– Senedd Cymru am 3:26 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda—eitem 5, sef cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24. Galwaf ar Ken Skates i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8137 Ken Skates
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24, ac yn gofyn iddo gael ei ymgorffori yn y cynnig cyllidebol blynyddol. Fel y byddwch wedi'i weld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm cyllidebol o £67.643 miliwn, sy'n cynnwys £41 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, £17.8 miliwn ar gyfer dyfarniad y bwrdd taliadau, £101,000 ar gyfer swyddfa'r comisiynydd safonau, £547,000 am gostau sy'n gysylltiedig â darparu cymorth i'r bwrdd taliadau annibynnol, ac £8 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod. Mae cyfanswm y gyllideb yn cyflwyno cynnydd o 4.06 y cant ar gyllideb y flwyddyn bresennol.
Nawr, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, pennwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2023-24 ar 28 Medi. Bu'n destun craffu ar 5 Hydref, a chyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar 21 Hydref. Er mwyn bodloni gofyniad y Rheolau Sefydlog i osod cyllideb ddrafft y Comisiwn erbyn 1 Hydref, cafodd gwaith i baratoi a datblygu'r gyllideb ei wneud yn ystod tymor yr haf ac yna fe'i cwblhawyd ym mis Awst eleni. Ochr yn ochr â'r amserlen hon, mae digwyddiadau gwleidyddol ac economaidd digynsail wedi golygu bod y gyllideb a ddeilliodd o hynny wedi cael ei goddiweddyd gan realiti newydd mewn perthynas â chyllid cyhoeddus. Er ei bod yn rhy gynnar i asesu effaith lawn datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar bwrs y wlad yng Nghymru, rydym yn nodi'r cynnydd o £1.2 biliwn yng ngrant bloc Cymru dros y ddwy flynedd nesaf. Fodd bynnag, mae'r cynnydd o 4.6 y cant yn y cyllid adnoddau rhwng 2022-23 a 2023-24, yn llawer is na chwyddiant, a gall hyn effeithio'n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas a sicrhau dyfodol tymor byr y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol rydym yn dibynnu arnynt. Felly, mae'r Comisiwn bellach o'r farn y bydd angen adolygu'r cynnydd o 4 y cant yn y gyllideb ar gyfer 2023-24 i adlewyrchu'r pwysau ychwanegol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.
O ystyried hyn, byddaf yn ymrwymo i adolygiad yn ystod y flwyddyn gan y Comisiwn, fel corff cyhoeddus cyfrifol, i ddod o hyd i arbedion ac i gyflymu arbedion effeithlonrwydd. Bydd hyn yn adlewyrchu'r realiti sy'n ein hwynebu heddiw, yn hytrach na'r realiti a fodolai yn ystod y broses o bennu'r gyllideb dros yr haf. Mae'n ymarfer mewn pragmatiaeth gyfrifol a hyblyg. Roeddem eisoes wedi ymrwymo i wneud y gwaith hwn mewn pryd i'w ymgorffori yng nghyllideb 2024-25, ond rwy'n cynnig bellach fod gwaith yn cael ei wneud yn gyflymach. Mae hyn yn unol â datganiad egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, sy'n dweud y dylai cyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol geisio gwella prosesau a chynyddu arbedion effeithlonrwydd yn barhaus.
Nawr, rydym yn benderfynol o sicrhau bod unrhyw weithgareddau a gwasanaethau a gynlluniwyd i Aelodau yn effeithlon ac yn gynaliadwy. Mae'n bwysig, felly, fod unrhyw ostyngiadau'n cael eu cyflwyno'n effeithiol, ac yn parhau i gefnogi ein hymrwymiad i gynllunio'r gweithlu yn effeithiol ac i lesiant. Fodd bynnag, ni fydd yn dasg hawdd a bydd yn effeithio ar Aelodau. Rwyf wedi rhannu fy nghynigion ar gyfer arbedion a chyflymu arbedion effeithlonrwydd mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gynharach yr wythnos hon, ac rwyf wedi pwysleisio y bydd angen inni wneud penderfyniadau anodd iawn. Ein gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn dilyn yr egwyddor gyfrifol hon yn yr wythnosau i ddod, wrth inni geisio gwneud arbedion, er mwyn addasu i'r tirlun economaidd mwy difrifol sydd wedi ffurfio'n ddiweddar iawn.
I ddychwelyd at sylwedd y cynnig cyllidebol heddiw, mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Senedd, a'i Haelodau wrth gwrs, ac mae'r pwysau ar Aelodau'n parhau i fod yn sylweddol. Rydym wedi paratoi cyllideb y credwn ei bod yn dryloyw ac yn deg. Rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd anochel yn y gyllideb—er enghraifft, i dalu costau cyfleustodau cynyddol. Rydym wedi ceisio gwneud arbedion mewn mannau eraill i liniaru effaith lawn y cynnydd hwn mewn prisiau. Fe fyddwch hefyd yn gweld ein bod wedi nodi'r gyllideb yn glir i dalu costau amcangyfrifiedig diwygio'r Senedd. Er mwyn bod yn barod i gefnogi'r cynnydd posibl yn nifer yr Aelodau o 2026 ymlaen, mae angen i'r gwaith ddechrau nawr, ac mae'r gyllideb ar gyfer 2023-24 yn cydnabod y bydd angen inni ddod â sgiliau newydd ac adnoddau ychwanegol i mewn i gyflawni'r her hon yn gadarn ac yn briodol.
