<p>Hyfforddi Doctoriaid</p>

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o ddoctoriaid? OAQ(5)0002(FM)[W]

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:33, 24 Mai 2016

Diolch am y cwestiwn. A gaf i, wrth gwrs, groesawu yr Aelod, a phob Aelod sydd yn mynd i wneud eu cyfraniadau cyntaf heddiw?

Fel rhan o’r cytundeb i symud Cymru ymlaen, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, byddwn yn canolbwyntio ein ffocws ar gynyddu niferoedd y meddygon teulu a gweithwyr iechyd yn y sector gofal sylfaenol yng Nghymru.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:34, 24 Mai 2016

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod chi’n cydnabod bod angen yn awr symud ymlaen i hyfforddi meddygon. A fydd y cynlluniau yn cynnwys edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer gogledd Cymru? Oherwydd mae’r problemau, fel y gwyddoch chi, yn ddybryd iawn yn y gogledd, a’r angen am feddygon yn yr ysbytai ac mewn meddygfeydd gwledig yn un dwys iawn. A fyddwch chi, felly, yn fodlon symud ymlaen rŵan i greu cynllun busnes ar gyfer ysgol feddygol i’r gogledd, ym Mangor? Mae fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, wedi cychwyn ar y gwaith gan ddefnyddio’r arbenigedd sydd ym Mangor ar gyfer symud ymlaen gyda’r cynllun, a hoffwn eich gweld chi’n ymrwymo heddiw i greu cynllun busnes ar gyfer hyn. Diolch.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 24 Mai 2016

Mae hwn yn rhywbeth i’w ystyried, wrth gwrs, ac rwy’n edrych ymlaen i weithio o dan dermau’r cytundeb, er mwyn sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen i sicrhau bod mwy o weithwyr yn y sector gofal a hefyd weithwyr iechyd, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Mae’n bwysig dros ben nad ydym ni’n canolbwyntio ddim ond ar ddoctoriaid, pwysig ag y maen nhw, ond yn ystyried ffyrdd i helpu pob proffesiwn sydd yn gweithredu gofal a hefyd iechyd i’n pobl.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, mae hyfforddi meddygon yn bwysig i ddyfodol ein gwasanaethau iechyd, ond mae hynny'n wir hefyd am hyfforddi mwy o nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffyddion a’r holl broffesiynau iechyd eraill. Efallai nad yw’r model cynllunio’r gweithlu a ddefnyddiwyd yn addas i’w ddiben erbyn hyn. Fel y cyfryw, a wnewch chi ofyn i'ch Ysgrifennydd iechyd newydd edrych ar y model cynllunio’r gweithlu i sicrhau ei fod yn addas i’w ddiben ac y bydd yn cydnabod y newid i anghenion a gofynion cymdeithasol defnyddwyr gwasanaeth a staff? Ac a wnaiff hyn sicrhau bod yr anghenion hyfforddi sydd gan bob gweithiwr iechyd proffesiynol, a'r hyn sydd gennym ar gyfer ein gwasanaeth, yn briodol? Ac a wnewch chi sicrhau bod y cyllid ar gael i sicrhau y gall y lleoedd i israddedigion ddiwallu’r anghenion hyfforddi hynny?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Gwnaf yn wir, a gwn y bydd y Gweinidog newydd yn ystyried hyn fel mater o frys yn rhan o'i bortffolio i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. Rydym yn gwybod bod hyfforddi mwy o weithwyr proffesiynol o bob math yn y sector iechyd yn bwysig, ond hefyd eu recriwtio, gan nad yw eu hyfforddi o reidrwydd yn golygu eu bod yn aros yng Nghymru neu yn y DU yn wir. Ac, fel y mae’r Aelod yn gwybod, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod Cymru’n cael ei hystyried yn wlad dda i weithio ynddi, gan ein bod yn gwybod bod y gystadleuaeth yn chwyrn ledled Ewrop, a ledled y byd, am weithwyr meddygol proffesiynol, ac mae'n hynod bwysig bod gennym ni wasanaeth iechyd sy'n cael ei ystyried yn lle deniadol i weithio ynddo.

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:37, 24 Mai 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, nid oedd ymgyrch y Llywodraeth ddiwethaf i recriwtio meddygon yn llwyddiannus. Roedd hynny’n eglur o'r ffaith bod cael gweld meddygon teulu ar draws y canolbarth yn dod yn fwyfwy anodd. A gaf i ofyn i chi beth mae eich Llywodraeth glymblaid newydd yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael yn benodol â'r prinder meddygon mewn cymunedau mwy anghysbell ledled Cymru?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Mae peidio â chael streic meddygon iau yn ddechrau da, rwy’n credu, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym yn bwriadu ei wneud. Ond bydd yn gwybod, wrth gwrs, bod menter gydweithredol y canolbarth yn edrych yn ofalus iawn ar hyn—ar y ddarpariaeth o wasanaeth iechyd—nid yn unig yn ei ardal ef, ond mewn ardaloedd eraill ar draws canol ein gwlad, ac mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo'n dda iawn. Ac mae hwnnw’n fodel y credaf, gan ei fod yn gweithio'n llwyddiannus, y gellir ei fabwysiadu mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Mae’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar hwyluso gweld meddygon teulu i’w groesawu. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylid annog practisys gofal cynradd i gydweithio gyda darparwyr trafnidiaeth lleol i’w hybu ymhellach fyth, yn enwedig mewn ardaloedd pellach allan?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 24 Mai 2016

Rwy’n credu bod hynny’n synhwyrol. Wrth gwrs, pan fydd yna newid mewn gwasanaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae pobl yn pryderu weithiau o achos y ffaith, efallai, bod nhw’n ffaelu teithio’n rhwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae’n bwysig dros ben bod y byrddau iechyd ac, wrth gwrs, practisys unigol yn sicrhau eu bod nhw’n gallu darparu a gweithredu systemau trafnidiaeth sy’n mynd i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’u gwasanaethau nhw.