– Senedd Cymru am 6:30 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Dyna ddiwedd ar ein pleidleisio, ond nid dyna'r diwedd ar ein gwaith, ac fe fyddwn ni'n symud ymlaen nawr at y ddadl fer. Ac mae'r ddadl fer yn cael ei chyflwyno heddiw gan Mabon ap Gwynfor ar y testun 'Breuddwydion atomig: Pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio'. Dwi'n intrigued, Mabon. Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi rhoi ychydig o amser i Carolyn Thomas, Sam Rowlands a Mike Hedges i gyfrannu ar y diwedd hefyd. Rŵan, mae yna resymau lu yn cael eu cyflwyno o blaid ynni niwclear, ac ar yr wyneb maen nhw’n medru argyhoeddi, ond edrychwch ychydig yn ddyfnach ac mi welwch chi mai arwynebol iawn ydy’r dadleuon yma. Dywed rhai fod angen ynni niwclear er mwyn darparu ar gyfer y llwyth ynni sylfaenol sydd ei angen—y baseload. Dydy hynny ddim yn wir. Mae baseload yn ei hun yn ddadleuol, gan nad yw'n galluogi'r hyblygrwydd angenrheidiol sydd ei angen yn yr oes fodern. Dywed cynllunwyr ynni fod yn rhaid cael hyblygrwydd o flaen baseload. Mae'n bosibl sicrhau hyn efo’r cymysgedd cywir o ynni—boed yn solar, gwynt, hydro, llanw a thrai, neu hydrogen glas.
Ond i’r rhai hynny sydd yn gaeth i’r gred fod angen baseload, yna mae gennym ni'r adnodd mwyaf effeithiol un yma yng Nghymru i'r perwyl hwnnw, sef llanw a thrai, gyda rhannau o arfordir Cymru efo rhai o’r amrediadau llanw mwyaf yn y byd. Os ydy rhywun yn chwilio am baseload, mae'n bosibl cael hyn drwy fuddsoddi yn yr adnoddau naturiol sydd yma, wedi cyplysu â thechnoleg storio.
Y rheswm diweddaraf sydd wedi cael ei roi gan y Llywodraeth yma dros gael datblygu niwclear ydy ar gyfer niwclear meddygol. Mae hyn yn arbennig o ddeniadol ar yr wyneb—pwy all ddadlau yn erbyn meddyginiaeth sydd yn helpu efo deiagnosis canser, neu Alzheimer's, neu lu o glefydau eraill? Ond, yn y cyd-destun yma eto, arwynebol yw'r dadleuon, ac nid yw’n cyfiawnhau adeiladu atomfa, a dyma pam. Rai blynyddoedd yn ôl, roedd yna brinder difrifol o’r brif isotop sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer meddyginiaeth niwclear, sef technetium-99. Wrth i’r atomfeydd yn yr Iseldiroedd a Chanada heneiddio, daeth yr isotopau yma yn fwyfwy prin. Dyma sydd wedi cyflyru'r syniad o ddatblygu canolfan niwclear feddygol yma.
Ond er mwyn cynhyrchu isotopau yn ddiogel, mae’n rhaid cael atomfa ymchwil—research reactor. Mae cynhyrchu isotopau o atomfa gonfensiynol yn hynod beryglus, ac atomfa ynni ydy’r flaenoriaeth yma. Rhwng y dadgomisiynu a chynlluniau adweithyddion modiwlar bach, does dim lle ar safle Trawsfynydd, er enghraifft, am atomfa ymchwil hefyd. Ta waeth am hynny, mae prinder technetium yn cael ei ddatrys. Mae’r Almaen yn adeiladu cyfleuster arbelydru er mwyn cynhyrchu technetium ym mhrifysgol München, ac mae atomfa ymchwil y Jules Horowitz ar y gweill yn Ffrainc. Yn wir, mae’r Jules Horowitz yn bartneriaeth ryngwladol, ac mae’r Deyrnas Gyfunol yn bartner allweddol. Bydd y ddwy atomfa ymchwil yma yn cynhyrchu mwy na digon o isotopau ar gyfer anghenion Ewrop a Phrydain.
Ond hyd yn oed yn well na hynny, mae gwaith rhagorol Dr François Bénard o brifysgol British Columbia wedi arwain at y gallu i gynhyrchu technetium-99 trwy ddefnyddio cyclotrons—offer maint llai na char bach, heb yr angen am unrhyw fath o atomfa, ac mae modd cael nifer o’r rhain ar hyd y wlad. Mi fuaswn i’n annog y Llywodraeth i gydweithio efo prifysgol British Columbia er mwyn manteisio ar y dechnoleg yma.
