1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy? OQ59277
Diolch i Sam Kurtz am hynna. Mae cefnogi'r gadwyn gyflenwi, cydlynu buddsoddiad mewn gridiau a seilwaith porthladdoedd, a sefydlu datblygwr adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yn rhai o'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Ddoe, cefais y pleser o fod yn bresennol mewn cyfarfod bord gron gyda chlwstwr diwydiannol De Cymru wrth iddynt lansio eu cynllun datgarboneiddio. Tra oeddwn yn y cyfarfod, roeddwn yn falch iawn o gael dangos trydariad o'ch cyfrif Twitter, Prif Weinidog, yn dathlu rhoi caniatâd ar gyfer prosiect Erebus Blue Gem Wind oddi ar arfordir de sir Benfro. Bydd gwynt arnofiol ar y môr, y fenter ar y cyd rhwng Total a Simply Blue Energy, yn gosod Cymru yn gadarn ar lwybr i sero net.
Yn yr un drafodaeth ford gron, dywedwyd y byddai porthladd rhydd Celtaidd yn rhoi hwb anferth i daith y diwydiant at sero net gan hefyd sicrhau a chreu miloedd o swyddi ychwanegol. Ond gyda chyhoeddiad ar fin digwydd, rwy'n dymuno troi a chanolbwyntio ychydig ar rywbeth arall.
Felly, er mwyn cyflawni ein huchelgais sero net, mae'n rhaid i'r diwydiant ddefnyddio hydrogen glas mewn modd cyfyngedig a thymor byr. Trwy optimeiddio creu hydrogen glas y gallwn ddarparu carreg sarn hanfodol i'r diwydiant tuag at sero net, a hebddo, mae perygl i ni fethu. Felly, o ystyried hyn, pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i randdeiliaid bod hydrogen glas, fel rhywbeth i bontio, yn llwybr i sero net y mae'r Llywodraeth hon yn fodlon ei gefnogi? Diolch.
Wel, Llywydd, diolch i Sam Kurtz am y cwestiynau ychwanegol yna. Diolch iddo am dynnu sylw at y ffaith bod cais fferm wynt Erebus wedi'i gymeradwyo nawr drwy'r holl brosesau yma yng Nghymru. Mae'n ddatblygiad pwysig iawn ac yn un sy'n dangos ein bod wedi gallu defnyddio'r broses ymgeisio symlach ac effeithiol sydd gennym nawr yng Nghymru i gyrraedd y canlyniad hwnnw, gan, ar yr un pryd sicrhau bod amddiffyniadau priodol a chadarn i'r amgylchedd bregus iawn hwnnw sef y môr sy'n ein hamgylchynu.
Ni wnaf ddweud dim byd ynghylch y porthladd rhydd; roedd yr Aelod yn hollol iawn ynghylch hynny, Llywydd.
O ran hydrogen glas a hydrogen gwyrdd, rydym eisiau cael safle lle mae hydrogen gwyrdd yn cael ei ddefnyddio yma yng Nghymru ar y raddfa y bydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol. Ydyn ni'n gweld unrhyw ran ar gyfer hydrogen glas yn y ffordd bontio honno? Wel, ydym. Ond rydym eisiau iddo fod mor gyfyngedig ag y gall fod, ac yn amlwg iawn yn y dull carreg sarn y mae Sam Kurtz wedi'i nodi y prynhawn yma. Mae ganddo ran i'w chwarae, ond nid dyma'r gyrchfan ar ein cyfer ni.
Brif Weinidog, petai yna awdurdod lleol sydd â’u cronfeydd pensiwn wedi'u buddsoddi mewn cwmni datblygu ynni penodol yn derbyn cais gan y cwmni hwnnw i wneud datblygiad yn eu hardal nhw, a ydych chi'n teimlo y byddai yna wrthdaro buddiannau mewn sefyllfa fel yna? Oherwydd yn amlwg, petai cynllun, prosiect neu isadeiledd lle mae’r awdurdod lleol yn rhan o’r penderfyniad yn cael mynd yn ei flaen, mi fyddai hynny’n dod â budd i gronfeydd pensiwn yr awdurdod lleol yna. Oes yna risg ynglŷn â pha mor ddiduedd fyddai'r broses yna yn eich barn chi?
