– Senedd Cymru am 6:49 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Iawn, y ddadl fer—Natasha Asghar.
Diolch. Yn y ddadl hon, rwyf wedi cytuno i roi amser i Peter Fox, Jayne Bryant a Heledd Fychan gyfrannu at y ddadl hon heddiw.
Mae'n ffaith bryderus fod graddau cam-drin plant yn rhywiol ar-lein wedi bod yn cynyddu'n raddol. Mae ymchwil gan yr NSPCC yn dangos cynnydd decplyg wedi bod yn y troseddau cam-drin rhywiol ar-lein a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr dros y degawd diwethaf. Erbyn hyn mae bron cymaint o droseddau'n cael eu cofnodi mewn mis ag a gofnodid mewn blwyddyn 10 mlynedd yn ôl. Nid oes amheuaeth fod technoleg yn datblygu ar raddfa aruthrol. Ac mae'r data'n dangos bod meithrin perthynas amhriodol yn cynyddu fwyfwy ar draws y platfformau ledled Lloegr, a Chymru hefyd, a chofnodwyd 70 o apiau a gemau gwahanol yn gysylltiedig â throseddau meithrin perthynas amhriodol yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig. Roedd nifer o wefannau cymdeithasol yn aml yn cael eu defnyddio yn yr un drosedd. Mae merched yn cael eu heffeithio'n anghymesur, gydag ymchwil yn datgelu mai merched yw 80 y cant o'r dioddefwyr mewn troseddau meithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Mae'r raddfa enfawr a'r cynnydd mewn cam-drin rhywiol ar-lein sy'n wynebu ein plant yn sylfaenol ac yn gwbl groes i'w hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn enwedig erthyglau 19 a 39, sy'n ymwneud â rhyddid rhag trais ac adferiad yn sgil trais.
Mae'r Bil Diogelwch Ar-lein, sydd ar hyn o bryd yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin, yn cyflawni ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i wneud y DU y lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein, gan amddiffyn rhyddid mynegiant ar yr un pryd. Mae'r Bil wedi cael ei gryfhau a'i egluro ers iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf ddrafft ym mis Mai 2021, gan adlewyrchu canlyniad craffu seneddol helaeth. Felly, gadewch imi ddweud wrthych chi i gyd heddiw beth y mae'r Bil yn ei wneud. Mae'r Bil yn cyflwyno rheolau newydd i gwmnïau sy'n dangos cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, sydd yn y pen draw yn caniatáu i ddefnyddwyr bostio eu cynnwys eu hunain ar-lein neu ryngweithio â'i gilydd, ac ar gyfer peiriannau chwilio, a fydd â dyletswyddau wedi'u teilwra i ganolbwyntio ar gyflwyno llai o ganlyniadau chwilio niweidiol i'r defnyddiwr. Bydd angen i'r platfformau sy'n methu gwarchod pobl ateb i'r rheoleiddiwr a gallent wynebu dirwyon o hyd at 10 y cant o'u refeniw, neu gael eu hatal yn yr achosion mwyaf difrifol.
Roedd yn wych clywed am beth o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Twitter a TikTok i gadw pobl yn ddiogel ar-lein pan gyfarfûm â'r cewri cyfryngau cymdeithasol yn eu pencadlys yn ddiweddar. Mae Twitter, er enghraifft, yn caniatáu i ddefnyddwyr fudo rhai geiriau, ymadroddion, emojis a hashnodau, a hefyd i reoli pwy sy'n cael ateb trydariadau. Yn gynharach eleni, lansiodd y cwmni arbrawf Twitter Circle. Mae defnyddwyr yn dewis pwy sydd yn eu cylch Twitter a dim ond yr unigolion rydych chi wedi'u hychwanegu sy'n gallu ateb a rhyngweithio â'r trydariadau a rannwch. Dyma rai o'r arfau diogelwch y gall defnyddwyr Twitter eu cyrchu. Mae cwmnïau fel Twitter yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â diogelwch ar-lein, ac maent yn parhau i fod yn ymrwymedig i fuddsoddi yn y broses o safoni cynnwys anghyfreithlon neu niweidiol wrth iddynt ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy'n ddiogel ac yn cyfleu gwybodaeth i bawb. O fis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2021, tynnodd Twitter 4 miliwn o drydariadau a oedd yn torri eu rheolau, ac o'r trydariadau a dynnwyd, cafodd 71 y cant ohonynt lai na 100 argraff cyn eu tynnu, gyda 21 y cant ychwanegol wedi cael rhwng 100 a 1,000 argraff. Dim ond 8 y cant o'r trydariadau a dynnwyd a gafodd fwy na 1,000 argraff.
