7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau — 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi'

– Senedd Cymru am 4:25 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:25, 7 Rhagfyr 2022

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch Dŵr ac Atal Boddi'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.

Cynnig NDM8157 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2022.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:25, 7 Rhagfyr 2022

Diolch yn fawr. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon—

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:26, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

—ar yr adroddiad, 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch Dŵr ac Atal Boddi'. Fe greodd Leeanne Bartley, sydd yma yn yr oriel heddiw gyda'i gŵr, David, y ddeiseb hon yn dilyn marwolaeth drasig ei mab. Dim ond 18 oed oedd Mark pan fu farw ym mis Mehefin 2018 ar ôl neidio i gronfa ddŵr rewllyd ar ddiwrnod poeth. Mae'r teulu'n credu y gallai fod wedi cael ei achub pe bai cortyn taflu ar gael ger y dŵr y diwrnod hwnnw.

Ddirprwy Lywydd, mae'r ddeiseb yn galw am,

'[G]yfraith Mark Allen: rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru,' ac mae eisoes wedi codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, ar ôl casglu cyfanswm o 11,027 o lofnodion. Mae'n rhan o ymgyrch ehangach a gyflawnwyd gan fam Mark i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau, i addysgu'r cyhoedd ac i ymgyrchu dros weithredu i hybu diogelwch dŵr ac atal boddi.

Yn rhan o'r ymgyrch hon, cyflwynwyd deiseb debyg i Lywodraeth y DU yn galw am ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol i gortynnau taflu gael eu gosod o amgylch crynofeydd dŵr agored, deiseb a gefnogwyd gan dros 100,000 o bobl. Fe'i trafodwyd yn Senedd y DU fis Ionawr y llynedd, heb unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i newid. Rydym yn falch ein bod yn mynd â'r mater hwn ymhellach yng Nghymru. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, rwy'n teimlo'n freintiedig iawn fy mod yn gallu gwrando ar unigolion fel Leeanne a'u cynorthwyo i amlygu heriau a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Yn ystod ymchwiliad y pwyllgor, buom yn edrych yn fanwl ar y materion a oedd yn deillio o'r ddeiseb hon, a chlywsom dystiolaeth gan Diogelwch Dŵr Cymru, cwmnïau cyfleustodau dŵr, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael darlun llawnach o'r cyd-destun, yr heriau a'r camau sydd eu hangen i gynyddu diogelwch dŵr ac atal boddi. Ond yn bwysicaf oll, clywsom gan y deisebydd yn uniongyrchol a chan deuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid drwy foddi. Clywsom am yr effaith ddinistriol y mae trychineb o'r fath yn ei chael ar eu bywydau, ond hefyd am eu penderfyniad cadarn i godi ymwybyddiaeth ac atal colli bywydau drwy foddi yn y dyfodol. Rydym mor hynod ddiolchgar iddynt am eu hamser, eu gonestrwydd a'u parodrwydd i rannu eu trawma fel y gall eraill elwa.

Fe wnaeth ein hadroddiad chwe argymhelliad i Lywodraeth Cymru, a chafodd pump ohonynt eu derbyn gydag un wedi'i dderbyn mewn egwyddor. Os caf siarad am argymhelliad 1 yn gyntaf, rydym yn croesawu'r ffaith y bydd diogelwch dŵr ac atal boddi ym mhortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd nawr er mwyn sicrhau'r arweinyddiaeth a'r cydgysylltiad a fu ar goll am ei fod yn faes sy'n pontio portffolios amrywiol.

Gan droi at argymhelliad 2, roeddwn yn arbennig o falch o glywed gan Diogelwch Dŵr Cymru fod y Gweinidog a'i swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â hwy ac ar hyn o bryd yn ystyried darparu cyllid i roi cymorth penodol i'r sefydliad. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n bosibl cymryd cam sylweddol ymlaen i gyflwyno strategaeth atal boddi yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am hyn gan y Gweinidog.

Os edrychwn ar argymhelliad 3, rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol i ddod â phartïon at ei gilydd ac adeiladu ar y gwaith da a wnaed. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Rhaid gwreiddio rhaglen addysg diogelwch dŵr yn ein system addysg gyda chynllun gweithredu clir ar gyfer cyflwyno er mwyn sicrhau bod pob un o'n plant yn dysgu sut i gadw'n ddiogel yn agos at ddŵr neu yn y dŵr. Galwaf ar y Gweinidog i sicrhau na fydd hyn yn ddewisol, ond yn hytrach, ei fod yn rhan orfodol o addysg yng Nghymru.

