Y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau

3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

1. Pa sicrwydd wnaiff y Gweinidog ei ddarparu na fydd symud i ffwrdd o gyllido’r cynllun brys ar gyfer bysiau yn arwain at gau llwybrau bysiau ac yn golygu bod gwasanaethau bysiau gwledig yn anhyfyw? TQ727

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:03, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae estyniad cychwynnol o dri mis yn rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y diwydiant yn y tymor byr tra byddwn yn parhau i weithio gyda hwy a chyda llywodraeth leol ar gynllunio rhwydweithiau bysiau sy’n gweddu’n well i’r patrymau teithio newydd rydym wedi’u gweld ers diwedd y pandemig.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwy’n derbyn bod yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi bod yn eithriadol o brysur i chi. Mae'r ansicrwydd rydych wedi sôn amdano ynghylch y cyllid hwnnw yn y dyfodol yn achosi llawer iawn o bryder, ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ymestyn y cyfnod pontio hwn am dri mis. Fodd bynnag, nid yw'r gohiriad dros dro'n mynd i wneud llawer i leddfu pryderon gweithredwyr bysiau. Rwy’n derbyn eich bod mewn sefyllfa anodd—gwn inni gyffwrdd ar hyn yn y Siambr ddoe—ond mae’r newid yn y negeseuon ar hyn wedi drysu pethau yn fy marn i, a hoffwn gael rhagor o wybodaeth am hynny. Gwnaed rhai datganiadau fod y cynllun i fod i ddod i ben ym mis Mawrth eleni, ond ymddengys bod hynny’n mynd yn groes i’r dystiolaeth weinidogol a gyflwynwyd ar y gyllideb ddrafft, yn ogystal, yn ôl yr hyn a ddeallaf, â chywair y trafodaethau y mae gweithredwyr bysiau wedi’u cael gyda Llywodraeth Cymru yn y misoedd cyn y newid hwn.

Weinidog, byddwn yn dweud eich bod wedi cymryd camau beiddgar yr wythnos hon tuag at wireddu dyfodol sero net. Mae'r ysgogiad y tu ôl i hynny'n un rwy'n ei groesawu'n fawr; credaf ei fod yn anhygoel o ddewr. Ac am y rheswm hwnnw, byddwn yn eich annog mai nawr yw'r amser pwysicaf i Lywodraeth Cymru fod yn edrych ar ddarparu sicrwydd o gyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd os ydym am annog pobl i ddefnyddio llai ar geir, i sicrhau bod rhwydweithiau bysiau a threnau hyfyw yno ar eu cyfer, dyna'r ffordd o sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd lle mae angen iddynt fod—mewn mwy nag un ffordd, wrth gwrs. Felly, a fyddech cystal â dweud wrthym a oes unrhyw obaith, yn eich barn chi ar hyn o bryd, o sylfaen fwy cynaliadwy i gynllun fel hwn barhau, neu gynllun sy'n ei efelychu, gan gofio, wrth gwrs, mai cynllun ar gyfer COVID ydoedd?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:05, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am godi’r cwestiwn, gan ei fod yn fater sy’n peri cryn bryder i ni. Yn amlwg, nid yw hon yn sefyllfa hapus. Mae gennym rwydwaith bysiau sydd wedi’i breifateiddio, sy’n dibynnu ar allu gweithredwyr masnachol i wneud elw. Yn amlwg, mae’r pandemig wedi troi’r model busnes hwnnw ar ei ben, a’n hymyrraeth ni, gyda £150 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus, a gadwodd y sector rhag mynd i'r wal. Roedd bob amser i fod yn gynllun brys; y bwriad oedd ei fod yn gynllun dros dro. Bob blwyddyn, rydym yn gwario £60 miliwn ar sybsideiddio tocynnau teithio rhatach i bobl hŷn, rydym yn gwario £2 filiwn arall ar sybsideiddio cynllun fyngherdynteithio ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed, ac rydym yn darparu £25 miliwn o grant i awdurdodau lleol ar gyfer y grant cynnal gwasanaethau bysiau, ac mae oddeutu chwarter cyllidebau addysg awdurdodau lleol bellach yn mynd ar gludiant i'r ysgol. Felly, rydym yn darparu llawer o arian cyhoeddus, ac ar ben hynny, rydym wedi cael y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau.

Nawr, yn y gyllideb eleni, y bwriad bob amser oedd dirwyn hynny i ben. Un o'r pethau y mae'r diwydiant ei hun yn ei ddweud yw ein bod yn ffosileiddio—dyna'r gair y maent wedi'i ddefnyddio—rhwydweithiau bysiau ar lwybrau teithio a oedd yn gweddu i deithwyr cyn y pandemig, ond mae ymddygiad teithwyr wedi newid. Mae llai o bobl hŷn yn teithio, ceir mwy o deithiau hamdden nag a geir o deithiau cymudo. Felly, mae'n debyg ein bod yn dal i redeg patrwm bysiau'n seiliedig ar ymddygiad cyn-bandemig. Felly, doed a ddelo, mae angen ad-drefnu'r rhwydweithiau. Yn amlwg, byddai’n well gennym wneud hynny mewn ffordd drefnus. Nawr, rydym wedi bod yn ceisio cysoni setliad cyllideb anodd tu hwnt â'n dyheadau polisi, ac fel y gwyddoch, mae gennym uchelgeisiau mawr ar gyfer bysiau. Ond yn y bôn, oni bai ein bod yn barod i sybsideiddio'r diwydiant yn llawn, ni allwn wneud unrhyw beth i gadw gwasanaethau fel y maent. Ac mae hon yn broblem ledled y DU. Bydd chwiliad cyflym ar y rhyngrwyd yn dangos hyn ledled Lloegr a'r Alban. Maent oll yn wynebu'r un peth.

