1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Mawrth 2023.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch Llywydd. Gyda'ch caniatâd chi Llywydd, hoffwn gofnodi bod ein meddyliau a'n gweddïau gyda theulu'r dyn a gafodd ei ladd ddoe yn y drasiedi yn Abertawe, ac, hefyd, rwy'n falch o glywed bod dau o'r tri pherson a aeth i'r ysbyty bellach wedi cael eu rhyddhau, a diolch i'r gwasanaethau brys a'r ymatebwyr cyntaf a oedd yng nghanol yr hyn a oedd heb os yn olygfa apocalyptaidd pan gyrhaeddon nhw yno i ymdrin â chanlyniadau beth bynnag y bydd yr adroddiad yn penderfynu oedd yn gyfrifol am yr olygfa ddinistriol honno a welsom ar y newyddion neithiwr ac yn y papurau heddiw.
Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe alwodd un o'ch Gweinidogion y Coleg Nyrsio Brenhinol yn sefydliad 'hynod filwriaethus'. Dywedodd hefyd eu bod,
'yn benderfynol o gael brwydr', a dydyn nhw ddim yn barod i drafod o ddifrif. Dyna ddyfyniad uniongyrchol. Ai dyna'ch argraff chi o'r RCN a'r anghydfod y maen nhw yn ei ganol gyda'ch Llywodraeth dros gyflog nyrsys?
Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno gyda'r hyn ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am ddigwyddiadau yn Abertawe ddoe? Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad hynod frawychus i eraill sy'n byw yn y cyffiniau. Ac mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn, on'd yw e—rydyn ni'n disgwyl i'n gwasanaethau brys redeg tuag at leoedd sy'n llawn perygl y bydd pobl eraill yn dianc rhagddyn nhw, ac maen nhw'n hynod ddewr, ac roedd eu hymateb ddoe, diolch byth, yn effeithiol. Wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda theulu'r unigolyn a gollodd ei fywyd, ac rydym yn falch o weld adferiad eraill a gafodd eu dal yn y digwyddiad brawychus hwnnw.
Cyn belled ag ail ran cwestiwn arweinydd yr wrthblaid, Prif Weinidog Cymru ydw i, nid sylwebydd ar yr hyn mae pobl eraill yn ei ddweud. Yr hyn y gallaf ei wneud yw bod yn glir ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru: rydym yn ymdrin â phob mater diwydiannol fel Llywodraeth ar sail partneriaeth gymdeithasol. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn aelod hirsefydlog a gwerthfawr o'r trefniadau partneriaeth gymdeithasol sydd gennym ym maes iechyd, ac maen nhw yno heddiw yn yr ystafell yn trafod gyda chyflogwyr a Llywodraeth Cymru y ffyrdd o barhau i wella perfformiad ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol a'r ffordd y gall y gweithwyr hynny yr ydym yn dibynnu arnyn nhw ynddo gael eu gwobrwyo'n briodol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.
Rwy'n falch eich bod wedi egluro beth yw barn y Llywodraeth ar yr hyn y mae'r RCN yn ei gynrychioli—dyna fy marn i—a hefyd rwy'n datgan buddiant gan fod gennyf aelodau o'r teulu sy'n aelodau o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, corff proffesiynol ymroddedig o bobl sy'n gofalu amdanom ni pan fyddwn mewn angen mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol. Ond onid ydych chi'n credu y byddai'n briodol i Weinidog, Dirprwy Weinidog, ymddiheuro mewn gwirionedd am y sylwadau hynny sydd wedi peri loes i nyrsys o fewn y proffesiwn, nad ydynt eisiau bod ar streic, nad ydynt yn sefydliad milwriaethus ac nad ydynt eisiau brwydr? Maen nhw eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith o edrych ar ôl y cleifion gyda gofal angerddol, dyna'r cwbl.
