8. 7. Datganiad: Moderneiddio Trafnidiaeth: y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro

– Senedd Cymru am 5:19 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:19, 12 Gorffennaf 2016

Rŷm ni’n symud i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar foderneiddio trafnidiaeth—y wybodaeth ddiweddaraf ar fasnachfraint Cymru a’r Gororau a rhaglenni metro. Rwy’n galw ar Ken Skates i wneud ei ddatganiad.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, mae gan wasanaethau rheilffordd ran bwysig i’w chwarae er mwyn gweddnewid rhagolygon economaidd-gymdeithasol ein cymunedau, ac mae'n hanfodol eu bod o safon uchel a’u bod yn effeithiol, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb. Rhaid i wasanaethau gael eu cynllunio i fodloni anghenion teithwyr yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydym am sicrhau bod y dewisiadau cywir yn cael eu gwneud ar gyfer y dyfodol fel bod ein rheilffyrdd yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd. Bydd yr Aelodau'n gwybod, er bod y pwerau i osod blaenoriaethau a chyllid Network Rail o ran llwybr Cymru wedi eu cadw ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU, y cafwyd cytundeb mewn egwyddor â Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2014 i drosglwyddo'r pwerau i ddyfarnu masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau i Weinidogion Cymru.

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau manwl ynghylch telerau cytundeb terfynol y trosglwyddo hwnnw. Unwaith y bydd hynny wedi ei gytuno, gellir gweithredu’r prosesau seneddol angenrheidiol er mwyn cwblhau’r gwaith o drosglwyddo swyddogaethau, fel y cytunwyd â Llywodraeth y DU, erbyn dechrau 2017. Mae masnachfraint nesaf Cymru a'r gororau, y bwriedir iddi ddechrau ym mis Hydref 2018, yn dynodi newid sylweddol a fydd yn ein galluogi i wneud gwasanaethau rheilffyrdd yn rhan ganolog o’n system drafnidiaeth. Rhoddir sylw mawr i wasanaethau trawsffiniol ac, yn arbennig, pa rai o'r gwasanaethau hynny y dylid eu gweithredu o dan ein masnachfraint nesaf. Rwyf yn gobeithio dod i gytundeb boddhaol â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y mater hwn yn y dyfodol agos.

Er mwyn paratoi ar gyfer y trosglwyddo, ym mis Ionawr eleni, agorwyd y cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn llywio ein dull o weithredu o ran dyfodol masnachfraint Cymru a'r gororau. Roedd yr ymgynghoriad cyntaf yn canolbwyntio’n briodol ar sefydlu'r safonau ansawdd y mae'r cyhoedd yn dymuno eu gweld ar gyfer y fasnachfraint nesaf yn rhan o'n gwaith ymgysylltu parhaus â'r cyhoedd er mwyn datblygu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Cawsom 190 o ymatebion gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ledled yr ardal y mae’r fasnachfraint yn ei gwasanaethu. Pwysleisiodd y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yr angen i wella'r profiad i deithwyr gan roi eu barn am ystod eang o feysydd gan gynnwys lleihau amseroedd teithio’n gyffredinol, cynyddu nifer y teithwyr, costau is, gwelliannau o ran capasiti, gwella hygyrchedd, gwella cysylltedd a gwella prydlondeb, dibynadwyedd ac ansawdd.

O ran y trenau, rhoddwyd pwyslais ar gyfleusterau sy'n galluogi pobl i weithio a chyfathrebu'n fwy effeithiol, sicrhau mwy o gysur, gwella’r ddarpariaeth i deithwyr anabl, gwasanaethau arlwyo sydd ar gael yn gyson, awyru ac aerdymheru dibynadwy a digon o le i storio bagiau a beiciau. Mewn gorsafoedd, dywedodd pobl eu bod am weld gwelliannau i nifer y mannau eistedd dan gysgod sydd ar gael, gwell cyfleusterau prynu tocynnau, teledu cylch cyfyng gwell, mwy o adnoddau storio beiciau’n ddiogel, gwella glendid a datblygiadau mewn mannau arlwyo a manwerthu.

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi'r ymatebion ar ein gwefan ac i randdeiliaid. Bydd gwaith caffael y fasnachfraint nesaf yn dechrau cyn hir a bydd yn cael ei lywio gan yr hyn y mae'r cyhoedd wedi’i ddweud. Mae'r broses gaffael yn cael ei chynllunio fel y gallwn ddarparu systemau metro trawsnewidiol fel rhan o raglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth. Y cam cyntaf yw caffael gweithredwr a phartner datblygu a fydd yn cyflawni’r canlyniadau yr ydym am eu gweld yn deillio o'r fasnachfraint nesaf a’r systemau metro. Bydd y broses yn cynnwys rhaglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, a phan fo gennym set glir o gynigion ar gyfer contract newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arall. Yn amodol ar broses lwyddiannus, byddwn yn dyfarnu’r contract hwnnw ar ddiwedd 2017.

Ar gyfer de Cymru, lle y mae cynlluniau wedi’u datblygu fel rhan o'r fargen ddinesig, rydym wedi sicrhau cytundeb a chyllid gan Lywodraeth y DU i symud ymlaen â metro de Cymru. Gan weithio gyda'r gweithredwr a’r partner datblygu, byddwn yn dyfarnu contractau cyflenwi seilwaith ar gyfer metro de Cymru yn ystod gwanwyn 2018.

