1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 25 Ionawr 2023.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, ddydd Llun, clywsom honiadau unwaith eto fod casineb at fenywod a rhywiaeth yn rhemp yn Undeb Rygbi Cymru. Clyswom straeon torcalonnus am fenywod a oedd wedi ystyried hunanladdiad o ganlyniad i fwlio rhywiaethol. A thrwy'r adeg, ni chymerodd yr uwch-reolwyr unrhyw gamau o gwbl. Yn y rhaglen, dywedodd Charlotte Wathan, a gafodd ei chyflogi gan Undeb Rygbi Cymru i helpu i drawsnewid rygbi menywod, iddi glywed dyn y gweithiai gydag ef yn dweud ei fod eisiau ei threisio yn ei ystafell westy o flaen aelodau eraill o staff yn y swyddfa, gan gynnwys uwch-reolwr. Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru ymchwilio yn y pen draw, ond ni wnaethant siarad â thystion allweddol, gan gynnwys y cyflawnwr honedig. Weinidog, er fy mod yn derbyn mai mater i Undeb Rygbi Cymru yw ymdrin â’r materion a godwyd yn rhaglen y BBC, mae'n rhaid inni ddatgan yn glir nad oes unrhyw le i ymddygiad o’r fath yng Nghymru heddiw. A fyddwch chi, fel y Gweinidog cydraddoldeb, yn cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru i danlinellu’r ffaith na ddylid goddef rhywiaeth a chasineb at fenywod mewn unrhyw weithle, yn enwedig rhywle mor uchel ei broffil ag Undeb Rygbi Cymru?
Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch yn fawr iawn am wneud y datganiad cryf hwnnw y prynhawn yma. Gwyliais innau'r rhaglen, fel llawer ar draws y Siambr hon, rwy’n siŵr. Roedd y manylion yn y tystiolaethau hynny'n gwbl erchyll. Roeddwn yn meddwl eto am yr effaith ar y bobl hynny a dewrder y menywod a roddodd dystiolaeth—y fath ddewrder ar ôl dioddef yr aflonyddu, y bwlio, y cam-drin. Ond mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn amlwg, yn fy marn i, fod casineb at fenywod a rhywiaeth sefydliadol yn drwch yn y sefydliad.
Mae hwn yn fater y mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn ymwneud ag ef wrth gwrs. Fe ddywedasom ddoe ei bod eisoes wedi cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru i drafod y camau gweithredu y mae'n rhaid iddynt eu cymryd ar unwaith. Ond hoffwn ddweud, fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ei bod yn amlwg o'n safbwynt ni, o’n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, fod gan fenywod a merched hawl i fod yn ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywydau. Rydym bellach yn ehangu ein strategaeth i fynd i’r afael â cham-drin yn y gweithle ac i herio ymddygiad ac agweddau niweidiol yn uniongyrchol fel y gall pob menyw a merch yng Nghymru fyw heb ofn.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Pe bai Undeb Rygbi Cymru ond yn gallu bod yn debycach i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n haeddu cael eu llongyfarch am gyflwyno cyflogau cyfartal i bêl-droedwyr gwrywaidd a benywaidd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom fynd i'r afael â chasineb at fenywod yn uniongyrchol. Yn ddiweddar, lansiodd Chwarae Teg ddeiseb gyda’r nod o wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel i fenywod ar ôl i bwyllgor cenedlaethol UN Women ar gyfer y DU nodi bod 71 y cant o fenywod yn y DU wedi dioddef aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ein holl fannau cyhoeddus yn ddiogel i fenywod a merched?
Diolch unwaith eto am eich datganiadau cryf iawn o blaid ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sydd, fel y dywedais, bellach yn mynd i’r afael ag achos sylfaenol y trais, y casineb a’r rhywiaeth y mae menywod yn eu hwynebu. Mae hon yn broblem gymdeithasol sy'n galw am ymatebion cymdeithasol. Golyga fod angen i bob un ohonom, gan gynnwys pawb ag unrhyw bŵer, gael ein hymddygiad ein hunain wedi'i herio.
Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r newyddion da fod gennym gyflogau cyfartal i'n pêl-droedwyr benywaidd, sy'n wych. Rydym yn llongyfarch Cymdeithas Bêl-droed Cymru am arwain y ffordd. Rwy'n credu mai un o’r pethau tristaf wrth wylio’r rhaglen honno hefyd oedd y ffaith bod y chwaraewyr rygbi benywaidd hynny'n fenywod gwych ym myd chwaraeon, ac nid ydynt wedi cael y cyfle a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Ond unwaith eto, ym mhob agwedd ar fywyd, credaf fod cefnogaeth gref iawn, a thrawsbleidiol, rwy'n siŵr, i'n strategaeth. Mae'n rhaid inni barhau i godi hyn mewn perthynas â'r newid diwylliannol sydd ei angen arnom yn ein holl sefydliadau, sydd wedi’i adlewyrchu yma yn y sylwadau hyn heddiw.
Diolch, Weinidog. Nid mannau cyhoeddus yw'r unig leoedd lle nad yw menywod yn teimlo'n ddiogel. Hyd yn oed yn Siambr Tŷ’r Cyffredin, mae menywod yn wynebu casineb ffiaidd at fenywod. Yn ystod araith ddiweddar ar Fil diwygio cydnabod rhywedd yr Alban, cafodd yr AS Llafur, Rosie Duffield, ei cham-drin yn ffiaidd gan ei chyd-AS Llafur, Lloyd Russell-Moyle, a aeth yn ei flaen wedyn i gam-drin pob menyw a fynegodd bryderon am y Bil. Dylai ei ymddygiad fod wedi'i gondemnio, ond serch hynny, glynodd arweinyddiaeth y Blaid Lafur wrth eu safbwynt, gan wneud briff i'r wasg yn erbyn Rosie Duffield, gyda phennaeth cyfathrebu Keir Starmer yn dweud y dylai dreulio mwy o amser yn ei hetholaeth a llai o amser gyda J.K. Rowling. Gwnaeth hyn i Rosie ddod i’r casgliad fod gan Lafur broblem gyda menywod. Weinidog, a yw eich cyd-bleidiwr yn San Steffan yn iawn? A yw eich plaid yn anwybyddu menywod ac yn caniatáu i rywiaeth fynd yn rhemp? Diolch.
Rwy'n drist iawn fod yn rhaid inni orffen sesiwn gwestiynau bwerus a chryf iawn yn y cywair hwnnw. Rwy'n falch iawn o'n safbwynt. Y gwir amdani yw bod gennym gynllun LHDTC+ yn cael ei gyflwyno yn y Siambr hon. Rwy'n gobeithio y caiff gefnogaeth y Siambr gyfan o ran hawliau LHDTC+ a'r camau gweithredu cryf rydym yn eu cymryd. Galwaf arnoch chi, y Ceidwadwyr Cymreig, i ddweud y byddwch chi'n cefnogi’r hyn rydym ni yn Llywodraeth Cymru, gyda’n partneriaid yn y cytundeb cydweithio, yn ei gyflwyno. Wrth gwrs, mae angen inni drin ein gilydd fel gwleidyddion gyda goddefgarwch a pharch. Ac mae hynny'n berthnasol i bob plaid, mae'n rhaid imi ddweud—eich plaid chithau hefyd, Altaf. Ond gadewch inni edrych ymlaen yn awr at dderbyniad cadarnhaol i’r hyn a fydd, rwy'n credu, yn gynllun gwirioneddol arloesol, ac yn gynllun a fydd yn cael ei gydnabod ledled y byd oherwydd ei barch at bobl LHDTC+ yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Llywydd. Weinidog, rŷch chi siŵr o fod wedi gweld yr ystadegau pryderus ynglŷn â thlodi dwfn yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan y bore yma. Mae'r dystiolaeth yna o aelwydydd yn cael trafferth enbyd i fforddio hanfodion bywyd—bwyd, cysgod, gwres—a hynny yn sgil incwm isel iawn neu dim incwm o gwbl, neu am fod dyled yn llyncu cyfran fawr o'u hincwm. Mae costau ynni, wrth gwrs, yn cyfrannu'n fawr i'r dyledion yma, ac mae National Energy Action wedi cynnig darlun o'r diffyg cynnydd tuag at gyflawni targedau tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn eu hadroddiad monitro tlodi tanwydd diweddaraf. Y targed oedd 5 y cant o aelwydydd Cymru ar y mwyaf yn byw mewn tlodi tanwydd erbyn 2035; 45 y cant o aelwydydd ar hyn o bryd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru.