Nid ydym wedi gweld unrhyw arian ychwanegol yn dod gan y Trysorlys a’r Adran Drafnidiaeth a fyddai’n cynhyrchu unrhyw gyllid canlyniadol i ni ddarparu rhagor o arian eleni. Rydym hefyd yn gorfod wynebu pwysau sylweddol yn sgil costau yn y diwydiant rheilffyrdd. Felly, rydym mewn cyfyng-gyngor yma. Drwy'r wythnos diwethaf, drwy sgyrsiau adeiladol iawn gyda'r diwydiant a llywodraeth leol, fe wnaethom lwyddo i sicrhau gohiriad. Felly, mae'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau wedi'i warantu am dri mis arall, ac rydym yn gobeithio gweithio'n agos gyda hwy yn ystod y cyfnod hwnnw i geisio nodi pa lwybrau teithio y dylid eu cynnal o fewn yr amlen gyllideb bysiau sy'n lleihau er mwyn rhoi'r cyfle gorau inni gael gwasanaeth sgerbwd a fydd yn ein cynnal hyd at y fasnachfraint newydd, sy'n dal i fod ychydig o flynyddoedd i ffwrdd. Felly, bydd gennym broblem wirioneddol o ran pontio.

Ni fyddai unrhyw beth yn well gennyf na dod o hyd i’r arian i allu gwneud hyn yn iawn, ond mae ein hopsiynau’n gyfyngedig. Rydym yn ymwybodol o'r pwysau costau ar y Llywodraeth, a chyda’i gilydd, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi blaenoriaethu ystod gyfan o gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, ar gyfer yr argyfwng costau byw ac ar gyfer bargen gyflog i’r GIG. Nawr, ni ellir gwario'r arian hwnnw ddwywaith. Felly, yn syml iawn, nid oes arian yn hel llwch yng nghyllideb Cymru y gallwn ei wario ar hyn, er cymaint yr hoffwn wneud hynny. Felly, mae gennym her wirioneddol nawr i geisio sicrhau cyfnod pontio llyfn cystal ag y gallwn allan o'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau mewn ffordd sy'n achosi'r aflonyddwch lleiaf i deithwyr, gan gadw set graidd o rwydweithiau bysiau sy'n caniatáu i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a newid eu dulliau teithio, fel rydym am iddynt ei wneud. Ond ni allaf ddweud yn onest ein bod yn mynd i allu gwneud yr holl bethau rydym am eu gwneud, o ystyried yr arian sydd ar gael. Rwy’n mawr obeithio, a hoffwn apelio ar Lywodraeth y DU, gan eu bod hwythau'n wynebu'r problemau hyn hefyd, i roi arian ychwanegol yn y gyllideb drafnidiaeth ar lefel y DU er mwyn mynd i'r afael â’r argyfwng sydd yn Lloegr hefyd, a fydd yn arwain at gyllid canlyniadol ychwanegol i ni y gallwn ei roi tuag at y system fysiau wedyn a gweithio gyda'r diwydiant i greu rhwydwaith synhwyrol.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 3:09, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, am godi hwn fel cwestiwn heddiw. Nawr, gyda phob parch, roedd diwedd mis Mawrth i fod yn bwynt terfyn ar gyfer BES 3, fel y’i gelwid yn gyffredin, a bellach, rydym yn darganfod ei fod, yn amlwg, yn cael ei barhau hyd at ddiwedd mis Mehefin, sy’n iawn. Felly, hoffwn wybod beth yn union sy'n mynd i ddigwydd pan fyddwn yn cyrraedd mis Mehefin, Ddirprwy Weinidog? Rydych wedi dweud yn flaenorol fod yn rhaid bodloni meini prawf er mwyn gallu cynnal rhai llwybrau bysiau penodol. Beth yw'r meini prawf hynny? Pa gymorth a fydd yn cael ei roi ar waith i helpu gwasanaethau bysiau Cymru, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd fel nad yw ein cymunedau gwledig a’n haelodau sy’n byw yno'n teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso a’u hynysu wrth symud ymlaen? Gwta 24 awr yn ôl, fe gyhoeddoch chi yr adolygiad ffyrdd a’r cynllun trafnidiaeth—mewn modd brysiog braidd, sy’n iawn—lle rhoesoch lawer o bwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ar 31 Mawrth 2022, fe gyhoeddoch chi 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru', ac ynddo—a dyfynnaf—fe ddywedoch chi eich bod am greu

'opsiwn rhagorol ar gyfer teithio, lle a phryd bynnag mae angen hynny ar bobl, ledled Cymru'.