Byddwn am weld y rhai sy’n cynnig ar gyfer y fasnachfraint nesaf yn cynnig atebion arloesol i ddarparu gwelliannau y gellir eu cyflawni o fewn cyfyngiadau’r seilwaith ac sy’n cynnig gwerth am arian i’r trethdalwyr ac i’r rhai sy’n talu i ddefnyddio’r gwasanaeth. Bydd y gwaith adeiladu yn digwydd o 2019 ymlaen a’r gwasanaethau’n gweithredu cyn gynted ag y bo modd. Bydd hyn yn dibynnu ar y cynnig sy’n cael ei ddarparu.

Mae'r cynlluniau ar gyfer metro de Cymru’n cynnwys arian cyfatebol sylweddol o gronfeydd strwythurol yr UE. Rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau â'r diwydiant rheilffyrdd ers y refferendwm, ac mae diddordeb sylweddol o hyd mewn cyflenwi'r fasnachfraint nesaf a metro de Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg y bydd yn anodd sicrhau trawsnewidiad ar yr un raddfa heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd arian ar gael. Rwyf hefyd yn awyddus i fwrw ymlaen i ddatblygu'r rhaglen metro ar gyfer gogledd Cymru yn rhan o'r rhaglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth yn y rhanbarth.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais uwchgynhadledd lwyddiannus yng ngogledd Cymru gyda rhanddeiliaid allweddol o'r ddwy ochr i’r ffin i drafod sut y gellir manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd economaidd ledled y rhanbarth. Mae'r cyfleoedd i foderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth ledled y rhanbarth yn rhan allweddol o’r drafodaeth honno. Mae trydaneiddio prif linell gogledd Cymru yn asgwrn cefn i’r rhaglen foderneiddio. Bydd canolbwynt metro’r gogledd yng ngogledd-ddwyrain Cymru o gwmpas Shotton a Glannau Dyfrdwy, ond rwyf am sicrhau bod hyn yn rhan o raglen ehangach i foderneiddio trafnidiaeth ranbarthol, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd cysylltedd trawsffiniol, a lledaenu i'r gogledd ac i’r dwyrain i Loegr, i'r gorllewin i Gaergybi ac Iwerddon ac i’r de i ganolbarth Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr.

Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar nifer o astudiaethau i'n helpu i gyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer metro’r gogledd ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i foderneiddio'r ddarpariaeth cludiant ym mhob rhan o’r rhanbarth. Mae’r seilwaith yn allweddol er mwyn moderneiddio'r rhwydwaith, ond mae’n rhaid wrth gydweithredu a chydlynu rhwng y cyrff sy'n cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ym mhob rhan o’r rhanbarth er mwyn sicrhau bod y gwaith cynllunio, ariannu a chyflwyno gwelliannau, a chynnydd mewn meysydd fel tocynnau integredig a chydweithio ar ddarparu gwybodaeth, yn digwydd yn gyflym a’i fod yn effeithiol, a byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â’r rhaglen hon. Credaf y gallwn helpu i sbarduno ystod o ffyniant â’i ganolbwynt yng Nghymru sy'n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd o Gaergybi i Wrecsam ac ymlaen i Lerpwl, Manceinion, Leeds a thu hwnt.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:26, 12 Gorffennaf 2016

A allaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a hefyd croesawu’r diweddariad yma—yn gyntaf ar fasnachfraint Cymru a’r gororau, a hefyd y sefyllfa ar y metro? Wrth gwrs, wrth sôn am y fasnachfraint yn y lle cyntaf, mae’r sefyllfa wrth inni sôn am drenau yn gallu bod yn anodd achos nad yw pob rheilffordd wedi ei ddatganoli yma i Gymru, ac yn benodol efo’r fasnachfraint benodol yma, mae rhan o’r trac yn Lloegr a rhan o’r trac yng Nghymru hefyd, wrth gwrs.

Nawr, bwriad blaenorol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel rydym yn gwybod o’r geiriad yn y papur gorchymyn, oedd pennu bod rhai gwasanaethau yn gwasanaethu marchnadoedd yn Lloegr a’u tynnu oddi ar fap y fasnachfraint sydd gennym ni yma, a’u hailaseinio i fasnachfreintiau rheilffyrdd yn Lloegr, gan ddiystyru’r ffaith, wrth gwrs, y byddai’r masnachfreintiau Seisnig hyn mewn gwirionedd yn rhedeg gwasanaethau i mewn i Gymru, ond byddai ein masnachfraint Gymreig fach ni yn cael ei gwahardd rhag gwneud hynny. Nawr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ein sicrhau na fydd Cymru yn colli allan yn ariannol—rydym wedi clywed y gosodiad yna sawl tro dros yr wythnosau diwethaf yma. Fodd bynnag, yn dilyn y ffordd y mae Mesur Cymru wedi cael ei drin, nid ydym ni ar y meinciau yma yn barod i ymddiried yn eu gair yn hollol. Felly, buaswn yn gofyn i’r Gweinidog: pa sylwadau ydych chi wedi eu cyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau’r fargen orau i Gymru yn nhermau masnachfraint Cymru a’r gororau?

