– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 31 Ionawr 2023.
Felly, eitem 6 sydd nesaf, sef y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Dwi'n galw ar Weinidog y Cyfansoddiad i wneud y datganiad—Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Ddeunaw mis yn ôl, fe wnaethom ni sefydlu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Gofynnon ni i'r comisiwn ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio trefn gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol ond gyda Chymru yn dal i fod yn rhan annatod ohoni. Gofynnon ni hefyd iddyn nhw ystyried a datblygu pob opsiwn blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a gwneud pethau'n well i bobl Cymru. Tasg y comisiwn oedd llunio adroddiad interim erbyn diwedd y llynedd, gydag adroddiad llawn erbyn diwedd eleni.
Cyn y Nadolig, roeddwn i'n falch o roi gwybod i'r Aelodau bod y comisiwn wedi bodloni'r amcan cyntaf ac wedi cyhoeddi adroddiad interim. Heddiw, hoffwn i groesawu'r adroddiad hwnnw gan ddiolch i ddau gadeirydd y comisiwn, Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister, a holl aelodau'r comisiwn am eu gwaith ar yr adroddiad. Mae'r adroddiad interim yn un sylweddol. Mae'n ddogfen awdurdodol gyda thystiolaeth dda. Roedd proses wych o drafod ac ymgynghori gyda'r cyhoedd. Efo gwaith y comisiwn yn parhau, mae e wedi dod i gasgliad pwysig: nid yw'r statws cwo bellach yn sail sefydlog i'r dyfodol.
Llywydd, mae'r comisiwn yn bwrw ymlaen â'i waith mewn cyfnod o densiynau cynyddol yn strwythurau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a phrawf yn cael ei roi ar ein perthynas ryng-lywodraethol ni. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw hi'n syndod o gwbl fod y comisiwn wedi dod i'r farn nad yw'r sefyllfa gyfredol na datod datganoli yn ddewisiadau hyfyw i roi unrhyw ystyriaeth bellach iddyn nhw. Nid yw hi'n syndod chwaith fod gwaith y comisiwn yn cyfrannu at fomentwm gwirioneddol a chynyddol i alwadau am newidiadau cyfansoddiadol. Mae'r aelodau yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU, a wnaeth gyfres o gynigion radical ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol, ac sy'n cyfeirio at waith y comisiwn annibynnol.
Llywydd, rwyf i o'r farn fod newid yn anochel, ac rwy'n credu bod gwaith y comisiwn, ac y bydd eto, yn gyfraniad hanfodol i'r drafodaeth sy'n digwydd eisoes. Yn fy natganiad ysgrifenedig i, roeddwn i'n annog Aelodau, ac yn wir unrhyw un sydd â diddordeb yn ein cyfansoddiad ni, i ystyried yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi gwneud hynny.
Ar y pwynt hwnnw, fe hoffwn i dynnu sylw at waith y comisiwn wrth ymgysylltu â'r cyhoedd. O ystyried yr effaith uniongyrchol a gaiff ein trefniadau llywodraethu ni ar fywydau pobl, fe ofynnwyd i'r comisiwn ymgysylltu yn eang â'r gymdeithas ddinesig a'r cyhoedd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth a meithrin sgwrs genedlaethol wirioneddol. Arweiniodd eu hymgynghoriad cychwynnol nhw at dros 2,000 o ymatebion, ac rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r comisiwn am y ffordd arloesol y maen nhw wedi ymgysylltu â chymunedau drwy eu cronfa ymgysylltu â'r gymuned.
Os yw atebion y comisiwn am fod yn ymarferol a bod yn deilwng o gefnogaeth, fe fydd rhaid iddyn nhw fod ar sail profiad bywydau'r rhai y bydd yr atebion hynny yn effeithio ar eu bywydau nhw. Yn wir, mae'r comisiwn wedi datgan eu bwriad, yn ystod cyfnod nesaf eu gwaith nhw, i ymestyn eu sgwrs gyda phobl Cymru. Wrth i'r comisiwn gychwyn ar y cam nesaf hwn, byddwn i'n annog Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon i ymgysylltu â'r comisiwn ac annog ymgysylltiad â'u cymunedau nhw i sicrhau y bydd casgliadau'r comisiwn yn wirioneddol adlewyrchu holl bobl Cymru. Diolch, Llywydd.
Fel yr unig blaid, i bob golwg, sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig gyfan, a lle annatod Cymru ynddi, fy mhleser i yw gallu gofyn rhai cwestiynau am eich datganiad, Gweinidog. Rydyn ni'n ystyried y comisiwn, fel y gwyddoch chi, yn ddiangen. Mae'n ddiangen oherwydd mae'n fater o Gymru ond yn edrych ar un rhan unigol o'r Deyrnas Unedig a heb ystyried yn briodol barn pobl mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sy'n gamgymeriad mawr yn fy marn i.
Mae'n gomisiwn drud—£1.1 miliwn bob blwyddyn dros dair blynedd. Mae i fod i orffen ei waith ym mis Rhagfyr eleni, ond eto rydych chi eisoes wedi dyrannu ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol yn y blynyddoedd ariannol canlynol, hyd yn oed y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol hon, am ddwy flynedd, £1.1 miliwn arall. Allwch chi egluro i ni pam mae'r comisiwn, hyd yn oed ar ôl cwblhau ei waith, yn dal i fod angen £1.1 miliwn y flwyddyn yn y flwyddyn ariannol 2024-25?
Rydw i wedi rhoi cryn sylw i waith y comisiwn; rydw i wedi darllen yr adroddiad. A dweud y gwir, cefais i fy syfrdanu ei fod yn edrych ar yr hyn yr oedd yn ei ystyried yn y system bŵer ganolog yn Lloegr, ond nid oedd yn ystyried o gwbl ganoli pwerau yma yng Nghymru. Nid oedd sôn am unrhyw botensial am ddatganoli i ranbarthau Cymru—fy rhan i o Gymru, gogledd Cymru, sy'n teimlo, er enghraifft, wedi'i datgysylltu cymaint o fywyd yma ym Mae Caerdydd ac, yn arbennig, ym Mharc Cathays, oherwydd anwybodaeth Llywodraeth Cymru tuag at y rhanbarth arbennig hwnnw. A gaf i ofyn, a fyddwch chi'n rhoi rhywfaint o gyfarwyddyd i'r comisiwn i ystyried datganoli o fewn Cymru er mwyn i ni gael dull gweithredu datganoledig priodol tuag at lywodraethu'r wlad hon, yn hytrach na'r dull canolog y mae eich Llywodraeth wedi'i gymryd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf?
Yn ogystal â hynny, mae'r adroddiad yn sôn yn gwbl briodol am bwysigrwydd atebolrwydd uniongyrchol mewn democratiaeth. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod bod y Blaid Lafur, law yn llaw â Phlaid Cymru, yn ceisio cael gwared ar yr atebolrwydd uniongyrchol hwnnw drwy gyflwyno diwygiadau'r Senedd a fydd yn grymuso pleidiau gwleidyddol dros aelodau'r cyhoedd o ran pwy y gallan nhw ethol yn uniongyrchol i'w cynrychioli yn y Siambr hon. Rwy'n gwybod bod aelodau'r meinciau cefn ar feinciau Llafur yn cytuno â mi yn hynny o beth, oherwydd mae systemau rhestr-gaeedig yn tynnu grym oddi wrth y bobl a'i roi ym mhocedi arweinwyr y pleidiau gwleidyddol. Dyna'r dull gweithredu anghywir, o'n rhan ni, ac rwy'n credu y dylech chi ofyn i'r comisiwn archwilio a rhoi ei farn ar y cynigion ar gyfer diwygio'r Senedd sydd wedi'u cynllunio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, oherwydd nid wyf i'n credu, a dweud y gwir, y bydden nhw'n eu gweld nhw'n fuddiol i bobl Cymru
Gwnaethoch chi gyfeirio at gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU—dogfen gan y Blaid Lafur, nid dogfen sydd ag unrhyw fwy o bwysigrwydd y tu hwnt i'r Blaid Lafur na'r pwysigrwydd yr ydych chi'n ei roi iddi, yn ôl pob golwg. Ôl-ystyriaeth oedd Cymru, wrth gwrs, yn y ddogfen honno. Roedd yn sôn yn faith am y sefyllfa yn yr Alban. Roedd yn sôn am ranbarthau Lloegr. Prin y soniwyd am Gymru yn y ddogfen, ac mewn gwirionedd mae'r sôn y cafodd yn anghytuno'n llwyr â barn y Blaid Lafur yma yng Nghymru, a oedd eisiau gweld y system gyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli'n llwyr. Wrth gwrs, roedd Gordon Brown yn anghytuno â chi. Ni wn i pam eich bod chi'n ei gymeradwyo nawr yn y Siambr hon ac yn dweud dyna ddarn gwych o waith y mae ef wedi'i wneud, pan, a dweud y gwir, yn amlwg, nad oedd ef wedi rhannu'r darn yna o waith â chi cyn iddo gael ei gyhoeddi. Gwnaeth gyfeiriadau at 'Lywodraeth Cynulliad Cymru' hyd yn oed. Ni wnaeth sôn am 'Lywodraeth Cymru'. Mae 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' yn derm y gwnaethon ni ei adael dros 10 mlynedd yn ôl. Mae hyn yn dangos pa mor hen ffasiwn yw Gordon Brown a chymaint y mae wedi colli gafael ar bethau, a dweud y gwir, gyda phobl Cymru a'r bobl yn y Senedd hon, gan gynnwys ei gydweithwyr ei hun yn y Blaid Lafur.
Yna, rydych chi'n sôn am ymgysylltu â'r cyhoedd. Ar fy ngwir—maen nhw wedi cael 2,000 o ymatebion hyd yn hyn sydd wedi cyfrannu, drwy'r holiaduron, at waith y comisiwn. Roedd 55% o'r rheini, mae'n debyg, yn cefnogi annibyniaeth. Nawr, mae'n amlwg nad yw hynny'n adlewyrchu barn pobl Cymru, oherwydd rydyn ni'n cael gwybod yn gyson fod y gefnogaeth i annibyniaeth ymhell o dan 55 y cant, yn rhyfeddol is na hynny. Felly, mae gennyf i ofn bod y comisiwn hwn i'w weld ond yn siarad â'r bobl hynny y mae rhai o'i aelodau eisiau gwrando arnyn nhw. A wnewch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n annog y comisiwn i ymestyn y tu hwnt i'r rhan honno o'r gymdeithas sydd wedi ymgolli ynddyn nhw eu hunain ac yn ôl pob golwg sydd ag obsesiwn ag ailwampio cyfansoddiadol yma yng Nghymru fel y gallwn ni sicrhau bod yna farn gynrychioliadol iawn yn cael ei rhoi iddo o farn pobl ar draws y wlad hon?
