– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig, toiledau Changing Places, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Diolch. Wel, yr hyn sy’n allweddol er mwyn cyflawni Deddf Cydraddoldeb 2010 yw argaeledd toiledau Changing Places, sy’n mynd y tu hwnt i ddarparu toiledau hygyrch safonol ac sydd wedi’u dylunio fel y gall pawb, ni waeth beth fo’u hanghenion mynediad neu namau neu ddibyniaeth ar gymorth gofalwyr neu offer arbenigol, ddefnyddio cyfleuster toiled gydag urddas ac mewn modd hylan. Maent yn doiledau hygyrch mwy o faint, gyda chyfarpar fel offer codi, llenni, meinciau newid i oedolion a lle i ofalwyr. Wrth siarad yma ynglŷn ag ymgyrch Changing Places yn 2019, dywedais, er i hyn gael ei lansio yn 2006, fy mod newydd fynychu cyfarfod grŵp llywio Changing Places, a oedd yn canolbwyntio ar ddod â Changing Places i siroedd gogledd-ddwyrain Cymru, gan ddechrau gyda thref yr Wyddgrug, gobeithio, lle mae ymgyrch dros doiled Changing Places yng Nghanolfan Daniel Owen yn parhau hyd heddiw. Câi ei chadeirio gan Kim Edwards, sydd â chyflwr atacsia Friedreich. Dywedodd fod y diffyg cyfleusterau presennol yn golygu nad yw pobl anabl yn mynd allan. Mae darparu toiled Changing Places addas yn darparu'r holl le a'r offer sydd eu hangen i atal pobl rhag gorfod cael eu newid ar lawr aflan, rhag peidio â chael eu newid o gwbl, neu hyd yn oed rhag peidio â mynd allan i'r gymuned yn y lle cyntaf. Ei geiriau hi. Roedd 16 mlynedd wedi bod bryd hynny ers imi glywed hyn yn cael ei godi gyntaf yn y lle hwn, ac eto, mae pobl fel Kim yn dal i orfod ymladd yr ymgyrchoedd hyn 19 mlynedd yn ddiweddarach.
Wrth holi’r Prif Weinidog yma fis diwethaf, dywedais fod
'TCC, Trefnu Cymunedol Cymru—Together Creating Communities, grŵp o arweinwyr cymunedol arbennig o sefydliadau ar draws sir y Fflint, Wrecsam a sir Ddinbych, wedi ymuno i weithredu gyda'i gilydd ar fater toiledau Changing Places. Maen nhw'n dweud er gwaethaf sicrwydd ynghylch eu darpariaeth gan Lywodraethau olynol Cymru yn mynd yn ôl ddau ddegawd, gan gynnwys gan rai sy'n parhau i fod yn Weinidogion yn y Llywodraeth hon, mai dim ond tua 50 o doiledau Changing Places sydd ar gael yng Nghymru gyfan o hyd.'
Pan ofynnais wedyn i’r Prif Weinidog
'pryd y bydd Llywodraeth Cymru'n galluogi pobl yng Nghymru nad ydyn nhw yn gallu defnyddio toiledau hygyrch safonol i gael eu hanghenion dynol sylfaenol wedi'u diwallu a'u hawliau cydraddoldeb wedi eu bodloni, i fwynhau diwrnod allan heb y straen o boeni am gael mynediad at gyfleusterau toiledau a thrwy hynny gynyddu eu hannibyniaeth a'u hiechyd a'u llesiant yn gyffredinol?' atebodd mai
'Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y cyfrifoldebau yn y maes hwn.'
Dywedodd fod swyddogion Llywodraeth Cymru,
'yn olrhain yr arian sydd wedi ei ddarparu i awdurdodau lleol'.
Fodd bynnag, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gadarnhau i mi mewn ateb ysgrifenedig, nid oes ganddynt gronfa benodol ar gyfer darparu toiledau Changing Places. Yn ogystal, mae TCC yn datgan nad yw canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd i awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu dilyn yn gyson, a bod y canlyniad hyd yma wedi bod yn siomedig.
Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglen doiledau Changing Places, gyda chronfa bwrpasol o £30 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol ym mhob rhan o Loegr i helpu i gynyddu nifer y toiledau Changing Places yno. Felly, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir ar gyfer awdurdodau lleol i sicrhau bod darpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru. Mae TCC yn nodi, er enghraifft, pe gallai Llywodraeth Cymru ymrwymo i roi arian cyfatebol o leiaf ar gyfer un toiled Changing Places ym mhob sir, gellid sicrhau gorchymyn pryniant grŵp cenedlaethol am gost fras o £275,000 yn unig—£25,000 yr un; mae hynny'n cyfateb i ychydig dros £1 am bob unigolyn anabl yn y wlad.