Ar y naill law, mae Llywodraeth Cymru am i fwy o bobl ddefnyddio mwy o fysiau a dod allan o'u ceir, ond ar y llaw arall, rydych yn cael gwared ar achubiaeth ariannol fawr ei hangen. Nid yw'n gwneud synnwyr i mi, Ddirprwy Weinidog. Os na chaiff cynlluniau ariannu eu rhoi ar waith drwy dorri cymorth ariannol ar gyfer bysiau, mae’r Llywodraeth hon yn mynd i achosi problemau mawr i bobl ddirifedi ym mhob cwr o Gymru. Rwy’n deall bod un gweithredwr bysiau mawr wedi rhybuddio y byddant yn paratoi i dorri chwarter eu gwasanaethau presennol, gan fod y cynllun ariannu ar fin dod i ben. Sut ar y ddaear y gallwch ddisgwyl i bobl ddefnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus pan fydd camau gweithredu’r Llywodraeth hon yn arwain yn y pen draw at dorri gwasanaethau bysiau? Mae dal bws yng Nghymru eisoes yn hunllef, felly os na ddarperir cyllid, nid yw’r penderfyniad hwn ond yn mynd i wneud pethau’n waeth. Rwy’n siŵr y byddwch yn dadlau, Ddirprwy Weinidog, nad yw bysiau’n cael eu defnyddio—fel rydych wedi'i ddweud yn flaenorol—fel roeddent yn cael eu defnyddio yn y gorffennol, felly fy nghwestiwn yw: beth rydych chi'n ei wneud i gynyddu argaeledd a defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus? Yn sicr, po fwyaf o bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, y mwyaf ariannol hyfyw y dônt, a bydd angen llai o gymorth gan y Llywodraeth. A ydych yn cytuno, Ddirprwy Weinidog, fod cael gwared ar y cyllid hwn wrth symud ymlaen yn gwbl groes i bolisïau eich Llywodraeth? A pha gymorth amgen y bydd eich Llywodraeth yn ei ddarparu i weithredwyr bysiau yng Nghymru o fis Mehefin 2023 ymlaen?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:11, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, credaf fy mod wedi ateb yr holl bwyntiau hynny yn yr ateb i Delyth Jewell.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Na, ni chredaf ichi wneud hynny.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Mae gennym system fysiau sydd wedi’i phreifateiddio, fel rwyf wedi'i esbonio droeon, sy’n etifeddiaeth o breifateiddio'r Ceidwadwyr yn y 1980au, ac rydym yn byw gyda realiti hynny nawr, ac mae wedi methu; mae’r model busnes wedi methu, mae methiant yn y farchnad yma, ac rydym yn mynd i weld toriadau a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn diflannu. Nid oes yr un ohonom yn dymuno gweld hynny, ond rydym hefyd yn byw mewn oes o gyni; unwaith eto, dewis gwleidyddol gan Lywodraethau ei phlaid, lle mae cyllid cyhoeddus wedi’i leihau y flwyddyn nesaf, ac yn syml iawn, nid oes cyllid ar gael inni barhau i fuddsoddi mewn cynnal cwmnïau preifat nad ydynt yn gallu rhedeg gwasanaethau masnachol hyfyw ar y gyfradd y bu modd inni ei wneud drwy'r pandemig. Rydym wedi gallu dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol eleni i ymestyn y cynllun dros dro, ond yn syml iawn, nid oes arian yn y gyllideb i allu parhau â hynny i’r dyfodol. Hoffwn pe bai; ond nid oes arian ar gael, mae arnaf ofn. Ac ni allaf ddianc rhag y realiti hwnnw, er cymaint yr hoffwn allu gwneud hynny.

Felly, rwy’n cyfaddef bod hon yn sefyllfa annymunol nad oes yr un ohonom am ei gweld, ond mae ein hopsiynau’n gyfyngedig. Y gorau rydym wedi gallu ei wneud yw sicrhau gohiriad ar gyfer y diwydiant, i weithio'n agos gyda hwy i geisio cynllunio cyfnod pontio mor llyfn ag y gallwn, ond ni allaf ddweud gydag unrhyw sicrwydd y byddwn yn llwyddo, ac mae perygl bob amser y bydd cwmnïau masnachol yn penderfynu eu hunain—ac maent yn rhydd i wneud hynny mewn system fysiau fasnachol sydd wedi'i dadreoleiddio—eu bod yn mynd i ddiddymu gwasanaethau, gan eu bod eisoes yn ei chael hi'n anodd recriwtio, cadw a hyfforddi gyrwyr bysiau, a gallu cadw at yr amserlen fel y mae'n cael ei hysbysebu.