Ac yn olaf, rwyf i eisiau dweud wrthoch chi, Gweinidog, fy mod i'n credu ei bod hi'n bryd i ni fuddsoddi'r adnoddau sy'n mynd i'r comisiwn hwn yn ein GIG, yn ein hysgolion ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydych chi'n dal i honni nad oes gennych chi arian i fuddsoddi mewn rhai o'r pethau hyn, rydych chi'n dal i honni nad oes gennych chi i allu i'w roi ym mhocedi ein nyrsys a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus. Dyma rywfaint o arian. Os yw'n llosgi twll yn eich poced, gwariwch e' ar bethau eraill.
Wel, hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, ac roedd yn debyg iawn i'r cyfraniad y gwnaeth ryw 18 mis, ddwy flynedd yn ôl. Nid yw wedi newid o gwbl. Mae'n ymddangos i mi nad ydych chi wedi sylweddoli bod y ddadl wedi symud ymlaen. Rydyn ni wedi cael y ddadl dros rinweddau'r comisiwn a'i bwrpas, a'r hyn yr ydyn ni'n ei gael nawr yw comisiwn sydd wir yn ymgysylltu â phobl am ei waith. Byddwn ni wedi gobeithio y byddai cyfraniad ychydig yn fwy adeiladol i'r gwaith. Rwy'n deall eich bod chi'n anghytuno â'r comisiwn ac nad oeddech chi eisiau'i weld yn cael ei sefydlu. Nid ydych chi'n credu bod diben ei waith yn bwysig. Ond nid dyna farn mwyafrif y Senedd hon.
A gaf i ond dweud, yn gyntaf, o ran eich sylwadau cychwynnol o ran y DU gyfan, mae'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru a Phlaid Lafur Cymru wedi'i gwneud hi'n gwbl glir beth yw safbwynt Llafur Cymru? Sef ei fod o blaid yr undeb. Mae'n credu bod Cymru ar ei hennill yn yr undeb, mewn undeb lewyrchus, ond mae'n credu bod dirfawr angen diwygio'r undeb. Mae'r diwygiad hwnnw, yn eironig, yn cael cryn gydnabyddiaeth— yr angen am y diwygiad hwnnw—ar draws y pleidiau gwleidyddol yn San Steffan, a, pan ydych chi'n sôn am ailwampio cyfansoddiadol, wel, os mai ailwampio yw hwn, y cyfan sydd angen i ni edrych arno yw'r pentwr ar ôl pentwr o ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy San Steffan sy'n effeithio ar y lle hwn—Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd i gyd yn ymwneud â diwygio cyfansoddiadol; Bil Protocol Gogledd Iwerddon, sydd, eto, yn y bôn, yn ymwneud â diwygio; yr awgrym nawr eu bod yn mynd i atgyfodi'r bil hawliau, sydd, eto, yn ddiwygiad cyfansoddiadol; Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, sy'n ymwneud â thanseilio datganoli a diwygio cyfansoddiadol; mae gan hyd yn oed y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) oblygiadau cyfansoddiadol sylweddol.
Mae'r cyfansoddiad yn bwysig i fywydau pobl oherwydd ei fod yn ymwneud â sut mae pŵer yn cael ei arfer, a sut mae'n cael ei ddosbarthu a'r math o lywodraethiant sydd gennym ni, ac os nad ydych chi'n cydnabod bod yna ddibyn gwirioneddol i'n democratiaeth o ran cred pobl mewn systemau democrataidd, yna rwy'n credu eich bod chi'n methu hyd yn oed y rhai yr ydych chi'n eu cynrychioli o ran yr angen am newid. Rwy'n credu bod angen y comisiwn, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i Gymru fod â llais yn y broses hon. Mae'n rhaid craffu ar, archwilio'r materion sy'n bwysig i Gymru, ac mae'n rhaid i ni allu mynegi'r rheini ein hunain, a dyna yw pwrpas gwaith y comisiwn.
Rwy'n deall y pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ac mae gennych chi berffaith hawl i wneud y pwyntiau penodol hynny; a dweud y gwir, gobeithio eich bod chi wedi'u gwneud nhw i'r comisiwn, oherwydd rwy'n deall eich bod chi wedi mynychu'r comisiwn i roi tystiolaeth. Rwy'n deall o'r comisiwn y gwnaethon nhw yn wreiddiol ofyn am gyfarfod ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies, ac wedi cael eu cyfeirio at Mark Isherwood i ddechrau ond ers hynny maen nhw wedi cwrdd â chi. Ond yn yr un modd felly, mae Simon Hart, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi rhoi tystiolaeth i'r comisiwn, ac mae Gweinidog Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Neil O'Brien, hefyd wedi'i rhoi. Felly, rwy'n credu ei bod yn gydnabyddiaeth bwysig, ar ôl yr ormodiaith, fy mod i'n credu bod yna bobl ar ochr y Ceidwadwyr sy'n cymryd y comisiwn o ddifrif ac sy'n ymgysylltu ag ef, oherwydd, os nad oedden nhw'n credu ei fod yn ddigwyddiad pwysig, os ydyn nhw'n cytuno ag ef ai peidio, nid ydw i'n credu y bydden nhw wedi eisiau cymryd rhan ynddo.
Dim ond i ddweud bod y comisiwn, wrth gwrs, yn annibynnol. Cafodd ei gylch gorchwyl ei drafod yn dda yn y Siambr hon. Nid ein lle ni, ar ôl sefydlu comisiwn annibynnol, yw cyfarwyddo'r comisiwn hwnnw a dweud wrtho yr hyn y mae i fod i'w wneud. Ond, ar ôl darllen yr adroddiad ac wedi cael cyfarfod gyda'r comisiwn, mae'r gwaith sydd nawr yn mynd rhagddo wedi creu argraff arnaf i, sy'n ymgysylltu'n ddifrifol a manwl iawn. Fe wnaeth yr adroddiad interim argraff fawr arnaf i, oherwydd pwysigrwydd yr adroddiad interim, yn wahanol i'r sefyllfa yn aml gydag adroddiadau interim, yw nad yw'n dweud, 'Adroddiad interim yw hwn a dyma'r casgliadau yr ydyn ni'n mynd i ddod atyn nhw maes o law.' Yn y bôn, mae wedi nodi'r amrywiaeth barn sydd yno ac mae'n mynd ati i wir ymgysylltu â phobl, ac rwy'n credu bod ymgysylltu â phobl yn bwysig. Rwy'n credu'n eich bod chi, yn ddwfn yn eich calon, ar ôl i chi wneud y datganiadau cyhoeddusrwydd yr oeddech chi eisiau eu gwneud, eich bod chi, yn ddwfn iawn, wir yn credu ym mhwysigrwydd y comisiwn hwn a phwysigrwydd wir ymgysylltu ag ef, hyd yn oed os nad ydych chi'n credu y dylai fod yma.
Rwy'n cytuno gyda chi, Cwnsler Cyffredinol, fod bodolaeth a gwaith y comisiwn yn adlewyrchu, dwi'n credu, y bwrlwm newydd sydd yng Nghymru o gwmpas ein sgwrs genedlaethol o ran ein dyfodol cyfansoddiadol ni, ac mae hefyd yn cyfrannu tuag at y momentwm hwnnw. Ac mae hynny i'w weld mewn amrediad o ffyrdd ac yn adlewyrchu amrediad o farn, hwyrach. Un enghraifft dros y penwythnos diwethaf—fel dwi eisoes wedi cyfeirio ato fe yn gynharach y prynhawn yma, mi oeddwn i yn uwchgynhadledd y Felin Drafod ar annibyniaeth; 200 o bobl yn cynrychioli pleidiau gwahanol, gwahanol rannau o gymdeithas ar draws Cymru, yn trafod annibyniaeth ac yn cyhoeddi, fel rhan o'r gynhadledd, eu hastudiaeth newydd nhw ar y cwestiwn cyllidol mor belled ag y mae annibyniaeth yn y cwestiwn, sef un o'r cwestiynau mae'r adroddiad interim a'r comisiwn yn codi yng nghyd-destun asesu hyfywedd annibyniaeth, a'r astudiaeth honno yn ymateb i gyflwyniad Plaid Cymru i'r comisiwn, a gwaith yn benodol yr Athro John Doyle o Dublin City University, a oedd yn dangos bod modd i Gymru fforddio annibyniaeth, doedd yna ddim cymaint o fwlch cyllidol ag y rhagdybiwyd cyn hynny, a gwaith y Felin Drafod yn cadarnhau hynny ac yn gwneud gwaith pellach ar sail hynny.
