– Senedd Cymru am 5:48 pm ar 28 Chwefror 2023.
Yr eitem nesaf yw eitem 9. Hwn yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar waith teg a chynnydd blynyddol a blaenoriaethau, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad, Hannah Blythyn.
Diolch. Yn 2018, sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Comisiwn Gwaith Teg ar y pryd, a wnaeth nifer o argymhellion yn dilyn hynny yn ôl yn 2019. Ers hynny, mae'r byd a'r gwaith fel rydyn ni'n ei adnabod wedi newid, ond er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar argymhellion y comisiwn. Mae'n bwysig bod yn dryloyw ynglŷn â'r hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yma a dyna pam, i gyd-fynd â'r datganiad hwn, rwyf heddiw wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd am y tro cyntaf. Ochr yn ochr â hyn, rwyf eisiau canolbwyntio ar feysydd allweddol o gynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Yn gyntaf, ein gwaith i hyrwyddo undebau llafur a gwerth bod yn rhan o undeb llafur i weithwyr, gweithleoedd a Chymru. Yn ail, y sylfeini yr ydym yn eu rhoi ar waith ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg mewn sectorau lle mae pryderon hirsefydlog sy'n cael eu cydnabod am amodau gwaith. Ac yn drydydd, y camau ymlaen yr ydyn ni wedi'u gweld ar fabwysiadu ac achredu cyflog byw gwirioneddol.
Mae ein gwaith i hyrwyddo undebau llafur ac undebaeth lafur yn cael ei ysgogi gan farn gadarn y Llywodraeth Cymru hon bod undebau llafur yn sylfaenol i waith teg. I weithwyr, credwn mai bod mewn undeb llafur yw'r ffordd orau o ddiogelu hawliau yn y gwaith, gwella cyflog, telerau ac amodau, a sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed. I gyflogwyr, rydym yn credu bod undebau llafur yn bartneriaid dyfeisgar o ran nodi a datrys materion yn y gweithle, wrth wella iechyd a diogelwch, wrth gefnogi dysgu yn y gweithle, ac wrth alluogi ymgysylltu â gweithwyr effeithiol.
O ran Cymru, credwn fod undebau llafur yn ganolog i wead ein cenedl ac yn rym er lles. Byddwn ni'n parhau i godi ymwybyddiaeth o rôl undebau llafur, hyrwyddo manteision bod mewn undeb llafur, ac yn glir ar werth cyflogwyr ac undebau llafur yn cydweithio'n adeiladol a gyda pharch at ei gilydd. Rydym yn gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, o'n negeseuon ynghylch Wythnos HeartUnions bythefnos yn ôl, trwy gyfrwng rhaglenni sydd wedi hen ennill eu plwyf a werthfawrogir fel Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, sy'n cefnogi sgiliau yn y gwaith, a thrwy ddatblygu mentrau newydd a chyffrous fel y cynllun treialu Undebau a Byd Gwaith.
Gan adeiladu ar ymgyrchoedd cynharach gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle, mae'r prosiect undebau a byd gwaith wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur, athrawon ac ysgolion. Gan weithio gyda TUC Cymru, bydd y prosiect yn cefnogi'r gwaith o ddarparu profiadau gyrfaoedd ac sy'n ymwneud â gwaith—CWRE—rhan annatod o'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Drwy'r cynllun treialu, mae amrywiaeth o adnoddau ar gael i ysgolion uwchradd ledled Cymru, gyda'r nod o rymuso'r genhedlaeth nesaf o weithwyr a chyflogwyr ac entrepreneuriaid i gael gwell dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, rôl undebau llafur ac effaith llais ar y cyd wrth fynd i'r afael â materion yn y gweithle a thu hwnt.
