– Senedd Cymru am 4:52 pm ar 24 Ionawr 2023.
Eitem 6 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Mae 'Edrych Ymlaen Gyda'n Gilydd: Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru' yn nodi'r newidiadau sy'n ofynnol gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a'u cyflogwyr i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol yn sicrhau'r ansawdd a'r gwerth uchaf o'r proffesiynau pwysig hyn. Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer galluogi pobl i fyw gartref, mor annibynnol â phosib, cyhyd ag y bo modd.
Mae'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu AHPs, yn rhagori wrth ddarparu triniaethau sy'n arbennig o werthfawr wrth gefnogi anghenion cymhleth pobl sy'n fregus neu sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor. Maent yn grŵp o 13 o broffesiynau unigryw, fel ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, dietegwyr a seicolegwyr. Ar hyn o bryd, mae cyfran rhy fach o AHPs yn hygyrch yn y gwasanaethau sylfaenol a chymunedol a ddisgrifir yn y model gofal sylfaenol i Gymru.
Ni all llawer o bobl sydd angen arbenigedd AHPs gael mynediad uniongyrchol iddyn nhw'n ddigon cynnar i wneud y gorau o'u hiechyd a'u lles neu wella adferiad. Gall hyn olygu bod pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty pan allen nhw fod wedi cael eu trin gartref, neu nad oes modd eu rhyddhau o'r ysbyty pan fydd eu triniaeth acíwt wedi'i gwblhau. Heb wasanaethau AHP cymunedol, gall pobl symud i ofal preswyl neu nyrsio yn gynharach nag y gallai fod wedi digwydd fel arall, gan ychwanegu at y pwysau ar ein gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi y bydd £5 miliwn ar gael o fis Ebrill 2023 i greu swyddi AHP ychwanegol mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol i helpu i ddarparu dewisiadau amgen i dderbyn cleifion i'r ysbyty a lleihau'r ddibyniaeth ar ofal cymdeithasol hirdymor. Mae'r buddsoddiad rheolaidd hwn yn cefnogi ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ym maes gofal sylfaenol a chymunedol, gan gynnwys gwella mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol a dod â gweithlu ehangach ynghyd mewn system gofal sylfaenol diwygiedig. Bydd yn creu swyddi ar gyfer AHPs cofrestredig a gweithwyr cymorth. Er enghraifft, bydd staff ychwanegol mewn timau adnoddau cymunedol yn helpu i weithredu'r rhaglen seilwaith cymunedol neu ehangu gwasanaethau megis ysbyty yn y cartref.
Mae cynyddu adsefydlu cymunedol a therapi yn y gymuned yn sicrhau bod modd rhyddhau pobl gyda'r gefnogaeth gywir i'w galluogi i gwblhau eu hadferiad gartref. Mae adsefydlu neu ailalluogi cymunedol yn helpu pobl i adennill eu gallu a'u hyder i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw yn eu bywyd bob dydd, gan alluogi mwy o bobl i fyw'n annibynnol heb orfod dibynnu ar ofal cymdeithasol hirdymor diangen. Bydd hynny'n ein helpu i ddarparu'r gwasanaethau hollbwysig hyn i'r bobl sydd eu hangen fwyaf.
Gellir defnyddio'r buddsoddiad hwn hefyd i ddatblygu neu ehangu gwasanaethau i atal derbyniadau i ysbytai. Er enghraifft, gallai hyn alluogi parafeddygon i atgyfeirio'n uniongyrchol i dimau cymunedol i ymateb i gwympiadau neu therapi yn hytrach na mynd â phobl i'r ysbyty os nad oes ei angen arnynt.
Mae llawer o enghreifftiau o wasanaethau AHP arloesol sy'n darparu mynediad uniongyrchol, cynnar at ymyrraeth, adsefydlu ac ailalluogi cymunedol a thriniaethau cymhleth eraill yn y gymuned. Mae angen i ni ddarparu'r rhain yn fwy cyson ledled Cymru yn unol â'n holl raglenni cenedlaethol. Mae gwasanaethau therapi galwedigaethol awdurdodau lleol a llawer o wasanaethau ffisiotherapi'r GIG eisoes yn hygyrch yn uniongyrchol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae podiatreg, therapi iaith a lleferydd plant a gwasanaethau therapi galwedigaethol plant yn hygyrch yn uniongyrchol.
Rŷn ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn barod mewn gwasanaethau cymunedol arloesol. Mae ein cronfa integreiddio rhanbarthol yn darparu dros £144 miliwn i gefnogi chwe model cenedlaethol o ofal integredig. Mae'r modelau hyn yn cynnwys trefniadau i atal a chydlynu yn y gymuned, gofal cymhleth yn nes at adref a gwasanaethau gartref o'r ysbyty.