Dydw i erioed wedi bod yn ymwybodol o unrhyw weithwyr yn y sector cyhoeddus sydd eisiau bod ar streic. Llywydd, y gwir amdani yw bod aelodau'r RCN wedi cael eu gwthio i fynegi eu hymateb i ddegawd o gyni, ac yna chwyddiant ar garlam o ran yr arian y mae'n rhaid iddyn nhw fyw arno bob wythnos. Ac ni fyddwch byth yn dod o hyd i Weinidog Llywodraeth Cymru a fyddai'n dweud nad yw gweithwyr y sector cyhoeddus sy'n cael eu gwthio i weithredu fel yna yn haeddu cael eu parchu, ac maen nhw yn cael eu parchu yma yng Nghymru, ac maen nhw'n cael eu cynnwys, fel yr wyf i'n dweud, o fewn y trefniadau partneriaeth gymdeithasol. Bydd gennym gyfle yfory i bleidleisio ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Edrychaf ymlaen at gefnogaeth arweinydd yr wrthblaid a'i aelodau i hwnnw—. O, heddiw, mae'n ddrwg gennyf—yn nes ymlaen heddiw. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ei gefnogaeth adeg hynny.
Mae llawer o bobl yn dweud pethau yng ngwres y foment. Rydw i wedi bod yn darllen yr hyn oedd yn cael ei ddweud rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg pan wnaethon nhw gystadlu â'i gilydd i feirniadu athrawon yn ystod cyfnod COVID. Rwy'n credu ei bod yn well rhoi pethau felly o'r neilltu. Rwyf wedi nodi safbwynt y Llywodraeth, sydd yn ddiamwys yn un o gynhwysiant, parch a dulliau ar y cyd o ddatrys problemau.
Prif Weinidog, fe ddywedoch chi nad oedd un o Weinidogion y Llywodraeth wedi dweud hynny ac nad yw'n ei gefnogi. Rhoddais ddyfyniad uniongyrchol i chi o'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n fater o ffaith. Mae'n fater o gofnod, a bydd pobl yn gweld beth ddywedodd y Gweinidog yng nghyd-destun y Coleg Nyrsio Brenhinol. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Ceidwadwyr—oedd yn braf iawn, diolch yn fawr iawn am bleidleisio gyda ni ar ein cynnig ynghylch yr adolygiad ffyrdd—am y diffyg ymgynghori, diffyg gallu'r panel adolygu ffyrdd i siarad â chymunedau, cynrychiolwyr cyhoeddus, busnesau, y trydydd sector. Doedd dim amwysedd yn yr hyn yr oeddech chi'n pleidleisio arno, ond eto rydych chi'n amlwg yn credu bod diffyg ymgysylltu wedi bod wrth lunio'r polisi pwysig hwn y mae'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno. Os ydych chi'n credu bod diffyg ymgysylltu a deialog adeiladol i lunio'r polisi hwn, sut all pobl fod yn ffyddiog fod y polisi hwn yn bodloni gofynion craffu ac y bydd yn cyflawni eich dyheadau pan fyddwch yn pleidleisio yn erbyn y polisi, fel y gwnaethoch chi'r wythnos diwethaf?
Wel, Llywydd, rwy'n dychmygu bod unrhyw blaid sy'n rhoi cynnig ger bron y Senedd yn gwneud hynny gan obeithio y byddan nhw'n perswadio pobl eraill i'w gefnogi. Mae'n peri penbleth i mi fod arweinydd yr wrthblaid eisiau mynd i ddadl â rhywun am y ffaith ein bod ni wedi cefnogi'r cynnig a gyflwynodd. Nawr, gwn fod y—[Torri ar draws.] All e ddim cymryd 'ie' fel ateb, yn wir. Felly, mae'r sawl a arweiniodd yr adolygiad ffyrdd wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Senedd heddiw, Llywydd—efallai nad yw arweinydd yr wrthblaid wedi cael cyfle i ddal i fyny o ran hynny eto—yn nodi'r ymgysylltiad a gyflawnodd y panel adolygu ffyrdd, ac mae'n helaeth, ond hefyd gwahaniaethu—a wnaeth y Gweinidog, am wn i, wrth ateb y ddadl—gan nodi bod ymgysylltu â'r fath oedd yn briodol i'r panel adolygu ffyrdd. Ac yna bydd cyfleoedd pellach ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd pan fydd cynlluniau penodol yn cael eu cyflwyno ar gyfer eu gweithredu. Mae hwnna'n fath gwahanol o ymgysylltu. Nid yw'n golygu nad oedd ymgysylltu ar ran y panel adolygu ffyrdd, fel y mae'r cadeirydd wedi nodi, a bydd, yn achos gwahanol agweddau'r adolygiad ffyrdd, cyfleoedd pellach, cyfleoedd statudol yn aml, i leisiau pobl gael eu clywed, i'w barn gael ei mynegi, ac felly i helpu i lunio polisi, mae'n siŵr yn y ffordd yr oedd arweinydd yr wrthblaid yn gobeithio ei fod yn ei wneud yr wythnos diwethaf pan gyflwynodd ei gynnig ar gyfer trafodaeth.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf innau, ar ran Plaid Cymru, hefyd ategu bod ein meddyliau ni i gyd, wrth gwrs, gyda'r teulu yn Nhreforys sydd wedi colli anwylyd yn y damwain erchyll ddoe, a hefyd gyda phawb arall sydd wedi'u heffeithio.