Mae’r model cymdeithasol o anabledd yn dweud bod pobl yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas, nid oherwydd eu nam, ac mae diffyg cyfleusterau sylfaenol fel y rhain yn golygu bod pobl yn anabl, yn gaeth, yn ynysig ac yn ddibynnol ar eraill. Rwyf wedi clywed am rieni plant anabl yn cael matiau newid gan eu therapyddion galwedigaethol i'w defnyddio ar y llawr mewn toiledau cyhoeddus hygyrch. Er bod elusen Crohn's & Colitis UK yn datgan, yn gwbl briodol, fod angen gwell ymwybyddiaeth o anableddau anweledig, fel y gall pawb ddeall pam fod angen i rywun â chlefyd Crohn neu colitis ddefnyddio'r toiled ar frys, nid yw toiledau hygyrch cyffredin yn diwallu anghenion pob unigolyn anabl.
Mae budd economaidd hefyd i gyfleusterau Changing Places: denu pobl anabl a'u teuluoedd i ddefnyddio siopau, atyniadau i dwristiaid a lleoliadau lletygarwch. Gallai teuluoedd anabl gyfrannu’n sylweddol at yr economi, pan fo punt borffor y DU, pŵer gwario aelwydydd sy'n cynnwys pobl anabl, yn werth £274 biliwn.
Mae diffyg Changing Places yn fater cyfiawnder cymdeithasol, mater iechyd y cyhoedd, mater llywodraeth leol, mater rheoliadau adeiladau, ac yn anad dim, yn fater hawliau anabledd. Galwaf felly ar yr Aelodau i gefnogi, a Llywodraeth Cymru i weithredu, ar ein cynnig heddiw.
Rwy'n falch o'r cyfle i siarad yn y ddadl hon fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu. Mae Plaid Cymru yn gwbl gefnogol o fesurau i wella mynediad cyhoeddus o bob math i bobl anabl a phobl sydd ag anghenion penodol, ac rŷn ni'n falch o weld bod y cynnig hwn ynghylch sicrhau argaeledd toiledau Changing Places ledled Cymru wedi’i gyflwyno ac rydym yn falch o gefnogi'r cynnig.
Mae medru cael mynediad i gyfleusterau toiled pan fo angen yn gwbl sylfaenol i urddas ac i iechyd unigolyn. Ond, mae cael mynediad i doiled yn anodd yn aml i bobl anabl, ac os oes gennych chi anableddau cymhleth neu luosog mae cael mynediad i doiled sy'n cwrdd â'ch anghenion hyd yn oed yn fwy o her.
Fel y mae’r cynnig yn awgrymu, er bod y cyfleusterau priodol ac angenrheidiol yma i unigolion sydd angen cymorth personol i ddefnyddio’r toiled neu newid padiau ar gael mewn rhai llefydd erbyn hyn, mae’r broses o osod cyfleusterau o’r fath mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn araf ac yn anghyson, yn enwedig ar draws ardaloedd gwledig. Er enghraifft, dim ond un toiled Changing Places cofrestredig yr un sydd gan Geredigion a Phowys—sefyllfa, rwy’n siŵr, y bydd yr holl Aelodau’n cytuno, sy'n gwbl annerbyniol ac yn golygu nad oes yna fynediad cyfartal i gyfleusterau priodol i holl ddinasyddion Cymru, beth bynnag eu lleoliad neu allu corfforol.
Mencap Cymru arweiniodd yr ymgyrch Changing Places yng Nghymru nôl yn 2008. Maen nhw wedi sôn am y gwahaniaeth mae mynediad i gyfleusterau fel hyn yn gallu gwneud i bobl ag anableddau a'u teuluoedd, i fedru mwynhau amser y tu allan i'w cartrefi, boed hynny i lefydd cyhoeddus fel theatrau, sinemâu neu ganolfannau siopa, neu yn gyfleon i fwynhau parciau, cefn gwlad, mannau o harddwch neu atyniadau twristaidd. Heb y cyfleusterau yma, mae cyfleon ddylai fod ar gael i bawb ond ar gael i rai. Dywed Mencap bod y cyllid a roddwyd i greu cyfleusterau fel hyn yn Oakwood, Sain Ffagan, Llangollen, Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, Pili Palas a chanolfan ymwelwyr Corris wedi bod yn gwbl drawsnewidiol, ac yn sicrhau bod pobl a thwristiaid anabl yn medru mwynhau rhai o atyniadau gorau Cymru. Ond mae angen dybryd am fwy er mwyn ehangu y math o brofiadau a chyfleon hamdden sydd ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru.
