– Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2016.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy’n galw ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6021 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llwyddiannau enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc ar hyn o bryd.
2. Yn cydnabod y rôl y gallai rhan Cymru yn y bencampwriaeth ei chwarae o ran hybu cyfranogiad mewn chwaraeon, gwella lefelau iechyd y cyhoedd a chreu etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein hathletwyr elitaidd.
3. Yn mynegi pryder at ganfyddiadau Arolwg Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio maint yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy’n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu’n ordew.
4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i ddefnyddio digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, ac wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Euro 2016, i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.
Diolch i chi, Lywydd. Gobeithiaf y bydd y drafodaeth hon ychydig yn llai dadleuol na’r olaf, ond byddaf yn sôn am Ewrop sawl gwaith yn y ddadl hon. Rwy’n falch o gyflwyno’r ddadl hon ar effeithiau’r pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd ar Gymru, yn ogystal ag ôl-effeithiau hirdymor y digwyddiad ar iechyd, ac i gynnig y cynnig yn enw Paul Davies. Rwy’n falch o ddynodi cefnogaeth i’r gwelliant i’n cynnig yn enw Simon Thomas hefyd.
Roeddwn eisiau dechrau’r ddadl heddiw drwy longyfarch tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Rwy’n siwr ein bod, fel pawb arall yn y Cynulliad heddiw, yn hynod o falch o gyflawniadau ein tîm yn cyrraedd eu pencampwriaeth bêl-droed rhyngwladol cyntaf ers y Cwpan y Byd 1958 yn Sweden, ac mae’r balchder yn dwysáu yn dilyn eu buddugoliaeth, wrth gwrs—eu buddugoliaeth 2-1 dros Slofacia ddydd Sadwrn—ac nid ydym ond un canlyniad yn unig i ffwrdd o’r cam bwrw allan yn y bencampwriaeth, ac oni fyddai mor felys pe bai’r canlyniad hwnnw’n dod yn erbyn ein cymdogion Seisnig yfory?
Mae gan Gymru hanes balch o lwyddiant yn y byd chwaraeon yn cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr sy’n fwy o lawer na’r norm ar gyfer gwlad o’i maint. Cynaliasom Gwpan Rygbi’r Byd yn 1999, rowndiau terfynol Cwpan yr FA rhwng 2001 a 2005, dwy gêm brawf Cyfres y Lludw, cam blynyddol ym mhencampwriaethau ralïo’r byd, yn ogystal â Chwpan Ryder 2010, ac rydym hefyd wedi sicrhau’r hawliau i gynnal rownd derfynol cynghrair y pencampwyr 2017. Rwy’n gobeithio nad wyf wedi anghofio unrhyw beth. Os ydw i, croeso i chi ymyrryd. Ond mae llawer o bencampwyr yng Nghymru, o Gareth Bale a Geraint Thomas i’r enillydd medal aur, Jade Jones, wedi codi i frig eu meysydd ac wedi cynrychioli ein gwlad gyda rhagoriaeth ar draws y byd. Nawr, er gwaethaf y llwyddiannau hyn, mae’r cyfraddau sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru yn bryderus o isel. Pan gyhoeddodd Llywodraeth flaenorol y strategaeth ‘Dringo’n Uwch’ yn 2005, dywedodd mai ei dymuniad oedd gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ganolog i fywyd Cymru. Nawr, mae arolygon diweddar yn dangos mai ychydig iawn o gynnydd a fu yn y gyfran o oedolion sy’n gwneud mwy na 150 munud o chwaraeon yr wythnos, ac er bod y canfyddiadau hyn i’w croesawu wrth gwrs, rwy’n credu eu bod hefyd yn tynnu sylw at nifer o feysydd y mae angen i’r Llywodraeth ganolbwyntio arnynt.
Un o’r prif faterion y mae angen mynd i’r afael ag ef yn ddybryd yw’r cysylltiad clir rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon a chefndir economaidd-gymdeithasol. Mae pobl sy’n ennill cyflogau is yn llawer llai tebygol o wneud ymarfer corff yn rheolaidd, ac wrth gwrs, rwy’n meddwl y gallwn i gyd gytuno bod rhaid unioni hynny. Ar lefel plant cynradd, mae’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ysgolion cynradd ledled Cymru yn amlwg wedi gostwng. Mae addysg gorfforol, wrth gwrs, yn hanfodol i fagwraeth plant ledled Cymru, ac mae’n galonogol fod ffordd iach o fyw yn cadw plant yn heini ac yn llawn cymhelliant i barhau i wneud ymarfer corff yn eu bywydau fel oedolion. Ar adeg pan fydd pob llygad wedi’i hoelio ar gampau ein bechgyn yn Ffrainc, dylid gofyn o ble y daw Gareth Bales y dyfodol os yw’r amser a roddir i addysg gorfforol plant cynradd yn parhau i leihau.
Nawr, o ran effaith chwaraeon yng Nghymru ar y nifer sy’n gwneud ymarfer corff, rwy’n arbennig o bryderus fod y Llywodraeth flaenorol wedi torri cyllid i weithgarwch corfforol ledled Cymru yn y gyllideb ddiweddar. Yn ogystal, mae cyllid cymunedol i glybiau chwaraeon a hamdden ar draws Cymru wedi parhau i ddirywio, felly ar yr un pryd ag y mae ffioedd yn codi ar gyfer ein caeau pêl-droed a rygbi—gwn ei bod yn costio £55 yn awr am gae pêl-droed, a £75 am gae rygbi. Mae’r cynnydd hwn yn rhwystrau wrth gwrs i gymryd rhan mewn chwaraeon. Nawr, gyda’r cysylltiad rhwng y niferoedd cynyddol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac iechyd da, mae’n dilyn yn naturiol fod cyfraddau cyfranogiad isel yn niweidiol i iechyd y cyhoedd. Yn 2015, roedd 24 y cant o boblogaeth Cymru wedi’u categoreiddio’n ordew, ac roedd 59 y cant o’r boblogaeth dros bwysau. Mae problemau pwysau, wrth gwrs, yn creu problemau iechyd ychwanegol fel diabetes a phwysedd gwaed uwch, dau gyflwr sydd wedi cynyddu’n ddramatig yng Nghymru dros y degawd diwethaf.
Nawr, yn economaidd, mae ein llwyddiant yn Ewro 2016 hefyd yn creu cyfle gwych i hysbysebu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, nid yn unig i Ewropeaid, ond hefyd o amgylch y byd. Roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i arddangos cyrchfannau twristaidd ein cenedl ym Mhentref Ewrop, ac wedi buddsoddi mewn hysbysebion mewn nifer o ieithoedd i farchnata’r wlad wych hon, ac rwy’n gobeithio eu bod yn llwyddo i ddenu ymwelwyr. Nawr, yn ddomestig wrth gwrs, mae’r bencampwriaeth Ewropeaidd hefyd yn hwb da i’n clybiau a’n bariau a’n tafarndai lleol, ac rwy’n gwybod y byddaf yn gwneud fy rhan i helpu economi leol Sir Drefaldwyn am 2 o’r gloch yfory.
Felly, gyda llawer o lygaid yn gwylio’r tîm mewn lolfeydd a thafarndai a pharthau cefnogwyr ar draws Cymru, ond hefyd yn Ffrainc, mae Ewro 2016 yn darparu cyfle gwych i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar draws Cymru yn awr ac yn y dyfodol, ac rwy’n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru, gan weithio wrth gwrs mewn partneriaeth â chyrff eraill y Llywodraeth, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol, yn adeiladu ar lwyddiant ein tîm pêl-droed er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig ymysg y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a bod camau’n cael eu rhoi ar waith i wella iechyd cyhoeddus dynion Cymru a merched Cymru.
Yn olaf, mae digwyddiadau fel hyn yn dod ag ymdeimlad enfawr o falchder cenedlaethol, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i’n tîm pêl-droed yfory ac ar gyfer gweddill y bencampwriaeth. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Felly galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i Russell am agor y ddadl yma a hefyd am dderbyn ein gwelliant ni, sydd yn ffeithiol, a dweud y gwir. Rydym ni yn gresynu bod yna doriadau wedi bod mewn chwaraeon ar lawr gwlad achos toriadau cyllidol. Ac wrth gwrs mae’n bwysig inni hefyd ymuno wrth longyfarch tîm pêl-droed Cymru, a wnaeth gael llwyddiant eithriadol dros y penwythnos. Ac, wrth gwrs, mae hwn yn hwb sylweddol i’n hiechyd meddwl i gyd, buaswn i’n meddwl, gan ein bod yn sôn am effaith mabolgampau, chwaraeon, ac ati ar ein hiechyd ni—nid jest iechyd corfforol, ond wrth gwrs iechyd meddwl. Mae pawb yn hapusach eu byd pan fydd ein timau cenedlaethol ni yn cael llwyddiant, ac yn arbennig, felly, pan oedd ar un adeg yn yr ail hanner yna yn edrych yn go ddu, ac wedyn roedd y bechgyn yn troi pethau rownd, ac yn lwyddo i ennill ar ddiwedd y dydd.