Prif Weinidog, unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gan ddwyn £5 biliwn mewn cyllid canlyniadol Barnett oddi wrth Gymru a allai fod yn drawsnewidiol i'n seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny er bod dadansoddiad Llywodraeth y DU eu hunain yn dangos ei fod yn fwy tebygol o niweidio Cymru na darparu unrhyw fudd. A fyddwch chi'n galw ar unrhyw weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol i unioni'r cam hwnnw?
Llywydd, rwy'n credu ei bod yn dir cyffredin ar draws pob plaid ar lawr y Senedd bod HS2 wedi'i ddosbarthu yn anghywir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac y dylid ei ddosbarthu, fel yn yr Alban, ar y sail bod yna gyllid canlyniadol Barnett. Dyna bolisi'r Llywodraeth hon. rwyf wedi mynegi'r peth sawl gwaith yma.
Dim ond ar y pwynt penodol, Prif Weinidog—oherwydd bod hyn yn eithaf pwysig, on'd yw e—ai hynny fydd eich safbwynt wedyn pe bai gweinyddiaeth Lafur yn San Steffan? A fyddwch chi'n gwneud y pwynt hwnnw'n rymus iawn i weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol, nid yn unig i roi ei siâr i Gymru o unrhyw wariant yn y dyfodol, ond hefyd i roi'r £1 biliwn rydyn ni wedi'i golli'n barod drwy'r gwariant cam 1 gwerth £20 biliwn a ddigwyddodd eisoes? Nawr, roedd yn braf clywed arweinydd Plaid Lafur y DU yn ymrwymo i ddychwelyd pwerau dros gronfeydd strwythurol yn ôl i Gymru, ond a allwch chi ddweud a ydych yn disgwyl unrhyw weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol hefyd i anrhydeddu'r ymrwymiad na fyddai Cymru yn derbyn ceiniog yn llai nag y byddai wedi'i dderbyn o dan y cyfnod rhaglennu 2020 i 2027 ar gyfer cronfeydd Ewrop? Felly, rhwng 2024 a 2027, byddai hynny'n golygu £1 biliwn yn ychwanegol o gyllid i Gymru ar ben hynny, wrth gwrs, y £1 biliwn rydych chi wedi'i nodi fel Llywodraeth yr ydym wedi'i golli rhwng 2021 a 2025.
Llywydd, roedd y cyhoeddiad a wnaeth Syr Keir Starmer dros y penwythnos yn un i'w groesawu'n fawr, sef pe bai Llywodraeth Lafur mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, bydd y pwerau a'r cyllid a dynnwyd i ffwrdd o Gymru yn cael eu hadfer i Gymru, fel y bydd penderfyniadau ar y penderfyniadau datblygu economaidd rhanbarthol pwysig iawn hynny yn cael eu gwneud yma yn y Senedd hon. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio mor galed ag y gallaf i wneud yn siŵr ein bod yn cael y cyfle hwnnw yma yng Nghymru.
Mae'n anochel y bydd yn rhaid i Lywodraeth Lafur wrth ddod i rym wneud penderfyniadau gwario anodd, o ystyried yr amgylchiadau economaidd y bydd yn eu hetifeddu. Byddwn ni yno, wrth gwrs, yn gweithio ochr yn ochr â'n cyd-Aelodau Llafur, pe baen nhw yn y sefyllfa honno, i fanteisio i'r eithaf ar yr arian sydd i'w dynnu i lawr ar gyfer Cymru.