Dwi'n cymryd y cyfle heddiw i nodi eto fy mod i'n disgwyl i'r buddsoddiad rŷn ni wedi ei ddarparu eisoes i'r gwasanaeth iechyd, yr awdurdodau lleol a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol gael ei ddefnyddio hefyd i ddod â'r holl wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal at ei gilydd, ac mae hynny'n cynnwys AHPs.
Rhaid i ofal sylfaenol a chymunedol ddod yn lleoliad arferol i AHPs weithio. Dylai'r gweithlu yma gael ei drefnu drwy wasanaethau cymunedol sydd wedi'u hintegreiddio'n dda ac sy'n cynnwys yr holl ystod o sgiliau AHP. Er mwyn gweithredu'r rhaglen garlam i ddatblygu'r clystyrau, mae'n hollbwysig bod cyfran uwch o'r gweithlu AHP yn gweithio mewn timau a hybiau integredig mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.
Rŷn ni'n gwybod bod llawer o bobl hŷn sy'n fregus neu sydd â mwy nag un cyflwr yn gadael yr ysbyty gyda llai o allu i symud ac yn llai annibynnol na phan aethon nhw i mewn. Dyna pam mae'r canllaw diweddar ar wella llif cleifion mewn ysbytai yn nodi y dylai'r gwasanaeth iechyd a gofal ddefnyddio egwyddorion 'gartref yn gyntaf' a discharge to recover then assess. Bydd hyn yn helpu pobl i fynd adref cyn gynted â phosibl, gyda'r gwasanaeth asesu ac ailalluogi cywir ar gael iddyn nhw yn y gymuned.
Mae'r timau adnoddau cymunedol sy'n bodoli yn barod yn rhanbarthau pob un o'r byrddau iechyd, yn ogystal â'r timau ailalluogi a'r gwasanaethau adsefydlu, yn asgwrn cefn i'r strwythur cymunedol sydd ei angen i wella gofal i'n poblogaeth. Os ydyn ni'n gallu cael pethau yn iawn i bobl ag anghenion cymhleth, rŷn ni'n gallu eu cael yn iawn i bawb.
Pwrpas y buddsoddiad yma yw cynyddu capasiti AHP mewn gwasanaethau adsefydlu ac ymyrraeth gynnar yn y gymuned. Bydd hyn yn golygu bod dewisiadau ar gael sy'n saff yn glinigol, yn lle mynd â phobl i'r ysbyty. Fe fydd hefyd yn hwyluso'r broses o ryddhau cleifion yn ddiogel ac effeithiol.
Bydd amseriad y cyhoeddiad yma yn helpu cyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod cymaint o swyddi â phosibl ar gael ar gyfer y graddedigion newydd a fydd yn ymuno â'r gweithlu yn yr haf. Wrth gynyddu capasiti'r gwasanaeth cymunedol drwy greu'r rolau gweithwyr iechyd ychwanegol hyn, fe fyddwn ni’n gallu darparu gofal sylfaenol a chymunedol sydd wedi’u hintegreiddio’n dda. Bydd hyn yn ein helpu hefyd i daclo rhywfaint o’r pwysau sydd ar ein system iechyd a gofal ar hyn o bryd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwyf wir yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw. Yn sicr, rwy'n cefnogi'r cyllid cynyddol ar gyfer nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o fewn y lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Yn sicr rwy'n credu mai dyna'r cam cywir, yn enwedig am y rhesymau yr ydych chi wedi'u hamlinellu. Rwy'n credu y bydd yn rhyddhau adnoddau ac yn caniatáu i bobl gael eu trin yn llawer agosach at adref.
Mae nifer o gwestiynau y byddwn i'n eu gofyn yn dilyn eich datganiad heddiw, Gweinidog. Dim ond i roi dealltwriaeth i ni o sut bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ledled Cymru, sut mae'n mynd i gael ei ddyrannu ar draws y rhanbarthau neu'r byrddau iechyd. Dim ond i roi rhywfaint o sicrwydd nad yw'r arian yn mynd i gael ei glustnodi ar gyfer un rhan o Gymru, a'i fod wedi'i wasgaru'n deg, yn briodol ar draws y wlad. Hefyd i gael ymdeimlad o faint o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd y bydd hyn yn ei ariannu. Rwy'n tybio mai cronfa fydd yn ariannu yn flynyddol yw hon. Yn amlwg, rydyn ni'n creu'r swyddi hyn, a byddai'n rhaid iddo fod yn gyllid blynyddol wedi hynny, rwy'n tybio. Felly, dim ond i gael y cadarnhad hwnnw.