Nawr, mae'r normal newydd yn dal i amlygu ei hun ers y pandemig, ond mae'n amlwg fod staff yn gweithio'n effeithiol yn yr amgylchedd hybrid hwn. Rydym yn parhau i ymgysylltu â staff i fonitro iechyd a llesiant, ac rydym wedi buddsoddi mewn gofod swyddfa hyblyg ar gyfer staff y Comisiwn, fel bod pawb sy'n gweithio ar yr ystad yn dal i allu gwneud hynny'n hawdd ac yn ddiogel. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb hon, ac am ei ymrwymiad parhaus i sicrhau bod y cyllidebau'n cael eu pennu ar lefel briodol, gan barhau i ofyn cwestiynau heriol, sy'n ein helpu i yrru perfformiad a chyflawni rhagoriaeth.
Nawr, fe wnaeth y pwyllgor wyth argymhelliad ac rydym wedi mynd i'r afael â hwy yn ein hymateb. Y cyntaf oedd bod y Senedd yn cefnogi'r gyllideb hon ac rydym yn nodi ac yn gwerthfawrogi hynny. Roedd pedwar yn canolbwyntio ar ystad y Senedd, roedd un yn edrych ar sut y gallwn liniaru costau cynyddol cyfleustodau yn y tymor byr i'r tymor canolig, ac yna, yn fwy hirdymor, rhoi ystyriaeth i'n hangen yn y dyfodol am ofod adeiladu a'r defnydd ohono—y rhai ym Mae Caerdydd, ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Bydd y Comisiwn yn ceisio gweithredu mesurau i leihau defnydd, a lleihau'r gost yn y pen draw, drwy gymryd llawer o'r camau y byddwn yn eu cymryd yn ein cartrefi ein hunain. O ran y strategaeth ystadau fwy hirdymor, mae gweithgor yn cael ei ffurfio i ystyried ein hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys effaith diwygio'r Senedd, ac i ystyried pa opsiynau sy'n diwallu'r anghenion hynny orau.
Roedd dau argymhelliad yn canolbwyntio ar lesiant staff, yn benodol sut mae staff y Comisiwn yn cael eu cefnogi yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae'r Comisiwn eisoes yn cynnig nifer o raglenni a mecanweithiau i gynnig cymorth, ac mae'r rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'n hundebau llafur. Roedd yr argymhelliad olaf yn galw am ymgysylltu ag Aelodau, i gael eu barn ar y gwaith y maent eisiau i'r Comisiwn ei ddatblygu a sut y gellir rheoli'r gwaith hwnnw o fewn cyllidebau presennol, neu'n wir, sut y gellir eu hymgorffori mewn cynigion cyllidebol yn y dyfodol. Rydym wedi derbyn yr argymhellion hyn, ac fel erioed, rydym yn agored i awgrymiadau ar sut i wella'r broses gyllidebol. Rydym hefyd yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan Aelodau. Yn y cyfamser, rwy'n cyflwyno'r gyllideb hon, ar ran y Comisiwn, ac yn ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, gan sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd a ddaeth i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref i drafod cynigion y Comisiwn, a hefyd am yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn dilyn ein cais yn fuan ar ôl y cyfarfod hwnnw. Hefyd, hoffwn nodi ar ddechrau fy nghyfraniad fod y gwaith o graffu ar y gyllideb hon wedi bod yn anodd i’r pwyllgor yng nghyd-destun y darlun economaidd newidiol a’r diffyg sicrwydd ynghylch cyllid. Yn benodol, ac fel y mae’r Comisiynydd wedi ei awgrymu, mae’r cyd-destun ariannol hefyd wedi newid yn sylweddol ers i’r Comisiwn osod ei gyllideb ddrafft ar 28 Medi. Rydym o ganlyniad yn gwerthfawrogi’r llythyr gan y Comisiynydd yn gynharach yn yr wythnos, sydd wedi cadarnhau bwriad y Comisiwn i gynnal adolygiad o fewn y flwyddyn ariannol i ddod o hyd i arbedion.
Ystyriwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn gan y pwyllgor, a chyhoeddodd ei adroddiad ar 21 Hydref. Canfuom fod y Comisiwn wedi datblygu ei gynigion cyllidebol mewn modd darbodus, ac o ganlyniad, rydym yn argymell y dylai’r Senedd gymeradwyo’r gyllideb sydd ger ein bron heddiw.
Fodd bynnag, fel y mae’r comisiynydd wedi’i grybwyll, bydd sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Cymru yn wynebu penderfyniadau ariannol anos fyth yn dilyn datganiad yr hydref yr wythnos diwethaf, ac mae’r pwyllgor yn credu na ddylai’r Comisiwn gael ei ynysu rhag ystyriaethau o’r fath. Felly, nodaf ymrwymiad y comisiynydd i ystyried cynnwys y datganiad hwnnw i sicrhau bod ei gynigion ar gyfer y flwyddyn nesaf yn parhau i fod yn gymesur.
Rwyf hefyd yn croesawu sicrwydd y comisiynydd ynghylch ymgysylltu â’r pwyllgor ar y materion, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am ei gynlluniau fel y gellir craffu arnynt, eu hystyried a’u hasesu cyn gynted â phosibl.