Felly, mae’r diwydiant bysiau'n wynebu nifer o heriau gwahanol, ac mae’r ffaith nad yw teithwyr wedi dychwelyd i wneud y gwasanaethau masnachol hynny’n hyfyw yn her sylweddol, ond mae pen draw ar yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud â’r setliad cyllideb hwn gan ei Llywodraeth hi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:13, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei ymateb, ac rwy’n rhannu ei ddadansoddiad o’r broblem. Ond mae Llywodraethau yn bodoli i ddatrys problemau, wrth gwrs, nid i'w hailadrodd. Ac i fy etholwyr i, ym Mlaenau Gwent, pan fyddant yn clywed Gweinidog yn sôn am wasanaeth sgerbwd, maent yn meddwl, 'Wel, mae hwnnw'n wasanaeth sy'n mynd i wasanaethu Caerdydd, Casnewydd, Abertawe ac ychydig o leoedd eraill, ond gwyddom na fydd yn gwasanaethu Cwm, ni fydd yn gwasanaethu Blaenau, ni fydd yn gwasanaethu Abertyleri, Tredegar na Glynebwy'. Ac nid yw hwnnw'n wasanaeth y gallwn ei dderbyn. Felly, yr hyn yr hoffwn ei glywed gan y Llywodraeth—a gwn ei bod yn sefyllfa anodd, a chredaf fod y camau yr wythnos hon i ymestyn y rhaglen am dri mis yn darparu rhywfaint o le i anadlu—ond yr hyn rwyf am ei weld gan y Llywodraeth yw cynllun gweithredu clir i ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus y dywedodd, pan safodd yn y Siambr hon ddoe, ei fod am i bobl eu defnyddio. Yn fy etholaeth i, nid yw’r gwasanaethau cyhoeddus hynny’n bodoli heddiw, ac os na fyddant yn bodoli ymhen chwe mis, sut mae pobl yn cyrraedd gwasanaethau cyhoeddus? Sut maent yn cyrraedd siopau? Sut maent yn prynu eu bwyd? Sut maent yn symud o gwmpas, yn mynd i gael hyfforddiant a gwaith? Ni allwn ganiatáu i’r sefyllfa hon barhau. Mae arnom angen cynllun ar gyfer bysiau ac mae ei angen arnom ar unwaith, ac os bydd y Gweinidog yn cyflwyno deddfwriaeth frys, byddaf fi'n sicr yn pleidleisio i’w deddfu cyn gynted â phosibl.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:15, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

O na bai mor syml â hynny, Lywydd. Yn sicr, mae gennym gynllun ar gyfer deddfwriaeth, ac rydym wedi ymgynghori arno. Rydym yn gweithio drwy’r cynllun hwnnw ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio ei gyflwyno yn y Senedd yn ddiweddarach eleni, ac yn ogystal â hynny, rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gynllunio’r rhwydweithiau bysiau gorau posibl ar gyfer eu cymunedau. Felly, bydd gennym rwydwaith bysiau integredig strategol, wedi'i gynllunio gyda thocynnau integredig rhwng trenau a bysiau. Bydd gennym safonau gwasanaeth cyffredinol. Bydd gennym gyflogau ac amodau ledled y wlad. Bydd gennym fframwaith llawer gwell er mwyn gweithredu gwasanaethau bysiau.

Ond yn absenoldeb refeniw teithwyr, a dyma’r broblem yma, yr unig ffordd i gadw’r gwasanaethau hynny i redeg yn y cyfamser yw drwy gefnogaeth uniongyrchol y cyhoedd, ac mae ein cyllidebau wedi’u torri ac rydym wedi blaenoriaethu pwysau costau byw, dyfarniadau cyflog a chinio ysgol am ddim a phethau eraill, a hynny’n gwbl briodol. Nid wyf yn gwrthwynebu hynny o gwbl, dim ond dweud wrth yr Aelodau eu bod wedi croesawu'r cyhoeddiadau hynny ynglŷn â lle bydd yr arian hwn yn mynd, a bod canlyniadau ariannol i ba adnoddau sydd ar gael. Dywed mai gwaith y Llywodraeth yw datrys problemau. Rwy'n cytuno ag ef. Credaf ein bod wedi llwyddo sicrhau rhywfaint o le inni anadlu wrth weithio gyda'r diwydiant i weld beth y gallwn ei wneud, ac os oes ganddo awgrymiadau eraill nad ydym wedi meddwl amdanynt, byddwn yn falch iawn o'u clywed.

Photo of Joel James Joel James Conservative 3:16, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Weinidog, un o broblemau mawr y cyhoeddiad cychwynnol am dorri'r cyllid brys oedd y rhybudd cymharol fyr, a olygai nad oedd gan rai cwmnïau bysiau, yn enwedig rhai llai, gronfeydd ariannol wrth gefn sy'n angenrheidiol i gadw gwasanaethau amhroffidiol ond hanfodol, ynghyd â'r amser digonol i newid eu gwasanaethau er mwyn darparu ar gyfer y newidiadau, gan arwain at gryn dipyn o ansicrwydd a phryder. Yr wythnos diwethaf, Ddirprwy Weinidog, fe sonioch chi am bwysigrwydd llwybrau bysiau a chynnal gwasanaethau gwledig i ateb gofynion ein hôl troed carbon a lleihau ein dibyniaeth ar geir. Cafodd hyn ei ailbwysleisio ddoe yn eich cyhoeddiad ar yr adolygiad ffyrdd. Ond nid yw’r negeseuon anghyson gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynnal dyfodol hirdymor y rhwydwaith bysiau a’n llwybrau gwledig yn rhoi unrhyw sicrwydd i gwmnïau bysiau na’r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch y pwysigrwydd hwnnw.

Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Weinidog, a ydych yn cydnabod bod yr anghysondeb hwn yn y negeseuon a'r camau gweithredu yn cael effaith andwyol, nid yn unig ar allu’r llwybrau bysiau i oroesi, ond ar y rhagolygon a’r cynlluniau mwy hirdymor ar gyfer gwasanaethau gwledig? Pa ymrwymiadau rydych yn eu gwneud i ymgysylltu'n well â chwmnïau bysiau a’r cyhoedd i sicrhau cyfnodau rhybudd hwy ar gyfer cyhoeddiadau cyllido yn y dyfodol? Diolch.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:18, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, gadewch inni fod yn glir; y bygythiad mawr i'r diwydiant bysiau yw cyni'r Torïaid. Felly, gadewch inni beidio ag ymgilio rhag y ffaith honno, ac nid wyf yn mynd i adael i'r blaid gyferbyn daflu'r baich am y sefyllfa rydym yn ei hwynebu. Polisïau economaidd eu Llywodraeth hwy sydd wedi ein harwain i'r sefyllfa hon.

