– Senedd Cymru am 3:17 pm ar 8 Mawrth 2023.
Eitem 5 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, data biometrig mewn ysgolion. Galwaf ar Sarah Murphy i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8131 Sarah Murphy, Jane Dodds
Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometreg mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:
a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru;
b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometreg plant;
c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith;
d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometreg;
e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometreg o fewn ysgolion.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i Jane Dodds, a gyd-gyflwynodd y cynnig hwn, ac i Carolyn Thomas a Jack Sargeant a'i cefnogodd. Rwy'n gwneud y cynnig.
Gofynnais am ddadl ar ddata biometrig mewn ysgolion ar sawl achlysur ers cael fy ethol, felly mae hwn yn ddiwrnod arwyddocaol, ac rwy'n falch ac yn obeithiol y gallwn drafod yr agweddau ar y gyfraith, rheoleiddio a chydraddoldeb a hawliau dynol gyda'n gilydd heddiw. Hoffwn ddiolch i Pippa King a Jen Persson o Defend Digital Me a Madeleine Stone yn Big Brother Watch am eu hymchwil a'u help cyson gyda hyn, a byddaf yn pwyso ar y gwaith hwnnw heddiw.
Rwy'n galw ar ein Gweinidog addysg i ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru am foratoriwm ar dechnoleg fiometrig a defnydd o ddata corfforol mewn ysgolion hyd nes y bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal asesiad o'r defnydd o ddata plant ar draws systemau addysgol y DU—byddai hyn yn cynnwys wyneb, olion bysedd, sganiau llygaid, sganiau gwythiennau a chledrau dwylo, cerddediad a chanfod a phrosesu emosiynol—yn ogystal ag ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn pa asesiad a wnaed bod y technolegau hyn yn cyd-fynd â Deddf Diogelu Data y DU 2018 i amddiffyn plant ar raddfa fawr rhag gor-ddefnydd o ddata biometrig yn y sector hwn, a byddaf yn nodi pam.
Fel gyda'r rhan fwyaf o newidiadau i dechnoleg data yn ein mannau cyhoeddus, deuthum yn ymwybodol fod casglu data olion bysedd yn digwydd mewn ysgolion yn anecdotaidd. Cefais wybod gan rieni ei fod wedi cael ei gyflwyno gan ysgolion yn fy etholaeth, ac yna, pan ofynnais yn ehangach i rieni a myfyrwyr os oedd hyn yn digwydd mewn ysgolion eraill, a ble, cefais fy synnu wrth ddarganfod ei fod yn hynod gyffredin. Gofynnais wedyn a ofynnwyd am ganiatâd i gyflwyno hyn mewn ysgolion, a dangoswyd un llythyr i mi a gafodd ei anfon at rieni i ofyn am eu llofnod i ganiatáu i ddata olion bysedd eu plant gael ei gasglu a'i storio i'w ddefnyddio'n gyfnewid am dâl am brydau ysgol. Dywedai, ac rwy'n dyfynnu, 'Os ydych chi'n dewis peidio â chael eich plant ar system fiometrig, bydd angen dyrannu cod PIN pedwar digid. Sylwch nad oes gan y codau PIN yr un lefel o ddiogelwch, a chyfrifoldeb eich plentyn fydd cofio'r cod a'i gadw'n ddiogel bob amser.'
Weinidog, ni allaf bwysleisio hyn ddigon: nid yw data biometrig yn fwy diogel na chod PIN neu gyfrineiriau. Gellir ailosod cyfrineiriau a chodau PIN. Ar ôl i'ch data biometrig gael ei beryglu, mae'n cael ei beryglu am oes. Mae'n bosibl y bydd yn atal y plant am weddill eu bywydau rhag gallu defnyddio eu holion bysedd am resymau diogelwch neu beth bynnag a ddymunant. Mae hyn yn rhannol oherwydd nad yw hacio data'n ddigwyddiad anghyffredin. Rydym wedi ei weld yn GIG Lloegr, yr Heddlu Metropolitanaidd a grŵp bancio Lloyds. Mae cyrff cyhoeddus sydd â lefelau uchel o ddiogelwch wedi gweld eu data'n cael ei ddatgelu, yn aml gyda chanlyniadau na ellir eu rhagweld. Y gwir amdani yw nad yw ysgol gynradd neu uwchradd yn mynd i allu fforddio na goruchwylio'r lefel hon o ddiogelwch, ac felly ni allant ymrwymo i sicrhau bod data personol plant yn ddiogel. Nid rhagdybio y gallai hyn ddigwydd rwyf i; mae wedi digwydd. Ym mis Medi 2022, nododd rhieni yn yr Unol Daleithiau eu bod wedi cael delwedd anweddus mewn memyn ar ôl i hacwyr dargedu'r ap ysgol Seesaw, sydd â 10 miliwn o ddefnyddwyr, gan gynnwys athrawon, myfyrwyr ac aelodau teuluol. Cefais wybod yr wythnos hon fod yr ap Seesaw yn cael ei gyflwyno mewn ysgol gynradd yn fy etholaeth, fel y mae ar draws pob un o'ch etholaethau chi hefyd, rwy'n siŵr.