Yn ogystal, rwy'n cefnogi'r galwadau gan ymgyrchwyr diogelwch dŵr i bob plentyn gael gwersi nofio, a allai achub eu bywyd wrth gwrs. Rydym wedi clywed tystiolaeth yn ddiweddar gan Nofio Cymru yn y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i gefnogi ei ymchwiliad i'r cyfranogiad y gall—[Anghlywadwy.]—ysgol nofio, ac rwy'n credu bod Jenny Rathbone wedi dod â hyn i'n sylw yr wythnos diwethaf.

Lywydd, roedd argymhelliad 4, a dderbyniwyd mewn egwyddor, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod eglurder ynglŷn â'r isafswm—

Photo of David Rees David Rees Labour 4:30, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn deall nad yw eich microffon yn gweithio ar hyn o bryd, Jack. A wnewch chi aros am eiliad, os gwelwch yn dda?

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

A gawn ni edrych i weld?

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

A yw'n gweithio nawr?

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Ydy, mae'n gweithio nawr, Jack.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Lywydd, af yn ôl at argymhelliad 3—rwy'n credu mai dyna pryd y torrodd allan.

Rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol i argymhelliad 3, i ddod â phartneriaid ynghyd, gan adeiladu ar y gwaith da sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Mae’n rhaid ymwreiddio rhaglen addysg a diogelwch dŵr yn ein system addysg, gyda chynllun gweithredu clir ar gyfer ei chyflwyno er mwyn sicrhau bod pob un o’n plant yn dysgu sut i gadw'n ddiogel ger y dŵr neu yn y dŵr. Galwaf ar y Gweinidog i sicrhau na fydd hyn yn ddewisol, ond yn rhan orfodol o addysg Cymru.

Yn ogystal, rwy'n cefnogi'r alwad gan ymgyrchwyr diogelwch dŵr i bob plentyn gael gwersi nofio, a allai achub eu bywyd, wrth gwrs. Cafodd hyn ei amlygu i’r Senedd gan Jenny Rathbone a’r pwyllgor diwylliant yn ystod tystiolaeth a roddwyd. Amlygodd y dystiolaeth y ffaith, ar ôl COVID-19, mai 42 y cant yn unig o blant ysgol sy’n mynychu’r ysgol yng Nghymru a allai nofio yn 2022.

Lywydd, os caf sôn am argymhelliad 4, a dderbyniwyd mewn egwyddor, roedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau eglurder ynghylch gofynion sylfaenol ar gyfer gwybodaeth ddiogelwch a’r arwyddion sydd eu hangen o amgylch crynofeydd dŵr i gynyddu ymwybyddiaeth o’r peryglon i'r rheini sy'n mynd i mewn i'r dŵr. Nawr, rwy’n deall, ac mae’r pwyllgor yn deall, fod hwn yn faes cymhleth, ac rydym yn croesawu’r camau gweithredu i archwilio hyn ymhellach wrth ddatblygu canllawiau ar gyfer y sefydliadau hynny.

Gan droi at argymhellion 5 a 6, edrych ar godi ymwybyddiaeth ac addysgu’r cyhoedd oedd y neges fwyaf cyson a gawsom gan bawb a roddodd dystiolaeth i’n hymchwiliad. Mae’n gwbl hanfodol, Lywydd. Ac i wneud hynny'n effeithiol, mae'n rhaid inni gydnabod bod diogelwch dŵr ac atal boddi yn rhan o gyd-destun ehangach diogelwch yn yr awyr agored. Mae meddwl a gweithio cydgysylltiedig effeithiol yn allweddol i sicrhau bod y negeseuon diogelwch yn glir, yn gyson, ac yn gallu cynorthwyo pobl i fwynhau awyr agored hardd a heriol Cymru mor ddiogel â phosibl.

I gloi, Lywydd, mae’r pwyllgor yn llwyr gefnogi ymgyrch Leeanne Bartley ac yn gobeithio bod ein hargymhellion yn gwneud rhywfaint i sicrhau nad oes yn rhaid i deuluoedd eraill fynd drwy’r daith ofnadwy honno a ddisgrifiais ar y dechrau. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau gan Aelodau eraill, ac wrth gwrs, at ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.

Photo of Joel James Joel James Conservative 4:33, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith y Pwyllgor Deisebau ac wedi derbyn ei argymhellion. Rwy'n arbennig o falch o weld bod y Llywodraeth hon wedi cydnabod, er mwyn darparu arweinyddiaeth a chydgysylltu clir ac effeithiol ar gyfer diogelwch dŵr ac atal boddi, fod angen trosolwg gan un portffolio gweinidogol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i deulu Mark Allen am eu hymgyrchu diflino ar y mater a’u dyhead i sicrhau nad oes unrhyw deulu arall yn mynd drwy’r hyn y maent hwy wedi mynd drwyddo. Ni allaf ond dychmygu'r trawma a achosodd hynny.

