4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd mewn achosion o grŵp A streptococcus mewn ysgolion? TQ695
Mae heintiau strep A yn achosi nifer o afiechydon plentyndod cyffredin. Nid yw'n anarferol gweld achosion yn gysylltiedig â meithrinfeydd ac ysgolion. Mae meithrinfeydd ac ysgolion wedi cael arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae rhieni plant sâl yn cael eu cynghori i ofyn am gyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
Diolch, a diolch yn fawr i'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd am ganiatáu'r cwestiwn amserol hwn heddiw, a diolch am ymateb cychwynnol, Weinidog, a diolch am y datganiad ysgrifenedig neithiwr, er fy mod yn gwybod bod llawer ar draws y Siambr hon yn siomedig na chafodd datganiad ar lafar ei wneud ddoe, fel y byddai cyfle i Aelodau ar draws y Siambr ofyn cwestiynau ar hyn. Wrth gwrs, mae'n bwysig ei fod yn cael ei drafod yma heddiw, felly diolch eto. Ac wrth gwrs, mae'n hanfodol bwysig fod rhieni a gofalwyr pryderus ledled Cymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyfredol. Mae'n amlwg fod yna bryder, gyda naw o blant wedi marw ar draws y DU, ac un o'r rheini yng Nghymru, ac rydym yn cydymdeimlo â'r teuluoedd sydd wedi colli plentyn. Ac rwy'n credu ei fod newydd gael ei gyhoeddi yn y newyddion diweddaraf fod clwstwr o achosion wedi bod yn sir Gaerfyrddin, gyda dau blentyn yn ddifrifol wael a 24 achos o'r dwymyn goch wedi eu cofnodi yn yr ysgol gynradd yno.
Weinidog, mae'n amlwg yn hanfodol nad ydym yn achosi unrhyw fath o banig, ond mae'n bwysig fod ysgolion a meithrinfeydd yn wyliadwrus iawn a bod ymwybyddiaeth gyffredinol o beth y dylid ei wneud a pha gamau y dylid eu cymryd. Ac ar hynny, hoffwn ofyn i chi sut rydych yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol iawn o beth i'w wneud a pha gamau i'w cymryd i leihau lledaeniad strep A, a beth yw'r protocol iddynt pan fydd hyn yn digwydd; byddai'n ddefnyddiol gwybod.
Roedd yna bryder hefyd wrth gwrs ynglŷn â faint o wrthfiotigau sydd ar gael, ac rwy'n credu eich bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, felly byddai'n dda cael diweddariad. Rwyf hefyd yn deall y rheswm pam y bydd gwrthfiotigau'n cael eu rhoi i ysgolion cyfan os oes achos wedi'i brofi yno, ond ceir peth pryder dealladwy ymhlith y proffesiwn meddygol ynglŷn â rhoi gwrthfiotigau i blant a allai fod yn iach, oherwydd, wrth gwrs, rydym eisiau atal plant iach rhag cael gwrthfiotigau a sicrhau eu bod ond yn cael cyn lleied â phosibl ohonynt pan fyddant yn iau fel nad ydynt yn datblygu imiwnedd iddynt.
Mae fy nghyd-Aelod Altaf Hussain hefyd wedi dweud efallai y byddai'n syniad da i ysgolion sy'n cael eu heffeithio yn y ffordd rwyf newydd ei hamlinellu gael mynediad at bediatregydd yn syth i gadarnhau'r diagnosis ac i weld a oes angen iddynt gael y gwrthfiotigau hynny mewn gwirionedd, yn hytrach na dull cyffredinol. Ond byddwn yn gwerthfawrogi clywed eich barn ar hynny, oherwydd rwy'n deall, yn amlwg, pam y byddai rhieni yn arbennig yn debygol o fod eisiau i'w plant eu cael. Ond yn ymarferol, a fyddai hynny hyd yn oed yn bosibl gyda nifer y pediatregwyr sydd gennym yng Nghymru?
Roeddwn eisiau gofyn un cwestiwn arall: ar hyn o bryd, a fydd unrhyw un sy'n mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys gyda symptomau strep A yn cael mynediad ar unwaith at bediatregwyr neu a fyddant yn gorfod aros yr amseroedd arferol yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys. Diolch, a diolch eto am gyflwyno'r mater hwn.
Diolch yn fawr. A gaf fi ychwanegu fy mod innau hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r teulu sydd wedi colli plentyn yn ddiweddar? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall pryder gwirioneddol llawer o rieni heddiw oherwydd y cynnydd a welwn mewn achosion o strep A yn ein cymunedau.
