– Senedd Cymru am 3:57 pm ar 14 Mehefin 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar brentisiaethau yng Nghymru, a galwaf ar Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd, mewn ymdrech i geisio rhywfaint o ffafr? [Chwerthin.]
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi gwybod i aelodau am gynlluniau'r Llywodraeth ynghylch recriwtio prentisiaid dros y misoedd nesaf. Fel y bydd fy natganiad heddiw yn gwneud yn glir, rydym yn cymryd camau yn gyflym i gyflawni ein haddewid i gael 100,000 o brentisiaethau o ansawdd ar gyfer pob oedran yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu darparu ar sail hyblyg gyda phobl yn dechrau drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r ymgyrch recriwtio fwyaf o bell ffordd yn digwydd yn unol â'r flwyddyn ysgol. Felly, bydd angen i newidiadau ddigwydd ar unwaith, fel y gellir defnyddio ymagwedd pob oedran at ein contractau prentisiaeth ar gyfer cyflenwi yn ystod y flwyddyn ysgol, sy'n dechrau yn gynnar ym mis Medi.
Fel y byddwch i gyd yn ddiau yn gwybod eisoes, mae'r rhaglen brentisiaeth yn perfformio'n dda iawn. Mae cyfraddau cwblhau yn gyson dros 80 y cant, gyda llawer ohonynt i fyny mor uchel ag 86 y cant. Mae adborth gan gyflogwyr a phrentisiaid yn gadarnhaol ac ansawdd y rhaglenni a gyflwynir yn cael ei ystyried yn uchel gan aseswyr allanol. O ystyried yr hanes da hwn, rwy’n bwriadu cadw fy mhwyslais ar ansawdd. Rydym yn ymrwymo i nifer targed isaf o brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf, ond nid wyf yn mynd i gael fy nhynnu i wneud ymrwymiadau i rifau na ellir eu cyflawni, ac nid wyf i'n mynd i beryglu ein hanes sefydledig o ansawdd uchel. Rwy'n credu mewn hyfforddiant ystyrlon sy'n cefnogi dilyniant gyrfa ar gyfer unigolion, sy’n cynyddu cynhyrchiant ar gyfer cyflogwyr ac yn ei dro yn bodloni anghenion sgiliau ein gwlad yn y dyfodol. Mae ein trefniadau caffael a chontractio a'n gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr wedi dangos ei fod yn effeithiol iawn yn ein hymgyrch i godi safonau a darparu hyfforddiant ystyrlon, o ansawdd uchel, a bydd hynny yn aros yn ddigyfnewid.
Dros y misoedd nesaf, rydym yn cymryd camau i ymgysylltu â phobl sy'n gadael yr ysgol. Un enghraifft yw ein rhaglen 'Have a Go', sy'n rhoi cyfle i ddefnyddio offer modern a thechnoleg y gweithle mewn amgylchedd diogel a llawn hwyl i bobl ifanc. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ehangu trwy weithio ar y cyd ag ysgolion, colegau, darparwyr prentisiaethau a Gyrfa Cymru. Rydym hefyd wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i'n darparwyr prentisiaethau i ymgysylltu â chyflogwyr a rhanddeiliaid er mwyn eu helpu i fod yn fwy ymwybodol o gyfleoedd prentisiaeth presennol a swyddi gwag newydd. Bydd y camau hyn yn sicrhau bod pobl sy'n gadael yr ysgol, gweithwyr sy’n symud rhwng swyddi a phobl sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur yn ymwybodol o'r cyfleoedd hyn ac yn cael digon o amser i wneud cais ar eu cyfer.
Rwyf eisiau sicrhau y gall pobl o unrhyw oed elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan y prentisiaethau o safon yr ydym yn eu cynnig yng Nghymru, ond yn arbennig y rhai sy’n ceisio mynd i mewn neu ail-fynd i mewn i'r farchnad lafur. Rwyf hefyd eisiau i ni adeiladu ar ein hanes sefydledig o addysg a hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel gyda nifer cynyddol o brentisiaethau uwch. Mae ein prentisiaethau uwch ar lefel 4 ac uwch yn rhoi cyfle euraidd i ni ddatblygu sgiliau cryfach a dyfnach ymysg ein gweithlu presennol, a hefyd i ddarparu cyflogwyr â staff medrus y mae eu hangen arnynt i hybu cynhyrchiant, arloesi a pherfformiad busnes yn gyffredinol. Y llynedd, gwelsom gynnydd mawr yn nifer y prentisiaethau uwch yng Nghymru—22 y cant trawiadol o'r holl brentisiaethau a ddechreuodd. Wrth i ni gynyddu nifer y prentisiaethau uwch, byddwn yn parhau i gefnogi'r blaenoriaethau eang y sector a nodir gan ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn eu cynlluniau blynyddol a hefyd y blaenoriaethau cenedlaethol a bennir gan Weinidogion Cymru.