I'r rhai sy'n hoffi rhifau ac ystadegau, fel fi, roedd cyfanswm yr argraffiadau o'r trydariadau hyn sy'n torri rheolau yn llai na 0.01 y cant o'r holl argraffiadau ar gyfer pob trydariad yn ystod y cyfnod hwn. Bydd angen i bob platfform fynd i'r afael a chael gwared ar ddeunydd anghyfreithlon ar-lein, yn enwedig deunydd sy'n ymwneud â therfysgaeth a chamfanteisio ar blant a cham-drin plant yn rhywiol. Bydd gan blatfformau sy'n debygol o gael eu cyrchu gan blant ddyletswydd enfawr i amddiffyn plant ifanc sy'n ddefnyddio eu gwasanaethau rhag deunydd cyfreithiol ond niweidiol fel cynnwys hunan-niweidio'n ymwneud ag anhwylderau bwyta. Mae TikTok wedi mabwysiadu agwedd 'diogelwch drwy gynllunio' i atal niwed ar-lein, sydd, rhaid imi gyfaddef, yn wirioneddol gymeradwy. Mae'r cwmni wedi gwneud nifer o newidiadau ar gyfer defnyddwyr o dan 18 oed, megis dylunio ei osodiadau i fod yn breifat yn ddiofyn. Er enghraifft, mae defnyddwyr rhwng 13 a 15 oed yn cael cyfrifon preifat yn ddiofyn, sy'n golygu mai dim ond pobl y maent yn eu cymeradwyo fel dilynwyr sy'n cael gwylio eu fideos. Mae gan TikTok nodweddion oedran priodol hefyd, sy'n cyfyngu ar yr hyn y gellir ei anfon drwy negeseuon preifat, mae ganddo archwiliadau a sicrwydd oedran. Mae hefyd yn caniatáu i rieni a gofalwyr gysylltu eu cyfrif TikTok ag un eu plentyn arddegol ac addasu gwahanol osodiadau diogelwch.
Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, mae'n werth nodi bod TikTok wedi tynnu mwy na 113 miliwn o fideos—tua 1 y cant o'r cynnwys a uwchlwythwyd i TikTok—am dorri ei ganllawiau cymunedol. O'r fideos hyn, mae'n werth sôn bod 95.9 y cant o'r cynnwys wedi'i dynnu'n rhagweithiol gan TikTok cyn i ddefnyddiwr adrodd yn ei gylch, tynnwyd 90.5 y cant o'r cynnwys cyn iddo gael ei weld un waith, a thynnwyd 93.7 y cant o'r cynnwys o fewn 24 awr.
Yn ogystal, bydd gofyn i ddarparwyr sy'n cyhoeddi neu'n gosod cynnwys pornograffig ar eu gwasanaethau atal plant rhag cael mynediad at y cynnwys hwnnw. Bydd yn rhaid i'r platfformau risg uchaf fynd drwy gategorïau a enwir o ddeunydd cyfreithiol ond niweidiol a welir gan oedolion sy'n debygol o gynnwys materion fel cam-drin, aflonyddu neu gysylltiad â chynnwys sy'n annog hunan-niweidio neu anhwylderau bwyta. Bydd angen iddynt wneud yn glir yn eu telerau ac amodau beth sydd a beth nad yw'n dderbyniol ar eu safle, a gorfodi hyn, a'i orfodi'n briodol. Bydd dyletswydd ar y gwasanaethau hyn i gyflwyno offer grymuso defnyddwyr, gan roi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr sy'n oedolion dros bwy maent yn rhyngweithio â hwy a'r cynnwys cyfreithiol a welant, yn ogystal â'r opsiwn i wirio pwy ydynt.