Wrth gwrs, mae yna wastraff ymbelydrol ynghlwm â meddyginiaeth niwclear hefyd, ond hanner oes technetium ydy chwech awr. Mae'n bosibl cael gwared ohono yn ddiogel o fewn rhai wythnosau. Mae hyn yn dra gwahanol i hanner oes thoriwm, sy'n 80,000 o flynyddoedd, neu plwtoniwm, sy'n 28,000 o flynyddoedd. A dyna’r gwir—mae niwclear yn beryglus. O’r eiliad mae’n cael ei dynnu o’r ddaear i’w ddefnyddio fel tanwydd a’i wastraffu, mae'n angeuol ac mae'n bodoli am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Mae o'n ddiwydiant budr yn ecolegol, amgylcheddol, ac yn beryglus i bob creadur byw.
Dwi wedi siarad efo pobloedd tiroedd yr Anishinaabe yn Ontario, a phobl Mirarr Tiroedd Gogledd Awstralia, sydd wedi sôn wrthyf am y niwed difrifol sydd yn parhau i effeithio ar eu pobl a’u tir o ganlyniad i fwyngloddio iwraniwm yn eu tiriogaethau. Mae eu cymunedau yn dioddef o lefelau uchel o ganser a chyflyrau iechyd eraill, ac o dlodi enbyd, oherwydd y gwir ydy mai diwydiant trefedigaethol ydy’r diwydiant niwclear. Mae’r diwydiant yn rheibio tiroedd o fwynau peryglus yn erbyn ewyllys y cymunedau hynny, ac nid fi sy’n dweud hyn, ond yr Ojibwe, y Shoshone, y Adnyamathanha, y Kazakhs, ac eraill, sy'n dweud hyn. A beth am y gwastraff? Mae yna lefelau peryglus o uchel o caesiwm 134 ac 137 yn parhau i'w darganfod yn llyn Trawsfynydd, yn ôl adroddiadau diweddaraf Asiantaeth yr Amgylchedd, hynny ydy—20 mlynedd ar ôl i’r atomfa orffen cynhyrchu trydan yno. Ac er gwaethaf y sôn am ddatrysiadau i’r gwastraff, does neb wedi canfod unrhyw ffordd o drin y gwastraff yn ddiogel.
Mae rhai yn sôn am ddilyn y Ffindir a chladdu’r gwastraff filltiroedd o dan y ddaear, gan ei orchuddio efo clai. Ond nid datrysiad hirdymor mo hyn. Fe drïwyd claddu tailings gweithfeydd wraniwm cwmni Eldorado yn Ontario efo math o glai 40 mlynedd yn ôl, ond methu gwnaethon nhw. Ac mae yna dros 100 megatunnell o wastraff ymbelydrol wedi ei wasgaru dros fil hectar o dir yno o hyd. Fe ddefnyddiodd yr Unol Daleithiau y dechnoleg sment mwyaf cyfoes ar Ynys Runit, yn atol yn Enewetak, ar ddiwedd yr 1970au, er mwyn claddu gwastraff niwclear o arbrofion erchyll Ynysoedd y Marshall. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r sment yna yn cracio yn barod, efo deunydd ymbelydrol yn llifo i mewn i’r Mor Tawel. Does dim technoleg yn bodoli i fynd i’r afael â'r gwastraff sydd yn ymbelydrol am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Wrth gwrs, does dim rhaid imi sôn am Chernobyl, Fukushima, Three Mile Island neu Windscale, ond, nôl yn 1993, roedden ni o fewn dim i ychwanegu un enw arall at y rhestr o ddamweiniau niwclear trychinebus: Wylfa. Dyma oedd pennawd The Times ar fis medi 1995:
'Roedd adweithydd niwclear yn wynebu ymdoddiad. Gorsaf bŵer Wylfa yn Ynys Môn.'
A hynny ar ôl i ddarn o bwysau y grab ddisgyn i mewn i graidd un o'r adweithyddion, a neb yn sylwi am oriau. Mae'n rhaid inni gyfrif ein hunain yn andros o lwcus.