Wrth droi at gyllido’r metro, bydd y bleidlais Brexit, wrth gwrs, ychydig wythnosau yn ôl, yn amlwg yn achosi rhywfaint o ansicrwydd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud, o ran cyllid ar gyfer metro Caerdydd. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn gweithredu ar y dybiaeth y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud i fyny’r holl arian a addawyd i Gymru gan y ‘Brexiteers’, a rhai ohonynt yn rhan o’r Llywodraeth—pa bynnag Lywodraeth sy’n dod nawr, yn y dyddiau nesaf. Fodd bynnag, os nad yw hwn yn dwyn ffrwyth, pa ffyrdd eraill o ariannu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dilyn er mwyn sicrhau bod y metro yn gwasanaethu pobl y rhanbarth yn effeithiol? O gofio ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd, ynglŷn â chomisiwn isadeiledd cenedlaethol i Gymru—NICW—a ydych chi’n barod i sicrhau bod gan y comisiwn isadeiledd y pwerau a’r cyfrifoldeb, yn annibynnol o’r Llywodraeth, er mwyn ymchwilio i ffyrdd arloesol o sicrhau cyllid cyfalaf er mwyn gallu ariannu’r metro, os bydd angen?

Gan droi at fetro gogledd Cymru, rydych yn sôn am fetro gogledd Cymru, ond rydym i gyd yn gwybod mai metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ydy o mewn gwirionedd, yn amlwg, oherwydd mae yna dal rhan helaeth o ogledd Cymru i’r gorllewin o’r Rhyl—gyda phob parch i’r Rhyl—sef lle mae’ch cynigion yn gorffen. Rydych hefyd yn sôn yn eich datganiad am waith sydd yn mynd rhagddo i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a dwyrain Lloegr, a nifer o lefydd eraill, gan gynnwys gorllewin canolbarth Lloegr. Fodd bynnag, nid oes sôn am unrhyw gynlluniau i gysylltu gogledd a de ein cenedl ni yma yng Nghymru. Rydych yn ymwybodol bod Plaid Cymru wedi ailadrodd y pwynt yma ers degawdau nawr, sef ei fod yn dod yn fwyfwy anodd i adeiladu ac i uno ein cenedl heb y seilwaith sydd ei angen er mwyn cysylltu ein gilydd, de a’r gogledd. Pan fod gan y Llywodraeth Lafur hon lawer mwy o ddiddordeb mewn crybwyll cysylltiadau presennol gyda chenhedloedd eraill, ond ddim yn fodlon ystyried cysylltu cymunedau ein cenedl ein hunain gyda’n gilydd, a oes yna fodd i adrodd y golled yna yn y cynllun yn fan hyn? Hynny yw, yr angen dybryd i gael gwell cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru. Diolch yn fawr.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:30, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau heddiw, a hefyd am y ffaith ei fod yn croesawu'r datganiad hwn a'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y fasnachfraint? Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rydym yn gobeithio datrys cwestiynau ynglŷn â gwasanaethau trawsffiniol a fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. O ran cyllid gan yr UE, mae’r swm cyfalaf yn cyfrif am tua 20 y cant o'r prosiect metro cyfan, felly mae'n swm sylweddol o arian, ac nid wyf yn credu y gellid gwneud iawn am hynny trwy fenthyca trwy sefydlu comisiwn seilwaith a fyddai’n ceisio benthyca at ddibenion cyfalaf—i raddau helaeth oherwydd y byddai goblygiadau o ran costau refeniw parhaus ar gyfer benthyca. Ein safbwynt ni, yn glir iawn, yw ein bod yn disgwyl i bob ceiniog yr oeddem wedi tybio y byddai’n dod o'r UE ddod yn awr oddi wrth Lywodraeth y DU, fel yr addawyd dro ar ôl tro gan y rhai a ymgyrchodd dros Brexit. Os na fydd hynny'n digwydd, yna gallai hyn olygu, yn anffodus, ffrwyno'r cynlluniau ar gyfer y metro, a allai olygu, er enghraifft, fod llai o wasanaethau ar gael neu lai o orsafoedd a chyfleusterau parcio a theithio mewn gorsafoedd a gynlluniwyd. Byddai'n anffodus iawn, ond, fel y dywedais, ein safbwynt ni yw ein bod yn credu y dylai pob ceiniog ar gyfer y cynnig hwn ddod i Gymru o hyd, a hynny oddi wrth Lywodraeth y DU yn hytrach nag yn uniongyrchol o Ewrop.

O ran rhaglen metro’r gogledd, mae tua 20,000 o bobl yn teithio o ogledd Cymru i ogledd-orllewin Lloegr bob dydd. Mae tua 20,000 o bobl yn teithio o ogledd-orllewin Lloegr i ogledd Cymru bob dydd. Mae'r teithio trawsffiniol yn aruthrol. Mae'n rhoi pwysau mawr ar seilwaith y ffyrdd ac ar seilwaith y rheilffyrdd. Mae problemau sylweddol hefyd o ran diffyg uwchraddio'r seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru—diffyg hanesyddol o ran uwchraddio a chynnal a chadw seilwaith rheilffyrdd gogledd Cymru, ac mae angen rhoi sylw i hynny.