Mae'r cyfleusterau yma yn gwbl hanfodol ac, fel dywedodd Mark Ishwerood, yn hwb hefyd i'r diwydiant twristiaeth. Mae rheolwyr yr atyniadau yma yn sôn am sut maent yn derbyn nifer o alwadau gan bobl sydd am wirio bod ganddynt doiledau Changing Places cyn eu bod nhw'n ymweld. Ac os ydym am fod yn genedl gyfartal, a hefyd am arwain y ffordd o ran twristiaeth gynhwysol, yna mae darparu cyfleusterau fel hyn yn elfen ganolog i'r nod glodwiw honno ddylwn ni gyd ei gefnogi. Gallai'r ardollau ymwelwyr gefnogi y fath yma o ddatblygiad blaengar a chynhwysol.
Mae'n anodd credu bod modd i unrhyw gais cynllunio ar gyfer adeiladau newydd beidio â chynnwys toiled Changing Places. Sut mae modd cyfiawnhau peidio â darparu toiled i bawb, beth bynnag eu hanghenion neu ble bynnag y maen nhw'n byw? Os ydym yn gytûn ar hynny, yna rwy'n annog pawb i gefnogi'r cynnig.
Hoffwn dalu teyrnged i Jan Thomas, prif weithredwr Fforwm Anabledd Sir y Fflint, a TCC, Trefnu Cymunedol Cymru, am ymgyrchu dros fwy o gyfleusterau Changing Places ar draws y gogledd-ddwyrain. Buont yn fy lobïo pan oeddwn yn gynghorydd sir yn sir y Fflint, ac ers hynny, rwyf wedi cwestiynu a ellir ymgorffori toiled Changing Places mewn adeilad cyhoeddus newydd neu yn ystod y gwaith o ailgynllunio adeilad sy’n bodoli eisoes.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bu problemau gyda digon o le, yn enwedig mewn adeiladau sy'n bodoli eisoes, ac yn fwy felly os oes ganddynt statws rhestredig o ryw fath. Nid arian yw'r cyfyngiad mwyaf fel arfer. Mae cyfleusterau Changing Places yn doiledau hygyrch sydd wedi’u haddasu’n arbennig gydag offer codi, gwely newid maint oedolion a chanllawiau cydio. Mae angen digon o le i symud o gwmpas. Credaf mai'r peth pwysicaf yw sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi ar y cam cynllunio, pan fo'r cynfas yn wag, ac nad yw'n rhywbeth sydd ond yn cael ei ychwanegu wedyn.
Ddydd Gwener, ymwelais â stondin a oedd yn dangos cynlluniau ar gyfer yr amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam, lle bydd adeilad rhestredig yr amgueddfa bresennol yn cael ei ailwampio'n fewnol, a gofynnais a allent gynnwys toiled Changing Places yno. Ond gwnaethant ymateb drwy ddweud eu bod wedi'u cyfyngu o ran gofod a chynllun, gan fod yr adeilad yn rhestredig a'u bod eisoes mewn trafodaethau hirfaith gyda Cadw ynglŷn â'r cynllun. Ond maent yn awyddus i gynnwys un; efallai na fydd o'r maint cywir, ac ychydig yn llai, ond maent yn gweithio ar y mater.
Ar ôl hynny, ymwelais â’r hwb llesiant newydd yn Wrecsam, ac mae wedi’i adnewyddu’n llwyr, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â’r bwrdd iechyd a chyngor Wrecsam, ac roeddwn mor falch o weld dau doiled Changing Places yno—un i oedolion ac un i blant—a oedd hefyd yn cynnwys cawodydd ac uned newid fawr hefyd. Roedd ganddo unedau cegin a oedd yn symud i fyny ac i lawr, ystafell synhwyraidd, a mannau chwarae blynyddoedd cynnar dan do ac awyr agored i blant, sy'n wych, ac ystafell ymgynghori ar gyfer pobl â COVID hir. Roedd fel pe baent wedi meddwl am bopeth, ar y camau cynllunio cynnar, sydd mor bwysig.