Yn ein sesiwn graffu ar eich cyllideb ddrafft, fe sonioch chi wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wythnos diwethaf, wrth egluro pam nad ydych yn parhau i gyllido cynllun cymorth tanwydd Cymru, eich bod yn buddsoddi yn y gronfa cymorth dewisol ac y bydd hyn yn helpu'r rhai fydd yn canfod eu hunain mewn tlodi tannwydd—rhywbeth i'w groesawu. Oes modd i chi felly roi mwy o wybodaeth inni, Weinidog, am sut mae effaith y gronfa hon, y gronfa cymorth dewisol, wedi cael ei fesur, ac yn cael ei fesur a'i werthuso, yn erbyn mesurau o dlodi, a thlodi tanwydd yn enwedig?
Diolch yn fawr. Mae hwnnw'n gwestiwn gwirioneddol bwysig am y ffyrdd rydym wedi bod yn ceisio mynd i'r afael, fel Llywodraeth Cymru, â'r argyfwng costau byw, ac yn wir, yr effaith ar dlodi tanwydd yn enwedig. Fel y dywedais yn fy ymateb i gwestiynau a chraffu ar y gyllideb ddrafft, yn anffodus, ni chawsom y cyllid gan Lywodraeth y DU a fyddai’n ein galluogi i fwrw ymlaen â llawer o’r cynlluniau pwysig y buom yn eu datblygu, ac yn wir, yn eu cyflawni—£1.6 biliwn eleni i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Credaf fod y cwestiwn pwysig rydych yn ei ofyn yn ymwneud ag effaith cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rwy'n falch o ddweud, hyd heddiw, fod 72 y cant wedi manteisio ar y £200. Ehangwyd y cymhwysedd gennym yn unol â nifer o geisiadau ar draws y Siambr hon, yn dilyn cam cyntaf llwyddiannus cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ac yn wir, y rhan a chwaraeodd y pwyllgor yn hynny—y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—hefyd. Ac yn sicr, byddwn yn gallu adrodd ar y canlyniadau pellach. Mae’n ddibynnol iawn ar awdurdodau lleol. Rydym wedi nodi, pan fydd awdurdodau'n gallu awtomeiddio a phasio buddion ymlaen, fel cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, maent yn cyrraedd y bobl sydd angen y cymorth fwyaf. Ond mae cyfle i'w gael dros yr wythnosau nesaf; os gwelwch yn dda, ar draws y Siambr hon, anogwch eich etholwyr i fanteisio ar y £200 o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf.
A hefyd—ac mae hyn yn allweddol iawn hefyd—mae mater y bobl sydd ar fesuryddion rhagdalu. Unwaith eto, ddydd Llun, cyfarfûm â chyflenwyr ynni, ac mae'n eithaf amlwg—ac roedd yn amlwg yn y wasg dros y penwythnos—nad yw pobl yn cael y daleb. Gwyddom fod aelwydydd wedi cael y £400, ond nid yw pawb ar fesuryddion rhagdalu wedi cael y £400. Fe wneuthum eu dwyn i gyfrif ddydd Llun: 'Pam nad ydych wedi darparu'r talebau hynny?' Eu cyfrifoldeb hwy yw gwneud hynny. Ond yn amlwg, byddaf yn adrodd yn ôl ac yn monitro effaith cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ein partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd, a hefyd yn cydnabod mai ein dull gweithredu yw sicrhau bod pobl yn manteisio ar yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.
Diolch, Weinidog. Rôn i'n gofyn yn benodol am y gronfa cymorth dewisol, ond efallai gallwn ni fynd nôl at hynny ar adeg arall.
Mae gen i gwestiwn am fesuryddion talu o flaen llaw, a'r pryder yma bod pobl yn cael eu gorfodi arnyn nhw yn groes i'w hewyllys, hyd yn oed pan nad yw'n ddiogel iddynt fod ar un, yn groes i ddyletswydd y cyflenwyr i wirio ac ystyried hynny. Dwi'n falch bod cymaint ohonom ni wedi cefnogi cynnig Jack Sargeant sy'n gofyn cwestiynau ynglŷn â'r mater yma.