A hefyd i ddeall lle byddai gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd newydd wedi'u lleoli. Rwy'n gwybod yn sicr, fel rhan o gynllun mynediad meddygon teulu y Ceidwadwyr Cymreig, gwnaeth iechyd a gofal cymdeithasol rai argymhellion ynghylch gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd wedi'u lleoli mewn meddygfeydd. Felly, dim ond i gael ymdeimlad o'ch dealltwriaeth o ble y byddai'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu lleoli. A fydden nhw mewn meddygfeydd, ysbytai cymunedol, cymysgedd? I gael dealltwriaeth o hynny.
Y pryder mwyaf i mi yw bod diffyg gweithwyr proffesiynol wedi'u hyfforddi yn gweithio o fewn y proffesiynau perthynol i iechyd yng Nghymru, felly eisoes mae rhai adroddiadau ynghylch marchnadoedd mewnol, lle mae byrddau iechyd yn gorfod cystadlu â'i gilydd i ddenu AHPs, gan nad oes digon i ddiwallu anghenion gofal iechyd corfforol a meddyliol cymhleth y wlad. Felly, dim ond i gael eich barn ar hynny, Gweinidog. Rwy'n sylweddoli bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer lleoliadau hyfforddiant, ond mae hynny'n eithaf bach, felly dim ond i ddeall sut rydych chi'n bwriadu trwsio'r bwlch staffio o fewn y gweithlu er mwyn cyrraedd y mathau o lefelau y mae Cymru eu hangen.
Rwyf hefyd wedi codi—rwy'n credu yr wythnos diwethaf yn y ddadl, mewn gwirionedd, Gweinidog—rwyf wedi codi'r materion yn rheolaidd ynghylch moderneiddio systemau digidol y GIG hefyd. Felly, byddai hynny'n angenrheidiol, rwy'n credu, yn hyn o beth, i sicrhau bod ffyrdd diogel i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gyfathrebu â'i gilydd, yn enwedig os ydyn nhw'n symud o gartref i gartref. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ei angen yw gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio ar astudiaethau achos cleifion, gan ddeall cynlluniau triniaeth y cleifion ar gyfer eu canlyniadau. Felly, a fydd unrhyw gyllid i uwchraddio'r systemau hyn i greu gwasanaeth mwy effeithlon a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd?
Diolch yn fawr iawn. Felly, sut mae'n cael ei ddyrannu, yn amlwg bydd hyn yn gymesur â'r boblogaeth, felly byddwn ni'n sicrhau bod hynny'n adlewyrchu anghenion y boblogaeth, yn amlwg. O ran faint o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd gennym ni yng Nghymru, mae gennym ni tua 9,267 ar hyn o bryd. Dim ond i roi syniad i chi, mae gennym ni tua 2,000 o therapyddion galwedigaethol, mae gennym ni 2,455 o ffisiotherapyddion, mae gennym ni 159 o therapyddion celfyddydol, sydd yn wych yn fy marn i, ac mae gennym ni 530 o ddietegwyr. Felly, mae yna lawer iawn ohonyn nhw'n barod, ond yr hyn sy'n amlwg yw y gall hyn gymryd llawer o bwysau oddi ar nid yn unig ein gwasanaethau sylfaenol, ond hefyd ein gwasanaethau eilaidd.
Mae'n gyllid aml-flynyddol, felly bydd y £5 miliwn hwn yn cael ei gynnwys yn y dyfodol. Byddan nhw yn sicr wedi'u lleoli yn y gymuned. Mae lle yn y gymuned yn dibynnu ar ba strwythurau sy'n bodoli yn y gymuned honno, yn amlwg. Felly, bydd rhai hybiau cymunedol bywiog iawn, bydd eraill lle bydd meddygfeydd, felly mae'n dibynnu ar beth sy'n iawn i'r gymuned honno.
Dim ond o ran pobl sydd wedi'u hyfforddi, yn amlwg fe wnaethom ni gyhoeddi cynllun gwella hyfforddiant Addysg a Gwella Iechyd Cymru yr wythnos diwethaf, a dim ond i roi gwybod i chi, er enghraifft, bydd lleoedd hyfforddi ffisiotherapyddion yn cynyddu'r flwyddyn nesaf i 180, lleoedd hyfforddi therapyddion galwedigaethol i 197 a pharafeddygon i 120. Mae hynny i gyd yn golygu bod y rheiny i gyd yn bobl newydd fydd yn dod yn eu blaenau, ac, yn amlwg, mae hwnnw'n llif sydd eisoes wedi'i ddatblygu, felly rydyn ni'n ategu yr hyn sydd yno. Y peth gwych yw y byddan nhw'n dod wedi'u hyfforddi a nawr gallwn ni roi swyddi iddyn nhw, oherwydd dyna mae'r cyllid yma yn ei wneud.
