9. Dadl Fer: Diogelwch tân mewn fflatiau uchel: Amserlen glir ar gyfer unioni trigolion

– Senedd Cymru am 6:46 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:46, 22 Mawrth 2023

Ac felly'r eitem honno fydd y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma ar ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel, amserlen glir ar gyfer unioni trigolion. Dwi'n galw ar Rhys ab Owen i gyflwyno'r ddadl. Rhys ab Owen.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae fy nghyd-Aelodau Janet Finch-Saunders, Mike Hedges a Jane Dodds wedi gofyn am funud yr un yn y ddadl hon. O, rwy'n meddwl bod Mike wedi mynd, felly efallai nad yw Mike eisiau munud nawr.

Rydym yn trafod diogelwch adeiladau yn y lle hwn oherwydd trychineb Grenfell. Yn anffodus, fe gymerodd 72 o bobl, a digartrefedd a thrawma llawer o bobl eraill, i dynnu sylw at sgandal diogelwch adeiladau yn y DU. Yn 2017, datganodd y Prif Weinidog ar y pryd, Theresa May,

'Ni allwn ac ni fyddwn yn gofyn i bobl fyw mewn cartrefi anniogel.'

Eto i gyd, dyma ni yn 2023, gyda phobl ond dafliad carreg i ffwrdd o'r Senedd hon yn dal mewn ofn am eu diogelwch ac yn teimlo'n gaeth yn eu cartrefi eu hunain. Ddoe, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, clywsom gyfres o gyhoeddiadau sydd i'w chroesawu am fesurau i symud pethau yn eu blaenau. Ond beth mae trigolion yn dal i fod eisiau gwybod yw: pryd fydd eu cartrefi'n ddiogel? Pryd y gallant symud ymlaen â'u bywydau? Maent yn teimlo eu bod mewn limbo. Ac er ei fod yn cymryd camau sylweddol ymlaen, ni wnaeth y datganiad ddoe fynd i'r afael â'r pryder hwnnw. Yr hyn rydym ni fel cynrychiolwyr etholedig yn ei glywed dro ar ôl tro yw, 'Pryd fydd yr hunllef yn dod i ben?' Hoffwn i'r Senedd glywed geiriau'r rhai yr effeithir arnynt.

'Fe ddeuthum i gysylltiad â'r Welsh Cladiators oherwydd bod fy morgais yn gorffen ar ddiwedd y flwyddyn. Rwy'n 69 oed, ac am na cheir tystysgrif EWS1, mae'n annhebygol y caf brynwr neu ail forgais. Nid wyf yn ymddiheuro mai buddsoddiad ar gyfer ymddeol ydyw, ond ychydig iawn o opsiynau sydd gennyf. Rhaid imi ystyried o ddifrif a wyf am gerdded i ffwrdd oddi wrtho a chael y fflat wedi'i adfeddu. Os bydd hyn yn digwydd, ni fydd arian a fyddai wedi cael ei ddefnyddio i gadw fy ngwraig yn ddiogel pe bai unrhyw beth yn digwydd i mi yno mwyach. Mae'n destun pryder a methiant.'

Dyna eiriau Rob Nicholls, Cladiator o Abertawe.