Mae ardal fynediad Mersi-Dyfrdwy yn economi ynddi'i hun sy'n cyfrannu tua £35 biliwn y flwyddyn i economi'r DU. Nid wyf yn credu bod canolbwyntio ar ateb sy'n dwyn ynghyd ogledd-orllewin Lloegr a gogledd-ddwyrain Cymru mewn unrhyw ffordd yn tynnu ein sylw oddi wrth sicrhau ateb Cymru gyfan i'n problemau trafnidiaeth, ac yn wir ateb sy'n cysylltu gogledd-orllewin Cymru â gogledd-ddwyrain Cymru yn well. Dyna pam yr ydym yn cyflwyno gwaith, yn cyflymu'r gwaith sydd wedi digwydd ar gynllun busnes ar gyfer trydedd pont dros Afon Menai.

O ran y cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de, wel mae’r Llywodraeth hon wedi buddsoddi'n helaeth ac mae’n buddsoddi'n helaeth i ddatrys problemau traffig rhwng y gogledd a’r de. Mae amserau teithiau trenau wedi eu torri. Rydym yn adeiladu, fel y gŵyr yr Aelod, ffordd osgoi y Drenewydd. Mae gwelliannau i'r A44 a'r A487 yn Aberystwyth, mae gwelliannau seilwaith yn digwydd ar linell y Cambrian. Rydym yn ariannu gwelliannau ychwanegol i'r gwasanaeth ar brif linell y Cambrian i ddarparu gwasanaeth rhannol bob awr. Rydym yn ariannu gwasanaethau ychwanegol i reilffordd Calon Cymru i ddarparu pum gwasanaeth y dydd am gyfnod prawf o dair blynedd hyd at fis Mai 2018. Rydym yn ariannu ein gwasanaeth TrawsCymru yn y canolbarth yn ogystal, gan gynnwys y T4 i'r Drenewydd ac yn ystyried sut y gellid gwella’r rhwydwaith. Byddwn yn annog yr Aelodau i beidio ag ystyried bod elfennau unigol o’r cynllun trafnidiaeth yn fwy pwysig na'r darlun cyffredinol ar gyfer Cymru gyfan. Mae'n rhan o gynllun cenedlaethol ar gyfer gwella rhwydwaith trafnidiaeth Cymru gyfan.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:34, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Caerdydd a'r cyffiniau, wrth gwrs, yw’r rhanbarth sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae'r twf yn golygu bod mwy o ddefnydd a phwysau cynyddol ar y seilwaith trafnidiaeth sydd eisoes yn bodoli. Gyda hyn mewn golwg, mae'n bwysig bod gwaith moderneiddio diwydiant trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol nid yn unig yn ymdopi â’r galw cynyddol hwn ond yn darparu ar gyfer anghenion pobl Cymru ac yn annog llwyddiant a thwf yn y dyfodol yng Nghymru. Yn awr, yn sicr, mae fy mhlaid i’n credu ers tro fod metro de Cymru yn brosiect hanfodol ar gyfer cysylltu pobl de Cymru a sicrhau twf economaidd yn y rhanbarth. Honnodd y Prif Weinidog y mis diwethaf na all y metro fynd yn ei flaen heb arian Ewropeaidd; rwyf yn falch nad oeddech mor llym yn eich datganiad, ond yn dal yn amlinellu'r anawsterau, wrth gwrs, sydd yn gywir.

Ac ystyried canlyniad y refferendwm, rwyf yn awyddus i ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phrosiect metro de Cymru. Mae'r UE—. Rwyf yn meddwl, wrth ateb cwestiynau gan Dai Lloyd, ichi sôn bod 20 y cant o gyfanswm y gost yn dod o gyllid yr UE, ac mae'n rhaid imi gyfaddef, fel y dywedais, mai dim ond newydd edrych ar y ffigurau hyn yr ydw i fy hun, ond mae'n ymddangos i mi fod yr UE wedi cyfrannu £106 miliwn i’r prosiect mewn cyllid datblygu rhanbarthol, a gafodd ei glustnodi ar gyfer metro de Cymru.  Cyfanswm y fargen ddinesig oedd £1.2 biliwn, felly mae fy nghyfrifiad bras yn dangos bod hynny’n 8.8 y cant o gyfanswm y gost, ond rwyf yn derbyn y gallai hynny fod yn anghywir gennyf; rwyf yn disgwyl rhywfaint o eglurhad ar hynny.

Gyda hyn mewn golwg yn ogystal, tybed a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa gynlluniau wrth gefn, os oes rhai, y rhoddodd Llywodraeth Cymru ar waith ar gyfer y prosiect cyn i’r refferendwm gael ei gynnal? A gafodd Llywodraeth Cymru drafodaethau gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU ynghylch cyllid posibl cyn y refferendwm pe byddai pobl Prydain yn pleidleisio i adael yr UE? A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU hyd yma o ran sicrhau’r cyllid hwn? Yn ogystal, pa rannau o brosiect y metro oedd i’w hariannu'n uniongyrchol gan arian yr UE?

