2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2023.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr ymgynghoriad sydd i ddod ar ddyfodol rasio milgwn yng Nghymru? OQ59319
Diolch. Fel y nodwyd yn fanwl yn y ddadl ar 8 Mawrth, byddaf yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar rasio milgwn yn ddiweddarach eleni. Bydd yr ymgynghoriad yn casglu tystiolaeth ar fanteision ac effeithiau deddfu a gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.
O sgyrsiau preifat a chyhoeddus, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn llwyr gefnogi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf, gofynnais i chi am ymrwymiad, pe bai'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru yn argymell unrhyw beth sy'n achosi cyfyngu ar rasio milgwn yng Nghymru, y byddai stadiwm milgwn Valley yn fy etholaeth yn Ystrad Mynach yn cael ei ystyried, ac y byddech yn cael sgyrsiau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar sut fyddai llifogydd, o ganlyniad i'r penderfyniad i gau'r trac, yn cael eu lliniaru. Rydym yn poeni am ganlyniad llifogydd yno, pe bai hynny'n digwydd. Felly, a fyddech chi'n barod i gael y sgyrsiau hynny gyda'ch cyd-Weinidogion a nodi cymorth posibl gan Lywodraeth Cymru drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, ac wrth i bethau fynd rhagddynt, i gyfarfod â mi, ar y safle o bosibl, i drafod rhai o'r pryderon sydd gennyf ar ran y bobl sy'n byw yn Ystrad Mynach?
Diolch. Wel, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn ystod y sesiwn graffu yn y pwyllgor, rwy'n hapus iawn i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n siŵr y byddai hi'n hapus iawn i siarad â chi hefyd, pe bai unrhyw newidiadau i ddefnydd tir yn y dyfodol yn debygol o waethygu risg llifogydd i unrhyw gartrefi neu fusnesau sy'n bodoli eisoes yn eich etholaeth. Rwy'n credu y gallai fod ychydig yn gynamserol ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr, maes o law, pe bai'n angenrheidiol, byddai'n hapus i wneud hynny hefyd. Rwy'n credu bod llawer o ystyriaethau gwahanol ar waith yma. Nid wyf am achub y blaen ar unrhyw ganlyniad i'r ymgynghoriad na dyfodol y trac rasio.
Weinidog, mae trac rasio Valley yn fy etholaeth wedi nodi'n glir y bydd yn gwneud cais am drwydded Bwrdd Milgwn Prydain. Nawr, efallai eich bod eisiau gwahardd rasio milgwn, efallai ddim, ond dyma'r broblem. Rydym i gyd eisiau safon uwch o les anifeiliaid, ond rhaid gofyn y cwestiwn: sut y gallwn weithio gyda'r diwydiant wrth symud ymlaen? Mae gan Fwrdd Milgwn Prydain nifer o ofynion llym o ran lles anifeiliaid, gan gynnwys monitro milgwn o'r adeg pan fyddant yn gŵn bach, i'r adeg pan fyddant yn cael eu cludo i rasys, i'r adeg ar ôl iddynt orffen rasio. Rwy'n falch iawn o glywed am y miliynau o bunnoedd y mae Bwrdd Milgwn Prydain wedi'u darparu i elusennau lles anifeiliaid er mwyn sicrhau bod milgwn sydd wedi gorffen rasio yn cael eu gosod mewn cartrefi cariadus.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o ddeddfwriaeth wael ym maes lles anifeiliaid, felly ni fydd yn syndod i chi fod bwlch mawr arall yng nghyfraith lles anifeiliaid Cymru. Yn y bôn, nid ydym wedi mabwysiadu Rheoliadau Lles Milgwn Rasio 2010. Nawr, mae'r rheoliadau hyn yn helpu awdurdodau lleol i ddiddymu neu atal trwyddedau rasio milgwn, ac maent hefyd yn nodi'r amodau ar gyfer anghymhwyso trwyddedau. Ar ben hynny, er mwyn cael trwydded, rhaid i filfeddyg fod yn bresennol cyn a thrwy gydol y ras, rhaid i amodau cytiau fod o safon uchel, mae'n ofynnol i osod microsglodion mewn cŵn, yn ogystal â chadw cofnodion am filgwn sy'n cymryd rhan mewn rasys a chofnodi anafiadau. Rwy'n credu y byddai'n gam hawdd iawn i Lywodraeth Cymru fabwysiadu a gweithredu'r rheoliadau hyn yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, a ydych chi'n barod i weithio gyda Bwrdd Milgwn Prydain i sicrhau bod lles anifeiliaid yn brif flaenoriaeth, neu, yn anffodus, a fydd hon yn sefyllfa, i bob pwrpas, lle bydd gennym forthwyl i dorri cneuen yn y maes sensitif hwn wrth symud ymlaen?