Bob haf, mae cymaint o bobl yn ceisio mynd i nofio mewn dŵr agored, ac yn anffodus, nid yw'r sefyllfa hon yn debygol o newid yn fuan. Er fy mod yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy i helpu i ddysgu pobl i nofio, mae'n rhaid inni gofio mai gorhyder rhai nofwyr sy’n aml yn eu rhoi mewn perygl, am eu bod yn cymryd gormod o risgiau. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, felly, y bydd ymgyrchoedd wedi’u targedu, yn enwedig mewn cyd-destun lleol, ac yn ystod misoedd yr haf mewn ardaloedd sy’n enwog am eu cyfleoedd i nofio mewn dŵr agored, yn hynod effeithiol wrth helpu pobl i ystyried y risgiau'n fwy gofalus wrth fynd i ddŵr agored, a dylem roi blaenoriaeth i’r ymgyrchoedd hyn ar y teledu, ar y radio, ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y sinemâu lleol ac yn y newyddion lleol, ac amlygu peryglon nofio mewn dŵr agored. Yn ogystal, mae angen inni wneud mwy na dim ond cael arwyddion sy'n dweud 'Dim nofio' neu 'Ceryntau peryglus', oherwydd—a gwn nad dyna yw eu bwriad, ond—yn aml, ni chânt eu hystyried yn ddim mwy nag arwyddion sydd wedi'u gosod ar hap, gyda phobl prin yn rhoi unrhyw ystyriaeth i ba mor gywir ydynt. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn annog ystyriaeth i arwyddion sy’n egluro’r risgiau’n llawn, ac yn rhoi dadansoddiad cyflawn o’r hyn a all ddigwydd. Credaf y dylai'r arwyddion hyn hefyd amlygu nifer y marwolaethau ac egluro'r ardal ddaearyddol o dan y dŵr yn fanwl, a fydd yn atgyfnerthu pam nad yw'n ddiogel i fynd i mewn i'r dŵr. Dylai'r arwyddion hyn gynnwys cyfarwyddiadau diogelwch a gweithdrefnau achub bywyd hefyd.

Hefyd, o ystyried nifer yr achosion o bobl yn mynd yn sâl drwy nofio mewn afonydd â gorlifoedd carthion amrwd, rwy'n credu y dylem dynnu sylw at ardaloedd lle mae carthion amrwd yn cael eu gollwng i'r dŵr yn aml ac egluro peryglon nofio yn y dŵr hwnnw. Lle mae gennym dwristiaid yng Nghymru sy’n nofwyr gwyllt ac sy’n aml yn chwilio am ddŵr agored, nid oes ganddynt wybodaeth leol am achosion o lygredd.

Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Lywydd, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r ddeiseb hon a darparu mwy o wersi nofio i blant ysgol, a helpu pawb i ddeall diogelwch dŵr yn well. A hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gymryd yr argymhellion y maent wedi'u derbyn o ddifrif, a gwneud popeth yn eu gallu i fynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â hyn. Rwyf fi a fy ngrŵp yn cefnogi’r ddeiseb hon yn llwyr, a hoffwn annog pob Aelod arall i wneud hynny. Diolch.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 4:36, 7 Rhagfyr 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Gadeirydd y pwyllgor a hefyd, yn bennaf, i'r clercod am eu holl waith. 

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Roedd ymgyrch Leeanne yn un o’r ymgyrchoedd cyntaf i gysylltu â mi fel Aelod newydd ei ethol; pan sgroliais yn ôl drwy Messenger, gwelais mai David ei hun a gysylltodd â mi. Nawr, roedd hynny yn 2021, ac rwy'n falch iawn ein bod yma nawr ar y pwynt hwn. Nid oes llawer mwy y gallaf ei ychwanegu at gyfraniad y Cadeirydd, ond credaf fod y gwaith a wnaethom fel pwyllgor wedi’i werthfawrogi’n fawr nid yn unig gan Leeanne a’i theulu, ond hefyd gan deuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid drwy foddi.

Fel pwyllgor, gwnaethom gynnal paneli gyda theuluoedd a oedd wedi cael profiadau tebyg i Leeanne, ac roedd y dystiolaeth a roddwyd ganddynt yn amhrisiadwy a chafodd ei gwerthfawrogi’n fawr, yn enwedig o ystyried natur drallodus eu tystiolaeth. Maent hwy, fel Leeanne a chymaint o rai eraill a ddewisodd ymgysylltu â ni fel pwyllgor, yn ffynhonnell gyson o ddewrder, ysbrydoliaeth a grym i’r rheini sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'n un o'r pethau gorau am fod yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau: gallu ymgysylltu â phobl fel Leeanne a'u helpu i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yma yn ein Senedd.

