Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch am eich sylwadau, Alun Davies, ac unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr â’r materion a godwch. Gwyddom mai'r angen am newid diwylliannol, mewn unrhyw sefydliad, yw’r peth anoddaf i’w gyflawni. Mae newid diwylliannol yn cymryd amser. Mae'n cymryd newidiadau nid yn unig o ran polisïau, ond o ran personél, o ran agwedd, a phur anaml y gall ddigwydd dros nos. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod wedi dweud yn gwbl glir fod yn rhaid i’r newid diwylliannol hwnnw ddigwydd, oherwydd, ar hyn o bryd, nid yw’r ffordd y caiff pethau eu gweld yn Undeb Rygbi Cymru yn cyd-fynd â gwerthoedd y Llywodraeth hon.
Nawr, fel Llywodraeth, yn amlwg, nid ni sy'n rhedeg Undeb Rygbi Cymru. Nid ydym yn berchen ar Undeb Rygbi Cymru. Maent yn fusnes annibynnol, ac mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch ble y caiff y penderfyniadau ynglŷn â'r gêm yng Nghymru eu gwneud. Ac nid Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau hynny. Ond yr holl bwynt, a chredaf mai’r pwynt roeddech chi'n ei wneud, Alun, yw bod rygbi’r undeb, a rygbi’r undeb rhyngwladol yn arbennig, mor bwysig i ddiwylliant y genedl hon fel bod yn rhaid inni gael sefydliad sy’n arddel gwerthoedd y genedl hon hefyd. Ac mae'n rhaid iddynt sicrhau bod pawb, boed yn chwarae, neu boed yn gweithio yn y sefydliad, yn cael eu trin â pharch ac urddas, ac yn cael eu gwerthfawrogi. A dyna fydd y mesur y byddaf yn ei roi ar y newid o fewn Undeb Rygbi Cymru.
Nawr, rwy'n ymwybodol, Lywydd, wrth imi sefyll yma, ac efallai ychydig cyn imi ddod i mewn i'r Siambr, fod cynhadledd i'r wasg yn cael ei chynnal gydag Undeb Rygbi Cymru ac Ieuan Evans, y cyfarfûm ag ef am y tro cyntaf ychydig wythnosau yn ôl. Ac mae'n rhaid imi ddweud, yn y sgwrs a gefais ag ef ychydig wythnosau yn ôl, fod ei ymrwymiad i ysgogi newid o fewn Undeb Rygbi Cymru wedi creu cryn argraff arnaf. Nawr, nid wyf wedi cael cyfle, yn anffodus, i ddal i fyny â'r hyn a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg, ond byddwn yn mawr obeithio mai dyna a nododd yn glir iawn yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd, ac a ddarlledwyd ar raglen y BBC ddydd Llun.