Mae ein dull blaengar ni yn cydnabod y rôl ddilys ac angenrheidiol sydd gan undebau llafur. Mae hyn yn sefyll yn gwbl groes i'r hyn a welwn gan Lywodraeth y DU, sy'n cael ei grisialu yn eu Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) dinistriol, yr ydym yn gwrthwynebu ei effaith niweidiol. Yng Nghymru, mae gennym yn nodweddiadol ymhlith y cyfraddau uchaf o aelodaeth o undebau llafur o'u cymharu â gwledydd eraill y DU a rhanbarthau Lloegr, ac yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd y llynedd, yn 2021, cynyddodd cyfran y gweithwyr yng Nghymru a oedd yn aelodau o undebau llafur 3.7 pwynt canran i 35.6 y cant, sef y lefel uchaf ers 2014. Gostyngodd y ffigwr cyfatebol mewn gwledydd eraill o'r DU dros yr un cyfnod. Er bod hyn yn ymddangos yn drawiadol o'i gymharu â gweddill y DU, rydym yn cyferbynnu'n llai ffafriol yn erbyn arferion gorau rhyngwladol. Rwyf eisiau gweld gwelliant parhaus yn lefelau dwysedd undebau llafur, presenoldeb undebau llafur a darpariaeth undebau llafur yng Nghymru, a bydd y Llywodraeth hon yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi hyn.
Gan droi yn awr at y sylfeini rydym yn eu gosod ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg ym maes gofal cymdeithasol a manwerthu. Mae'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn enghraifft wych o'r gwahaniaeth y gall dull partneriaeth gymdeithasol ei wneud yn ymarferol. Fe'n cynghorwyd ni ar weithredu'r cyflog byw gwirioneddol, ac mae bellach yn mynd i'r afael ag amodau gwaith ehangach yn y sector. Gwn y bydd ein dull partneriaeth yn ein rhoi ar seiliau cadarnach wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau hynny yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rydym wedi cymryd y cysyniad o'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ac wedi cymhwyso dull tebyg i'r sector manwerthu, gyda fforwm partneriaeth gymdeithasol yn dod â phartneriaid o bob rhan o'r sector penodol hwn ynghyd i ddatblygu'r cynllun gweithredu manwerthu. Cafodd drafft o'r cynllun ei drafod yng nghyfarfod diweddaraf y fforwm manwerthu yn gynharach heddiw ac rydym yn disgwyl cyhoeddi'r cynllun hwnnw yn yr wythnosau nesaf. Credwn y gellir defnyddio'r model hwn mewn sectorau eraill, ac er ein bod yn cydnabod nad yw'r dull hwn yn cyfateb i'r bargeinio ar y cyd sectoraidd a fyddai'n codi safonau'n gyson ac ar raddfa, mae fodd bynnag yn cynrychioli'r hyn sy'n bosibl trwy ein ysgogiadau a gall arwain at newid cadarnhaol a pharhaol. Yn bennaf, gall helpu i ddatblygu meincnodau ledled y sector a gall helpu i roi seiliau ar waith y gellir adeiladu arnynt, oherwydd, o'i gymharu â llawer o wledydd eraill Ewrop, mae bargeinio ar y cyd sectoraidd ledled y DU yn wan.
Y maes olaf yr wyf am adrodd arno heddiw yw'r cyflog byw gwirioneddol. Nid y cyflog byw gwirioneddol yw ffactor diffiniol gwaith teg, ond mae'n bwysig o ran darparu llinell sylfaen ar gyfer cyfradd bob awr sydd yn cyd-fynd â thalu costau byw sylfaenol. Mae gennym y nifer uchaf erioed o sefydliadau sydd wedi'u hachredu yn rhai cyflog byw gwirioneddol—bron i 500. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2021 yn dangos bod bron i 70 y cant o'r bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, a'r mesur hwn yn gweld cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi dangos arweinyddiaeth wrth weithredu ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol. Rydym wedi darparu £43 miliwn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd y flwyddyn ariannol hon i ariannu codiad cyflog byw gwirioneddol, ac rydym wedi ymrwymo tua £70 miliwn yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Ond, fel arfer, mae mwy i'w wneud.
Felly wrth gloi, rwyf eisiau nodi rhai blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod yn gryno. Byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill i wella cyrhaeddiad ac effaith y contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Byddwn ni'n cefnogi'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) trwy ei gyfnod craffu deddfwriaethol ac yn datblygu'r canllawiau cysylltiedig i wneud y mwyaf o'i effaith ar wasanaethau cyhoeddus, caffael, gwaith teg a llesiant ehangach. Byddwn yn parhau i wneud yn gwbl glir i Lywodraeth y DU nad yw'r ras i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr o fudd i weithwyr nac i Gymru. Ac er bod gwaith teg yn cwmpasu meysydd datganoledig a meysydd nad ydynt wedi'u datganoli sy'n effeithio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a sut y byddwn ni'n ei wneud, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob ysgogiad sydd gennym i hybu a galluogi gwaith teg. Felly, ar draws y blaenoriaethau hyn a blaenoriaethau eraill yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i weithio ar y cyd i gael bargen well i weithwyr ac i Gymru. Diolch.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad ac am eich copi ymlaen llaw.