Ond rwy’n mynd i sôn nawr, yn yr amser sydd gyda fi, jest am bwysigrwydd ymarfer corff. Ffitrwydd, hynny yw: ffitrwydd, a’r angen i bawb gadw’n heini er mor anodd mae hyn yn gallu bod i nifer fawr ohonom ni. Ond rydym ni wastad yn gallu cerdded i lefydd, er enghraifft, yn lle defnyddio’r lifftiau. Achos mae yna sawl ymchwil meddygol wedi dangos rŵan bod cadw’n heini—bod yn ffit, hynny yw—yn eich diogelu chi rhag ddatblygu pethau fel dementia, yn lleihau graddfeydd o glefyd melys, pwysau gwaed a strôc ac ati—nifer o afiechydon rydym ni’n brwydro’n hir i ddatblygu tabledi newydd i’w trin nhw. Ac eto, os ydych chi’n ffit, rydych chi’n dueddol o ddioddef llai o’r afiechydon yna. Pe bai cadw’n ffit yn dabled, byddem ni i gyd yn mynnu bod NICE yn cytuno i feddygon fel fi i’w presgreibio. Ond mae bod yn ffit yn llawn fwy effeithiol na’r rhan fwyaf o dabledi sydd gyda ni ar hyn o bryd i fynd i’r afael â dementia a strôc ac ati.
Felly, cerdded 10,000 o gamau bob dydd ydy’r peth—10,000 ohonyn nhw. Mae’n ddigon hawdd i’w gyflawni, ond mae’n gallu bod yn her.
Nid wyf yn gwybod os wyf wedi sôn eto fy mod wedi bod yn Aelod o’r Cynulliad yma o’r blaen. Rhyw chwe mlynedd yn ôl yn awr, fe wnes i gael llwyddiant efo pasio Mesur yn diogelu ein meysydd chwarae ni yng Nghymru. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am bob cefnogaeth o bob plaid bryd hynny i ddiogelu dyfodol ein meysydd chwarae ni, i wneud yn siŵr bod y genhedlaeth nesaf o Gareth Bales ac ati yn gallu cael rhywle i redeg o gwmpas, hyd yn oed yng nghanol ein dinasoedd mwyaf ni.
Ac, wrth gwrs, i orffen, fel rydym ni i gyd yn heneiddio, mae’r cyflymder treiddgar oedd gyda ni pan oeddem ni’n ifanc wrth chwarae rygbi neu bêl-droed ac ati yn dechrau mynd yn ddiffygiol rŵan fel rydym ni’n mynd yn hŷn, yn naturiol. Ond, wrth gwrs, mae yna bethau eraill yn datblygu, fel pêl-droed wrth gerdded—’walking football’. Mae’n datblygu mewn sawl rhan o Gymru ac mae’n bwysig i’r rhai ohonom ni sy’n heneiddio a ddim yn gallu rhedeg o gwmpas cweit mor gyflym ag yr oeddem ni ers llawer dydd. Wrth gwrs, mae hwnnw hefyd yn edrych am gefnogaeth, fel pob camp arall.
I ddiweddu hefyd—tîm rygbi’r Cynulliad. Mae yna sawl Aelod yn fan hyn sy’n gallu chwarae rygbi i’r Cynulliad. Mi fyddaf yn gwneud ‘pitch’ i fod ar yr asgell chwith unwaith eto, am resymau amlwg. Ond, wrth gwrs, mae aelodaeth y tîm yna ar agor i bawb. Rwy’n edrych ar fy nghyd-Aelodau hefyd i ddatblygu’r ffitrwydd yna, i ddod yn rhan annatod o dîm rygbi Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diolch yn fawr iawn ichi.
A gaf fi ddechrau heddiw drwy gofnodi diolch pawb ohonom, rwy’n siŵr, i Athro Laura McAllister ac i’w llongyfarch ar yr anrhydedd a dderbyniodd yn y rhestr anrhydeddau pen-blwydd ychydig ddyddiau yn ôl?
Gall yr Aelodau sy’n dychwelyd gofio dadl ym mis Tachwedd 2014 pan rennais fy syndod ynghylch y datgeliad fy mod bellach yn cael fy ystyried yn berson hŷn. Efallai mai’r rhan waethaf o’r deffroad hwnnw oedd y darganfyddiad fy mod yn briod â pherson hŷn hefyd. Yn wir, mae mor hen fel bod ganddo yntau hefyd grys-T The Clash; mae wedi’i guddio yn ei gwpwrdd dillad. Mae nifer o flynyddoedd yn hŷn na’r tŷ y symudasom i mewn iddo bron 26 mlynedd yn ôl, ond yn anffodus nid oes unrhyw drowsus lledr i’w ganfod yno—yn wahanol i gartref Huw Irranca-Davies, mae’n ymddangos.
Fodd bynnag, mae’r crysau a gadwodd ers ei ddyddiau fel chwaraewr gyda thimau pêl-droed a rygbi yng nghanolbarth Cymru, o’i blentyndod i’r timau ieuenctid ac yn y pen draw fel oedolyn, yn hŷn na hynny hyd yn oed. Nid ydynt yn dimau enwog. Hyd yn oed yn awr, mae yna rannau o Gymru lle mae talent a allai fod yn elitaidd yn llithro drwy’r rhwyd oherwydd ei bod yn anodd datblygu talent elît mewn ardaloedd prin eu poblogaeth. Mae’n daith 60 milltir i’r academi bêl-droed agosaf ac yn ôl i ble mae fy nheulu yn byw, er enghraifft, ac ni cheir cludiant cyhoeddus o unrhyw werth. Wrth gwrs, os ydych yn gallu gwneud y daith, mae’n bosibl y caiff ei dilyn gan daith o bron i 200 milltir i gyd i chwarae gêm. Mae’n her i’r chwaraewyr a’u tacsis mam a dad yn rhywle fel Pen-y-bont yn fy rhanbarth i pan fyddant yn mynd i Aberystwyth unwaith y flwyddyn. Ond i chwaraewyr a thacsis mam a dad yn Aberystwyth, mae’r teithiau hir hynny’n wythnosol a thalent yn cael ei golli wrth i’r amynedd dreulio. Os yw’r Sophie Ingle neu’r Gareth Bale nesaf yn dod o Gribyn neu Lanbryn-mair, dyweder, a ydym yn siŵr ein bod yn mynd i ddod i wybod amdanynt mewn gwirionedd?
Fodd bynnag, mae’r hen ddyn fy nhad—rwy’n cael ei alw’n hynny bellach—wedi gwirioni ar chwaraeon. Mae’n gweiddi ar y teledu ac yn cynnwys y gath yn rhan o’i bynditiaeth ryfeddol o’i gadair freichiau: tan yn ddiweddar, roedd yn hyfforddi plant y dref a thimau pêl-droed ieuenctid a phob wythnos mae’n ymuno â chriw o, wel, fe’u galwaf yn hen lawiau, i fod yn garedig, i chwarae pêl-droed pump bob ochr. Efallai fod ganddo docyn tymor at yr osteopath lleol o ganlyniad i hyn, a llawer o bobl eraill sy’n ymuno ag ef, ond iddo ef a’r dynion hŷn hynny, nid ymwneud â ffitrwydd yn unig y mae’r chwaraeon hyn; mae’n ymwneud â chael gwared ar straen; mae’n ymwneud â chadw cyfeillgarwch maith rhwng dynion; mae’n ymwneud â’r dafarn bob amser wedi’r gêm; mae’n fath o sied y dynion mewn cit pêl-droed Barcelona rhad. Ac felly mae ymgyrchoedd fel ‘Ry’n ni’n gwisgo’r un crys’ wedi helpu i dynnu sylw at werth chwaraeon i iechyd meddwl dynion yn benodol, ond mae ei hegwyddorion yn berthnasol hefyd i bobl hŷn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos mai’r siroedd mwyaf prin eu poblogaeth yng Nghymru yw’r rhai lle mae’r gyfran fwyaf o bobl hŷn yn byw, gydag arwahanrwydd yn arwain at unigrwydd a dirywiad mewn iechyd meddwl ac iechyd corfforol.
