2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau dyfodol hyfyw i ffermio? OQ58785
Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu pedwar amcan rheoli tir yn gynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys camau a fydd yn helpu ffermwyr i wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau a gwella cadernid eu ffermydd a'u busnesau.
Diolch am yr ateb yna.
Rwy'n cefnogi ymdrechion i sefydlu cyfres o gamau gweithredu ar gyfer holl ffermwyr Cymru yn gyfnewid am daliadau sylfaenol cyffredinol blynyddol a fydd yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn rhoi hwb i'r amgylchedd yn ein gwlad. Fodd bynnag, rwy'n rhannu pryderon yr undebau amaeth y bydd ffermwyr tenant neu'r rhai sydd â hawliau tir comin, yn debyg i un yr ymwelais ag ef yn fy rhanbarth, yn ei chael hi'n anodd bodloni gofynion y cynllun. Sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd eich egwyddorion cyffredinol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnwys ac yn gwarchod y mathau o ffermwyr rwyf wedi cyfeirio atynt? Maent yn rhan o draddodiad hir yng nghefn gwlad Cymru ac yn y Cymoedd rwy'n eu cynrychioli, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw canlyniadau anfwriadol y cynllun yn bygwth eu dyfodol.
Diolch. Mae'n hynod bwysig fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio i bob ffermwr ar bob math o fferm ym mhob rhan o Gymru. Felly, rydym wedi sefydlu hanner dwsin o weithgorau i edrych ar feysydd penodol. Mae ffermwyr tenant yn un maes, ac mae ffermwyr tir comin yn un arall. Mae'r ddau fath yn rhannau pwysig iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Gwyddom fod tir comin yn bwysig ar gyfer manteision amgylcheddol, er enghraifft, megis bioamrywiaeth a rheoli dŵr, ac mae'n bwysig i'r nifer fawr o ffermwyr sy'n dibynnu arno ar gyfer porthiant hefyd. Fe fyddwch yn gwybod ein bod newydd ddod i ddiwedd y gwaith o gyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Byddwn yn edrych ar yr ymatebion a gawsom a'r trafodaethau a gawsom cyn inni gynnal yr ymgynghoriad terfynol. Ond yn amlwg bydd yr allbynnau o'r gweithgorau rwyf newydd eu crybwyll yn cael eu cynnwys gyda'r holl ymatebion a gawsom i'r allbwn cyd-gynllunio, ynghyd â datblygiad polisi parhaus.
Weinidog, mae sicrhau bod gan ein ffermwyr ddyfodol hyfyw yn bwysig iawn, ond un sector yn arbennig sy'n wynebu pwysau enfawr yw ein diwydiant dofednod, gan eu bod yn gorfod ymdopi â ffliw adar a chynnydd enfawr mewn costau ynni. A wnewch chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ein ffermwyr dofednod i sicrhau bod ganddynt ddyfodol cynaliadwy, hyfyw yn y diwydiant dofednod yma yng Nghymru?
Yn amlwg, rydym wedi gweld nifer digynsail o achosion o ffliw adar. Nid ydym wedi cael unrhyw seibiant o gwbl dros yr haf, cyfnod lle nad ydym yn gweld unrhyw glystyrau o achosion o gwbl fel arfer. Mae wedi bod gyda ni yn barhaus dros y tair blynedd diwethaf. Rydym yn dechrau cyfri'r achosion newydd o 1 Hydref bob blwyddyn, ac ers 1 Hydref 2022, rydym eisoes wedi cael tri chlwstwr o achosion yma yng Nghymru, felly mae'n gyfnod anodd iawn i'n cynhyrchwyr dofednod ar hyn o bryd, yn enwedig, oherwydd gwyddom fod llawer o ffermwyr wedi arallgyfeirio i ffermio dofednod. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn ledled y DU. Ddydd Llun nesaf, byddaf yn cael fy nghyfarfod grŵp rhyngweinidogol rheolaidd gyda fy swyddogion cyfatebol ym mhob rhan o'r DU. Rwyf wedi gofyn i hyn fod yn eitem ar yr agenda, oherwydd, yn amlwg, mae angen inni weithio fel pedair gwlad i gefnogi ein ffermwyr dofednod.
A gaf fi dynnu eich sylw at y gofrestr fuddiannau a'r sawl sefydliad rwy'n perthyn iddynt sydd â buddiant yn y maes hwn, gan gynnwys Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y Cerddwyr ac eraill? Ond a gaf fi ganmol y Gweinidog ar y modd y mae hi'n ceisio creu dyfodol i ffermio cynaliadwy yng Nghymru sy'n cydbwyso'r hyn sy'n ymddangos weithiau fel buddiannau sy'n cystadlu, ond nad ydynt yn fuddiannau sy'n cystadlu mewn gwirionedd?