Ac yna, dim ond o ran moderneiddio systemau digidol, rydych chi'n ymwybodol fy mod i'n treulio llawer o amser ar dechnoleg ddigidol; cefais gyfarfod arall gyda'r tîm digidol yr wythnos hon. Rwy'n credu y bydd cael llwyfan ar gyfer gwaith yn y gymuned yn rhywbeth. Mae llawer o lwyfannau gwahanol ar hyn o bryd a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau eu bod nhw i gyd yn cysylltu, felly mae'n debyg bod ychydig o waith i'w wneud ynghylch hynny. Ond mae gennym ni gymaint yn cael ei wneud yn y maes digidol yn barod, hoffwn i lanio'r hyn sydd gennym ni yn gyntaf cyn mynd ymlaen i'r darn nesaf.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Yn ei hanfod, dwi innau hefyd yn croesawu'r bwriad yn y fan hyn i wneud buddsoddiad yn y gweithlu. Mae'r gweithlu iechyd, wrth gwrs, yn eang iawn, mae o'n amrywiol iawn, ac mae gwasanaeth iechyd a gofal cynhwysfawr a chynaliadwy yn gorfod tynnu at ei gilydd yr ystod eang yna o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n dda ein bod ni rŵan yn siarad am yr allied health professionals, rhywbeth fyddai ddim wedi digwydd flynyddoedd yn ôl—doctors a nyrsys fyddai hi wedi bod flynyddoedd mawr yn ôl. Erbyn hyn, rydyn ni yn gwerthfawrogi'r gweithlu ehangach yna. Mae'n dda gweld, ynghanol y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd a gofal, y buddsoddiad yma yn cael ei wneud.
Dwi'n meddwl yn nhermau'r cynllun pum pwynt yma rydyn ni'n mynd i fod yn ei drafod yma yn y Senedd yfory—y cynllun rydyn ni fel plaid wedi'i gyhoeddi heddiw yma ar gyfer dyfodol yr NHS—a dwi yn gweld yn y cyhoeddiad yma nifer o elfennau yn cael eu hadlewyrchu. Y pwynt cyntaf rydyn ni'n ei wneud ydy ynglŷn â'r angen am gyflog teg. Tybed lle mae'r Gweinidog yn ystyried rôl cyflog, achos mae yna weithwyr allied health professionals sydd yn rhan o anghydfodfeydd cyflog ar hyn o bryd. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â lle i osod lefel cyflog teg yn y broses yna o greu gweithlu bodlon sydd yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol.
Dwi'n croesawu'r sylwadau rydyn ni newydd eu clywed ynglŷn â hyfforddi mwy o weithwyr. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau hefyd ynglŷn â rhoi hyfforddiant proffesiynol pellach i'r rheini sydd o fewn y gweithlu yn barod. Mae caniatáu i weithwyr weithio o fewn eithaf eu competence yn bwysig iawn, ac un o'r cwynion yn aml iawn ydy bod pobl yn teimlo eu bod nhw ddim yn cael y rhyddid i wneud yr hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen er mwyn gwella o hyd, ac ymestyn eu sgiliau. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau ar hynny.
Mi fydd y Gweinidog yn gwybod gymaint o bwyslais dwi'n licio ei roi ar yr ataliol. Dwi'n tynnu sylw at y ffaith bod yr ataliol yn gallu golygu pethau ymhell yn y dyfodol, ond hefyd paratoi heddiw ar gyfer heriau yfory a'r wythnos nesaf, ac mae gan yr AHPs rôl allweddol yn y fan yna yn paratoi pobl ar gyfer triniaeth, trio atal damweiniau, ac ati. Mae'n bosibl y gallai'r Gweinidog adlewyrchu ar y rôl ataliol yna.
Ac yn olaf, mae yna lawer o sylw, wrth gwrs, wedi cael ei roi yn ddiweddar i'r junction yna rhwng iechyd a gofal—y delayed transfers of care rydyn ni wedi rhoi llawer sylw iddynt yn ddiweddar. Mae angen cynyddu'r capasiti yna ar gyfer tynnu pobl allan o'r lleoliadau acíwt, tynnu nhw o'r ysbytai. A gaf i awgrym gan y Gweinidog lle mae hi'n gweld rôl yr allied health professionals mewn creu'r capasiti yna er mwyn helpu tynnu pobl, nid eu rhoi nhw yn eu cymuned heb becyn gofal—mae yna bryderon am hynny—ond i wneud yn siŵr bod y gweithwyr penodol yma yn gallu helpu i ganiatâu i bobl symud allan o'r ysbytai ac i mewn i leoliadau gofal eraill, yn cynnwys eu cartrefi eu hunain?