Roeddwn yn falch o glywed ddoe am eich gwaith gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, Weinidog, ond pryd fyddwn ni'n gweld y canllawiau hynny ar waith? Hefyd, rydym yn gwybod nad oes raid dilyn canllawiau; awgrymiadau ydynt. Yn ogystal, rydym hefyd yn gwybod, hyd nes y bydd gwaith adfer yn digwydd, y bydd problemau o hyd gydag eiddo'n dibrisio, y bydd problemau gyda denu prynwyr a phroblemau gyda sicrhau morgeisi. Mae'r argyfwng wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl trigolion. Unwaith eto, mae diffyg amserlen yn ffactor allweddol. Nid oes ganddynt unrhyw syniad a fydd yr hunllef yn parhau am flynyddoedd i ddod.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:50, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Dywed Becky Ashwin o Gaerdydd: 'Bûm yn byw'r argyfwng ers dros dair blynedd a hanner, ac mae wedi chwalu fy iechyd meddwl. Rwyf wedi treulio dyddiau cyfan yn crio oherwydd y biliau a gefais. Rwyf wedi gorfod cael cwnsela am fod yr holl strwythurau y credwn eu bod yno i fy amddiffyn heb fod yno wedi'r cyfan. Yn wir, mae gwneud y pethau iawn, sef ennill cyflog a chynilo wedi fy rhoi dan anfantais mewn gwirionedd. Mae wedi tanseilio'r cyfan rwy'n ei gredu sy'n iawn ac yn anghywir mewn bywyd. Rwy'n byw fy mywyd ar saib, ac yn gyson agos at bwl o banig. Nifer o weithiau yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi sefyll y tu allan yn y tywydd rhewllyd am oriau, yn cydio mewn bag o fy eiddo pwysicaf, yn gwylio fy adeilad ar dân. Rwy'n teimlo panig a diymadferthedd llwyr, yn meddwl tybed ai dyma'r adeg pan fydd fy nghartref yn llosgi i lawr. Os nad y tro yma, ai y tro nesaf cyn i'r Llywodraeth allu gwneud rhywbeth i fy nghynorthwyo? Mae'n gwbl ddifäol, gan mai'r lle y dylwn allu cilio iddo'n ddiogel yw prif ffynhonnell fy mhryder, ac nid oes modd dianc.'

Mae lesddeiliad yng Nglanfa Fictoria, ar draws y bae oddi yma, wedi anfon y geiriau hyn ataf: 'Nid yn unig rwy'n pryderu am y diffyg cynnydd ar gyweirio cladin, rwy'n hynod bryderus hefyd am y ffaith nad oes gan yr asiant rheoli, FirstPort, unrhyw bolisi corfforaethol ar waith i sicrhau bod llwybrau dianc rhag tân sengl adrannol yn cael eu harchwilio'n rheolaidd. Yn ychwanegol at hyn, cymerodd oddeutu dwy flynedd ar ôl ei gydnabod i FirstPort ail-baentio marciau mynediad brys a oedd wedi pylu o fewn y datblygiad.'

Mae'r bobl hyn yn talu swm enfawr o arian, ac maent eisiau gwybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag asiantau rheoli gwael. Mae'n hawdd anghofio bod pobl yn byw yn y fflatiau hyn, pobl y mae eu bywydau ar stop, pobl sy'n ceisio byw eu bywydau cystal ag y gallant.

Dywed Hannah, o Celestia, rownd y gornel o'r fan hon: 'Yn 2016, fe wneuthum fuddsoddiad sylweddol yn fy nyfodol drwy brynu fflat yn 26 oed a dechrau ar fy ngyrfa fel athrawes. Fodd bynnag, ers 2017, mae buddsoddiad fy mreuddwydion wedi troi'n hunllef ariannol sydd wedi gadael fy nheulu'n gaeth yn ariannol. Rwyf bellach yn 33 oed, yn briod ag athro arall, ac yn fam falch i ferch brydferth 22 mis oed, Ada. Yn anffodus, oherwydd cymhlethdodau'n deillio o gladin, rydym yn cael ein gorfodi i fagu ein teulu mewn fflat un ystafell wely sy'n druenus o annigonol. Rydym bellach yn disgwyl ail blentyn ym mis Awst, ac er bod hwn yn gyfnod cyffrous i ni, rydym yn cael ein plagio'n gyson gan y cwmwl du o ansicrwydd ynglŷn â pha mor hir y gallwn oroesi mewn fflat un ystafell wely fel teulu a fydd cyn bo hir yn deulu o bedwar. Ystyrir bod ein fflat yn anniogel, ac nid ydym yn gallu ei gwerthu na'i gosod ar brydles i denantiaid, sy'n ein gadael heb fawr o opsiynau. Rydym eisoes wedi symud ein gwely i ardal y gegin i ddarparu ar gyfer ein teulu sy'n tyfu, ac rydym yn teimlo'n gaeth, heb unrhyw fodd o ddianc.'