Mae rhai pobl wedi cwestiynu rôl amgryptio ac a all hyn gynnig y diogelwch sydd ei angen i ddiogelu data myfyrwyr sy'n cael ei gasglu mewn ysgolion, drwy sicrhau na all hacwyr wyrdroi cyfrinair neu allwedd. Ond mae'n rhaid inni ystyried bod rhaid i ddata biometrig plentyn fod yn ddiogel am ei oes—felly, chwech i wyth degawd—ac mae'n amhosibl dweud o dan ein system bresennol y gall data biometrig plentyn fod yn ddiogel am y 70 mlynedd a mwy nesaf. Gall y Swyddfa Gartref a'r heddlu wneud hyn nawr mewn gwirionedd.
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, GDPR, dylid dileu data myfyrwyr pan fyddant yn gadael yr ysgol, ond mae myfyrwyr sy'n dychwelyd i'w hysgolion ar ôl graddio wedi sylweddoli bod systemau biometrig yn dal i adnabod eu holion bysedd mewn llawer o achosion.
Felly, beth a wnaethom hyd yma yng Nghymru? Nôl yn 2021, cysylltais â Llywodraeth Cymru, nad oedd yn ymwybodol fod ysgolion yn defnyddio'r dechnoleg yma na phwy oedd yn gwerthu'r dechnoleg i'n hysgolion. Mewn ymateb, bu Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Jeremy Miles yn gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc i egluro canllawiau anstatudol i ysgolion yng Nghymru, ac nad oes amgylchiadau lle caiff ysgol neu goleg brosesu data biometrig dysgwyr yn gyfreithlon heb hysbysu pob rhiant i blentyn a chael y caniatâd angenrheidiol. Aeth Llywodraeth Cymru ymhellach hefyd gan gynhyrchu fersiwn hawdd i blant ei deall fel adnodd i bobl ifanc allu deall sut mae eu data'n cael ei gasglu, eu hawl i gydsynio, ac yn hollbwysig, eu hawl i ddweud na. Roedd yn wych cyflwyno hyn yn Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda'n Gweinidog addysg, ac rwy'n gwerthfawrogi'r dull rhagweithiol a chydweithredol hwn o egluro'r canllawiau. Fodd bynnag, dim ond ateb dros dro oedd hwn yn mynd i fod wrth ddisgwyl am y sgwrs ehangach sydd ei hangen ar frys yn y Siambr hon ac yn ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y gallwn ei dechrau heddiw. Oherwydd canfu arolwg barn gan Survation a gynhaliwyd yn 2018 ar ran Defend Digital Me, grŵp ymgyrchu dros hawliau plant a phreifatrwydd, i rieni ar draws Lloegr yr oedd ysgolion eu plant yn defnyddio technoleg fiometrig, fod 38 y cant wedi dweud nad oeddent wedi cael cynnig unrhyw ddewis, ac nad oedd dros 50 y cant wedi cael gwybod pa mor hir y byddai'r olion bysedd neu ddata biometrig arall yn cael eu cadw, neu pryd y byddent yn cael eu dinistrio. Nid oes gennym unrhyw astudiaethau cyfatebol yma yng Nghymru.
Mae Defend Digital Me hefyd wedi canfod enghreifftiau o ysgolion lle mae defnyddio technolegau biometrig yn orfodol i bob disgybl, neu lle mae'n rhaid i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddefnyddio system fiometrig i gael eu cinio, tra bod pobl eraill yn cael dewis peidio. Yn 2022, fe wnaethant ofyn i 10 undeb llafur ar draws y DU gydag aelodau yn y byd addysg, a ddywedodd nad oes ganddynt unrhyw god ymarfer ar hyn i gynorthwyo staff gyda'u defnydd eu hunain a'u hawliau, nac ar gyfer disgyblion.
Mae hefyd yn mynd yn erbyn erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n dweud bod gan blant a phobl ifanc hawl i addysg ni waeth pwy ydynt; o dan erthygl 16 y confensiwn, ni fydd unrhyw blentyn yn destun ymyrraeth fympwyol neu anghyfreithlon â'i breifatrwydd, a hefyd mae gan y plentyn hawl i ddiogelwch y gyfraith rhag ymyrraeth o'r fath; ac erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol hefyd, sef yr hawl i breifatrwydd.
Yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth hon, deuthum i'r casgliad fod casglu data biometrig mewn ysgolion yn ymwthiol, yn ddiangen, yn anghymesur, ac nid yw'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol na chonfensiynau hawliau dynol. Mae technoleg fiometrig mewn ysgolion yn fwy cyffredin nag a sylweddolwn. Fe'i cyflwynwyd yn gyntaf oddeutu 2000, a dros y degawd diwethaf, mae'r defnydd o'r technolegau hyn wedi cynyddu'n aruthrol, gyda thua 75 y cant o ysgolion uwchradd ledled y DU bellach yn defnyddio technoleg olion bysedd, yn ogystal â bod yn gyffredin iawn mewn ysgolion cynradd. Rydym yn gwybod, yn y 2000au cynnar, fod llawer o'r technolegau hyn ar un adeg yn gwmnïau o'r DU a werthai dechnoleg a arferai fod yn dechnoleg filwrol i'r sector cyhoeddus a phreifat, ond erbyn hyn dengys ymchwil fod y rhan fwyaf o ddarparwyr yn gwmnïau o'r Unol Daleithiau, Canada ac Israel. Fodd bynnag, mae i bwy, sut a pham mae cwmnïau preifat yn gwerthu'r data technoleg fiometrig i ysgolion yn parhau i fod yn aneglur. Mae'r ymchwilydd Pippa King, ymgyrchydd ar ddefnyddio data biometrig mewn ysgolion, ynghyd â Defend Digital Me, wedi gofyn am geisiadau rhyddid gwybodaeth. Ymatebodd rhai ysgolion, ond nid oes eglurder o hyd ynghylch pa adran o'r Llywodraeth neu gyrff eraill sy'n monitro a yw ysgolion yn cadw at Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012, faint o ysgolion sy'n defnyddio technoleg fiometrig, faint o ddisgyblion sydd â'u data biometrig yn cael ei storio ar gronfeydd data ysgolion neu gyflenwyr, neu a yw'r data'n hygyrch ac yn cael ei rannu y tu allan i'r ysgol. Ar ben hynny, mae sylw cyffredinol Rhif 16 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn dweud:
'Ni ddylai gwladwriaethau fuddsoddi cyllid cyhoeddus ac adnoddau eraill mewn gweithgareddau busnes sy'n tramgwyddo hawliau plant.'