Fel bob amser, rwyf wedi fy siomi gan y naratif ideolegol sy'n dod gan Lywodraeth Cymru hon, yn enwedig yn eich sylwadau ynghylch y Bil lefelau gwasanaeth gofynnol. Oherwydd fel y gwyddoch chi, Dirprwy Weinidog, mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae'r TUC yn tanysgrifio iddo, yn cefnogi lefelau gwasanaeth gofynnol mewn egwyddor yn ystod gweithredu ar ffurf streic. Er nad yw'n union yr un fath, mae deddfwriaeth gwasanaeth gofynnol yn Ffrainc, yr Almaen a gwledydd Ewropeaidd eraill. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod eich anhoffter o unrhyw ddeddfwriaeth sy'n ceisio sicrhau bod y nifer priodol o bobl sydd eu hangen i gefnogi diogelwch y cyhoedd yn ystod streiciau yn nwylo Gweinidogion etholedig ac atebol, gyda mynediad at y wybodaeth a'r data priodol, yn hytrach na'u rhoi i'r meistri pypedau undebau llafur sy'n rheoli llinynnau pwrs y Blaid Lafur.
Dirprwy Weinidog, byddwn i wedi meddwl y gallai eich datganiad heddiw fod wedi canolbwyntio ychydig yn fwy ar ddiffygion eich Llywodraeth eich hun, ac yn ymwneud â mwy o bethau yr ydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu eich pwyslais ar y cyflog byw, ond cefais fy siomi o weld bod y panel cynghori amaethyddol wedi penderfynu yn erbyn dod â'r gyfradd isafswm cyflog is i ben ar gyfer y rhai hynny sydd dan 25. Mae hyn yn fy nharo i braidd yn hurt, wrth i chi sôn am waith teg a thâl teg, ond eto'n caniatáu gwahaniaethu o'r fath yn erbyn gweithwyr amaethyddol ifanc. Dirprwy Weinidog, mae'r cyfraddau o £4.81 yr awr ar gyfer pobl ifanc 16 i 17 oed, a £6.83 yr awr ar gyfer pobl rhwng 18 a 20 oed, yn gwbl groes i'r egwyddor o gyflog teg am waith teg. Mae plentyn 16 i 20 oed yn debygol o weithio yr un mor galed, ac mae'n debyg y bydd ganddo gymaint o sgiliau, â gweithiwr amaethyddol hŷn. Fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, mae gan Gymru economi wledig sylweddol, ac os ydym ni am annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr amaethyddol, mae angen i'r Llywodraeth hon fynd i'r afael o ddifrif â'r anghyfartaledd hwn. Pa esboniad allwch chi ei gynnig i'r Siambr am gadw'r cyflogau hyn i weithwyr amaethyddol dan 25 oed mor isel?
Yn eich datganiad, rydych yn sôn bod gennym y nifer uchaf erioed o sefydliadau sydd wedi'u hachredu yn rai cyflog byw gwirioneddol—bron i 500. Ond faint o undebau llafur sydd wedi cofrestru, Dirprwy Weinidog? Gallaf ddweud wrthych chi mai nifer yr undebau llafur achrededig yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i fod wedi'u hachredu yn rhai cyflog byw gwirioneddol yw dim. Nid yw'r un undeb llafur wedi cofrestru—dyna faint maen nhw'n cefnogi ac yn gwerthfawrogi'r cynllun achredu hwn yr ydych chi'n ei hyrwyddo. Ac fe fyddwn i'n gofyn, Dirprwy Weinidog, os allwch chi egluro pam nad yw undebau llafur yn trafferthu cofrestru yng Nghymru, a dim ond saith undeb sydd wedi yn Lloegr a'r Alban.