Wel, fel rwy'n dweud, nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad y byddaf yn ei lansio yn ddiweddarach eleni. Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Fwrdd Milgwn Prydain. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau lles eraill, ac rwyf wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley i drafod materion lles a chynlluniau ar gyfer safle Valley. Fel y dywedwch, nid yw'r safle ar hyn o bryd yn cyrraedd safonau Bwrdd Milgwn Prydain.
Rwy'n falch fy mod wedi dilyn fy nghyd-Aelod Natasha Asghar oherwydd rwyf eisiau ei gwneud yn glir fy mod innau hefyd wedi cyfarfod â Bwrdd Milgwn Prydain. Gadewch imi ddweud dau beth wrthych y mae Bwrdd Milgwn Prydain wedi cadarnhau iddynt eu gwneud, ac nid wyf yn credu y byddech yn eu hystyried yn safonau lles anifeiliaid uchel. Yn gyntaf, ar drac Bwrdd Milgwn Prydain yn Harlow y llynedd, gwyddom fod milgwn wedi cael eu rasio mewn tymheredd o 32 gradd canradd, pan oedd yr RSPCA wedi dweud wrth berchnogion anifeiliaid anwes domestig gadw eu cŵn dan do. Ac eto roedd rasio milgwn yn parhau ar drac Bwrdd Milgwn Prydain.
Yr ail broblem yw nad yw Bwrdd Milgwn Prydain ond yn cynnig bond ailgartrefu i'r cartrefi cŵn nad ydynt yn gwneud sylw ar rasio milgwn. Felly, maent yn cyfyngu eu cyllid i gartrefi cŵn—ac rwy'n eu galw'n gartrefi cŵn. Nid canolfannau ailgartrefu mohonynt. Rhaid iddynt fynd oddi yno i gartref. Mae 67 y cant o'r cartrefi o dan Fwrdd Milgwn Prydain—. Mae'n ddrwg gennyf, nid yw Bwrdd Milgwn Prydain ond yn ailgartrefu 67 y cant o'u cŵn drwy gartrefi cŵn. Felly, mewn gwirionedd, mae gan Fwrdd Milgwn Prydain lawer o gwestiynau i'w hateb, a byddwn wrth fy modd yn cael sgwrs gyda chi, Natasha. Ond fy mhwynt i yw—
Rwy'n credu bod y Gweinidog yn cael ei anwybyddu'n llwyr yn y drafodaeth hon. [Chwerthin.]
Rwy'n gwybod. Mae'n ddrwg gennyf. Ni allwn ymwrthod, Lywydd.
Na, rwy'n gwrando'n astud.
Os gallech chi ganolbwyntio ar eich cwestiwn nawr.
Fy mhwynt i chi, Weinidog, yw: gan droi'n ôl at drac rasio Valley, y mae Hefin wedi tynnu sylw ato, rwy'n deall—ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â hyn—pe bai rasio milgwn yn cael ei wahardd ar drac rasio Valley, ni fyddem ond yn edrych ar gyfnod o 9-12 mis lle byddai angen symud cŵn oddi yno i gael eu hailgartrefu. Felly, ni fyddai'r cau posibl—ac rwy'n gwybod na allwch chi wneud sylw ar y gwaharddiad—yn cael effaith hirdymor ar y cŵn o'r cartref hwnnw. Rwy'n gwybod na allwch wneud sylw ar y mater, ond rwy'n siŵr y byddech yn ystyried hynny.
Diolch. Wel, fel rwy'n dweud, ni allaf achub y blaen ar unrhyw ymgynghoriad, ond yn sicr, o'r trafodaethau a gefais—. Soniais yn fy ateb i Natasha Asghar fy mod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr nifer o sefydliadau lles ar ystod o faterion. Yn amlwg, mae cartrefu cŵn yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Yn amlwg, nid yw 9-12 mis yn llawer iawn o amser. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl waith y mae ein sefydliadau lles anifeiliaid yn ei wneud yng Nghymru.