Er mwyn cydymffurfio â'r safon hon, mae angen asesiad effaith ar hawliau dynol. Nid wyf yn credu bod y rhain yn cael eu gwneud.
Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ran i'w chwarae yn hyn o beth, ac fe wnaethant geryddu Adran Addysg y DU yn ddiweddar, yn dilyn camddefnydd hir o wybodaeth bersonol hyd at 28 miliwn o blant. Canfu ymchwiliad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fod diwydrwydd dyladwy gwael yr Adran Addysg wedi golygu bod cronfa ddata o gofnodion dysgu disgyblion wedi cael ei defnyddio yn y pen draw gan Trust Systems Software UK i wirio a oeddent yn 18 oed ai peidio pan oeddent eisiau defnyddio cyfrif gamblo. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi ymateb o ddifrif i'r tramgwydd hwn, ond rwy'n galw arnynt yn awr i sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith i reoleiddio biometreg eang mewn ysgolion. Oherwydd, fel y mae Big Brother Watch wedi nodi, mae'n annerbyniol fod y dechnoleg casglu data biometrig yn cael ei gwerthu i ysgolion a rhieni gan gwmnïau diegwyddor fel opsiwn mwy diogel. Cyfarfûm â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ddiweddar i leisio fy mhryderon a chynnig anfon y dystiolaeth a gyflwynais heddiw atynt, ac rwy'n gobeithio y gallwn gydweithio ar hyn yn y dyfodol.
Rwyf hefyd wedi cyfarfod â chomisiynydd plant blaenorol a chyfredol Cymru, a hoffwn ofyn i'r swyddfa fabwysiadu hyn fel rhan allweddol o'u hagenda hawliau plant i ofyn iddynt sut maent yn teimlo ynglŷn â defnydd o'r technolegau hyn yn eu hysgolion. Mae'n fwy na chasglu olion bysedd yn unig; gall data biometrig gynnwys gwybodaeth am batrwm y croen, nodweddion corfforol neu fysedd neu gledrau unigolyn, nodweddion iris neu unrhyw ran arall o'r llygad, neu lais neu lawysgrifen unigolyn. Ym mis Hydref 2021, cofrestrwyd mwy na 2,000 o ddisgyblion mewn naw ysgol yng Ngogledd Ayrshire i dalu am eu cinio drwy ymddangos o flaen camera a weithredwyd gan y staff wrth y til. Roedd y system, a osodwyd gan CRB Cunninghams, yn cymharu'r plant â lluniau a gofrestrwyd ac yn didynnu gwariant y dydd o'u cyfrif. Ymatebodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyflym, cafodd yr holl ddata ei ddileu, ac fe wnaeth yr ymchwiliad a ddeilliodd o hynny ddatgelu sut nad yw sefydliadau fel cynghorau lleol wedi'u paratoi'n ddigonol ar gyfe y dasg o gasglu, prosesu a chadw data personol. Fodd bynnag, dim ond drwy lens torri GDPR y llwyddwyd i graffu ar yr achos yn hytrach nag edrych i weld a ddylid cyflwyno hyn yn y lle cyntaf ai peidio. Mae Big Brother Watch wedi tynnu sylw at y ffaith bod gwledydd eraill, fel Ffrainc, Sweden a rhannau o'r Unol Daleithiau wedi gwahardd hyn oherwydd pryderon ynghylch preifatrwydd.
Felly, nid oes amwysedd. Fel gwleidyddion, rwy'n credu bod gennym rwymedigaeth foesol a moesegol i drafod y mater hwn ac a ydym am gael hyn yma yng Nghymru neu'r DU ai peidio. Mae'r comisiynydd biometreg a chamerâu gwyliadwriaeth, yr Athro Fraser Sampson, wedi rhybuddio bod angen ystyried a goruchwylio gwyliadwriaeth fiometrig mewn ysgolion yn ofalus. Dywedodd:
'Yn eironig braidd, mae gwyliadwriaeth fiometrig yn galw am wyliadwriaeth gyson. Er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei llywodraethu'n briodol, osgoi canlyniadau anfwriadol ac erydu rhyddid yn ddi-droi'n-ôl, mae'r maes hwn yn galw am gydnabyddiaeth ofalus—ac nid yw unrhyw un sy'n credu ei fod yn ymwneud â diogelu data yn unig wedi bod yn talu sylw.'
Unwaith eto, mae gennym gyfrifoldeb fel seneddwyr ac yn y Llywodraeth i graffu ar hyn.