Felly, mae yna fwrlwm sifig, mae yna egni o gwmpas cwestiwn dyfodol cyfansoddiadol Cymru nawr, sydd yn ymdebygu, rwy'n credu, i'r cyfnod cyn y refferendwm yn 1997. Ac mae e'n ddiwedd un cyfnod a dechrau cyfnod newydd, a'r sgwrs rydyn ni'n ei chael, wrth gwrs, yw: beth yw'r cyfnod newydd, beth yw'r bennod newydd, ac i ba gyfeiriad? Dwi'n credu fod e'n gyfle i ni adfywhau ein democratiaeth ni wrth i ni wynebu, wrth gwrs, y creisis cyfansoddiadol, y creisis democrataidd ehangach ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae'r adroddiad interim yn cynnig tri opsiwn posib i'w harchwilio ymhellach ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: diogelu a chryfhau datganoli yn gyntaf, ffederaliaeth yn ail, a, wedi hynny, annibyniaeth. Mae'n glir, wrth gwrs, pa un o'r opsiynau mae fy mhlaid i yn ffafrio, ond a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud pa un o'r tri mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi fel yr opsiwn gorau nawr? Ac yn y cyd-destun hwnnw, oes yna wahaniaeth rhwng safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru, Llafur Cymru fel plaid, fel rhan o'r Blaid Lafur Brydeinig yng Nghymru, a pholisi y Blaid Lafur Brydeinig? Neu oes yna ddisgwyl y bydd polisi Llywodraeth Lafur Cymru, Llywodraeth Lafur, yn penderfynu polisi y Blaid Lafur yn gyffredinol? A beth yw cyd-berthynas—? Roeddech chi wedi sôn am gomisiwn Gordon Brown a'i argymhellion e i arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Beth yw'r cyd-berthynas rhwng y broses honno o wneud polisi ar raddfa Brydeinig o ran y Blaid Lafur a gwaith y comisiwn? Yn achos yr Alban, yn y confensiwn cyfansoddiadol yna, oedd wedi cael cymaint o ddylanwad ar y broses datganoli yn yr Alban, mi oedd canlyniad y confensiwn, yr adroddiad terfynol, wedi cael effaith uniongyrchol ar bolisi y Blaid Lafur, oedd wedi cael ei fabwysiadu fel polisi. Ai dyna'r math o gyd-berthynas dŷch chi'n ei rhagweld gydag adroddiad terfynol y comisiwn yma, fod hwnnw wedi hynny yn cael ei barchu gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar y lefel Brydeinig? Ac a ydych chi yn annog hynny fel y ffordd ymlaen, gan wrth gwrs gyfeirio at y ffaith doedd adroddiad y comisiwn ddim yn dweud llawer am Gymru ac yn cyfeirio at y ffaith bod gwaith y comisiwn cyfansoddiadol yn dal yn mynd ymlaen?
Mae'r comisiwn cyfansoddiadol yn nodi nifer o feysydd lle mae yna alwadau wedi bod am ddatganoli. Dŷn ni wedi clywed cyfeiriad tuag at gyfiawnder a phlismona, er enghraifft, ond mae e'n rhestru rhai eraill: cyflogaeth, lle mae gwaith yn mynd rhagddi gan y TUC; gweinyddu lles; darlledu; Ystad y Goron; rheilffyrdd ac yn y blaen. Ydych chi yn bwriadu, fel rhan o'ch cyflwyniad i'r cyfnod nesaf, rhestru y meysydd hynny, fel Llywodraeth nawr, rŷch chi am weld Llywodraeth San Steffan nesaf yn datganoli i Gymru? Ac ydych chi, fel Llywodraeth sydd wedi dweud eich bod chi'n arddel hawl hunanbenderfyniad, am gynnwys yn y rhestr honno yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth neu ar ddyfodol cyfansoddiadol, i ba bynnag gyfeiriad, fod yr hawl hwnnw ddim yn gadwedig yn San Steffan ond hefyd yn dod fan hyn, lle y dylai fe fod, wrth gwrs, yn nwylo cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru?
Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiynau manwl iawn hynny—nifer fawr o gwestiynau. Gwnaf i fy ngorau i geisio eu hateb. Efallai y gaf i roi rhagair iddyn nhw drwy—. Wrth gwrs, rydw i wir eisiau aros i weld beth yw canlyniad adroddiad y comisiwn annibynnol. Yn ein pleidiau gwleidyddol priodol, yn ein cymunedau, yn ein sefydliadau, wrth gwrs mae gennym ni i gyd farn. Rydyn ni i gyd wedi bod ar y daith ddatganoli hon ers blynyddoedd lawer mewn gwahanol ffyrdd. Roeddwn i'n ymwneud cryn dipyn â refferendwm datganoli 1979, yr un nad oes neb i'w weld yn sôn amdano, ac roedd canlyniad hynny'n dorcalonnus. Roedd yn—. Ac roeddem ni'n meddwl efallai na fyddem ni byth yn cael refferendwm arall neu efallai na fyddem ni byth yn cyflawni sefydlu'r Senedd, y Cynulliad bryd hynny. Felly, rydyn ni wedi dod yn bell iawn. Ac mae'n deg dweud rwy'n credu, o fewn pob plaid wleidyddol, hyd yn oed o fewn Plaid Cymru, o fewn Llafur Cymru, o fewn Llafur y DU, fod yna amrywiaeth eang o safbwyntiau gwahanol o ran egwyddorion datganoli, datganoli grym, sut y dylai ddigwydd a beth y dylai'r strwythur fod, yn union fel mae yna wahaniaethau o ran sut y dylai'r DU edrych yn y dyfodol. Yr hyn y gallaf i ei ddweud yw, ers i mi ddod i Gymru yn 1973, mae yna hyder yng Nghymru, mae yna drawsnewidiad yng Nghymru, hyder yn yr hunaniaeth, yn yr iaith, yn lle Cymru yn y DU ac yn y byd, mae hynny wedi tyfu y tu hwnt i unrhyw beth, rwy'n credu, ni chafodd hynny erioed ei ddychmygu nôl yn yr amseroedd penodol hynny. Mae llawer o hynny yn ymwneud a'r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.
Cyn belled â'r mater o—. Hynny yw, rwy'n deall y safbwynt sydd gennych chi o ran annibyniaeth. I mi, y prif fater bob tro yw mater sybsidiaredd. Mae gan bob gwlad ac economi rywfaint o gyd-ddibyniaeth; dyna un o swyddogaethau'r Undeb Ewropeaidd. Ac, mewn sawl ffordd, pan fyddwch chi'n dechrau tynnu'r derminoleg allan o dermau, mae cryn dipyn o dir cyffredin mewn gwirionedd. Rwy'n credu, ar draws pob plaid wleidyddol mae'n debyg, ein bod ni eisiau gweld penderfyniadau yn cael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Gwnaeth Darren Millar bwynt dilys iawn, hynny yw, nad yw datganoli yn ymwneud â chreu seneddau yn unig; mae'n ymwneud â grymuso pobl a chymunedau, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni edrych yn gyfartal felly ar sut y mae datganoli yn digwydd o fewn ein cymunedau ein hunain ac o fewn ein Llywodraeth ein hunain. Beth yw rôl seneddau—rwy'n credu bod cwestiwn difrifol iawn yno i San Steffan, ac yn yr un modd i Holyrood ac i'r lle hwn hefyd. Rwy'n credu mai un o fanteision y comisiwn annibynnol yw fy mod i'n credu y bydd yn dechrau ymdrin â hyn; bydd yn ymgysylltu â phobl am y rheini. A bydd yn rhaid i bob plaid wleidyddol unigol a phobl yn unigol ystyried â pha gasgliadau a pha farn y daw'r adroddiad er mwyn llunio, yn y pen draw, eu barn eu hunain ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n ei gweld yn ffordd ymlaen, nid yn unig yn ymwneud â dyhead, ond o ran sut yr ydych chi'n cyflawni newid yn ymarferol a beth ddylai'r newid hwnnw fod.
Gwnaethoch chi godi'n briodol iawn fater cyllid a materion hyfywedd, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith a gafodd ei wneud gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru hefyd. Wrth gwrs, mae safbwyntiau pwysig i'w hystyried o ran, o fewn y DU, rhan trethi, rhan lles, ond y materion yn ymwneud ag ailddosbarthu cyfoeth. Mae Barnett, wedi'r cyfan, yn ailddosbarthu. Gall fod yn ffordd annigonol, hen ffasiwn ac aneffeithiol iawn o ailddosbarthu, ond mae ganddo'r rhan benodol honno; dyna un o'r nodweddion cyffredin o ran un o swyddogaethau'r DU.
Yn yr un modd, o ran fy marn i fy hun am hyn, wel, nid ydw i yma mewn gwirionedd i roi fy marn bersonol fy hun. Rydych chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith yr oeddwn i'n ymwneud ag ef o ran ffederaliaeth radical ac yn y blaen, o ran beth allai'r dyfodol a'r dewisiadau fod. Ond, rwy'n credu, yr hyn yr ydw i yma i'w wneud yw siarad am bwysigrwydd y comisiwn a sut mae'n rhaid i ni gymryd y gwaith hwnnw o ddifrif a sut mae'n rhaid i ni ymgysylltu ag ef, ac rwy'n credu,sut mae'n rhaid i ni asesu'r gwaith mae'n ei wneud, gwrando ar beth yw ei gasgliadau, i ymgysylltu ag ef, ac yna rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r canlyniad terfynol.
A gaf i ond dweud, o ran y—? Byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, ynglŷn â'r hyn y mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi bod ynghylch dogfennau 'Diwygio'r Undeb'. Mae'r ddwy fersiwn sydd wedi'u cyhoeddi mewn gwirionedd yn nodi'r math o dystiolaeth a roddodd y Prif Weinidog i'r comisiwn, ac fe arhoswn ni i weld beth maen nhw'n ei wneud o hynny.
O ran adroddiad Gordon Brown, a gaf i ddweud beth oeddwn i'n meddwl oedd y ddau beth pwysicaf yn hwnnw? Yn gyntaf, nad oedd unrhyw ddrysau ar gau o ran newid. Dywedodd nad oes unrhyw reswm o gwbl pam na ddylai Cymru gael union yr un pwerau â'r Alban. Mae hefyd yn dweud bod sybsidiaredd yn golygu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Ac mae ef hefyd yn amlinellu o fewn hynny, ac yn cydnabod, rwy'n credu, y dibyn democrataidd yr ydyn ni wedi bod yn agosáu ato wrth i fwy a mwy o bobl golli hyder yn y system etholiadol. Ond roedd hefyd, o fewn hynny, ymostyngiad pwysig iawn i'r ffaith bod gennym ni'r comisiwn annibynnol, na fyddai'n briodol iddyn nhw, yn adroddiad Gordon Brown, restru'r holl wahanol bethau yr oedd ef yn credu y dylen nhw benderfynu ar gyfer Cymru, ond yn hytrach y ffaith y dylai fod ymgysylltu adeiladol â'r Senedd a gyda Llywodraeth Cymru ar ôl i'r comisiwn annibynnol gwblhau ei waith. Rwy'n credu mai dyna oedd yr union beth priodol i'w wneud. Byddai wedi bod yn gwbl anghywir i fod wedi dweud yn y bôn, 'Mae beth bynnag y mae'r comisiwn annibynnol yn ei wneud yn amherthnasol gan mai dyma'r pethau sy'n dda i chi.' Rwy'n credu fy mod i wedi dweud droeon na ddylai dyfodol Cymru a rhan Cymru o fewn y Deyrnas Unedig neu ble bynnag gael ei phenderfynu gan gomisiwn mewn man arall y tu hwnt i Gymru.
