythnosau hir, boed hynny yng nghefn gwlad Cymru, mewn dinas neu dref, ond gwneud hynny mewn ffordd nad yw hi'n tynnu oddi wrth gynaliadwyedd unrhyw gymuned. A dyna pam rydym ni yn y fan hon, oherwydd dros y ddau ddegawd diwethaf, mae ehangu sylweddol wedi bod yn y newid defnydd sydd o lety mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ac yn hynny o beth, yng Nghymru, rydym ni'n union fel rhannau eraill o'r byd. Mae Barcelona yn ystyried effaith llety gwyliau byrdymor ar eu prif ddinas nhw eu hunain. Felly, mae angen i ni edrych ar bethau fel Airbnb a Booking.com, ac mewn gwirionedd mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny yn awyddus i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad oherwydd rwy'n credu eu bod nhw'n cydnabod nad Cymru yn unig fydd â'r datrysiad hwn o ran polisi, fe fydd yna ddatrysiadau ledled y byd i geisio taro'r cydbwysedd hwnnw: economi iach y mae economi ymwelwyr yn rhan sylweddol ohoni ond mewn ffordd nad yw'n tanseilio cynaliadwyedd cymuned. Ac rwy'n ffyddiog iawn y bydd yr Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon dros y ffin yn Lloegr yn edrych gyda diddordeb gwirioneddol ar yr atebion y byddwn ni'n eu darganfod ac effaith a chanlyniad ein hymgynghoriad ni ein hunain.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am roi'r datganiad gwerthfawr hwn gerbron heddiw? Rwy'n ei groesawu yn fawr a chyda'r perygl o ail-ddweud yr hyn yr oedd gan Mabon ap Gwynfor yn ei gyfraniad rhagorol ef, fe hoffwn i ddatgan bod honno, yn y rhan hon o'r gogledd yn Ne Clwyd, yn broblem fawr mewn rhai cymunedau, y cymunedau poblogaidd hynny ymhlith twristiaid, gan gynnwys Llangollen, lle mae llawer o anheddau domestig yn cael eu defnyddio ar gyfer llety gwyliau mewn ffordd amhriodol. Mae hynny'n amddifadu busnesau da, cyfreithlon, o safon uchel o'u cwsmeriaid, ac mae'n creu tensiynau o fewn cymdogaethau hefyd, lle mae eiddo dan ei sang o ymwelwyr mewn ffordd sy'n anaddas, ac wrth gwrs mae hynny'n arwain at lawer o geir yn cael eu parcio mewn cymdogaethau hefyd.
Gweinidog, a wnewch chi sicrhau pobl yn Llangollen a ledled Cymru sy'n wynebu'r broblem benodol hon, y bydd yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig yn mynd yn bell o ran datrys y broblem o lety sy'n anghynaladwy ac anaddas yn cael ei ddefnyddio at ddibenion llety gwyliau? Ac a gaf i ofyn am sicrwydd oddi wrthych chi, Gweinidog, y byddwch chi'n cyfathrebu â'r sector cyn gynted â phosibl ynghylch y mesurau y gwnaethoch chi eu cynnig heddiw fel y gall perchnogion eiddo a darparwyr llety o'r fath wneud trefniadau? Diolch.
Diolch i chi. Mae hi'n bleser gweld yr Aelod, ac mae peth o'r gwaith hwn, wrth gwrs, yn dilyn ymlaen oddi ar ei gyfnod ef yn y Llywodraeth ac yn gweithio ochr yn ochr â'r economi ymwelwyr. Ond, gan gydnabod, fel gwna ef, nad yw'r effaith ar yr etholaethau i gyd i'r un cyfeiriad ac fe geir adegau pan fo'r effaith yn dylanwadu yn uniongyrchol a dinistriol ar y gymuned sy'n lletya, ac, wrth gwrs, mae llawer o letywyr yn cydnabod eu bod nhw'n awyddus i ymwelwyr ddod i'w tref, eu pentref, eu dinas nhw, i fwynhau'r lle a gwario arian yno, sy'n cefnogi'r economi leol, ond y pwynt yw yr ôl troed maen nhw'n ei adael yn ystod eu harhosiad ac wedi hynny hefyd, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud, sef cydbwyso symud i ffwrdd oddi wrth ddefnydd o lety sy'n anghynaladwy ac anaddas at ddefnydd cynaliadwy sy'n cynnig dyfodol gwirioneddol i'r gyfundrefn. Ac felly fe fyddwn ni'n annog rhanddeiliaid yn ei etholaeth ef ei hun a ledled y wlad i fod â rhan i'w chwarae, gan gynnwys enghreifftiau lle mae pethau wedi mynd o chwith, ond lle gall pethau weithio mewn ffordd dda hefyd, oherwydd rydym ni eisoes wedi cael ymgysylltiad â'r sector cyn i mi roi fy natganiad i heddiw, ac fel arwydd cyn yr ymgynghoriad yr ydym ni'n disgwyl ei lansio ym mis Rhagfyr, ac fe fydd yna amser i bobl fod â rhan yn yr ymgynghoriad ei hun a'r digwyddiadau o'i gwmpas, ac fe fyddwn ni wedyn, wrth gwrs, yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gawsom ni i lywio'r camau nesaf y byddwn ni'n eu cymryd yn y Llywodraeth. Felly, mae yna ddigon o gyfle i bobl gymryd rhan eto hyd nes y byddwn ni'n cynnig ein hateb terfynol, a gweithio ar y daith ar gyfer dod at ein gilydd. Rydym ni'n awyddus i gael system a fydd yn gweithio er lles pawb ac yn gwneud ymdrech i daro cydbwysedd, fel mae'r Aelod yn ei nodi. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau o Langollen, ac yn wir fe fyddaf i'n mynd gyda'r teulu ar ymweliad arall i'r fan honno yn y dyfodol agos.