Yn olaf, beth mae hyn yn ei wneud i lais ein plant yn ein cymdeithas? Rwyf am orffen drwy ofyn y cwestiynau ehangach hyn: pa neges y mae hyn yn ei rhoi i fyfyrwyr, fod modd defnyddio eu data biometrig, eu cyrff, yn gyfnewid am drafodiad ariannol? Fel oedolion, nid oes raid inni roi ein holion bysedd i gael bwyd, gwybodaeth, hawliau i addysg, a gobeithio y byddem yn protestio pe bai raid inni wneud hynny, ond mae'n rhaid i'n plant wneud hynny. Sut mae hyn yn dylanwadu ar y ffordd y mae ein plant yn gweld eu hawliau sifil? Oherwydd, fel y gwnaeth un person a ysgrifennodd ataf nodi, gall yr heddlu, o dan awdurdod Ei Fawrhydi a Deddf Seneddol, gasglu olion bysedd oedolion heb ganiatâd os ydynt wedi cael eu harestio, eu cyhuddo neu eu cael yn euog, ond mae'n rhaid i'n plant wneud hyn yn ddyddiol. A sut mae casglu data biometrig mewn ysgolion yn parhau'r ideoleg, os nad oes gennych unrhyw beth i'w guddio, nad oes gennych ddim i'w ofni—ideoleg beryglus sy'n deillio o fraint ac sydd bob amser yn cael ei defnyddio gan ormeswyr? Efallai na ddylai'r cwestiwn heddiw ofyn a yw adnodd yn ddigon cyfreithlon i'w ddefnyddio mewn lleoliadau addysgol ai peidio, ond yn hytrach, a yw'n parchu urddas pobl a nodau addysg, ac yn cydymffurfio â'r ystod lawn o hawliau dynol, rhyddid mynegiant, rhyddid barn a nodau'r hawl i addysg. Diolch.
Diolch o galon i Sarah Murphy am gychwyn y ddadl hon. Gwn fod Sarah wedi rhoi llais go iawn i'r pryderon ynghylch data biometrig a hawliau digidol, felly diolch am y cyfle i gefnogi hyn ac i gymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.
Mae casglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion yn codi pryderon gwirioneddol am hawliau, cyfreithlondeb a defnydd priodol o ddata mor allweddol. Yn benodol, mae angen inni fod yn sicr fod ysgolion yn cydymffurfio â disgwyliadau Llywodraeth Cymru a'r gyfraith hefyd. I mi, mae dau gwestiwn yma: a yw'r ddeddfwriaeth yn ddigon da i warchod hawliau ein plant, ac a yw ysgolion yn gweithredu o fewn y ddeddfwriaeth a'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hynod bryderus clywed hanesion ynglŷn â sut mae ysgolion yn peryglu disgwyliadau Llywodraeth Cymru a data plant. Nid wyf yn credu eu bod yn gwneud hyn o unrhyw fwriad maleisus, ond yn hytrach o ddiffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â beth yw'r disgwyliadau, sy'n gallu arwain at ganlyniadau pryderus. Wrth wneud hynny, maent yn creu amgylchedd lle mae pobl ifanc yn dod i arfer â'r syniad fod eu data biometrig yn rhywbeth i'w drosglwyddo fel mater o drefn. Mae angen inni gofio nad yw systemau ond cystal â'r bobl sy'n eu defnyddio, ac mae angen inni fod yn ymwybodol o'r risgiau y byddant yn ymgorffori rhagfarn anymwybodol.
Er bod diogelu data yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl, mater i Lywodraeth Cymru yw sut mae'r rheolau'n cael eu cymhwyso mewn ysgolion, fel y clywsom gan Sarah, ac mae'n galonogol iawn clywed am y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma. Felly, mae angen inni adeiladu ar ganllawiau a disgwyliadau Llywodraeth Cymru, a roddwyd i ysgolion i ddiogelu data ein plant, ac wrth greu'r disgwyliadau ynglŷn â'i gasglu hefyd.
Yn Ewrop, rydym yn gweld cyfraith achosion yn ei gwneud yn glir fod anghydraddoldeb statws rhwng yr ysgol a'r disgybl yn ffactor wrth benderfynu a yw defnyddio data biometrig yn gyfreithlon ai peidio. Yn fy marn i, dyma egwyddor a ddylai lywio sut mae ysgolion yn gweithredu yng Nghymru hefyd. Yn fwy cyffredinol, mae angen inni fod yn wyliadwrus ynghylch ddeddfwriaeth diogelu data. Ar hyn o bryd mae Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth San Steffan wedi ei oedi unwaith eto yn y Senedd. Mae'r Bil Deddfwriaeth yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd ar hyn o bryd yn Senedd San Steffan unwaith eto, yn golygu, ymhlith pethau eraill, fod adolygiad o'r ddeddfwriaeth diogelu data yn y DU, sydd i ddod, yn seiliedig ar gyfraith diogelu data'r UE. Rwy'n deall bod disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi ei chynigion ar gyfer GDPR y DU yn fuan. Mae angen inni fod yn ymwybodol o'r risg y bydd yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i lastwreiddio cyfraith diogelu data.
Rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r Senedd am ddatblygiadau yn y maes hwn, ac y bydd yn sicrhau bod yr angen i ddiogelu data plant a phobl ifanc yn yr ysgol, a mannau eraill, yn cael ei gydnabod ac y gweithredir arno. Unwaith eto, diolch enfawr i Sarah am godi'r mater hwn, a gobeithio y byddwn yn parhau i drafod hyn ac yn cadw llygad ar unrhyw ddatblygiadau. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi i ddechrau fy nghyfraniad hefyd, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i'n cyd-Aelod Sarah Murphy am gyflwyno'r cynnig hwn i'r Senedd heddiw, ond hefyd drwy dalu teyrnged i'r ymgyrchu diflino y mae hi wedi'i wneud yn y maes hwn? Rwy'n credu y gallai'r Senedd hon fod wedi anghofio am y mater hwn yn hawdd iawn pe na bai Sarah wedi dod yn Aelod o'r Senedd hon a bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
Wrth i dechnoleg lifo drwy bob rhan o'n bywydau, rydym wedi dod yn ymwybodol iawn o'r angen i ddiogelu ein data personol ein hunain. Ac am resymau amlwg, nid yw rheoleiddio bob amser wedi dal i fyny â datblygiad technoleg yn y maes hwn, ac mae gennym nifer o enghreifftiau o sut mae hyn wedi gadael pobl yn agored i niwed. Mae hyn yn arbennig o beryglus yn achos data biometrig—y mater rydym yn ei drafod y prynhawn yma. Fel egwyddor arweiniol, rwy'n credu y dylem fod yn ofalus yn y ffordd rydym yn caniatáu defnyddio data biometrig yng Nghymru, yn enwedig yn ein hysgolion. Oherwydd, wedi'r cyfan, yr egwyddor bwysig wrth gasglu data yw cydsyniad: cydsyniad i ddefnyddio'r data gan rywun sy'n gwbl wybodus, ond sydd hefyd yn ymwybodol o'r peryglon posibl.
Sut y gall ein pobl ifanc roi cydsyniad i hyn pan nad ydynt yn deall y risg? Ac os ydych yn cyplysu hynny â'r ffaith bod angen llawer iawn o ffydd i allu ymddiried mewn cwmnïau technoleg i wneud y peth iawn gyda'n data, rydych yn deall pam fod cymaint ohonom yn cynghori pobl i fod yn ofalus a pham bod Sarah Murphy yn arwain ar y mater hwn. Ac rwy'n dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, fel rhywun sy'n gredwr mawr mewn technoleg ac fel rhywun sy'n defnyddio technoleg bob dydd. Ond y gwir amdani yw mai arian yw data, a phan fo arian yn ffactor cymhellol, nid yw ymddiriedaeth yn unig yn ddigon.
Yng Nghymru, rydym yn falch o'n hanes o hyrwyddo hawliau'r plentyn, ac mae'n briodol ein bod yn falch o hynny. Ond mae angen bod yn wyliadwrus wrth barchu'r hawliau hynny—y math o wyliadwriaeth a drafododd Jane Dodds, ein cyd-Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn gynharach.
Felly, Ddirprwy Lywydd, i gloi, dyna'r rhesymau pam roeddwn i mor awyddus i gefnogi cynnig Sarah. Rwy'n falch ei fod wrth galon democratiaeth Cymru y prynhawn yma. Rwy'n falch o'r gwaith y mae'r Gweinidog wedi'i wneud gyda Sarah ar hyn. Rydym yn lwcus i gael Sarah, oherwydd ni fyddai neb wedi sylwi ar hyn hebddi hi, a dylem gydnabod hynny, a dylem ddefnyddio'r wybodaeth a'r cyfoeth o brofiad sydd ganddi. Ac yn olaf, i gloi, rwy'n annog Aelodau meinciau cefn pob plaid wleidyddol yn y Siambr hon heddiw i bleidleisio o blaid y cynnig sydd ger ein bron. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Sarah, am gyflwyno'r ddadl hon, sydd, fel mae eraill wedi'i ddweud, yn rywbeth pwysig iawn y mae angen inni ei ystyried, oherwydd, fel arall—. Mae technoleg yn beth gwych ar sawl ystyr; mae'n gallu achub bywydau. Os yw rhywun wedi mynd i goma gyda diabetes math 1, nid ydynt mewn sefyllfa i ddweud wrthych pa driniaeth fydd ei hangen arnynt, ond mae'n rhaid inni ddefnyddio'r dull rhagofalus. Ond rwy'n credu, ar yr un pryd, na ddylem gael gwared ar y pethau da gyda'r pethau gwael.
Cyn y ddadl hon, fe wneuthum ymgynghori ag un o'r ysgolion uwchradd yn fy etholaeth a gofyn am hyn, oherwydd nid oeddwn yn gwybod i ba raddau roedd hyn yn cael ei ddefnyddio na pha safbwynt y dylwn fod yn ei arddel. Felly, roedd yn ddefnyddiol iawn clywed eu bod yn defnyddio ôl bawd biometrig yn y ffreutur, oherwydd ni fyddwch yn synnu clywed bod pobl ifanc yn colli'r cardiau sy'n dangos faint o gredyd sydd ganddynt, ac felly, ni fyddant yn colli eu bawd. Os gallwch ddychmygu'r cyflymder y mae'n rhaid gweini i bobl ifanc yn ystod yr egwyl ginio, yn ogystal â'r cyfrinachedd hynod bwysig y mae angen ei sicrhau ynglŷn â phwy sy'n cael prydau ysgol am ddim, nid yw bawd yn dweud dim mwy wrthych na bod yr unigolyn eisiau talu am eu bwyd gyda faint bynnag o gredyd sydd ganddynt yn eu cyfrif.