Fodd bynnag, rydym yn awyddus i wneud mwy. Rydym yn gwybod bod galw cynyddol am inni ehangu prentisiaethau lefel uwch, yn enwedig yn y sectorau gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg proffesiynol, gan fod tystiolaeth glir o brinder sgiliau ym mhob un o'r meysydd hyn. Rydym yn credu bod gennym ddyletswydd i bobl Cymru i gryfhau dilyniant i sgiliau lefel uwch; mae angen i ni weithio gyda'n rhwydwaith o ddarparwyr i ehangu eu gallu i gyflenwi, gan gynnwys cyflenwi drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ogystal, byddwn yn parhau i sicrhau bod y grwpiau hynny nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn cael cyfleoedd cyfartal i elwa ar ein rhaglen, ac rydym wedi penodi hyrwyddwr ansawdd penodol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
Rwyf hefyd yn edrych ar sut y gallwn gynyddu gweithgarwch cyfwerth â gradd ar y rhaglen, a byddaf yn gweithio gyda'r canlyniadau o adolygiad Diamond i annog y datblygiad hwn. Bydd creu newid sylweddol yn golygu mathau newydd o weithio mewn partneriaeth sy'n cynnwys ysgolion, colegau, darparwyr dysgu yn y gwaith a'r sector addysg uwch. Yn ei dro, bydd angen i ni hefyd adolygu prentisiaethau lefel is, yn enwedig pan nad yw cyflogwyr yn adrodd am brinder sgiliau a bod llwyfan gwan ar gyfer dilyniant gyrfa.
Rydym eisoes wedi gofyn i gynghorau sgiliau sector i sicrhau bod y cynnwys dysgu ar ein fframweithiau prentisiaeth allweddol yn berthnasol i anghenion newidiol cyflogwyr mewn gwahanol sectorau diwydiant yng Nghymru. Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, bydd y cynghorau sgiliau sector yn sicrhau bod cyflogwyr yn cael mwy o fewnbwn i ddyluniad ein fframweithiau prentisiaeth gan gynnal ar yr un pryd system sy'n hyblyg ac yn ymatebol i anghenion economi Cymru sy’n newid yn fwy cyflym fyth.
Rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i safonau galwedigaethol cenedlaethol y DU a chynnwys cymwysterau mewn fframweithiau prentisiaeth, gan y gwyddom eu bod yn darparu sgiliau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Y llynedd, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn helaeth ar gyfochri ein model prentisiaeth gydag anghenion yr economi yng Nghymru a'r DU yn ehangach. Cyhoeddwyd ein hymatebion ymgynghori ym mis Gorffennaf 2015. Ers hynny, rydym wedi gohirio cyhoeddi ein cynllun gweithredu prentisiaeth i roi cyfle i ni ystyried yn briodol effaith cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer gweithredu'r ardoll brentisiaethau yn Lloegr, a'r newidiadau cysylltiedig i safonau prentisiaeth.
Ni all neb yn yr arena sgiliau ddianc rhag mater yr ardoll brentisiaethau. Mae'r ardoll yn fater o bryder sylfaenol i Lywodraeth Cymru. Heddiw, mae'n ddrwg gennyf ddweud ein bod yn dal heb gael eglurder llwyr gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd y cynllun ardoll brentisiaethau arfaethedig yn gweithredu yn Lloegr a'r effaith yng Nghymru. Er bod pethau yn parhau i fod yn aneglur, ni ddylent ac nid ydynt yn dileu'r angen i ni geisio mwy o sicrwydd ac i ddechrau cynllunio darpariaeth prentisiaethau yma yng Nghymru yn fwy manwl ar gyfer blwyddyn gyntaf a blynyddoedd dilynol y tymor Cynulliad newydd hwn.
Mae'r cynlluniau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn cychwyn y broses o gyflawni ein haddewid o 100,000 o brentisiaethau pob oed, fel yr amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog ym mis Mai. Maent hefyd yn cefnogi ein gweledigaeth tymor hwy ar gyfer sut y mae prentisiaethau yn cyfrannu at Gymru fwy cydnerth, fwy ffyniannus a Chymru fwy cyfartal.
Prentisiaethau yw’r dewis mwyaf adnabyddus ac uchel ei barch o bell ffordd o 'ennill wrth ddysgu' ac mae’r buddion ar gyfer unigolion, cyflogwyr a'r economi ehangach yn dra hysbys. Mae prentisiaethau pob oed, ynghyd â'r rhaglen gyflogadwyedd bob oed, yn ganolog i'n diwygiadau sgiliau arfaethedig. Mae prentisiaethau yn llwybr profedig i gyflogaeth a ffyniant cynaliadwy. Bydd y blaenoriaethau a gyhoeddais heddiw—pwyslais di-baid ar ansawdd, cyfleoedd i bawb, ehangu sgiliau lefel uwch a mwy o ymgysylltu â chyflogwyr—yn sicrhau bod y Llywodraeth hon yn cyflawni ei haddewid i bobl Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i eich llongyfarch chi, Weinidog, ar eich penodiad, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gysgodi’r elfen sgiliau o’ch portffolio chi, ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am y datganiad y prynhawn yma? Mi gychwynnaf drwy bigo fyny ar y sylwadau roeddech yn eu gwneud tuag at ddiwedd eich datganiad ynglŷn a’r lefi prentisiaethau. Roeddech chi’n dweud bod yna’n dal ddim eglurder llwyr. Wel, mi fyddwn i yn gwerthfawrogi bach fwy o gig ar yr asgwrn o safbwynt sefyllfa’r trafodaethau rydych chi’n eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn yn ddiolchgar am ddiweddariad efallai ar faint o drafod sydd yna i ddechrau, ac hefyd ai mater yn eich barn chi o ddiffyg rhannu gwybodaeth yw hi, neu a ydych chi’n meddwl bod yna broblem fwy sylfaenol o safbwynt dryswch ynglŷn a sut bydd y lefi yn gweithio, a goblygiadau hynny i Gymru. Byddwn i hefyd yn falch o glywed eich barn chi a fydd y lefi yn weithredol o fewn yr amserlen wreiddiol, neu a ydy hi’n debygol y byddwn ni’n gweld oedi, oherwydd mae yna sôn wedi bod am y posibilrwydd hynny yn Lloegr, beth bynnag.