Rydym i gyd yn caru ac yn gwerthfawrogi rhyddid mynegiant, a bydd yn cael ei ddiogelu, oherwydd nid yw'r deddfau hyn yn ymwneud â gosod rheoliadau gormodol na dileu cynnwys gan wladwriaeth, ond yn hytrach maent yn sicrhau bod gan gwmnïau systemau a phrosesau ar waith i sicrhau diogelwch defnyddwyr. I unrhyw un yma sy'n credu bod y Bil yn wan neu wedi'i lastwreiddio, gadewch imi eich sicrhau ei fod yn cynnig tarian driphlyg o amddiffyniad, felly yn sicr nid yw'n wannach mewn unrhyw ystyr. Mae'r darian driphlyg yn ei gwneud yn ofynnol i blatfformau, yn gyntaf, i ddileu cynnwys anghyfreithlon, yn ail, i ddileu deunydd sy'n torri eu telerau ac amodau, gan roi mesurau rheoli i ddefnyddwyr i'w helpu i osgoi gweld rhai mathau o gynnwys sydd i'w nodi gan y Bil, a hefyd dileu deunydd nad yw'n cydymffurfio â'u telerau ac amodau. Gallai hyn hefyd gynnwys deunydd sy'n hyrwyddo anhwylderau bwyta neu'n annog casineb ar sail hil, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol neu hyd yn oed ailbennu rhywedd. Ychwanegodd prif weithredwr y Ganolfan ar gyfer Gwrthsefyll Casineb Digidol, Imran Ahmed, ei fod yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth
'wedi cryfhau'r gyfraith yn erbyn annog hunan-niweidio a dosbarthu delweddau personol heb ganiatâd'.
Bydd llawer o'r gwaith ar orfodi'r gyfraith newydd yn digwydd gan y rheoleiddiwr cyfathrebu a'r cyfryngau, Ofcom, y clywn amdano'n aml mewn perthynas â theledu a darpariaeth ar-lein arall, a bydd yn gallu dirwyo cwmnïau—fel y crybwyllais yn gynharach—hyd at 10 y cant o'u refeniw byd-eang, sy'n cyrraedd y biliynau. Rhaid ymgynghori â chomisiynydd y dioddefwyr, y comisiynydd cam-drin domestig a'r comisiynydd plant nawr ynghylch y rheolau wrth lunio'r codau y mae'n rhaid i gwmnïau technoleg eu dilyn wrth symud ymlaen. Bydd mesurau cymesur yn osgoi beichiau diangen ar fusnes bach a risg isel. Yn olaf, bydd angen i'r platfformau mwyaf roi systemau a phrosesau cymesur ar waith er mwyn atal hysbysebion twyllodrus rhag cael eu cyhoeddi neu eu dangos ar eu gwasanaeth. Yn y pen draw, bydd hyn yn mynd i'r afael â'r hysbysebion sgam niweidiol sydd wedi bod yn cael effaith ddinistriol ar eu dioddefwyr, ni waeth beth fo'u hoedran a'u cefndir.
Rwy'n gwybod bod pryderon wedi'u codi am oedi canfyddedig i gynnydd y Bil hwn drwy'r Senedd, ac rwy'n croesawu'r sicrwydd a roddwyd gan lefarydd yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae diogelu plant a chael gwared ar weithgaredd anghyfreithlon ar-lein yn brif flaenoriaeth i'r llywodraeth a byddwn yn dod â'r Bil Diogelwch Ar-lein yn ôl i'r Senedd cyn gynted â phosibl.'
Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Bil yn pasio'r cyfnodau sy'n weddill cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Pan gyflawnir hyn, dylem ni yn y Senedd ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y drefn reoleiddio newydd yn cael ei gweithredu mewn ffordd sy'n atal, diogelu, cefnogi, a hyrwyddo hawliau plant yn y byd ar-lein yma yng Nghymru. Fe fydd pasio'r ddeddfwriaeth yn garreg filltir arwyddocaol. Fodd bynnag, gadewch inni fod yn realistig—ni all unrhyw Fil diogelwch ar-lein gael gwared ar bob bygythiad a phroblem o fywydau plant. Bum mlynedd ar ôl cyflwyno cynllun gweithredu cyntaf Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch ar-lein, mae'n bryd inni edrych, pwyso a mesur a diffinio rôl Cymru yn y drefn reoleiddio newydd. Mae'n hollbwysig fod lleisiau plant yn ganolog wrth siapio rôl Cymru ar ôl deddfu. Dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys plant a phobl ifanc, i glywed eu pryderon, ond hefyd i ddod o hyd i atebion ar gyfer sut y gallwn wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel iddynt i gyd.
Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad i ddiogelwch plant ar-lein er mwyn archwilio beth yn union yw'r bylchau sy'n weddill er mwyn gwireddu hawl plant i fod yn fwy diogel ar-lein. Fe allai ac fe ddylai meysydd i'r pwyllgor hwn eu hystyried gynnwys, yn gyntaf, sut rydym yn sicrhau bod y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd yn cefnogi ac yn gwireddu hawl plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel a chael eu hamddiffyn ar-lein. Yn ail, dylai edrych ar ba hyfforddiant ychwanegol y dylid ei gyflwyno ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Yn drydydd, dylai hefyd graffu ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cadernid digidol mewn addysg, y cynllun gweithredu ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion sydd ar y gweill ac unrhyw gynllun i olynu'r cynllun gweithredu ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn siarad â'i gilydd, yn rhoi gwleidyddiaeth o'r neilltu ac yn cyflwyno dull sy'n amddiffyn plant a phobl ifanc, ac yn eu galluogi i godi llais, i ofyn am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, ac i'w chael, gan fod amddiffyn ieuenctid, unwaith eto, yn hollbwysig i ni. Ac yn olaf, gallai ystyried peryglon a digonolrwydd ymatebion yn ymwneud â chyfathrebu ar-lein drwy'r Gymraeg. Byddai archwilio anghenion a phrofiadau plant yn hyn o beth yn sicrhau bod pob plentyn yn cael ei amddiffyn yn gydradd.
Ddirprwy Lywydd, ni ddylai Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU fod yn ben draw ynddo'i hun ond yn hytrach, yn ffordd o gyrraedd y pen draw. Rhaid i Lywodraeth Cymru adeiladu ar y Bil i fynd i'r afael â'r hyn sy'n gyrru niwed ar-lein. Rhaid i'r cyfrifoldeb beidio â bod ar y plentyn yn unig i fod yn wydn ac i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein; rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei dyletswydd i blant Cymru o dan CCUHP a sicrhau ei bod yn ymateb i'r lefelau digynsail o feithrin perthynas amhriodol a cham-drin plant yn rhywiol a welwn ar-lein bob dydd ar hyn o bryd. Diolch.
Hoffwn ddweud 'diolch yn fawr' wrth Natasha am godi hyn heddiw. Mae'n ddadl hynod o bwysig, ac ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yma yn y Senedd, rydym eisoes wedi clywed am bwysigrwydd diogelwch ar-lein yn ein gwaith. Dywedodd ein hymchwiliad i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion wrthym fod ymddygiad pobl ifanc mewn ysgolion yn adlewyrchiad o dueddiadau sydd eisoes wedi hen ennill eu plwyf ar draws y gymdeithas. Mae'n amlwg i ni fod y tueddiadau hynny'n cael eu gwaethygu a'u chwyddo gan fynediad anrheoleiddiedig plant at gynnwys ar-lein amhriodol neu anghyfreithlon. Nid yw'r rhyngrwyd bob amser yn niweidiol i bobl ifanc, ond gall darluniau afrealistig o ryw a pherthnasoedd greu agweddau afiach ymhlith pobl ifanc, a gall platfformau rhwydweithio cymdeithasol greu pwysau i bobl ifanc edrych neu ymddwyn mewn ffordd benodol.