Nawr, nid wyf yn derbyn ei ddisgrifiad o'r cyfathrebu rhyngom a'r diwydiant bysiau, a ninnau wedi gweithio'n agos iawn â hwy drwy gydol y pandemig a thu hwnt. Ar ôl cyhoeddi'r gyllideb, cyfarfu swyddogion â gweithredwyr i drafod ei chynnwys a'i goblygiadau. Dilynwyd hyn yn ysgrifenedig, lle nodwyd yn glir mai drafft a oedd y gyllideb ac y gallai newid cyn iddi gael ei chwblhau. Am nad yw pobl hŷn wedi dychwelyd yn y niferoedd a welsom cyn y pandemig, dywedodd swyddogion hefyd ei bod yn bosibl nad yw'r tanwariant o brisiau siwrneiau consesiynol gorfodol ar gael fel cymorth i fysiau oherwydd pwysau cyllidebol eraill ar draws y Llywodraeth, a gofynnwyd i’r diwydiant gynllunio ar gyfer pecyn ariannu llai yn ystod y cyfarfodydd hyn. Felly, ni chredaf ei bod yn deg dweud bod hyn wedi'i gyflwyno iddynt yn ddirybudd. Roeddem yn gwybod bod BES yn dod i ben, roeddem yn gwneud ein gorau i geisio dod o hyd i adnoddau i’w ymestyn cyhyd â phosibl, ac rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, ond rydym wedi siarad â’r diwydiant drwy gydol y broses.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:19, 15 Chwefror 2023

Dydy'r Llywodraeth yma ddim yn gwneud eironi, mae'n rhaid. Ar yr un llaw, ddoe, roedd y Dirprwy Weinidog yn cyhoeddi bod cynlluniau i adeiladu llawer iawn o ffyrdd gwledig Cymru am gael eu hatal, gan sôn bryd hwnnw am bwysigrwydd trafnidiaeth cyhoeddus a sut mae'r mwyaf difreintiedig, menywod, yr anabl a phobl bregus eraill sydd yn dibynnu fwyaf ar drafnidiaeth cyhoeddus a pha mor bwysig ydy o, felly. Yna, wrth drafod y cynllun argyfwng bysiau, fe ddywedodd yr un Dirprwy Weinidog na fyddai'r arian sy'n cael ei roi i fysiau Cymru yn ddigon i gynnal eu llwybrau a'r gwasanaethau presennol. Dydy o ddim mor hawdd neidio ar feic i seiclo i'r siop agosaf yn y Gymru wledig. Mae'n cymunedau ni bellteroedd oddi wrth ei gilydd, a gwasanaethau wedi cael eu canoli mewn ardaloedd ymhell i ffwrdd. Mae'n rhaid i bobl deithio pellteroedd mawr i weld meddyg, i weld deintydd, i dderbyn addysg, i siopa, i fynd i'r ganolfan hamdden, a llu o weithgareddau eraill. A bydd pobl oedrannus a bregus yn byw bywydau unig iawn yn sgil hyn.

Os na ariennir gwasanaethau bysiau yn iawn, yna mi fyddwch chi yn gorfodi mwy o bobl i ddibynnu ar geir preifat. Ac yn absenoldeb rhwydwaith o bwyntiau gwefru, yr hyn a welwn ni ydy gwlad fel Ciwba yn y Gymru wledig, efo pobl yn cynnal yr un hen geir tanwydd ffosil am ddegawdau i ddod. Ond, yn fyw na hynny, rydych chi'n rhoi hoelen arall yn arch y Gymru wledig, gan orfodi pobl i adael ein cymunedau i fyw yn rhywle arall oherwydd diffyg trafnidiaeth a mynediad at wasanaethau. Felly, a gawn ni sicrwydd y byddwch chi yn sicrhau bod y llwybrau presennol, o leiaf, yn cael eu cynnal, gyda buddsoddi go iawn yn digwydd yn y rhwydwaith fysiau yn y Gymru wledig pan ddaw y cyfle cyntaf posib?  

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:21, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oes angen unrhyw bregethau arnaf ar bwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus a’r rôl hanfodol y mae bysiau'n ei chwarae mewn ardaloedd gwledig. Nid wyf yn gweld pwynt sylwadau gwamal ynglŷn â phobl yn methu â beicio mewn ardaloedd gwledig. Pwy sy'n awgrymu hynny? Felly, gadewch inni drafod o ddifrif beth yw'r materion dan sylw yma. Mae pob un ohonom yn pryderu am hyn. Nid oes gan unrhyw blaid fonopoli ar hynny, a chredaf fod fy hanes o lwyddiant yn siarad drosto’i hun o ran deall a gwerthfawrogi pwysigrwydd bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gennym broblem gyllidebol wirioneddol yma, ac mae ei blaid yn rhan o’r cytundeb cydweithio sy'n cytuno ar y blaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth. Felly, nid oes unrhyw ddiben iddo sefyll yno, yn pregethu wrthyf am ganlyniadau'r cyllid sydd ar gael a ninnau wedi cytuno, gyda'n gilydd, ar gyfres o flaenoriaethau cyllidebol, ac nid oedd hyn yn un ohonynt. Felly, mae canlyniadau i’r dewisiadau hynny. Mae llywodraethu'n golygu dewis, ac mae ef a'i blaid wedi bod yn rhan o'r broses honno, ynghyd â'n plaid ninnau.