Ac os yw’r lefi yn dod i Gymru, mae yna gwestiynau wedi bod ynglŷn ag, os oes arian ychwanegol, a fydd hwnnw yn cael ei Farnett-eiddio, a rhyw bethau felly. Ond os ydyw yn cael ei Farnett-eiddio, a fyddwch chi fel Llywodraeth yn amddiffyn yr arian ychwanegol yna ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru neu a fydd yr arian yna’n mynd i goffrau ehangach Llywodraeth Cymru?
Rŷch chi’n cyfeirio wrth gwrs at yr ymrwymiad clir i greu 100,000 o brentisiaethau yn y pum mlynedd nesaf ac mae hynny yn rhywbeth, wrth gwrs, rŷm ni yn ei rannu, ond mae yna, efallai, destun dadl ynglŷn â niferoedd y prentisiaethau sydd wedi’u creu dros y pum mlynedd ddiwethaf. Felly, er eglurder, mi fyddwn i’n gofyn i chi, efallai, jest i fod yn glir mai’ch bwriad chi fel Llywodraeth yw mynd y tu hwnt i’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni o safbwynt niferoedd yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf. Yn hynny o beth, a allwch chi ein sicrhau ni eich bod chi’n hyderus bod y capasiti yn bodoli ymhlith y cyrff perthnasol i gyflawni y lefel yna o brentisiaethau? Ac, am fod yr ymrwymiad rŷch chi wedi’i wneud yn eich maniffesto yn cyfeirio at ddarpariaeth i bob oed, o safbwynt prentisiaethau, a allwch chi hefyd roi sicrwydd i ni na fydd hynny’n cael unrhyw effaith negyddol ar y ddarpariaeth i’r rhai dan 25 oed?
Rŷch chi hefyd yn eich datganiad yn dweud eich bod chi am dyfu mathau arbennig o brentisiaethau, cynyddu cyfranogiad grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli—er enghraifft, mwy o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna gyfeiriad penodol at hynny ac rŷm ni’n croesawu hynny yn amlwg, ond sut fyddwn ni’n gwybod sut y mae llwyddiant yn edrych? Beth yw’r mesur? A fydd yna darged i fesur y llwyddiant? Rŷm ni’n gwybod mai dim ond rhyw 3 y cant o brentisiaethau sy’n cael eu cyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd; beth yw nod eich Llywodraeth chi dros y pum mlynedd nesaf? I ba lefel yr hoffech chi weld y cynnydd yna yn ei gyrraedd? Wrth gwrs, wedyn, mae cwestiwn ehangach ynglŷn â sut rŷch chi’n bwriadu cyflawni hynny. Mi ddywedoch chi, er enghraifft, mewn datganiad yn ôl ym mis Ionawr yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf eich bod chi’n edrych o ddifrif ar sut i wella a chryfhau y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Byddwn i’n ddiolchgar am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw waith sydd wedi’i wneud ers hynny yn y maes arbennig yna.
You also said in a statement earlier this year that you intended rolling out shared apprenticeship schemes, which clearly are particularly valuable to smaller businesses. The proposed apprenticeships levy shouldn’t impact them as such, but clearly the wider disruption to the sector may well have implications. Maybe you could outline the progress you’ve made on shared apprenticeships or at least your intentions and aspirations in that respect over the next few years.
Finally, Minister, we know that the return on investment from apprenticeships is very significant with every £1 invested bringing benefits of up to £74 over a lifetime according to the National Training Federation Wales, compared with £57 when investing in higher education or a degree, maybe more specifically. So, would you agree with me that apprenticeships represent one of the best examples of the effective use of European structural funds in Wales, demonstrating a key and clear benefit of Wales’s membership of the European Union?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuaf â'r un olaf: ydy, mae tua 25 y cant o'r rhaglen bresennol yn cael ei ariannu gan gronfeydd Ewropeaidd, ac rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud na fyddai'r rhaglen brentisiaeth y llwyddiant yw hi heddiw heb y cronfeydd hynny. Rydym hefyd wedi elwa ar aelodaeth o wahanol sefydliadau CVET ledled Ewrop ac yn wir rwyf wedi mynychu cynhadledd er mwyn dysgu o'r arfer gorau ledled Ewrop wrth weithredu cynlluniau prentisiaeth a chynlluniau dysgu yn y gwaith yn gyffredinol. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, yn fy meddwl i beth bynnag, bod ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi gwella ein hansawdd a’n gallu i dalu am ein rhaglen gyfredol.