Nawr, nid yw fy ngŵr ond yn ei bumdegau, ond mae rhwng un o bob tri ac un o bob pump o bobl dros 65 oed hefyd yn honni eu bod wedi gwirioni ar chwaraeon. Ac fel y clywsom gan Russell George yn gynharach, nid yw’r ffigurau o reidrwydd yn argyhoeddi ar hyn, ac rwy’n meddwl bod yna ychydig o waith i’w wneud o hyd ar yr ystadegau fel y gallwn fod yn hollol siŵr beth yw’r sefyllfa mewn gwirionedd. Hynny yw, roeddwn yn meddwl bod y ffigurau’n swnio’n eithaf uchel pan edrychais arnynt, hyd yn oed pan ydych yn cydnabod eu bod yn cynnwys bowls, nofio, defnyddio peiriant ymarfer corff a golff. Ond os edrychwch ychydig yn agosach, dim ond 7 y cant o rai dros 65 oed sy’n gwneud chwaraeon neu ymarfer corff ddwywaith yr wythnos, er bod 18 y cant ohonynt yn aelodau o glybiau chwaraeon, ac rwy’n credu bod hynny’n eithaf diddorol. Nid yw dros hanner y bobl dros 65 oed yn gwneud unrhyw chwaraeon neu ymarfer corff wedi’i drefnu, ac mae’r patrwm yn cychwyn gryn dipyn yn gynt gyda llai na hanner y rhai rhwng 55 a 64 oed yn gwneud unrhyw chwaraeon. Eto i gyd, mae dros draean yn dweud eu bod yn cymryd rhan dair gwaith yr wythnos. Mae’n edrych fel naill ai’r cyfan neu ddim o gwbl, onid yw? Mae’r rhai sy’n gwirioni ar chwaraeon i’w gweld yn gwirioni go iawn.
Cynhelir hanner marathon Abertawe ar 26 Mehefin, ac er nad yw pawb sy’n cymryd rhan yn dod o Gymru wrth gwrs, byddech yn synnu clywed faint o bobl hŷn a gymerodd ran yn y ras honno y llynedd. O 3,441 o redwyr, roedd 241 ohonynt yn ddynion rhwng 50 a 60, a 51 o ddynion dros 60 oed. Cymerodd 40 o fenywod dros 45 oed ran hefyd; mae hynny’n golygu bod ychydig o dan 10 y cant o’r rhai a gymerodd ran yn bobl hŷn. Y ffigur llawer is ar gyfer menywod sy’n cymryd rhan yw’r hyn rwy’n dod ato i orffen hyn, oherwydd mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod gwerth chwaraeon yn mynd y tu hwnt i weithgarwch corfforol, ac mae’n arbennig o werthfawr i fenywod sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol. Ac mae hefyd yn honni bod menywod yn dda iawn am ymateb i ddarpariaeth briodol.
Felly, gorffennaf fy nghyfraniad gyda hyn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n canmol yr holl waith sy’n digwydd ar iechyd meddwl dynion a gwaith y gwneuthurwyr polisi sy’n cael ei wneud ar annog merched ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, ond sut y gallwn helpu menywod, a menywod hŷn, sydd mewn perygl o fynd yn ordew—menywod fel fi—i oresgyn embaras y dyddiau a fu yn hen gampfa’r ysgol a dod i wirioni ar chwaraeon yn ddiweddarach mewn bywyd, hyd yn oed os mai pêl-droed yw’r chwaraeon?
Hoffwn ddechrau drwy gydnabod cyflawniad enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn Ewro 2016 yn Ffrainc. Ac fel y mae pawb wedi dweud, dyma’r tro cyntaf ers 58 mlynedd i Gymru gyflawni hynny. Ac oedd, roedd y fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Slofacia yn eu gêm gyntaf yn drawiadol, ac ni allwn sôn am y gêm heb hefyd sôn am un chwaraewr, Joe Allen o Hwlffordd.
Ond mae llwyddiant Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf eisoes wedi ysbrydoli pobl ar draws y wlad yn wir i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon. A derbynnir yn eang eisoes y gall digwyddiadau chwaraeon mawr fod â photensial i hybu cyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon, a hefyd i gynyddu twristiaeth yn sgil hynny. Nid wyf yn mynd i redeg drwy’r rhestr o bethau y mae Cymru wedi bod yn ymwneud â hwy oherwydd gwnaeth Russell George hynny ar fy rhan. Ond mae angen i ni fanteisio ar y momentwm sydd wedi’i greu gan gyfranogiad Cymru yn Ewro 2016, a’i rhan yn cynnal ac yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hynny a gafodd eu crybwyll yn flaenorol. A rhaid i ni annog rhagor eto o blant, pobl ifanc ac oedolion i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i barhau i wneud ymarfer corff.
Rhaid i ni hefyd fedi’r manteision economaidd a’r budd i iechyd sy’n llifo’n naturiol o hynny. Ond rhaid i ni hefyd adael etifeddiaeth barhaus i’n hathletwyr elitaidd. Mae hynny, mewn unrhyw achos, yn llawer iawn i’w ofyn. Ond ers 2008, mae’n wir fod yr arolwg ar oedolion egnïol yn dangos bod 41 y cant o oedolion bellach yn cymryd rhan dair gwaith yr wythnos mewn rhyw fath o weithgaredd, a dim ond 29 y cant oedd y ffigur yn 2008. Mae hefyd yn wir fod gweithgaredd cynyddol, o’i briodoli i bobl ifanc, yn fwy byth.
Nid oes amheuaeth fod angen i ni wella’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn rhai meysydd ac mae angen i ni edrych ar pam nad yw rhai o’r unigolion a’r grwpiau hyn o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn gwirionedd neu’n cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon gymaint ag y gallent. Serch hynny, rydym wedi cael gwelliannau ac mae rhai o’r gwelliannau hynny i’w priodoli’n rhannol i ymwneud Llywodraeth Lafur Cymru mewn ystod o waith sy’n hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hynny wedi llwyddo i wella mynediad at gyfleoedd, mae wedi sicrhau bod addysg gorfforol yn diwallu anghenion ein plant a’n pobl ifanc ac mae hefyd wedi helpu i gefnogi chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol.
Ond rhan o’r darlun yn unig yw hynny. Rwy’n meddwl na allwn fynd drwy’r ddadl hon heddiw heb gydnabod cyfraniad aruthrol y llu o wirfoddolwyr—roedd Suzy Davies yn eu galw’n dacsis mam a dad—ond gwirfoddolwyr ydynt er hynny. Maent yn helpu i sicrhau bod yna nifer enfawr o 235,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru. Mae’n wir fod 10 awr neu fwy bob mis yn cael eu treulio’n gwirfoddoli. Mae hwnnw’n gyfraniad enfawr ac yn un, rwy’n teimlo, sy’n deilwng i gael ei ddatgan yma heddiw. Pe baem yn rhoi pris ar y cyfraniad hwnnw, byddai’n £300 miliwn neu’n 15,000 o weithwyr amser llawn. Felly, mae hynny’n rhoi syniad o faint y cyfraniad hwnnw.
Gan symud ymlaen at y bylchau mewn chwaraeon. Rwy’n credu bod rhaid i ni dynnu sylw at y ffaith fod yna fwlch rhwng y rhywiau; mae lefelau ymhlith merched i’w gweld yn disgyn wrth iddynt droi’n oedolion ifanc. Mae’n wir fod yna fylchau, a soniwyd am rai ohonynt, lle nad yw plant tlotach, plant ac unigolion anabl hefyd yn cymryd rhan mor aml ag y gallent. Gan symud yn ôl at yr hyn a ddywedodd Dai ar y dechrau un, mae’n wir fod pobl sy’n cadw’n heini, yn cadw’n iach. Ac os ydynt yn cadw’n ffit ac yn iach, nid ydynt yn mynd i fod angen gofal. Nid ydynt yn mynd i fod yn ordew ac o ganlyniad nid ydynt yn mynd i gael rhai o’r clefydau sydd mor gyffredin ac mor anodd gwneud unrhyw beth yn eu cylch.