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor i ysgolion a meithrinfeydd ddiwedd mis Tachwedd. Dylai staff fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o'r haint hwn mewn plant sy'n sâl gyda thwymyn, dolur gwddf neu frech. Felly, mae'r cyngor hwnnw wedi'i ddarparu eisoes. Cynghorir rhieni plant sâl i ofyn am gyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
Bydd gofyn i blentyn sydd wedi cael y dwymyn goch gadw draw o'r lleoliad am 24 awr ar ôl dechrau triniaeth wrthfiotig briodol. Lle ceir dau neu fwy o achosion o'r dwymyn goch mewn lleoliad o fewn yr un cyfnod o 10 diwrnod, gofynnir i ysgolion a meithrinfeydd hysbysu'r tîm diogelu iechyd lleol am arweiniad pellach. Ar y pwynt hwnnw, byddant yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag a oes angen rhoi gwrthfiotigau i'r dosbarth cyfan neu i'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad agos yn unig. Yn amlwg, byddant yn gwneud asesiad i weld a oes angen pediatregydd bryd hynny.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni ddeall bod graddau yma, ac yn amlwg nid yw ond yn wirioneddol beryglus pan fo pethau'n mynd yn gymhleth iawn. Pan gewch strep A ymledol, dyna pryd y mae gwir angen inni fod yn bryderus. Ond yn amlwg, mae cymryd y gwrthfiotigau hynny ar adeg briodol yn golygu y gall pobl gael cymorth.
O ran prinder gwrthfiotigau, y newyddion da yw y gall pob un o'r afiechydon cymharol ysgafn a achosir gan strep A gael eu trin â gwrthfiotigau cyffredin. Yn amlwg nawr rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am wrthfiotigau i drin yr achosion tybiedig o strep A, ac mae hynny wedi arwain at brinder stoc i rai fferyllfeydd yng Nghymru. Nawr, rydym yn hyderus fod cyflenwyr yn gweithio i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyflenwi, ac os yw pobl yn cael trafferth cael presgripsiwn yn lleol, efallai y bydd angen iddynt ymweld â fferyllfa wahanol, ac os ydynt yn dal i fethu cael gafael arnynt, gallant fynd yn ôl at y meddyg teulu a gallant bresgripsiynu triniaeth amgen. Felly, rydym yn gweithio gyda thîm cyflenwi meddyginiaethau Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr fod gan fferyllfeydd Cymru y cyflenwadau sydd eu hangen arnynt.
Diolch am yr ymateb yna gan y Gweinidog. Roeddwn i eisiau gofyn hefyd ynglŷn â'r prinder o dabledi gwrthfiotig. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael ateb eithaf cynhwysfawr yn fanna gan y Gweinidog. Dau gwestiwn arall gen i, eto ynglŷn â'r cyfathrebu. Roeddwn yn falch o weld y datganiad yn dod neithiwr. Dwi wedi rhannu hwnnw ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i, yn fy etholaeth i, a dwi'n siŵr bod Aelodau eraill yn gwneud yr un fath, ac mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni mewn ysgolion. Ond beth ydy'r cynllun cyfathrebu wrth symud ymlaen? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall bod yna gynllun cyfathrebu mewn lle i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n gyson, oherwydd dydy'r pryder yma ddim yn mynd i fynd i ffwrdd. A'r elfen olaf dwi eisiau holi amdani ydy'r pwysau ychwanegol, dwi'n deall, sydd yna ar adrannau brys mewn ysbytai. Oherwydd diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth o bosib, mae'n berffaith hawdd deall pam y byddai mwy o rieni yn mynd â'u plant i adrannau brys pan fo yna unrhyw arwydd o rywbeth maen nhw'n bryderus ynglŷn ag o, ond, os ydy hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar yr adrannau brys hynny, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod yna gymorth ychwanegol yn cael ei roi i alluogi ysbytai i ddelio ac i ymdopi efo hynny?
Diolch yn fawr. Wel, Public Health Wales sy'n arwain ar wneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Dwi wedi cysylltu â nhw heddiw, jest i ofyn iddyn nhw symleiddio'r iaith, achos dwi'n meddwl, ambell waith, mae'n mynd yn rhy dechnegol. Mae pobl yn camddeall efallai'r gwahaniaeth rhwng beth yw strep A a iGAS, ac mae pobl yn defnyddio termau nad yw'r cyhoedd yn eu deall. Felly, dwi wedi gofyn iddyn nhw ail-edrych ar hynny. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig hefyd deall bod scarlet fever yn digwydd ym Mhrydain fel arfer, ond beth rydym ni wedi'i weld yw cynnydd eithaf mawr, a beth sy'n od yw gweld y cynnydd yma adeg hon o'r flwyddyn. So, fel arfer, mae'n digwydd yn y gwanwyn. Beth rydym yn ei weld yw'r cynnydd yma, a'r perygl yw os mae hynny'n digwydd pan fo problemau eraill gyda'r plentyn, so os oes chicken pox arnyn nhw neu rywbeth arall yn digwydd ar yr un pryd. Dyna pryd mae'r cymhlethdodau yn dod.
Mae, wrth gwrs, pwysau mawr ar adrannau brys ar hyn o bryd. Felly, mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn sicrhau bod gan blant ffordd arall o fynd drwy'r system. Beth rydym ni wedi'i weld dros y penwythnos diwethaf oedd cynnydd mawr iawn yn y niferoedd oedd yn ffonio 111 am gymorth. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig bod pobl efallai yn ffonio, achos mae yna wahaniaeth rhwng rhywbeth sy'n syml a rhywbeth sy'n edrych lot fwy cymhleth, ac mae 111 yn gallu helpu pobl drwy'r system i ddeall beth i edrych mas amdano o ran symptomau.