Af yn ôl drwy eich cwestiynau oherwydd dyna’r ffordd yr wyf wedi eu hysgrifennu i lawr. O ran y cynlluniau prentisiaeth ar y cyd, mae gennym nifer o rai llwyddiannus. Un o'r pethau yr ydym yn ceisio ei wella yw defnyddio'r wybodaeth am y farchnad lafur a geir oddi wrth ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol, sydd mewn gwirionedd i gyd yn gweithredu o ddifrif erbyn hyn ac rydym yn edrych ymlaen at gael eu cynlluniau blynyddol unrhyw funud nawr—rwy'n credu mai diwedd y mis hwn fydd hynny, heb edrych yn fwy manwl; os ydw i'n anghywir byddaf yn cywiro fy hun, ond rwy’n meddwl mai diwedd y mis hwn fydd hynny. Yr hyn y maen nhw'n ei wneud yw sbarduno trefniadau rhanbarthol o'r math hwnnw ac rydym i gyd yn gwybod mai cyflogwyr bychan sy'n cael eu helpu fwyaf. Roedd cynllun ardderchog i fyny ym Mlaenau Gwent y bûm i yno gydag Alun Davies, lansio hynny ochr yn ochr â'r cyngor lleol, sydd yn esiampl dda iawn o sut y gall y cynlluniau hynny weithio.
Felly, ie, yr hyn yr ydym yn gobeithio'n fawr ei wneud yw cael yr hyn sy’n addas ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Felly, bydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn sbarduno llawer o'r gweithredu yn eu hardal ac mae hynny hefyd yn wir am y Gymraeg, oherwydd, fel y gwyddoch, mae llawer mwy o alw am brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru nag sydd , er enghraifft, yn Abertawe, y lle rwyf i’n ei gynrychioli, er bod rhywfaint o alw yno. Yr hyn y byddwn yn ei wneud yw gweithio gyda rhwydwaith o ddarparwyr i wneud yn siŵr lle mae prentisiaethau yn y Gymraeg yn ofynnol, neu lle mae bwlch sgiliau ar gyfer hynny, ein bod yn gallu llenwi'r bwlch hwnnw gyda darpariaeth briodol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Aelod wrth wneud hynny.
Nid ydym yn gwybod sut beth yw llwyddiant ar gyfer hynny ar hyn o bryd oherwydd mai un o'r pethau yr ydym am ei wneud rhwng nawr a mis Medi yw siarad eto â bob un o'n rhanddeiliaid am yn union hynny a sicrhau ein bod yn llunio'r rhaglen sydd ar y gweill yn gwbl gywir. Yr hyn yr wyf i’n ei gyhoeddi heddiw mewn gwirionedd yw'r cynllun i ymgynghori ar hynny dros yr haf ac i ddod yn ôl i'r Cynulliad hwn yn gynnar yn nhymor yr hydref gyda chynllun ar gyfer hynny.
O ran y niferoedd a'r mathau sy'n rhan o hynny, nid wyf i'n fodlon sôn am niferoedd oherwydd mae'n cymryd, er enghraifft, tair gwaith cymaint o arian i hyfforddi prentis peirianneg ag y mae i hyfforddi prentis proses fusnes. Felly, os byddaf yn dweud y bydd nifer penodol, mae'n bosibl wedyn y bydd yn rhaid i mi hyfforddi mwy o bobl nad ydym eu heisiau na'r bobl yr ydym eu heisiau er mwyn taro beth fyddai'n rhif targed ffug. Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw y bydd o leiaf 100,000. Dyna oddeutu'r lefel, gan ei fod wedi mynd i fyny ac i lawr ychydig dros dymor diwethaf y Cynulliad, ond mae'n cyfateb yn fras i’r lefel oedd gennym y tro diwethaf. Roedd hwnnw’n lefel da. Cafodd ei gynorthwyo gan nifer o gytundebau cyllideb gyda’ch plaid chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac rydym yn hapus iawn i fynd ymlaen ar y sail honno. Ond rwy’n awyddus iawn i gyfateb y ddarpariaeth prentisiaethau i’r angen yn yr economi am hynny ac i'r diffyg sgiliau a ragwelir.
