– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Eitem 4 yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y model athrawon cyflenwi. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi am ddechrau drwy achub ar y cyfle yma i ddiolch i'n hathrawon cyflenwi unwaith eto am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac yn benodol am y cymorth hanfodol a roddon nhw i ysgolion yn ystod y pandemig—cyfnod a oedd, wrth gwrs, yn ansicr i bawb.
Rŷn ni'n gwybod bod athrawon cyflenwi a staff cymorth addysgu yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi ein pobl ifanc. Mae sawl adolygiad annibynnol wedi tynnu sylw at yr angen i wella telerau ac amodau a threfniadau gwaith athrawon cyflenwi a staff cymorth cyflenwi. Rŷn ni wedi gwneud cynnydd da dros y blynyddoedd diwethaf. Serch hynny, mae'n amlwg i mi bod yna fwy i'w wneud i sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael eu gwobrwyo'n briodol, bod mwy o ddewis i'n holl staff cyflenwi o ran sut y maen nhw'n cael eu cyflogi, a bod y gefnogaeth a'r cyfleodd dysgu proffesiynol sy'n ofynnol ar gael iddyn nhw er mwyn cyflawni eu rolau yn effeithiol.
Yn y rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio, rŷn ni wedi ymrwymo i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, â gwaith teg wrth wraidd y model hwnnw. Heddiw, dwi am nodi sut y byddwn ni'n cyflawni'r ymrwymiadau ac yn cyflwyno diwygiadau i'r system addysg y mae eu hangen yn fawr. Er mwyn gofalu bod pob elfen o'r ymrwymiad yn cael sylw, rwyf wedi dynodi bod angen dull gweithredu holistaidd, gan ganolbwyntio ar ddiwygio mewn tri phrif faes, sef model cyflogaeth newydd i awdurdodau lleol, gwelliannau pellach i ddarpariaeth asiantaethau, a chyflog ac amodau athrawon cyflenwi sydd o fewn cwmpas y telerau statudol.
Mae penaethiaid a chyrff llywodraethu yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i staffio eu hysgolion a pha fath o gyflenwi sy'n bodloni eu gofynion orau. Gall ysgolion recriwtio staff cyflenwi yn uniongyrchol, drwy eu hawdurdod lleol, neu drwy asiantaeth gyflenwi. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan athrawon cyflenwi ynghylch cyflogaeth drwy asiantaethau preifat, sefydlwyd fframwaith asiantaethau cyflenwi y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2019, gan arwain at well cyflog ac amodau i staff asiantaethau, tryloywder ynghylch ffioedd, a mwy o reoleiddio ar asiantaethau.
Ar gyfer bwrw ymlaen â'r model newydd o gyflogaeth gan awdurdodau lleol, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y byddwn ni'n sefydlu platfform technolegol newydd ar gyfer archebu a fydd ar gael i awdurdodau lleol, ysgolion a staff cyflenwi o fis Medi 2023 ymlaen. Fe fydd y model yn cynnig llwybr ychwanegol i ysgolion ymgysylltu â staff cyflenwi a chynnig dewis i staff cymorth addysgu cyflenwi ac athrawon cyflenwi o ran sut y cânt eu cyflogi. Mae ymarfer caffael ar y gweill ar hyn o bryd, gyda'r contract i'w ddyfarnu yn nhymor y gwanwyn, a gweithrediad bob yn dipyn i ddilyn ar draws awdurdodau lleol o ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf. Fe fydd fy swyddogion i'n parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn y misoedd nesaf trwy ymgynghori ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid priodol. Ond ar y lleiaf, fe fydd y platfform yn galluogi staff cyflenwi i gofrestru eu hunain i weithio ac yn galluogi ysgolion i archebu athrawon cyflenwi yn uniongyrchol ar-lein.