Diolch yn fawr, Rhun, ac mae'n rili lyfli i gael ymateb positif pan ŷn ni'n sôn am iechyd, so diolch am hynny. Mae'r rhain yn bobl newydd ŷn ni'n croesawu i'r system. Pan ŷch chi'n sôn am arian, mae'n rhaid inni wneud dewisiadau, onid oes e, ac rŷn ni wedi dewis nawr dod â mwy o bobl mewn i'r rôl yma. Ac felly, yn amlwg, mae'n rhaid ichi wneud dewis pan ŷch chi'n gwneud y dewis hwnnw, a gallem ni wedi rhoi'r arian yna at gynyddu eu cyflogau nhw, so mae'r pethau yma yn rili anodd, ond allwch chi ddim cael y ddau. A dyna yw'r gwahaniaeth rhwng llywodraethu a pheidio â llywodraethu; mae'n rhaid inni wneud y dewisiadau anodd hynny.
O ran hyfforddi mwy o weithwyr, mae yna hyfforddiant, fel ŷch chi wedi'i glywed, o ran HEIW. Mae hwnna eisoes—mae pipeline yn dod. Hyfforddiant ychwanegol: ŷn ni mewn trafodaethau, fel ŷch chi'n ei wybod, gyda'r undebau ar hyn o bryd, ac un o'r pethau maen nhw'n keen iawn i'w weld yw creu amser fel eu bod nhw yn gallu parhau â'u hastudiaethau nhw, ac yn amlwg bydd hwnna'n rhan o'r trafodaethau. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig hefyd ein bod ni yn tanlinellu mai nid jest allied health professionals ŷn ni'n sôn amdanyn nhw fan hyn; mae support workers yr un mor bwysig. Felly, mae'n rhaid ichi gael pobl broffesiynol i wneud yn siŵr bod y support workers yn gweithio yn y ffordd iawn. Felly, mae hwnna, i fi, yn mynd i fod yn elfen rili bwysig.
Roedd diddordeb gen i i weld eich pump pwynt chi, a dwi jest wedi nodi bod hwn yn cyffwrdd â lot o'r pwyntiau hynny, yn sicr o ran atal—mae hwnna yn rhan, fel ŷch chi yn ei ddweud, o atal problemau. Mae treial gweld pwy sydd yn debygol o fod angen help yn yr ysbyty, mae rhoi'r help yna mewn cyn iddyn nhw fynd i'r ysbyty, i fi, yn mynd i fod yn hollbwysig o ran ble ŷn ni'n mynd yn y dyfodol. Felly, mae atal, ac mae'r bobl yma yn mynd i fod yn allweddol.
Rhyngweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, wel, dyma'r maes ŷn ni'n sôn amdano fe. Mae'n rhaid i ofal cymdeithasol—. Mae eisiau inni adeiladu timau yn ein cymuned, a bydd yn rhaid i'r rhain gydweithio. Ac maen nhw eisoes yn cydweithio. Felly, mae yna £144 miliwn eisoes yn cael ei wario ar y cyd rhwng iechyd a gofal. A sôn am yr angen i fod yn cael gofal gwydn sy'n addas ar gyfer y dyfodol, wel, os ŷch chi'n edrych ar broffil demograffig ein gwlad yn y dyfodol, bydd angen lot o help yn y maes yma ac, i fi, mae hwn yn mynd i fod yn gam allweddol i wneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi ar gyfer y dyfodol yna sy'n mynd i fod yn heriol dros ben.
Ac un o'r pethau eraill dwi'n meddwl sy'n werth ei nodi yw, os ydy pobl yn cael help reablement, ŷn ni'n gwybod, o dystiolaeth, fod y gofyn am ofal am yr hirdymor yn gostwng 70 y cant, a bod y pecyn gofal yn gostwng. So, i fi, hwn yw'r golden ticket; hwn yw'r ffordd allan, ac mae'n rhaid inni wneud lot mwy yn y maes yma. Dyna beth yw rhan o'r cynllun yma.
Rwy'n ymuno â galwadau gan Aelodau'r gwrthbleidiau wrth groesawu'r cyhoeddiad a'r datganiad heddiw gan y Gweinidog a'i fwriadau a ddymunir, gyda chanlyniadau lleihau'r pwysau ar ein hysbytai. Gweinidog, rydych chi wedi sôn am gyllid o fewn eich datganiad heddiw, ond er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld, rhaid i becyn ariannu cynaliadwy fod ar waith. A allwch chi amlinellu i'r Siambr sut rydych chi'n gweld gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu hariannu'n iawn yn y dyfodol, er mwyn i ni allu cyflawni'r canlyniadau hynny a ddymunir yr ydym ni i gyd am eu gweld yn digwydd?