O ystyried bod gennyf blant sy’n Gymry, gŵr o’r Alban a thad o Loegr, rwyf wedi dysgu troedio mewn modd cynhwysol iawn ynghylch mater chwaraeon tîm. Fodd bynnag, rwy’n meddwl y gallaf ddweud yn ddiogel fod perfformiad tîm Cymru yn Ffrainc yn ysbrydoliaeth i lawer o fechgyn a merched ifanc ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn adeiladu ar y brwdfrydedd a’r diddordeb hwn ac nad yw’n cael ei wastraffu. Rwy’n credu y gallem edrych ar lwyddiant y Gemau Olympaidd yn Llundain, gan fod cynnydd enfawr wedi bod yn y lefelau a oedd yn cymryd rhan mewn rhai o’r chwaraeon yno yn ystod y flwyddyn yn syth ar ôl y gemau. Unwaith eto, mae’n bwysig i ni nodi, er y bydd hyn yn gwanychu dros amser, ac er ei fod yn lleihau, mae yna bob amser gynnydd cynyddrannol sy’n parhau ac mae’n werth defnyddio hwnnw fel lifer i adeiladu arno dro ar ôl tro.
Mae tenis yn enghraifft berffaith o sut y mae chwaraeon yn bachu sylw ychwanegol ar y cyfryngau ar adegau penodol o’r flwyddyn, gyda chlybiau tenis yn gyffredinol yn gweld cynnydd yn eu haelodaeth yn ystod yr wythnosau yn syth ar ôl y pencampwriaethau cyrtiau glaswellt yn Wimbledon. Yn fwy lleol, yn fy etholaeth i, mae digwyddiadau fel Ironman Cymru a’r Penwythnos Cwrs Hir yn ysbrydoli pobl, a phobl ifanc yn arbennig, i ymuno. Mae fy mhlant wedi cofrestru gydag Ironkids y tro hwn ac nid yw’n hawdd iawn o gwbl mewn gwirionedd. Nid wyf yn hollol siŵr y buaswn yn llwyddo i gyflawni Ironkids heb sôn am Ironman ei hun.
Mae’n dorcalonnus gweld bod cysylltiad anorfod rhwng y nifer sy’n gwneud ymarfer corff a ffactorau economaidd-gymdeithasol a chyffyrddodd Joyce Watson ar hyn yn eithaf manwl. Mae’n un o ffeithiau bywyd: po isaf i lawr yr ysgol economaidd-gymdeithasol y byddwch, yr anoddaf yw hi i chi gymryd rhan mewn chwaraeon. Ond mae yna gyfleoedd rhad ac effeithiol iawn y gallwn fanteisio arnynt. Mae pethau fel parkrun yn enghraifft dda iawn o sut y mae modd gwneud ymarfer corff torfol am gost fach iawn. Weinidog, hoffwn ddeall beth y teimlwch y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo mentrau megis parkrun.
Soniodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies rywfaint am blant sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Credaf fod hwnnw’n faes hynod o bwysig i ddechrau ag ef, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae beth bynnag y byddwn yn ei ddysgu yn ystod ein plentyndod yn tueddu i fynd ymlaen gyda ni i oedran hŷn. Felly, mae’n annhebygol iawn y byddaf yn sydyn yn dechrau gwneud taekwondo neu beth bynnag y’i gelwir ac mae’n syniad sy’n peri cryn dipyn o ofn, a bod yn onest. Fodd bynnag, pe bai fy mhlentyn 11 oed yn dechrau ei wneud, dyna’r math o gyfundrefn ffitrwydd y byddai’n dod i arfer â hi ac yn 20 oed, byddai’n mynd i’r gampfa ac yn y blaen gobeithio. Felly, os gallwn fachu ein pobl ifanc yn ifanc iawn, mae gennym lawer gwell gobaith o allu cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon.
Credaf fod Russell George wedi cyffwrdd ar y ffaith fod faint o amser a roddir i chwaraeon mewn ysgolion cynradd yn gostwng ac yn gostwng yn eithaf sylweddol. Os edrychwn ar Ffrainc, lle mae tîm rygbi Cymru—tîm pêl-droed Cymru; maddewch i mi os gwelwch yn dda, yr holl bobl bêl-droed hynny sy’n caru’r gêm hardd—. Lle mae tîm pêl-droed Cymru ar hyn o bryd, yn Ffrainc, mae’n bedair awr yr wythnos ar gyfer plentyn ysgol gynradd. Yng Nghymru, maent yn lwcus os ydynt yn cael dwy awr yn iawn. Mewn gwledydd Sgandinafaidd, mae’n bedair i bum awr yr wythnos o chwaraeon, gyda phwyslais mawr ar gynnwys pawb yn yr ysgol mewn gweithgaredd chwaraeon ar y penwythnos.
Mae hyn yn bendant yn brifo pobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau gwledig lle mae’n hawdd iawn i dlodi fod yn guddiedig. Os ydych chi’n byw ar aelwyd lle nad oes incwm uchel a dim ond un car a bod y car hwnnw allan yn y gwaith gydag un o’r rhieni, ni allwch ond dal y bws ysgol i’r ysgol ac yn ôl eto; nid ydych yn cael cyfle i aros ar ôl a chymryd rhan mewn chwaraeon tîm. Nid ydych yn cael cyfle mor wych ar y penwythnos i fynd yn ôl, ymuno â chlwb nofio a gwneud yr holl bethau eraill. Felly, os ydym eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i’n hiechyd fel cenedl, i’r ystadegau ofnadwy sydd gennym ar ordewdra, ar smygu, ar y canserau y siaradais amdanynt yn gynharach y prynhawn yma gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd—ym mhob un o’r cyfraddau cynyddol hyn sydd gennym—. Mae un o bob dau o bobl a anwyd ar ôl 1960 yn mynd i gael canser. Mae hwnnw’n ystadegyn arswydus. Y ffordd i wneud gwahaniaeth yw bachu’r bobl ifanc, ennyn eu diddordeb—peidio â gadael i neb ddianc; peidio â gadael iddynt fynd i fyw yn Angle a methu â dod oddi yno. Gadewch i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddod â chwaraeon i deuluoedd ifanc, chwaraeon i bobl ifanc, oherwydd, drwy wneud hynny, nid yn unig ein bod yn mynd i’w hamddiffyn fel unigolion ond byddwn yn cymryd baich mor enfawr oddi ar ein gwlad yn y dyfodol. Mae iechyd y cyhoedd yn wynebu tipyn o argyfwng. Mae angen llawer o arian i geisio datrys y broblem. Efallai nad oes llawer y gallwch ei wneud i rywun yn fy oedran i—gallaf ddweud hynny wrthych yn awr. Ond mae gan fy mhlant—fy mhlant 11 oed a 13 oed—mae ganddynt gyfle gwirioneddol. Buddsoddwch yr arian yn y plant a gadewch i ni fynd ati o ddifrif i geisio cael chwaraeon ar eu traed ar lawr gwlad. Mae’r manteision i’n cymdeithas yn anfesuradwy.
Ydy, mae’n gamp sylweddol fod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewrop, fel y nodwyd yn y Siambr yr wythnos diwethaf hefyd. Byddai’n braf dychmygu y bydd y math hwn o gyflawniad mewn chwaraeon proffesiynol yn sbarduno cynnydd mawr yn y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon amatur ar lefelau ieuenctid a llawr gwlad. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Mae llawer yn cael ei wneud y dyddiau hyn o’r hyn a fydd yn etifeddiaeth digwyddiad chwaraeon penodol—er enghraifft, y ffaith fod Llundain wedi cynnal y Gemau Olympaidd yn 2012. Yn anffodus, fodd bynnag, mae cynnal digwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd yn costio cryn dipyn o arian, a gwelodd y bwrdeistrefi yn Llundain wedyn fod eu cyllidebau ar gyfer cyfrannu at chwaraeon ar lawr gwlad wedi cael eu torri mewn gwirionedd. Felly, gall fod yn wir nad oes unrhyw etifeddiaeth gadarnhaol go iawn i ddigwyddiad o’r fath. Er mwyn diogelu a gwella chwaraeon ar lawr gwlad, dylem yn gyntaf gydnabod y gellir gweld buddsoddiad yn y maes fel rhywbeth sy’n arwain at arbed costau hirdymor gan fod pobl ifanc ac oedolion iach sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn llawer llai tebygol o ddod yn oedolion nad ydynt yn ffit neu’n oedolion gordew yn nes ymlaen mewn bywyd. Gallai fod arbedion mawr i filiau’r GIG yn y dyfodol yn gyfnewid am fuddsoddiadau cymharol fach yn awr.
