2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2016.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â deddfwriaeth yn ymwneud â chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol? OAQ(5)0012(CC)[W]
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ein bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu’r amddiffyniad ‘cosb resymol’, a fydd yn cadarnhau ein hymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant. Bydd trafodaethau’n cael eu cynnal â’r wrthblaid a bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn amodol ar y broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys ymgynghori â rhieni a rhanddeiliaid.
Diolch, Weinidog, am yr ateb. Byddwch yn gwybod, Weinidog—o’r profiad gawsom ni yn y Cynulliad diwethaf pan oedd, rwy’n meddwl, y mwyafrif ar draws y pleidiau am gael gwared ar yr amddiffyniad yma—nad oedd modd cyflawni hynny yn y ffordd yr aed o’i chwmpas hi gan y Llywodraeth ac yn y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio yma. Tra fy mod yn derbyn yn llwyr bod yn rhaid—wel, dim bod yn rhaid, ond, yn y cyd-destun yma, ei bod yn briodol—i’r Llywodraeth gynnig deddfwriaeth inni ei thrafod, ym mha ffordd y gallai’r Llywodraeth adeiladu’r consensws trawsbleidiol yna i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn llwyddo a’n bod yn gallu delifro ar y ‘commitment’ yma?
Wrth gwrs, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr Aelod yn tynnu sylw at fater ymgysylltu â rhanddeiliaid. Byddaf yn dechrau trafodaethau gyda’r gwrthbleidiau er mwyn creu llwybr i allu cyflwyno Bil llwyddiannus. Mae’r un mor bwysig i’r grwpiau gwleidyddol ddod at ei gilydd mewn perthynas â hyn yn y ffordd orau y gallant, ond hefyd rhianta, a rhanddeiliaid yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau hefyd er mwyn ein helpu yn y broses.
Rwy’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth am symud ymlaen ar y ddeddfwriaeth hon ar sail drawsbleidiol yn fawr iawn ac rwy’n siŵr y byddwn yn gallu cael consensws er mwyn cyflwyno hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw’n credu bod yna gymalau cadw yn y Bil Cymru drafft a fyddai’n effeithio ar gymhwysedd Llywodraeth Cymru i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol?
Diolch i Julie Morgan, a fu’n ymgyrchu ers amser maith ar yr union fater hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi hefyd. Os asesir cymhwysedd ar sail y gwelliannau a wneir i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Fil Cymru fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, nid yw’r ddadl fod darpariaeth ynglŷn â smacio plant y tu allan i gymhwysedd am ei fod yn diwygio’r gyfraith droseddol yn debygol o fod yn broblem mwyach. Mae materion eraill sy’n berthnasol i gymhwysedd, fodd bynnag, megis i ba raddau y mae’n cyd-fynd â’r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a fydd yn aros yr un fath. Mae’r rhain i gyd yn faterion cymhleth yn gyfreithiol, ond rydym yn gweithio drwyddynt ac yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni’r canlyniad cadarnhaol y mae’r Aelod yn gobeithio’i gael.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn derbyn bod llawer o rieni sy’n caru eu plant yn defnyddio ychydig bach o gosb resymol fel modd o ddisgyblu eu plant, ac y gall defnydd gormodol o ffurfiau eraill ar ddisgyblaeth hefyd fod yr un mor gamdriniol i blant o’u defnyddio’n anghywir? Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth i sicrhau ffocws ar sgiliau rhianta cadarnhaol a’u bod yn cael eu hegluro ar draws y wlad i roi cyfle i rieni sy’n defnyddio cosb resymol allu defnyddio dulliau eraill o geryddu? Gwn fod rhywfaint o waith wedi’i wneud ar hyn yn y gorffennol ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn ceisio ymestyn y rhaglen rhianta cadarnhaol i bob rhan o Gymru yn y dyfodol.
Gadewch i ni fod yn glir iawn yma: nid yw hyn yn ymwneud â deddfwriaeth i droseddoli rhieni. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yma yw rhoi cyfle i bobl gael profiadau rhianta cadarnhaol. Fel Llywodraeth, byddwn yn darparu pecyn o adnoddau a fydd yn annog rhieni i ddefnyddio Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, yr ymgyrch ‘Rhowch amser iddo’—mae nifer o rai eraill—y ceisiwn ddatblygu cymhwysedd yn eu cylch er mwyn rhoi hyder i rieni ynglŷn â’r ffordd y mae eu teuluoedd yn tyfu i fyny. Ar wahân i hynny, byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth ar amddiffyniad cosb resymol. Byddwn yn cyflwyno pecyn o adnoddau i’r Siambr, nid dewis rhwng un neu’r llall.