1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Mae'r cwestiynau heddiw i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiynau cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrth y Senedd na fyddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud y daith 2,500 milltir i Sharm el-Sheikh ar gyfer cynhadledd COP27 mewn ymdrech i gyfyngu eu milltiroedd awyr. A wnewch chi gadarnhau faint o filltiroedd awyr a deithiwyd gennych ar eich taith ddiweddar i Seland Newydd?
Ni allaf ddweud wrthych faint yn union o filltiroedd awyr ydyw, ond credaf fod Seland Newydd oddeutu 12,000 o filltiroedd i ffwrdd, onid ydyw?
Ddim yn ddrwg. [Chwerthin.] Cyfanswm y daith yno ac yn ôl yw 22,000 o filltiroedd.
Dyna ni; mae hynny'n iawn.
Mae'n gwneud imi feddwl, fodd bynnag, tybed beth a ddysgoch chi drwy fynd ar y daith, a'r hyn na allech fod wedi'i ddysgu ar Zoom pe baech wedi dilyn rhesymeg eich Gweinidog newid hinsawdd. Neu ai dim ond enghraifft arall yw hyn o'r brolio rhinweddau rhagrithiol rydym wedi dod i arfer ag ef gan Lywodraeth Lafur Cymru? Serch hynny, un peth y gobeithiaf y byddwch wedi’i weld yno yw bod 47 y cant o fechgyn a 51 y cant o ferched yn Seland Newydd yn cymryd rhan mewn chwaraeon allgwricwlar, o gymharu â 43 y cant o fechgyn a 36 y cant yn unig o ferched yma, yn ôl arolwg chwaraeon ysgol Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar, ac mae’r ffigur hwnnw’n un sy’n gostwng hefyd o gymharu â’r blynyddoedd a fu. Felly, beth yn eich barn chi y mae Seland Newydd yn ei wneud yn iawn yno ac y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn anghywir yma?
Ni fyddwn yn disgrifio'r sefyllfa yn y ffordd honno, Tom. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, yn sicr—os caf ateb eich pwynt cyntaf yn gyntaf—yw bod mynd i Seland Newydd yn brofiad gwerthfawr iawn, ac rwyf wedi cwblhau adroddiad eithaf manwl ar yr hyn a wneuthum pan oeddwn yno. Credaf ei bod yn hynod bwysig cefnogi tîm y menywod pan oeddent allan yno, ar ôl sicrhau eu lle yng nghwpan y byd, a chwarae ar lwyfan rhyngwladol, ac roedd yn bwysig ein bod yn gwneud hynny. Rydym yn cefnogi tîm y dynion pan fônt yn chwarae yng nghwpan y byd, ac mae’n gwbl briodol ein bod yn cefnogi tîm y menywod yn yr un ffordd.
Ond nid er mwyn gwylio'r rygbi yn unig y buom allan yno. Aethom allan yno i ymgysylltu â nifer o sefydliadau ynghylch cyfranogi mewn chwaraeon, yn enwedig ymhlith menywod, ond cyfranogiad ehangach hefyd. A phan gynhaliodd y pwyllgor diwylliant ymchwiliad diweddar i gyfranogiad mewn chwaraeon—pwyllgor rydych yn aelod ohono, a bydd yr adroddiad hwnnw'n dod i lawr y Senedd cyn bo hir—roedd un o'r sefydliadau neu un o'r cynlluniau a grybwyllwyd yn yr ymchwiliad hwnnw, yn dod o Seland Newydd, sef Active Me. A manteisiais ar y cyfle i gyfarfod ag Active Me pan oeddwn yno, gan fod y gwaith a wnânt yn ymwneud â chyfranogiad a gweithgarwch corfforol, ac mae ganddynt gynllun yno sy'n cael ei ariannu ar fath o sail deirochrog rhwng meysydd iechyd ac addysg a Sport New Zealand ac ati. Ac er bod hwnnw'n gynllun llwyddiannus iawn, a'i fod wedi cyflawni'r math o ystadegau rydych yn sôn amdanynt, nid yw mor wahanol â hynny i beth o'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud. Ond yr hyn rwyf wedi’i wneud, a’r hyn rwy’n bwriadu ei wneud, yw cael sgyrsiau pellach gyda Chwaraeon Cymru i weld beth arall y gallwn ei ddysgu o brosiect Active Me, a gweld sut y gellir datblygu hynny, fel y gallwn sicrhau gweithgarwch a chyfranogiad llawer mwy cydlynus, yn enwedig ymhlith plant.