Yn hytrach na thorri cyllid chwaraeon, mae angen i ni fuddsoddi. Ond buddsoddi ymhle? Wel, mae angen cryfhau lle addysg gorfforol mewn ysgolion, mae angen i ni wella’r cysylltiadau rhwng yr ysgolion a chlybiau chwaraeon; dylai athrawon addysg gorfforol gael eu hannog i ddatblygu’r cysylltiadau hyn. Gallai fod rhaglen o ymweliadau rheolaidd gan hyfforddwyr clybiau â gwersi addysg gorfforol ysgolion yn ardal pob awdurdod lleol. Mae angen annog pobl ifanc o alluoedd amrywiol i gofrestru â chlybiau chwaraeon, nid yr elît yn unig, a gallai grantiau i glybiau adlewyrchu’r math hwn o amrywiaeth ym maes chwaraeon.
Mae Angela newydd sôn am y parkruns. Mae hyn wedi cael sylw yn y wasg genedlaethol yn ddiweddar. Rwy’n credu bod parkruns wedi’u trefnu yn Hampstead Heath, a pharciau eraill o bosibl, yn Llundain, ac roedd yna gwestiwn pa un a fyddai tâl yn cael ei godi arnynt gan gynghorau lleol—y bobl sy’n trefnu’r parkruns—am ddefnyddio parcdiroedd cyhoeddus, sydd, i mi, yn ymddangos yn hollol chwerthinllyd. A dyna lwybr y mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydym yn ei ddilyn yng Nghymru. Dylem fod yn annog y math hwn o weithgarwch gwirfoddol a allai gael llawer o bobl nad ydynt yn gwneud llawer o ymarfer corff—gallai eu cael i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan ei fod yn ddigwyddiad cyfranogaeth dorfol. Nid oes rhaid i chi fod yn dda i gymryd rhan mewn parkrun; bydd yna bobl yr un mor araf â chi yno os ydych ymhlith yr arafaf. Felly, mae angen i ni annog y math hwnnw o weithgaredd, fel yr awgrymodd Angela.
Yn olaf, mae yna lawer o oedolion ifanc yng Nghymru sydd wedi graddio mewn gwyddor chwaraeon yn y blynyddoedd diwethaf nad ydynt yn gyflogedig yn y maes hwn. Mae angen harneisio’u doniau a’u brwdfrydedd ynglŷn â chwaraeon ac mae angen i ni feddwl yn adeiladol ynglŷn â sut y gallwn fuddsoddi yn y ffordd orau o ddefnyddio’r gronfa hon o dalent segur.
Diolch yn fawr iawn. Mohammad Asghar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Cymru ar ennill ei lle yn Ewro 2016—y bencampwriaeth bêl-droed fawr gyntaf o bwys i ni fynd drwodd i’w rowndiau terfynol ers Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958? Mae wedi cymryd bron i hanner canrif i gyflawni’r nod hwn ac mae’n nod gwych a hoffwn longyfarch y tîm, y rheolwyr a phawb a wnaeth ymdrech i fod yno. Rwy’n gobeithio y byddant yn ennill yfory yn erbyn Lloegr.
Mae pob digwyddiad chwaraeon mawr yn cynyddu diddordeb pobl mewn cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag adeiladu ar symbyliad llwyddiant chwaraeon Cymru. Mae strategaethau megis ‘Dringo’n Uwch’ a ‘Creu Cymru Egnïol’ yn llawn bwriadau da, ond mae cyfraddau anweithgarwch yn dal i fod yn uchel.
Mae’r nifer sy’n gwneud ymarfer corff yn parhau i fod yn gysylltiedig â ffactorau economaidd-gymdeithasol, ac ni cheir cynnydd yn y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith grwpiau sy’n agored i niwed. Mae hyn wedi cael effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Cadarnhaodd canlyniadau arolwg iechyd Cymru yn 2015 mai iechyd yw’r her fwyaf y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu o hyd. Mae Cymru’n wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus gydag oddeutu 60 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn rhy drwm a thua’u chwarter yn ordew. Ond mae rhywfaint o newyddion da yn yr arolwg hefyd, Ddirprwy Lywydd. Mae nifer yr oedolion sy’n smygu wedi gostwng i 19 y cant ac mae goryfed mewn pyliau hefyd wedi gostwng. Fodd bynnag, mae’r darlun cyffredinol o iechyd ein cenedl yn un llwm. Mae cyfraddau cynyddol o ordewdra wedi arwain at gynnydd mewn diabetes math 2, ac mae cyfraddau canser a chlefydau’r galon wedi cynyddu.
Ers 1996, mae nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru wedi mwy na dyblu. Mae dros 180,000 o bobl yng Nghymru bellach yn dioddef o ddiabetes ac mae’n cynyddu. Os na wnawn unrhyw beth, Weinidog, yn 2025, bydd bron i 300,000 o bobl â diabetes. Am ffigur syfrdanol. Mae’n rhaid i chi annog ein pobl. Pan oeddwn yn ifanc, roeddwn yn rhedwr pellter hir, fe es am rediad fflam Olympaidd yn ôl adref, a gallaf eich sicrhau, rwy’n 70 mlwydd oed a dyna yw’r ffrwyth rwy’n ei fedi yn awr mewn gwirionedd. Rwy’n cynghori pob unigolyn a phob teulu yn y wlad hon i annog eu plant i gymryd rhan mewn chwaraeon—dyna’r rysáit gorau ar gyfer hirhoedledd. Gallaf eich sicrhau bod y cyngor hwn i bob teulu yn werth mwy na gwario miliynau a biliynau o bunnoedd ar chwaraeon.
Ond mewn chwaraeon hefyd, peth arall sy’n hanfodol iawn yw diogelwch i’n plant. Mae’n hollbwysig. Gallaf eich sicrhau, Weinidog, fod tri maes y byddaf yn sôn amdanynt yn awr y bydd yn rhaid i chi gymryd camau yn eu cylch. Un yw sicrhau bod ein plant yn cael mynediad am ddim i gaeau chwarae. Rhaid cael ffïoedd is i leoliadau chwaraeon. Mae cynghorau lleol yn dyblu’r ffïoedd ar gyfer naill ai criced, pêl-droed, rygbi neu beth bynnag ydyw. Nid wyf eisiau dibynnu ar ffigurau, ond gallaf eich sicrhau, yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r symiau a godir am y caeau hyn wedi treblu ac mae’r plant yn gadael chwaraeon—yn enwedig lleiafrifoedd ethnig—am na allant eu fforddio.
Rhif 2, hefyd, yng Nghymru, rhaid i ni ddeddfu bod yn rhaid i’r holl siopau cadwyn bwyd cyflym hyn ddefnyddio colestrol isel neu safon isel o golestrol yn eu holew. Nid yw’n ddigon da fod faniau byrgyrs yn parcio y tu allan i’n hysgolion cynradd ac uwchradd. Dylid rhoi diwedd ar hynny hefyd.
Hefyd, y trydydd, sy’n bwysig iawn—yn y misoedd diwethaf, rwyf wedi gorfod mynd i’r ysbyty i weld etholwyr ac aelodau o’r teulu. Yr hyn a welais yno yn y ffreuturau, yn y bwyty, mewn ysbytai, ysbytai’r GIG—roedd ansawdd y bwyd yn wych, ond câi’r siocled, yr hufen iâ, y sglodion wedi’u ffrio a phopeth eu rhoi’n garedig gan y staff, ond nid yw hynny’n ddigon da. Nid yw hynny mewn gwirionedd yn cyfleu neges iach i’r bobl hyn, ond mewn gwirionedd, mae’n effeithio’n gwbl groes i hynny ar bobl. Rwyf wedi adnabod pobl sy’n mynd i’r bwytai hyn i gael bwyd am mai dyna un man lle y gall pobl gael bwyd da iawn am bris rhesymol iawn, ond byddwn yn gofyn i’r Gweinidog wneud yn siŵr fod y bwyd y mae ein hysbytai yn ei gaffael yn iach, a’u bod yn prynu bwydydd a chynnyrch lleol.
Hefyd, mae yna feysydd eraill penodol, Weinidog, y—. Canlyniad yr arolwg iechyd roeddwn yn sôn amdano yn 2015—fodd bynnag, mae’r darlun cyffredinol yn llwm o ran iechyd ein cenedl: cyfraddau cynyddol o ordewdra ac afiechyd. Cynyddodd digwyddiadau chwaraeon ddiddordeb y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag adeiladu ar symbyliad llwyddiannau chwaraeon yng Nghymru. Weinidog, gwn nad oes amser, ond mae angen mwy o amser ar y ddadl hon i fwydo i mewn mai chwaraeon yw un o’r pethau gorau er lles ein hiechyd cenedlaethol. Diolch.