Ac yn olaf, Jane Dodds.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da, Gweinidog. Rwyf i am ategu sylwadau Mabon ap Gwynfor a Ken Skates hefyd.
Wyddoch chi, o ran twristiaeth, ni allwn ni sefyll yn ein hunfan. Mae yna argyfwng gwirioneddol yn rhai o'n cymunedau ni. Rydym ni newydd glywed am Langollen a Dwyfor Meirionnydd hefyd. Mae gwir angen i ni ddod i'r unfed ganrif ar hugain o ran ein hymagwedd ni at dwristiaeth, yr ydym ni'n falch ohoni, fel mae pob un ohonom ni wedi dweud, yma yng Nghymru.
Rwy'n cefnogi'r cynllun trwyddedu a'r ardoll ymwelwyr hefyd; rwy'n gwybod nad ydyn ni yma i siarad am hynny gyda manylder heddiw. Mae yna rai materion a godwyd gyda mi gan berchnogion gwestai, er enghraifft, ynglŷn â'r ymgynghoriad—ac rwyf i wedi clywed y datganiad—ac ehangder y trafodaethau y byddwch yn eu cael. Felly, tybed a wnewch chi amlinellu rhai o'r cynlluniau sydd gennych chi i dynnu'r bobl hynny i mewn a allai fod ag amheuon a phryderon ynghylch y cynllun cofrestru a'r ardoll ymwelwyr. Diolch yn fawr iawn.
Na, rwy'n credu bod hwnna'n bwynt teg ynglŷn â'r ffordd yr ydym ni'n cynnal yr ymgynghoriad fel nad yw'n ymarferiad ar bapur neu ar-lein yn unig, ac ie, wrth gwrs, fe fydd hwnnw'n agored i bawb, felly ni fyddai raid i chi fod yn bresennol mewn digwyddiad ffurfiol na bod yn rhan o grŵp busnes neu gymdeithas benodol, ond rwy'n disgwyl yn ffyddiog y bydd pawb sydd â rhan yn yr economi ymwelwyr a'u grwpiau cynrychioliadol nhw—. Rwyf i'n cwrdd â fforwm economi ymwelwyr, sy'n cynnwys pobl yn y byd lletygarwch yn fwy eang, y cyrff lletygarwch eu hunain ac ystod gyfan o ddiddordebau eraill, felly rwy'n disgwyl y bydd y sefydliadau hynny i gyd yn ymateb i'r ymgynghoriad ac yn cymryd rhan ynddo.
Rwy'n disgwyl y bydd pobl sy'n rhedeg eu busnesau eu hunain, y bydd rhai ohonyn nhw'n dymuno cymryd rhan, i gael eu barn nhw. Ac rwy'n credu mai dyna'r pwynt ynglŷn â'n dymuniad ni i fod â'r ystod lawnaf o bobl yn cymryd rhan, ac, yn union fel gyda'r ardoll ymwelwyr, rydym ni wedi cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb; o leiaf tri ohonyn nhw o gwmpas y wlad. Maen nhw wedi cael eu cynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i geisio sicrhau y bydd pobl yn gallu cael atebion yn y digwyddiad, ond ar gyfer gwybod bod y Llywodraeth â diddordeb mawr mewn gwrando, ac rydym ni wedi gweithio gydag amrywiaeth o bobl i wneud yn siŵr bod pobl yn mynd i'r digwyddiadau hynny, ond rydym ni wedi cynnal digwyddiad ar-lein hefyd i bobl na fyddai'n gallu teithio yn y cnawd i unrhyw un o'r lleoliadau—felly, roedd yna gymaint o hygyrchedd â phosibl. Oherwydd, os ydych chi'n meddwl am y lle hwn, sefydliad cymharol newydd yw hwn, ac eto roedd y sector llety i ymwelwyr ym 1999 yn hollol wahanol i'r byd sydd gennym ni nawr a'r olwg sydd ar lety i ymwelwyr yn y rhan fwyaf o'n trefi, ein dinasoedd a'n pentrefi ni. Felly, ystyr hyn yw deall y byd fel y mae ar hyn o bryd, a chael system sy'n addas i'r diben—fel dywedais i, economi ymwelwyr ffyniannus a chynaliadwy sy'n cael ei gynnal mewn cymunedau ffyniannus a chynaliadwy.
Diolch i'r Gweinidog.