Mae gan Wrecsam ddau doiled Changing Places arall mewn lleoliadau amrywiol hefyd, ac mae Parc Siopa Brychdyn yn mynd i gynnwys un, yn ogystal ag adeilad John Summers yn sir y Fflint. Dywedodd Jan Thomas a TCC, 'Mae'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy ac yn eu cefnogi wedi dweud wrthym mai'r pryder mwyaf ynghylch mynd allan i'r gymuned yw diffyg toiledau hygyrch.' Ac mae toiledau Changing Places yn galluogi pob unigolyn anabl i gael yr un profiadau â phobl nad ydynt yn anabl. Mae'n hawl ddynol sylfaenol. Diolch.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogledd Cymru, am gynnig y ddadl hon ac am ei holl waith caled yn hyrwyddo hawliau pobl anabl? Mae’n amlwg fod angen inni wneud mwy i greu cymdeithas gwbl gynhwysol. Mae gormod lawer o rwystrau’n bodoli sy’n atal pobl anabl rhag gallu cymryd rhan lawn mewn gweithgareddau bob dydd. Fel y clywsom, dim ond 50 o doiledau Changing Places sydd yna yng Nghymru gyfan. Mae hyn yn gwaethygu'r ffaith bod nifer y toiledau cyhoeddus sydd ar gael wedi lleihau at ei gilydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac nid yw'r rheini sy'n bodoli yn gwbl hygyrch. Felly, nid yw dod o hyd i doiled mor hawdd â hynny ar y gorau, ond i unigolyn sy'n anabl ac sydd angen defnyddio toiled, mae'n ei gwneud yn hynod o anodd dod o hyd i gyfleuster sy'n diwallu eu hanghenion.
Nawr, gyda fy hen het awdurdod lleol ar fy mhen, mae'n anodd i gyngor gydbwyso pob un o'r blaenoriaethau sydd ganddo: mae gennych gyllidebau cyfyngedig a phwysau sylweddol i ymdopi â hwy, a all olygu nad yw pethau fel toiledau, yn anffodus, ar flaen y ciw am gyllid. Ac er ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol, gwyddom nad yw pob awdurdod lleol yn cyfeirio at yr angen am doiledau Changing Places yn eu strategaeth. Yn ein strategaeth toiledau ar gyfer sir Fynwy yn 2019, fe wnaethom gyfeirio at argaeledd toiled Changing Places, sydd ar gael mewn canolfan gymunedol leol. Gwnaethom sicrhau hefyd fod lleoliadau toiledau a'u cyfleusterau ar gael drwy ap mapio y gellir ei ddefnyddio ar ffôn symudol. Ond rwy’n cydnabod y dylem fod wedi gwneud llawer mwy. Felly, mae angen cymorth ariannol penodedig i gyrff cyhoeddus, i sicrhau y gallant ddarparu cyfleusterau Changing Places addas, yn ogystal â chanllawiau cryfach fel bod cyrff cyhoeddus yn ystyried hygyrchedd yn llawn wrth lunio strategaeth toiledau a chynllunio mannau cyhoeddus. Efallai ein bod yn meddwl mai cam bach yw gwneud toiledau’n fwy hygyrch, ond gall gael effaith hynod fuddiol ar bobl anabl ac agor mwy o gyfleoedd iddynt.
Ac os caf sôn yn sydyn am y bunt borffor—hynny yw, pŵer gwario aelwydydd anabl. Mae ystadegau gan elusen Purple yn dangos, yn y DU gyfan, fod busnesau'n colli oddeutu £2 biliwn y mis drwy beidio â diwallu anghenion pobl anabl. Mae oddeutu 75 y cant o bobl anabl wedi gorfod peidio ag ymweld â busnes oherwydd hygyrchedd gwael. Felly, o ddarparu’r cyfleusterau hyn, gallwn hyrwyddo buddion economaidd yn ogystal â’r buddion cymdeithasol.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd agwedd Llywodraeth Cymru tuag at y ddadl hon yn gadarnhaol, ac y gallwn fel Senedd archwilio ffyrdd o sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl anabl ym mhob rhan o Gymru. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr. Diolch i chi am roi cyfle i mi roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod toiledau Changing Places ar gael ar hyd a lled Cymru.
