1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 18 Ionawr 2023.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd. Cyn imi ofyn fy nghwestiwn, rwy’n siŵr, Lywydd, yr hoffech ymuno â mi i groesawu aelodau o Senedd Canada, sydd wedi ymuno â ni heddiw drwy Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, ac sy'n cael y pleser o arsylwi ar ein trafodion y prynhawn yma. Rwy’n siŵr y byddant yn mwynhau'r profiad cymaint â ni.
Prynhawn da, Weinidog. Fe wnaethoch grybwyll, mewn ymateb i un o’ch cwestiynau yn gynharach, y setliad dros dro i lywodraeth leol, ac yn wir, mae’r cynnydd o 7.9 y cant i awdurdodau lleol wedi’i groesawu’n gyffredinol gan yr awdurdodau hynny, ond mae nifer o arweinwyr wedi mynegi pryderon. Mae arweinydd Llafur Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan, yr ydych yn ei adnabod yn dda, rwy'n siŵr, wedi dweud bod gan gynghorau benderfyniadau anodd o’u blaenau. Dywed arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi o Blaid Cymru, y bydd angen gwneud toriadau anodd i wasanaethau lleol o ganlyniad i’r setliad hwn. Mae Cyngor Sir Powys, sy'n cael ei redeg gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych ar gau ysgolion gwledig, ac ymgynghorodd Cyngor Sir Fynwy, sy'n cael ei redeg gan Lafur, ar doriadau i oriau canolfannau hamdden hefyd. Hyn oll tra bo'n trethdalwyr yn debygol o wynebu cynnydd pellach yn eu trethi. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, fel y sylwadau gan arweinwyr y cynghorau hynny, ac o ganlyniad i’ch penderfyniadau cyllido, pa benderfyniadau anodd pellach y credwch y bydd yn rhaid i’n cynghorau lleol eu gwneud? A pha wasanaethau y credwch y bydd yn rhaid i'n trigolion wynebu eu gweld yn cael eu torri?
Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod ein setliad cyffredinol i lywodraeth leol, gyda'r cynnydd o 7.9 y cant ar y flwyddyn ariannol hon, wedi’i groesawu’n gyffredinol gan lywodraeth leol. Credaf ein bod wedi darparu’r setliad gorau posibl y gallem fod wedi'i ddarparu. Rhoesom fwy o gyllid i lywodraeth leol na’r cyllid a gawsom mewn cyllid canlyniadol o fesurau a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref ym meysydd gofal cymdeithasol ac addysg. Bu modd inni wneud hynny drwy gynnal ymarfer poenus iawn ein hunain ar draws y Llywodraeth yn nodi meysydd lle gallem ailflaenoriaethu cyllid tuag at lywodraeth leol a thuag at ein gwasanaeth iechyd. Fe welwch yr holl fanylion hynny, wrth gwrs, yn y gyllideb ddrafft a osodwyd. Felly, nid wyf yn diystyru'r ffaith y bydd yn rhaid i lywodraeth leol wneud cyfres o benderfyniadau anodd yn lleol. Dylai'r penderfyniadau hynny nawr gael eu harwain yn lleol; gwn y byddant yn ymgynghori â'u trigolion ynghylch beth yw blaenoriaethau eu trigolion. Ond o dan yr amgylchiadau, rydym wedi darparu’r setliad gorau posibl. Mater i’r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, yw darparu eu cyllideb amgen, y gwn iddi gael ei haddo i ni y llynedd, ond nid ydym wedi'i gweld eto.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mater allweddol mewn perthynas â'r cyllid i awdurdodau lleol yw’r ffordd y caiff y cyllid hwnnw ei ddosbarthu. Fel y gwyddoch, daw rhan sylweddol o gyllid y cynghorau hynny ar ffurf grantiau. Credaf fod oddeutu £1.4 biliwn o’r cyllid y bydd y cynghorau hynny’n ei gael yn dod mewn grantiau. Wrth gwrs, mae’r arian ei hun i’w groesawu, ond efallai y gall y cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch ble a phryd y dylid gwario’r grantiau hynny fod yn gyfyngol ac achosi baich gweinyddol sy’n llesteirio gwaith ein cynghorau. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, sut rydych yn gweithio gyda’r cynghorau hynny i sicrhau y gellir cael rhagor o hyblygrwydd ar ddyrannu grantiau? Sut rydych yn gweithio i sicrhau bod grantiau’n mynd i adran heb ei neilltuo o’u cyllid fel y gallant wario’r arian hwnnw ar yr hyn sydd orau iddynt hwy a’r hyn sydd orau i’w trigolion lleol?