Y gwanwyn diwethaf, clywsom gefnogaeth gyffredinol i Fil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU ac ar y pryd, roedd y Bil yn cydnabod y gall plant a phobl ifanc fod yn arbennig o agored i niwed ac angen eu hamddiffyn rhag cynnwys anghyfreithlon ac amhriodol. Mae ein hymgysylltiad fel pwyllgor gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU am y Bil hwn wedi bod yn gadarnhaol. Mae'n Fil enfawr, sy'n gannoedd o dudalennau o hyd, a byddwn yn cael briff technegol ar oblygiadau'r Bil gan swyddogion yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ddechrau'r gwanwyn. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn edrych ar gynnydd y Bil yn ofalus iawn, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru i wneud yr hyn y gall i sicrhau bod y Bil yn cadw'r darpariaethau sy'n diogelu plant wrth iddo barhau ar ei daith graffu yn San Steffan.
A gaf fi ddiolch i chi, Natasha, am gyflwyno'r ddadl hon a chaniatáu munud o'ch amser i mi? Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y Siambr yn croesawu'r camau a gymerwyd gan y Llywodraeth i greu rhwyd ddiogelwch i blant gyda'i Bil Diogelwch Ar-lein. Gyda'r defnydd o'r rhyngrwyd a'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan blant yn cynyddu'n aruthrol, mae'n iawn ein bod yn gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel iddynt. Mae'n iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag y cynnwys niweidiol hwnnw, a bydd y Bil Diogelwch Ar-lein yn mynd cryn bellter i gyflawni'r nod hwn.
Ond rwy'n cydnabod rhai o'r pryderon a achoswyd gan newyddion diweddar ynghylch newidiadau a wnaed i'r Bil, yn fwyaf arbennig nad yw cewri technoleg yn cael eu gorfodi i gael gwared ar gynnwys sy'n gyfreithlon ond yn niweidiol. Fodd bynnag, cefais sicrwydd, ac rwy'n gobeithio bod eraill wedi cael sicrwydd, o glywed yr ysgrifennydd digidol, Michelle Donelan, yn amlinellu sut y bydd y Bil yn amddiffyn plant. Bydd yn troseddoli anogaeth i hunan-niweidio, gan ei gwneud yn ofynnol i fusnesau fandadu terfynau oedran defnyddwyr a mesurau amddiffynnol angenrheidiol eraill.
Rhaid i amddiffyn plant fod yn flaenoriaeth ar lefel genedlaethol a datganoledig. Byddwn ar fai'n peidio â chofnodi'r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn y maes, ond mae angen mwy. Fel y mae Natasha eisoes wedi awgrymu, cam credadwy ymlaen fyddai cyflwyno ymchwiliad i ddiogelwch plant ar-lein yng Nghymru er mwyn canfod unrhyw fylchau sydd heb eu llenwi gan y Bil Diogelwch Ar-lein. Mae angen inni adeiladu ar y Bil Diogelwch Ar-lein.
Fel tad-cu i saith, mae'n debyg fy mod yn siarad ar ran cymaint o bobl sydd â phlant, ac mae'r hynaf ohonynt yn bump oed a bellach yn cyrchu'r rhyngrwyd, credwch neu beidio—neu'n hytrach, technoleg, ac ni fydd yn hir cyn iddi gyrchu'r rhyngrwyd—rwy'n mawr obeithio y bydd y rheoliadau pellach a roddir ar waith yma ac yn y Llywodraeth yn ei hamddiffyn hi a'r miloedd lawer o blant fel hi, a chenedlaethau i ddod, oherwydd mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth a allwn i amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas rhag pobl ddiegwyddor allan yno. Diolch.
Diolch, Natasha, am ddod â hwn gerbron.
Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn rhannu sicrwydd Peter Fox. Rwy'n bryderus wrth weld yr elfen 'cyfreithiol ond niweidiol' yn cael ei dileu. Yr hyn sy'n fy mhryderu i fwyaf yw'r oedi a fu. Rwy'n credu ei bod o fudd i bawb ohonom sicrhau bod pwysau'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU i gyflawni hyn cyn gynted â phosibl.