Rwy’n falch o ddweud bod gan y pwyllgor berthynas adeiladol â’r Comisiwn, yn seiliedig ar ddeialog agored, ac mae hynny'n rhywbeth y dymunwch ei weld yn parhau wrth inni gychwyn ar y trafodaethau hyn. Fodd bynnag, er fy mod yn derbyn bod y realiti sy’n ein hwynebu heddiw yn wahanol i’r cyd-destun a fodolai yn ystod y broses o bennu’r gyllideb dros yr haf, mae’n anffodus mai nawr yn unig y nodwyd y materion hyn, y tu allan i’r gweithdrefnau ariannol arferol sy’n llywodraethu’r gwaith o graffu ar gyllideb y Comisiwn. Nid yw'r Pwyllgor Cyllid yn hoff o weld gweithdrefnau o'r fath yn cael eu tanseilio. Gall hynny wanhau gwaith craffu ac arwain at ganlyniadau gwael. Rydym yn awyddus felly i hyn fod yn rhywbeth sy'n digwydd unwaith yn unig, a bod gwersi'n cael eu dysgu fel nad yw'r sefyllfa'n cael ei hailadrodd yn y blynyddoedd i ddod.
Gan droi nawr at ein hadroddiad, mae cefnogaeth gyffredinol y pwyllgor i gyllideb y Comisiwn hefyd yn dod gyda chafeat o wyth argymhelliad, gyda'r bwriad o sicrhau bod cymaint o dryloywder â phosibl yn cael ei ddarparu mewn perthynas â chynigion y Comisiwn. Rwyf wedi cael ymateb y Comisiwn i’n hadroddiad, ac rwy'n falch o weld bod chwech o’r rheini wedi’u derbyn a dau wedi’u nodi.
Yn gyntaf, mae’r pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch effaith costau cynyddol cyfleustodau ar gyllideb y Comisiwn a’i allu i ddarparu ei wasanaethau craidd—problem sy’n wynebu holl sefydliadau'r sector cyhoeddus, busnesau a chartrefi ledled Cymru. Er ein bod yn croesawu ymdrechion gan y Comisiwn i archwilio opsiynau sy’n cadw costau cyfleustodau mor isel â phosibl, credwn fod angen rhagor o wybodaeth am effeithiolrwydd mentrau o’r fath i sicrhau bod y Comisiwn ar y trywydd iawn i gyflawni ei nodau cynaliadwyedd.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi nawr at ambell fater penodol. Yn amlwg, yr her sefydliadol fwyaf sy’n wynebu’r Comisiwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yw cyflawni cynigion sy’n ymwneud â diwygio’r Senedd. Rydym hefyd yn deall yr anawsterau a wynebir gan y Comisiwn o ran darparu eglurder ynghylch y cyllid cysylltiedig, ac wrth wahanu ei gostau parhaus oddi wrth y buddsoddiad sydd ei angen i gefnogi’r newid. Rydym felly’n croesawu cynnwys llinell wariant benodol ar gyfer diwygio’r Senedd yn y gyllideb ddrafft, ac yn nodi bwriad y Comisiwn i ddarparu cymaint o dryloywder â phosibl wrth gyflwyno costau y gellir eu priodoli i’r cynlluniau hyn yng nghyllidebau’r dyfodol.
Gan droi yn awr at bwysau’r gweithlu, bydd y cynnydd mewn costau byw'n effeithio ar bob un ohonom, ond mae’r pwyllgor yn pryderu am ei effaith ar staff y Comisiwn, yn enwedig y rheini ar raddfeydd cyflog is. Rydym yn falch fod holl staff y Comisiwn yn cael y cyflog byw a bod mentrau cadarn ar waith, ond ni ddylai’r Comisiwn orffwys ar ei fri. Dyna pam yr hoffem weld y Comisiwn yn edrych ar ffyrdd y gall ddarparu cymorth ychwanegol i staff sy’n ei chael hi’n anodd, a bod camau’n cael eu cymryd i werthuso’r mentrau sydd eisoes ar waith yn drylwyr i sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn cyrraedd y rheini sydd ei angen fwyaf. Roeddwn hefyd yn falch o weld na fydd y Comisiwn yn ystyried diswyddo staff fel mesur i arbed costau yn rhan o’r adolygiad canol blwyddyn y mae wedi’i addo.
I gloi, Dirprwy Lywydd, roedd cyd-destun y gwaith o lunio’r gyllideb hon, a chraffu arni, yn anodd. Fel pwyllgor, rydym yn deall bod pob corff cyhoeddus yn wynebu heriau sylweddol o ran darparu gwasanaethau o fewn eu cyllidebau. O ganlyniad, mae'n bwysicach nag erioed o’r blaen bod cynigion y Comisiwn yn gymesur ac yn dryloyw, a bod modd eu cyfiawnhau. Er bod cyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cyflawni hyn yn ein barn ni, rydym hefyd yn nodi'r ymrwymiad a wnaed i adolygu’r cynigion yng ngoleuni datganiad yr hydref wythnos diwethaf. Edrychwn ymlaen i weithio gyda’r comisiynydd wrth iddo geisio sicrhau hynny. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r comisiynydd am ei ddatganiad? Hoffwn egluro, er fy mod yn ymateb i hyn yn fy rôl fel Gweinidog cyllid yr wrthblaid, rwyf hefyd, wrth gwrs, yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid. Croesawaf ddull cyffredinol y comisiynydd o bennu'r gyllideb hon. Credaf ei fod wedi bod yn adeiladol, ac wedi ymgysylltu’n dda â’r Pwyllgor Cyllid a’r Aelodau yn ystod y broses, a diolch iddo am hynny.