Newid hinsawdd ydy’r ddadl arall dros gyfiawnhau niwclear. Mae newid hinsawdd yn digwydd o flaen ein llygaid, ac mae’n rhaid cymryd camau ar frys i wirdroi y niwed sydd yn digwydd. Mae gennym ni saith mlynedd yn unig er mwyn atal y byd rhag cynhesu i ddwy radd dros y tymheredd ydoedd cyn yr oes ddiwydianol. Mae'n rhaid gweld datgarboneiddio ar raddfa eang a sydyn, felly. 'Niwclear ydy’r ateb' medd y Llywodraethau, ond peidiwch â chredu'r hype. All niwclear ddim chwarae yr un rhan yn yr ymgyrch i ddatgarboneiddio sydyn. Edrychwch ar Hinkley Point C, er enghraifft. Fe gyhoeddwyd y prosiect yma nôl yn 2010. Cafodd ei drwyddedu ddwy flynedd wedyn yn 2012, a dechreuwyd ar y gwaith yn 2017. Mae’r cynllun eisoes ddwy flynedd ar ôl amser, ac mae’n debygol na fydd yn cael ei gomisiynu tan o leiaf 2030, gan gostio o leiaf £8 biliwn yn fwy na'r gyllideb wreiddiol. Bydd cost yr un atomfa yma yn unig tua £30 biliwn. Hyd yn oed pe cychwynnir ar y gwaith o gomisiynu’r wyth atomfa yr addawodd Boris Johnson, neu’r 11 atomfa a addawodd Tony Blair, yfory, yna byddai’n 2033, ar y gorau, cyn y gwelwn ni’r un wat o drydan yn dod allan ohonyn nhw.
Yn wir, wrth feddwl am drafferthion Hinkley C, mae’n werth nodi fod ymchwil prifysgol Aarhus yn dangos mai dyma'r norm. Mae 97 y cant o brosiectau atomfeydd niwclear y byd yn mynd dros amser, gan gymryd 64 y cant yn fwy o amser i’w hadeiladu a chostio 117 y cant yn fwy na’u cyllidebau gwreiddiol. Dydy hyn heb ystyried yr atomfeydd modiwlar bach newydd, yr SMRs, sy'n cael tipyn o sylw, ond eto, does na'r un ohonyn nhw wedi cael eu hadeiladu, ac hyd yn oed yr un ohonyn nhw wedi cael eu drwyddedu. Bydd yn flynyddoedd cyn inni weld y dechnoleg yma yn weithredol, ac yn wir, mae gwaith prifysgol Stanford a British Columbia yn dangos y bydd atomfeydd modiwlar bach yn fwy budr na'r rhai confensiynol.
Dros y ddegawd a hanner diwethaf, rydyn ni wedi gweld biliynau o bunnoedd o bres cyhoeddus yn llifo i mewn i gwmnïau niwclear, er mwyn gwneud ymchwil ar sail addewidion mawr, ond nid ydynt wedi delifro dim, ac yn y cyfamser, mae newid hinsawdd yn mynd rhagddi yn gynt nag erioed. Ond mae gennyn ni dechnoleg aeddfed eisoes yn bodoli, er mwyn datblygu ynni adnewyddadwy, a hynny drwy ddefnyddio’r gwynt, yr haul, llanw a thrai, ac mae’r gallu yno i gomisiynu y rhain mewn llai na phum mlynedd. Felly pam nad ydyn ni'n gweld y biliynau yma yn mynd at dechnoleg aeddfed, gan ddangos ein bod ni'n wirioneddol o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â newid hinsawdd? A pham fod yna gymaint o sôn, felly, am niwclear, efo'r biliynau yma'n cael ei fuddsoddi ynddo? Wel, dyma pam: mae'r wladwriaeth hon wedi bod yn flaenllaw wrth ddatblygu arfau niwclear erioed. Roedd y wladwriaeth hon yn bartner allweddol yn y Manhattan project, er enghraifft. Ers y cychwyn, mae'r wladwriaeth hon wedi cuddio datblygiadau niwclear militaraidd y tu ôl i ddatblygiadau niwclear sifil. Calder Hall oedd yr atomfa gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol oedd i fod i gynhyrchu trydan oedd mor rhad â baw. Y gwir ydy mai ffatri cynhyrchu plwtoniwm oedd o. Mae hyn bellach yn ffaith gyhoeddus, ar ôl i Lywodraeth yr Unol Daleithiau gyfaddef iddynt ddefnyddio plwtoniwm o Calder Hall ar gyfer un o'u bomiau yn Nevada a llawer iawn mwy.
Yn 2009, fe gyhoeddodd adran ynni Llywodraeth UDA fod atomfa Trawsfynydd wedi cynhyrchu dros 3.6 tunnell metrig o weapons-grade plwtoniwm yn ystod ei oes weithredol. Ond, mae'r wladwriaeth bellach wedi colli'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer niwclear militaraidd, ac mae'n rhaid iddyn nhw ail-lenwi'r pwll hwnnw o bobl gwbl dalentog a all wneud y gwaith affwysol o gymhleth sydd ei angen i ddatblygu llongau tanfor a llongau arfor niwclear ac arfau niwclear.