Dyma fenyw feichiog sy'n wynebu'r lefel hon o bryder. Nid yw hynny'n iach iddi hi ac nid yw'n iach i'w phlentyn yn y groth. Mae'r ddynes dan sylw yn ferch i un o oroeswyr Aberfan, ac mae'n ymwybodol iawn o'r effaith hirhoedlog a gafodd y trychineb hwnnw ar ei thad. Roedd hi'n credu bod ei thad wedi marw cyn pryd oherwydd problemau'n ymwneud ag anhwylder straen wedi trawma. Fe ddywedodd y diweddar hanesydd, Dr John Davies, wrthyf ar ôl darlith unwaith fod y doc sych lle'r adeiladwyd y Senedd hon wedi ei lenwi gan domen slag yn sgil trychineb Aberfan. Ac mae hynny'n anhygoel, onid yw, fod sylfeini democratiaeth Gymreig wedi'u hadeiladu ar drychineb Aberfan, rhywbeth sy'n dal i atseinio, yn dal i effeithio arnom ni heddiw. Ac wrth inni drafod yn y Siambr hon dro ar ôl tro, ar domen slag Aberfan, ni allwn ganiatáu oedi oherwydd y perygl o drychineb arall. 

Roedd un arall o drigolion Glanfa Fictoria yn rhybuddio: 'Mae 350 o danau wedi bod yn fflatiau Cymru eleni, felly dim ond mater o amser yw hi cyn i dân mawr ddigwydd. Mae Glanfa Fictoria, fy mloc o fflatiau, wedi cael tri thân eleni, a rhwng saith a naw injan dân yn eu hymladd. Felly, byddech yn casglu y dylai'r broblem hon gael ei datrys yn gyflym, ond nid wyf yn disgwyl i fy fflat gael ei gwneud yn ddiogel yn ystod y tair blynedd nesa'.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:55, 22 Mawrth 2023

Gaf i gloi, Dirprwy Lywydd, gan ddyfynnu fy nghyfeillion, Non a Gwenallt Rees? Dwi wedi nabod y ddau yma, Non a Gwenallt, ar hyd fy mywyd. Dyma ddau sydd wedi cyfrannu'n helaeth i nifer o gymunedau ledled Cymru, wedi byw mewn nifer o fannau ledled Cymru, wedi gwasanaethu eu cymunedau a'r genedl. Dyma ddau sy'n haeddu mwynhau eu hymddeoliad bellach, ond dyma beth sydd gyda nhw i'w ddweud: 'Pam ŷn ni, fel preswylwyr fflatiau, yn gyfrifol am wynebu costau anferth am broblemau a grëwyd gan eraill?' Dwi'n gobeithio bydd Gwenallt a Non yn maddau i fi am ddatgelu bod y ddau yn eu 80au bellach. Nid dyna'r ffordd y dylen nhw fod yn treulio y blynyddoedd hyn. Dyna pam, Weinidog, mae angen cynnig rhyw fath o amserlen i bobl. Hyd yn oed os nad oes modd cadw i'r amserlen, mae'n rhaid rhoi rhyw amserlen i'r bobl yma er mwyn rhoi gobaith iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw gael rhyw syniad pryd y mae'r hunllef yma yn mynd i ddirwyn i ben. Diolch yn fawr. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 6:57, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Rhys, am gyflwyno'r ddadl hon ar sefyllfa wirioneddol ofnadwy, ac am siarad mor angerddol a huawdl am ychydig bobl yn unig o'r miloedd y mae hyn yn effeithio arnynt. Nawr, rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad defnyddiol ddoe, fel y gwnaethoch sôn, ond mae ein trigolion yng Nghymru yn haeddu llinell amser gliriach. Rydym yn gwybod bod £375 miliwn wedi'i ddyrannu i ariannu gwaith cyweirio rhwng 2022-23 a 2024-25. Ond Weinidog, byddai'n dda iawn heddiw pe bai modd rhoi eglurder mai nod eich Llywodraeth yw cael pob adeilad yng Nghymru wedi'u cyweirio erbyn 31 Mawrth 2025 fan bellaf. 

Rydym wedi cael gwybod bod gwaith wedi'i gwblhau ar 26 o adeiladau'r sector cymdeithasol, ac mae gwaith ar y gweill ar 41 arall. Mewn gwirionedd, cyhoeddwyd bod £40 miliwn wedi'i ddarparu i gyflawni gwaith diogelwch tân ar 38 adeilad ychwanegol yn y sector cymdeithasol. Ac rydych chi'n gwybod fy marn i; rhaid mynd i'r afael â hyn. Rydych yn gwneud yr esgus ei bod yn llawer mwy cymhleth mynd i'r afael â gwaith cyweirio ar gyfer lesddeiliaid sector preifat. Wel, mae'n ddrwg gennyf, ond mae eu bywydau yr un mor bwysig ag unrhyw un, a dylech chi fod yn ceisio cael polisi hollgynhwysol. 