Credaf fod hwn yn faes lle mae’n debyg fod gennym fwy o dir cyffredin, gan fod hwn yn waith y buom yn ei wneud gydag awdurdodau lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ar eu cais hwy, i archwilio pa feysydd cyllid grant y gellid eu symud, o bosibl, i mewn i'r grant cynnal refeniw ar sail tymor byr neu barhaol. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond rydym wedi llwyr ymrwymo i edrych ar hynny. Bydd amserlenni, wrth gwrs, yn bwysig ar gyfer y gwaith hwnnw. Ond hoffwn roi sicrwydd i chi a chyd-Aelodau eraill sydd â diddordeb yn hyn fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion CLlLC ac yn siarad â thrysoryddion ledled Cymru i archwilio'r hyn a allai fod yn bosibl.
Diolch, Weinidog. Os caf, hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiwn olaf ar gyfarfodydd cyngor rhithwir. Mae'n fater rwyf wedi'i godi sawl gwaith yma yn y Siambr, ac mae'n fater a godais gyda chi yr wythnos diwethaf yn ogystal. Hefyd, gwelsom stori arall yn y cyfryngau ddoe yn dangos llanast o sefyllfa lle mae'n edrych fel pe bai gweithred rywiol honedig wedi digwydd dros gyfarfod Zoom yn ystod un o gyfarfodydd cabinet cyngor sir y Fflint—cwbl amhriodol, ond mae'n tynnu sylw unwaith eto at rai o'r problemau a welwn mewn cyfarfodydd llywodraeth leol rhithwir. Er bod gan gyfarfodydd rhithwir eu rhinweddau, wrth gwrs, mynegais fy mhryderon wrthych yr wythnos diwethaf ynglŷn â sut y cânt eu rheoli. Mynegais bryderon ynglŷn â chynghorydd yr honnir ei fod yn gyrru wrth bleidleisio, rydym wedi gweld tystiolaeth o drafodion yn cael eu golygu cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar-lein, a nawr yr adroddiadau diweddaraf yn y newyddion am y weithred ofnadwy hon a ddigwyddodd yng nghyngor sir y Fflint. Mae'n dangos sut y gellir camddefnyddio cyfarfodydd rhithwir mewn ffordd na all ddigwydd mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Felly, yr wythnos diwethaf, pan wnaethom gyfarfod, Weinidog, fe ddywedoch chi y byddech yn ceisio cyhoeddi canllawiau pellach i gynghorau. Tybed a wnewch chi ystyried cyflymu’r broses o gyhoeddi’r canllawiau hynny a chael trafodaethau gyda chynghorau i sicrhau eu bod yn cynnig cyfarfodydd hybrid ac nid cyfarfodydd rhithwir yn unig, gan fod cyfarfodydd wyneb yn wyneb mor bwysig i’n trigolion ac i waith cynghorau.
Diolch am godi’r pwynt hwnnw y prynhawn yma. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod y gall gweithio hybrid a gweithio rhithwir fod yn ffordd wirioneddol bwysig o gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth, fel y buom yn ei drafod yr wythnos diwethaf, o ran gwneud y cyfarfodydd hynny’n fwy hygyrch i bobl mewn gwaith llawn amser, pobl a chanddynt ymrwymiadau teuluol, ymrwymiadau gofalu, pobl sy'n hunangyflogedig, ac eraill. Ond yn sicr, byddem yn disgwyl yr un ymddygiad gan bobl sy’n mynychu’r cyfarfodydd hynny ag y byddech yn ei ddisgwyl mewn siambr cyngor. Felly, byddaf yn archwilio gyda'r prif swyddog digidol ar gyfer llywodraeth leol beth arall y gallwn ei wneud yn hyn o beth i sicrhau bod pawb yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn y cyfarfodydd hynny, ac efallai y gallem gael sgwrs bellach ynglŷn â mwy o'ch syniadau yn y maes hwn y tu allan i’r Siambr.
Cyn imi alw ar lefarydd Plaid Cymru, a gaf fi ailadrodd y croeso i’r seneddwyr o Ganada i’n Senedd heddiw? Ac rwy'n gobeithio y cewch ymweliad cynhyrchiol â Chymru a'n Senedd, a diolch am ddod ag ychydig bach o'ch tywydd gaeafol i ni hefyd.
Felly, croeso i chi i gyd. Llefarydd Plaid Cymru nawr, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ac roedd yn dda iawn rhannu awr o’n hamser ni hefyd yn cymharu nodiadau mewn perthynas â’r gwaith a wnawn ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
So, diolch am hynny.