Lywydd, rwy’n sylweddoli bod yr amgylchiadau ariannol cenedlaethol presennol yn anodd, a bydd hyn, fel yr amlinellodd y Comisiynydd, yn cael effaith ar gyllideb y Comisiwn. Ond credaf y gallai rhywfaint o hyblygrwydd fod wedi’i gynnwys ym mhroses y Comisiwn o osod y gyllideb i ganiatáu iddo ystyried a rhoi cyfrif am ddatganiad yr hydref yn ei gyllideb arfaethedig, fel y gallem ni, fel Aelodau, graffu ar gyllideb lawn a rhoi ein barn ynglŷn â lle gellid gwneud arbedion effeithlonrwydd. Ar hyn o bryd, rydym yn pleidleisio ar y gyllideb gan ddibynnu ar y llythyr a ddarparwyd gan y Comisiynydd i'r Pwyllgor Cyllid. Mae hyn yn anarferol, ond rwy'n cydnabod yr amserlenni sydd ar waith. Ond rwy'n croesawu'r ymrwymiad.
Gan symud at y gyllideb, rwy’n cydnabod bod y Comisiwn, yn debyg iawn i gyrff cyhoeddus, yn wynebu pwysau o ganlyniad i chwyddiant. Ar y cyfan, credaf ei fod wedi gwneud yn dda i gyfyngu'r cynnydd y mae’n gofyn amdano. Mae costau ynni'n effeithio'n sylweddol ar y gyllideb, fel y gwyddom, ond wrth geisio gwneud arbedion effeithlonrwydd, tybed a ellir gwneud mwy i leihau costau ynni ymhellach, a pha gynlluniau pellach sydd gan y Comisiwn i ymchwilio i hyn. Deallaf fod y Comisiwn wedi cymryd camau i ostwng thermostatau ar draws yr ystad—teimlais hynny yn fy swyddfa heddiw; mae hynny'n ffaith. Ond a ddylem, er enghraifft, ystyried eu gostwng ymhellach o bosibl, gan eu cadw ar lefelau cyfforddus, neu ddiffodd y gwres mewn ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio? Beth am bethau fel paneli solar ar ein hystad? Yn yr adroddiad ar y gyllideb, ceir cyfeiriad at ystad y Senedd yn ymuno â rhwydwaith gwresogi ardal Caerdydd o 2024. A oes lle i ymuno ag ef yn gynt? Ac a yw'r Comisiwn wedi dadansoddi faint o arian y bydd hyn yn ei arbed, ac os felly, a roddwyd cyfrif am hyn yn ei ragamcanion cyllidebol ar gyfer y dyfodol?
Mae cwestiwn hefyd ynglŷn â sut y caiff yr ystad ei defnyddio. Mae llawer o weithwyr yn dal i weithio gartref am o leiaf rywfaint o'r wythnos, ac felly mae'n iawn i'r Comisiwn ystyried sut y gellir defnyddio'r ystad yn fwy effeithlon. Unwaith eto, hoffwn ofyn i’r Comisiynydd a oes arbedion ychwanegol y gellir dod o hyd iddynt drwy ddefnyddio rhywfaint o eiddo Llywodraeth Cymru yn y gogledd mewn gwahanol ffyrdd. A yw hyn wedi'i ystyried a'i gynnwys? Neu a yw’r Comisiwn wedi edrych ar leoliadau eraill posibl ar gyfer ei swyddfeydd a fyddai’n fwy costeffeithiol nag opsiwn Llywodraeth Cymru? Rwy'n deall bod y contract darlledu ar fin cael ei ystyried ar gyfer ei adnewyddu, ond er hynny, mae'r gyllideb ragamcanol ar gyfer hyn yn agos i'r un peth â blynyddoedd blaenorol. A gaf fi ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn, gan y gallai ganiatáu inni ddod o hyd i arbedion ychwanegol?
Mae'n rhaid imi sôn am ddiwygio'r Senedd, lle mae'r gyllideb yn cynyddu £571,000 i wneud y gwaith paratoi. Rwy'n deall y rhesymeg, ond o ystyried y cyd-destun ariannol y buom yn sôn amdano, mae hwn yn swm sylweddol o arian, y gellir dadlau y gellid ei ddefnyddio’n well mewn mannau eraill, megis i gefnogi aelodau staff neu ei ddefnyddio ar gyfer costau ynni. Ar gyfer beth y mae'r Comisiwn yn rhagweld y bydd y gyllideb hon yn cael ei defnyddio? Ac a yw wedi edrych ar leihau rhywfaint o'r gwaith hwn cymaint ag sy'n ymarferol bosibl fel y gellir dargyfeirio'r arian i'r mannau lle mae ei angen fwyaf?
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â gwneud arbedion effeithlonrwydd, gallai’r Comisiwn edrych ar gynyddu ei incwm. Ar hyn o bryd, mae cyllideb o £200,000 ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu, ond dim ond oddeutu £20,000 y flwyddyn y mae siop y Senedd yn ei gynhyrchu. Pe bai’r strategaethau ymgysylltu ac allgymorth yn gweithio’n dda, oni fyddai gwerthiant yn cynyddu? Yn amlwg, mae angen ystyried sut mae hyn oll yn gweithio. Felly, pa ystyriaeth y mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i arallgyfeirio ei ffrydiau incwm, fel y gall ychwanegu at ei gyllideb a bod yn llai dibynnol ar gyllid allanol? Diolch, Ddirprwy Lywydd.