Felly, o ran scarlet fever, dylai pobl fod yn ymwybodol eich bod chi'n sôn am wddwg tost, chi'n sôn am ben tost, fever, nausea, bod yn sick; wedyn beth rydych chi'n ei gael yw rash efallai ar y chest neu ar y bola. Ond beth sy'n digwydd gyda iGAS, sef yr un sydd lot mwy cymhleth, yw wedyn mae eich tymheredd chi yn mynd lan lot; rydych chi'n cael muscle aches. Ac felly mae'n bwysig bod pobl yn deall mai hwnna yw'r cam lle dylen nhw fod yn cael mwy o wybodaeth oddi wrth eu GP lleol nhw.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones am gyflwyno'r mater hwn. Ddoe, ceisiais gyflwyno cwestiwn brys oherwydd fy mod yn cael cymaint o ymholiadau. Mae argaeledd gwrthfiotigau wedi cael ei grybwyll. Fy mhryderon i yw ein bod yn agosáu at gyfnod y gwyliau, ac rwy'n gwybod bod rhieni a neiniau a theidiau a gofalwyr yn bryderus iawn, os yw plentyn yn mynd yn sâl ar hyn o bryd, y gall gymryd peth amser i rai symptomau ddod i'r amlwg. Wrth gwrs, rydym yn y tymor hwnnw, onid ydym, lle mae plant yn mynd yn sâl gydag anhwylderau cyffredin? Felly, mae'n ymwneud â sut y gellir gwahaniaethu rhwng y rheini, ac unwaith eto, ailadrodd na fyddwn, gyda'ch gwaith gyda Llywodraeth y DU, yn mynd yn brin o unrhyw fath o wrthfiotigau ar gyfer pa straen bynnag y gallai fod eu hangen ar ei gyfer.
Hefyd, rwyf wedi clywed am brofiad uniongyrchol un o fy etholwr sydd â dau o blant a fu'n aros yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys am naw awr a hanner. Ar hyn o bryd, mae yna ysbyty yng ngogledd Cymru lle mae'r bwrdd yn dweud bod yna amser aros o 10 awr. Ond roeddent yn poeni cymaint felly fe wnaethant aros, a hynny ond i glywed, 'Fe allech chi fod wedi mynd i weld eich meddyg teulu', ac yna mae rhieni eraill yn dweud wrthyf eu bod yn mynd i weld y meddyg teulu, sy'n dweud, 'Os ydych chi mor bryderus â hynny'—oherwydd mae ein meddygon teulu dan ormod o bwysau hefyd—'byddai'n well i chi fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys.'
Felly, a wnewch chi ddarparu canllawiau clir? Fel fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth, rwyf wedi rhannu eich datganiad, ond rwy'n siŵr fod yna Aelodau eraill nad ydynt yma heddiw a fyddai'n gwerthfawrogi diweddariad, yr wythnos nesaf efallai, ar ein sefyllfa erbyn hynny, oherwydd yn amlwg mae'r niferoedd wedi cynyddu ar draws y DU. Felly, rydym eisiau bod yn siŵr fod pobl yn gwybod yn union beth maent yn ymdrin ag ef, pryd i boeni a phryd i beidio â phoeni, fel petai, pryd i weithredu a phryd i beidio â mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Dyna ni, rwy'n credu. Diolch.
Diolch yn fawr. Fel y nodais yn fy natganiad, cynghorir rhieni sy'n amau bod gan eu plant y dwymyn goch i gysylltu â'u meddyg teulu neu gysylltu ag 111. Mae'r cyfleusterau hynny ar gael ac mae pobl yn eu defnyddio. Byddwn yn awgrymu ar hyn o bryd na ddylent fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, oni bai eu bod yn cael eu cyfeirio gan 111 neu eu meddyg teulu.
Dylwn ddweud fy mod wedi cael cwynion ynglŷn ag oedi gyda 111.
Rwy'n credu ei fod yn bwysig, rydym yn amlwg wedi rhoi llawer o gyllid ychwanegol i 111. Yn amlwg, fel y dywedwch, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn rhedeg allan o'r gwrthfiotigau hynny. Rydym yn credu bod hyn wedi digwydd, o bosibl, oherwydd diffyg cymysgu cymdeithasol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yr hyn rydym yn ei weld nawr yw nifer o achosion o'r haint bacterol cyffredin hwn—gadewch inni beidio ag anghofio, mae hwn yn haint eithaf cyffredin, mae'n rhywbeth y mae llawer o bobl yn byw gydag ef—yn cylchredeg ar yr un pryd â'r ystod eang o heintiau anadlol y gaeaf, ac rydym yn credu mai dyna sydd wedi arwain at y cynnydd yn nifer yr achoson mwy prin a mwy difrifol o glefydau ymledol strep A. Diolch byth, rydym yn dal i fod ar niferoedd eithaf isel, ond nid ydym yn gwybod beth sydd i ddod nesaf, felly mae'n amlwg yn gyfnod pryderus iawn i bobl sydd â phlant ifanc.
Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn ateb y cwestiwn amserol olaf. Rhun ap Iorwerth.