O ran y mater hawl i gael refferendwm, rwy'n cefnogi'n gryf y farn sydd wedi cael ei rhoi gan y Prif Weinidog dros y blynyddoedd: y dylai unrhyw blaid sy'n dweud o fewn ei maniffesto ei bod yn bwriadu galw refferendwm a'i bod yna'n cael ei hethol gael yr hawl i gynnal y refferendwm hwnnw. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddadl y prynhawn yma. Ni fydd o unrhyw syndod fy mod i, fel Cadeirydd pwyllgor sydd â materion cyfansoddiadol yn rhan greiddiol o'i gylch gwaith, yn cyfrannu heddiw. Fel pwyllgor, nid ydym wedi ystyried yr adroddiad yn fanwl, ond rydym wedi ei drafod yn fyr yr wythnos diwethaf cyn y datganiad heddiw. Fy ffocws y prynhawn yma fydd tynnu sylw at faterion o fewn yr adroddiad interim sy'n debygol o fod o ddiddordeb i fy mhwyllgor yn y misoedd nesaf.
Rwy'n nodi casgliad y comisiwn bod,
'problemau mawr gyda’r ffordd mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd', a'i fod wedi nodi 10 elfen sy'n creu pwysau uniongyrchol ar y setliad presennol. Nawr, mae'n ddiddorol bod y rhain yn ymwneud yn bennaf â'r
'berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'— barn sy'n wir yn cyd-fynd â rhai o'n sylwadau ni fel pwyllgor yn ystod ein craffu ar memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mae i'w groesawu, yng ngham nesaf gwaith y comisiwn, bydd yn archwilio sut y mae modd ymdrin â'r pwysau hyn, a byddwn ni'n gwylio hynny â diddordeb.
Mewn gwirionedd, un o'r 10 elfen sy'n creu pwysau yw breuder y cysylltiadau rhyng-lywodraethol hyn. Felly, rwy'n croesawu bwriad y comisiwn i gymryd tystiolaeth ynglŷn ag a oedd y peirianwaith newydd, a gafodd ei sefydlu ond y llynedd—ac yn wir, rydyn ni'n cofio, ar y pwyllgor, y Cwnsler Cyffredinol yn dod o'n blaenau ni ac roedd yn un o'r achlysuron prin hynny lle gwnaethon ni weld gwenu ac optimistiaeth fod hyn yn ffordd dda ymlaen, ond nid ydyn ni eto wedi gweld sut y bydd yn sefydlu ei hun a pha mor effeithiol y bydd—y byddan nhw'n derbyn tystiolaeth ynghylch a yw'r peirianwaith newydd hwn, a gafodd ei sefydlu y llynedd, wir yn gwella'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Yn wir, Cwnsler Cyffredinol, rydyn ni'n bwriadu hefyd gwneud rhywfaint o waith ar y maes hwn o gysylltiadau rhyng-lywodraethol ein hunain cyn toriad yr haf. Ond fel y gwyddoch chi, mae llawer o'n hamser nawr yn canolbwyntio ar graffu ar waith memoranda cydsyniad deddfwriaethol a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, felly mae ein cyfleoedd i fod yn rhagweithiol yn y maes hwn yn llawer mwy cyfyngedig nag yr hoffen ni ei weld. Yn nes ymlaen eleni, efallai y bydd yn rhaid i ni hefyd ymdopi, wrth gwrs, â chraffu ar offerynnau statudol sy'n deillio o Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Felly, rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y comisiwn yn mynd i ystyried hwn.
Rwy'n sylwi hefyd y bydd cam nesaf gwaith y comisiwn yn cynnwys ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol, ac archwilio gyda phobl Cymru sut y maen nhw'n credu y dylai eu gwlad gael ei llywodraethu yn y dyfodol. Ac yn ddiddorol iawn, mae pwynt Darren yma ar ddatganoli a grymuso pobl, yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Senedd, yn bwynt sydd wedi'i wneud yn dda. Felly, byddwn ni'n edrych gyda diddordeb ar ba gynigion y gallen nhw eu cyflwyno yn hynny o beth. Felly, gwnaf i edrych ymlaen at ystyried adroddiad terfynol y comisiwn a rhai o'r pwyntiau hyn yn benodol, sy'n fy arwain i at y cwestiynau canlynol, y Cwnsler Cyffredinol.
Yn gyntaf oll, sut mae gwaith y comisiwn hwn, wrth iddo fynd rhagddi, yn cyd-fynd ag agenda polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru? Mae'n debyg fy mod i'n gofyn i chi edrych i'r dyfodol ychydig ac awgrymu i ni pa effaith y gallai hyn ei gael wrth lunio eich bwriad polisi, wrth symud ymlaen.
Yn ail, sut gallai gwaith y comisiwn helpu i wireddu gwelliannau yr ydym ni'n gwybod y mae eu hangen ar allu Llywodraeth Cymru i ddeddfu wrth i ni ymgymryd â phwerau ychwanegol, wrth i ni ddatblygu mwy o ddeddfwriaeth, wrth i ni ddeddfu hefyd, neu geisio llywio deddfwriaeth ar ben arall yr M4, felly, mewn gwirionedd, gallwn ni ddibynnu'n llai ar hynny, llai ar San Steffan, a felly bod deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yn bennaf yn cael ei gwneud yng Nghymru, gan y Senedd, ar gyfer y dinasyddion sy'n ein hethol at y diben hwnnw? Ydych chi'n rhagweld mewn gwirionedd y bydd y comisiwn yn ystyried sut y gallwn ni wneud mwy o 'ddeddfu yng Nghymru, ar gyfer Cymru'?
Ac yn drydydd, sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion yma? Dyma'r cwestiwn mawr sy'n eistedd o dan hyn, yn enwedig o ystyried pryderon ynghylch cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A Chwnsler Cyffredinol, efallai y gallwn ni ofyn i chi ddyfalu pa mor agored ydych chi'n meddwl y bydd Llywodraeth y DU i chi'n dod ymlaen gan ddweud, 'Mae gennym ni rai syniadau da sydd wedi cael eu cyflwyno; beth yw'ch barn chi? Allwn ni gydweithio ar hyn?'
Fy mhwynt olaf, yn syml, fyddai i mi sylwi yn eich datganiad eich bod chi'n cyfeirio at y ffaith y dylai'r dadansoddiad cyfansoddiadol hwn gael ei atal, ac mae'r comisiwn eu hunain wedi dweud y dylai gael ei atal, ym mywydau'r bobl hynny y mae effaith wedi bod ar eu bywydau. Rwy'n cytuno'n llwyr, oherwydd dyna y dylai gwaith cyfansoddiadol ganolbwyntio arno bob tro: mae'n ymwneud â sut y gallwn ni a'r sefydliadau sydd gennym ni wasanaethu'r etholwyr yn well, yn hytrach na rhyw ddadl ddirgel. Wedi'i wreiddio ym mywydau pobl. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Huw, am y sylwadau hynny, a hefyd am y gwaith y mae eich pwyllgor wedi'i wneud a'r gwaith y bydd yn ei wneud. Wrth gwrs, mae llawer o ymgysylltiadau cyfansoddiadol yn digwydd rhwng pedair gwlad y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys ar fater fframweithiau cyffredin, gyda rhai ohonyn nhw'n cael eu hystyried gan bwyllgorau yn y Senedd hon, a chafodd y fframweithiau hyn, wrth gwrs, eu creu ar sail gydweithredol er mwyn galluogi'r pedair cenedl i gydweithio yn yr amgylchedd ôl-Brexit. Roedd yn anffodus bod Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 wedi dod i'w tanseilio, ond mae'r gwaith fframweithiau cyffredin yn parhau, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n dechrau cymryd rhyw fath o ragwelediad.
Nid yw'r ffaith bod problemau cyfansoddiadol sylweddol a rhagwelediad yn syndod i ni. Roedd y rhai ohonon ni a wnaeth fynychu'r fforwm rhyng-seneddol, yr wyf yn gwybod eich bod chi'n ei fynychu nawr ac rwyf i wedi'i fynychu o'r blaen, ar sail drawsbleidiol—rwy'n credu mai cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol bryd hynny oedd Syr Bernard Jenkin—rydyn ni'n dweud yn gyson ac yn unfrydol nawr nad yw'r perthnasoedd presennol yn gweithio, bod problemau cyfansoddiadol mawr y mae angen ymdrin â nhw. Felly, nid yw hyn yn rhywbeth o natur bleidiol. Y cwestiwn yw sut ydych chi'n datrys y rheini mewn gwirionedd, a dyna wrth gwrs lle mae safbwyntiau gwahanol yn dod i mewn, ac eto, rwy'n credu mai dyna pam mae gwaith y comisiwn mor bwysig.
Os ydyn ni'n cymryd ein democratiaeth yn y wlad hon o ddifrif os ydyn ni'n cymryd o ddifrif y bygythiadau iddo, yr her iddo, yr heriau o gymryd rhan neu o beidio â chymryd rhan neu sut mae pobl yn gweld y llywodraethu gwleidyddol sydd gennym ni yn y wlad hon, os ydyn ni'n methu ag ymdrin â hynny, rydyn ni wir yn siomi cenedlaethau o bobl y dyfodol yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'r rheswm fod gennym ni gomisiwn Cymru penodol yn ymwneud â math o broses genedlaetholgar neu ynysig, ond oherwydd ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n archwilio ein hunain ein rhan ein hunain o fewn hynny, ac yn cydnabod ble mae Cymru'n ffitio o fewn hynny a beth yw'r dewisiadau penodol hynny, mewn amgylchedd sy'n newidiol iawn, yn enwedig ar ôl Brexit.