A gaf fi ddiolch i’r Comisiynydd am ei ddatganiad? Ac rwy'n croesawu'r hyn y mae wedi'i ddweud heddiw yn fawr, er, i ryw raddau, nid wyf yn ei groesawu, gan ei fod wedi newid yr hyn roeddwn am ei ddweud yn union yn fy araith y prynhawn yma. Roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid a fu’n craffu ar gyllideb y Comisiwn. Ar yr wybodaeth a ddaeth gerbron y Pwyllgor Cyllid, roedd y penderfyniad a wnaed yn un cywir yn fy marn i. Hoffwn dynnu sylw at ddau argymhelliad: mae’r pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Senedd yn mabwysiadu dull cydweithredol o leihau’r defnydd o ynni ar ystad y Senedd ac yn ymgysylltu â’r Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn i gasglu syniadau ac i gynllunio a gweithredu prosiectau a pholisi fydd yn cyflawni’r nodau hyn. Dim ond am ddau ddiwrnod yr wythnos y byddaf yn defnyddio fy swyddfa yma. Nid oes angen gwresogi'r swyddfa honno ar wahân i ddydd Mawrth a dydd Mercher. A dweud y gwir, fe af hyd yn oed ymhellach: nid oes angen gwresogi'r ystafell honno ar ôl 10 o'r gloch ar ddydd Mawrth ac amser cinio ar ddydd Mercher. Felly, dyma'r pethau lle mae angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i helpu, yn hytrach na dweud, 'Bai'r Comisiynwyr yw hyn', neu, 'Bai rhywun arall yw hyn.' Beth y gallwn ni ei wneud?
Mae'n rhaid lleihau'r defnydd o ynni, ac rwy'n gobeithio y bydd y Comisiwn yn cymeradwyo cynllun i leihau'r defnydd o ynni, ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yr holl Aelodau yma'n gwneud awgrymiadau fel fy un i o ran yr hyn y gellir ei wneud pan nad ydynt yn defnyddio eu swyddfeydd. Mae rhai pobl yn defnyddio'u swyddfeydd neu mae ganddynt staff yn eu swyddfeydd drwy'r amser, ac mae hynny'n unol â'r rheolau ac yn berffaith iawn, ond i'r rhai ohonom nad ydynt yn gwneud hynny, mae arbedion i'w gwneud.
Hefyd, hoffwn i’r Comisiwn ystyried manteision ariannol a gweithredol, neu fel arall, prynu rhydd-ddaliad Tŷ Hywel yn hytrach nag ymestyn y les gyfredol. Rwy'n bryderus iawn ein bod yn ôl pob golwg yn gaeth i les yma sy'n mynd i bara am byth. Roedd rhai ohonom yn awyddus ar un adeg i ddefnyddio Neuadd y Ddinas yn hytrach na Thŷ Hywel. Roeddem yn aflwyddiannus gyda’r dadleuon hynny, ac nid wyf yn mynd i’w hatgyfodi. Ond os ydym am aros yma, prynwch y lle. Bydd yn llawer rhatach yn y tymor hir.
Yn olaf, proses gyllidebol dwy haen: credaf fod hynny’n rhywbeth sy’n sylfaenol anghywir. Rydym yn gosod y gyllideb drwy’r system hon ar gyfer Comisiwn y Senedd, yr archwilydd cyffredinol a’r ombwdsmon. Cânt eu hariannu gan y Senedd gyfan drwy'r Pwyllgor Cyllid. Nid ydynt yn cael eu cymharu â, 'A fyddai'n well gwario'r arian hwn ar iechyd, a fyddai'n well gwario'r arian hwn ar awdurdodau lleol, a fyddai'n well gwario'r arian hwn ar faterion amgylcheddol?' Cânt eu barnu yn erbyn absoliwt yr hyn y maent yn gofyn amdano. Ni chredaf mai dyna'r ffordd iawn o fynd o'i chwmpas hi. Ni chredaf fod hynny'n deg â gwasanaethau eraill, ac mae hefyd yn anffodus—fe soniaf am yr archwilydd cyffredinol a'r ombwdsmon—eu bod yn mynd i mewn ac yn edrych ar awdurdodau a sefydliadau sy'n brin o arian, ond nid ydynt yn brin o arian eu hunain, felly ni allant ddeall y problemau sy'n wynebu'r sefydliadau hynny. Fy nisgwyliad, ar wahân i iechyd, yw y bydd pob gwasanaeth cyhoeddus arall yn cael ei drin yn llai hael na’r rheini sy'n cael eu cyllidebau yn uniongyrchol gan y Senedd.
Mae hwn yn gwestiwn i bob plaid: a yw’r dull presennol o ariannu’r Comisiwn, yr ombwdsmon a’r archwilydd cyffredinol yn deg? Os ydym yn dadlau rhyngddynt hwy ag iechyd neu lywodraeth leol, yn sicr, ni fyddent yn cael y lefel o gymorth rydym yn ei rhoi iddynt ar hyn o bryd. A ddylai'r Senedd osod cynnydd canrannol ar gyfer pob un cyn i'r Pwyllgor Cyllid archwilio eu cyllidebau, fel mai'r cyfan rydym yn edrych arno yw sut y maent yn dod i lawr i'r ffigur hwnnw, ac nid y swm y gofynnant amdano?
Rwyf wedi codi hyn droeon yn y gorffennol, ond ymddengys fy mod yn gwthio wrth ddrws mwy agored y tro hwn, felly rwyf am bwysleisio'r pwynt. Rwyf wedi gofyn o'r blaen ym mhob un o gyllidebau'r Comisiwn, bron â bod, i beidio â chynyddu cyllideb y Comisiwn yn fwy na'r cynnydd yng ngrant bloc Cymru. Os bydd y Comisiwn yn cynyddu mwy, mae'n edrych fel pe baem yn rhoi ein hunain uwchlaw gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnynt yng Nghymru.