Diolch yn fawr, Jack. A gallaf gadarnhau bod y £5 miliwn hwn yn rheolaidd, ac mae hynny'n golygu ei fod yn gynaliadwy, sy'n golygu y gall rheolwyr gynllunio ymlaen llaw yn hyderus, ac mae hynny'n golygu y bydd pobl yn gallu teimlo'n hyderus, unwaith y byddan nhw'n cael eu penodi, y bydd ganddyn nhw ddyfodol tymor hir.
Yn ogystal â'r buddsoddiad ehangach yr ydym yn ei gyflawni wrth drawsnewid, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall bod hyn yn rhan o'r pecyn ehangach hwnnw yr ydym ni'n ceisio ei ddatblygu o fewn y gymuned. Am y nawfed flwyddyn yn olynol, o ran hyfforddi a buddsoddi, y cyhoeddiadau a wnes i yr wythnos diwethaf, a phrin y cododd neb nhw—. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall ein bod yn gwneud buddsoddiadau enfawr mewn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o'r gweithlu: £281 miliwn bob blwyddyn. Mae hyn yn arian enfawr, enfawr, sy'n hyfforddi'r gweithlu nesaf. Mae hynny, eleni, yn cyfateb i gynnydd o 8 y cant, oherwydd rydyn ni'n gwybod pa bwysau sydd ar y system ac rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fod â llif o weithwyr yn dod. Felly, gobeithio y byddwch chi'n falch o glywed hynny.
Diolch yn fawr iawn am y datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu fy mod yn ymuno â'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r cyhoeddiadau rydych chi wedi'u gwneud heddiw.
Dim ond dau bwynt byr gen i, os caf i. Mae'n ymddangos yn bwysig iawn bod hyn yn ataliol ac yn adweithiol fel bod gennym yr opsiwn o ddarparu cymorth i bobl cyn, ac, yn wir, gobeithio osgoi, unrhyw dderbyniadau i'r ysbyty. Rwy'n siŵr mai dyna'r bwriad, yn ogystal ag ymateb i'w helpu nhw i adael yr ysbyty a chael eu rhyddhau. Ar gyfer hynny, mae hefyd yn ymddangos ei bod yn bwysig gweithio gyda gofalwyr awdurdodau lleol, oherwydd mae'r tîm o amgylch y person yn cynnwys meddygon ond hefyd y gweithwyr proffesiynol perthynol a'r gofalwyr hefyd. Pan oeddwn i ym maes gwaith cymdeithasol, roedd gennym dîm o amgylch y teulu, y TAFs, ac mae'n ymddangos yn bwysig bod y tîm hwnnw yno. Mae'n swnio fel taw dyna'r cyfeiriad, felly mae'n bwysig iawn clywed hynny. Diolch yn fawr iawn.
Mae'r cwestiwn sydd gen i ynghylch cyflog ac amodau, oherwydd mae angen i ni gadw'r bobl yma, mae angen iddyn nhw aros yn eu proffesiynau, gobeithio yma yng Nghymru. Felly, byddai'n ddiddorol clywed pa feddyliau sydd gennych ynghylch sut rydyn ni'n sicrhau eu bod yn cael cyflog da, bod cyflog cyfartal, a'i fod yn cyfateb i gyflog Lloegr hefyd, oherwydd rydyn ni wir eisiau iddyn nhw aros yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. Hoffwn i gadarnhau fy mod yn cytuno â chi na all hyn fod yn adweithiol yn unig; ni all fod am, 'Sut ydyn ni'n cael pobl allan o'r ysbyty?' Mae'n ymwneud ag osgoi mynd i'r ysbyty. Mae hynny'n allweddol i fi. Ond, os ydyn nhw'n mynd mewn i'r ysbyty, mae yna enghreifftiau gwych eisoes o amgylch Cymru lle mae gennym ni ysbyty i'r cartref, felly mae cefnogaeth yno ac maen nhw'n cael eu monitro'n ddigidol. Felly, wyddoch chi, mae'r unfed ganrif ar hugain yma. Rwy'n gwybod bod gennym ni ambell i beiriant ffacs, ond mi fydda i'n cael gwared ar y rheiny cyn bo hir. Mae peth o hyn yn digwydd yn barod, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cyflwyno'r arfer gorau, ac yna'r monitro hwnnw. Os ydych chi'n gweld bod pethau'n newid, gallwch anfon rhywun i mewn ac mae modd ei drwsio. Felly, mae'n rhaid bod yn adweithiol hefyd, ond, i fi, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n meddwl am atal hefyd. Mae yna lawer o dystiolaeth i ddangos ein bod ni'n rhyw fath o adnabod y bobl sy'n mynd i gymryd y gwelyau. Yn gyffredinol, maen nhw'n bobl yr ydyn ni'n gwybod amdanyn nhw, ac os ydyn nhw'n mynd i'r ysbyty, byddan nhw'n aros yno am gyfnod hir. Felly, pam na wnawn ni roi'r gefnogaeth o'u hamgylch yn y gymuned i atal hynny rhag digwydd o'r dechrau?