Er y bydd llawer o fanylion o ran gweithrediad ymarferol y platfform yn dibynnu ar y darparwr llwyddiannus a'r system sydd ganddyn nhw ar waith, fe fydd athrawon cyflenwi yn gallu gweithio ar draws yr awdurdodau lleol ac yn gallu gweithio drwy asiantaethau pe bydden nhw'n dewis gwneud hynny. Ni fydd y system hon yn cyflogi athrawon cyflenwi ei hun yn uniongyrchol; system fydd hon sy'n cael ei chynnal gan ei defnyddwyr a'i chefnogi gan bob sefydliad sy'n ei defnyddio hi. Felly, i sicrhau y bydd gan athrawon cyflenwi hawl i'r telerau statudol, gan gynnwys cynllun pensiwn athrawon, mae'n rhaid i'r platfform gysylltu â darparwr sector cyhoeddus. Mae trafodaethau yn parhau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â threfniadau i gefnogi elfen cyflog a phensiynau'r platfform, ac rwy'n rhagweld y bydd yr elfen bwysig hon o'r gwaith yn cael ei chytuno arni yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ynghyd â'r platfform, bydd y fframwaith GCC ar gael i ysgolion, staff cyflenwi ac awdurdodau lleol. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a gafodd ei wneud o ran y gwelliannau sydd wedi dod yn sgil y fframwaith. Rwyf i wedi rhoi ystyriaeth lawn i sut y gellir atgyfnerthu'r trefniadau cyfredol cyn y cytundeb nesaf, a fydd yn dechrau o fis Medi 2023, ochr yn ochr â'r platfform archebu. Fe fydd y fframwaith newydd yn cynnwys yr un gofynion â'r cytundeb presennol. Yn ogystal â hynny, fe ofynnir i asiantaethau ddangos sut y gallan nhw wella eu cynnig dysgu proffesiynol, ac ymgorffori'r hawl cenedlaethol i ddysgu proffesiynol yn nhelerau eu cyflogaeth nhw.
Caiff yr holl asiantaethau cyflogaeth eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Safonau'r Asiantaeth Gyflogaeth. Er nad yw'r fframwaith yn statudol, yn rhan o'r cytundeb newydd fe fydd yr arolygiaeth yn ystyried rhai agweddau ar dermau'r fframwaith wrth arolygu asiantaethau fframwaith, ac fe rennir y canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru. Fe fydd yn ofynnol i'r asiantaethau ffurfio partneriaeth â JobsAware hefyd ac arddangos eu logo ar slipiau cyflog i hyrwyddo arferion gweithio diogel a theg a chyfeirio eu gweithwyr at ganllawiau cyflogaeth. Amcan y mesurau hyn yw sicrhau cydymffurfiaeth yn y meysydd hynny nad ydyn nhw o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru a sicrhau bod gweithwyr asiantaeth yn gallu cael arweiniad a chefnogaeth o ran eu cyflogaeth.
Mae'r maes terfynol hwn o waith yn allweddol i'r diwygiadau hyn ac fe fydd yn sicrhau bod agwedd waith teg yr ymrwymiadau wedi'u hystyried yn llawn. Cafodd y cyfrifoldeb am gyflogau ac amodau athrawon ei ddatganoli yn 2018, ac roedd hynny'n gyfle i ystyried a allai cyflog, telerau ac amodau gwahanol fod yn berthnasol i swyddi a chyfrifoldebau amrywiol athrawon ac athrawon cyflenwi o fewn y system. Wrth i gorff adolygu cyflogau annibynnol Cymru gyflwyno argymhellion i Weinidogion Cymru o ran tâl ac amodau athrawon, fe ofynnwyd iddo gynnwys yr agwedd bwysig hon hefyd yn rhan o'i adolygiad strategol ehangach sy'n mynd rhagddo eleni. Fe fydd yr adroddiad a'r argymhellion gan gorff adolygu cyflogau annibynnol Cymru yn cael eu hystyried yn llawn, ac unrhyw newidiadau a gyflwynir i'r telerau ac amodau statudol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn faes cymhleth y mae'n rhaid cydbwyso anghenion pawb o fewn y system ysgolion ynddo, gan gynnwys y dysgwyr a'r gweithlu ehangach mewn ysgolion. Yn fwy na dim, rwy'n ymwybodol bod yn rhaid i unrhyw fodel cyflogaeth cyflenwi newydd ddarparu ar gyfer athrawon cyflenwi, a bod yn gynaliadwy i ysgolion ei ddefnyddio a pheidio ag ychwanegu at lwyth gwaith staff ysgol. Rwy'n gobeithio bod y gwaith a amlinellais i'n rhoi sicrwydd i'r rhai sy'n ymgymryd â swyddi cyflenwi o ymrwymiad i newid yn y maes hwn. Mae'r adborth gan ein rhanddeiliaid allweddol ni wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer deall maint y diwygiadau sy'n angenrheidiol, ac o'r angen am welliannau ar draws ystod o feysydd ar gyfer sicrhau bod model cyflogaeth newydd yn addas i'w ddiben. Er bod gwaith eto i'w wneud, rwy'n hyderus y bydd y mesurau hyn yn arwain at welliant cynaliadwy ar draws y system addysg yn ei chyfanrwydd.
Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae hi wedi bod yn eglur iawn ers tro erbyn hyn bod angen newid a diwygio patrymau gweithio athrawon cyflenwi ar fyrder. Talwyd mwy na £250 miliwn i asiantaethau am athrawon cyflenwi gan gynghorau Cymru ers 2016. Cynyddodd y galw am athrawon cyflenwi, wrth gwrs, yn fawr oherwydd y pandemig, ond hyd yn oed yn 2015, roedd costau athrawon cyflenwi awdurdodau lleol yng Nghymru dros £130 miliwn. Felly, er ein bod ni'n croesawu unrhyw welliannau i waith teg a chefnogaeth i athrawon cyflenwi fel gwnaethoch chi eu hamlinellu yn natganiad heddiw, nid yw'r datganiad hwn hyd yn oed yn dechrau ar y gwaith o dawelu'r pryderon a gododd adroddiad Cynulliad Cymru fel roedd hi ar y pryd yn ôl yn 2016 am y patrwm o weithio, pryd yr eglurwyd yn amlwg iawn bod angen diwygio mawr. Ac mae angen hynny; peth cymhleth ydyw ac mae hi'n amlwg nad yw'r un datrysiad yn addas ym mhob achos.
Felly, Gweinidog, beth sydd yn yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig heddiw sydd mor hanfodol wahanol i newidiadau blaenorol, ar wahân, wrth gwrs, i'r system archebu newydd ar gyfer cyfran yn unig o'r athrawon cyflenwi, a gofyn i asiantaethau wneud pethau nad ydyn nhw'n statudol? Hyd yn oed gyda'r system archebu newydd y gwnaethoch chi ei chynnig, mae'r un pryderon yn parhau o ran diogelu. Fe fydd y system archebu hon yn parhau i fod i awdurdodau lleol ac asiantaethau allanol. Felly, fe fydd y broblem a ddaeth i'r amlwg yn 2006 yn parhau i fod gyda ni. Pwy sy'n gyfrifol yn y pen draw—yr asiantaethau neu lywodraeth leol—oherwydd, yn sylfaenol, Gweinidog, nid oes unrhyw beth wedi newid? Fe fyddwch chi'n parhau i fod heb unrhyw allu i reoli asiantaethau allanol fel rhain.
A hefyd, Gweinidog, mae gan athrawon cyflenwi swyddogaeth hanfodol, wrth gwrs, ac rydym ninnau'n ymuno â chi heddiw i ddiolch iddyn nhw am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Yn aml, mae bod yn athro cyflenwi yn golygu dewis ffordd arbennig o fyw, ond oherwydd y gwahaniaethau enfawr o ran tâl, rydym ni'n gweld newid mawr ar hyn o bryd o athrawon llawn amser yn troi at fod yn athrawon cyflenwi oherwydd llai o waith a chael gwell tâl. Felly, sut fydd yr hyn y gwnaethoch chi ei gyhoeddi heddiw yn mynd i'r afael â hyn? Diolch i chi.
Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Nid wyf i'n siŵr beth sydd gan yr Aelod i'w gynnig yn ddewis amgen ynglŷn â'r materion a amlinellais i. Os oes ganddi hi gynnig ymarferol, adeiladol i'w wneud, yn hyn o beth, neu yn wir mewn unrhyw faes arall o addysg, fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i glywed hynny. Ond rydym ni'n cael trafodaethau yn y sesiynau hyn o gwestiynau, ac mewn dadleuon, yn gyson iawn, a dydw i byth yn clywed unrhyw awgrym o ddewis amgen adeiladol i'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gyflwyno.