Rydych chi'n codi nifer o faterion o ran cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bwysig iawn. Yn sicr mae'n wir bod llawer o oedi wedi bod am amrywiaeth eang o resymau, yr ydyn ni i gyd yn gyfarwydd â nhw, o ran y Llywodraeth, yn enwedig yn San Steffan, yn gallu bwrw ymlaen â'i swydd, ac nid ydw i'n credu ein bod ni wedi goresgyn pob un o'r rheini eto. Ond mae cyfarfodydd rhynglywodraethol, rhyngweinidogol yn digwydd ar hyn o bryd. Cyfarfod y Prif Weinidogion a Phrif Weinidog y DU, fe ddigwyddodd hynny ac maen nhw wedi cytuno ar nifer o feysydd gwaith. Mae'r corff o dan hynny, y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, yn gorff a fydd yn cyfarfod, mewn gwirionedd, yfory, a byddaf i'n cadeirio hynny y tro hwn. Byddwn ni'n ystyried llu o'r rheini, felly byddwn ni'n adolygu cyflwr cysylltiadau a'r materion amrywiol sy'n ymwneud â Sewel, ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol, o ran goblygiadau pethau fel cyfraith yr UE a ddargedwir ac yn y blaen. Rwy'n credu bod yr hysbysiad hwnnw yn amlwg wedi mynd atoch chi, fel Cadeirydd eich pwyllgor, i roi gwybod i chi bod hynny'n digwydd.
Y pwynt y gwnaethoch chi a oedd yn bwysig iawn oedd ei bod yn ymwneud ag archwilio gyda phobl Cymru, ac rydych chi'n hollol gywir. Bydd ansawdd a chryfder y gwaith y mae'r comisiwn annibynnol yn ei wneud yn ddibynnol, i ryw raddau, ar ba raddau y mae'n gallu gwneud yr ymgysylltiad hwnnw. Cefais i fy nghalonogi ychydig gan y ffyrdd arloesol a'r gwahanol gynulliadau a grwpiau ac ati sy'n cael eu sefydlu i gyflawni hynny. Rydyn ni'n gwybod nad yw hi'n hawdd. Ond mae'n bwysig i mi ei bod yn digwydd
Sut fydd Llywodraeth y DU yn ymateb? Wel, mae'n debyg ei bod yn dibynnu ar ba Lywodraeth y DU yr ydyn ni'n sôn amdani. Gyda Llywodraeth bresennol y DU, mae'n anodd cysylltu yn yr ystyr nad yw'r trefniadau o ran prosesau da ar gyfer deddfwriaeth ar waith o hyd. Mae gormod o ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno lle nad oes ymgysylltu â ni. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) yn enghraifft glasurol: goblygiadau enfawr i ni ac ychydig iawn o ymgysylltu. Mae Bil cyfraith yr UE a ddargedwir—effaith sylweddol arnon ni, ar filoedd o ddarnau o ddeddfwriaeth, safonau, materion amgylcheddol, a materion safonau bwyd a llawer o feysydd eraill hefyd—yn un lle cafodd y byd ei addo i ni o ran ymgysylltu â ni, ond roedd yr ymgysylltu â ni cyn lleied â phosibl Nid oes gennym ni unrhyw arwyddion clir o hyd o ran y maint. Mae gwaith sy'n digwydd rhwng swyddogion, felly mae'n gwella. Ond yr holl faterion y gwnaethon ni eu codi o ran y cymal machlud, o ran pwerau cydamserol, ac yn y blaen, codais i nhw flwyddyn yn ôl, ac nid ydyn nhw wedi cael sylw o hyd. Byddaf i'n pwyso ar y materion penodol hynny.
Sut bydd Llywodraeth y DU yn ymateb? Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i Lywodraeth sy'n cymryd lywodraethiant y DU a'r hegemoni o fewn y DU o ddifrif gymryd y rhain i gyd o ddifrif, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd. Mae'n amgylchedd anodd, yn amlwg, ond byddwn ni'n parhau i weithio mor gydweithredol ag y gallwn ni, gan nodi'r safbwyntiau sydd gennym ni gan Lywodraeth Cymru o ran cyfeiriad y diwygio, beth yw prosesau seneddol da, sut y dylai democratiaeth weithio'n well, a byddwn ni'n rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn, fel y rwy'n gwybod y bydd eich pwyllgor chi, ar ôl i adroddiad y Comisiwn Annibynnol gael ei gyhoeddi.
Mae ein hamser ar fin dod i ben gyfer y datganiad hwn. Mae gen i nifer o Aelodau sy'n awyddus i ofyn cwestiynau, felly os allwn ni gadw cwestiynau ac atebion mor gryno â phosib, yna gallaf glywed gan gynifer o Aelodau â phosibl.
O'r gorau.
Diolch am wrando, Gweinidog. James Evans.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad gan y comisiwn, neu'r hyn rwy'n hoff o'i alw'n gomisiwn annibynnol ar gyfer cydymdeimlwyr annibyniaeth, a barnu yn ôl pwy yw'r comisiynwyr. Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi darllen dogfen mor rhagfarnllyd yn erbyn Llywodraeth y DU ac yn erbyn undeb y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu, Gweinidog, bod pob un ohonom yn cytuno ac yn cydnabod bod angen gwneud rhai newidiadau cyfansoddiadol ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi edrych ar hynny yn y pwyllgor deddfwriaeth, ac mae angen edrych arno. Ond fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, mae angen gwneud hyn gyda dull gweithredu ledled y DU, gyda phob Llywodraeth ddatganoledig a phob Senedd ddatganoledig yn bwydo i mewn i'r broses honno, oherwydd ni fydd ei wneud ar wahân yn mynd i unman. Felly, rwyf eisiau gwybod pa sgyrsiau rydych chi wedi eu cael gyda llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig am gael comisiwn gwirioneddol sy'n edrych ar bopeth yn ei gyfanrwydd, i ddod ag ef at ei gilydd er mwyn i ni gael newid ystyrlon, ac nid comisiwn yn y fan yma sydd dim ond yn cadw pobl yn Plaid Cymru yn hapus yn gwthio naratif annibyniaeth, sy'n mynd i unman, mae gen i ofn.
Diolch am y sylwadau a'r ffordd y cawsant eu cyflwyno. Rydych chi'n dweud ei fod yn un o'r dogfennau mwyaf rhagfarnllyd hyd yn hyn, ond mae'n adroddiad interim. Doeddwn i ddim yn rhy sicr mewn gwirionedd bod cymaint â hynny ynddo y gallech chi ddarllen mor rhagfarnllyd â hynny, ond mae'n debyg pan ddywedwch chi mai dyma'r ddogfen fwyaf rhagfarnllyd yn erbyn Llywodraeth y DU, mae'n debyg mai'r hyn y gallwch ei ddweud yw ei bod yn adlewyrchiad eithaf cywir o farn boblogaidd gyfredol Llywodraeth y DU. Ond dyna fy sylw hyperbolig allan o'r ffordd. Mae'r comisiwn yn ymgysylltu, a gobeithio y byddwch chi. Rwy'n gwybod bod Darren Millar wedi ymgysylltu, ac yn amlwg mae uwch Weinidogion Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu. Felly, mae'n cael ei gymryd o ddifrif. Rwy'n credu mai dyna lle mae Lywodraeth y DU yn cyfrannu. Os yw uwch Weinidogion Llywodraeth y DU yn cymryd rhan gydag ef ac yn rhoi eu tystiolaeth, ac mae hynny'n cael ei ystyried yn briodol fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth a'r broses ymgysylltu, yna nid wyf yn credu ei fod yn rhoi ymdeimlad bod llawer iawn o sail i'r beirniadaethau rydych chi'n eu gwneud.
Yn fwy cyffredinol, rydym wedi bod yn dadlau yn y Siambr hon byth ers i mi fod yma, sef 12 mlynedd erbyn hyn, ond rwy'n gwybod iddo fynd ymlaen ymhell cyn hynny, am gonfensiwn cyfansoddiadol. Rwy'n gwybod, ar sail drawsbleidiol, bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi bod yn dadlau ac yn dweud y dylai fod confensiwn cyfansoddiadol. Mae Llywodraeth y DU yn gyson wedi gwrthod popeth ar hyd y ffordd i fynd i'r cyfeiriad hwnnw i gael confensiwn cyfansoddiadol. Rwy'n credu, rhywbryd, y gallai fod yn rhywbeth sy'n gorfod digwydd. Ac rydych yn hollol gywir, mae angen diwygio'r holl bleidiau sy'n rhan o'r broses. Ond nid wyf yn credu y gallwch feirniadu'r comisiwn hwn am y gwaith y mae'n ei wneud a'r mandad sydd ganddo, oherwydd ei fod yn fandad rydym wedi'i osod yn benodol ar gyfer Cymru ond gyda'r rhyddid llwyr i'r comisiwn hwnnw ddewis ymwneud â phwy y mae'n ei ddewis mewn gwirionedd. O'r hyn y gallaf ei weld, mae wedi gwneud hynny ar sail drawsbleidiol lwyr heb ragfarn.
Rwy'n croesawu'r adroddiad interim ac yn adleisio rhai, nid pob un, o'r sylwadau yr ydym wedi'u clywed yn y Siambr hon y prynhawn yma. Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar agwedd fach o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud y prynhawn yma, Gweinidog.
A allwn wahardd y defnydd o'r geiriau 'blaengar' a 'radical' wrth gyfeirio at gynigion Gordon Brown? Maent bopeth ond radical neu flaengar. Yn syml, nid yw rhoi rheolaeth i ni dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig yn ddigon da. Ni fydd yn newid yr hyn y mae Dr Rob Jones a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi ei alw'n 'the jagged edge'. Dim ond datganoli llawn o'r system gyfiawnder troseddol fydd yn caniatáu inni wneud y newidiadau sylweddol sydd wir eu hangen.
Mae'r cam hwn yn ôl gan Brown a Llafur yn fyd o wahaniaeth rhwng uchelgais datganedig y cytundeb cydweithredu ar gyfer datganoli holl faterion cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Efallai eich bod yn cofio hyn nid yn unig yn dilyn argymhellion comisiwn Thomas a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd ym maniffestos y Blaid Lafur yn 2017 a 2019 yn yr etholiadau cyffredinol. Beth sydd wedi newid? Ydy Gordon Brown yn cymryd Cymru o ddifrif, neu ai ôl-ystyriaeth ydyn ni?