Mae'n rhan o'r rhaglen chwe nod. Felly, mae llawer o hyn yn digwydd yn barod, ond mae hyn i gyd yn rhan o gryfhau hynny. Rydym wedi creu'r chwe nod yma gyda'r gweithwyr proffesiynol. Nid rhywbeth yr ydyn ni wedi'i greu yn y Llywodraeth yw hwn; mae hwn yn ymateb sy'n cael ei arwain yn glinigol i'r hyn y maen nhw'n credu y mae angen iddo ddigwydd. Rydyn ni wedi bod yn systematig iawn amdano, ac mae hyn yn rhan o adeiladu'r jig-so hwnnw. O ran adeiladu'r tîm, mae hyn yn digwydd mewn llawer o lefydd yn barod, ond, weithiau, rwy'n credu bod y system ychydig yn or-gymhleth. Felly, yr hyn nad ydw i ei eisiau yw bod â thimau o 20 o bobl yn eistedd o gwmpas yn trafod anghenion Mrs Jones. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni allu ymddiried yn ein gilydd yn broffesiynol hefyd. Felly, mae angen i chi wneud asesiad ac yna mae'n cael ei rannu â phawb. Ond, rwyf hefyd yn credu bod llawer i'w ddweud amdano mewn gwirionedd—. Mae gweithio ar wahân yn eithaf anodd, felly, mewn gwirionedd, bydd gweithio mewn tîm, rwy'n credu, yn ein helpu i gadw pobl yn rhai o'r meysydd hynny, gan gynnwys gofalwyr. Felly, mae hynny'n bwysig iawn. Ac o ran cyflog ac amodau, fe fyddan nhw'n cael y cyfraddau cyflog safonol ar gyfer y proffesiwn hwn.
Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Cyn i mi gael fy ethol i'r Senedd, roeddwn i'n gweithio ym maes ffisiotherapi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, felly rydw i yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n wynebu AHPs wrth ddarparu gofal o ansawdd da yn y gymuned. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a chyhoeddi'r £5 miliwn, oherwydd mae wir yn gam i'r cyfeiriad cywir. Ni allaf gofio faint o weithiau y byddwn i'n dweud wrth gleifion, 'Edrychwch, rwy'n hapus i'ch atgyfeirio i ffisio cymunedol, ond wyddoch chi efallai na fyddwch chi'n cael eich gweld am bythefnos, ac mae hynny os byddwch chi'n lwcus.' Felly, mae'n gam i'r cyfeiriad cywir, a byddwn i'n ailadrodd yr hyn a grybwyllodd Russell George o ran sut y bydd yn cael ei wario ledled Cymru fel bod neb ar eu colled, p'un a ydyn nhw'n byw yn Y Rhws neu yn Y Rhyl.
Hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar gartrefi gofal, os caf i, ac ansawdd y rhyddhau, gan fod hynny'n chwarae rhan hanfodol o ran llif cleifion a sicrhau ein bod yn atal blocio gwelyau mewn cyfleusterau cam-i-lawr. Mae llawer o'r problemau y mae AHPs yn eu hwynebu yn y gymuned oherwydd diffyg capasiti i drin preswylwyr cartrefi gofal oedrannus, gan arwain at risg uwch o waethygu'r cyflwr, aildderbyn i'r ysbyty a diffyg cyfleusterau adsefydlu o ansawdd da. Felly, pa sicrwydd y gall y datganiad heddiw ei roi y bydd y cyhoeddiad o £5 miliwn yn rhoi pwyslais penodol tebyg ar gynyddu capasiti i AHPs ymweld yn rheolaidd â chartrefi gofal yn y gogledd yn benodol, a darparu'r gofal hanfodol y mae ein pobl oedrannus leol yn ei haeddu cymaint? Diolch.
Diolch yn fawr, Gareth. Roeddwn i'n ymwybodol fy mod i'n siarad gydag arbenigwr AHP yn ein plith ni heddiw, felly roeddwn i braidd yn nerfus gyda chi yn y gynulleidfa yn y fan yma. Felly, dyna ni.