Weinidog, rydym wedi clywed am bryderon ynghylch contractio gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â llywodraeth leol, o ganlyniad i sefyllfa ariannol ein cynghorau. Nawr, un enghraifft amlwg o hynny, wrth gwrs, oedd y ffaith bod Casnewydd yn ystyried diffodd goleuadau stryd bob yn ail rhwng hanner nos a 6 a.m. i leihau costau ynni. Mae rhai o'm cyd-Aelodau ar y meinciau hyn eisoes wedi codi pryderon ynghylch yr effaith y gallai hynny ei chael a’r canlyniadau, yn enwedig o ran peryglu diogelwch cerddwyr gyda’r nos, yn enwedig menywod, a phobl nad ydynt yn hyderus ac yn gadarn ar eu traed, efallai—pobl hŷn ac yn y blaen—a chanlyniadau posibl felly o ran iechyd meddwl a chorfforol gwaeth. Mae cydberthynas gref, wrth gwrs, rhwng gwell goleuadau stryd a chyfraddau troseddu is hefyd. Felly, mae'n amlwg y gall un penderfyniad syml—dywedaf 'syml' mewn modd amodol, ond un penderfyniad—arwain at oblygiadau ac effeithiau ehangach o lawer.
Felly, fy nghwestiwn i chi yw: pa gyngor rydych yn ei roi i gynghorau lleol, neu pa drafodaethau rydych yn eu cael gydag awdurdodau lleol? Oherwydd yn amlwg, yn y pen draw, mae'r penderfyniadau ynysig hyn—. A gallech gynyddu effaith y penderfyniadau hyn os ydynt yn benderfyniadau cyfunol—effeithiau cyfunol penderfyniadau tebyg a wneir mewn mannau eraill. Ond pa gyngor rydych yn ei roi i gynghorau lleol ynghylch y risg y gallai rhai o'r penderfyniadau hyn, a wneir heddiw i arbed arian, gostio mwy o arian i bwrs y wlad yn fwy hirdymor?
Credaf fod yr enghraifft a roddwch yn tynnu sylw at y penderfyniadau anodd y mae awdurdodau lleol yn eu hystyried ar hyn o bryd, ac maent yn cwmpasu ystod eang iawn o faterion sydd o bwys i'w trigolion. Felly, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau, wrth gwrs, drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, felly bydd angen iddynt ystyried beth y mae'r penderfyniadau a wnânt yn ei olygu o ran cymunedau cynaliadwy. Ac wrth gwrs, bydd yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn bwysig hefyd o ran deall yr effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig penodol: ar fenywod, pobl hŷn, a roesoch fel enghreifftiau.
Felly, gwn y bydd cynghorau'n gwneud y gwaith hwnnw'n ddiwyd, ond gwn y bydd yn rhaid i gynghorau wneud rhai penderfyniadau anodd, oherwydd maent yn siarad â mi ynglŷn â'r bylchau sy'n dal i fodoli yn y cyllid sydd ganddynt ar gyfer y flwyddyn nesaf. A gwn eu bod yn nodi rhai o'r cynigion hynny yn eu hymgynghoriadau â thrigolion lleol. Felly, yn amlwg, bydd yn rhaid iddynt wrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae trigolion lleol yn ei ddweud wrthynt yw eu blaenoriaethau ar gyfer eu cymunedau wrth iddynt symud ymlaen. Ond fel y dywedaf, rydym wedi darparu'r setliad gorau posibl i awdurdodau lleol. Credaf y byddai’n rhaid ichi fynd yn bell, yn ôl pob tebyg, i ddod o hyd i arweinydd llywodraeth leol y byddai’n well ganddynt fod yn Lloegr nag yng Nghymru, ac mae’n debyg y byddech yn dod o hyd i sawl un yn Lloegr y byddai’n well ganddynt fod yma hefyd. Y rheswm am hynny yw ein bod, drwy gydol blynyddoedd hir cyni, yn dal i ddiogelu llywodraeth leol hyd eithaf ein gallu. Felly, mae hynny'n parhau i fod yn wir, ein bod yn eu diogelu yn y flwyddyn ariannol nesaf hyd eithaf ein gallu. A disgrifiais yn gynharach yn y sesiwn hon y gwaith anodd a wnaethom i ailgyfeirio arian tuag at lywodraeth leol ac iechyd o feysydd eraill y Llywodraeth.
Wel, fy mhryder i yw Cymru, wrth gwrs; nid oes gennyf unrhyw awdurdodaeth dros Loegr. Ond yn sicr, credaf fod angen inni fod yn ymwybodol y bydd y penderfyniadau unigol hyn yn arwain, efallai, at bwysau o gyfeiriadau eraill.