Felly, i fod ychydig yn fwy technegol, mae'r ôl bawd biometrig hwn yn trosi'n god—nid ffotograff, nid enw. Cyfres o rifau ydyw, sydd, i'r gweddill ohonom, yn ddarn diystyr o wybodaeth. Ond mae'n dweud wrth weithredwr y til, sy'n rheoli'r arian, pa eitemau sydd angen eu didynnu a brynwyd gan yr unigolyn. Felly, hyd yn oed pe bai cyfrif yr ysgol yn cael ei hacio, ni fyddai'r wybodaeth a gafwyd drwy'r ôl bawd yn dweud wrthych pa unigolion a gafodd ginio y diwrnod hwnnw. Mae'n annhebygol y byddai haciwr yn hacio cyfrif yr ysgol a chyfrif rheolwr y til ar yr un pryd.
Ceir llawer o fanteision, felly. Ceir cyfrinachedd ynglŷn â phwy sy'n cael prydau ysgol am ddim, sy'n aml yn anodd i'w sicrhau mewn ysgolion uwchradd eraill lle maent yn defnyddio cardiau, a lle mae gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r unigolyn sy'n rheoli'r til, sy'n gwbl amhriodol weithiau. Ac mae hefyd yn ymwneud â chyflymder y broses, oherwydd nid oes gennych yr holl weinyddiaeth na'r drafferth o ddweud, 'Rwyf wedi colli fy ngherdyn', 'Rwyf wedi ei adael gartref', a'r holl bethau eraill sy'n mynd o'i le.
Felly, rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, ond rwy'n rhyw fath o herio'r ffaith bod y cynnig yn gofyn inni sicrhau bod pob ysgol a lleoliad gofal plant yn defnyddio technoleg nad yw'n fiometrig ar gyfer y math hwn o wasanaeth, oherwydd pa wasanaeth nad yw'n fiometrig a fyddai'n gallu cynnig rhywbeth mor gywir a chyflym â defnyddio ôl bawd? Rydym i gyd yn defnyddio ôl bawd, neu rydym yn gwneud hynny mewn theori, i gael mynediad at ein iPads, ond rwyf angen deall beth yw'r pryderon. Rwy'n cytuno'n llwyr â Jack a Jane Dodds fod angen inni fwrw ymlaen yn ofalus ar hyn, ac mae angen inni gael yr holl ddata, ond mae gennyf rai pryderon ynglŷn â rhuthro i mewn i hyn a chael gwared ar y pethau da wrth gael gwared ar y pethau gwael a pheidio â chael manteision technoleg i reoli data pwysig yn effeithiol mewn modd cyfrinachol. Diolch.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gyfrannu. Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw? Yn benodol, gaf i ddiolch i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr am ei gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n ymwneud â chasglu a defnyddio data biometrig pobl ifanc?
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn maddau i mi am ddweud bod y Senedd, rwy'n credu, ar ei gorau pan fo Aelodau'n cyflwyno materion nad oes ganddynt y proffil y maent yn ei haeddu bob amser i'r Siambr ac yn dilyn y cwestiynau hynny gyda mesur cyfartal o arbenigedd ac angerdd, yn y ffordd y mae Sarah Murphy wedi mynd ar drywydd mater data biometrig a phobl ifanc yn gyson.
Mae yna farn wahanol, Ddirprwy Lywydd, ynghylch defnyddio technolegau biometrig ar draws pob agwedd ar gymdeithas. Mae'n fater cymhleth ac mae'n fater sensitif. Mae technoleg yn datblygu'n gyflym yn ein bywydau bob dydd, ac o'i defnyddio yn y ffordd gywir, gall gynnig manteision diamheuol, gan wneud agweddau ar ein bywydau yn haws, yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel. Ond mae'n bwysig bod y defnydd o dechnoleg yn cael ei ystyried yn iawn a bod y cyfrifoldebau cyfreithiol yn cael eu deall yn iawn gan bawb sy'n casglu ac yn defnyddio data personol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am wiriadau a chydbwysedd priodol mewn system lle mae gwybodaeth bersonol a sensitif yn cael ei defnyddio i alluogi dysgwyr, ac yn wir unrhyw ddinesydd, i ymgymryd â gweithgareddau bob dydd. Yn 2022, fel soniodd Sarah Murphy, lansiais i ganllawiau diwygiedig diogelu gwybodaeth biometrig mewn ysgolion a cholegau yn Ysgol Gyfun Bryntirion, gyda Sarah, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r canllawiau yn rhoi gwybodaeth glir i ysgolion a cholegau am eu rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â gweithredu a defnyddio systemau adnabod biometrig. Mae hyn yn cynnwys rhwymedigaethau cyfreithiol cynhwysfawr o dan Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012, Deddf Diogelu Data 2018, rheoliad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar ddiogelu data, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Wrth ddiweddaru'r canllawiau, ymgynghorwyd â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y comisiynydd biometrig, Comisiynydd Plant Cymru, a Defend Digital Me. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw i gyd am eu mewnbwn gwerthfawr.
Mae'r canllawiau'n nodi'n glir y dylai ysgolion a cholegau, cyn gweithredu system fiometrig, ystyried yn ofalus a oes opsiynau eraill llai ymwthiol ar gael a allai ddarparu'r lefel gyfatebol o wasanaeth i ddysgwyr. Pan fydd ysgol yn ystyried system fiometrig, rhaid i'r ysgol fod yn glir ynghylch y gofynion cyfreithiol a fydd yn cael eu gosod arni.