Diolch. Ac yn olaf, John Griffiths, os gwelwch yn dda.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn sicr, roedd yn gamp aruthrol i dîm pêl-droed Cymru ennill ei le yn rowndiau terfynol Ewro 2016 ar ôl sawl degawd o aros, a dyna’n union sut y teimlai yn Bordeaux ddydd Sadwrn. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yno gydag Aelodau eraill o bob un o’r pleidiau, ac rwy’n meddwl y gallaf ddweud ar ran pob un ohonom, ddirprwy Lywydd, fod y ffordd y perfformiodd tîm pêl-droed Cymru ar ac oddi ar y cae a’r modd y gwnaeth y cefnogwyr ymddwyn yn hollol wych ac yn adlewyrchiad gwych ar ein cenedl. Yn sicr roedd y Ffrancwyr a chefnogwyr timau pêl-droed eraill a oedd yn bresennol yn credu hynny. Felly, mae wedi bod yn stori gadarnhaol tu hwnt sy’n rhaid i ni adeiladu arni.
Un ffordd y credaf y gallwn wneud hynny, efallai, ddirprwy Lywydd, yw adfywio tîm pêl-droed ein Cynulliad. Soniodd rhywun am y tîm rygbi yn gynharach. Wel, roedd gennym dîm pêl-droed ac fe chwaraeasom yn erbyn Senedd yr Alban, San Steffan a Chynulliad Gogledd Iwerddon, ac yn wir, enillasom y twrnament ar o leiaf un achlysur. Felly, efallai y gallwn adfer hynny gyda rhai o’r aelodau newydd iau a gawsom yn yr etholiad diwethaf, a dangos esiampl dda.
A gaf fi ddweud hefyd, ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu ein bod, yng Nghasnewydd, fel y soniais yn gynharach, yn gwneud rhai pethau da mewn perthynas â gweithgarwch corfforol? Mae’n cynnwys pêl-droed a’r clybiau chwaraeon lleol, ac mae’n ymwneud â thynnu pawb at ei gilydd: y sector iechyd, yr ymddiriedolaeth hamdden, yr awdurdod lleol, clybiau chwaraeon, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cartrefi Dinas Casnewydd, a nifer o gyrff eraill yn ogystal, i weithio ar sut y gallwn gael ein poblogaeth leol i wneud mwy o ymarfer corff. Gwn fod Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd y Gweinidog yn gynharach, yn cefnogi’r ymdrechion hyn ac y bydd yn cefnogi’r ymdrechion hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar yr ymdrechion lleol hynny.
Yn olaf, ddirprwy Lywydd, o ran yr etifeddiaeth y mae’r cynnig yn gywir i sôn amdano hefyd, mae’n anodd adeiladu etifeddiaeth barhaol, ond dyma gyfle gwych, onid e, gan iddi gymryd cyhyd i ni fynd drwodd? Ond nid yn unig ein bod yno o’r diwedd yn Ffrainc, rydym hefyd wedi perfformio’n eithriadol o dda yn wir, ac rwy’n gobeithio, fel pawb arall, y gallwn adeiladu ar hynny a mynd ymlaen i’r rowndiau bwrw allan. Ond yr hyn a welsom yn lleol o ran yr ymdrechion a grybwyllais yng Nghasnewydd yw bod gan rai clybiau uchelgais i dyfu—nid pob un, ond mae gan rai uchelgais i dyfu—ac mae angen cefnogaeth ar y clybiau hynny os ydym am adeiladu ar yr etifeddiaeth. Weithiau mae’n golygu cyngor cyfreithiol, weithiau mae’n golygu cymorth gyda chyfrifyddiaeth, weithiau mae’n golygu helpu i sefydlu ymddiriedolaeth neu elusen; ond rwy’n credu bod arnom angen i Chwaraeon Cymru ymateb i’r her, ac i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden ymateb i’r her, a nodi’r clybiau sy’n uchelgeisiol yn lleol a’u galluogi i dyfu a datblygu. Byddant yn darparu cyfleoedd, fel y mae pobl wedi sôn, ar gyfer ardaloedd sydd ar eu colled ar hyn o bryd o ran amddifadedd, a hefyd ar gyfer merched, lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Os rhown gefnogaeth iddynt, byddant yn cyflawni’r uchelgeisiau sydd gennym i gyd.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am yr hyn a fu’n ddadl wirioneddol adeiladol a defnyddiol y prynhawn yma yn fy marn i. Mae’n rhoi pleser mawr i mi ddechrau drwy ymuno â’r Aelodau i ganmol llwyddiant tîm pêl-droed cenedlaethol ein dynion, ar ennill eu lle mewn pencampwriaeth fawr ac am ddangos i’r byd sut y gall chwaraeon uno cenedl. Mae’n gamp aruthrol ac mae’n dangos sut y mae’r garfan gyfan wedi gweithio gyda’i gilydd ac wedi’i symbylu gan arweinyddiaeth eu rheolwr, Chris Coleman.
Mae’r bencampwriaeth Ewropeaidd yn un o’r digwyddiadau chwaraeon sydd â’r proffil mwyaf yn y byd, gyda chynulleidfa deledu gyfanredol o 1.9 biliwn yn 2012. Bydd cynulleidfa fyd-eang o’r fath yn helpu i wella proffil Cymru, nid yn unig fel cenedl chwaraeon ond hefyd fel gwlad fach lle mae cydweithio i gyflawni nodau cyffredin yn parhau i olygu ein bod yn rhagori ar ein disgwyliadau ein hunain ac eraill.
Mae pêl-droed yn hynod o boblogaidd yng Nghymru, ac i gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i ddatblygu’r gêm ar lawr gwlad. Caiff y gwaith hwn ei yrru ymlaen gan Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn ceir 105,000 o chwaraewyr pêl-droed cofrestredig ar draws Cymru, gan gynnwys 5,000 o fenywod ac 800 o chwaraewyr anabl. Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn gweithio i ddefnyddio’r pencampwriaethau Ewropeaidd fel catalydd i ysgogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn pêl-droed. Mae hon yn enghraifft amlwg o ddefnyddio’r momentwm y mae Joyce Watson ac Angela Burns wedi’i ddisgrifio yn eu cyfraniadau.
Mae’r ymddiriedolaeth wedi sefydlu seilwaith hyfforddi o’r radd flaenaf, gan ddenu hyfforddwyr o bob rhan o’r byd. Maent yn darparu 4,000 o gyfleoedd hyfforddi bob blwyddyn, a Chymru yw’r wlad gyntaf i ddarparu addysg ar-lein i hyfforddwyr. Bydd llawer o chwaraewyr ifanc wedi cael eu hysbrydoli gan y tîm cyfredol, a bydd sefydlu’r math hwn o seilwaith yn helpu i ddatblygu ein chwaraewyr mwy talentog, ble bynnag y maent neu ble bynnag y maent yn byw. Gwrandewais yn ofalus ar gyfraniad Suzy Davies, ac un Angela Burns, oherwydd yn sicr nid wyf am weld talent yn cael ei golli neu gyfleoedd heb fod ar gael a hynny’n unig am fod y bobl ifanc yn byw mewn ardal wledig.
Gall digwyddiadau chwaraeon mawr ddarparu cyfleoedd da i gyfleu negeseuon ynglŷn â gwneud mwy o ymarfer corff a’r manteision y gallai hyn eu creu. Er enghraifft, mae digwyddiadau cyfranogaeth dorfol, megis hanner marathon y byd a’r rhestr hir a roddodd Russell George i ni, yn cynnig llwyfannau proffil uchel ar gyfer hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethu cenedlaethol i fanteisio ar y mathau hyn o gyfleoedd i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy aml. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i’n pobl ddawnus ym maes chwaraeon allu cystadlu yn erbyn goreuon y byd gartref, a chyfleoedd i fynd drwodd i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd.
Mae’n amlwg fod chwaraeon yn rhan enfawr o ddiwylliant Cymru ac yn sicr yn helpu i’n diffinio fel cenedl. Fodd bynnag, mae gwerth chwaraeon mynd y tu hwnt i fwynhad a boddhad personol; mae’n arf pwerus iawn a all ein helpu i gyflawni nodau uchelgeisiol. Un testun pryder sy’n her i Lywodraethau o gwmpas y byd yw’r cynnydd araf ond cyson yn lefelau gorbwysau a gordewdra ymysg y boblogaeth sy’n oedolion. Dangosodd y ffigurau diweddar a ryddhawyd ar gyfer 2015 o arolwg iechyd Cymru fod 59 y cant o oedolion dros bwysau neu’n ordew, o’i gymharu â 54 y cant yn 2003-04. Roedd y lefelau hefyd yn codi gyda lefelau amddifadedd, ac roeddent ar eu huchaf ymhlith pobl ganol oed.