Nawr, roeddem wedi gobeithio y byddai nifer y teithwyr wedi dychwelyd erbyn hyn, a byddai hynny wedi caniatáu i'r gweithredwyr adennill rhywfaint o arian, ac wedi caniatáu inni ddarparu'r cymhorthdal sylweddol rydym eisoes yn ei ddarparu, ond gan leihau cynllun BES yn raddol. Nid yw hynny wedi bod yn bosibl, ac nid oes arian ychwanegol wedi'i ddarparu gan y Trysorlys i allu llenwi’r bwlch hwnnw. Nawr, rydym yn dal yn obeithiol y gallai Llywodraeth y DU ymateb i’r pwysau sydd arni hi a darparu rhywfaint o gyllid brys, a fyddai’n caniatáu inni ymestyn y cymorth a roddwn i’r diwydiant, diwydiant rydym yn awyddus i'w ailgynllunio beth bynnag. Ond yn absenoldeb hynny, oni bai ei fod yn gwybod am arian i lawr cefn soffa'r gyllideb nad wyf yn ymwybodol ohono, credaf fod ein hopsiynau'n gyfyngedig, ac mae hynny'n torri fy nghalon.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:23, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Delyth am godi’r cwestiwn amserol hwn, a hefyd am y ffordd y’i cododd, pan fynegodd nid yn unig ei chefnogaeth i’r adolygiad ffyrdd ddoe, a’r egwyddorion y tu ôl iddo, ond gan wneud cysylltiad hefyd rhwng hyn ac ochr arall y geiniog honno, sef darparu’r mathau eraill o drafnidiaeth aml-ddull, cynaliadwy, y mae’r cwestiwn amserol hwn yn canolbwyntio arnynt heddiw?