Wel, dwi ddim wedi cael cyfle i ddeall y pwynt penodol y mae Llyr Gruffydd wedi’i wneud, Llywydd, so byddai’n well i fi ystyried beth fydd ar y Record y prynhawn yma. Rŷn ni eisiau—. Dwi wedi cael cyfarfod gyda Jack Sargeant jest wythnosau yn ôl i weld sut allwn ni alluogi awdurdodau lleol gyda'r cronfa bensiwn i fuddsoddi mewn pethau sy’n mynd i fod yn rhan o’r tymor hir yma yng Nghymru.
So, yn gyffredinol, dwi'n meddwl ei fod yn rhywbeth pwysig i dynnu’r arian yna mewn i’r seilwaith a phethau eraill, fel yn y maes egni cynaliadwy. Ond, ar y pwynt penodol, well i fi ystyried beth mae'r Aelod wedi'i ddweud a dod nôl ato fe.
Roeddwn innau hefyd yng nghyfarfod clwstwr diwydiannol y de a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm yn fy etholaeth, ac roedd yn gyfarfod diddorol iawn gyda llawer o bobl hynod bwysig yno.
Fodd bynnag, rwyf eisiau gofyn am lwybr ychydig yn wahanol i gyflawni sero net, sef y galw cynyddol am ynni adnewyddadwy yn ein cartrefi. Mae 40% o dai yng Nghymru dan berchnogaeth lwyr, heb forgais, naill ai'r bobl sy'n byw ynddyn nhw neu'r landlordiaid sy'n eu rhentu. Felly, pa strategaeth mae'r Llywodraeth yn ei defnyddio i apelio atynt i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy nawr, i wneud y peth iawn ar gyfer yr hinsawdd, trwsio'r tyllau yn eu pocedi, a chynyddu gwerth eu heiddo? Does dim byd gwell i roi hwb i'r galw am fesurau ôl-osod yn y sector tai preifat?
Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno gyda'r pwynt cyffredinol y mae Jenny Rathbone yn ei wneud. Bydd hi'n gwybod ei fod yn ddarlun dryslyd y mae deiliad tŷ unigol yn ei wynebu yn yr ardal hon, oherwydd bod dadl barhaus ac weithiau braidd yn begynol ynghylch yr hyn y dylai dyfodol gwresogi domestig fod. Ar y naill law, mae yna arbrofion yn digwydd ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, am y rhan y gallai hydrogen ei chwarae yn hynny, ac eto mae tystiolaeth hefyd sy'n awgrymu na fydd gan hydrogen ddefnydd eang mewn gwresogi domestig, a bod y ddadl honno yn oedi rhai penderfyniadau ynghylch y grid nwy ac ynghylch trydaneiddio. Yr hyn rwy'n credu sy'n glir yw y bydd ei angen arnom ni—ac rydyn ni'n ariannu, yn wir, fel Llywodraeth—gynlluniau ynni ardal leol a fydd yn mynd i lawr i asesiad lefel stryd fesul stryd, fel y bydd gwell gwybodaeth i ddeiliaid tai ynghylch pa atebion gwresogi fydd yn gweithio orau iddyn nhw.
Bydd ardaloedd lle bydd pympiau gwres yn cynnig ateb, a rhai ardaloedd lle y efallai—ac rwy'n credu ei fod yn bendant yn farc cwestiwn, ond efallai—bydd atebion hybrid sydd agosaf at ffynonellau hydrogen hefyd â rhan i'w chwarae. Bwriad y Gweinidog yw cyhoeddi'r ymgynghoriad ar strategaeth wres, a fydd yn tynnu ar hyn i gyd ac yn ceisio helpu i ddatrys rhai o'r dadleuon hynny fel y bydd gan y defnyddiwr unigol syniad cliriach o'r hyn y gallant ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol yn eu heiddo penodol, bydd ganddynt gefndir polisi llai dryslyd i dynnu arno ac yna gallant fwrw ymlaen a gwneud y buddsoddiadau y mae Jenny Rathbone wedi cyfeirio atyn nhw.