Rwy'n mynd i ddweud rhywbeth hyd yn oed yn fwy dadleuol nawr: a oes angen y bwrdd taliadau arnom? A allwn ei fforddio? A yw'n ddefnydd da o adnoddau prin? A oes dulliau eraill o wneud yr hyn y mae’r bwrdd taliadau yn ei wneud am gost lawer is? Rydym eisoes wedi pennu bod ein cyflogau’n gysylltiedig â chodiadau cyflog yng Nghymru, ac roeddwn yn sicr o blaid hynny pan gafodd ei wneud, fel y rhan fwyaf o bobl yma rwy'n credu, fel nad ydym yn cael ein trin yn llai ffafriol na phobl Cymru.
Rydym yn parhau i gadw'r sefydliadau drud hyn, ac mae'r bwrdd taliadau yn un, sy'n mynd ag arian oddi wrth ein gwasanaethau allweddol. Felly, Ddirprwy Lywydd, gwn na allwn benderfynu cael gwared ar y bwrdd taliadau heddiw—er, pe bawn yn credu y gallem wneud hynny ac yn credu y gallwn gael pleidlais arno, byddwn yn cynnig hynny—ond a gawn ni ofyn iddo gael ei archwilio fel y gallwn weld a allwn wneud hebddo? Mae'n costio llawer iawn o arian i ni, arian y gallwn feddwl am lawer o ffyrdd gwell o'i wario.
Hoffwn innau ddiolch i fy nghyd-Aelod, Ken Skates, am roi'r gyllideb at ei gilydd. Nid yw byth yn hawdd gwneud hynny, yn sicr pan nad oes yr un ohonom yn gwybod beth fydd y costau cynyddol gydag ynni a'r argyfwng costau byw. Mae’n debyg mai dyma un o’r cyllidebau anoddaf ichi orfod eu rhoi at ei gilydd, ac nid yw diwygio’r Senedd wedi helpu ychwaith.
Hoffwn innau hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i holl staff y Comisiwn sydd wedi helpu y tu ôl i'r llenni, ond hefyd am y gwaith y maent wedi'i wneud i'n cefnogi ni fel Aelodau. Yng ngoleuni’r pwysau chwyddiant presennol a’r argyfwng costau byw sy’n effeithio ar deuluoedd ledled Cymru, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni, fel Comisiwn, yn gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol a rhai sy’n helpu i gynnal hyder y cyhoedd. Er ein bod ni oll yma i graffu ar wariant Llywodraeth Cymru a’i herio, mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn yn y modd mwyaf effeithlon. Yn ystod yr argyfwng costau byw, nid wyf yn rhy argyhoeddedig y gellir cyfiawnhau'r costau ychwanegol yr eir iddynt o ganlyniad i baratoi ar gyfer cynnydd o 60 Aelod o’r Senedd i 96 yn 2026 i’r cyhoedd yng Nghymru. Gwn fod mandad bellach, sef bod digon o bleidleisiau ar gyfer hynny, ond rwy'n dal i fod am ddweud fy marn yma heddiw.
Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn cynnig gwerth am arian i’r trethdalwr fel sefydliad. Yn benodol, mae’n amhosibl cyfiawnhau llawer o’r costau sy’n gysylltiedig â diwygio’r Senedd, gan gynnwys y pris o £100 miliwn am 36 Aelod arall o'r Senedd, yn yr amgylchedd economaidd presennol. Ni ellir dechrau dychmygu’r ehangu sydd ei angen mewn gofod swyddfa, staff ychwanegol a chostau cysylltiedig eraill, ac mae geiriad ein cyllideb yn gadael y drws ar agor i gynnydd enfawr o wariant newydd i dalu am unrhyw gostau dilynol na allwn eu cefnogi. Wrth inni wynebu straen yr argyfwng costau byw, nid yw ond yn deg y dylai Comisiwn y Senedd adlewyrchu hyn yn ei brosesau cyllidebu—a chyfraniadau da iawn gan bawb sydd wedi siarad yn barod. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o’r cynnydd sydyn yn ein biliau ynni, ond i mi, o’r adeg y deuthum i’r lle hwn, rwyf bob amser wedi teimlo ei bod yn ddyletswydd ar y Comisiwn i roi’r cymorth i ni fel Aelodau yn y modd mwyaf effeithlon.
Gwyddom am y cynnydd mewn biliau ynni, gwyddom fod gwahanol fodelau o weithio bellach, o ran y ffaith bod llawer o staff y Comisiwn yn dal i weithio gartref oherwydd y pandemig, ac un o’r codiadau mwyaf a welwyd yng nghyllideb 2023-2024 yw ein costau cyfleustodau. Fel y mae Ken Skates eisoes wedi'i nodi yn ei lythyr at Peredur Owen Griffiths, mae’r gyllideb yn nodi cynnydd o £582,000 yn 2022-23 i gost amcangyfrifedig o £1.25 miliwn yn 2023-24. Nodaf fod y Pwyllgor Cyllid yn argymell y dylai’r Comisiwn ariannu pwysau yn ystod y flwyddyn ar y gyllideb, ac y dylai gael rheolaeth drwy wneud arbedion a sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn yn hytrach na thrwy gyllidebau atodol, ac yn enw cyfrifoldeb cyllidol, mae hyn yn rhywbeth rwyf innau hefyd yn ei gefnogi. Yn syml, ni all y Comisiwn ddisgwyl cyllideb atodol pryd bynnag y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â chyllid. Mae’r pwyllgor hefyd yn nodi yn ei argymhellion na ddylai’r Comisiwn ragdybio cynnydd mewn cyllid o un flwyddyn i’r llall. Ar adeg pan fo'r cyhoedd yn gyffredinol yn gorfod dod o hyd i arbedion anodd, nid yw ond yn iawn ein bod ni, fel Comisiwn, ac fel sefydliad, yn arwain drwy esiampl.