Diolch am eich sylwadau, Peredur. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod adroddiad Gordon Brown yn flaengar. Mae'n flaengar gan ei fod yn sôn am bwerau ychwanegol yma; mae'n sôn am ddarparu fframwaith cyfansoddiadol i ddiogelu datganoli ac i warchod y broses Sewel; mae'n sôn am egwyddor ddiderfyn fel egwyddor sylfaenol—y dylai pŵer fod mor agos at y bobl â phosibl a dim ond oherwydd graddau'r gyd-ddibyniaeth y mae'n rhaid i ni gael trefniadau llywodraethu democrataidd; a'r ffaith nad oes drysau caeedig. Ymddengys i mi fod hyn yn eithaf blaengar, ac ymddengys i mi ei fod yn eithaf radical. Os ydych yn mabwysiadu'r hyn fyddwn i'n ei alw'n rhyw fath o 'ddull rhestr siopa' i ddatganoli, lle mae gennych restr gyfan o bethau ac rydych yn eu ticio ac yn y blaen, wel, efallai fod yna rai na fyddai'n hapus gyda'r dull hwnnw. Mae'n debyg mai'r hyn fyddwn i'n ei ddweud yw, ar ôl bod yn rhan o'r broses o geisio trefnu a chefnogi datganoli pŵer a datganoli ers dechrau'r 1970au, rwy'n gweld beth sy'n digwydd fel rhywbeth sydd o newid sylweddol os yw'n ein symud ni yn ein blaenau. Efallai nad yw'n ein symud ymlaen mor gyflym ag y byddai rhai yn ei hoffi, efallai nad yw hyd yn oed yn symud mor gyflym ag yr hoffwn, ond rwy'n credu bod y cynigion o fewn y broses yn eithaf sylfaenol, a phe baent yn cael eu rhoi ar waith, rwy'n credu y byddai'n arwain at newid sylweddol o ran y setliad datganoli, a mwy o sefydlogrwydd a chydlyniad datganoli.
Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o ddatganoli tameidiog, gyda Phlaid Cymru'n credu y gallwn wneud toriadau tameidiog tuag at annibyniaeth, y Ceidwadwyr y gallwn ni ei atal rhag mynd ymhellach, a llawer yn ceisio symud datganoli tuag yn ôl. Un enghraifft yw plismona: wedi ei ddatganoli i'r Alban, Gogledd Iwerddon, Manceinion a Llundain, ond nid i Gymru. Rydym wedi ethol meiri yn uniongyrchol yn Lloegr; a dweud y gwir, mae gan Fryste faer wedi'i ethol yn uniongyrchol, a Gorllewin Lloegr hefyd, gan gynnwys Bryste. Er bod pŵer a chyfrifoldeb yn yr UDA a'r Almaen yn glir—mae'r un peth ym mhob gwladwriaeth neu Länder—ym Mhrydain, mae'n gymhleth. Roeddwn i'n mynd i ddefnyddio'r gair 'anhrefnus', ac rwy'n meddwl bod yn well gen i'r gair hwnnw, yn ôl pob tebyg. Nid yw datganoli anghymesur yn gweithio; edrychwch ar beth ddigwyddodd yn Sbaen, yr unig wlad arall sydd wedi mynd ati gyda datganoli anghymesur—mae ganddi'r union broblemau â ni. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen creu model cydlynol ar gyfer y DU gyfan, fel sydd wedi'i greu yn yr UDA a'r Almaen, a bod angen i ni ei wneud ar fyrder? Ni allwn barhau fel hyn.
Diolch, Mike. Rwy'n sicr yn cytuno gyda'r pwynt olaf hwnnw na allwn barhau fel hyn. Dyna'n union pam rwy'n meddwl ein bod ni wedi bod yn mynd i'r cyfeiriad presennol, yn union pam mae gennym ni'r comisiwn. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf—p'un a ydych yn ei alw'n datganoli, datganoli pwerau, sybsidiaredd neu beth bynnag—yw'r egwyddorion y mae'n seiliedig arnynt, beth yw'r sail, beth yw'r newid rydych am ei wneud a pham rydych chi eisiau gwneud y newidiadau hynny. Os yw'n ymwneud â grymuso pobl a chymunedau a threfniadau llywodraethu gwell, yna mae'n fater o ba newidiadau fydd yn cyflawni hynny mewn gwirionedd.
Dydw i ddim yn anghytuno â chi o ran cyfiawnder a phlismona, ond yr hyn rydw i'n ei wybod yw os nad oes Llywodraeth Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ni fyddwn yn cael y newidiadau y byddem eu heisiau. Ni chawn unrhyw newidiadau ac efallai y byddwn ni hyd yn oed yn gweld y sefyllfa bresennol yn gwrthdroi, a dyna pam, rwy'n credu, o fewn y cyd-destun, bod rhai o'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno yn bwysig iawn yn gyfansoddiadol. Maen nhw'n bwysig iawn ar gyfer dyfodol Cymru, ond maen nhw hefyd yn fframwaith lle mae angen cynnal dadl gyfansoddiadol ehangach, sy'n gorfod cynnwys Lloegr a'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd. Rwy'n credu ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd confensiwn cyfansoddiadol, oherwydd rwy'n credu mai dyma'r unig ffordd y gallwch roi'r holl nodweddion gwahanol at ei gilydd yn gydlynus. Os yw'r confensiwn cyfansoddiadol hwnnw byth yn digwydd, yr hyn y gallwn ei ddweud yw ein bod wedi chwarae ein rhan yng Nghymru i sicrhau ein bod wedi ymgysylltu â phobl yng Nghymru, a bod ein cyfraniad at hynny yn gynnyrch y sgyrsiau a'r trafodaethau hynny ar ran pobl yng Nghymru.
Gweinidog, rydw i wedi clywed nifer o ddatganiadau pendant gennych chi heddiw o ran yr adroddiad interim hwn a'r comisiwn, o ran yr hyn y mae'n ei olygu i bobl Cymru. Ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y comisiwn hwn wedi'i sefydlu ac mae'r adroddiad wedi'i seilio ar ystod o safbwyntiau wedi'u camystumio, yn anffodus. Rydym yn gwybod bod 55 y cant o'r bobl a ymatebodd i'r arolwg yn cefnogi annibyniaeth, ond o'r arolwg diwethaf ar Ddydd Gŵyl Dewi, dim ond 14 y cant o'r bobl yng Nghymru oedd yn ei gefnogi. Mae'n nifer bach iawn, ond mewn gwirionedd mae'n llai na nifer y bobl sy'n pleidleisio dros Plaid Cymru, felly os na all Plaid hyd yn oed argyhoeddi eu pleidleiswyr eu hunain i gefnogi annibyniaeth, sut ar y ddaear y byddai'n argyhoeddi gweddill Cymru, wnaf i fyth ddeall.
Ond, serch hynny, yr hyn y mae'r ymarfer ymgynghori hwn wedi'i ddangos yw ei fod wedi methu ag ymgysylltu'n iawn â chymunedau ledled Cymru. Gwnaethoch chi ei alw'n sgwrs wirioneddol genedlaethol, ond, mewn gwirionedd, rhagamcaniad o Gymru a'r Gymru y dymunai'r comisiwn hwn iddi fodoli, yn hytrach na'r Gymru sy'n bodoli mewn gwirionedd heddiw. Mae'n camystumio'r ymarfer ymgynghori cyfan. Dywedoch chi ei fod yn nodi'r amrywiaeth o ran safbwyntiau. Wel, rydym yn gwybod bod yr un nifer o bobl sydd eisiau annibyniaeth yng Nghymru, yn ôl arolygon, hefyd eisiau diddymu'r lle yma yn gyfan gwbl, ac nad yw'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried o gwbl gan y comisiwn hwn. Felly, ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, os na ellir gwneud yr ymgynghoriad hwn mewn ffordd ddibynadwy, na ddylid ei wneud o gwbl?
Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod i'n meddwl bod eich cynrychiolaeth chi o'r adroddiad interim a'r gwaith hyd at y cam hwnnw, yn wir, yn gamgyflead? Oherwydd yr hyn a wnaed yw cyflwyno cyfres gyfan o sesiynau tystiolaeth. Unwaith eto, rydych chi'n iawn o ran yr ymgynghoriad ar-lein, ac, i fod yn onest, mae hynny'r un peth gyda phob ymgynghoriad ar-lein sy'n digwydd, bod gennych nifer mawr o bobl sydd â safbwynt rhagderfynedig, ac maen nhw wedi bod yn gwbl onest am hynny. Dywedwyd hynny'n syth ymlaen llaw, ond dywedwyd hefyd nad yw hynny'n sail i'r ymgynghoriad, mai holl bwrpas cynhyrchu'r adroddiad interim oedd darparu fframwaith ar opsiynau craidd—ac rydych wedi gweld y tri opsiwn a nodwyd—y maen nhw bellach yn mynd drwy broses ymgysylltu llawer mwy manwl ac ar lawr gwlad. Felly, rwy'n credu ei bod yn annheg beirniadu gweithgarwch ymgysylltu pan fo'r gweithgarwch ymgysylltu hwnnw yn digwydd ar sail yr adroddiad interim mewn gwirionedd.
Rwy'n deall eich safbwynt, ac rwy'n deall, o fewn y Siambr hon, pan fydd safbwyntiau'n cael eu cyflwyno, weithiau maen nhw'n safbwyntiau sy'n cael eu gor-ddweud am resymau gwleidyddol pleidiau ac yn y blaen. Yr hyn rwyf yn ei obeithio yw eich bod chi, yn y bôn, yn cydnabod bod proses ymgysylltu difrifol iawn bellach ar y gweill gyda'r comisiwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo nac yn rheoli hynny, ei fod yn gomisiwn annibynnol go iawn, ac rydych yn rhydd i sicrhau bod eich barn ar yr holl bwyntiau penodol a ystyrir yn cael eu hateb a'ch bod yn rhoi tystiolaeth. Gobeithio y byddwch yn dilyn esiampl enghreifftiol Darren Millar, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart, a Gweinidogion Llywodraeth y DU sydd wedi dewis rhoi'r dystiolaeth honno, fel yn wir y deallaf y mae Gordon Brown wedi'i wneud hefyd. Rwy'n credu bod eich barn yr un mor ddilys, ac rwy'n edrych ymlaen nawr at ddarllen y dystiolaeth rydych chi eich hun yn ei chyflwyno o ran eich barn o ran y gwahanol bwyntiau sy'n cael eu gwneud yn yr ymgynghoriad sy'n mynd rhagddi.