Ar yr argymhellion ac ymateb y Llywodraeth, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o’n hargymhellion, ac un mewn egwyddor. Credaf fod y dystiolaeth a gasglwyd yn cyfeirio at beth o'r gwaith da a wneir eisoes gan sefydliadau amrywiol fel Dŵr Cymru, fel y gwasanaeth tân, wrth weithio i wella diogelwch dŵr. Ond yr hyn a oedd ar goll yn fy marn i oedd y meddwl cydgysylltiedig a chydlyniad mewn rhaglenni addysgol. Fodd bynnag, roedd yr awydd am y cydlyniad hwnnw'n amlwg i bob un ohonom.

Roedd hefyd yn amlwg fod cyllid yn broblem, yn benodol wrth gymharu â’r cyllid a roddwyd yn Lloegr ar gyfer diogelwch dŵr, ac rwy’n arbennig o falch fod diogelwch dŵr bellach yn cael ei ddyrannu i Weinidog penodol. Roedd yn amlwg iawn fod angen hynny, fod angen yr arweiniad uniongyrchol hwnnw arnom ar hyn. Mae'n beth arall, wrth gwrs, i'w ychwanegu at y portffolio newid hinsawdd, ond mae'n bwysig iawn ein bod wedi gwneud hynny.

Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch eto i'r rheini a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr holl waith a wnaed i sicrhau bod ein hadroddiad yn cael ei gwblhau, ac rwyf am gloi drwy ddweud nad dyma ddiwedd y broblem, a fy mod yn credu ei bod hefyd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i gymryd rhan yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o beryglon crynofeydd dŵr agored. Fel Aelodau etholedig, mae gennym ddyletswydd i helpu sefydliadau yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau, yn ogystal â’r Llywodraeth, i godi ymwybyddiaeth.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:39, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy egluro fy rhesymau dros siarad yn y ddadl hon heddiw. Fel y gŵyr yr Aelodau, cyn cael fy ethol, roeddwn yn athrawes, ac yn fy 16 mlynedd fel athrawes, bob haf, byddem yn cael gwasanaeth gyda Dŵr Cymru lle byddem yn amlinellu peryglon nofio mewn cronfeydd dŵr. Roeddem yn gwneud hyn yn ddiwyd bob blwyddyn, gan wybod ein bod wedi gwneud popeth y gallem i ddiogelu ein disgyblion. Fodd bynnag, un haf, cawsom y newyddion ysgytwol fod un o’n cyn-ddisgyblion, Daniel Clemo, cymeriad go iawn, dyn ifanc heini, cryf, llawn bywyd a bywiogrwydd, wedi boddi wrth nofio mewn cronfa ddŵr ar ddiwrnod braf. Rwy'n gwybod o'm profiad fy hun sut y dinistriodd y golled hon deulu Daniel, a chymaint fu'r ysgytwad i'r gymuned, a gwn fod angen inni wneud mwy, llawer mwy, i geisio atal marwolaethau o’r fath yn y dyfodol. A hoffwn ganmol dewrder teulu Mark Allen am eu gwaith diflino yn y maes hwn.

Gan droi at yr adroddiad ei hun, hoffwn ganmol y Pwyllgor Deisebau am y gwaith rhagorol hwn. Fel llawer ohonom, fe’m syfrdanwyd gan faint yr her—er enghraifft, fod nifer y marwolaethau drwy foddi damweiniol yn uwch na nifer y marwolaethau o amrywiaeth o achosion y gellir dadlau bod ganddynt broffil uwch, ac yng Nghymru, fesul pen o'r boblogaeth, fod y gyfradd o achosion o foddi ddwywaith cymaint â chyfartaledd y DU. Ond efallai hyd yn oed yn fwy iasol oedd y data ynghylch nifer y digwyddiadau nad ydynt yn arwain at farwolaethau. Yn ôl Diogelwch Dŵr Cymru, mae angen ymateb brys i dros 1,750 o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â dŵr bob blwyddyn, a gallai pob un o’r rheini wrth gwrs arwain at farwolaethau'r bobl sydd mewn perygl, neu o bosibl, ein gwasanaethau brys. Felly, dengys hyn pa mor bwysig yw hi, er gwaethaf ei cholled bersonol, fod Leeanne wedi arwain yr ymgyrch hon, fel nad yw teuluoedd eraill yn dioddef.