Y llynedd, soniais yn fy ymateb i'ch datganiad blynyddol eich bod wedi methu â gwneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at waith teg i bobl anabl. Unwaith eto, dydych chi ddim wedi sôn am unrhyw gynnydd i leihau a chael gwared ar y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, ac nid ydych wedi sôn am unrhyw fentrau i helpu i gau'r bwlch cyflogaeth anabledd. Yn hytrach, rydych chi wedi achub ar y cyfle hwn i ymosod ar Lywodraeth y DU. Gyda hyn mewn golwg, rwyf eisiau pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru'n cydnabod y dylai gwaith teg fod i bawb, a thrwy beidio â darparu diweddariadau ar anghenion y gymuned anabl, mae'n eithaf digalon iddyn nhw. Mae pobl anabl yn wynebu rhai o'r rhwystrau mwyaf wrth gael gwaith teg, ac, yn wir, cyflog teg, am y sgiliau y gallan nhw eu cyfrannu i fusnesau. Ac felly, Dirprwy Weinidog, a fyddwch chi'n gwneud ymrwymiad i roi diweddariad ar sut mae'r Llywodraeth hon yn helpu pobl anabl i gael gwaith teg yn natganiad y flwyddyn nesaf?
Yn olaf, Dirprwy Weinidog, rwyf eisiau sôn am bobl ifanc a phrentisiaethau. Er bod gennym ni lawer o gyfleoedd am brentisiaethau—ac rwyf newydd ymweld â Choleg Caerdydd a'r Fro a Choleg y Cymoedd i glywed am y cyrsiau gwych maen nhw'n eu cynnig—mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n manteisio ar y prentisiaethau yn gostwng. Rydyn ni wedi sôn droeon yn y Siambr hon am sut mae busnesau yng Nghymru yn cael eu hatal gan brinder sgiliau, yn arbennig, sut nad oes gan bobl ifanc a graddedigion y sgiliau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer busnesau. Ac fel y gwyddoch chi, mae cael y sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau yn caniatáu i weithwyr fod â mwy o gadernid, oherwydd eu bod nhw'n gallu cael swyddi sy'n talu mwy ac yn gallu dod o hyd i waith yn gynt os cawn nhw eu diswyddo, er enghraifft. Felly, Dirprwy Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr dilys i bobl ifanc gael swyddi sy'n talu'n dda ac sy'n rhoi boddhad sy'n bodloni'r meini prawf gwaith teg? Diolch.
Dechreuaf drwy ymateb i'r cyfraniadau mwyaf sylweddol gan Joel James, ac yn arbennig ynghylch y pwyntiau pwysig iawn y mae'n eu gwneud o ran cefnogaeth i weithwyr anabl, pobl ag anableddau, ynghylch gwaith teg. Rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i gynnwys hynny mewn diweddariad yn y dyfodol, ond rwyf hefyd yn hapus i fynd i ffwrdd a gweld a allwn ni ddiweddaru'r Aelodau yn ysgrifenedig, cyn hynny hefyd. Byddwn yn dweud, nad yw'r ffaith nad yw pethau wedi eu cynnwys yn fy natganiad llafar heddiw ddim yn golygu nad ydyn nhw'n digwydd; mae am y rheswm syml bod gennym ni amser cyfyngedig i roi diweddariad yn Siambr y Senedd heddiw. Ac rwy'n siŵr y byddai gan y Llywydd rywbeth i'w ddweud pe bawn i'n rhestru pob un eitem yn niweddariad adroddiad cynnydd y Comisiwn Gwaith Teg.
Nid wyf i'n cael fy synnu gan—. Mae Joel James yn agor drwy ddweud nad oedd wedi ei synnu gan fy safbwynt ideolegol, mae'n debyg, ar undebau llafur. Yn yr un modd, nid wyf i'n synnu mai dyna oedd llinell agoriadol Joel James. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gyfarwydd iawn â hynny yn y Siambr hon nawr, ac mae'r cwbl wedi cael sylw droeon o'r blaen.