Ni allaf roi unrhyw atebion hawdd o gwbl i’r Gweinidog, ac rwy'n deall y cyfyng-gyngor y mae ynddo. Ond a wnaiff ymuno â mi i annog pob Aelod o Siambr y Senedd hon sy’n mynnu mwy o arian i gynnal hyn y tu hwnt i’r ychydig fisoedd o le i anadlu rydym wedi'u cael, sydd i’w croesawu, i gefnogi sylwadau i Lywodraeth y DU, sy'n gweld cwmnïau bysiau'n bygwth cerdded i ffwrdd heddiw, nid ymhen tri mis? Ond hefyd, o ddifrif, i ddweud wrth Blaid Cymru: os oes ffordd y gallwn drefnu, ailnegodi, a thrafod manylion rhai o'r agweddau ar y cytundeb cydweithio a fyddai'n helpu'r Gweinidog i fynd drwy—[Torri ar draws.] Nawr, mae hwn yn gais gwirioneddol ichi edrych arno, oherwydd, os ydym o ddifrif ynglŷn â chynnal y rhwydwaith bysiau yng Nghymru, fel yr ymddengys bod pawb, mae angen i bopeth fod ar y bwrdd. Felly, a wnaiff ymuno â mi gyda'r galwadau hynny? Ond fel rydych wedi dweud yn glir, Weinidog, nid yw popeth yn ymwneud ag arian. Mae hefyd yn ymwneud ag ailreoleiddio ac unioni trychineb dadreoleiddio o dan y Llywodraeth Geidwadol.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:24, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Credaf fod gennym y cynlluniau hirdymor cywir, o’r adolygiad ffyrdd i ailddyrannu cyllid yn y tymor canolig i'r tymor hir, ac ailreoleiddio’r diwydiant bysiau. Mae ein problem yn un fyrdymor, ac mae’r Aelod, yn gwbl gywir, yn nodi nad yw’r Llywodraeth yn Lloegr wedi ymestyn ei chymorth am dri mis fel rydym ni wedi'i wneud, ac felly, maent yn wynebu ymyl clogwyn yno ar hyn o bryd. Ac oherwydd natur y drefn fasnachol, gall y gweithredwyr ildio eu llwybrau teithio mewn ffordd gwbl ar hap a heb ei chydlynu. Yr hyn y ceisiwn ni ei wneud yw cael rhyw fath o drefn a rhywfaint o sefydlogrwydd fel y gallwn gael trafodaeth resymol ynglŷn â pha lwybrau y gellid eu hachub os nad yw arian tocynnau'n gwella, ac rydym yn dal yn obeithiol y gellir gwneud hynny. Ond yn absenoldeb cyllid ychwanegol, mae ein hopsiynau'n gyfyngedig iawn. Ond rydym yn mynd i geisio gwneud yr hyn a allwn yn yr amser sydd gennym a chyda'r arian sydd gennym i sicrhau'r canlyniad gorau posibl, gan groesi ein bysedd am setliad ariannu ar gyfer y DU gyfan sy'n caniatáu inni wneud mwy.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am adael imi wneud sylwadau ar hyn. Ysgrifennodd prif weithredwr cyngor Castell-nedd Port Talbot ataf ynglŷn ag effaith ddinistriol bosibl penderfyniad y Llywodraeth ynghylch hyn ar nifer o wasanaethau bysiau lleol, a hoffwn wneud y pwynt fod hyn yn ymwneud â mwy na gwasanaethau bysiau gwledig yn unig, ond â gwasanaethau mewn siroedd fel Castell-nedd Port Talbot hefyd, ac mae hi'n arbennig o bryderus am yr effaith ar bobl ifanc sy'n mynychu ysgol neu goleg. Mae cludiant myfyrwyr i Goleg Castell-nedd Port Talbot yn cael ei ddarparu drwy'r rhwydwaith bysiau lleol, ac mae'r llwybrau'n gweithredu ar sail fasnachol. Mae hi o'r farn y bydd y llwybr hwn yn cael ei wneud yn anhyfyw, a fydd wrth gwrs yn arwain at ganlyniadau anfwriadol ar draws y rhwydwaith ehangach. Mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd gostyngiadau mewn cymorth refeniw yn effeithio ar wasanaethau cludiant o'r cartref i'r ysgol wrth i weithredwyr leihau eu capasiti, cau eu busnesau neu gynyddu prisiau contract i wneud iawn am yr arian a gollwyd. Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, a hyd yn oed yn llythrennol cyn dod i'r Siambr, clywais gan drigolion sy'n dibynnu ar fysiau ac sy'n wirioneddol bryderus am hyn—mam yn pryderu am fws ei mab i'r ysgol, merch yn poeni am fws ei mam i'r ysbyty. Hoffwn wybod pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl Castell-nedd Port Talbot y bydd eu gwasanaethau bysiau yn parhau.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:26, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, fel rwyf wedi'i egluro sawl gwaith bellach, nid wyf mewn sefyllfa i roi unrhyw sicrwydd y tu hwnt i’r tri mis ychwanegol rydym wedi gallu eu negodi. Ond rwy’n mawr obeithio y byddwn yn gallu llunio cynllun pontio, ond mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom yw cyllid ychwanegol inni allu cynnal y rhwydwaith bysiau wrth i nifer y teithwyr ddychwelyd a thra byddwn yn symud i’n system fysiau reoledig newydd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Fel y gwyddoch, nid oeddwn yn mynd i siarad yn y ddadl hon, ond credaf fod tri pheth wedi codi nawr y teimlaf fod yn rhaid i mi eu nodi. I lawer o fy etholwyr—y rhan fwyaf o fy etholwyr, mewn gwirionedd—mae trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bysiau. Mae 80 y cant o gludiant yn digwydd ar fws. Mae Ysbyty Treforys, fel y gwyddoch, Lywydd, neu Ddirprwy Lywydd, yn anhygoel o anodd ei gyrraedd, ond mae’n iawn ar y bws, gan fod gennym y Rhif 4. Mae gennyf ddau gwestiwn i’r Gweinidog mewn gwirionedd. Pam mae trenau'n cael blaenoriaeth dros fysiau? I bobl dlotach, bysiau yw eu dull o deithio. Mae trenau ar gyfer bobl fwy cefnog. Ac rydych yn dweud: o ble y daw'r arian? Wel, rydych yn mynd i roi rhyddhad ardrethi ychwanegol i westai mawr, canolfannau siopa y tu allan i'r dref, siopau bwyd cyflym, archfarchnadoedd. Nid ydych erioed wedi gofyn i mi ynglŷn â hynny fel Llywodraeth. Mewn gwirionedd, pe baech chi wedi gofyn i mi, byddwn wedi dweud, 'Na, nid ydym yn gwneud hynny. Dylem ei wario ar wasanaethau cyhoeddus', a chredaf fod ystod eang o bethau y gallem beidio â gwario arian arnynt. Nid gwario arian ar ryddhad ardrethi i gwmnïau mawr sy’n broffidiol iawn yw fy syniad i o flaenoriaeth, ac yn sicr, nid yw’n flaenoriaeth sosialaidd.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:28, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n deall y pwyntiau hynny, yn amlwg. O ran blaenoriaeth gymharol bysiau yn erbyn trenau, yn amlwg, mae angen y ddau arnom. Mae angen system drafnidiaeth integredig arnom. Credaf ei bod yn anghywir disgrifio defnyddwyr trenau fel yr elît breintiedig, rywsut—nid yw hynny'n wir—ond yn sicr, mae'n wir mai bysiau sy'n cludo'r rhan fwyaf o deithwyr, ac fel yntau, bysiau yw fy mlaenoriaeth i. Mae gennym gynlluniau buddsoddi ar gyfer y gwasanaeth rheilffordd, a fydd o fantais sylweddol i deithwyr, ond maent yn costio arian. Mae'r arian wedi'i ymrwymo ac mae angen ei ddarparu, gan fod yno gymalau cosb ac ni fyddem yn creu unrhyw arbedion ystyrlon pe baem yn rhoi'r gorau i wneud hynny nawr. Felly, rydym ar lwybr i barhau i fuddsoddi yn y diwydiant rheilffyrdd, a fydd o gymorth sylweddol i'n huchelgais i newid dulliau teithio, ond mae'n dal yn wir, ac rwy'n cytuno, mai bysiau sydd â'r potensial mwyaf. Fel rwyf eisoes wedi'i esbonio, rydym wedi bod yn gweithio ar gynllun i geisio lleihau prisiau tocynnau bws er mwyn gwneud hynny—helpu teithwyr bysiau, teithwyr bysiau presennol, a denu rhai newydd. A chyn i gyllideb Liz Truss ddinistrio ein heconomi, roedd gennym obaith o allu gwneud hynny, ond bellach, nid oes gennym unrhyw obaith. Mae hynny’n destun gofid mawr i mi. Mae’n rhaid inni wneud y gorau o’r sefyllfa sydd gennym, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i geisio gweithio gyda’r diwydiant ac awdurdodau lleol i geisio cael y canlyniad gorau a allwn gyda’r arian sydd ar gael.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gyfeirio at y cytundeb cydweithio, gan ei fod wedi cael ei grybwyll nifer o weithiau? Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'r cytundeb, gan gynnwys annog pobl i newid i drafnidiaeth gyhoeddus. A chredaf fod angen i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb, a sicrhau bod y blaenoriaethau yno, ond mae hyn yn rhan o’r argyfwng costau byw, gan fod pobl yn gwbl ddibynnol ar fysiau i allu cyrraedd gwasanaethau hanfodol. Mae'n braf cael bysiau pan fydd gennych gar, fel dull trafnidiaeth amgen, ond i'r rhan fwyaf o bobl rwy'n eu cynrychioli, nid yw'r dewis hwnnw ar gael iddynt—bws yw'r unig ddewis. Ac mae'n ddewis sydd wedi ei gymryd oddi arnynt.