Gwyddom nad yw newid ffordd o fyw yn digwydd dros nos ac mae’n rhaid i ni barhau i gynorthwyo ein poblogaeth sy’n oedolion i fod yn iachach. Fodd bynnag, mae’n galonogol fod y rhan fwyaf o blant yn cynnal pwysau iach. Mae data diweddar o’r rhaglen mesur plant yn dangos bod nifer yr achosion o blant oedran derbyn sydd dros bwysau ac yn ordew yng Nghymru yn sefydlog, gyda 72.9 cant yn cynnal pwysau iach. Mae hyn yn bwysig gan ein bod yn gwybod y gall patrymau ymddygiad cynnar mewn bywyd barhau wrth dyfu’n oedolyn a dylanwadu ar bwysau yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, mae’r mwyafrif hwn sy’n iach yn arwydd calonogol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn yr un modd, mae oedolion yn fwy tebygol o wneud mwy o ymarfer corff os daw’n rhan o’u bywydau cyn iddynt gyrraedd saith oed. Mae arolwg chwaraeon ysgolion Chwaraeon Cymru yn dangos bod nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd bellach yn 48 y cant, i fyny o 27 y cant yn 2011. Felly, rydym yn gwneud cynnydd, ond mae mwy i’w wneud.
Fel y mae Dr Dai Lloyd a Mohammad Asghar wedi ein hatgoffa, mae’r dystiolaeth yn amlwg yno, gan ddangos y gall mynd i’r afael â gordewdra chwarae rôl sylweddol yn lleihau effeithiau a nifer yr achosion o glefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, dementia a rhai mathau o ganser, yn ogystal â helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol yn gyffredinol. Roedd Gareth Bennett yn iawn i sôn am y gost sy’n cael ei harbed i ni os awn i’r afael â hyn. Roedd ein maniffesto yn dangos yn glir ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r mater hwn drwy gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella ein diet. Rhai yn unig o’r pethau y gallwn eu rhoi ar waith yw addysg i lywio dewisiadau gwell, nofio am ddim, mwy o deithio llesol, cyfyngu ar faint ac argaeledd bwyd afiach mewn lleoliadau allweddol, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall canlyniadau dewisiadau ffyrdd o fyw llai iach, a chyfraddau cynyddol o fwydo ar y fron er mwyn cynorthwyo ein poblogaeth ar sawl lefel.
Mae datblygiadau eraill yn cynnwys cydweithio agos rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd i ddatblygu ymyrraeth effeithiol yn y blynyddoedd cynnar, gan ddefnyddio cysyniadau o’r rhaglen ‘10 Cam i Bwysau Iach’. Bydd Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i gydariannu cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol, sydd wedi llunio cynllun gweithredu newydd ar weithgarwch corfforol. Mae’r cynllun hwn yn cael ei ystyried gan y tri chorff ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at weld y drafft terfynol cyn bo hir. Rwy’n bwriadu rhoi amser dros yr haf i ystyried y ddogfen a’i thrafod gyda’n rhanddeiliaid allweddol, gyda golwg ar ei lansio ym mis Medi.
Y cefndir i’r ddadl hon yw ein hymwneud yn un o’r cystadlaethau pêl-droed mwyaf. Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod yn fy nghefnogi wrth i mi ddymuno pob lwc i Chris Coleman, y chwaraewyr, y staff cefnogi a’r FAW. Mae’n amser gwych i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru ac yn amser cyffrous i fod yn Weinidog â chyfrifoldeb dros chwaraeon. Ni fydd angen atgoffa neb yma fod Cymru yn chwarae Lloegr yfory, ac mae’n argoeli i fod yn gêm gyffrous iawn. Rwy’n ddiolchgar am ymyrraeth y Prif Weinidog gydag awdurdodau Ffrainc ynglŷn â diogelwch ein cefnogwyr yn ystod gweddill y bencampwriaeth. Cadw ein pobl yn ddiogel yw ein blaenoriaeth gyntaf, ac rwy’n siŵr y bydd y mesurau diogelwch gwell a roddir ar waith yn golygu y bydd ein cefnogwyr yn parhau i weithredu fel llysgenhadon gwych dros Gymru fel y soniodd John Griffiths, ac yn cael profiad diogel a phleserus. Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ymateb i’r ddadl a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, a dymuno’n dda i’r Gweinidog yn ei phortffolio newydd? Rydym wedi cael cyfres o ddadleuon y prynhawn yma. Yn amlwg, cawsom y ddadl Ewropeaidd fel dadl y meinciau cefn, ac rydym yn mynd i gael y ddadl ar Fil Cymru ar ôl hyn. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar rai o’r pwysau yn y ddadl hon—iechyd y cyhoedd, bom amser diabetes a hefyd y rôl bwysig y mae chwaraeon yn ei chwarae yn sbarduno datblygiad economaidd mewn rhannau o Gymru—mae llawer o’r nodweddion yn y ddadl hon yn hollbwysig i lawer o gymunedau ar hyd a lled Cymru. Er bod llawer o hyn yn amlwg yn dda—yn enwedig dymuno’n dda i dîm Cymru, fel rydym i gyd yn ei wneud, gan sefyll ysgwydd yn ysgwydd â hwy, a gobeithio am berfformiad da yfory ar y cae a mynd ymlaen yn y pen draw i’r rownd nesaf—mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau ein bod yn edrych ar yr holl faterion eraill sydd wedi’u cynnwys yn y ddadl hon.
Fel y crybwyllodd Dr Dai Lloyd, mae negeseuon iechyd y cyhoedd yn hanfodol bwysig. Ddoe, gan ei bod yn Wythnos Diabetes Cenedlaethol, mae’r ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud fel unigolion dros ein hiechyd personol ac iechyd y cyhoedd yn elfen hanfodol wrth fynd ati i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwirionedd. Cyflwynodd Mohammad Asghar ffigurau ar ddiabetes, ac os na fyddwn yn cymryd camau erbyn 2025, bydd 300,000 o bobl wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yng Nghymru. Naw mlynedd sydd yna tan hynny. Ar hyn o bryd, mae’r ffigur yn—ac mae hwn yn ffigwr eithaf syfrdanol ynddo’i hun—185,000. Dyna ddiabetes math 2. Mae math 1 ar ben hynny hefyd, felly nid dyna’r holl achosion o ddiabetes. Bydd y ffigurau hynny’n her enfawr i’r gwasanaeth iechyd fynd i’r afael â hi a gweithio gyda phobl i reoli’r cyflwr hwnnw.
Bydd chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o wneud pobl yn fwy heini ac yn iachach. Am fy mhechodau, rwy’n dal i chwarae rygbi hŷn dros y Cynulliad. Unrhyw un o’r Aelodau newydd sydd wedi dod yma y tymor hwn, byddem yn eich gwahodd i ddod draw i unrhyw un o’r gemau y byddwn yn eu chwarae. [Torri ar draws.] Byddaf yn cadw fy nghrys amdanaf y tro nesaf rwy’n chwarae, diolch i chi, Darren. [Chwerthin.] Rwy’n credu fy mod wedi peri trawma adeg y wobr wleidyddiaeth yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr. Ond mewn gwirionedd, o’r hyn roedd Suzy Davies yn ei ddweud am ei gŵr Geraint a’r holl femorabilia sydd ganddo o’i ddyddiau chwarae, yn ogystal â chynnig profiad hyfforddi hanfodol wrth gwrs, roedd yn fy atgoffa o beth o’r memorabilia sydd gennyf o fy nyddiau chwarae i. Aethom ar wyliau wythnos y Sulgwyn, a dywedwyd wrthyf am ddod o hyd i fy nhrowsus nofio, ac mewn gwirionedd, deuthum o hyd i bâr o Speedos—ni fyddwn yn awyddus i roi’r darlun hwnnw i chi—a dywedodd fy merch 14 oed wrthyf yn bendant iawn os oedd y rheini’n dod gyda mi ar wyliau, yna’n sicr ni fyddai hi’n dod ar wyliau hefyd. Ond yn ganol oed, rydym i gyd yn wahanol, ddywedwn ni, i pan oeddem yn 18, 19, 20, ond mewn gwirionedd, ni ddylai chwaraeon gael ei gadw rhagom oherwydd ein hoed, fel y soniodd Angela Burns. Mae’n hanfodol fod pob rhan o gymdeithas yn teimlo, os ydynt am gymryd rhan mewn chwaraeon, boed yn—[Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad.