Nawr, yn gysylltiedig â hyn, mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth a rheoliadau, ac rydym yn cefnogi llawer ohonynt, ac maent yn deilwng iawn o ran yr hyn rydym am ei gyflawni ac mae ganddynt fwriadau da, ond mae llawer ohonynt yn cyflwyno dyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol i lywodraeth leol. Rydym wedi'i weld yn digwydd gyda sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, lle, ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf cenedlaethau’r dyfodol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, oll wedi pentyrru dyletswyddau ychwanegol ar y sefydliad penodol hwnnw, ar yr un pryd, wrth gwrs, â chyllidebau llai, gan ei roi ar drywydd eithaf anghynaliadwy o ran darparu'r gwasanaethau hynny. Hoffwn ofyn i chi i ba raddau rydych chi'n ystyried y pwysau hwnnw ar lywodraeth leol. Rwyf wedi crybwyll hyn gyda chi o’r blaen: pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i ailbroffilio’r gwaith o gyflwyno rhai o’r dyletswyddau hyn? Mae'r parthau 20 mya yn amlwg yn golygu baich gwaith aruthrol y mae angen ei gwblhau. A yw hynny’n rhywbeth y byddai’r Llywodraeth yn agored i'w ohirio, efallai, neu edrych ar ailbroffilio ei disgwyliad i lywodraeth leol gyflwyno hynny? Hyd yn oed y gwaharddiad ar blastig untro—bydd cyfrifoldeb gorfodi ar lywodraeth leol. Nawr, hoffai pob un ohonom weld hynny ar waith cyn gynted â phosibl, ond credaf fod angen pragmatiaeth ac ymagwedd ymarferol tuag at rywfaint o hyn. Felly, fy nghwestiwn yw: i ba raddau rydych yn edrych yn weithredol ar yr agenda hon, ac i ba raddau rydych yn trafod hyn gyda llywodraeth leol? Ac os ydych, efallai y gallech roi rhai enghreifftiau i ni o rai pethau rydych chi'n eu hystyried yn hynny o beth.
Os caf ddychwelyd am ychydig at ran gyntaf eich cwestiwn, hoffwn ddweud mai dyma un o'r rhesymau pam fod yr asesiadau effaith strategol mor bwysig, gan eu bod yn edrych ar effaith gronnol penderfyniadau amrywiol ar bobl, ac wrth gwrs, ar bobl a chanddynt fwy nag un nodwedd warchodedig hefyd. Felly, mae’r mathau hynny o asesiadau effaith yn wirioneddol ddefnyddiol i'n helpu i ddeall effaith penderfyniadau.
Ond wedyn, o ran llywodraeth leol, roedd y pethau y gwnaethant ofyn i ni edrych arnynt, ac roeddem yn falch o wneud hynny, yn cynnwys y pwynt ynglŷn â symud grantiau i’r grant cynnal refeniw, naill ai am gyfnod penodol neu’n barhaol. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych yn weithredol arno ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ar ein holl grantiau gwahanol ac yn archwilio beth allai fod yn bosibl. Mae honno'n drafodaeth barhaus, fel y dywedais, gyda CLlLC a chyda thrysoryddion ledled Cymru.
Peth arall y gwnaethant ofyn inni edrych arno oedd effaith beichiau rheoleiddiol. Felly, yn amlwg, mae hwn yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, y byddem yn edrych ar y beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol, ac mae hwnnw'n waith sydd, unwaith eto, yn mynd rhagddo gydag awdurdodau lleol. Ond credaf fod gan rai ohonynt bryderon arbennig am rai o’r systemau rheoleiddio, felly rydym yn edrych ar rai o’r pryderon penodol hynny a oedd ganddynt hefyd, gan ein bod yn agored iawn i gael yr holl drafodaethau hyn gydag awdurdodau lleol i geisio sicrhau y gallwn ymddiried ynddynt i fwrw ymlaen â’r gwaith y mae angen iddynt ei wneud.
Ac yna, ar y pwynt ynghylch ailbroffilio neu edrych eto ar rai o'n hymrwymiadau, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei archwilio gyda llywodraeth leol. Credaf fod safbwyntiau gwahanol i'w cael ynglŷn â rhai o’r pethau hyn. Er enghraifft, y parthau 20 mya, yn amlwg, mae hwnnw'n ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Gwn fod safbwyntiau cryf i'w cael ynglŷn â'r ymrwymiad penodol hwnnw. Ond rydym yn cymryd rhan agored yn y trafodaethau hyn gyda llywodraeth leol.