Nawr, cefais fy nghalonogi o weld ymrwymiad i gefnogi staff a allai fod yn ei chael hi'n anodd gyda biliau uwch drwy'r gronfa caledi a chynlluniau eraill o'r fath, ond cefais sioc o glywed yn y lle cyntaf mai ar gyfer staff y Comisiwn y byddai'r cymorth hwnnw, ac efallai na fyddai staff cymorth y Senedd yn ei gael—roedd hwnnw'n benderfyniad ar gyfer y bwrdd taliadau. Dof at y bwrdd taliadau mewn munud. Ond i grynhoi, felly, mae’n rhaid i gyllideb y Comisiwn wneud darpariaeth i’r Senedd gyflawni ei waith hanfodol, gan wneud darpariaeth ar gyfer yr aelodau staff mwyaf agored i niwed, a chan gynnwys ar draws Cymru gyfan. Mae costau cynyddol sy’n cael eu hachosi'n bennaf gan yr awydd i fynnu Senedd fwy o faint yn golygu nad ydym yn credu bod cyllideb y Comisiwn yn ymateb yn ddigonol i'r heriau presennol. Yn lle hynny, rydym yn ymladd yn erbyn costau a beichiau posibl a osodwyd arnom gan Lywodraeth Lafur Cymru yn fy marn i, gyda chefnogaeth Plaid Cymru. Ond yr effaith y mae'n ei chael ar ein cyllidebau, pan fydd rhywun yn ystyried bod y cyfnod etholiadol nesaf yn dechrau yn 2026, a dyma ni'n cael ein heffeithio nawr, yn 2022.
Ond ar y bwrdd taliadau. Mae llawer o Aelodau wedi codi’r math o bryderon a godwyd gennych chi, Mike: ble mae’r tryloywder? Ble mae atebolrwydd y bwrdd taliadau? Pan ddeuthum yn Aelod yma gyntaf, roeddwn yn ymwybodol fod y bwrdd taliadau ar waith, ac mae’r cyfan yn rhan annatod o gyfansoddiad y Senedd, ond rwy'n credu'n wirioneddol mai nawr yw’r amser inni gael trafodaethau anodd ynghylch pa mor dda y mae’r bwrdd taliadau yn cefnogi'r Aelodau, a pha mor dda y mae ei brosesau ei hun—. Yn rhy aml, mae Aelodau’n teimlo bod penderfyniadau’n cael eu gwneud heb eu mewnbwn, heb eu cynnwys neu heb i'r penderfyniadau gael eu hesbonio iddynt hyd yn oed, ac yn rhy aml, mae Aelodau’n teimlo bod pethau’n cael eu gwneud iddynt yn hytrach na gyda hwy. Rwy'n credu'n onest fod hon yn mynd i fod yn drafodaeth anodd, ond credaf ei bod yn un y mae angen ei chodi gan fod yr Aelodau wedi codi cryn dipyn o bryderon ynghylch y bwrdd taliadau. Felly, diolch yn fawr.
Galwaf ar Ken Skates i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau? Codwyd nifer o themâu tebyg gan yr Aelodau, ac rwyf am geisio ateb pob un. Yn gyntaf oll, dylwn ddweud y byddwn yn cytuno’n llwyr â Peredur Owen Griffiths na ddylem ac na allwn ganiatáu i broses eleni, a ddigwyddodd mor hwyr, gael ei hailadrodd, ond yn sicr, fel y cydnabu Peredur ei hun, ni fyddwn byth yn gweld sefyllfa mor ansefydlog eto wrth inni osod cyllideb. Mae hwn wedi bod yn gyfnod digynsail. Mae’n siŵr na welwn dri gwahanol Brif Weinidog y DU eto yn ystod y broses o osod y gyllideb, tri gwahanol Ganghellor, cyllideb fach, datganiad yr hydref, a dirwasgiad yn yr economi. Felly, byddwn yn gobeithio mai eithriad fydd hyn, ond credaf hefyd ei bod yn gyfrifol inni ymrwymo i ddod o hyd i arbedion gwerthfawr yn ystod y flwyddyn, a diolch i’r Aelodau am dynnu sylw at rai o’r mesurau y gellir cytuno arnynt o bosibl wrth inni ystyried sut y gallwn arbed costau yn 2023-24.
O ran y gyllideb gyffredinol, un o’r heriau sydd gennym yn y Comisiwn yw nad oes gennym fawr ddim gwariant dewisol. Yn y bôn, rydym yn gwario’r gyllideb ar bobl ac ar y lleoedd, a phrin fod unrhyw arian ar ôl inni fuddsoddi yn rhai o’r mesurau a godwyd heddiw gan Peter Fox, er enghraifft paneli solar ffotofoltäig. Mae hynny’n rhan o'r gronfa prosiectau. Felly, wrth wneud yr arbedion rydym wedi’u haddo, rydym yn mynd i orfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â rhai o’r mesurau arbed ynni hynny roeddem wedi’u cynllunio o fewn y gronfa prosiectau.