Nawr, ar eich adeiladau amddifad: a yw'r rhain yn lesddaliadau preifat neu a ydynt yn rhai sector cyhoeddus, neu a yw'n gymysgedd? 

Photo of David Rees David Rees Labour 6:58, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Janet, fe ddylech—dim ond munud sydd gennych chi. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Ie, ie. Mae gennych raglen dreigl o arolygon. Mae ganddo 15 munud, onid oes? Mae wedi cael 10. [Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. O'r gorau. Mae rhai lesddeiliaid wedi cael yr argraff gan eu datblygwyr na fyddant yn derbyn canlyniad yr arolygon. Mae gennyf un ddynes rwyf wedi sôn amdani o'r blaen—£75,000 18 mis yn ôl, a heb gael ceiniog yn ôl. Mae'r bobl yma'n haeddu gwell, Weinidog. Gweithio trawsbleidiol—wel, rwy'n dweud trawsbleidiol; mae'n deg dweud fy mod yn siomedig gyda Phlaid Cymru—nid yn gymaint Rhun, oherwydd mae ef yma—ond maent wedi gwrthod cefnogi'r datganiad barn, ac rwy'n teimlo mai Rhys yw hyrwyddwr ei grŵp ar y mater hwn. 

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

Diolch yn fawr iawn, Diprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Rhys hefyd am godi'r mater yma y noswaith yma. 

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Yn yr amser byr iawn sydd gennyf, roeddwn am ofyn i'r Gweinidog am ddau fater penodol yn ymwneud â datblygwyr. Fe wyddom fod datblygwyr yn llythrennol wedi cael eu llusgo'n cicio ac yn sgrechian at y bwrdd, ac mewn gwirionedd, fel y dywedais, ddoe rwy'n credu, nid oes gennym unrhyw gydymdeimlad â hwy, ac rwy'n meddwl, rwy'n gobeithio, y byddant yn wynebu galwadau. Ac mae yna ddau beth penodol yr hoffwn i chi wneud sylwadau arnynt. Yn gyntaf, a wnewch chi ddweud wrthym yn union beth yw'r sancsiynau y byddwch yn eu rhoi arnynt? Pa sicrwydd sydd yna i bobl yn y sefyllfa hon na fydd datblygwyr yn dod o hyd i ffordd o esgeuluso'u cytundeb, nad oes modd iddynt dynnu'n ôl a chymryd eu hamser? Fel mae Rhys wedi dweud, yr hyn y mae pobl ei eisiau fan hyn yw amserlen.

A fy ail bwynt a'r olaf yw: sut fydd y trafodaethau gyda'r datblygwyr yn cynnwys—ac rwy'n cymryd risg yma, ond hoffwn glywed eich barn ar hyn—amod eu bod yn talu am y gost sylweddol y mae lesddeiliaid wedi'i thalu hyd yma er mwyn bod yn ddiogel? Gwyddom fod llawer ohonynt wedi gwario cannoedd os nad miloedd o bunnoedd, er enghraifft, ar staff nos, er mwyn sicrhau, yn llythrennol, nad oes tân yn eu hadeilad. Felly, hoffwn glywed a fu hynny'n rhan o'r trafodaethau hefyd. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

Photo of David Rees David Rees Labour 7:01, 22 Mawrth 2023

Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i’r ddadl.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Rhys, am y cyfle i drafod mater pwysig diogelwch adeiladau yng Nghymru unwaith eto. Ddoe ddiwethaf, fe wneuthum ddatganiad am gyfres o gamau rydym yn eu cymryd fel rhan o raglen diogelwch adeiladau Cymru, ynghyd â'n partneriaid cydweithio, Plaid Cymru. Roedd chwe edefyn i'r diweddariad hwnnw, gan gynnwys ein gwaith yn gwneud datblygwyr yn gyfrifol am unioni'r problemau gydag adeiladau a adeiladwyd ganddynt, i fwrw ymlaen â'r gwaith o gyweirio adeiladau amddifad ein hunain, fel Llywodraeth, pan na fydd modd gwneud unrhyw ddatblygwr yn gyfrifol.

