2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru? OQ58798
Diolch. Mae cynnydd wedi'i wneud ar draws ein pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid, ac mae gwaith parhaus yn digwydd yn ôl yr amserlen. Mae gwaith ehangach wedi'i wneud ar bolisi lles anifeiliaid, ac mae'r prosiect gorfodi ar gyfer awdurdodau lleol yn sbarduno newid sylweddol, a lansiwyd yr ymgynghoriad 12 wythnos ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ar 14 Tachwedd.
Diolch, Weinidog. Flwyddyn i mewn i'r broses pum mlynedd, fel y dywedwch, mae cynnydd da wedi bod, yn fwyaf arbennig yr ymgynghoriad ar deledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai. Ond o ran blaenoriaethau, a gaf fi ofyn beth yw'r sefyllfa gyda'r defnydd o gewyll bridio ar gyfer adar hela? Rwy'n gwybod bod y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i archwilio'r dystiolaeth ynghylch eu defnydd, ond gyda'r tymor saethu newydd wedi cychwyn, mae defnyddio cewyll bridio a sut mae hynny'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i les anifeiliaid yn cael sylw, a hynny'n briodol. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwnnw?
Diolch. Fel y nodwyd gennych, mae gennym ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid yn y cynllun. Mae'n rhaglen bum mlynedd, ac rydym yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar yr hyn y llwyddasom i'w gyflawni yn y flwyddyn gyntaf. Nid yw'n bosibl rhoi llinell amser i chi ar gyfer yr ymgynghoriad ar unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth les, na'r cod ymarfer, mewn perthynas â lles adar hela. Ac yn sicr, fel y byddwch yn deall, yn swyddfa'r prif swyddog milfeddygol, mae nifer sylweddol o swyddogion yn gorfod ymdrin â'r achosion o ffliw adar, sy'n sicr wedi cael blaenoriaeth, fel y gallwch ddychmygu. Ond yn sicr, wrth inni ddechrau ar ail flwyddyn y cynllun, byddwn yn edrych ar beth y gallwn ei wneud, ac rwy'n gwybod bod hwn yn faes o bwys mawr—gallaf ddweud wrth edrych ar fy mag post pa mor bwysig yw hyn.
Un o'r pethau a ddeilliodd o COVID yw bod llawer o bobl yn ystod y pandemig COVID wedi cael anifail anwes, a chyfrifoldeb am anifail anwes. Mae'r goblygiadau lles, wrth inni gefnu ar COVID, wedi golygu bod llawer o anifeiliaid anwes wedi cael eu gadael, a bod pwysau mawr ar y sector elusennol sy'n tueddu i'w cymryd a gofalu amdanynt a cheisio eu hailgartrefu. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r gwaith ychwanegol y mae elusennau sy'n gweithio yng Nghymru wedi gorfod ei wynebu oherwydd hyn, ac os yw'r Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad, a ydych chi'n ystyried gweithio gyda hwy yn ariannol ac yn gydweithredol mewn ffyrdd eraill, i gynnal y baich ychwanegol hwn sy'n eu hwynebu, fel bod modd ailgartrefu'r anifeiliaid hyn mewn ffordd synhwyrol, yn hytrach na gorfod eu rhoi i gysgu yn y pen draw, sy'n drasig?
Rydych chi'n hollol iawn—yn sicr fe welsom gynnydd sylweddol yn nifer yr aelwydydd a gafodd anifail anwes yn ystod y pandemig COVID-19. Ac wrth inni gefnu ar y pandemig, a phobl yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod yn gweithio gartref efallai, pan gawsant eu hanifeiliaid anwes, fe welsom angen i ailgartrefu llawer o anifeiliaid. Yn anffodus, rwy'n meddwl bod yr argyfwng costau byw hefyd nawr yn cynyddu nifer yr anifeiliaid anwes sydd angen eu hailgartrefu. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ddadansoddiad arwyddocaol. Gwn fod swyddfa'r prif swyddog milfeddygol wedi gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector i weld beth y gallwn ei wneud i'w cynorthwyo. Rhaid imi fod yn gwbl onest—nid wyf yn meddwl y byddai fy nghyllideb yn caniatáu imi roi unrhyw gyllid pellach i'r trydydd sector, ond yn amlwg, pe bai modd ystyried hynny yn y dyfodol, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.