Rwy'n credu i mi amlinellu'r meysydd yr ydym ni'n gweithio ynddyn nhw yn fy natganiad, ac mae hwnnw'n bwnc cymhleth. Ac fe geir cyfyngiadau, fel rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ei ddeall, ar allu Llywodraeth ddatganoledig i dorri yn rhydd mewn maes sy'n aml yn cael ei gyfyngu i gyd-destun telerau ac amodau cyflogaeth. Mae hi'n gwybod hefyd na chafodd y gyfraith o ran asiantaethau ei datganoli. Ac, felly, mae yna gyfyngiadau yn dod gyda hynny, ac efallai nad yw hi'n llwyr werthfawrogi hynny yng nghyd-destun ei chwestiwn penodol hi. Fe hoffwn i ni fod mewn sefyllfa lle mae'r setliad datganoli yn caniatáu ystod ehangach o ddewisiadau i ni yn y Llywodraeth. Er hynny, rwy'n credu bod y dull triphlyg, yr ydym ni wedi bod yn cydweithio arno gyda Phlaid Cymru, yr amlinellais yn fy natganiad i, yn mynd at wraidd yr heriau y mae athrawon cyflenwi yn mynegi eu bod nhw'n eu hwynebu gyda'r cyfyngiadau sydd arnom ni oherwydd y setliad datganoli presennol.
Yn allweddol, mae'r platfform archebu yn caniatáu dewis o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus ar gyfer athrawon cyflenwi. Dyna yr ydym ni'n dymuno ei weld, yn sicr, ac fe wn i mai dyna mae Plaid Cymru yn dymuno ei weld hefyd. Nid wyf i'n siŵr ai dyna y mae'r Aelod o blith y Ceidwadwyr yn dymuno ei weld. Rydym ni mewn sefyllfa heddiw lle gallwn ni amlinellu'r egwyddorion sy'n rhoi sail i hynny. Felly, mae hyn yn caniatáu i athrawon gael eu cyflogi mewn ysgolion gan awdurdodau lleol, a gwneud hynny mewn ffordd hyblyg, y mae athrawon cyflenwi athrawon yn awyddus i'w wneud yn aml. Felly, mae hyn yn cydnabod bod elfennau penodol i batrymau cyflogaeth athrawon cyflenwi sy'n golygu bod angen ffordd hyblyg o wneud hyn.
Fy ngobaith i, fy uchelgais i—a Phlaid Cymru hefyd, rwy'n credu, ond efallai y bydd Heledd Fychan yn siarad ynghylch hyn—yw bod sefyllfa gennym ni o fod â llwyfan archebu sy'n ddewis arall deniadol o weithio drwy'r llwybr asiantaeth, a hwnnw fydd yn batrwm cyffredin ledled Cymru wedyn. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl bosibl yn yr hyn yr ydym ni'n ei gynllunio heddiw, yr hyn yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw. Rwy'n awyddus i weld sefyllfa lle mae'r cymysgedd o dri dull amgen, neu dri dull sy'n atgyfnerthu ei gilydd, mewn gwirionedd, a amlinellir yn y datganiad, yn ein harwain at y sefyllfa honno lle mae gan athrawon cyflenwi fargen well, a chyfle o fod â chyflogaeth uniongyrchol drwy gyflogwr sector cyhoeddus, a bod â'r gallu wedyn i hawlio gwell gwarantau a gwell telerau ac amodau sy'n dod yn sgil hynny.
Diolch i'r Gweinidog, a diolch hefyd i'r Aelod dynodedig—diolch i'r ddau ohonoch chi am eich gwaith ar hyn. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ategu diolch y Gweinidog i'r athrawon llanw hyn, sy'n gwneud gwaith gwirioneddol bwysig. Dŷn ni wedi gweld, fel roeddech chi'n sôn, yn ystod COVID, wrth gwrs, yr heriau parhaus o ran hynny, pa mor allweddol maen nhw wedi bod i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg. Ac yn aml, maen nhw'n bobl brofiadol eithriadol—nifer o bobl sydd wedi ymddeol yn mynd nôl, ac ati, ac efo profiad mawr o allu rhoi nôl, ac ati, ac ategu profiad ein plant a'n pobl ifanc ni.
Dwi'n falch iawn ein bod ni, drwy'r cytundeb cydweithio, yn gytûn o ran na ddylid cynnal gwasanaeth er elw preifat, ac wrth gwrs, dydyn ni ddim yn mynd mor bell â hynny heddiw, ond yn sicr, mae hwn yn gam pwysig iawn tuag at hynny. Oherwydd yn sicr, dŷn ni wedi gweld bod asiantaethau preifat yn gallu gwneud elw mawr, ar draul, wedyn, telerau gwaith teg, ac yn sicr mae i'w groesawu ein bod ni'n mynd i'r afael â hynny.