O ran ariannu'r prosiect hwn yn y dyfodol, beth fydd cynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru os na fydd cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol agos? A ydych hefyd yn chwilio am ffyrdd eraill o ariannu'r prosiect? Efallai y gallech roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â hynny.

Rwyf yn falch eich bod wedi rhyddhau mwy o wybodaeth a manylion ynglŷn â rhaglen metro gogledd Cymru ac rwyf yn croesawu'r galwadau am drydaneiddio a sicrhau’r cysylltedd gorau posibl â Lloegr ac Iwerddon. Mae manylion am sylwedd y prosiect braidd yn brin o hyd, felly edrychaf ymlaen at gael mwy o fanylion am hynny. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl roi rhai manylion am y prosiect hwn, gan gynnwys amserlen ar gyfer ei gyflwyno, gwybodaeth am ble y bydd metro gogledd Cymru yn gweithredu a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y prosiect?

Rwyf yn falch hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhagor o fanylion am fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau, a tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi rhai manylion am ei ddealltwriaeth o'r newidiadau i’r gwasanaethau trawsffiniol. Soniasoch am hynny yn eich datganiad ac rwyf yn awyddus i ddeall hynny’n well.

Yn olaf, fel y dywedais, roeddwn yn siomedig na soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am unrhyw fanylion ynghylch sut y mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithredu a sut y caiff ei ariannu. Cafodd ei greu ddwy flynedd yn ôl, a honnwyd ei fod yn gorff strategol trosfwaol ar gyfer trafnidiaeth, ond mae cyn lleied o fanylion amdano. Ar hyn o bryd, mae £3.7 miliwn wedi ei wario ar Trafnidiaeth Cymru ac eto nid oes gwefan i’r cyhoedd ac ychydig iawn o wybodaeth sydd ar wefan Llywodraeth Cymru. Hefyd, dylwn ddweud fy mod wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar. Fy nghwestiwn oedd hyn: a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlenni cyflenwi ar gyfer Trafnidiaeth Cymru? A’r ateb a gefais yn ôl yr wythnos diwethaf oedd, 'Byddaf yn gwneud datganiad i'r Siambr ar 12 Gorffennaf.' Wel, mae hynny'n wir, wrth gwrs, ond nid oes unrhyw fanylion am Trafnidiaeth Cymru, felly a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o fanylion am sut y mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithredu? Beth yw ei swyddogaeth? Sut y mae'n cael ei lywodraethu? Ar beth y cafodd y £3.7 miliwn ei wario hyd yma? A sut y mae'n cysylltu â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd? Byddwn yn gwerthfawrogi ateb i’r cwestiynau hynny. Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:40, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a diolch iddo, unwaith eto, am groesawu'r datganiad heddiw? Mae yn llygad ei le fod metro de Cymru yn hanfodol o ran lliniaru rhai o'r tagfeydd—llawer o'r tagfeydd a welwn yn y rhanbarth. Yn fy marn i hefyd, bydd menter y metro yn sbardun mawr i symudedd cymdeithasol.

O ran cynllunio wrth gefn yn ystod y refferendwm, cawsom ein sicrhau yn ystod y refferendwm na fyddai angen cynllun B oherwydd bod y rhai a oedd yn dadlau dros ymadael yn addo inni y byddai pob ceiniog o gost y rhaglen hon yn cael ei darparu. Amlinellais yn fy ateb i Dai Lloyd beth fydd yn digwydd os na fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu’r addewid hwnnw.

O ran y gost, a chododd yr Aelod y gyfran o'r gost y gellir ei dyrannu i’r arian Ewropeaidd, mae'n rhyw 20 y cant o ran cyfalaf ar gyfer seilwaith o gyfanswm cost metro de Cymru, sef £734 miliwn ar gyfer cyfalaf gwirioneddol ar gyfer y seilwaith. Felly, mae'n tua 20 y cant.

O ran swyddogaethau a darpariaeth Trafnidiaeth Cymru, gallaf ymdrin, yn gryno, mor gryno ag y gallaf, â rhai o'r cwestiynau hynny y cododd yr Aelod. Mae Trafnidiaeth Cymru, fel y gŵyr yr Aelod, wedi ei sefydlu fel is-gwmni diddifidend sy'n eiddo’n llwyr i Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyngor arbenigol y bydd angen inni ei baratoi ar gyfer proses gaffael masnachfraint Cymru a'r gororau a’r metro. Mae'r cwmni yn aml yn cael ei gymharu â Transport for London, a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol benodol ac sydd â chymhwysedd gweithredol ehangach na Trafnidiaeth Cymru.

Ar ran Gweinidogion Cymru’n unig y gall Trafnidiaeth Cymru gyflawni swyddogaethau ac ni all gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol na gweithredu'n fasnachol. Ar hyn o bryd mae hyn yn cyfyngu ar ei allu i ddarparu gwasanaethau megis tramiau neu fysiau afon. Nid oes pwerau eilaidd ar hyn o bryd a allai greu corff o'r fath yng Nghymru, a byddai angen deddfwriaeth sylfaenol, a allai fod yn Fil y DU neu’n Fil y Cynulliad Cenedlaethol, yn dibynnu a yw’r eitemau sydd i'w cynnwys a'u cylch gwaith o fewn ei gymhwysedd.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n cynghori ar gyflawni cam 1 metro de Cymru ac yn darparu cymorth yn hynny o beth, a bydd yn caffael ac yn cyflenwi masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a cham 2 metro de Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â chyflenwyr yn y farchnad i egluro'r dull gweithredu cyn dechrau'r broses gaffael ffurfiol ar gyfer cam 2 metro de Cymru a masnachfraint Cymru a'r gororau. Sefydliad dielw yw Trafnidiaeth Cymru, a bydd unrhyw arian dros ben, felly, yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru, neu’n cael ei ailfuddsoddi.