Mae ffisiotherapi yn rhan allweddol o'r driniaeth yr ydym yn gobeithio ei chynnig yma. I mi, un o'r pethau allweddol sydd angen i ni ganolbwyntio arno yw rhagsefydlu cyn llawdriniaeth—ac mae gen i arbenigwr arall a fydd yn deall hynny—oherwydd yr hyn yr ydyn ni'n ei wybod yw, mewn gwirionedd, drwy baratoi ar gyfer llawdriniaeth, bydd eich canlyniadau gymaint yn well os ewch chi i mewn yn y cyflwr iawn. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes lle rwy'n gobeithio y gallwn ni fod yn gwneud llawer mwy o waith ynddo. Ac, yn amlwg, bydd rôl i AHPs yn y maes hwnnw hefyd. O ran ymweld â chartrefi gofal, yn amlwg, mae cartrefi gofal yn y gymuned. Felly, byddan nhw yn bendant yn cael eu cynnwys yn yr hyn y byddai ein disgwyliadau o ran y rhaglen hon.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch yn fawr iawn. Ymwelais â'r cyfleuster arbennig o'r radd flaenaf yn Glyndŵr Wrecsam—y cyfleuster gwerth miliynau o bunnau. Rwy'n credu bod diwrnod agored wythnos i ddydd Gwener yno lle maen nhw'n cynnig cyrsiau nyrsio a perthynol i iechyd, sy'n wych. Rwyf eisoes yn gwybod am gwpl o bobl sydd wedi newid gyrfa a throi at nyrsio a pharafeddygaeth, gan gynnwys fy nith, a wir yn mwynhau dysgu yno yn y gogledd-ddwyrain.
Rwyf hefyd wedi dysgu y bydd Coleg Llandrillo yn ogystal yn darparu cyrsiau ar gyfer gweithwyr cymorth a gweithwyr gofal—y lefel honno, ychydig o dan nyrsio—sy'n wych iawn. Meddwl oeddwn i, a wnewch chi eu hannog i weithio hefyd gyda'r cyfleuster meddygol newydd sy'n cael ei adeiladu ym Mangor, a helpu i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r swyddi a'r gyrfaoedd newydd hyn sy'n digwydd yn y gogledd? Yn aml iawn, rwy'n teithio ar draws y gogledd, ac rwy'n meddwl, 'Does dim swyddi yma.' Rydyn ni'n siarad am swyddi diwydiant, ond mae swyddi yno i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus ac iechyd a deintyddiaeth, nyrsys—y rhain i gyd sy'n tyfu. Felly hoffwn i chi weithio gyda'r Gweinidog addysg a Gweinidog yr economi i hybu'r swyddi gwych hyn sy'n cael eu creu yn y gogledd. Diolch.
Diolch yn fawr. Mae'n wych clywed bod y cyfleuster hwnnw yn Wrecsam yn weithredol, a'u bod yn hyfforddi'r bobl hynny yn Llandrillo hefyd. Fel y soniais i yn gynharach, rwy'n credu bod gweithwyr cefnogol yn mynd i fod yn gwbl allweddol, a phan fyddwch chi'n eu cael ar y llwybr, yna efallai y byddan nhw eisiau uwchraddio a beth bynnag, ond gadewch i ni eu cael nhw i'r maes hwnnw yn gyntaf. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn.
Holl bwynt y rhaglen hon yw na ddylid ei chysylltu ag ysbyty nac ysgol feddygol na beth bynnag. Mae hyn yn ymwneud â chefnogaeth yn y gymuned, ym mha bynnag gymuned ydyw. Mae hyn yn ymwneud â chael y gefnogaeth honno allan o'r ysbytai, gan sicrhau ein bod ni'n deall nad yw pobl, yn gyffredinol, eisiau mynd i'r ysbyty—maen nhw eisiau cael eu cefnogi yn eu cymunedau. Dyna beth rydyn ni'n ceisio ei wneud gyda hon.
O ran hyrwyddo swyddi, ydw, rwy'n credu bod hynny'n deg. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i geisio hyrwyddo'r swyddi hyn, a hefyd gyda Gweinidog yr economi, dim ond i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth sydd allan yna. Mae'n anhygoel cyn lleied o bobl sy'n gwybod pa swyddi sydd ar gael, felly mae yna waith i'w wneud. Er bod gan AaGIC borth gwych iawn ar hyn, lle gallwch chi fynd i mewn ac mae'n fath o fersiwn 3D—gallwch fynd i mewn a chael profiad o sut beth yw gwneud swyddi gwahanol yn y GIG. Byddwn i'n eich annog i fynd i gael golwg ar hwnnw.
Diolch i'r Gweinidog.