Diolch. Fe sonioch chi nad yw'r cynllun mor wahanol â hynny, ond fel rwyf eisoes wedi'i ddangos, credaf fod y canlyniadau'n eithaf gwahanol rhwng Seland Newydd a Chymru. Mae'n ddiddorol ichi sôn hefyd am deithiau tramor. Nid ydym wedi clywed gan y Dirprwy Weinidog ers i Lywodraeth Cymru benderfynu peidio â’ch anfon i gêm Cymru yn erbyn Iran yr wythnos nesaf yng nghwpan y byd yn Qatar. Yn gyntaf, roeddem yn meddwl eich bod yn mynd, ac yna dywedwyd wrthym na fyddech yn mynd oherwydd y tramgwyddo hawliau dynol a'r protestiadau parhaus yn Iran. Ond o ystyried ein bod yn gwybod bod hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo bob dydd yn Qatar, does bosibl nad yw'r Llywodraeth yn tynnu llinell yma drwy ddweud nad yw tramgwyddo hawliau dynol yn Iran yn iawn, ond fod gwneud hynny yn Qatar yn iawn. Sylwaf hefyd fod eich bós, Gweinidog yr economi, wedi dweud ddoe y byddai Gweinidogion yno yn mynychu er mwyn, ac rwy'n dyfynnu, 'cyflwyno ein gwerthoedd.' Felly, os yw hyn yn ymwneud â'n gwrthwynebwyr yn hytrach na'r wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth, fel y mae ymagwedd Llywodraeth Cymru yn ei awgrymu yn ôl pob golwg, a wnewch chi ddweud wrthyf pa un o'n gwrthwynebwyr eraill yng ngrŵp Cymru—Lloegr neu UDA—y byddwch yn cyflwyno ein gwerthoedd iddynt?
Wel, rwy'n credu ei bod yn gwbl glir pam fod Llywodraeth Cymru yn mynychu Cwpan y Byd FIFA. Credaf fod pob un ohonom yn derbyn, ac wedi dweud ar sawl achlysur, y byddai'n well gennym beidio â bod yn Qatar am yr holl resymau y soniwyd amdanynt eisoes. Mewn gwirionedd, mae ateb y cwestiwn hwn yn un o’r rhesymau hynny, oherwydd yr hyn yr hoffwn ganolbwyntio arno yw’r ffaith y bydd gennym dîm pêl-droed cenedlaethol yn chwarae ar lwyfan y byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd, ac ar hynny y dylem fod yn canolbwyntio. Ac yn anffodus, mae'r ffaith bod y gystadleuaeth hon yn Qatar yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar rai o'r pethau eraill. Mae hynny'n siomedig, gan y credaf ein bod—. Beth bynnag, mae hynny'n siomedig. Ond rwy’n deall pam fod pobl yn gwneud hynny, gan fod gennyf fi, fel sydd gan Weinidog yr Economi a'r Prif Weinidog, bryderon tebyg ynghylch ein presenoldeb yn Qatar.
Ond mae’r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi wedi dweud yn glir iawn ein bod yn mynychu’r ddwy gêm hynny’n benodol gan mai rheini yw'r ddwy gêm a’r ddwy wlad lle gallwn gael y budd economaidd mwyaf ohonynt yn ein perthynas â hwy, boed hynny mewn masnach, boed hynny yn y gwerthoedd a'r amcanion tebyg sydd gennym. Credaf fod yn rhaid ichi wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â'r pethau hynny, a dyna oedd y penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru, a dyna'r rhesymau pam ein bod yn mynd i'r gemau hynny. Rydym wedi dweud yn barod, ac rydych wedi clywed Gweinidog yr Economi a’r Prif Weinidog yn dweud hyn ar sawl achlysur, y bydd rhaglen o weithgareddau hefyd a fydd yn cynnwys hyrwyddo diwylliant a chelfyddydau Cymru a'r iaith Gymraeg yn y gwledydd hynny hefyd, ac mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Ar 8 Medi eleni, dewiswyd 2,000 o artistiaid a gweithwyr celfyddydol ar gyfer cynllun peilot incwm sylfaenol i'r celfyddydau yn Iwerddon. Bydd pob artist neu weithiwr yn derbyn €325 yr wythnos am dair blynedd fel rhan o brosiect ymchwil fydd yn casglu data gan gyfranogwyr i asesu effaith y cynllun ar eu hallbwn creadigol a'u lles, gyda'r nod o'i gyflwyno i bob artist fel ymyriad parhaol. Nod y cynllun yw dangos sut mae Iwerddon yn gwerthfawrogi'r celfyddydau ac arferion artistig. Fel y gwyddoch, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yn yr haf eleni, prosiect peilot rhagorol fydd, gobeithio, yn sicrhau'r holl fanteision disgwyliedig. Tybed felly a yw'r Dirprwy Weinidog wedi ystyried rhaglen debyg ar gyfer ein sector diwylliant ni i'r un a lansiwyd yn Iwerddon, ac, os nad yw, a yw hyn yn rhywbeth y byddai hi a'i swyddogion yn fodlon rhoi ystyriaeth difrifol iddo, o ystyried sut mae'r sectorau diwylliant, celfyddydau a threftadaeth wedi cael eu heffeithio gan y pandemig a rŵan gan yr argyfwng costau byw?