Gan droi at y camau nesaf, rwy’n falch o weld argymhellion 3 a 6 yn arbennig. Mae addysg ac ymwybyddiaeth o'r perygl sy'n gysylltiedig â chrynofeydd dŵr yn hollbwysig er mwyn atal marwolaethau. Mae’n iawn ein bod yn ceisio dysgu'r wers hon i'n plant a’n pobl ifanc o oedran cynnar, a’n bod yn mabwysiadu agwedd gydol oes i sicrhau bod y neges honno’n cael ei chofio. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ddau argymhelliad hyn, a bod gwaith eisoes wedi’i wneud ar ddiogelwch cronfeydd dŵr ac wedi’i wneud mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn hawdd cael mynediad ato, fel y gall gwaddol Mark Allen barhau, ac fel y gellir achub bywydau.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r adroddiad pwysig hwn ger ein bron heddiw? Ac a gaf fi hefyd gofnodi fy edmygedd o ffrindiau a theulu Mark, y gwn eu bod yn yr oriel gyhoeddus yma heddiw, a chanmol eu hymdrechion i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei drafod yma heddiw ar ffurf adroddiad?

Fel y nodwyd eisoes gan Aelodau ar draws y Siambr, mae’n peri cryn bryder fod unrhyw unigolyn ifanc yn marw drwy foddi yng Nghymru. Deallaf fod oddeutu 400 o bobl ledled y DU yn marw drwy foddi, felly mae’n amlwg fod angen gwneud mwy i sicrhau gweithgaredd parhaus i atal y marwolaethau hyn.

Hoffwn siarad, Ddirprwy Lywydd, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar y sector gweithgareddau awyr agored, ac er bod llawer o bethau da yn yr adroddiad hwn, cefais wybod efallai fod yna rai cyfleoedd a gollwyd ymhlith yr argymhellion, a chyfleoedd y byddai’r sector gweithgareddau awyr agored am roi sylwadau arnynt, yn enwedig gyda’u profiad a’u harbenigedd helaeth yn y maes hwn. Ac fel y gwyddom, mae’r adroddiad yn amlygu nifer o’r materion heriol wrth sicrhau bod crynofeydd dŵr yn lleoedd mwy diogel i’r rheini sy’n ymweld â hwy ac yn eu defnyddio, yn ogystal â gwneud awgrymiadau i helpu i liniaru rhai o’r materion hyn. Ond o ran y cyfle a gollwyd, deallaf na chafwyd yr ymgynghori y gellid bod wedi'i gael o bosibl gyda’r sector gweithgareddau awyr agored, a gwn fod y sector yn siomedig oherwydd hynny, gan eu bod hwy, ymhlith llawer o bobl, o'r farn fod diogelwch dŵr yn agwedd mor bwysig ar y gwaith a wnânt. Ac maent eisoes yn gwneud llawer iawn o waith mewn perthynas â diogelwch dŵr ac ymgyrchoedd, gyda phethau fel AdventureSmart Cymru, AdventureSmart UK, gyda’u hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, yn ogystal â'u hymgyrchoedd gydag oddeutu 100 o bartneriaid eraill, ar ymdrech gydweithredol i gytuno ar negeseuon diogelwch a rhannu'r negeseuon hynny mor eang â phosibl.

Ac un agwedd glir ar y ddadl hon a'r adroddiad hyd yn hyn yw bod angen gwneud llawer mwy o waith i atal y marwolaethau hyn, ac er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd, gan weithio ar draws y sector ac ar draws sefydliadau, i sicrhau bod hyn yn digwydd yn y ffordd orau bosibl. Felly, Ddirprwy Lywydd, er fy mod yn derbyn bod y broses hon yn dod i'w therfyn o ran yr adroddiad hwn, deallaf y byddai’r sector ei hun yn dal i groesawu trafodaethau pellach ynglŷn â sut y gallent gefnogi’r Pwyllgor Deisebau a chyrff perthnasol ymhellach mewn perthynas â diogelwch dŵr ac atal boddi, ac rwy'n gobeithio y gellir manteisio ar y cynnig hwn. Ond yn sicr, hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad ac i’r Cadeirydd am ei gyflwyno yma heddiw. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau pellach. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:45, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad hwn, a dweud unwaith eto ei fod yn dangos grym y Pwyllgor Deisebau yn cyflwyno materion pwysig iawn i'r Senedd, a'r gallu sydd gennym yn Senedd Cymru i fynegi barn pobl y tu allan i’r Siambr hon ei hun? Mae’n gyfle gwych i drafod hyn. Ac wrth agor fy sylwadau, ymunaf ag eraill i ganmol gwaith teuluoedd sydd wedi ymgyrchu ar y materion hyn. Ni allwn ddeall y drasiedi y maent wedi bod drwyddi, ond gallwn gydymdeimlo â hwy, a'r ofn sydd gan lawer ohonom fel rhieni ac eraill, pe bai rhywbeth fel hyn yn mynd o'i le.