Bwriad y sôn cyson yma am niwclear, felly, ydy er mwyn cael y gweithlu talentog yma i fynd i'r sector a throsglwyddo sgiliau hanfodol o'r sifil i'r militaraidd. Dwi ddim yn rhyddhau unrhyw gyfrinachau yma—dim ond datgan ffeithiau sydd yn gyhoeddus erbyn hyn. Dyma eiriau Tom Samson, prif weithredwr adran SMR Rolls-Royce:
'Byddai datblygu adweithydd modiwlar bach yn y DU hefyd yn helpu Rolls-Royce i gynnal galluoedd y DU ar gyfer rhaglen forwrol niwclear filwrol y wlad'.
Neu, dyma eiriau o daflen hyrwyddo SMR Rolls-Royce:
'Un defnydd penodol ar gyfer y dalent a ddatblygwyd drwy raglen adweithyddion modiwlar bach y DU fyddai yn y gwaith parhaus o gynnal ataliaeth niwclear annibynnol y DU.'
Neu, beth am eiriau Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wrth drafod eu polisi niwclear?
'Bydd y llywodraeth yn gweithio gyda'r sector i alluogi rhaglenni pwrpasol sy'n cefnogi'r broses o drosglwyddo rhwng sectorau, gan gynnwys y sector sifil a'r sector amddiffyn'.
Blaenoriaeth y wladwriaeth ydy cael gweithlu dawnus yn y sector niwclear er mwyn medru cynnal a chadw'r rhaglen Dreadnought newydd ar lannau'r Clyde, ac er mwyn darparu llongau niwclear ar gyfer y cytundeb AUKUS. A pheidiwch ag anghofio bod Boris Johnson wedi codi'r cap ar y nifer o arfau niwclear yma, gan eu cynyddu o 160 i 240. Nid yw'r gyllideb filitaraidd yn ddigon i gynnal neu i ddatblygu'r llongau ac arfau militaraidd drudfawr yma. Felly, wrth daro strike price uchel ar gyfer trydan o atomfeydd niwclear, mae biliynau o bunnoedd o'n pres ni, y defnyddiwr trydan, yn mynd yn anuniongyrchol i dalu am gynnal y sector niwclear militaraidd.
Ddoe, fe wnaethom ni ddathlu 40 mlynedd o Gymru ddi-niwclear. Gadewch i ni beidio bod yn rhan o fwriadau Llywodraeth San Steffan i gynnal a chynhyrchu hyd yn oed mwy o arfau niwclear dinistriol. Gadewch i ni ddatgan yn glir y bydd Cymru yn parhau i fod yn Gymru ddi-niwclear er lles heddwch a phobloedd y byd heddiw ac yfory. Diolch.
Diolch, Mabon, am roi munud o'ch amser i mi ar gyfer y ddadl bwysig hon. Mae gwneud ein systemau ynni'n gynaliadwy yn un o heriau ein cyfnod ni. Fel yr argyfwng hinsawdd, mae'n her sy'n cyrraedd y tu hwnt i'n ffiniau, felly mae'n rhaid i ddod o hyd i ateb fod yn dasg ryngwladol. Mae niwclear yn ddadleuol ac o bosibl yn beryglus, ac mae'n hollti barn. Rhaid inni fod yn onest gyda ni'n hunain am y byd rydym yn byw ynddo, un sy'n rhy aml yn llawn rhaniadau, trais a rhyfel. Fel y gwelsom eleni yn Wcráin, ni fwriadwyd i bwerdai niwclear fodoli mewn ardaloedd rhyfel, ond ni allwn byth fod yn hyderus na fyddant yn dod yn rhan o un.