Mae Darren Millar a Tom Giffard yn gwneud rhai pwyntiau pwysig am lefel yr ymgysylltu â'r boblogaeth gyfan. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y sgwrs honno, ond ein bod yn sicrhau bod pob rhan o'r boblogaeth yn rhan o'r broses lle bo hynny'n bosibl.
Mae tri mater y mae'r adroddiad interim yn ei amlygu sydd wir ddim yn gweithio ar hyn o bryd: plismona a chyfiawnder, seilwaith rheilffyrdd, a lles. Rwy'n meddwl bod angen i'r Torïaid dalu pwyll i'r ffaith bod cynifer o bobl yn ein gwlad sydd mewn gwaith llawn amser ac yn ei chael hi'n anodd bwyta a gwresogi. Mae hynny'n dweud wrthych, mae'n rhaid bod rhywbeth o'i le ar ein system les. Rydym eisoes wedi ymarfer y problemau gyda'r seilwaith rheilffyrdd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly rydw i am godi'r mater o blismona a chyfiawnder.
Mae'r diffyg hyder llwyr yn yr heddlu ledled y Deyrnas Unedig. Mae ein gallu i sicrhau bod y diwylliant yn yr heddlu yn briodol ac nid yn fan lle y gall pobl na ddylai fyth fod yn blismyn guddio—. Nid oes gennym y pwerau hynny, ac mae hynny'n bryderus iawn. Ond yn fwy na hynny, mae'r ffordd rydym yn gwastraffu arian o fewn y system cyfiawnder troseddol, ledled y Deyrnas Unedig, yn rhywbeth sy'n hynod anodd inni ei ddatrys oni bai bod gennym y pwerau. Mae gennym berthynas ardderchog ar hyn o bryd â phobl yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y mae pob un ohonynt yn gweithio gyda'i gilydd ar y glasbrint cyfiawnder menywod hwn, ond gall hynny newid heb i Lywodraeth Cymru allu gwneud unrhyw beth amdano. Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu'n sydyn ei bod am fynd i gyfeiriad gwahanol, yna gall yr holl waith da fynd yn wastraff.
Felly, rwyf am ddeall beth yw'r berthynas rhwng y Llywodraeth a chylch gwaith y comisiwn hwn, oherwydd mae'r rhain yn faterion difrifol ac mae angen ymchwilio'n iawn iddynt. Does bron dim byd yn yr adroddiad interim ar fater pwysig plismona a chyfiawnder, yn wir, nac ar y system les a sut y gallem ei redeg yn well, pe bai gennym reolaeth dros ei weinyddu, yn union fel y maent yn y gwledydd eraill—yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Maen nhw'n gallu ei wneud, felly dylen ni allu dangos ein bod ni'n gallu gwario arian yn well a chael canlyniad mwy cyfiawn ohono. Felly, tybed a allwch chi dynnu sylw at hynny i ni.
Diolch. Roedd cylch gorchwyl y comisiwn yn drefnus ac rydym wedi bod yn eu trafod droeon o fewn y Siambr hon. Cwrddais â'r comisiwn yn ddiweddar, fel y mae'r Prif Weinidog wedi gwneud, ac rwy'n credu ei fod wedi egluro, nawr, y broses o ymgysylltu y mae am ei wneud a rhai o gyfarwyddiadau'r materion y mae am edrych arnynt. Efallai y bydd yn edrych ar y materion hyn—materion ariannol, materion cyfansoddiadol, materion llywodraethu ac yn y blaen.
Cyfrifoldeb y comisiwn, mewn gwirionedd, yw pennu'r meysydd y mae'n credu sy'n bwysig, lle mae'r dystiolaeth y mae'n dod i'r casgliad a'r sylwadau mae'n eu cael o fewn y fframwaith, lle mae hynny'n ei arwain. Byddwn i'n synnu'n fawr os nad yw'r holl faterion hynny'n rhai sy'n cael eu hystyried, ac yn edrych ar ryw fanylder ac yn cael sylw. Gyda'r math o broses ymgysylltu a geir, mae'n anochel y bydd hynny'n wir. Mewn gwirionedd, rwy'n credu y byddai'n gamgymeriad mawr i gyfeirio a dweud, 'Dyma sy'n rhaid i chi ei wneud, dyma sut mae'n rhaid i chi ei wneud', ac ati. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi gael hyder o'r ystod eang o bobl o bob rhan o bleidiau gwleidyddol, gwahanol berswâd a sgiliau'r gwahanol gomisiynwyr ac arbenigwyr sydd yno mai dyna fyddan nhw'n ei wneud.
Mae'r pwyntiau rydych chi'n eu codi o ran lles, plismona, yr argyfwng costau byw, cyfiawnder ac yn y blaen yn gwbl gywir. Es i i Garchar menywod Eastwood Park ym Mryste gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Dywedodd y llywodraethwr yno wrthym fod pob un fenyw yno yn y carchar hwnnw wedi dioddef cam-drin, tlodi, camfanteisio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Pan aethon ni i garchar Berwyn i fyny yn y gogledd, dim ond y diwrnod o'r blaen, mae 10 y cant o'r carcharorion yn gyn-ymadawyr gofal. Cawsom gyfarfod â'r ymadawyr gofal, y mae llawer ohonynt eu hunain wedi dod yn fentoriaid i ymadawyr gofal sy'n dod i mewn i'r system garchardai. Yn ystod trafodaethau rydym wedi'u cael gyda Phrifysgol Caerdydd ynghylch yr ymchwil a chyhoeddiadau diweddar y maent wedi’u cael, yr awgrym yw mai Cymru sy'n carcharu ei dinasyddion fwyaf ledled Ewrop, ac mae rhywbeth fel dwy ran o dair neu fwy o mae'r rhai sydd ar brawf neu yn y carchar yn dod o gefndiroedd du neu leiafrifoedd ethnig. Mae'r holl bethau hynny'n dweud wrthych fod yna broblemau difrifol iawn o ran ein system gyfiawnder. Mae edrych ar y rheini, a sut y gellir ei gyflwyno'n well, wrth gwrs, eisoes yn rhan o'n polisi.
Nawr, mae ein barn ar hynny wedi ei chyfrannu i'r comisiwn mewn sesiynau tystiolaeth, fel yr wyf yn siŵr y mae barn farn pob unigolyn arall sydd â diddordeb yn y comisiwn. Dyna pam rwy'n parhau i ddweud, p'un a ydych yn cytuno ag ef ai peidio—p'un a ydych yn meddwl y dylai fod yn mynd yn ei flaen ai peidio—mae yno ac mae'n bwysig iawn eich bod yn ymgysylltu ag ef, a'n bod ni'n ystyried ac yn ymgysylltu â'r holl faterion hynny sydd mor bwysig i ddyfodol Cymru a phobl Cymru yn y ffordd fwyaf adeiladol. Mewn gwirionedd, mae'n ffordd o ymchwilio i feddylfryd a barn pobl Cymru.
Mae'r pwynt y gwnaethoch chi, Jenny, hefyd yn hollol gywir: yr ansawdd, i ryw raddau, yw graddfa ac ansawdd y dystiolaeth, ond hefyd ansawdd yr ymgysylltu sy'n digwydd. Dyna pam mae'n bwysig, nid a ydym am gytuno neu anghytuno â'r canlyniad, ac nid ydym yn meddwl mai ein safbwyntiau rhagderfynedig fydd y farn rydym am ei chael bob amser a dydyn ni ddim yn mynd i ystyried unrhyw beth arall mor anhyblyg, ac ati—rwy'n siŵr nad yw hynny'n wir. A dyna pam rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd yn amserol, ond rwy'n credu ei fod hefyd yn sylfaenol bwysig. Dywedodd Aneurin Bevan mai'r broblem, weithiau, yw bod pobl yn gwybod pris popeth ond gwerth dim, ac rwy'n meddwl bod gwerth ein democratiaeth yn uchel iawn, a dyna'r cyfeiriad rydym yn ei gymryd. Diolch.
Mae'n amlwg, Cwnsler Cyffredinol, o'r adroddiad interim fod y setliad datganoli presennol yn gamweithredol ac yn gwbl annigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru. Yr hyn sy'n amlwg hefyd yw y bydd y comisiwn yn wynebu tasg anodd o berswadio Llywodraeth San Steffan o unrhyw liw bod angen gwneud newidiadau sylfaenol. Darllenais eich cyfweliad gyda'r Law Society Gazette yr wythnos diwethaf a chefais fy synnu mai dim ond pump o'r 78 o argymhellion adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru sydd wedi'u derbyn gan San Steffan. Sut ydych chi'n goresgyn yr her wirioneddol bod Cymru'n ôl-ystyriaeth ar y gorau yn Whitehall bob amser? Sut gall y rhai sy'n falch o amddiffynwyr y status quo yno ar y meinciau Ceidwadol a gyda chi, gyda Llafur, yn San Steffan—sut y gallant amddiffyn y status quo, bod yr undeb hwn yn gweithio i bobl Cymru, pan ydym yn un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig, fel y crybwyllwyd gan Jenny Rathbone? Nid yw ein tlodi yn anochel. Mae gennym yr adnoddau, mae gennym y sgiliau. Beth sydd ei angen arnom yw'r chwarae teg, Cwnsler Cyffredinol. Dywedodd y diweddar Tom Nairn fod y wladwriaeth Brydeinig,
'wedi mynd i ffordd bengaead hanesyddol heb ffordd amlwg allan'.
Wel, mae gan y comisiwn hwn gyfle i'n harwain tuag at ffordd allan. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn addas iawn mai un o gyd-gadeiryddion y comisiwn hwn yw cyn-Archesgob Caergaint, oherwydd bydd angen yr holl gefnogaeth yn y byd a thu hwnt i berswadio unrhyw Lywodraeth San Steffan bod angen newid go iawn. Diolch yn fawr.
Wel, diolch am y sylw olaf hwnnw. Os oes modd troi dŵr yn win, yna rwy'n eithaf sicr y gellir troi comisiynau yn ddiwygiad cyfansoddiadol. Gwrandewch, mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud yn un dilys, onid yw? Mae cydnabyddiaeth—ac rwy'n gobeithio bod tir cyffredin bod cydnabyddiaeth nad yw ein strwythurau cyfansoddiadol, y status quo, yn dderbyniol, nid yn ymarferol, ac mae angen gwneud newidiau. Dyna pam mae angen i bawb wneud cyfraniad ar beth ddylai'r newid hwn fod yn eu barn nhw.