Mae’r gwaith o ddatblygu a chaffael cam 2 y metro yn cael ei gysylltu â gwaith caffael masnachfraint Cymru a'r gororau, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â'r farchnad i archwilio opsiynau posibl ar gyfer darparu masnachfraint nesaf Cymru a’r gororau a gwaith ar seilwaith y rheilffyrdd i gynorthwyo i gyflwyno metro de-ddwyrain Cymru.

Mae ei drafodaethau â'r farchnad wedi eu llywio yn erbyn cyfres o ganlyniadau lefel uchel, sy'n cynnwys, ymhlith llawer o rai eraill, lleihau amserau teithio cyffredinol drwy ddarparu gwasanaethau cyflymach ac amlach a rhyng-gyfnewid gwell rhwng dulliau teithio, cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy ddarparu gwasanaethau newydd a gwell i deithwyr a’r gallu i ateb y galw yn ystod cyfnodau brig a digwyddiadau arbennig. Mae'r bobl sy’n rhan o Trafnidiaeth Cymru yn cynnig y cyngor technegol arbenigol hwnnw i sicrhau y gellir cyflawni’r canlyniadau lefel uchel hyn.

O ran metro gogledd Cymru, amlinellais i Dai Lloyd y weledigaeth ar gyfer y metro, y weledigaeth eang, sef cysylltu gogledd-ddwyrain Cymru â gogledd-orllewin Lloegr ond hefyd i sicrhau bod modd teithio’n integredig ac yn ddi-dor ar draws gogledd Cymru ac ymhellach i'r de, yng nghanolbarth Cymru ac i orllewin canolbarth Lloegr.

Mae cyflwyno achos busnes amlinellol ar gyfer metro’r gogledd, a fydd yn nodi'r atebion gorau ar gyfer moderneiddio trafnidiaeth ledled y rhanbarth gyda chefnogaeth rhanddeiliaid, yn flaenoriaeth gynnar imi. Bydd costau'n cael eu casglu o’r cynllun cenedlaethol ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith gan gynnwys o bosibl gyllid o unrhyw fargeinion twf ar y naill ochr i'r ffin a’r llall.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 5:44, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac yn cefnogi datganoli’r fasnachfraint hon yn synhwyrol i'r Cynulliad ac i Lywodraeth Cymru. Nodaf, fodd bynnag, y bu 18 mis o drafodaethau, a tybed a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pam y mae’r trafodaethau hynny eto i ddwyn ffrwyth? Cymharodd Trafnidiaeth Cymru â Transport for London a chrybwyllodd rai o'r gwahaniaethau. Cofiaf, mewn cyd-destun arall, er gwaethaf gwelliannau trawsnewidiol Transport for London i'r llwybr ar yr wyneb yn Llundain, iddo ei chael yn anodd iawn trafod estyniadau hyd yn oed ychydig iawn y tu allan i ffiniau Llundain fwyaf i Swydd Hertford ac i Gaint, a tybed beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud o ran y gwasanaethau hynny sy'n teithio ar hyd y ffin, o ran argyhoeddi cynrychiolwyr a phobl a fyddai’n elwa ar y gwasanaethau hynny fod Llywodraeth Cymru sy’n rhoi pwyslais ar edrych ar y fasnachfraint honno yn fwy tebygol o gyflawni gwelliannau, efallai, na Llywodraeth y DU sydd â nifer fawr iawn o fasnachfreintiau ym mhob rhan o’r DU i’w hystyried.

Yr hyn a oedd ar goll yn ei ddatganiad, yn fy marn i, oedd unrhyw wybodaeth ddiweddar am yr amserlen ar gyfer trydaneiddio. Soniodd fod trydanu gogledd Cymru yn asgwrn cefn i’r gwaith moderneiddio ac i gynigion metro’r gogledd, ond onid yw’r trydaneiddio hwnnw’n dal i fod ymhell yn y dyfodol, oni bai ei fod yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw beth nad ydym yn gwybod amdano? Ac ystyried yr oedi sydd wedi bod mewn mannau eraill, mae'n anodd iawn gweld y bydd yr amserlen ar gyfer trydaneiddio gogledd Cymru yn un gyflym, a tybed sut y gall ei ddefnyddio fel asgwrn cefn i bopeth arall, ac ystyried yr heriau sydd ynghlwm wrth gyflawni hynny?