Ddegawdau yn ôl, dau o'r rhesymau pennaf dros ofal wrth fuddsoddi mewn technoleg yn y DU oedd yr amser a'r costau a oedd yn gysylltiedig â'i ddatblygiad, a heddiw, mae'r un dadleuon yn union yn cael eu gwneud i fygu buddsoddiad mewn technolegau adnewyddadwy sy'n ystyriol o'r hinsawdd ar gyfer y dyfodol, fel hydrogen gwyrdd ac ynni'r llanw. Yn hytrach nag ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol, mae'n bryd cydweithio'n fyd-eang i greu dyfodol gwirioneddol wyrdd ac adnewyddadwy. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mabon ap Gwynfor am roi munud o'i amser i mi yma heddiw? Rwy'n sylweddoli efallai fy mod ar dudalen wahanol i Mabon, a wnaeth y pwyntiau sydd wedi eu codi yma, ond mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn gwrando a deall rhai o safbwyntiau pobl eraill ynghylch ynni niwclear. Fe wneuthum nodi bod cydnabyddiaeth eithaf cyflym ar ddechrau eich cyfraniad i lwyth sylfaenol, ond rwy'n credu bod hwnnw'n fater hanfodol y mae angen inni ei ddeall oherwydd bod llawer o waith da'n digwydd mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, ond yr unig un o'r technolegau adnewyddadwy a all ddarparu'r llwyth sylfaenol hwnnw yw ynni'r llanw, ac nid ydym yn gweld y cynnydd hwnnw ar y raddfa y dylai ddatblygu ar hyn o bryd. Mae pethau da am ffermydd gwynt a phethau da am dechnoleg solar hefyd, ond nid yw'r rheini, fel y gwyddom, yn ddibynadwy ar gyfer sicrhau bod gennym lif cyson o drydan ac ynni i'n grid. Ac rydym wedi gweld hyn yn yr Almaen, onid ydym, lle maent yn aml yn cael eu canmol am symud oddi wrth niwclear a thuag at ynni adnewyddadwy. Dim ond 49 y cant o'u hynni yn yr Almaen y mae ynni adnewyddadwy'n ei gyfrannu o hyd ac mewn gwirionedd, mae traean o'u hynni'n dal i gael ei gynhyrchu gan orsafoedd pŵer wedi eu tanio gan lo, ac nid yw honno'n sefyllfa rydym am fod ynddi ar gyfer sicrhau bod y llwyth sylfaenol yno. Felly, byddwn yn dadlau bod niwclear yn brofedig a bod modd ei gyflenwi a'i fod yn darparu llwyth sylfaenol y gallwn ddibynnu arno yma yng Nghymru.
Ail bwynt—. Rwy'n derbyn mai dim ond munud ydyw; mae'n amser byr iawn, onid yw? Ond mae yna frys hefyd i symud tuag at greu trydan sy'n garbon niwtral a brys i symud oddi wrth ddibyniaeth ar wladwriaethau fel Rwsia i gyflenwi nwy. Ac unwaith eto byddwn yn dadlau bod niwclear yn ein galluogi i wneud hynny mewn ffordd sy'n gynt na thechnolegau eraill, i fod yn fforddiadwy, yn ddi-garbon ac yn ddibynadwy yn y dyfodol. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r un funud ac rwy'n gwerthfawrogi eich amser. Diolch.
A gaf innau hefyd ddiolch i Mabon am roi munud o'r ddadl hon i mi ac am yr hyn a ddywedodd yn flaenorol? Ers Calder Hall ym 1956, rydym wedi mynd drwy nifer fawr o fathau o adweithyddion niwclear—Magnox, adweithydd dŵr dan bwysau, uwch adweithyddion a gâi eu hoeri gan nwy, ac erbyn hyn yr adweithydd niwclear cenhedlaeth 3+ arfaethedig yn Sizewell C. Pan fydd technolegau'n datblygu, dylai costau leihau. Dylent leihau'n gyflym. Nid felly y bu hi gyda niwclear. Yr hyn sydd wedi nodweddu pŵer niwclear yw problemau—gorwario ar waith adeiladu, cynnal a chadw a phroblemau camweithredu sy'n fwy costus na'r disgwyl, cost ymdrin â deunydd gwastraff niwclear, dod o hyd i ffordd o storio deunydd gwastraff niwclear. Mae hyn yn atgoffa am dechnoleg arall y dyfodol yn y 1960au a'r 1970au—y bydd y bobl sy'n ddigon hen yn ei chofio—yr hofranfad. Ers hynny, mae faint o danwydd a ddefnyddiant a'r costau cynnal a chadw wedi golygu nad yw eu defnydd yn ymarferol mwyach. A nawr, fel yr hofranfad, mae'n bryd dweud 'na' wrth ynni niwclear ac 'ie' wrth ynni adnewyddadwy.
Galwaf ar Weinidog yr Economi i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl hon ac am y cyfraniadau eraill. Rwy'n croesawu'r ddadl fel cyfle i nodi pwysigrwydd y sector niwclear yng Nghymru, ond hefyd i gydnabod, o'm safbwynt i, y cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud i gynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a helpu i greu swyddi. Rwy'n derbyn bod gennyf bersbectif gwahanol i Mabon ap Gwynfor ar y pwynt hwn.