A wnaiff hi ddweud wrthyf sut, o fewn y Bil amaeth—a chroesawodd Llyr a minnau y cyfle i fod yn rhan o'r Bil hwnnw y diwrnod o'r blaen, gan gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog—ond hefyd yn y cynigion ar ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn ogystal, sut y gwnaiff hi sicrhau bod gennym fywoliaeth i ffermwyr a thirfeddianwyr wrth symud ymlaen, yn enwedig oherwydd yr effaith ar iaith a diwylliant Cymru, ond ar ffermydd bychain a chanolig hefyd? Ond hefyd, sut mae ehangu ac ychwanegu at y manteision cyhoeddus ehangach y soniodd amdanynt, fel lleihau perygl llifogydd, fel atafaelu carbon, ond hefyd, Weinidog, mynediad at y tir, bioamrywiaeth—sut mae cydbwyso'r cyfan? Mae hyn yn gymhleth, ond mae'n rhaid ei wneud oherwydd rwy'n credu bod hwn yn gyfle un-tro i wneud pethau'n iawn.
Diolch i chi. Rwy'n credu ei fod yn gyfle un-tro a dyma'r tro cyntaf, yn amlwg, y gallasom gael y polisi yma sy'n benodol i Gymru, ac mae'n hynod bwysig ei fod yn gweithio i'n ffermwyr ni yma yng Nghymru ac i sicrhau ein bod ni'n cadw ffermwyr ar y tir a'n bod yn gwarchod y tirweddau gwych sydd gennym yma yng Nghymru.
Fe fyddwch yn gwybod bod Bil amaethyddiaeth Cymru yn cynnwys pedwar amcan, ac fe wnaethoch chi sôn am un neu ddau o'r amcanion, yn enwedig canlyniadau diwylliannol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Dywedais yn fy ateb cynharach ei bod hi'n bwysig iawn i'r cynllun hwnnw fod ar gael i bawb. Nawr, rwy'n credu, ar hyn o bryd, fod llawer o'r canlyniadau amgylcheddol hynny'n cael eu cynhyrchu gan ein ffermwyr ac nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdanynt. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ceisio cymell ein ffermwyr i fod yn rhan o'r cynllun. Yn sicr, hoffwn weld mwy o ffermwyr yn cymryd rhan yn y cynllun nag sy'n cymryd rhan yng nghynllun y taliad sylfaenol ar hyn o bryd, er enghraifft. Felly, mae gennym waith cyfochrog yn digwydd nawr gyda Bil amaethyddiaeth Cymru a'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond bydd gwaith ansawdd dŵr a phridd, a gwarchod ein cynefinoedd y mae ffermwyr yn ei wneud ar hyn o bryd ond nad ydynt yn cael eu gwobrwyo amdano yn sicr yn rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy.
Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn awyddus i ddilyn cwestiwn Peredur, yn enwedig ynghylch ffermwyr sy'n ffermio ar dir comin. Ddydd Llun, roeddem yn y ffair aeaf—roedd llawer ohonom ni yno—ac fe gyfarfuom â ffermwyr, Gary Williams o sir Gâr, a Guto Davies o Glwyd, sydd ill dau yn ffermio ar dir comin. Roedd yn ddiddorol iawn clywed rhai o'r heriau a wynebant, heriau y byddwch chi'n ymwybodol ohonynt, yn ddiamheuaeth, yn enwedig y pryderon a nododd Peredur: gallu ffermwyr ar dir comin i gael mynediad at y cynllun ffermio cynaliadwy a chyflawni yn erbyn rhai o elfennau'r cynllun na fydd hyd yn oed yn bosibl i rai ohonynt. Fe wyddom fod rhaid i ffermwyr sydd â hawliau tir comin, y mae cynllun y taliad sylfaenol a Glastir yn ganolog i incwm eu ffermydd—eu bod yn gallu cael mynediad a chymryd rhan yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Fe wyddom fod oddeutu 65 y cant o dir comin wedi'i gynnwys yn Glastir ac fe wnaeth dros 3,000 o fusnesau fferm ddatgan tiroedd comin at ddiben hawlio cynllun y taliad sylfaenol yn 2021. A gaf fi ofyn i chi ehangu ychydig mwy ar eich ymrwymiad i sicrhau bod y cynllun yn sensitif i anghenion ffermwyr tir comin? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi, ac fel y dywedais yn fy ateb cynharach, rydym yn sefydlu gweithgor tir comin ac rwyf am i'r gweithgor hwnnw archwilio pa gymorth a chyngor penodol y gallai fod eu hangen, yn ogystal â pha hyblygrwydd y gallai fod angen inni ei gynnig i gyfrif am y cymhlethdodau sy'n cael eu hachosi gan dir comin.
Fel y byddwch yn gwybod, yng nghynigion amlinellol y cynllun ffermio cynaliadwy, mae gennym dair haen: mae gennym yr haen gyffredinol, yr hen ddewisol a'r haen gydweithredol. Ac yn sicr, yn y trafodaethau a gefais gyda ffermwyr tir comin, rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud nad yw'r gweithredoedd cyffredinol a'r gweithredoedd dewisol, fel y'u disgrifir yn y ddogfen amlinellol ar hyn o bryd, yn berthnasol i dir comin yn yr un ffordd ag y maent i ffermydd eraill. Felly gallai fod angen inni ganolbwyntio ar y lefel gydweithredol ar gyfer ein ffermwyr tir comin. Wyddoch chi, mae tir comin yn unigryw iawn, ac felly rwy'n credu bod angen dull sydd wedi'i deilwra'n llawer gwell.