Ond y pwyntiau rwyf am eu codi, wrth gytuno â llawer o’r hyn sydd yn yr adroddiad, y byddaf yn dilyn Sam arno mewn eiliad, ac mae Sam yn gwneud gwaith clodwiw wrth gadeirio’r grŵp trawsbleidiol sy’n canolbwyntio ar weithgareddau awyr agored ac addysg awyr agored—. Wrth gwrs, rydym bob amser yn edrych ar Gymru fel gwlad sy’n llawn antur awyr agored ac adrenalin, ond mae'n rhaid inni wneud hynny'n ddiogel, wrth gwrs, a chredaf fod corff o arbenigedd yno, Weinidog. A dweud y gwir, Weinidog, rydych wedi cyfarfod gyda’r grŵp hwnnw o’r blaen, ac rwy’n siŵr y byddwch yn awyddus i ddefnyddio’r arbenigedd sydd ynddo i fwrw ymlaen â rhai o’r argymhellion hyn, gan eu bod yn arbenigo mewn diogelwch yn yr awyr agored, gan gynnwys diogelwch dŵr, a byddent yn awyddus i gyfrannu. Gwn eu bod wedi dweud yn glir y byddent yn awyddus i gyfrannu at y gwaith hwn wrth symud ymlaen ac i ymgysylltu â'r Pwyllgor Deisebau a chyda'r teuluoedd hefyd.

Roedd dau beth penodol roeddwn am eu nodi o’r adroddiad nad ydynt wedi’u crybwyll yn helaeth yn y ddadl heddiw. Un yw, mewn rhywfaint o'r dystiolaeth a gasglwyd gennych, nodwyd mater asesu risg. Credaf fod hynny’n briodol. Ymhell yn ôl, mewn bywyd blaenorol, pan oeddwn yn ddarlithydd, roeddem yn arfer siarad ynglŷn â sut rydych chi'n rheoli gweithgarwch yn yr awyr agored, a buom yn edrych ar fodelau Americanaidd fel y sbectrwm o gyfleoedd hamdden: lle gwyddoch fod gennych risg uchel, lle mae gennych ddefnydd dwys, lle gwyddoch y bydd pobl ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau, yn mynd i ganŵio, yn neidio i mewn, beth bynnag, yna rydych yn canolbwyntio'ch arwyddion dwys ac rydych yn canolbwyntio'ch cortynnau taflu ac rydych yn eu canolbwyntio ar y mannau hynny, ac rydych yn sicrhau eu bod yno. Ond mae gwahaniaeth rhwng hynny a bryniau uchaf Pumlumon, lle gallai fod ffynhonnell o ddŵr agored, ac efallai'n wir fod yno bobl sy'n mynd i nofio mewn dŵr agored, ond byddai'n od iawn rhoi arwyddion ac ati yno. Felly, credaf fod y syniad hwnnw o asesu risg, asesiadau safle-benodol, yn bwysig iawn.

Y peth arall yw dod â phartneriaid ynghyd i fwrw ymlaen â’r cynigion hyn. Rydym am i Gymru gael ei dathlu fel man lle gallwch fwynhau’r awyr agored yn ddiogel, ond credaf mai dyhead Diogelwch Dŵr Cymru ac eraill i atal marwolaethau yn y sefyllfaoedd hyn yw’r dyhead cywir, ond mae angen inni feddwl yn ofalus ynglŷn â sut rydym yn gwneud hyn, a dod â phartneriaid a chanddynt arbenigedd ynghyd er mwyn gwneud hynny.

Ond i gloi, rwy'n canmol y gwaith y mae’r teulu wedi’i wneud, a’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn. Mae'n ddadl dda; dyma'r ddadl iawn i'w chael.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:48, 7 Rhagfyr 2022

Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd. Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Jack am gyflwyno'r ddadl a rhoi'r cyfle imi siarad am ddiogelwch dŵr ac atal boddi.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau, fel y byddech yn disgwyl, drwy gydymdeimlo â theulu Mark Allen ac unrhyw un arall yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan achosion o foddi, gan eu bod, fel y dywedodd Vikki Howells, yn gwbl ddinistriol, ac maent yn dinistrio nid yn unig y teuluoedd ond y cymunedau o amgylch y teuluoedd hynny hefyd. Mae gwir angen inni fod yn ymwybodol iawn o hynny. Hoffwn ddiolch hefyd i’r ymgyrchwyr sydd wedi cyfrannu eu hamser ac sydd wedi darparu sylwadau gwerthfawr i lywio’r adroddiad ac am eu gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth, sy’n arbennig o ddewr yn sgil y drasiedi o golli mab, ffrind, ac aelod o'ch cymuned.