Mewn ymateb uniongyrchol i Janet, yn amlwg, nid yw adeilad amddifad yn y sector cymdeithasol; mae'n adeilad sector preifat, a adeiladwyd gan y sector preifat, lle mae'r sector preifat naill ai wedi troi cefn ar ei gyfrifoldebau neu wedi mynd yn fethdalwr. Felly, os caf fod yn glir iawn am hynny.

Yn fy natganiad, fe wneuthum siarad am y datblygwyr rydym wedi'u cael i arwyddo'r dogfennau cyfreithiol sy'n sail i gytundeb Llywodraeth Cymru. Mae Redrow, Lovell, Vistry, Countryside Partnerships, Persimmon a McCarthy Stone eisoes wedi arwyddo'r cytundeb cyfreithiol rwymol. Mae Taylor Wimpey, Crest Nicholson, Bellway a Barrett Homes wedi cadarnhau eu bwriad i arwyddo. Nid bwriad annelwig yn unig yw'r bwriad i arwyddo; mae'n broses lle maent yn cael cymeradwyaeth eu bwrdd i roi eu llofnod ar y dogfennau. Felly, mae hwnnw'n llofnod i bob pwrpas.

Mae'r datblygwyr wedi ymrwymo i wneud gwaith diogelwch tân sy'n hanfodol i achub bywyd ar adeiladau canolig ac uchel. Adeiladau yw'r rhain sy'n 15m o uchder a throsodd sydd wedi cael eu datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf. Rwyf wedi cynnal dull cydweithredol yng Nghymru, ond byddaf yn manteisio ar bob cyfle, gan gynnwys drwy ddeddfwriaeth ac ystyried gwaharddiadau ar ddatblygiadau, i sicrhau bod datblygwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau gyda materion diogelwch tân.

Ceir cyfres o sancsiynau yn nogfennau'r contract, Jane. Nid oes gennyf restr ohonynt yma, ond mae'r holl rwymedigaethau cytundebol arferol yno. Os na fydd datblygwr yn datblygu yn ôl y rhaglen a gytunwyd, neu i'r safon a gytunwyd, bydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas gytundebol gyda hwy, ac yn gallu cymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn. Felly, dyma'r math gorau o amddiffyniad i'r lesddeiliaid.

Yr amserlen: beth yw'r amserlen ar gyfer cyweirio? Rydym yn disgwyl i ddatblygwyr ddechrau ar y gwaith cyn gynted â phosibl. Mewn nifer o achosion, mae gwaith eisoes wedi dechrau. Mae Persimmon a Bellway eisoes ar y safle mewn nifer o leoliadau, ac mae eraill, fel McCarthy Stone, eisoes wedi cwblhau gwaith yng Nghymru. Ni allaf roi amserlen bendant ar gyfer pob adeilad yng Nghymru. Nid yw'n bosibl gwneud hynny. Yn y ddadl ddoe fe dynnais sylw at y ffaith y byddwn yn ceisio sicrhau bod gennym gadwyn gyflenwi dda, rhaglen waith lle rydym yn sicrhau contractwyr medrus sy'n gallu gwneud y gwaith yn briodol, ac wrth gwrs byddwn yn ei wneud mor gyflym â phosibl. Ond nid yw'n ffisegol bosibl rhoi amserlen ddiffiniol.

Mae'r gwaith eisoes yn dechrau. Mae mwy a mwy o adeiladau yn dechrau cael eu cyweirio wrth inni fynd yn ein blaenau. Rydym eisoes wedi sicrhau bod cronfa fenthyciadau ar gael i ddatblygwyr a allai fod â phroblemau llif arian, oherwydd nifer yr adeiladau y maent yn eu cyweirio, oherwydd nid wyf eisiau unrhyw esgus dros beidio â gallu dechrau. Ond ar yr un pryd, mae angen inni wneud yn siŵr fod yr adeiladau'n cael eu cyweirio'n briodol a bod y bobl sy'n gweithio arnynt yn meddu ar y sgiliau priodol, a bod y gadwyn gyflenwi yno, fel bod y deunyddiau iawn yn cael eu defnyddio ar yr adeiladau iawn. Felly, nid yw'n bosibl rhoi dyddiad gorffen ar hynny. A dyna pam y gwnaethom sicrhau bod y gronfa fenthyciadau ar gael i ddatblygwyr—nid oherwydd ein bod yn arbennig o hael tuag atynt, ond oherwydd nad wyf eisiau esgus ynghylch llif arian. Felly, ni all fod yn wir na all datblygwyr barhau gydag adeilad oherwydd nad oes ganddynt lif arian ar gael i'w wneud. Felly, byddwn yn gwneud yn siŵr fod y rhaglen waith yno i fwrw ymlaen â hi.