Yna, yn olaf ond nid yn lleiaf, ar yr ardoll, rydym wedi cael cyfathrebu a thrafod helaeth, gyda swyddogion yn cwrdd. Rwyf wedi cwrdd â Gweinidogion fy hun. Nid oes gennym eglurder. Ein dealltwriaeth ar hyn o bryd yw y bydd yn gweithredu ar fformiwla Barnett yn yr un modd â’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Dioddefodd yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau doriad o tua 17 y cant, ac ni fyddai hynny'n rhoi unrhyw arian ychwanegol i ni o gwbl, ond nid yw’r trafodaethau hynny drosodd eto a byddaf i a'r Gweinidog cyllid yn siarad eto mewn peth dyfnder am sut y gallwn wneud y gorau ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid dim ond Cymru yw hyn. Yn Lloegr, mae'n amlwg erbyn hyn bod yr arian ardoll brentisiaeth yn disodli arian a oedd yn drethi cyffredinol yn flaenorol, a'r hyn yr ydym yn edrych arno mewn gwirionedd yw treth gyflogwr benodol, gan ddisodli arian a roddwyd i'r math hwn o gyllid gan arian trethi cyffredinol yn flaenorol.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Weinidog, cwrddais yn ddiweddar â phennaeth coleg Merthyr ac roedd ein deialog yn cynnwys trafodaethau ar raglenni prentisiaeth a gyflwynir ar y cyd â chyflogwyr megis General Dynamics ym Merthyr, sydd, gan weithio mewn partneriaeth â choleg Merthyr, yn creu dwy raglen prentisiaeth pob oed newydd yn cychwyn ym mis Medi 2016, pan fydd yr aelodau staff cyntaf yn dechrau ar eu cyflogaeth yn y cyfleuster hwnnw. Bydd y prentisiaethau hynny mewn gweithgynhyrchu, peirianneg a phrentisiaethau ffitiwr/crefft mecanyddol. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gymeradwyo cynlluniau fel hwn, a fydd yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llafur Cymru i greu 100,000 o brentisiaethau newydd yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn? A yw hi hefyd yn cytuno y gallai cyflwyno prentisiaethau a ariennir gan bwrs y wlad—ac wrth hynny rwy’n golygu cyllid Llywodraeth Cymru ac Ewrop—drwy golegau addysg bellach fel Merthyr adfywio'r sector addysg bellach yn ogystal â chyflwyno gwerth gorau am arian drwy ailfuddsoddi yn y sector cyhoeddus?
Ydw, rwy’n hapus iawn i gytuno â'r Aelod dros Ferthyr Tudful fod y cynllun hwnnw yn dda iawn. Rwy'n gyfarwydd ag ef. Ymwelais â'r coleg fy hun yn y Cynulliad blaenorol i gael golwg ar rai o'r cynlluniau da yno. Yr hyn sy'n amlwg, yn ogystal yw bod gennym nifer o gyflogwyr sy'n argyhoeddedig o'r angen am hyfforddiant proffesiynol o ansawdd da, ar gyfer prentisiaethau ac ar gyfer dysgu yn y gwaith yn gyffredinol. Ond mae talcen caled o'n blaenau, ac mae adroddiad olaf Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau—oherwydd, yn anffodus, mae bellach wedi ei ddiddymu gan y Llywodraeth bresennol—. Roedd adroddiad diwethaf defnyddiol iawn Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn dangos i ni, lle mae cyflogwyr yn hyfforddi yng Nghymru, maent yn hyfforddi mwy yng Nghymru, ac mae ganddynt hyfforddiant o ansawdd uwch. Ond nid ydym yn ennill llawer iawn o dir o ran nifer y cyflogwyr sy'n hyfforddi—y nifer fawr ohonynt nad ydynt yn hyfforddi. Felly, byddwn yn cynyddu ein hymdrechion i estyn allan at y cyflogwyr drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a’r siambrau masnach a Ffederasiwn y Busnesau Bach a nifer o bartneriaid eraill i ddwyn cymaint o'r cyflogwyr hynny i mewn i’r gorlan hon ag y bo modd.
Diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.
Diolch i chi, Madam Llywydd. Diolch hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae gweithlu medrus yn galluogi gwlad i ffynnu mewn marchnad fyd-eang sy'n fwyfwy cystadleuol. Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu ac yn addasu ein sylfaen sgiliau yng Nghymru. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau a rhoi diwedd ar yr anghydraddoldebau yn y system bresennol. Er mwyn gwneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn gallu mwstro rhwng pob agwedd ar y system addysg a busnesau i helpu pobl ifanc i fod yn fwy parod ar gyfer gwaith. Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed sut y mae myfyrwyr Cymru yn gadael addysg heb y sgiliau iawn i'w helpu i wneud cynnydd yn y byd gwaith.
Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa gynlluniau sydd ganddi i gryfhau cysylltiadau rhwng addysg, cyflogaeth ac yn enwedig y gymuned fusnes, i sicrhau bod gan fyfyrwyr sgiliau sy'n eu gwneud yn barod am waith? Gall cryfhau cysylltiadau rhwng addysgwyr a chyflogwyr helpu i leihau'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn niwydiannau Cymru. Gallai'r cysylltiadau agosach hyn ddod â merched ifanc i gysylltiad esiamplau cadarnhaol mewn sectorau anhraddodiadol sy'n gallu hyrwyddo prentisiaethau fel dewis ymarferol arall yn hytrach na phrifysgol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth mae hi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem o anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn hyn o beth?
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn methu â chefnogi pobl hŷn i fanteisio ar sgiliau a chael mynediad at hyfforddiant. Mae comisiynydd pobl hŷn Cymru wedi rhybuddio am y toriadau i ddysgu gydol oes a'r angen i gadw ein pobl hŷn yn y gweithlu ac i ddod â nhw yn ôl i weithio yn ogystal. Mae pobl wedi ennill graddau pan eu bod yn eu hwythdegau, Weinidog, pam felly na allant gael rhywfaint o gyfle yma yng Nghymru i wneud yr un peth? A yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai prentisiaethau gael eu darparu ar sail angen yn hytrach nag ar oedran y person?