Diolch am eich cwestiwn, Heledd Fychan, a chredaf ei fod yn bwynt teg iawn. Fel y dywedwch, yn gwbl briodol, mae gennym gynllun peilot incwm sylfaenol yng Nghymru, ac mae angen inni ei werthuso. Credaf y bydd y gwerthusiad hwnnw wedyn yn llywio lle rydym yn mynd â’r cynllun hwnnw ymhellach, y tu hwnt i’r cynllun peilot. Fe fyddwch yn ymwybodol, drwy’r pandemig, fod gennym gynllun cymorth ar gyfer gweithwyr llawrydd yn benodol nad oedd ar gael yn Lloegr, ac roedd gennym gytundeb ar gyfer trefniant gweithio mewn partneriaeth i weithwyr llawrydd gydag awdurdodau lleol. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o natur ansefydlog gwaith llawrydd, yn enwedig yn y sector celfyddydau a chreadigol, felly fe wnaethom geisio eu hamddiffyn. Yn sicr iawn ni fyddwn yn diystyru'r hyn rydych yn ei ddweud wrthyf heddiw, ond ni allaf warantu unrhyw beth i chi, oherwydd yn amlwg, mae angen inni werthuso'r cynllun peilot incwm sylfaenol hwnnw cyn y gallwn wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch hynny yn y dyfodol.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n galonogol iawn. Mae'r argyfwng chwyddiant presennol hwn nid yn unig yn effeithio ar unigolion a chartrefi ar ffurf yr argyfwng costau byw, ond hefyd wrth gwrs ar lawer o fusnesau, yn enwedig y rhai yn y sector diwylliant, sy'n wynebu argyfwng costau busnes. Er enghraifft, rhybuddiodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, fod yr ŵyl wedi gwynebu heriau o ganlyniad i Brexit eleni gan wneud mewnforio nwyddau yn fwy cymhleth a chostus, yn ogystal â phwysau chwyddiant cynyddol. Yn yr un modd, mae Cadeirydd S4C, Rhodri Williams, wedi rhybuddio bod chwyddiant cynyddol yn taro cyllideb y sianel ac y bydd hyn yn anochel yn cael effaith andwyol ar faint o gynnwys y gallant ei gomisiynu gan gyflenwyr. O ystyried hyn, pa drafodaethau sydd wedi bod ynglŷn â diogelu dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol yn wyneb costau cynyddol o ganlyniad i Brexit a chwyddiant? Ac yn yr un modd, wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni, pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal i warchod y sector cynhyrchu teledu, yn enwedig rhaglenni Cymraeg, yma yng Nghymru?
Iawn. Felly, nifer o bwyntiau yno. Yn amlwg, yr hyn y byddwn yn ei ddweud—ac nid wyf am sôn am yr Eisteddfod Genedlaethol yn benodol, gan fod pob un o'n sefydliadau a'n cyrff diwylliannol yn profi materion tebyg iawn ac rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda phob un ohonynt. Mewn gwirionedd, mae rhan o’r trafodaethau hynny'n rhan o’r trafodaethau rwy'n eu cael gyda’ch cyd-Aelodau Siân Gwenllian a Cefin Campbell yn y cytundeb cydweithio ynghylch sut y mae sefydliadau fel y llyfrgell genedlaethol, er enghraifft, a'r amgueddfa genedlaethol, yn diwallu rhywfaint o'r pwysau chwyddiant y maent yn ei wynebu gyda chostau tanwydd ac ati. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar draws y sector, ac rydym yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi'r sefydliadau hynny, yn ariannol lle gallwn, ac rydym wedi gwneud rhywbeth yn ddiweddar gyda'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol. Lle na allwn fforddio rhoi cymorth ariannol uniongyrchol yn y meysydd hynny, rydym yn cael sgyrsiau â’r cyrff hynny ynghylch sut y gallant liniaru yn erbyn rhai o’r costau hynny. Rwyf hefyd yn cyfarfod â'r sianeli teledu a chynhyrchwyr ffilm ynglŷn â'r effaith arnynt hwythau hefyd, ac mae'r rheini'n drafodaethau tebyg ym mhob maes.
Yr hyn na allaf sefyll yma a’i ddweud yw bod Llywodraeth Cymru yn gallu talu’r holl gostau cynyddol hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon ar hyn o bryd yn gorfod edrych ar eu cyllidebau a’r hyn y gallwn ei wneud i greu arbedion yn ein cyllidebau, gan fod pwysau chwyddiant ar ein cyllideb yn ein taro ninnau hefyd. Felly, mae hyn yn ymwneud â dealltwriaeth o'r sefyllfa. Mae'n golygu deialog barhaus gyda'r sefydliadau hynny ynglŷn â'r sefyllfaoedd y maent yn eu hwynebu, a bydd gennym lawer gwell syniad ar ôl cyllideb y DU yfory ynghylch pa gymorth pellach, os o gwbl, a mesurau y gallwn eu rhoi ar waith i helpu'r holl sefydliadau sydd wedi'u cynnwys yn fy mhortffolio.