Rydych wedi sôn am y berthynas rhwng oed a’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. A fyddech yn cytuno mai un o’r chwaraeon gorau fel gweithgaredd sy’n pontio’r cenedlaethau mewn gwirionedd yw bowlio lawnt goron, sydd, wrth gwrs, yn cael ei chwarae’n eang ar draws gogledd Cymru—ac ychydig iawn yn y de? Ac wrth gwrs, mae yna gyfleusterau ardderchog yn etholaeth y Dirprwy Lywydd yn nhref y Rhyl. A ydych yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru roi camau ar waith i hybu bowlio lawnt goron fel un o’r chwaraeon hynny sy’n pontio’r cenedlaethau a all gael pobl i wneud rhagor o ymarfer corff?
Yn bendant, a byddwn yn cytuno’n llwyr gyda’r Aelod yn cyflwyno’r achos dros fowlio lawnt goron. Yn Ninas Powys, er enghraifft, yn y Bont-faen, ceir timau bowlio da iawn, gyda thimau sy’n pontio’r cenedlaethau a dynion a menywod yn chwarae hefyd, ac yn y pen draw, adeg Gemau’r Gymanwlad roedd yn bleser go iawn cael mynd i Glwb Bowlio Dinas Powys, lle’r oedd tîm Seland Newydd, lle roedd y tîm Gwyddelig, yn ogystal â bod tîm Cymru yn ymarfer yno cyn Gemau’r Gymanwlad. Ac felly, mae yna draddodiad cyfoethog ar hyd a lled Cymru y gallwn edrych arno.
Ond y peth pwysig yma, fel y mae nifer o’r Aelodau wedi nodi, yw’r gyd-ddibyniaeth rhwng y gwasanaeth iechyd a chwaraeon a’r gallu i wella iechyd a’i drawsnewid yn sylweddol, a dyna pam rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn ein dadl i fynd ati i weithio gyda’r cyrff llywodraethu—nid y cyrff llywodraethu atyniadol sydd â’r seilwaith mawr, ond y cyrff ar gyfer rhai o’r chwaraeon llai hefyd, yn y pen draw, sy’n gallu codi arian sylweddol drwy geisiadau i’r loteri, er enghraifft, neu roddion gan y cymunedau eu hunain, er mwyn darparu’r asedau hyn yn y gymuned. Oherwydd, unwaith eto, y pwynt a wnaed yn glir gan Angela Burns oedd hwn: os ydych yn byw mewn amgylchedd gwledig ac nad oes gennych fwy nag un car yn y teulu, yn aml iawn, ac yn ddealladwy, caiff y car ei ddefnyddio ar gyfer mynd i’r gwaith ac yn ôl, yn hytrach na mynychu’r clwb ar ôl ysgol efallai. Cefais fy nghalonogi’n fawr gan y Gweinidog yn dweud y byddai’n edrych ar yr agwedd benodol hon o gludiant ysgol, cludiant ôl-ysgol, i ganiatáu i fwy o blant gymryd rhan, gan ei fod yn rhwystr mawr, yn enwedig os edrychwch ar ddemograffeg ar y raddfa economaidd-gymdeithasol. Yn amlwg, yn anffodus, mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith aelwydydd tlotach yng Nghymru, yn is, ac mae hwnnw’n faes hanfodol sydd ei angen arnom oherwydd, yn amlwg, os edrychwch wedyn ar yr ystadegau iechyd, mae’r ystadegau iechyd yn dangos bod canran lawer uwch o achosion o ganser, clefyd y galon, ac ati yn y cymunedau hynny mewn gwirionedd.
Cyffyrddodd Gareth Bennett ar faterion yn ymwneud ag etifeddiaeth. Yn amlwg, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o’r materion etifeddiaeth mewn perthynas â Gemau Olympaidd Llundain, ond yn y pen draw, oni bai bod y rheini’n cael eu parhau, yn aml iawn mae’r ardaloedd lle y cynhelir y digwyddiadau yn gweld eu cyllidebau’n dioddef, oherwydd pan fydd y digwyddiad mawr wedi symud o’r dref, yn aml iawn rhaid talu’r dyledion. Ac felly, etifeddiaeth unrhyw ddigwyddiad mawr—yn amlwg mae Caerdydd yn cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y flwyddyn nesaf, er enghraifft, a bydd Llywodraeth Cymru, gobeithio, yn gweithio gyda chyrff llywodraethu eraill i gyflwyno cais am Gemau’r Gymanwlad yn 2026, a gwn ein bod wedi siarad am hyn yn y Siambr hon, ac mae’r materion hynny sy’n ymwneud ag etifeddiaeth yn bwysig iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad sioe sy’n dod i’r dref dros yr wythnosau a’r misoedd y caiff ei chynnal yw hi, sblash mawr, ac yna, yn y pen draw, flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, mae’r mynegeion iechyd a’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn diflannu.
Roedd yn siomedig ein bod wedi cael dadl ar chwaraeon heb Mike Hedges i gynnig ei ddealltwriaeth o bêl-droed. Rwy’n teimlo ein bod yn bendant wedi colli rhywbeth y prynhawn yma, oherwydd, yn amlwg, mae gan Mike ddealltwriaeth wych o hyn o’i ddyddiau fel chwaraewr. Ond yn y ddadl hon heddiw, er bod tipyn o hwyl i’w gael, mae yna neges ddifrifol i’w chyflwyno. Os edrychwch ar gyfraddau canser ymhlith menywod yn arbennig, dyna lle y gwelwyd y cynnydd mwyaf dros y 10 mlynedd diwethaf, yn enwedig ymhlith menywod 65-69 oed, lle mae’r cyfraddau wedi codi’n sylweddol, 57 y cant. Mae hwnnw’n gynnydd aruthrol, ac yn y pen draw, yn y cwestiwn a ofynnais i’r Gweinidog yn ystod y cwestiynau i’r gweinidogion heddiw, o ran menywod, gwyddom eu bod yn llusgo y tu ôl i’r dynion o ran y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Yn y pen draw, yng Nghymru, mae’r bwlch oddeutu 100,000; ar draws y DU mae’n 2 filiwn o bobl. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y rhaglen a grybwyllais, y rhaglen This Girl Can, i geisio ymgorffori hynny yn ei pholisïau ac yn ei hargymhellion. Ond yn anffodus, yn y cylch cyllidebol diwethaf, mae’n ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi torri 7 y cant oddi ar ei chyllideb i’w mentrau chwaraeon. Felly, os ydym am wneud gwahaniaeth yma mewn gwirionedd, er nad yw’n ymwneud ag arian yn unig, mae’n rhaid iddo weithio gyda’r cyrff llywodraethu a darparu ar gyfer cymunedau. Fel y mae’r Gweinidog iechyd wedi dweud yn glir yn ei ymateb i’r cwestiynau y prynhawn yma, mae’n ymwneud â’r blaenoriaethau. Swm cyfyngedig o arian sydd gan y Llywodraeth, rwy’n derbyn hynny, ond gallwch siarad faint a fynnwch yn y Siambr hon; oni bai eich bod yn barod i roi adnoddau y tu ôl i hyn, yna mae’n mynd i fod yn anodd cyflwyno’r prosiectau a’r rhaglenni hynny. Yn amlwg, gyda thoriad o 7 y cant yn y gyllideb y llynedd, nid oedd y Llywodraeth ddiwethaf yn gweld hon fel llinell allweddol i’w chyflenwi.
Rwyf am gyflwyno’r pwynt olaf, os caf: mae angen i ni edrych ar bobl ifanc a phlant. Os edrychwch mewn gwirionedd ar y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn ysgolion cynradd, a nodwyd hyn gan rai siaradwyr yn gynharach, yn anffodus dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn yr ysgolion wedi gostwng yn ddramatig yng Nghymru. Mae chwarter awr yr wythnos wedi cael ei dynnu oddi ar weithgarwch corfforol mewn ysgolion, gan ostwng o 115 munud ar gyfartaledd i 101 munud. Dyna’r cyfeiriad teithio. Yn anffodus, y cyfeiriad teithio, fel y tynnais sylw ato ym maes iechyd y cyhoedd, yw bod nifer o’r amodau yn mynd allan o reolaeth, ac ar ben arall y sbectrwm, mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn gostwng yn llawer o’n cymunedau. Mae angen i ni gydgysylltu a’i gael yn gydlynus a chyflwyno strategaeth gydlynol, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog newydd yn gwneud hynny, ac yn fwy llwyddiannus na’i rhagflaenwyr, a dyna pam rwy’n eich annog i gefnogi’r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, felly rwy’n gohirio’r pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.