Hoffwn ddatblygu'r pwynt yn gyntaf am yr honiad fod yna ffydd ddall wrth gefnogi technoleg niwclear. Mae hynny'n awgrymu bod pobl sy'n cefnogi cenhedlaeth arall o bŵer niwclear neu ecsbloetio niwclear yn anwybyddu cyfyngiadau a heriau amlwg y dechnoleg, ac yn benderfynol o gefnogi cynhyrchiant pŵer niwclear er gwaethaf y pryderon am ddiogelwch a rheoli gwastraff. Ni allai dim fod ymhellach o'r gwir. Mae'n rhaid i gefnogwyr ynni niwclear heddiw fod yn bragmatyddion a phenderfynu a ydym yn credu y gellir cyflawni sero net neu beidio gyda niwclear yn rhan o'r cymysgedd ynni ehangach. Rwy'n credu ei fod yn rhan o'r cymysgedd ynni ehangach sydd ei angen. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod pryderon yn parhau am ddiogelwch a rheoli gwastraff, a byddai'n rhaid mynd i'r afael â'r rheini, ac fe ddylid mynd i'r afael â hwy mewn modd agored a thryloyw.
Rwy'n deall yr awgrym mai technoleg sy'n heneiddio, technoleg ddoe, yw niwclear am ein bod wedi bod yn cynhyrchu trydan o ffynonellau niwclear ers tua 60 mlynedd. Wel, os mai hyd amser y dechnoleg sy'n bwysig, efallai na fyddwn bellach yn cefnogi ynni gwynt neu ddŵr, oherwydd o genedlaethau cynharach y technolegau hynny, gwelwn y rheini'n gwella ac yn datblygu. Mae cynhyrchu trydan o ynni gwynt yn arloesedd cymharol ddiweddar ac mae'n dangos nad yw datblygiadau technolegol o reidrwydd yn gyfyngedig i dechnolegau newydd. Mae technoleg niwclear ei hun yn esblygu'n gyson, ac ymhell o fod yn dechnoleg ddoe sy'n heneiddio, rwy'n dal i feddwl—ac yn wir mae nifer o arbenigwyr eraill yn credu hynny hefyd, yn wahanol i'r rhai y mae Mabon wedi'u dyfynnu—ei bod yn dechnoleg ar gyfer ein taith i yfory, yn enwedig pan ystyrir y cynnydd ym maes ymasiad niwclear. Rwy'n credu y byddai cefnogwyr adweithyddion modiwlar bach yn dweud ei bod yn dechnoleg aeddfed rydych chi'n ei deall ac mewn gwirionedd, nid yw adweithyddion modiwlar bach, y byddaf yn siarad amdanynt yn nes ymlaen, angen y math o heriau sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad sylweddol y mae pŵer niwclear ar raddfa fwy yn ei angen.
Nawr, mae ymasiad niwclear, os gallwn ei ddatblygu, yn cynnig cynhyrchiant sylweddol o feintiau masnachol yn y dyfodol gyda llawer llai o broblemau'n gysylltiedig â diogelwch a rheoli gwastraff na'r rhai sy'n gysylltiedig ag ymholltiad. Fodd bynnag, mae gwaith i'w wneud o hyd i brofi'r defnydd o ymasiad, ac yn y cyfamser mae ymholltiad yn parhau i gynnig modd profedig o gynhyrchu llwyth sylfaenol mawr o drydan carbon isel sydd ar gael bob amser.
Nawr, ar ein hagenda sero net, mae sero net a diogelwch ffynonellau ynni yn canolbwyntio ar ddefnyddio niwclear ac ynni adnewyddadwy gyda'i gilydd i gynnal y newid i ynni carbon isel, ac rydym i gyd yn derbyn y realiti fod angen mwy o waith ar ddatgarboneiddio'r cyflenwad pŵer yng Nghymru ac ar draws y DU, ac rydym wedi gweld bod cymheiriaid yn yr Almaen yn gaeth i sefyllfa lle maent yn dal i ddibynnu ar bŵer glo, sydd, yn fy marn i, yn fygythiad sylweddol ac uniongyrchol i ddyfodol y blaned. Rhai o'r prif resymau pam fod y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi defnydd o niwclear yw ei bod yn ffynhonnell o ynni carbon isel. Mae'n ffynhonnell ynni bwerus, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol ar gyfer y newid carbon isel. Mae'n ynni cyson y gellir ei reoli. Mae'n darparu trydan 24/7 parhaus a gellir ei addasu i amrywiadau yn y galw am drydan. Nid yw hyd yn oed patrymau dibynadwy ynni llanw yn darparu ynni sydd ymlaen drwy'r amser, ac mae'n dal i fod angen inni gynhyrchu llawer mwy o dechnoleg ar gyfer storio pŵer llanw, ac rwy'n awyddus ein bod yn parhau i wneud hynny.