Dim ond pwynt ar y materion yn ymwneud â'r panel cynghori amaethyddol y cyfeiriwyd ato. Nid wyf i'n siŵr a yw Joel yn ymwybodol bod hynny, yn amlwg, wedi datblygu o waddol Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr. Llywodraeth Dorïaidd, Llywodraeth Geidwadol, oedd eisiau cael gwared ar y bwrdd cyflogau amaethyddol, ac mewn gwirionedd, mewn bywyd blaenorol, roeddwn i'n rhan o'r ymgyrch i geisio atal hynny, a phan ddigwyddodd hynny, i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i weithwyr yma yng Nghymru drwy'r panel cynghori amaethyddol. Ac rwy'n siŵr y bydd rhai o'r pwyntiau y mae wedi eu gwneud ynghylch y gwahaniaethau yn yr isafswm cyflog yn cael eu rhannu gydag aelodau'r panel hwnnw, sy'n cynnwys cynrychiolaeth gyfartal o undebau llafur ac ar draws yr undebau ffermio hefyd, ac aelodau annibynnol, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n clywed y sylwadau hynny yn gwbl eglur i'w bwydo yn ôl. Ond y Llywodraeth hon sy'n sicr ar ochr gweithwyr ac yn rhoi'r mecanweithiau hynny ar waith i wneud yn siŵr y gallwn ni drin gweithwyr yn iawn, pa un a ydyn nhw mewn lleoliadau trefol neu wledig.
Diolch yn fawr am y datganiad brynhawn yma ac am yr adroddiad y gwnaethoch chi gyhoeddi heddiw hefyd.
Fel y byddwn ni'n trafod yn nadl y Blaid yfory, mae angen i'r agenda gwaith teg fod â rhan ganolog yn y gwaith o lunio strategaeth ddiwydiannol ac economaidd Cymru yn y dyfodol. Mewn ymateb i'r Bil streiciau didostur sy'n gwneud ei ffordd drwy San Steffan, mae'n hanfodol i ni yng Nghymru ddiffinio egwyddorion eglur sy'n gysylltiedig â gwaith teg. Bydd hyn yn diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag y ddeddfwriaeth frawychus yr ydym ni'n ei gweld yn dod o San Steffan. Yng ngoleuni'r argymhellion gwaith teg a dderbyniwyd heddiw, nodaf yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gyflawni ymrwymiadau polisi i hyrwyddo undebau llafur a bargeinio ar y cyd yn wyneb deddfwriaeth ddidostur y DU. Pa un o'r rhain ydych chi'n meddwl fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran lliniaru rhywfaint o'r ymosodiad hwnnw gan San Steffan ar undebaeth lafur?
Y mater arall yr oeddwn i eisiau troi ato yw argymhelliad y Comisiwn Gwaith Teg yn 2019 y dylai diffiniad o 'waith teg' yng Nghymru gynnwys gweithwyr yn cael tâl, gwrandawiad a chynrychiolaeth deg, eu bod yn ddiogel ac yn gallu datblygu mewn amgylchedd iach a chynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu. Mae'n gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir gweld bod diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg wedi cael ei dderbyn i'w fabwysiadu a'i ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r ffaith mai dim ond nawr y mae diffiniad a argymhellwyd yn 2019 yn cael ei dderbyn yn amlygu bod gwaith i'w wneud pan ddaw at wneud penderfyniadau rhagweithiol. Pam na dderbyniwyd y diffiniad hwn yn gynt, a beth arall y gellir ei wneud nawr i ymwreiddio'r diffiniad hwn yn ymarferol? Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf i ddiolch i Peredur Owen Griffiths am ei gwestiynau a hefyd ei ymrwymiad yn y maes hwn? Gwn ein bod ni wedi gallu gweithio gyda'n gilydd mewn ysbryd o bartneriaeth yn gydweithredol iawn ar nifer o'r materion hyn. Rwy'n credu y gwnaf i roi sylw i'r pwynt olaf yn gyntaf ynghylch diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg o ran gwaith teg. Dim ond i egluro, dyma'r tro cyntaf yr ydym ni wedi cyhoeddi adroddiad ar gynnydd. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth yr oeddem ni eisiau ei wneud o'r blaen, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud erbyn hyn. Ac rwy'n credu'n arbennig ei bod hi'n bwysig, fel y dywedais, er y bu cynnydd o ran llawer o'r argymhellion hynny, bod y cyd-destun ar ei gyfer wedi newid yn sylweddol iawn yn sgil pandemig COVID, a'r argyfwng costau byw bellach, newidiadau i batrymau gweithio a chyfleoedd gwaith mwy hyblyg. Felly, mae'n dod â mwy o heriau gydag ef, ond rwy'n credu hefyd os edrychwn ni ar bethau o safbwynt mwy cadarnhaol, mae'n dod â mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith teg hefyd o bosibl. Felly, dim ond i roi sylw i'r pwynt nad ydym ni—. Dim ond i egluro, nid dim ond nawr yr ydym ni'n derbyn y diffiniad hwnnw; dim ond ei fod yn yr adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd heddiw. Derbyniwyd hwnnw gennym ni gryn amser yn ôl, diffiniad y Comisiwn Gwaith Teg, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi siarad amdano yn natblygiad deddfwriaeth Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) hefyd, a bydd hynny yn y canllawiau fel y diffiniad pendant y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi ac eisiau ei rannu ledled Cymru o ran y llinell sylfaen honno o ddeall bod gwaith teg, ydy, yn ymwneud â thâl ac amodau, ond ei fod yn ymwneud â'r pecyn ehangach hwnnw hefyd—fel y dywedwch chi, llais gweithwyr, llesiant yn y gweithle, a'r holl ysgogiadau hynny y gallwn ni eu defnyddio.