Hoffwn ddiolch hefyd i holl aelodau'r Pwyllgor Deisebau am gynhyrchu adroddiad 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi' gan ei fod yn adroddiad da iawn wir, ac rwy'n falch iawn o allu derbyn yr argymhellion ynddo.

Fel y mae’r adroddiad yn nodi, mae gormod o achosion sy'n gysylltiedig â dŵr yn digwydd yng Nghymru o hyd. Bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn gwella strategaeth atal boddi Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020 gan Diogelwch Dŵr Cymru.

Rwyf am siarad ychydig am hynny, gan fod cyfraniadau amrywiol heddiw yn llygad eu lle: mae angen inni dynnu'r gwahanol sectorau ynghyd yma, gan fod hyn yn ymwneud â diogelwch dŵr, wrth gwrs, ond mae hefyd yn ymwneud ag annog pobl i ddefnyddio ein gwasanaethau awyr agored gwych yn y ffordd gywir ac o dan yr amgylchiadau cywir. Mae'n ffaith dra hysbys fy mod yn hoff iawn o nofio gwyllt mewn dŵr oer, ac rwy'n fwy na pharod i ganu clodydd y math hwnnw o nofio. Hoffwn pe bawn wedi cael cyfle i wneud hynny tra bod yr annwyd hwn arnaf, gan fy mod yn siŵr y byddai wedi fy helpu i'w osgoi, sydd efallai'n swnio'n rhyfedd i bobl, ond mewn gwirionedd, os gallwch fynd i mewn i'r dŵr, gall hynny ddarparu buddion gwirioneddol. Rwy'n ei ganmol. Nid wyf mor frwdfrydig â'r bobl ym Mhenarth sy'n mynd i'r môr gyda'r wawr bob dydd, ond rwy'n hoff iawn, serch hynny, o'r mathau hynny o weithgareddau.

Ond mae hynny'n fwy o reswm fyth dros sicrhau nad yw’r drasiedi a arweiniodd at yr adroddiad heddiw yn digwydd eto, ac mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud yn y cyswllt hwnnw. Gallwn wneud y pethau y mae’r adroddiad yn eu nodi o ran addysg ac ymwybyddiaeth, gallwn wneud y pethau am yr arwyddion, gallwn wneud y pethau ynghylch cortynnau taflu, ond ni allwn wneud y pethau hynny ym mhobman. Fel y dywedodd Huw, bydd yna ardaloedd yng Nghymru lle nad yw hynny'n addas. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud hefyd yw codi ymwybyddiaeth o ble mae’n ddiogel mynd i nofio gwyllt, a pham y gall plymio i ddŵr oer, yn enwedig ar ddiwrnod poeth, fod yn broblem wirioneddol. Ac unwaith eto, yn groes i'r hyn y byddai pobl yn ei feddwl, mae'n waeth gwneud hynny ar ddiwrnod poeth nag ar ddiwrnod oer, oherwydd y newid eithafol yn nhymheredd y corff.

A hefyd, nid yw'n ymwneud â gallu nofio. Wrth gwrs, byddwn wrth fy modd pe bai pawb yng Nghymru yn gallu nofio, er mwyn y llawenydd pur o allu gwneud, ond hefyd, yn amlwg, oherwydd y posibilrwydd o achub bywydau. Rydym yn genedl arfordirol, yn genedl sy'n hoff iawn o'i dŵr, felly wrth gwrs, dylai ein pobl allu manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a gynigir. Ond yn anffodus, mae llawer o'r bobl sy'n boddi mewn dŵr yn gallu nofio'n dda iawn. Nid dyna'r broblem. Y broblem yw eu bod naill ai'n cael eu dal gan wahaniaeth eithafol yn y tymheredd sy'n sioc i'r corff, neu'n cael eu dal mewn cerrynt, neu'n cael eu dal mewn amgylchiadau eraill, digwyddiadau gyda badau eraill ar y dŵr ac ati. Mae hynny'n digwydd. Dyma'r digwyddiadau y mae angen inni edrych arnynt yn ofalus.