Fel y dywedais, rwyf eisoes wedi mynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau amddifad lle na wyddys pwy yw'r datblygwr, neu eu bod wedi rhoi'r gorau i fasnachu, neu fod yr adeiladu wedi'i ddatblygu dros 30 mlynedd yn ôl. Fe gyhoeddais fod hynny'n ehangu o chwech i 28 o adeiladau, felly dyna'r holl adeiladau amddifad y gwyddom amdanynt yng Nghymru. Rydym yn cysylltu â'r personau cyfrifol ar hyn o bryd i nodi'r camau nesaf mewn perthynas â sefydlu'r cynlluniau gwaith ar gyfer yr adeiladau hyn a chyflawni gwaith angenrheidiol, gyda gwaith cyweirio ar adeiladau cyntaf yr adeiladau amddifad yn dechrau yr haf hwn. Felly, yn eithaf cyflym nawr.

Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol—wel, rwy'n gwybod eich bod chi, Rhys—nad preswylwyr mewn adeiladau yn y sector preifat yn unig sy'n cael eu heffeithio gan y mater hwn, ac rwy'n meddwl, Janet, fod angen ichi feddwl o ddifrif am rai o'r pethau rydych chi wedi'u dweud am hyn. Mae blociau o fflatiau yn y sector cymdeithasol lle mae angen mynd i'r afael â diogelwch tân hefyd yn bwysig, ac rydym—

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, fe ddywedoch chi—

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Dywedais y gwrthwyneb.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Mewn gwirionedd, fe ddywedoch chi ddoe—. Gallwch wirio'r Cofnod, os mynnwch. Efallai nad oeddech chi'n ei olygu, ond nid oedd yr hyn a ddywedoch chi ddoe yn dderbyniol iawn mewn gwirionedd. Ewch i edrych eich hun.

Peidiwn ag anghofio mai eiddo sector cymdeithasol oedd Grenfell ei hun. Rwy'n meddwl ei bod hi'n eithaf pwysig inni gofio hynny mewn gwirionedd. Ddoe, fe wneuthum roi'r newyddion diweddaraf i'r Senedd ar gynnydd a wnaed ar fynd i'r afael â materion diogelwch tân yn ein hadeiladau yn y sector cymdeithasol. Mae 26 adeilad 11m ac uwch wedi cael gwaith diogelwch tân wedi'i gwblhau, ac mae gwaith ar y gweill mewn 41 o adeiladau ar hyn o bryd. Fe wneuthum gadarnhau hefyd fod £40 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyrannu eleni ar gyfer gwaith diogelwch tân mewn 38 adeilad arall yn y sector cymdeithasol.

Fel y dywedais eisoes, mae ein cronfa diogelwch adeiladau yng Nghymru yn parhau i fod ar agor i unigolion â chyfrifoldeb gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Mae'n fan cychwyn ar gyfer cael mynediad at gymorth Llywodraeth Cymru. Felly, unwaith eto, os dewch ar draws unrhyw un sy'n byw mewn adeilad nad yw wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb, cofiwch wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny, oherwydd dyna'r sail ar gyfer gwneud taliadau ôl-weithredol wedyn, yn ogystal â'u cael i mewn i'r rhaglen waith dreigl.

Mae gwaith arolygu'n parhau. Ariennir yr arolygon annibynnol yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Maent yn cynnig safon adrodd gyson ar gyfer unigolion â chyfrifoldeb ac yn tynnu sylw at ble mae'r cyfrifoldeb am faterion diogelwch tân.