A mynd i'r afael â hyn mewn ffordd gadarnhaol iawn o ran yr ymrwymiad sydd gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlwg wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfranogiad cymunedol llawn a dinasyddiaeth weithgar i holl bobl Cymru, ac rydym yn deall yn iawn y rhan hollbwysig y gall toiledau Changing Places ei chwarae wrth gyflawni'r nod hwn ar gyfer llawer o bobl anabl. Er bod toiledau hygyrch cyffredin yn diwallu anghenion y rhan fwyaf o bobl anabl, mae llawer o bobl anabl angen y ddarpariaeth ychwanegol a gynigir gan doiledau Changing Places, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael eu darparu ledled Cymru. Diolch i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma gydag enghreifftiau da o’r hyn sydd eisoes yn digwydd.
Ym mis Medi 2019, fe gyhoeddasom ein fframwaith, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a oedd yn nodi ystod eang o fesurau i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau allweddol y mae pobl anabl yn eu hwynebu gyda namau. Cafodd y fframwaith hwn ei gydgynhyrchu gyda phobl anabl, ac mae’n cynnwys camau gweithredu penodol ynghylch darparu toiledau Changing Places.
Yn 2017, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ofyniad i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio strategaeth toiledau lleol. Wrth ddatblygu eu strategaethau, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiad o angen, gan gynnwys ystyried yr angen am doiledau Changing Places. Rhaid i’r strategaethau nodi wedyn sut y mae'r awdurdodau lleol yn bwriadu diwallu’r anghenion a nodwyd yn y ffordd orau, a rhaid i’r gwaith hwn fynd rhagddo gyda chyfranogiad llawn eu trigolion a phartneriaid cyflenwi eraill, gan gynnwys pobl anabl, a chlywsom enghreifftiau o ymgyrchwyr yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn cael mynediad at gyllid, gan gynnwys cyllid Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â'r gofynion hyn mewn perthynas â strategaeth toiledau, ym mis Chwefror 2021, cyhoeddwyd dogfen ymgynghori ddrafft, a gyflwynai ystod o newidiadau arfaethedig i reoliadau adeiladau, fel eu bod yn cynnwys darpariaeth ar gyfer toiledau Changing Places. Byddai’r rheoliadau arfaethedig hyn yn berthnasol i ddatblygiadau newydd a’r rheini sy’n destun newid defnydd sylweddol, gyda’r nod o gynyddu’r ddarpariaeth o doiledau Changing Places mewn adeiladau cyhoeddus o faint penodol. A bydd canlyniadau'r ymarfer ymgynghori hwn yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol fel rhan o’u setliad refeniw blynyddol sy’n sicrhau bod ganddynt hyblygrwydd i wneud penderfyniadau gwariant lleol priodol. Dylai awdurdodau fod yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau a’u cyllidebau yng nghyd-destun eu hystod o gyfrifoldebau, gan gynnwys y rheini a nodir yn Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Rydym yn cydnabod bod effaith chwyddiant yn golygu bod awdurdodau’n wynebu dewisiadau anodd a bod cyllidebau o dan bwysau, ond wrth gwrs, roedd y setliad refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn darparu ar gyfer cynnydd o 9.4 y cant, heb fod unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai nag 8.4 y cant.
Ond mae'n gwbl amlwg, a gallaf rannu hyn gyda chi heddiw, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ers amser i hyrwyddo a chynyddu hawliau pobl anabl yng Nghymru, ac yn llwyr gydnabod bod pobl anabl yn cael eu gwthio i'r ymylon ym mhob agwedd ar fywyd, bron â bod. Mae cael gwared ar yr holl rwystrau corfforol, agweddol ac economaidd y mae pobl anabl yn eu hwynebu gyda namau yn allweddol i sicrhau rhyddid pobl anabl. Ein nod yw sicrhau’r rhyddid hwn drwy weithio o fewn dealltwriaeth gyffredin o’r model cymdeithasol sydd wedi’i hymwreiddio—mae Mark Isherwood yn ymwybodol o'n hymrwymiad i hynny—hawliau dynol a phwysigrwydd gweithio o fewn fframwaith cydgynhyrchu. Rydym wedi ymrwymo i ymwreiddio’r model cymdeithasol o anabledd ym mhopeth a wnawn, a chredwn fod deall a gweithredu’r model economaidd-gymdeithasol yn hanfodol er mwyn cael gwared ar y rhwystrau sy’n analluogi ac yn difetha bywydau pobl anabl.