O ran trydaneiddio yn ne Cymru, gofynnaf hyn: a all roi unrhyw newyddion diweddar o gwbl o ran yr amseru tebygol? Gwelsom dros y penwythnos bont Stryd y Bont yng Nghasnewydd yn cael ei symud a'i gosod wrth y cledrau y tu allan i'r orsaf, ac mae hynny'n galonogol ac yn amlygiad diriaethol o gynnydd, ond pryd y mae'n disgwyl y bydd y trydaneiddio wedi ei gwblhau hyd at Abertawe, a beth y gall ei ddweud am ba welliannau a welwn o ran amser teithio ac, o bosibl, amlder, a sut y mae hynny'n bwydo i mewn i'r trafodaethau ynghylch masnachfraint newydd?

A gaf i hefyd ddweud, yn ogystal ag amlder a dibynadwyedd a chapasiti'r gwasanaethau, fod llawer o fy etholwyr yng Nghymoedd de-ddwyrain Cymru yn bryderus iawn am y gost hefyd? Mae potensial, yn aml, i bobl a allai fod yn gallu mynd i Gaerdydd, neu a allai efallai gael gwaith yng Nghaerdydd, pe byddai’r drafnidiaeth yn caniatáu iddynt gyrraedd yno’n gost-effeithiol, ac mae cost yn ystyriaeth sylweddol iawn, yn enwedig pan fo credydau treth yn cael eu tynnu’n ôl a lle ceir cyfraddau treth ymylol. Unrhyw beth y gellir ei wneud i wella’r gost, yn sicr i is-gyfran o bobl—dyna efallai yw'r mater pwysicaf, hyd yn oed os ceir gwelliannau sydd i’w croesawu o ran amlder a dibynadwyedd.

Yn olaf, o ran metro de Cymru, rwyf yn deall yn llwyr pam y mae'r Llywodraeth yn dymuno contractio a chael tendrau ar sail niwtral rhwng rheilffyrdd trwm, rheilffyrdd ysgafn, a gwasanaethau bysiau, ond rwyf yn dal i bryderu rhywfaint y byddai symud o reilffyrdd trwm i reilffyrdd ysgafn yn cael ei weld, o leiaf mewn rhai mannau, yn israddio posibl ar y gwasanaeth hwnnw. Beth y gall ei wneud i dawelu meddyliau pobl nad dyna’r sefyllfa, ac y gall rheilffyrdd ysgafn fod yn welliant mwy na digonol? Ac a yw hefyd yn deall y goblygiadau gwahanol iawn o ran costau cyfalaf sydd i ddarparu bws o’i gymharu â rheilffyrdd ysgafn o’i gymharu â rheilffyrdd trwm? Efallai y bydd y rheilffordd ysgafn yn rhatach i’w gweithredu yn y tymor hir, ond byddai'n rhaid wrth fuddsoddiad cyfalaf sylweddol lle byddai'n disodli gwasanaeth rheilffordd trwm, a gallai gwahanol gynigwyr fod â gwahanol fynediad i gyfalaf. A phan fo elw gilt yn 0.8 y cant dros 10 mlynedd, ac yntau o bosibl yn rhoi risg y gwariant cyfalaf hwnnw ar y sector preifat, oni fyddai efallai’n lleihau’n ddiangen nifer y ceisiadau a nifer y darparwyr a all eu cyflwyno eu hunain yn gost-effeithiol, os oes yn rhaid i bob un ohonynt ariannu'r cyfalaf hwnnw, a bydd rhai ohonynt, wrth gwrs, mewn gwell sefyllfa i wneud hynny nag eraill? Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:48, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Mark Reckless am ei gwestiynau. Yn gyntaf oll, un o'r rhesymau—neu ddau o'r rhesymau—y mae hi wedi cymryd 18 mis yw oherwydd ein bod wedi cael dau etholiad cyffredinol, un ledled y DU, ac un yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn ymwneud â gweithrediad sy'n croesi ffin sylweddol. Felly, ac ystyried y ddau ffactor hynny, nid yw’n syndod fod trafodaethau wedi eu cynnal dros gyfnod o 18 mis.

Croesawaf yn fawr iawn sylwadau’r Aelod ynghylch yr angen i sicrhau bod prisiau’n fforddiadwy. Byddwn yn sicrhau, fel rhan o'r allbynnau lefel uchel gan y gweithredwr a’r partner datblygu, fod unrhyw gynlluniau yn annog rhagor o ddefnydd ar adegau llai prysur ar wasanaethau lle mae’r defnydd yn isel ar hyn o bryd, a hefyd yn cynnig gostyngiadau ar gostau teithio i bobl sy'n gweithio patrymau gwaith afreolaidd neu oriau rhan-amser. Mae'n hanfodol fod datblygiad y metro yn sbarduno symudedd cymdeithasol ac yn galluogi pobl i gael swyddi o safon yn agosach at eu cartrefi. Pan nad yw’r swyddi hyn yn agos at eu cartrefi, yna dylent allu eu cyrraedd ar drafnidiaeth fforddiadwy a chynaliadwy.

Bydd y gweithredwr a’r partner datblygu, wrth gwrs, wrth weithio trwy'r allbynnau lefel uchel —sut i gyflawni’r allbynnau hynny—yn gallu cyflwyno amryw o atebion sy'n cyfateb orau i'r problemau sy'n wynebu pob cymuned yn ei thro. Nid wyf o’r farn, o anghenraid, mai rheilffyrdd trwm yw’r ateb i bob problem, ac nid wyf ychwaith o’r farn mai rheilffyrdd ysgafn yw’r unig ateb. Yn hytrach, bydd arlwy cymysg o atebion trafnidiaeth a fydd hefyd yn cynnwys, er enghraifft, cludiant bws cyflym a theithio egnïol.