O ran sut rydym ni'n defnyddio'r cytundebau sectoraidd hynny, mae gennym ni'r mwyaf o ysgogiadau yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd, ond rwy'n credu mai'r hyn y mae'r gwaith yn y sector manwerthu wedi ei ddangos i ni, mewn gwirionedd, yw'r heriau sy'n wynebu gweithwyr ond hefyd o ochr fusnes y cyflogwyr o ran cynaliadwyedd rhai sectorau yng Nghymru. Ac rwy'n credu, mae'n debyg, y gallech chi edrych ar letygarwch hefyd yn rhan o hynny. Felly, mewn gwirionedd, gall gwell cefnogaeth ar draws y sector cyfan i weithwyr o ran tâl ac amodau ar draws y sector cyfan sy'n sicrhau cynaliadwyedd a sefydlogrwydd i'r sector wir helpu i gyflawni hynny. Roedd achos busnes ar gyfer gwaith tecach a gwell hefyd, felly rwyf i bob amser yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo. Ond rwy'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud eisoes ym maes manwerthu a gofal cymdeithasol efallai'n cynnig y model hwnnw i adeiladu arno yn y dyfodol, ac mewn gwirionedd sut y gallwn ni ddysgu o hwnnw a'i rannu ledled Cymru.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Fel cyn-athrawes, rwy'n croesawu yn arbennig eich sylw ynghylch y cwricwlwm newydd ac undebau yn y gweithle. Cysylltu dealltwriaeth o hawliau yn y gweithle â chanllawiau gyrfaol yw'r peth sylfaenol iawn i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at ganlyniadau'r cynllun peilot maes o law.
Mae gen i ddau gwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, nodaf eich sylwadau ynghylch y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno ar yr angen brys i ehangu ein gweithlu gofal cymdeithasol, ac mae codi statws y proffesiwn hwnnw, yn enwedig drwy'r agenda gwaith teg, yn gwbl allweddol i hynny. Felly, a allwch chi ymhelaethu ychydig ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael am hyn, ac am y model o waith teg yr ydych chi'n awyddus i'w hyrwyddo y tu hwnt i ddarpariaeth y cyflog byw gwirioneddol?
Yn gysylltiedig â hyn, rwy'n credu bod argymhellion 46 a 47 ar olrhain cynnydd yn hanfodol. Mae mynediad at ddata o ansawdd da yn bwysig os ydym ni'n mynd i allu monitro darpariaeth a chyflymder y ddarpariaeth, a nodi a datrys unrhyw rwystrau. Rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am wneud y newidiadau i'r dangosyddion cenedlaethol a awgrymwyd. Sut bydd y rhain yn cael eu defnyddio i lunio ac ysgogi perfformiad i sicrhau y gallwn ni ddarparu gwaith teg yn y sector gofal cymdeithasol?
Yn olaf, Dirprwy Weinidog, clywsom hefyd gan Weinidog yr economi yn gynharach heddiw ynghylch sut y bydd arloesedd yn cael ei ymwreiddio ym mhob rhan o'r Llywodraeth. Felly, byddwn yn croesawu eich myfyrdodau ar sut mae gwaith teg yn cyd-fynd â hyn yn unol â'r argymhelliad cyntaf un hwnnw bod hwn hefyd yn gyfrifoldeb traws-Lywodraethol. Sut gallwn ni ddefnyddio arloesedd fel ysgogiad i'n caniatáu i hyrwyddo a sicrhau gwaith teg yn well i ddinasyddion Cymru?