Mae NSPCC Cymru wedi bod yn glir y bydd 200 a mwy o blant yn dioddef cam-drin rhywiol ar-lein ym mhob mis y mae’r Bil Diogelwch Ar-lein yn cael ei ohirio. Mae pethau'n newid mor gyflym yn y maes hwn, ac mae'n amhosib i ni ddiogelu plant yn llwyr, ond dwi yn pryderu'n fawr o weld y newidiadau, gyda Twitter rŵan hefyd yn diswyddo staff sydd wedi bod yn gweithio'n benodol yn y maes hwn. Rydym ni'n gallu gweld efo unrhyw blatfform fod newidiadau'n gallu digwydd yn gyflym. Felly, wrth gwrs, mae yna elfen gref i ni o ran Llywodraeth Cymru i edrych ar oblygiadau a'r pethau rydym ni eisiau eu gweld ac yn gallu eu cefnogi yma yng Nghymru, ond mae yna ddyletswydd ar Lywodraeth Prydain i ddod â'r Mesur hwn, i ailystyried yr elfennau fyddai yn cryfhau a diogelu plant, ac mae angen gwneud hynny ar fyrder, oherwydd mae'r ystadegau'n dangos i ni'n glir fod hyn yn cael effaith ar blant a phobl ifanc. Rhaid gweithredu rŵan.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i'r Aelod am gynnig y ddadl fer bwysig hon. Fel Llywodraeth, rŷn ni'n awyddus i ledaenu buddiannau'r rhyngrwyd ac annog defnydd diogel o dechnoleg.
Mae plant a phobl ifanc yn ddefnyddwyr rhyngrwyd brwd ar oedrannau cynyddol iau, fel y clywsom yn y ddadl heno. Nid yw'n syndod fod adroddiad diweddaraf Ofcom, 'Plant a rhieni: adroddiad ar ddefnydd o'r cyfryngau ac agweddau atynt 2022', wedi darganfod bod 99 y cant o blant wedi mynd ar-lein y llynedd. Wrth dyfu i fyny yn yr oes ddigidol hon, nid yw plant yn gwahaniaethu rhwng eu bywydau ar-lein ac all-lein yn yr un modd â chenedlaethau hŷn. Maent yr un fath â'i gilydd. Mae plant a phobl ifanc yn disgwyl i'w hawliau gael eu gwarchod ar-lein lawn cymaint ag y maent all-lein, ac maent yn iawn i ddisgwyl hynny. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wneud egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn realiti i bob plentyn yng Nghymru, ac roeddwn yn falch fod y CCUHP, y llynedd, wedi mabwysiadu sylw cyffredinol 25, sydd bellach yn sicrhau bod hawliau plant yn berthnasol ar-lein fel y maent all-lein.
Mae diogelwch ar-lein yn fater cymdeithasol cymhleth. Mae mynd i'r afael ag ef yn galw am ddull amlasiantaethol o weithredu. Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gadernid digidol yn amlinellu'r ymrwymiadau rydym yn eu cyflawni ar draws y Llywodraeth, gyda phartneriaid arbenigol, i wella diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc. Mae dull cydweithredol yn hanfodol er mwyn gwneud cynnydd go iawn ac felly, mae gweithio mewn partneriaeth yn cael lle canolog yn y cynllun gweithredu. Gan adlewyrchu natur sy'n esblygu'n barhaus y byd digidol, mae'r cynllun gweithredu'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol, gan ychwanegu ffrydiau gwaith newydd, yn ogystal â darparu crynodeb o gynnydd y gwaith hyd yma. Mae'r cynllun gweithredu eleni yn nodi dros 70 o gamau gweithredu rydym yn eu cyflawni gyda'n partneriaid i wella darpariaeth ac ymarfer diogelwch ar-lein ledled Cymru, a hoffwn dynnu sylw at rai o'r gweithgareddau allweddol rydym yn parhau i'w datblygu.