Felly, os ydw i'n deall y Prif Weinidog yn iawn, dydych chi ddim yn gallu dweud y byddai gweinyddiaeth Lafur yn y dyfodol yn ymrwymo i'r un lefel o gyllid ag y byddem ni wedi'i gael o dan gronfeydd Ewropeaidd, a dydych chi ddim yn gallu dweud y byddwn ni'n cael cyllid canlyniadol Barnett.
Mewn cysylltiad â datganoli pwerau, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur y bydd yn aros am gyhoeddi'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Nawr, o ystyried ei statws allweddol, yn seiliedig ar y datganiad hwnnw wrth ffurfio polisi'r Blaid Lafur ar gyfer yr etholiad nesaf, a allwch chi ddweud a fyddwch yn nodi yn eich cyflwyniadau pellach i'r comisiwn y pwerau yr ydych chi fel Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn ceisio eu datganoli? A fyddan nhw'n dal i gynnwys meysydd fel plismona a chyfiawnder, neu yn wir gydnabyddiaeth rhywedd, pan fo uwch-ffigyrau'r Blaid Lafur yn San Steffan wedi mynegi gwrthwynebiad neu amheuaeth, ac ni chawsant eu cynnwys yn adroddiad comisiwn Brown? Pwy fydd â'r gair olaf? A fydd y penderfyniad yn cael ei wneud yng Nghymru, i'ch dyfynnu o gyfnod cynharach, neu a fydd yn cael ei wneud yn San Steffan, ac, os yr ail sydd wir, onid ydych chi'n datganoli'r llyfr rheolau gan adael y pŵer lle bu erioed?
Llywydd, cefais gyfle i drafod gwaith adolygiad McAllister-Williams gyda Keir Starmer. Cyfeiriodd ato'n benodol yn yr araith a wnaeth i gynhadledd y Blaid Lafur, ac fe'm calonogwyd yn fawr gan y ffaith ei fod yn benderfynol o ddangos parch priodol tuag at waith y comisiwn Cymreig hwnnw, gan aros am ei argymhellion cyn penderfynu ar bolisïau a fydd yn mynd i mewn i faniffesto'r Blaid Lafur. Mae hynny'n newyddion da iawn i Gymru, yn enwedig o gofio safon y gwaith y mae comisiwn Williams-McAllister yn ei wneud.
Nid yw polisïau Llywodraeth Lafur Cymru wedi newid o ran cyfiawnder a chydnabod rhywedd. Credwn i adolygiad Thomas ddod i'r casgliad, mewn unrhyw ystyr synhwyrol, bod dadl o blaid datganoli cyfiawnder i Gymru. Credwn fod natur awdurdodol ei ddadansoddiad a'i argymhellion yn golygu bod yr achos hwnnw'n cael ei wneud, a byddwn yn parhau i ddadlau dros hwnnw.
Mae'n rhaid i weithredu'r polisi hwnnw ddechrau yn rhywle, ac mae adroddiad Gordon Brown yn awgrymu y dylai ddechrau gyda chyfiawnder ieuenctid a gyda'r gwasanaeth prawf, a byddai'r rheiny'n gamau cyntaf pwysig iawn, iawn. Y camau cyntaf yn aml yw'r camau anoddaf oll ar daith, ac, o ran cydnabod rhywedd, rydym yn parhau i gydgeisio nawr, gyda Llywodraeth bresennol y DU, ddatganoli'r pwerau hynny yma i Gymru. Does dim rheswm pam na fyddai pwerau yr ydym yn eu ceisio o dan un set o amgylchiadau yn bwerau y byddem yn parhau i'w ceisio o dan rai eraill.
Mae'r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud o'r diwedd mewn maniffesto gan y Blaid Lafur, sy'n cwmpasu'r Deyrnas Unedig gyfan ac a fydd â llawer, llawer o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd ar gyfer Llywodraeth Lafur tymor cyntaf yn dod i rym, yn adnabyddus. Bydd lleisiau o Gymru yn yr ystafell pan ymgymerir â phroses y maniffesto hwnnw, a byddan nhw'n dadlau dros y mathau o bolisïau y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'u hailadrodd y prynhawn yma.