Diolchaf i Vikki Howells am ei chyfraniad hithau ac am ei sylwadau gwresog am rywfaint o'r gwaith a wnaed gennym ni. Gwn fod hwn yn faes yr ydych chi, nid yn unig fel cyn-athrawes, yn angerddol iawn amdano, ond fel rhywun sy'n eirioli dros waith tecach a gwell mewn cymunedau ar draws y wlad gyfan.
Dim ond i sôn am y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol a sut rydym ni'n symud ymlaen, a'r angen i fynd i'r afael â phethau yn y sector hwnnw, yn amlwg fe aethom ni i'r afael â'r pryder uniongyrchol hwnnw ynghylch y cyflog byw gwirioneddol, ac rwy'n credu eich bod wedi sôn yn eich sylwadau olaf bod y cyflog byw gwirioneddol yn elfen allweddol, ond yn un elfen yn unig o waith teg. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, a dweud y gwir, y dylem ni ei weld fel llinell sylfaen yn hytrach na meincnod—y sylfaen honno i adeiladu arni ac i dyfu arni.
Yn amlwg, mae mwy o waith i'w wneud i wella telerau ac amodau, a hefyd i ddyrchafu statws gofal cymdeithasol fel gyrfa sy'n cael ei gwerthfawrogi ac yn un sydd mor hollbwysig i'n holl gymunedau a'n holl deuluoedd o ran gofalu, mewn llawer o'n hachosion, am ein hanwyliaid agosaf, a gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny'n bodoli ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa. Mae hwn yn waith y mae fy nghyd-Weinidog Julie Morgan yn ei arwain yn bendant, ond yn amlwg rwy'n cyfrannu ato fel dull traws-Lywodraeth o ran gwneud yn siŵr ein bod ni'n ymwreiddio'r dull gwaith teg hwnnw. Felly, mae'r fforwm wedi edrych ar bethau fel tâl salwch yn y sector annibynnol yn ddiweddar, gan ystyried strwythur ar gyfer cydfargeinio i weithwyr gofal cymdeithasol, a datblygu fframwaith cyflog a chynnydd. Mae is-grŵp i'r fforwm, sy'n cynnwys gwahanol bartneriaid cymdeithasol, wedi datblygu fframwaith drafft ar gyfer cyflog a chynnydd i ganfod mwy o gysondeb mewn swyddi a chyflogau, yn ogystal â chyfleoedd gyrfaol gwell a mwy eglur. Rwy'n rhagweld y bydd yr ymgynghoriad ar y fframwaith drafft yn dechrau yn y gwanwyn yn rhan o ymgynghoriad ehangach ar ganllawiau comisiynu cenedlaethol sydd â'r nod o symleiddio comisiynu gwasanaethau a chynnig cymorth gwell i gomisiynwyr a darparwyr.
Dim ond i wneud sylw ar y pwynt ynghylch arloesi, hefyd, a'r rhan y mae gwaith teg yn ei chwarae, rydych chi yn llygad eich lle i ddweud bod yn rhaid i hwn fod yn ymrwymiad traws-Lywodraethol. Efallai mai fi sy'n arwain ar waith teg, ond mewn gwirionedd mae angen i ni ei ymwreiddio yr holl ffordd ar draws yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn Llywodraeth Cymru, felly rwy'n meddwl bod arloesedd a phethau rydym ni'n eu gwneud—. Gwn fod TUC Cymru yn ymgysylltu'n llawn â'r gwaith hwnnw i wneud yn siŵr mewn gwirionedd bod rhan, o bosibl, i gynrychiolwyr undebau llafur ei chwarae o ran ymwreiddio arloesedd, yn enwedig wrth i ni edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei alw'n bontio teg hefyd. Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd yn ogystal â chyfiawnder amgylcheddol, hefyd, felly ceir cyfle gwirioneddol yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r gweithio partneriaeth cymdeithasol hwnnw yng Nghymru a'r fforymau hynny sydd gennym ni mewn bodolaeth eisoes i wneud yn siŵr bod arloesi yn gweithio i fusnesau a chymunedau, ond hefyd i unigolion a gweithwyr hefyd.