Yn gynharach eleni, cefais y fraint o gyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth ffilm Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 'Parcha fi. Fy rhyngrwyd, fy hawliau'. Roedd y ffilmiau'n procio'r meddwl ac roeddent yn pwysleisio grym lleisiau pobl ifanc a'u hawliau i fod yn ddiogel rhag niwed ar-lein. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar brofiadau pobl ifanc i ddeall y byd ar-lein yn iawn drwy eu llygaid hwy, ac mae eu llais yn ganolog i'n rhaglen ac yn llywio ein gwaith datblygu polisi.
Eleni, rydym wedi sefydlu panel ieuenctid newydd ar gyfer cadernid digidol. Mae'r panel yn dod â phobl ifanc at ei gilydd o bob cwr o Gymru i ddylanwadu ar, ac i lywio ein gwaith yn uniongyrchol er mwyn gwella diogelwch ar-lein. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y panel, ac am ddiolch i'r bobl ifanc am roi eu hamser i gefnogi'r gwaith pwysig hwn.
Gyda chymaint o wybodaeth ar flaenau eu bysedd, gwyddom fod pobl ifanc yn aml yn mynd ar-lein i edrych am gymorth a chyngor. Yn gynharach eleni, lansiwyd 'Problemau a phryderon ar-lein', ardal newydd ar 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb, yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Cafodd y cyngor hwn ei gyd-gynllunio gyda phobl ifanc a'i nod yw eu cefnogi os ydynt yn poeni am broblem ar-lein. Mae'r cyngor newydd hwn yn ehangu cyrhaeddiad 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb, ein siop un stop bwrpasol, sy'n darparu newyddion, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion cadernid digidol. Mae'r ardal allweddol hon wedi parhau i esblygu. Bellach mae'n cynnwys dros 400 o adnoddau i gefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal â'u teuluoedd a chymunedau ysgol. Drwy 'Cadw'n ddiogel ar-lein', mae gan ysgolion fynediad at gynnig helaeth o adnoddau addysgu dwyieithog, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi, ac mae'r rhain yn ymdrin ag ystod o faterion diogelwch ar-lein amserol, gan gynnwys rhannu delweddau noeth, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ar-lein a chamwybodaeth.
Yn ddiweddar, llwyddais i fynychu lansiad adnoddau a ddatblygwyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi'u targedu at fechgyn, ynghylch peth o'r niwed ar-lein y gellid ei achosi a hefyd, ymwelais ag ysgol yng nghwm Cynon i glywed gan fenywod ifanc yno am y profiadau a gawsant o weithio gyda chwmnïau technoleg i ddarparu arweiniad i'w cyfoedion. Mae cyfoeth o adnoddau'n cael eu cynhyrchu, gan gynnwys gan y bobl ifanc eu hunain.
Mae diogelwch ar-lein yn esblygu'n gyson, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bwysig ein bod yn gyfredol ac yn rhoi gwybodaeth i'n haddysgwyr am y tueddiadau a'r risgiau diweddaraf, a sut i gynorthwyo eu dysgwyr i'w llywio. Am y tro cyntaf, fis Mawrth nesaf, byddwn yn cynnal dwy gynhadledd genedlaethol cadernid digidol mewn addysg. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi sylw i ddiogelwch ar-lein a bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i barhau i yrru datblygiad diogelwch ar-lein mewn addysg. Mae'n hanfodol fod diogelwch ar-lein wedi'i wreiddio'n gadarn o fewn diwylliant diogelu. Ni ddylid ei ystyried yn fater TG neu ddigidol yn unig. Erbyn hyn mae cadernid digidol yn rhan annatod o'n canllawiau diogelu mewn addysg statudol, ac yn gadarn ar agenda'r grŵp cenedlaethol diogelu mewn addysg.