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu ati yn ddiweddar i nodi enghraifft o'r diffyg hyblygrwydd yn fformiwla cyfradd cynaliadwyedd Twf Swyddi Cymru. Er bod achos y cwmni hwn wedi ei gydnabod yn llwyddiannus, rwy’n pryderu y gallai cymhwyso anhyblyg y fformiwla hon atal cwmnïau yng Nghymru rhag cael caniatâd i dderbyn prentisiaid a darparu hyfforddiant a chyflogaeth y mae wir eu hangen. A wnaiff y Gweinidog gytuno i adolygu fformiwla cyfradd cynaliadwyedd Twf Swyddi Cymru i sicrhau bod y system yn gweithio a bod cymaint â phosib o swyddi a hyfforddiant yn dod i Gymru?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Ar yr un olaf, nid wyf yn mynd i gytuno i adolygu'r fformiwla cynaliadwyedd oherwydd ein bod yn credu ei fod yn gweithio yn eithriadol o dda ac yn un o'r rhesymau pam mae'r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’r Aelod wedi nodi yn gywir—ac rwy’n cofio’r llythyr yn dda iawn—y ceir penderfyniadau yn achlysurol nad ydynt yn unol â'r fformiwla ac, wrth adolygu hynny, mae gennym enghreifftiau lle dylai cwmnïau fod wedi cael caniatâd i gymryd ymgeisydd Twf Swyddi Cymru ac, yn wir, yn yr achos y mae'r Aelod yn ei amlinellu, roedd yr adolygiad yn llwyddiannus a chafodd y cwmni ganiatâd i fwrw ymlaen.
Fodd bynnag, nid wyf yn credu bod yr adegau prin lle nad yw'r fformiwla wedi ei gymhwyso'n gywir yn y lle cyntaf yn rheswm da i adolygu'r fformiwla yn gyffredinol. Un o'r rhesymau pam mae'r cynllun wedi bod mor llwyddiannus—ac rydym yn edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol ohono a fydd yn dod i mewn yn fuan iawn; rwy’n gobeithio cyn toriad yr haf—yw bod yn rhaid i fusnesau ddangos y gallu i gadw pobl yn y swydd honno ac i dyfu eu hunain yn unol â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cymhorthdal cyflogau y mae cynllun Twf Swyddi Cymru yn ei gynrychioli. Nid drws troi i dderbyn mwy a mwy o bobl ifanc a rhoi cyflogaeth anghynaladwy iddynt yw hyn. Felly, rwy’n falch iawn â'r ffordd y mae'r cynllun yn gweithio; rwy'n edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol. Ond rwy’n derbyn, mewn rhai achosion, bod angen adolygu ac, fel y gwelsoch, rydym yn hapus iawn i wneud yr adolygiad hwnnw.
O ran merched mewn sectorau anhraddodiadol, bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn yn hoff bwnc i minnau hefyd; rwyf wedi siarad lawer gwaith yn y Siambr hon yn ei gylch. Yn wir, yn ystod yr wythnosau nesaf, rwy’n ymweld â nifer o weithleoedd i siarad am hynny ochr yn ochr ag ICE, Sefydliad y Peirianwyr Sifil, er enghraifft, sy'n cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn y blaen. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod yn ariannu Chwarae Teg i wneud rhaglen ynghylch cael merched i mewn i ddiwydiannau anhraddodiadol a hyrwyddo hynny mewn busnesau lle ceir anghydbwysedd rhwng y rhywiau. Ac, yn wir, mae gennym broblem debyg o ran iechyd a gofal cymdeithasol lle mae cydbwysedd rhwng y rhywiau y ffordd groes, a hoffem weld mwy o ddynion yn dod i mewn i rai meysydd o'r economi, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny yn agored i bawb.
O ran y pwynt pob oed, fel y clywodd yr Aelod pan wneuthum fy natganiad, rydym, wrth gwrs, wedi ymrwymo i gynllun prentisiaeth pob oed. Rydym yn cydnabod nad oedran yw'r unig reswm y dylech fynd ymlaen i gynllun prentisiaeth. Fodd bynnag, rydym yn dal i dargedu pobl 16 i 19 oed sy’n dod allan o'r ysgol i fynd i mewn i’r cynlluniau hynny ac mae gennym dargedau ar gyfer pobl sydd eisiau newid swyddi a phobl sy'n dychwelyd i'r gwaith. Y rheswm am hyn yw ein bod eisiau edrych yn ofalus iawn ar gyflogwyr sydd eisiau rhoi gweithwyr presennol ar gynlluniau y maent yn eu galw yn brentisiaethau, fel y gallwn fod yn sicr, mewn gwirionedd, mai prentisiaethau ydynt ac nid ail-labelu cynllun hyfforddi sy'n bodoli eisoes . Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi pam yr ydym eisiau gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â chael pobl i mewn i'r gweithlu a chael pobl wedi’u hyfforddi'n briodol pan eu bod yn y gweithlu; nid yw'n ymwneud â labelu rhywbeth i gael bathodyn ar ei gyfer.