Ddirprwy Lywydd, fel y nodwyd yn y cynnig, rhaid i ysgolion a cholegau ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae hwnnw hefyd wedi'i nodi'n glir yn ein canllawiau. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a'u dymuniadau ym mhob mater sy'n effeithio arnynt; i'w barn gael ei hystyried a'i chymryd o ddifrif; a'r hawl i breifatrwydd. Felly, mae'n hanfodol fod dysgwyr yn deall nad yw cymryd rhan mewn system fiometrig yn orfodol. Ochr yn ochr â'r prif ganllawiau, fe wnaethom gynhyrchu fersiwn yn benodol ar gyfer plant, fel y nododd Sarah Murphy yn ei haraith, er mwyn helpu pobl ifanc i ddeall eu hawliau mewn perthynas â'r maes hwn. Cafodd y ddogfen ei datblygu gyda chymorth dysgwyr ifanc, gan gynnwys y grŵp cynghori ar hawliau plant a Cymru Ifanc, a hoffwn ddiolch iddynt hwy hefyd am eu cyfraniad gwerthfawr.
Mae gofyn i ysgolion a cholegau gael cydsyniad ysgrifenedig gan riant neu ofalwr cyn y gellir casglu unrhyw ddata biometrig. Mae ganddynt hwy, neu'r dysgwr yn wir, hawl i optio allan ar unrhyw adeg. Rhaid i ysgolion a cholegau fod yn dryloyw yma, gan ei gwneud yn glir fod cymryd rhan yn ddewisol, a darparu gwybodaeth glir am y defnydd arfaethedig a gweithdrefnau diogelu data. Pan fo naill ai rhiant, gofalwr neu ddysgwr yn dewis optio allan, rhaid i ysgolion a cholegau ddod o hyd i ffordd arall resymol o ddarparu'r gwasanaeth. Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig. Ni ddylai dysgwyr fod o dan anfantais ac ni ddylent gael mynediad at lai o wasanaethau neu wasanaethau gwahanol oherwydd penderfyniad ysgol i gyflwyno biometreg.
Mae ysgolion yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw ddata y maent yn ei gasglu a'i ddefnyddio. Rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw ddata biometrig yn cael ei storio'n ddiogel, nad yw'n cael ei gadw'n hwy na'r angen, nad yw ond yn cael ei ddefnyddio at y diben y caiff ei gasglu ar ei gyfer ac nad yw'n cael ei ddatgelu'n anghyfreithlon i drydydd parti. Dylid ystyried hyn fel rhan o asesiad effaith diogelu data, y dylid ei gynnal ar y dechrau. Rhaid i ysgolion a cholegau sicrhau nad ydynt ond yn dyfarnu contractau i gyflenwyr biometrig sy'n darparu gwarant ddigonol i weithredu mesurau priodol yn unol â'r rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data. Mae erthygl 28 yn pennu'r gofynion cytundebol gofynnol, sydd, yn ei hanfod, yn sicrhau nad yw cyflenwyr ond yn gallu gweithredu ar sail cyfarwyddiadau'r ysgol neu'r coleg, ac ni chânt ddefnyddio'r data at unrhyw ddibenion eraill. Pe bai ysgol neu goleg yn caffael system heb gontract sy'n cydymffurfio'n llawn, byddent yn debygol o ysgwyddo atebolrwydd cyfreithiol llawn am weithredoedd y darparwr system.
Pan fydd systemau biometrig yn cael eu gweithredu, dylai'r ysgol neu'r coleg fonitro ac adolygu eu heffeithiolrwydd yn ôl eu pwrpas gwreiddiol. Bydd hyn yn sicrhau bod y dechnoleg yn parhau i gael ei defnyddio am y rheswm a fwriadwyd, a'i bod yn cyflawni'r dyletswyddau cyfreithiol, y gofynion a'r cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Gallai unrhyw fethiant i fodloni'r gofynion diogelu data arwain at atgyfeiriad at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, fel y soniodd Sarah Murphy yn ei haraith. Gall Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddarparu cyngor a chyfarwyddyd i helpu i sicrhau bod ysgolion yn cael hyn yn iawn, ac yn amlwg, gall tramgwydd ddifrifol arwain at gamau gorfodi.
Rwy'n fodlon fod gan ysgolion a cholegau gefnogaeth a chyngor ar gael iddynt i sicrhau eu bod yn gallu gweithredu'r safonau data gofynnol yn briodol wrth fabwysiadu'r defnydd o systemau biometrig. Ar hyn o bryd, nid oes bwriad penodol i gyflwyno deddfwriaeth gyffredinol ar gyfer defnyddio data biometrig mewn ysgolion oherwydd bodolaeth fframwaith cyfreithiol ehangach gyda phrosesau gwirio ac archwilio perthnasol. Mae'r penderfyniad i gyflwyno system fiometrig yn un i ysgolion unigol ei wneud ar sail anghenion gweithredol, asesiadau effaith, ac mewn ymgynghoriad â staff, dysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae hyn yn gyson ag egwyddor ymreolaeth ysgolion, ond o fewn fframwaith rheoleiddio clir.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig er mwyn ymatal arno, yn ôl y confensiwn, ond mae'r Aelod wedi dwyn pwyntiau pwysig i fy sylw yma yn y Siambr heddiw. Gan ei bod wedi gwneud hyn o'r blaen, mae wedi caniatáu inni edrych gyda'n gilydd ar beth arall y gallwn ei wneud. Fel y cydnabu, ac rwy'n ddiolchgar am hyn, mae'r Llywodraeth wedi gweithredu. Rwy'n rhoi sicrwydd iddi y byddaf yn ymdrin â'r cais y mae wedi'i wneud heddiw yn yr un ffordd adeiladol a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi hi a'r Senedd yn unol â hynny. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i atgoffa ysgolion o'u rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cadw ein canllawiau dan adolygiad parhaus i adlewyrchu datblygiadau yn y maes hwn sy'n newid yn gyflym.