Rydym yn y broses o ddarparu hyfforddiant ar draws Llywodraeth Cymru a nifer o gyrff rhanddeiliaid allweddol. Mae cyfle gwirioneddol gyda’r tasglu hawliau anabledd, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn 2021, ac sy'n dod â phobl â phrofiad ac arbenigedd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol ynghyd i fynd i’r afael ag anabledd gyda’r nod o ysgogi newidiadau hirdymor. Mae'n bleser gennyf ddweud y bydd y tasglu'n archwilio ein holl waith ar doiledau hygyrch cyn bo hir. Mae holl waith y tasglu'n cael ei gyflawni yn ysbryd cydgynhyrchu, ac mae eisoes yn cyflawni newid. Felly, gyda’r holl fentrau hyn, y cyfleoedd, y rheoliadau, yr ymgynghoriad, y tasglu hawliau anabledd, gyda’r ymrwymiad i fynd i’r afael â’r mater hwn mewn perthynas â Changing Places, byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn.
Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddweud cymaint o bleser yw cau dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar doiledau Changing Places? Hoffwn ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan, ac yn enwedig am y gefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig ar draws y Siambr heddiw. Wrth gloi'r ddadl hon, hoffwn ganolbwyntio ar dri phwynt efallai y credaf eu bod wedi'u nodi gan y rhan fwyaf o'r Aelodau ar draws y Siambr. Amlinellwyd y cyntaf gan Mark Isherwood, a agorodd y ddadl heddiw ac sydd, os caf ychwanegu, wedi gwneud gwaith gwych yn codi ymwybyddiaeth o doiledau Changing Places, fel y mae'r Aelodau wedi dweud, ac mae'n parhau i godi llais ynghylch hawliau anabledd yn gyson yn y Siambr hon.
Nododd Mark Isherwood fod argaeledd toiledau Changing Places yn allwedd i gyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'n mynd y tu hwnt i ddarparu toiledau hygyrch safonol wrth gwrs. Mae'r cyfleusterau hyn mor bwysig i gymaint o bobl ar hyd a lled Cymru, gyda'u toiledau hygyrch mwy o faint, gydag offer codi, llenni, meinciau newid a lle i ofalwyr. Yn syfrdanol, fel y nododd Peter Fox yn ei gyfraniad, dim ond tua 50 o ddarpariaethau Changing Places sydd yna yng Nghymru gyfan. Yn ei chyfraniad hi, nododd Sioned Williams y gallai peidio â chael y mannau hyn effeithio'n niweidiol ar lawer o bobl sydd eisiau byw eu bywydau bob dydd. Yn syml iawn, bydd llawer ohonynt yn methu gwneud y gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd y mae cymaint ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, neu fynd i'r llefydd hynny y mae cymaint ohonom yn eu cymryd yn ganiataol ac yn eu mwynhau.
Yn ail, roeddwn eisiau tynnu sylw at sut y gall awdurdodau lleol a sefydliadau eraill weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfleusterau pwysig hyn yn cael eu cyflwyno. Tynnodd Carolyn Thomas sylw at enghreifftiau yn ei rhanbarth o sefydliadau lle mae'r cyfleusterau ar gael a lle mae'n gweithio'n dda, a sefydliadau efallai lle gallai a lle dylai'r cyfleusterau hyn fod ar gael. Mae'n werth nodi hefyd fy mod yn gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, pan aethant ati i adeiladu eu swyddfeydd newydd ym Mae Colwyn, wedi sicrhau bod toiledau Changing Places yn yr adeilad hwnnw. Ond yr unig reswm y digwyddodd hynny oedd oherwydd iddo ddigwydd ar y cam cynllunio, ac mae hynny'n bwysig iawn mewn gwirionedd, ei fod yn cael ei ystyried ar y dechrau un gydag unrhyw adeilad newydd.
Fel y gwyddom yn anffodus, a nodwyd hyn gan Mark Isherwood, mae yna rai awdurdodau lleol nad ydynt yn dilyn y canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi. Rwy'n gwybod, Weinidog, eich bod chi'n ein cefnogi yma heddiw, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith sy'n parhau, ond yn amlwg mae yna rai awdurdodau lleol nad ydynt yn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o hyd. [Torri ar draws.] Roeddwn i'n meddwl bod gennyf dri munud, Ddirprwy Lywydd. Rydych chi'n garedig iawn. Fe geisiaf ddirwyn i ben nawr hefyd.
Roeddwn eisiau cyffwrdd yn gyflym ar beth y mae ein cynnig yn ceisio ei wneud. Rydym am i Lywodraeth Cymru ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod darpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru. Rwy'n sicr yn gwerthfawrogi'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog a'i chefnogaeth i'r cynnig hwn yma heddiw. Diolch eto i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol ac rwy'n galw ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Unwaith eto, nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.