Rwyf am roi sylw i danau sy'n digwydd mewn adeiladau hefyd. Yn hollol amlwg, mae angen inni gael strwythur yr adeilad yn iawn, mae angen inni wneud yn siŵr nad yw'r tanau'n digwydd oherwydd hynny. Ond os oes gennych adeilad gyda balconïau pren, er enghraifft, mae'n fater cynnal a chadw parhaus. Nid yw hynny'n ymwneud â chodi'r adeilad yn y lle cyntaf. Mae angen inni sicrhau bod y bobl gyfrifol yn cyflawni eu cyfrifoldebau cynnal a chadw hefyd. Rwy'n falch iawn o ymateb y gwasanaeth tân i'r holl danau rydym wedi'u cael a bod unrhyw drasiedi wedi'i hosgoi, ond rydym yn gweithio gydag asiantau rheoli. Rwy'n cyfarfod ag asiantau rheoli i bwyso arnynt fod rhaid iddynt gael rhaglenni cynnal a chadw yn eu lle, nid dim ond beio'r datblygwr gwreiddiol.

Felly, mae gennym 137 o arolygon wedi'u cwblhau hyd yma, a 31 yn cael eu datblygu gyda'n contractwyr, ac rwy'n parhau i gael pobl i ddatgan diddordeb os nad ydynt wedi gwneud hynny.

Ond rydym yn gwneud mwy na dim ond cyweirio. Dylid annog y bobl yr oeddech yn tynnu sylw atynt, Rhys, i wneud cais i'r cynllun cymorth i lesddeiliaid. Mae gennym gynllun yn benodol ar gyfer pobl yn yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd gennych. Felly, os oeddech wedi prynu'r lle fel buddsoddiad ymddeol, ac nad ydych yn byw yno a'ch bod yn dibynnu arno ar gyfer eich cadernid ariannol, dylech wneud cais ar sail hynny, oherwydd gallwn brynu gennych. Nid oes raid i chi gyrraedd yr opsiwn o gerdded i ffwrdd; bydd y Llywodraeth yn prynu gennych. Mae'r eiddo cyntaf yn cael ei brynu nawr mewn gwirionedd wrth iddynt fynd drwy'r cynlluniau, felly gwnewch eu hannog i wneud cais am y cynllun hwnnw. Mae yna wiriwr cymhwysedd ar wefan Llywodraeth Cymru. Os yw hynny'n rhy frawychus, mae yna bobl ar gael i'w helpu i fynd drwyddo a deall sut y gallant gael mynediad at y gwaith hwnnw. Felly, rwy'n falch iawn fod hynny'n digwydd.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed ar ganllawiau prisio Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, sydd bellach yn cynnwys Cymru a Lloegr. Mae'n darparu cysondeb yn y dull prisio ar gyfer eiddo yng Nghymru. Nid yw'n orfodol, ond pam na fyddent yn ei ddefnyddio, oherwydd gallwch gael mwy nag un prisiad wedi'i wneud, ac mae'r prisiad yn rhoi sail gyson i brisio'r adeiladau? Felly, rwy'n falch ein bod wedi gwneud hynny. A hynny ar gyfer yr holl adeiladau, p'un a yw'n waith sy'n cael ei arwain gan ddatblygwyr, y cohort amddifad cychwynnol neu p'un a ydym wedi gallu cadarnhau bod adeiladau naill ai'n is na 11m neu'n cael eu hystyried yn risg isel. Felly, mae'r prisiad yn berthnasol i bob un ohonynt.

Rydym yn parhau i weithio gyda UK Finance i sicrhau bod benthycwyr yn cydnabod y sefyllfa yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â benthycwyr unigol fel y gallwn drafod yr amgylchiadau, iddynt allu darparu morgeisi i'r rhai sy'n byw mewn adeiladau gyda'r problemau hyn. Mae'n un o'r rhesymau pam nad ydym fel Llywodraeth yn enwi adeiladau unigol, oherwydd nid ydym eisiau codi sgwarnog heb ddim rheswm. Ond rydym yn barod i weithio gyda benthycwyr i helpu hynny i ddigwydd, a dylai hynny hefyd fod yn digwydd nawr.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymroddedig i fynd i'r afael â'r materion hyn sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r rhaglen diogelwch adeiladau, a byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'n cynlluniau ar gyfer cyflawni gael eu cyflwyno. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 7:09, 22 Mawrth 2023

Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:09.