Rwy’n credu, o ran y cysylltiadau, bod yr hyn yr ydym yn sôn amdano o ran y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ymwneud i raddau helaeth â dod ag addysg, cyflogwyr a chymunedau busnes ynghyd. Rydym hefyd yn rhedeg cynllun gyda chymorth a gefnogir gan fusnesau yn y gymuned. Rydym wedi cynnal cynllun arbrofol llwyddiannus iawn ar gyfer hynny i lawr yn Sir Gaerfyrddin—rwy'n gwybod bod rhai Aelodau yn gyfarwydd ag ef—ac rydym yn gobeithio cyflwyno hynny mewn mwy o ardaloedd o'r wlad mor gyflym ag y gallwn. Bwriad y cynllun hwnnw yw cael profiad gwaith o ansawdd da allan yna.
Rwyf am ymbil ar yr Aelod ac, yn wir, pawb arall sy'n bresennol yn y Siambr heddiw a dweud hyn: mae llawer o gyflogwyr yn dweud wrthyf— canran fawr iawn o gyflogwyr mewn gwirionedd, yn ôl arolwg Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, yn dweud—y byddent yn fwy parod i gymryd person ymlaen fel newydd-ddyfodiad i’w cwmni pe byddai ganddo brofiad gwaith da, ond mae nifer fawr iawn o bobl sy'n dweud hynny nad ydynt mewn gwirionedd yn darparu profiad gwaith. Felly, os oes gennych gwmnïau o'r fath yn eich etholaethau a’ch rhanbarthau, rwy’n eich cymell i'w hannog i ymuno â'n cynlluniau profiad gwaith ac i roi'r profiad i ystod ehangach o bobl ifanc.
Diolch, Weinidog, am y datganiad. Gan ddychwelyd at gwestiwn yr ardoll brentisiaeth am eiliad, cyfeiriasoch ato fel treth cyflogwr yn eich datganiad. A oes unrhyw ddadansoddiad o'r risg bosibl i swyddi yng Nghymru a achosir gan yr ardoll hon ar gyflogwyr, gan gofio mai pwynt prentisiaeth, wrth gwrs, yw cael pobl i mewn i swyddi sgiliau uchel, am gyflog gweddus?
Nid oes gennym hynny, hyd yma. Bydd y rhai hynny ohonom a oedd yn bresennol yn y Cynulliad blaenorol yn gwybod ein bod wedi pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ganiatáu i Gyllid a Thollau EM gasglu data yng Nghymru ac i rannu data â ni. Ar hyn o bryd, Cyllid a Thollau EM yw'r unig bobl sydd â'r data hwnnw ac rydym mewn trafodaethau gyda hwy ynglŷn â chostau rhyddhau’r data hwnnw i ni. Fodd bynnag, rydym yn gwybod, wrth sgwrsio â swyddogion o Lywodraeth y DU, ei fod wedi bod mor anodd ag yr oeddem ni'n tybio y gallai fod, ac yn fwy anodd nag yr oedden nhw yn meddwl y gallai fod, i nodi'n gywir pwy sy'n gweithio ac yn byw yng Nghymru, oherwydd , yn amlwg, mae gennym ffin hydraidd iawn, a bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol o hynny. Rydym yn parhau i wthio Llywodraeth y DU yn drwm iawn ar hyn, ond mae'n rhaid dweud, hyd yn oed yn y cynllun yn Lloegr, fel y'i cynigir, maent yn amlwg yn disodli arian a arferai gael ei ariannu trwy drethi cyffredinol gydag arian a ariennir bellach trwy’r dreth cyflogwyr benodol iawn hon.
Hoffwn longyfarch ein Gweinidog a Llywodraeth Cymru ar yr ymrwymiad strategol parhaus i'r agenda brentisiaeth wrth sicrhau Cymru fwy ffyniannus a chydnerth a chyfartal. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael fy ethol ar ein haddewid maniffesto o tua 100,000 o brentisiaethau newydd, ac mae hynny y tu draw i lwyddiant Twf Swyddi Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr iawn y consensws trawsbleidiol yr wyf wedi ei glywed eto heddiw dros bwysigrwydd y rhaglenni prentisiaethau, ond mae perygl gwirioneddol sy'n amlwg iawn, ac mae eisoes wedi ei fynegi heddiw. Er fy mod yn sicr yn rhannu'r pryderon ynghylch yr ardoll brentisiaeth, mae angen i mi ddatgan y bydd 94,000 o brentisiaethau, fel y gwyddoch, yn ystod y pedair blynedd nesaf, yn cael eu cefnogi gan werth £83 miliwn o gronfeydd cymdeithasol yr UE. A yw'r Gweinidog yn credu y bydd cael gwared ar arian Ewropeaidd o Gymru drwy bleidlais i adael, mewn gwirionedd, fel y mae’r blaid gyferbyn yn dymuno ei weld, yn peryglu’r rhaglenni prentisiaeth gwerthfawr o'r fath sy'n newid bywydau ac, o ganlyniad yn peryglu economi Cymru gyfan?