Dŷn ni eisoes wedi bod yn trafod, jest o ran sut bydd pobl yn ymwybodol o'r system, a sut y byddwn ni'n annog. Ac mae'r cwestiwn oedd gen i, o ran yr ymgyrch hyrwyddo, i bobl fod yn ymwybodol bod y datblygiad yma'n dod, oherwydd, yn anffodus, dydy pawb ddim yn gwylio Senedd.tv, a ddim wastad yn edrych ar bob datganiad sy'n dod allan—dwi'n gwybod bod hynny'n siom aruthrol i ni i gyd. [Chwerthin.] Ond o ran sicrhau, wedyn, bod y rhai sydd angen gwybod yn mynd i'w galluogi gwybod am y system yma, pa gyfathrebiad sy'n mynd i fod, i sicrhau bod yr opsiwn yma a'r llwyfan newydd yma ar gael iddyn nhw, yn hytrach nag aros efo asiantaethau? A sut y byddwn ni wedyn yn eu hannog nhw, o ran athrawon llanw a chymorthyddion, i sicrhau eu bod nhw efo'r sicrwydd yn y system, o ran eu bod nhw ddim yn mynd i golli allan ar waith, ac ati—bod hon yn system sy'n mynd i fod yn golygu bod y cyfleoedd yna, a'u bod nhw ddim yn colli allan ar unrhyw waith?
Dwi'n sylwi o ran y datganiad hefyd, bod yna lawer o bethau sydd dal angen eu gweithio allan. Roeddech chi'n sôn am y gwaith efo'r WLGA, a ballu. Yn sicr, mae'n allweddol bod llwyfan newydd yn gysylltiedig efo darparwr sector cyhoeddus, efo'r telerau a phensiwn, ac ati. Felly, dwi'n meddwl mai un o'r pethau—. Yn amlwg rwy'n croesawu'r camau hyn, yn edrych ymlaen at pan fydd yna fwy o wybodaeth ar gael, ac yn gwerthfawrogi hefyd eich bod chi wedi amlinellu amserlen ar gyfer yr adolygiad, o ran edrych ar delerau a thâl athrawon llanw. Felly, ie, croesawu, ond o ran yr ochr hyrwyddo, os fedrwch chi roi ychydig o eglurder o ran hynny. Diolch.
Mae hwnna'n bwynt digon teg. Beth dŷn ni'n ei ddatgan heddiw yw cerrig milltir ar y llwybr. Y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n gweld, o ran y cyngor a ddaw wrth y corff annibynnol, y diwygiadau i'r fframwaith a'r lansio ym mis Medi. Mae gennym ni gyfnod o flwyddyn, y flwyddyn nesaf, lle bydd cynnydd, gobeithio, yn digwydd yn gyflym iawn. Ac rwy'n credu, yn y cyd-destun—. Unwaith y bydd y corff sy'n gweithredu'r platfform wedi'i ddewis a'i sefydlu, bydd gennym ni gyfle wedyn i sicrhau bod ymgyrch gyfathrebu sylweddol yn cyd-fynd â hynny, i sicrhau bod buddiannau bod ar y platfform yn amlwg. A hefyd, elfen bwysig roedd yr Aelod yn sôn amdani—hynny yw, ein bod ni'n gallu rhoi sicrwydd nad yw hyn yn rhoi unrhyw athro cyflenwi o dan anfantais. Beth rwyf i eisiau ei weld, a beth dŷch chi eisiau ei weld hefyd, yw bod hwn yn dod yn opsiwn sy'n rhwydd i bawb ei ddefnyddio—felly, mae e'n effeithlon, mae e'n atyniadol, mae pawb yn deall beth mae e'n ei wneud. Ac felly, dyna'r ffordd, rwy'n credu, rŷn ni'n gallu rhoi sicrwydd i'r athrawon, ond hefyd system sy'n gweithio i'r ysgolion a'r awdurdodau lleol hefyd. Ond mae'r pwynt yna o hyrwyddo yn un pwysig, a phan ddeuwn ni at y cyfnod o apwyntio'r corff, bydd hwnna'n rhywbeth y byddwn ni eisiau cydweithio â chi arno fe.
Diolch i'r Gweinidog.