Mae'n gystadleuol yn yr ystyr fod pŵer niwclear yn un o'r ffynonellau lleiaf drud i'w gynhyrchu. Yn Ffrainc, mae tua 70 y cant o'i thrydan yn cael ei gynhyrchu o niwclear. Yr her yw'r costau adeiladu a'r costau datgomisiynu. Ac rwy'n credu ei fod yn ynni a fydd yn ein helpu i gyrraedd y dyfodol rydym ei eisiau. Erbyn hyn mae gennym 8 biliwn o bobl yn byw ar y blaned, ac mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd eraill o'n helpu i gynhyrchu digon o bŵer i bawb ohonom allu goroesi gyda safon byw o'r ansawdd rydym yn ei ddisgwyl, ac y mae eraill yn ei ddisgwyl, gan fod yn garbon niwtral ar yr un pryd. Rwy'n deall yr hyn a oedd gan Mabon i'w ddweud, ond rwy'n credu bod yna achos go iawn y mae'r Llywodraeth hon yn ei dderbyn nad ydym yn debygol o allu gwneud hynny heb ragor o fuddsoddiad mewn pŵer niwclear. Mae hefyd yn cael ei gydnabod, yn yr ystyr honno, gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol pan fyddant yn edrych ar ynni adnewyddadwy a phŵer niwclear, fod gofyn cael peth llwyth sylfaenol o bŵer niwclear er mwyn cyrraedd dyfodol mwy cyflawn, a chwbl adnewyddadwy.
Mae Wylfa a Thrawsfynydd yng Nghymru wedi cefnogi tua 800 i 900 o swyddi hirdymor sy'n talu'n dda ers 50 mlynedd a mwy, yn ogystal â channoedd yn fwy yn y gadwyn gyflenwi leol, ac wrth gwrs mae'r rhain yn gymunedau lle nad oes cyfleoedd eraill mewn ardaloedd mwy adeiledig gyda phoblogaethau mwy o faint. Ac mae rhywbeth yma am sicrhau bod cyfleoedd economaidd mewn rhannau o Gymru sydd heb ganolfannau poblogaeth mawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru'n credu y dylai rhanbarthau a chymunedau lleol sydd â phrosiectau seilwaith niwclear sicrhau budd economaidd y tu hwnt i'r swyddi uniongyrchol ar y safle. Dyna ran o'r rheswm pam y gwnaethom sefydlu Cwmni Egino yn 2021, i fynd ar drywydd cyfleoedd sy'n gysylltiedig â Thrawsfynydd. Mae'r rheini'n cynnwys y gwaith parhaus ar ddatgomisiynu y mae Mabon ap Gwynfor eisoes wedi'i grybwyll. Nawr, mae'r swyddi hynny'n dal i gael eu cefnogi, ac mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ennill mwy o'r gadwyn gyflenwi, ac mae Trawsfynydd eisoes wedi dod yn ganolfan de facto ar gyfer rhagoriaeth datgomisiynu ar draws ystad Magnox. Mae wedi bod yn ganolfan arweiniol ac yn ganolfan ddysgu ers amser maith ar sut i ymdrin â materion datgomisiynu cymhleth—er enghraifft, trin resinau halogedig a malurion elfennau tanwydd. Dyma hefyd y safle cyntaf arfaethedig ar gyfer datgomisiynu arloesol, parhaus. Byddai hynny'n golygu dymchwel a symud adeiladau adweithyddion yn llwyr fel rhan o'r datgomisiynu parhaus, yn hytrach nag mewn 60 mlynedd yn dilyn cyfnod o ofal a chynnal a chadw ac oeri'r adweithyddion.
Felly, rydym yn edrych eisoes ar beth a all ddigwydd ac yn gweld Trawsfynydd fel cyfle i wneud hynny. Roedd adroddiad gan Arup ar gyfer Cwmni Egino ar ddiwedd 2020 ynghylch y buddion posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol o Drawsfynydd yn tybio, gyda dull datgomisiynu parhaus, y gallai'r galw am swyddi yn y dyfodol godi y tu hwnt i 2025, gan gyrraedd uchafbwynt o tua 600 yn y cyfnod rhwng 2030 a 2035, cyn gostwng ar ddiwedd y cyfnod datgomisiynu hwnnw.