Rwy’n cytuno’n llwyr y byddai colli arian strwythurol a chymdeithasol Ewrop i'r rhaglen brentisiaeth yn ergyd ddifrifol i Gymru, ond hoffwn i fynd â hyn ychydig ymhellach na dim ond yr arian. Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol i Llyr, mewn gwirionedd, rydym wedi elwa'n aruthrol ar rannu arfer da ar draws Ewrop ac o allu bod yn rhan o'r teulu Ewropeaidd o ran datblygu rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol da. Rydym wedi ymweld â nifer o wledydd yn Ewrop sydd â rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol ardderchog. Efallai fod yr aelodau yn gyfarwydd â'r rhaglenni cymhwyster deuol yn yr Almaen, er enghraifft. Mae enghreifftiau rhagorol yn yr Iseldiroedd a nifer o rai eraill yr oeddem yn gallu manteisio arnynt. Yn wir, wrth lunio ein rhaglen brentisiaeth lwyddiannus iawn ein hunain, rydym wedi ystyried yr enghreifftiau da iawn hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm arall dros beidio â bod eisiau bod yn ynys fach anghysbell ar ymyl cyfandir mawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Ac, yn olaf, Michelle Brown.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r addewid i greu myrdd a llawer mwy o brentisiaethau. Mae hyfforddiant o safon yn eithriadol o bwysig, ac mae'r bwriadau wrth greu’r prentisiaethau hyn yn ganmoladwy, ond mae ar brentisiaid angen gwaith i fynd iddo ar ôl iddynt orffen eu prentisiaethau. Felly, heb y swyddi hynny i fynd iddynt, mae'r brentisiaeth o werth personol ar gyfer y prentis, ond dim ond edrych yn dda mae hynny i raddau helaeth heb swydd i fynd iddi. Felly, yr hyn yr hoffwn i ofyn i'r Gweinidog yw: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog creu swyddi i’r prentisiaid hyn i fynd iddynt ac i sicrhau y gall y prentisiaid hyn ddefnyddio eu hyfforddiant i ennill bywoliaeth weddus? Pa gymorth y gallwch chi ei roi i gyflogwyr er mwyn eu hannog i roi gwaith i'r prentisiaid hyn ar ôl iddynt orffen eu hyfforddiant? Diolch.
Felly, bydd yr Aelod wedi clywed yn fy natganiad mai’r hyn yr wyf i’n siarad amdano yw annog darpariaeth prentisiaeth mewn meysydd prinder sgiliau yng Nghymru, fel y nodwyd trwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ar gyfer y tri rhanbarth o Gymru lle mae gennym y partneriaethau ac ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. Efallai fod yr Aelod wedi clywed fy atebion i Aelodau eraill am ein tristwch bod arolwg Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau wedi ei atal gan Lywodraeth y DU. Rydym mewn sgwrs gyda'r gwledydd datganoledig eraill ynghylch pa un a allwn fwrw ymlaen â hynny ar ein pennau ein hunain, oherwydd roeddem yn defnyddio’r arolwg hwnnw i raddau helaeth i lunio ein darpariaeth, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflogi prentisiaid mewn ardaloedd lle gwyddom fod prinder sgiliau ac, felly, swyddi iddynt fynd iddynt ar ôl iddyn nhw gael eu hyfforddi. Efallai fod yr Aelod hefyd wedi fy nghlywed yn crybwyll ein bod yn adolygu rhai o'n darpariaethau prentisiaid lefel 2 lle y gwyddom ein bod yn gor-ddarparu mewn rhai meysydd a'n bod eisiau annog y rhwydwaith o ddarparwyr i beidio â darparu nifer fawr iawn o brentisiaid lefel 2 mewn meysydd lle'r ydym yn gwybod bod gorddarpariaeth ac, yn hytrach, ailgyfeirio eu hymdrechion i feysydd lle'r ydym yn gwybod bod tanddarparu. Mae hynny hefyd yn golygu—oherwydd gwyddom fod tanddarparu yn bennaf yn y meysydd sgiliau uwch hynny—ein bod eisiau annog prentisiaethau, nid yn unig ar y lefel mynediad, lefel 2, neu bod arnom eisiau i’r rhai sy’n gadael yr ysgol fynd i mewn i’r rheini, ond rydym yn awyddus i gael system brentisiaeth bob oed sy'n annog pobl ar lefel 3, cyfwerth â lefel A, a lefel 4, gradd sylfaen ac uwch, i fynd i mewn i'r system brentisiaeth hefyd i lenwi'r prinder sgiliau lefel uwch y mae cyflogwyr yn adrodd amdano drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol ac, yn wir, mewn gwirionedd, hyd at eleni, drwy Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau Felly, mae gennym strategaeth ar gyfer hynny.
Hefyd, mae'n rhaid i brentis fod wedi ei gyflogi yn y lle cyntaf, yn amlwg, er mwyn bod yn brentis, ac mae nifer fawr o'r cynlluniau prentisiaeth ar y cyd sydd gennym yn ffyrdd o drefnu hynny drwy—. Er enghraifft, Blaenau Gwent—cynllun blaengar iawn lle mae'r cyngor yn gallu gweithredu fel y cyflogwr ar gyfer nifer o brentisiaid a rennir ar gyfer busnesau bach a chanolig bychan iawn na fyddai fel arall yn gallu fforddio'r costau cyflogi. Felly, rydym yn edrych ar hynny yn fanwl iawn. Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac rydym yn parhau i edrych ar hynny drwy ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Dyna ni, rydym wedi achub ein cam a mwy—rwyf innau wedi achub cam fy hun drwy beidio â mynd dros amser.