Mae'n rhaid inni wneud hyn mewn ffordd sy’n annog y math iawn o nofio gwyllt neu nofio awyr agored yn y lle iawn. Felly, byddwn yn dweud, er enghraifft, fod nofio gwyllt yn weithgaredd cymunedol iawn i mi. Ni fyddwn yn breuddwydio am fynd i wneud hynny ar fy mhen fy hun. Gwn fod rhai pobl yn gwneud hynny, ond ni fyddwn yn annog hynny. Mae dod at ein gilydd gyda grŵp o bobl o'r un anian, sy'n gyfarwydd â'r dŵr y maent ynddo ac sy'n barod i'ch helpu os byddwch yn mynd i drafferthion, yn rhan fawr iawn o hyn. Mae'n rhan o'r gymuned ac yn rhan o'r pleser, ond mae hefyd yn rhan o ddiogelwch y peth. Os ydych gyda rhywun arall, gall yr unigolyn hwnnw sicrhau eich bod yn cael cymorth cyn gynted â phosibl. Felly, byddwn yn sicr yn annog gwneud hyn fel gweithgaredd cymunedol.

Mae angen inni gael yr ymwybyddiaeth honno ac mae angen inni sicrhau bod pobl yn deall nad yw'r arwyddion yno er mwyn difetha eich hwyl—maent yno am reswm da i esbonio i chi beth yw amodau'r dŵr, sut mae'r pethau na allwch eu gweld o dan y dŵr yn edrych, a beth yw'r sefyllfa o ran y cerrynt. Byddwn hefyd yn annog pobl, lle mae achubwyr bywydau'n bresennol, i sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn y mae’r achubwyr bywydau yn gofyn iddynt ei wneud. Rydym yn gweld pobl yn aml yn anwybyddu'r arwyddion ac yn y blaen, heb ddeall y cryfder a'r pŵer sydd gan ddŵr pan nad yw'n cael ei drin â pharch. Felly, mae angen inni gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr ledled Cymru, ac mae angen inni helpu pobl i gael mwy o wybodaeth a gallu barnu peryglon eu hamgylchedd drostynt eu hunain yn y ffordd gywir.

Rwy'n falch iawn o fod wedi derbyn yr argymhellion, Jack. Rwy'n falch fy mod wedi cymryd cyfrifoldeb yn fy mhortffolio am wneud hyn. Mae'n gweddu i fy agwedd at y mater hefyd. Credaf eich bod yn iawn: mae angen i rywun edrych ar y sefyllfa gyfan mewn perthynas â phopeth a wnawn. Felly, rwy'n falch iawn fy mod wedi cytuno, a'r unig reswm ein bod ond yn cytuno mewn egwyddor yn unig yw am ein bod eisoes yn gwneud rhywbeth tebyg iawn yn y cyswllt hwnnw. Felly, nid ydym yn anghytuno. Rydym yn cytuno â phob un ohonynt.

Rwy'n falch iawn o weithio gyda gweithgareddau awyr agored ac yn enwedig gydag AdventureSmart Cymru er mwyn cael yr arbenigedd hwnnw o bob rhan o'r sector. Mae fy swyddogion eisoes yn rhoi'r argymhellion ar waith ac yn cysylltu â Diogelwch Dŵr Cymru ar y camau nesaf, ac edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â hyn gyda’n gilydd. Ac unwaith eto, rwy'n cydymdeimlo â'r teulu. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:54, 7 Rhagfyr 2022

Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, yn enwedig Vikki Howells, a soniodd am effaith ddinistriol colli ei disgybl, Daniel, a’r effaith ddinistriol a gafodd hynny ar y gymuned a’r gymuned ehangach? Os caf gyffwrdd â sylwadau Huw Irranca-Davies a Sam Rowlands, fel y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, byddaf innau hefyd yn awyddus i weithio. Credaf fy mod eisoes wedi cofnodi mewn pwyllgor y byddaf yn cyfarfod â grŵp trawsbleidiol y sector gweithgareddau awyr agored i drafod yr adroddiad, a lle gallwn fynd â hynny ymhellach efallai.

Diolch i Luke Fletcher a Joel James am dynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd y dystiolaeth a gawsom wrth lunio'r adroddiad hwn, ond credaf hefyd fod Luke yn awgrymu mai un cam arall yn unig yw hwn i’r cyfeiriad cywir i ymgyrchwyr fel Leeanne, a'i bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom, yn y Llywodraeth neu fel Aelodau o'r Senedd, i gyhoeddi a hyrwyddo'r negeseuon hynny. Weinidog, rwy’n hynod ddiolchgar i chi a’ch swyddogion am ymgysylltu a derbyn yr adroddiad hwn a chytuno â’r adroddiad yn y ffordd y gwnaethoch.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, gallaf weld bod yr amser ar ben, ond hoffwn dalu un deyrnged olaf i Leeanne Bartley, ei gŵr David, a phawb a lofnododd y ddeiseb hon ac a’n helpodd ar hyd y daith. Mae hyn eto’n dangos pwysigrwydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, a byddwn yn annog pawb sydd am newid polisi i ystyried llofnodi neu gyflwyno deiseb. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:55, 7 Rhagfyr 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.