Ar adweithyddion modiwlar bach, credaf ein bod ar y trywydd iawn i weld cyfleoedd posibl, nid yn unig gyda Chwmni Egino, ond o bosibl, bydd hefyd yn drosglwyddadwy i'r safle arall yn Wylfa. Mae yna her o ran y gallu i barhau i adeiladu ar adweithyddion modiwlar bach ar un safle er mwyn gallu adeiladu'n gyflymach, ond hefyd a allwch reoli costau mewn ffordd wahanol wrth wneud hynny. Mae'n un o'r honiadau sydd angen eu profi. Ond mae cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud ar drafodaethau prydles y safle o gwmpas Trawsfynydd ers inni greu Cwmni Egino, a bydd yr ymarfer ymgysylltu cynnar â'r farchnad gyda thechnolegau posibl yn dod i ben cyn y Nadolig. Byddwn mewn sefyllfa lawer cliriach ar ôl i'r ymarfer hwnnw gael ei wneud. Dylai hynny arwain at argymhelliad ar ddau neu dri thechnoleg y bydd Cwmni Egino yn ymwneud ymhellach â hwy, ac yn ceisio cael trafodaethau pellach gyda Great British Nuclear. Byddai hefyd yn helpu, wrth gwrs, pe bai cenhadaeth gliriach ar gyfer yr hyn fydd Great British Nuclear a'r hyn na fydd. Ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod sydd ar y ffordd yn weddol fuan gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i geisio deall pryd y bydd yr eglurder hwnnw'n cael ei ddarparu.
Mae cost prosiect adweithydd modiwlar bach o'i gymharu â phrosiect ar raddfa gigawat yn swm sylweddol is. Dylai fod yn fwy hylaw o ran y risg is i gost cyllid, ac yn wir y cyflymder a'r rhagolygon ar gyfer cyflawni. Ac unwaith eto, ystyriodd adroddiad Arup oblygiadau defnyddio adweithyddion modiwlar bach, ynghyd â chyfleoedd gweithgynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi, ac maent yn amcangyfrif y bydd yr uchafbwynt mewn cyflogaeth ar ddiwedd y 2020au, yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda dros 2,500 o weithwyr ar y safle, a gweithlu comisiynu a gweithredol o tua 450 o swyddi mwy hirdymor ar y safle o ddechrau'r 2030au. Nawr, byddai hynny'n amlwg yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar yr economi leol yn Nwyfor Meirionydd, ond ar draws y rhanbarth ehangach. Mae'n debygol y bydd pobl yn teithio o rannau eraill o ogledd-orllewin Cymru ar gyfer hynny. Yr amcangyfrif a roddir yw gwerth ychwanegol gros amcangyfrifedig ar gyfer gogledd-orllewin Cymru o £41.6 miliwn, a £133 miliwn ar draws economi gogledd Cymru.
Nawr, rwy'n cydnabod bod Mabon ap Gwynfor hefyd wedi cyffwrdd â rhai o'r materion sy'n ymwneud ag adweithydd ymchwil radioisotop meddygol, a chyda phob parch, rwy'n anghytuno â'i honiad nad oes lle i adweithydd modiwlar bach ac adweithydd ymchwil radioisotop meddygol ar safle Trawsfynydd. Mae'n darparu cyfle sylweddol i gyfleuster cynhyrchu radioisotop meddygol. Mae isotopau o safon feddygol yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser, ac mae ymchwil yn dangos, er bod y galw'n uwch, mae eu cynhyrchiant yn lleihau. Roedd gennyf ddiddordeb yn yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud am safleoedd posibl yn yr Almaen. Yr ymarfer rwyf fi wedi ei gyflawni gyda swyddogion yma yn Llywodraeth Cymru, ac eraill yn wir, yw nad ydym yn rhannu ei optimistiaeth y bydd safleoedd yn yr Almaen yn barod mewn pryd i ateb yr holl alw ar gyfer ein systemau iechyd a gofal ein hunain a hefyd cyfleusterau ymchwil eraill posibl. Nawr, ein barn ni yw mai Trawsfynydd yw'r safle delfrydol yn y DU ar gyfer adweithydd ymchwill radioisotop meddygol. Ymhell o fod yn dechnoleg ddoe, ein barn ni yw bod y prosiectau a'r rhaglenni hyn sy'n gysylltiedig â'r sector niwclear sy'n targedu technoleg heddiw ac yfory, yn cynnig cyfleoedd mawr eu hangen a dilys ar gyfer cynhyrchu ynni a chanlyniadau iechyd fel ei gilydd.
Rwy'n cydnabod gwrthwynebiad parhaus a chyson Mabon i bŵer niwclear newydd. Nid wyf yn gweld bod pŵer niwclear yn atal buddsoddiad sylweddol a pharhaus yn nyfodol ynni adnewyddadwy. Rwy'n awyddus iawn inni wneud y ddau beth. Rydym yn gweld niwclear fel llwybr at ddyfodol lle na fyddwn ei angen yn y dyfodol hwnnw. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd dyfodol pŵer niwclear ac ymchwil radioisotop, ynghyd â dyfodol ynni adnewyddadwy i Gymru, ac rwy'n optimistaidd y gwelwn fanteision economaidd sylweddol wrth wneud hynny.
Diolch i'r Gweinidog, a diolch, pawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.