Ac yn olaf un, ynghylch y sylwadau ar y rhaglen beilot mewn ysgolion, ydw, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth yw canlyniad y rhaglen beilot, ac roeddwn i'n ddigon ffodus, gryn amser yn ôl erbyn hyn, i ymweld ag ysgol—yn anffodus, nid yn ardal yr Aelod, ond yng Nghasnewydd—ac i weld grŵp o bobl ifanc a'i weld ar waith. Roedd yn braf iawn gweld eu bod nhw'n siarad am y syniad o gydweithio ar bethau y tu hwnt i waith hefyd. Felly, mewn gwirionedd, roedden nhw wedi sefydlu ymgyrchoedd ar bethau yr oedden nhw eisiau eu cyflawni yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol. Efallai y gallai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ddifaru yn y pen draws pan fydd gennym ni grŵp o bobl ifanc yn ymgyrchu y tu allan, ond rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd, a dweud y gwir, yn addysgu pobl i ddefnyddio eu llais, i wybod bod ganddyn nhw hawliau ac am rym gweithio ar y cyd i gyflawni newid.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Mae'n rhaid mai partneriaethau cymdeithasol yw'r allwedd sy'n sail i bopeth yn y gweithle, ac, yn groes i'r myth Torïaidd a'r cysyniadau ideolegol sydd ganddyn nhw sy'n wahanol i'n rhai ni, mae partneriaethau cymdeithasol o fudd i'r gweithiwr a'r cyflogwr mewn gwirionedd. Mae'n rhoi pobl mewn sefyllfa o drafod, yn hytrach na gwrthdaro, ac rydym ni wedi gweld digon o wrthdaro a diffyg trafod yn eithaf diweddar, ac nid yw'n llesol i neb. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad hwn yr ydych chi wedi ei wneud heddiw yn fawr, ac rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith ein bod ni'n mynd i mewn i ysgolion ac yn addysgu pobl ifanc am y manteision o fod yn ymwybodol o'u hawliau yn y gwaith cyn iddyn nhw fynd i'r gwaith. Felly, os byddan nhw'n gweld sefyllfa nad yw o fudd iddyn nhw, byddan nhw'n gallu codi'r gwrthwynebiadau hynny ac, efallai, tynnu sylw at wendidau yn y gyflogaeth a allai bara am ddegawdau lawer drwy gydol eu hoes, a byddan nhw'n teimlo'n rhan wedyn, rwy'n credu, o'r cwmni hwnnw a byddan nhw'n teimlo eu bod nhw'n perthyn, y mae'r Torïaid, wrth gwrs, wedi methu â'i ddeall.
Diolchaf i Joyce Watson am ei chyfraniad heddiw, ac rwy'n ategu'n fawr y cyfraniad a'r sylwadau yr ydych chi'n eu gwneud ynghylch gwerth partneriaeth gymdeithasol ac nad yw er budd gweithwyr ac undebau llafur yn unig; mae er budd cyflogwyr, boed yn y sector cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu eraill. Rydym ni wedi gweld cydnabyddiaeth o hynny drwy'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru, a holl ddiben cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yw nad ydych chi bob amser yn mynd i gytuno, ond mae gennych chi'r fecanwaith i ddod at eich gilydd i nodi heriau a cheisio dod o hyd i atebion ar y cyd. Mae'n cynnig manteision i fusnesau, mae'n cynnig manteision i Gymru hefyd.
Ar y pwynt ynghylch yr undeb o'r byd gwaith a mynd i ysgolion, rwy'n credu fy mod i wedi dweud o'r blaen, efallai nid yn y fan yma, ond oni bai eich bod chi'n filiwnydd sawl gwaith drosodd neu'n ennill y loteri, rydych chi'n debygol o dreulio cyfran helaeth o'ch bywyd yn y gwaith, a phobl ifanc, yn anffodus, yw'r lleiaf tebygol o fod yn ymwybodol o'u hawliau yn y gwaith ond y mwyaf tebygol o fod mewn sefyllfa lle maen nhw'n destun camfanteisio. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n arfogi ac yn grymuso ein pobl ifanc i fynd i fyd gwaith gyda'r wybodaeth honno a chyda'r ddealltwriaeth honno, ond hefyd nid yn unig, efallai, fel cyflogeion a gweithwyr eu hunain, ond fel cyflogwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol hefyd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.