Galwaf ar Sarah Murphy i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr, Weinidog, am y sicrwydd hwnnw. Rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwyf hefyd eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Jane Dodds. Rwy'n cytuno'n llwyr, nid yw ysgolion yn gwneud hyn ar bwrpas—nid oes ganddynt unrhyw ganllawiau. Mewn gwirionedd, pe bai'r hyn a ddigwyddodd gyda'r Adran Addysg yn digwydd nawr, byddent wedi cael dirwy o £10 miliwn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, felly rydym yn gadael ein hysgolion yn agored iawn i ddirwyon enfawr. Maent yn dargedau hawdd i'r gwledydd tramor enfawr hyn eu targedu a gwerthu'r dechnoleg hon iddynt gan ddweud wrthynt ei bod yn fwy diogel.
Jenny, euthum i'r afael â'r cwestiynau dilys iawn y gwnaethoch chi eu gofyn ar y dechrau, ond fe golloch chi ddechrau fy araith. Carwn ofyn i chi fynd yn ôl i'w darllen, os gwelwch yn dda, cyn ichi wneud eich penderfyniad heno. Er hynny, fe ategaf fod unrhyw un sydd â phlentyn bach yn gwybod eu bod yn gallu cofio'r cod pedwar digid i'ch ffôn. Gall plant gofio cod pedwar digid i gael eu prydau ysgol; nid yw'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyfaddawdu eu data personol am weddill eu bywydau. A Jack, diolch o galon i chi am siarad am y cydsyniad—nid yw plant yn gwybod beth maent yn cydsynio iddo. Nid oes ganddynt unrhyw syniad, ac nid oes gan lawer o oedolion syniad ychwaith. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn fod rhaid inni glywed eu llais, rhywbeth nad yw'n digwydd nawr.
Rwyf eisiau dweud hefyd imi gael sgwrs hynod ddiddorol am gyfiawnder gyda fy nghyd-Aelod Cefin Campbell y diwrnod o'r blaen a'r ffordd rydym yn siarad yn aml iawn yn y Siambr hon am y pethau cyfreithiol, y pethau ymarferol, y canlyniadau, y trothwyon, y targedau, ond ychydig iawn a siaradwn am ideoleg weithiau. Yn aml iawn, mae'n cael ei ddiystyru fel rhyfel diwylliant efallai, a dyna ydyw weithiau, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y mater hwn drwy lens ein gwerthoedd, ein diwylliant a'n hawliau dynol—hawliau dynol y plant, a'r deinameg pŵer a'r cyfnewid pŵer sy'n digwydd yma o flaen ein llygaid, lle nad oes gan ein plant, fel y clywsom, unrhyw ymreolaeth nac unrhyw hawl i addysg yn rhydd o wyliadwriaeth. Yng ngeiriau'r Manic Street Preachers,
'Os goddefwch hyn, eich plant fydd nesaf.'
Ond yn yr achos hwn, fel rydym wedi'i glywed, mae ein plant yn cael eu targedu'n gyntaf ac rydym yn ei oddef. Mae'r cyfle i rannu eu data biometrig personol iawn ar gyfer beth bynnag y mynnant wedi ei gymryd oddi arnynt oherwydd bod diffyg ymwybyddiaeth, diffyg dealltwriaeth, diffyg ewyllys, diffyg ymgysylltiad â phobl ifanc, a diffyg llythrennedd data sylfaenol i ymgodymu â goblygiadau hyn mewn gwirionedd: sut mae hyn yn newid ein cymdeithas, canfyddiad ein plant o'r byd, eu canfyddiad ohonynt eu hunain yn y byd, a'u dyfodol yn bendant iawn.
Yn seiliedig ar bopeth a glywsom heddiw, nid wyf yn credu y dylid parhau i gasglu data biometrig mewn ysgolion. Mae gan blant hawl i addysg a hawl i breifatrwydd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac ar hyn o bryd nid ydynt yn gallu gwneud y ddau beth ar yr un pryd. Credaf hefyd y bydd hyn yn arwain at gyflwyno technoleg adnabod wynebau byw mewn ysgolion, fel y gwelsom eisoes mewn rhannau eraill o'r wlad. Credaf hefyd na fyddem yn ymwybodol ei fod yn cael ei gyflwyno hyd yn oed. Pan fydd yno, bydd bron yn amhosibl ei ddad-wneud. Felly, rwyf wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw a hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan ynddi. Rwy'n gobeithio ei bod wedi codi rhywfaint o ymwybyddiaeth. Rwy'n gobeithio nawr y gallwn roi'r mater ar yr agenda o ddifrif, nid dim ond ar gyfer plant, ond ar gyfer holl ddinasyddion Cymru, ac rwy'n gobeithio y gallwn weithio ar y cyd â gwledydd datganoledig eraill ar hyn ac y gallwn ddechrau cymryd hyn o ddifrif. Mae'n bryd inni benderfynu drosom ein hunain a yw hyn yn rhywbeth rydym eisiau ei weld yn digwydd fel cymdeithas ai peidio. Felly, os gwelwch yn dda, pleidleisiwch dros fy nghynnig heddiw er mwyn inni allu dechrau gwneud hyn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.