Mae'n rhaid inni gofio hefyd fod nifer o bobl yn dal i fod yn ofn gadael eu cartrefi, pobl a fyddai wedi defnyddio bysiau yn draddodiadol—pobl oedrannus. Mae mynd i’r afael ag ynysigrwydd yn broblem enfawr. Gwn am bobl nad ydynt wedi mentro allan fwy nag unwaith yr wythnos, a hynny drwy dacsis, lle byddent wedi cael eu hannibyniaeth gyda bysiau yn y gorffennol. Felly, credaf fod problem gennym o ran deall pam nad yw pobl yn dychwelyd i ddefnyddio bysiau a sut y gallwn eu cefnogi. Oherwydd ni chredaf ei fod yn ymwneud â bod pobl sy'n gweithio mewn swyddfeydd heb ddychwelyd, gan fod ceir gan y mwyafrif o'r rheini, ac maent yn gallu eu defnyddio. Mae angen dealltwriaeth ddyfnach arnom.

Hoffwn ofyn yn benodol, Ddirprwy Weinidog, pa sgyrsiau a gawsoch gyda chwmnïau a darparwyr bysiau ynghylch y prinder gyrwyr bysiau, a’r defnydd cynyddol o staff asiantaeth gan gwmnïau bysiau, sy’n golygu, gyda llawer o’r cyllid sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd drwy’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, fod yr elw mewn gwirionedd yn mynd y tu allan i Gymru, i’r asiantaethau hyn. Felly, gyda'r cyllid hwnnw, sut rydym yn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r prinder gyrwyr bysiau a sicrhau bod y buddsoddiad a wnewch, sy'n cael ei ymestyn, yn briodol, am dri mis, o fudd i ddefnyddwyr yn y pen draw, ac nad yw'n arwain at fwy o elw i'r asiantaethau hyn?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:31, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a wneuthum am y blaenoriaethau cymharol a gytunwyd gennym ar y cyd—rwy'n credu bod y cofnod yn sefyll ar hynny, ac rydym ni fel Llywodraeth yn ei gefnogi hefyd. Yn syml, rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod canlyniadau i gyllidebau eraill. Nid yw'r ffenomen fod pobl yn araf yn dychwelyd at drafnidiaeth gyhoeddus yn unigryw i'n gwlad—gwelwyd hynny ar draws y byd, ac mae'n arbennig o ddifrifol ymysg pobl hŷn, am resymau y credaf y gallwn i gyd eu deall a'u tybio'n eithaf cyflym. Felly, mae gennym sefyllfa debyg i feis, lle nad yw arian tocynnau wedi dychwelyd, ac mae gennym y ffaith enbyd fod gennym system wedi'i phreifateiddio yn ein gwlad, lle na fydd llwybrau nad ydynt yn fasnachol yn rhedeg heb gymhorthdal uniongyrchol.

Ar fater gweithwyr asiantaeth ac elw, o dan y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, mae gennym amodau llym ar gyfer y modd y caiff yr arian ei wario, faint o elw y gellir ei dynnu allan, ac mae gennym ddylanwad rhesymol ar y cwmnïau bysiau ynglŷn â'r penderfyniadau a wneir. Ond ni allwn wadu, pa ffordd bynnag y ceisiwn fframio'r ddadl hon, y broblem sylfaenol yw bod y galw wedi gostwng, mae'r costau gweithredu'n uwch, ac mae'r cymhorthdal cyhoeddus yn dod i ben. Ac mae'n sefyllfa anhapus, ni allwn wadu hynny, ac un y byddwn i'n dymuno'n daer ei hosgoi, os yn bosibl o gwbl. Ond fel y dywedais yn gynharach, mae gobaith, a gadewch inni obeithio y bydd yn digwydd, y gwnaiff Llywodraeth y DU ymateb i'w argyfwng bysiau ei hun ac y byddem ni'n gallu elwa o symiau canlyniadol. Ond yn absenoldeb hynny, rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i geisio cael y setliad gorau sy'n bosibl.