Rŷn ni'n cofio bod Cyngor ar Bopeth wedi gweld mwy o bobl yn dod atyn nhw yn dweud eu bod nhw'n methu â fforddio topio eu mesuryddion lan dros y flwyddyn ddiwethaf nag a wnaethon nhw yn y 10 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn amlwg yn fater o frys o ran mynd i'r afael ag ef. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn annog landlordiaid cymdeithasol i alluogi eu tenantiaid i dalu am eu hynni drwy ddulliau amgen, os ydynt am wneud hynny? Mae Llywodraeth San Steffan dros y Sul wedi annog cyflenwyr i beidio â gorfodi cwsmeriaid i dalu o flaen llaw am eu hynni, ond nid gwaharddiad mo hynny. Ydy Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ymdrechion i geisio'r grymoedd y byddai eu hangen i wahardd neu gyfyngu gorfodi mesuryddion ar gwsmeriaid yng Nghymru?
Diolch am eich cwestiwn, a hoffwn hefyd gydnabod a llongyfarch Jack Sargeant. Mae Jack Sargeant wedi galw'n gyson dros yr ychydig wythnosau diwethaf am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, ac mae hefyd yn waharddiad rwyf wedi’i gymeradwyo a’i godi gyda Gweinidogion y DU hefyd.
Rwyf wedi cyfarfod â darparwyr ynni. Fel rwyf newydd ei ddweud, cyfarfûm â hwy eto ddydd Llun, a'r peth cyntaf a ddywedais yw pa mor siomedig yr ydym, wrth gwrs, gyda'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg ynglŷn â'r ffyrdd y caiff gwarantau llys eu defnyddio—gwn fod cwestiwn amserol ar hyn—i orfodi pobl i osod mesuryddion rhagdalu heb unrhyw ganiatâd gan y cwsmer. Dywedais wrthynt eto na allwn dderbyn mai dyma’r arfer cywir. Dyma’r bobl fwyaf agored i niwed, o ran mesuryddion rhagdalu. Rwyf eisoes wedi sôn mai nifer isel o aelwydydd rhagdalu traddodiadol sy'n manteisio ar dalebau rhagdalu—dyfynnwyd ffigur adbrynu o 72 y cant gan Ofgem yn ddiweddar. Ond codais gyda hwy hefyd ei bod yn bwysig inni symud yn awr tuag at dariff cymdeithasol, a fyddai, wrth gwrs, yn golygu y byddem yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau mewn perthynas â’r cwsmeriaid mwyaf agored i niwed.
Unwaith eto, nodais fod gennym ein partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd. Mae gennym eisoes oddeutu 70 o bartneriaid wedi cytuno i weithio gyda hwy. Rwy’n cofio’r cwestiwn, Sioned Williams, ynglŷn â'r posibilrwydd nad yw pob banc bwyd yn gwybod amdano. Rydym wedi lledaenu’r neges honno. Cyfarfûm eto y bore yma, a dweud y gwir, gyda'r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Ymddiriedolaeth Trussell, Plant yng Nghymru a'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant—pob un ohonynt yn sefydliadau sy'n gweithio gyda ni ar ein strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant—i sicrhau bod pobl yn manteisio ar dalebau rhagdalu'r Sefydliad Banc Tanwydd. Ond oes, mae angen inni ystyried, ac rwy'n ystyried yn barhaus, yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n pwerau i gefnogi a gweithio gyda'r bobl fwyaf agored i niwed, y bobl dlotaf.
Yn olaf, rwy'n dweud yr hyn a ddywedais ddydd Llun wrth y darparwyr ynni: 'Rhowch y gorau i godi'r taliadau sefydlog hyn'. Mae hyn yn gwbl allweddol. Dywedodd un wrthyf nad oeddent yn codi taliadau sefydlog. Dylai pob un ohonynt fod yn y sefyllfa honno, a byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael cefnogaeth i hynny ar draws y Siambr. Mae taliadau sefydlog yn cael eu codi hyd yn oed os nad yw pobl yn gallu cael ynni o ganlyniad i ddiffyg arian neu dalebau i fwydo'r mesuryddion.