Wedi dweud hynny, rydym eisoes wedi gwneud cynnydd da gydag arbedion ar gostau cyfleustodau. Cydnabuwyd ein bod wedi gostwng y tymheredd yma, a dylwn ddweud wrth yr Aelodau y bydd hynny’n arwain at arbediad o 10 y cant. Ond mae gan bob un Aelod yn y Senedd unedau rheoli yn eu swyddfa y gallant eu defnyddio i ostwng y tymheredd ymhellach. Yn bersonol, rwy'n hoff o weithio dan amodau Arctig. Byddwn yn ddigon bodlon bod yn Bob Cratchit, a dweud y gwir, ond gall yr Aelodau eu hunain ostwng y tymheredd, a byddwn yn eu hannog i wneud hynny er mwyn gwneud arbedion. Gellir diffodd systemau. Gellir diffodd parthau cyfan, a byddant yn cael eu diffodd. Efallai y bydd yn rhaid inni wneud y penderfyniad anodd i gau adeiladau os ydym am sicrhau arbedion mwy fyth, a hynny am fod cyn lleied o wariant dewisol. Rydym yn gwneud arbediad o 5 y cant, neu fwy, drwy ddiffodd y gwres mewn mannau y gwyddom nad ydynt yn cael eu defnyddio ar ddiwrnodau penodol, a bydd y mesurau hyn yn parhau drwy gydol y flwyddyn ariannol nesaf.
Ddirprwy Lywydd, os caf, hoffwn dynnu sylw at rai o'r meysydd eraill posibl ar gyfer arbedion—
Fe wnaf roi rhywfaint o hyblygrwydd i chi, Gomisiynydd.
—yn gryno. Rwyf wedi sôn am baneli solar. Byddwn yn edrych ar hyfforddiant ac ymgysylltu. Byddwn yn edrych ar arbedion drwy’r contract arlwyo, neu fel dewis arall yn lle arbedion, byddwn yn edrych ar godi refeniw, a chynyddu’r prisiau i Aelodau o bosibl. Byddwn hefyd yn edrych ar ailgyflwyno taliadau am barcio ceir, o ystyried yr angen i ddiogelu'r rheini ar y cyflogau isaf. Ac felly, unwaith eto, yr Aelodau, yn ôl pob tebyg, a allai fod yn talu mwy am barcio eu ceir, ond rwy'n siŵr, o ystyried y teimladau rydym wedi'u clywed heddiw, y byddai hynny'n cael ei groesawu.
Byddwn yn cau swyddfa gogledd Cymru yn 2023 ac yn ei hadleoli i adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, ac fe wnaf dderbyn yr ymyriad.
Mae hyn yn bwysig—
[Anghlywadwy]—Darren, ond byddwch yn gryno, os gwelwch yn dda, gan ein bod yn brin o amser.
Fe fyddaf yn gryno, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle. Ar swyddfa gogledd Cymru, mae’n rhaid imi ddweud fel Aelod lleol ar gyfer yr etholaeth lle mae’r swyddfa honno wedi’i lleoli, fy mod wedi fy syfrdanu, a dweud y gwir, gyda’r diffyg ymgysylltu â mi cyn i'r penderfyniad gael ei wneud i gau’r swyddfa honno. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y penderfyniad i gydleoli swyddfeydd y Senedd yn un o adeiladau Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n cyfuno ac yn peri dryswch pellach ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng y Senedd hon a’r Llywodraeth, dryswch sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, a dylem wneud rhywbeth i fynd i’r afael â hynny. Felly, rwy'n siomedig iawn na fu unrhyw ymgynghori â mi, fel Aelod lleol, cyn i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud.
Wel, rhaid imi ddweud, mae’r Aelod yn dymuno inni leihau ein cyllideb, a bydd gwneud yr hyn a argymhellais yn gwneud yn union hynny. Ni allwch ei chael hi bob ffordd.
Rwyf wedi awgrymu dewis amgen. Rwyf wedi awgrymu dewisiadau eraill.
Ac o ran ymgynghori, mae gennych aelod o'r Comisiwn yn eich grŵp sy'n gallu rhoi gwybod i chi am benderfyniadau—
Ar bwynt o drefn—
—a chytunwyd yng nghyfarfod y Comisiwn y byddem yn cymryd y cam hwn i arbed costau. Cafodd ei dderbyn gan y Comisiwn.
Edrychwch, mae'n rhaid imi ddweud hefyd, o ran y bwrdd taliadau, fy mod yn meddwl efallai y dylai’r Pwyllgor Cyllid deimlo’n hyderus i wahodd y bwrdd taliadau ger ei fron i graffu arno, ac i ofyn y cwestiynau anodd a godwyd gan Mike Hedges, rwy'n credu, ac eraill.
I gloi, mae'r ymarfer cyflym hwn i nodi arbedion yn gyfrifol ac yn bragmatig. Credaf ei fod yn rhoi golwg ar y storm a wynebwn yn sgil y cythrwfl economaidd diweddar, a’r ffaith bod yr economi bellach mewn dirwasgiad.
Janet, a oeddech yn dymuno codi pwynt o drefn? Fe wnaf wirio i weld a yw'n bwynt o drefn, ond a oeddech yn dymuno codi unrhyw beth?
Oeddwn. Ar y pwynt y gwnaethoch chi sôn amdano. Yng nghyfarfod y Comisiwn, fe fyddwch yn cofio inni gael gwybod bod ymgynghori wedi digwydd gydag Aelodau gogledd Cymru. Pan godais y mater gyda fy Aelodau yn ddiweddarach, nid oedd ganddynt unrhyw wybodaeth am hynny, ac rwyf wedi codi'r mater gyda'r cyfarwyddwr penodol hwnnw.
Nid wyf yn siŵr a yw'n bwynt o drefn, ond rydych chi wedi cofnodi hynny, Janet.
Diolch.
Nawr, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.