Fodd bynnag, pryd mae datganoli wedi bod yn hawdd? Pryd mae diwygiad cyfansoddiadol, pryd mae newid, wedi bod yn hawdd? Does ond rhaid i ni edrych drwy hanes i weld y camau sydd wedi eu cymryd a'r hyn sydd wedi digwydd. Yn Lloegr, bu'n rhaid cael rhyfel cartref i gael rhywfaint o ddiwygiad cyfansoddiadol sylfaenol; wel, does dim angen i ni fynd mor bell â hynny, ond mae'n gydnabyddiaeth o'r ffaith bod angen, nad yw pethau'n gweithio ac mae'n rhaid i ni eu gwella. Rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau a'r cyfraniad rydych wedi'u gwneud i hyn yn fawr, ond mae hon yn ddadl bwysig ac mae'n ddadl barhaus.
Dau gwestiwn olaf. Rhianon Passmore.
Diolch yn fawr, ac rwyf hefyd yn croesawu'r datganiad heddiw. Yn gynharach y mis hwn, siaradais ag aelodaeth fy Mhlaid Lafur yn Islwyn ynglŷn â gwaith y comisiwn a'r adroddiad interim, a'm synnwyr o'r cyfarfod hwnnw a thrafodaethau ehangach yw bod llawer i'w wneud o hyd yn gyfan gwbl i gyfleu gwaith y comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Gan fod pobl yn naturiol yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd yn yr argyfwng costau byw a'r pandemig, nid oes llawer o le i lawer o ran deall manylion diwygiad cyfansoddiadol damcaniaethol. Fodd bynnag, mae hyn yn effeithio ar bob un ohonom ledled Cymru, a byth yn fwy o effaith ar ddinasyddion Cymru gyda'i gasgliad terfynol—ni allwn danbrisio pwysigrwydd hynny.
Nodais fod dryswch rhwng gwaith y comisiwn annibynnol a thrafodaeth dda Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd, a nawr adroddiadau Gordon Brown. Nodaf fod 2,000 o ymatebion wedi bod, sy'n ddechrau iach, ond mae Cymru sydd â phoblogaeth o dair miliwn yn mynnu'r cwestiwn: sut mae sicrhau bod hon yn sgwrs leol a chenedlaethol ystyrlon? Rwy'n gwybod bod y Llywydd yn edrych arnaf.
Dywedoch chi fod y comisiwn wedi nodi mai ei fwriad, yn y cyfnod nesaf yn ei waith, yw ymestyn y sgwrs honno i bobl Cymru, ac mae hynny i'w groesawu, ond mae'n rhaid i hynny fod yn sgwrs wirioneddol a phwysig sy'n ymestyn ledled Cymru a ledled ein cymoedd. Felly, Cwnsler Cyffredinol, sut y bydd hyn yn dod i'r amlwg mewn gwirionedd, gan fod angen mwy o gyfathrebu, ar gyfer yr ymgysylltiad y mae pob un ohonom ei eisiau ac y mae Cymru'n ei haeddu?
Diolch, Rhianon, am y sylwadau hynny. Mae'r comisiwn wedi nodi rhaglen o ymgysylltu llawer mwy trylwyr, o ymgynghori llawer mwy trylwyr, a sefydlu grwpiau o fewn cymunedau y bydd yn ymgysylltu â nhw, ac rwy'n gwybod mai dyna un o'r pwyntiau a godais, ymhlith pwyntiau eraill a godwyd pan gwrddon ni â'r comisiwn—'Sut ydych chi'n mynd i fynd ati?' Roedd yn amlwg bod llawer o waith a llawer o feddwl yn cael ei wneud am y peth. Ac mae pob un ohonom yn gwybod o'n hymgysylltiad ein hunain â'n cymunedau nad yw'n broses hawdd. Mae pobl sydd wedi'u hymddieithrio rhag cymdeithas ddinesig yn y ffordd honno yn anodd ymgysylltu â nhw—maen nhw wedi rhoi'r gorau iddi am reswm penodol—ond rwy'n hyderus eu bod yn mynd i'r afael â hi'n glir, ac y byddant yn gwneud rhai pethau gwahanol iawn, iawn a ffyrdd gwahanol o'i wneud.
O ran ein trafodaethau, mae hyn yn her i bob un ohonom, onid yw? Sut mae troi'r dadleuon hyn, sy'n ymwneud â sut y gall pobl ddylanwadu ar faterion, dylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, yn fwy na thrafodaethau technegol? Wel, edrychwch digwyddodd hyn—nid oes ond rhaid i ni edrych drwy hanes. Mae wedi digwydd o'r blaen. Y Siartwyr—beth oedd hynny? Roedd hynny'n ymwneud â diwygiad cyfansoddiadol; nid oedd yn ymwneud â bron dim arall heblaw diwygiad cyfansoddiadol. Mae sefydlu democratiaeth yn ymwneud â diwygio cyfansoddiadol. Bu Keir Hardie, ar y Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur cyn sefydlu'r Blaid Lafur, yn sôn am reol gartref, pethau cyfansoddiadol, oherwydd eu bod yn cydnabod y pwysigrwydd o ran nodi lle'r oedd pŵer a sut y gallech ei arfer a'i ddemocrateiddio.
Felly, dyna yw craidd y ddadl rydym yn ei chael a'r ddadl y mae'n rhaid i ni gael, yn fy marn i, ac rwy'n meddwl y bydd yn sail i lawer o'r trafodaethau ar y mater pwysig iawn hwn. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cael yr awr hon. Rwy'n ddiolchgar am haelioni'r Llywydd am ganiatáu i'r ddadl hon ddigwydd fel hyn, ond dim ond dechrau'r gwaith hwnnw yw hwn mewn gwirionedd, rwy'n credu.
Rwy'n ddigon hael hyd yn oed i alw Alun Davies. [Chwerthin.]
Dyna ni. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Llywydd, ac felly hefyd y Siambr. [Chwerthin.] Rheolaeth gartref, wrth gwrs, oedd un o egwyddorion sefydlu'r Blaid Lafur fodern, a bydd y bobl hynny sydd heb ddarllen 'In Place of Fear' yn dilyn chwiliad Aneurin Bevan am ddemocratiaeth a phŵer o borthdy'r glowyr yng nglofa Pochin, drwy gyngor tref Tredegar a Chyngor Sir Fynwy hyd at Balas San Steffan. A phŵer yw'r hyn y mae sosialaeth amdano, a'r defnydd o bŵer a rheoli pŵer democrataidd, sef yr hyn nad yw Waldorf a Statler yn ei hoffi am y ddadl hon mewn gwirionedd, oherwydd mae hyn yn ymwneud â democrateiddio pŵer gwleidyddol. Yr hyn rydw i am ei weld gan y comisiwn hwn, Cwnsler Cyffredinol, yw sefydlu cydnabyddiaeth bod democratiaeth seneddol yn gyfartal yn y fan yma â'r hyn sy'n bodoli yn San Steffan.
Rwyf wedi darllen drwy statudau San Steffan ym 1931, ac mae'n ddigon posibl y byddai hynny'n darparu bloc adeiladu ar gyfer sofraniaeth gyffredin democratiaeth seneddol ledled yr ynysoedd hyn, oherwydd hyd nes y byddwn yn colli'r cysyniad o ddemocratiaeth seneddol sy'n byw yn San Steffan a San Steffan yn unig, ni fyddwn byth yn gallu diogelu'r pwerau y mae pobl Cymru am gael eu cynnal yma. Felly, mae angen i ni allu gwneud hynny.
A'r pwynt arall y byddaf yn ei wneud, os bydd y Llywydd yn caniatáu i mi wneud hynny, yw democrateiddio arian. Yn rhy aml, mae penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Drysorlys y DU yn cael eu gwneud er budd Llundain a de-ddwyrain Lloegr, ac un man lle roedd Liz Truss yn gwbl gywir oedd bod uniongrededd y Trysorlys wedi methu'r Deyrnas Unedig. Mae uniongrededd y Trysorlys wedi methu Cymru. Mae uniongrededd y Trysorlys wedi amharu ar y Deyrnas Unedig, a'r hyn yr hoffwn ei weld yw model sy'n seiliedig, efallai, hyd yn oed ar fodel Awstralia, lle mae gennych ddyraniad annibynnol o arian ac ailddosbarthu cyfoeth ar draws yr ynysoedd hyn er mwyn sicrhau bod pob rhan o'r ynysoedd hyn yn cael budd o'r cyfoeth a grëwyd yn yr ynysoedd hyn.
Diolch am hynny, ac eto, rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am ei haelioni, neu a ddylwn i ddweud gormodiaith? [Chwerthin.] Mae'r pwynt rydych yn ei wneud am sofraniaeth yn un pwysig, ac rwyf wedi bod yn dweud ar bob cyfle a gaf fod y cysyniad o sofraniaeth San Steffan wedi diflannu gryn amser yn ôl. Efallai nad yw'n cael ei gydnabod yn llwyr ac efallai na fydd ein strwythur cyfansoddiadol wedi dal i fyny â hi, ond lle mae gennych bedair Senedd sy'n ethol ac sydd â phwerau deddfu sylfaenol, gyda mandadau gan y bobl y cawsant eu hethol, yna ni all fod unrhyw beth heblaw sofraniaeth a rennir. A methiant ein system gyfansoddiadol yw addasu i hynny sydd wedi arwain at y trafferthion rydym yn eu hwynebu'n barhaus bob dydd, yn fy marn i, ac un o'r rhesymau pam fod yn rhaid diwygio. Mae democrateiddio cyllid, atebolrwydd y Trysorlys, rwy'n cytuno yn gwbl sylfaenol a dweud y gwir. Mae dadl HS2 yn enghraifft berffaith o hynny. Ni ddylai allu digwydd mewn ardal lle mae darlun clir o'r confensiynau a'r pwerau a'r cyfrifoldebau. Felly, y tu hwnt i hynny, rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau eraill a wnaethoch hefyd.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.