Eleni, mae fy swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth ag Estyn, yn cyfarfod ag awdurdodau lleol a phenaethiaid ysgolion i archwilio sut maent wedi gwreiddio diogelwch ar-lein yn eu polisi, darpariaeth ac ymarfer diogelu. Er bod addysg yn chwarae rôl bwysig, mae llawer o'r problemau diogelwch ar-lein y mae ysgolion yn adrodd yn eu cylch yn digwydd y tu hwnt i gatiau'r ysgol a thu allan i oriau ysgol. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â rhieni a gofalwyr, ac mae'r cynllun gweithredu'n cynnwys sawl cam gweithredu i roi cefnogaeth a chyngor i deuluoedd ar ystod o faterion diogelwch ar-lein. Gan gydnabod bod llawer o broblemau ar-lein yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, datblygodd Llywodraeth Cymru 'Bydd Wybodus'. Mae'r gyfres yn rhoi gwybodaeth allweddol i rieni a gofalwyr am y cyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau sy'n boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc. Rydym yn parhau i adeiladu ar y gyfres hon, yn ogystal ag archwilio ffyrdd eraill o gefnogi rhieni.
Ar draws y byd, mae yna ddadl gref ynglŷn â'r rôl y dylai deddfwriaeth ei chwarae wrth wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel, a gwelwyd hynny yn y ddadl heddiw. Mae'n hanfodol na ddylai'r cyfrifoldeb fod ar blant i amddiffyn eu hunain rhag niwed ar-lein. Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu ei chynlluniau drwy gyflwyno'r Bil Diogelwch Ar-lein hirddisgwyliedig yn gynharach eleni. Rwy'n croesawu uchelgais y Bil mewn perthynas â'r amddiffyniad gwell i blant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU nawr yn blaenoriaethu'r gwaith hwn, ac rwy'n cefnogi'r galwadau a wnaed gan lawer o'n partneriaid i fwrw ymlaen â'r Bil heb unrhyw oedi pellach, ac rwy'n adleisio'r pwynt a wnaeth Heledd Fychan yn y ddadl.
Roeddwn yn falch o weld y gwelliant diweddar a gyflwynwyd yn amlinellu'r bwriad i droseddoli cynorthwyo neu annog hunan-niweidio ar-lein, ac fe dynnodd Natasha Asghar sylw penodol at hyn. Ni ddylai ymddygiad ffiaidd o'r fath gael unrhyw le yn ein cymdeithas, ac rwy'n falch hefyd o weld y bydd ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn cael ei ychwanegu at y rhestr o droseddau blaenoriaethol yn y Bil.
Er bod Llywodraeth y DU yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng rhyddid mynegiant a diogelwch, mae'n hanfodol nad yw newidiadau a wneir i'r Bil yn digwydd ar draul diogelwch plant ac nad ydynt yn gwanhau'r effaith y gall y ddeddfwriaeth hon ei chael. Rwy'n eu hannog i ymrwymo i wneud y mwyaf o'r amddiffyniad y mae'r Bil yn ei roi i blant.
Rhaid herio'r cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein yn y ffordd y clywsom yn y ddadl heddiw, er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â chynnwys niweidiol ar eu platfformau. Yn y pen draw, bydd Ofcom yn chwarae rhan allweddol wrth iddynt ddatblygu codau ymarfer cadarn i ddwyn platfformau ar-lein i gyfrif. Edrychwn ymlaen at barhau i ymgysylltu â hwy i wneud cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein yn lleoedd mwy diogel a gwell i bawb.
Gadewch imi fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, mae gan ein plant a'n pobl ifanc hawl i fod yn ddiogel ar-lein. Mae ganddynt hawl i fod yn rhydd o fwlio ar-lein, mae ganddynt hawl i fod yn rhydd o gasineb a thrais ar-lein, a'r hawl i fod yn rhydd o gam-drin ac aflonyddu ar-lein. Mae Llywodraeth Cymru'n chwarae ei rhan i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu grymuso i fod yn ddinasyddion cyfrifol, moesegol a gwybodus. Fy ymrwymiad cadarn yw gyrru ein cenhadaeth i sicrhau bod eu hawliau i fod yn ddiogel yn cael eu gwireddu'n llawn, ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu heb oedi pellach.
Diolch i bawb, a daw hynny â thrafodion heddiw yn y Siambr i ben.