O ran amlder y gwasanaethau—ac nid yr Aelod yw’r unig un i godi pryderon am yr amlderau presennol—bydd y metro yn gweithredu o leiaf bedwar gwasanaeth yr awr ledled y rhwydwaith cyfan pan fo angen hynny a hyd yn oed fwy wrth graidd y rhwydwaith. Bydd teithwyr yn gallu symud yn rhwydd ledled rhanbarth de-ddwyrain Cymru gyda chapasiti gwell, ansawdd gwell a gwybodaeth well i deithwyr. Bydd y metro hefyd yn darparu rhwydwaith lle y mae’n hawdd rhyngnewid gan ddefnyddio cerbydau a gynlluniwyd ar gyfer cyflymder a chapasiti.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:51, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r amser ar gyfer y datganiad hwn yn awr wedi dirwyn i ben, ond mae gennyf nifer o Aelodau eraill sy'n dymuno cyfrannu, felly o hyn allan, os gallant fod yn gwestiynau byr, sydyn heb ragymadroddi, byddwn yn ddiolchgar iawn. Julie Morgan.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Lywydd. Roeddwn am godi dau fater. Un oedd pobl ag anableddau a’r anawsterau y maent yn eu cael wrth deithio ar unrhyw fath o drafnidiaeth. Rydym yn gwybod, er enghraifft, gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, fod 54 y cant o bobl sy'n ddall neu’n rhannol ddall yn cael anawsterau ar y trenau, a gall hyn fod oherwydd goleuo gwael, arwyddion gwael neu ddiffyg hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd ymhlith y staff. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa sylwadau y mae wedi'u cael gan bobl neu grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl ynghylch sicrhau bod materion anabledd yn cael eu hymgorffori yn y fasnachfraint?

Roedd yr ail gwestiwn ynghylch metro de Cymru. Rwyf yn croesawu'n fawr ei ddatganiad y bydd yn symud ymlaen; bod cytundeb gyda Llywodraeth y DU; a’i fod yn dweud yn ei ddatganiad,

‘Gan weithio gyda'r gweithredwr a’r partner datblygu, byddwn yn dyfarnu contractau cyflenwi seilwaith ar gyfer metro de Cymru yn ystod gwanwyn 2018’.

A all ddweud yn union pa seilwaith a fydd yn cael ei gyflwyno yno a beth yw'r contractau cyflenwi cyntaf a fydd yn cael eu cyflwyno yn 2018?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:52, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Nodaf yr amserlen yn gyflym. Byddwn yn dechrau’r broses gaffael yn yr haf; byddwn yn dyfarnu'r gweithredwr a’r partner datblygu ar gyfer y fasnachfraint a'r metro erbyn diwedd y flwyddyn hon; byddwn yn dyfarnu'r contractau seilwaith yn ystod gwanwyn 2018; bydd y fasnachfraint newydd yn dechrau ym mis Hydref 2018 a'r metro’n cael ei gynllunio yn ystod 2018-19; cyflwyno isadeiledd ar y safle o 2019; a, gwasanaethau’n weithredol o 2023. Rwyf yn awyddus i sicrhau bod y metro newydd yn gwasanaethu’n bennaf y cymunedau hynny sydd yn aml wedi teimlo'n ynysig neu'n bell o ganol Gymru drefol, felly fy nod a fy ngobaith, yn enwedig ar gyfer y cymunedau anghysbell hynny yn y Cymoedd, yw y bydd y prosiect trawsnewidiol hwn ar gael iddynt yn gynnar.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei sylwadau am yr angen i wella gwasanaethau a mynediad i deithwyr anabl, pobl ddall a rhannol ddall. Roedd hyn yn rhywbeth a godwyd yn llawer o'r 190 o ymatebion ac mae’n cael ei ymgorffori yn yr allbynnau lefel uchel hynny y byddwn yn eu mynnu gan y gweithredwr a’r partner datblygu.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:54, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad. Yn amlwg, mae metro de Cymru yn gwbl hanfodol i holl ddatblygiad de-ddwyrain Cymru, felly rwyf ychydig yn bryderus ynghylch y posibiliadau o ran llithriant ar y rhaglen hon, i raddau helaeth oherwydd bod contract Arriva ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn dod i ben ym mis Hydref 2017, ond eto, yn ôl eich datganiad, nid ydym mewn gwirionedd yn mynd i ddyfarnu contract newydd tan ddiwedd 2017. Felly, mae hynny, ynddo'i hun, yn peri pryder.

Rydych yn sôn am raglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid. A yw hyn yr un peth â'r ddeialog gystadleuol y soniwyd amdani, gyda chynigwyr posibl? Sut ydych chi'n meddwl bod hynny’n well na chyhoeddi eich strategaeth, y canlyniadau yr ydych am eu gweld ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a rheilffyrdd trwm, a sicrhau bod pobl wedyn yn cynnig ar sail y canlyniadau hynny?

Un o'r pryderon mwyaf sydd gennyf yw’r cynnydd yr ydym yn ei wneud, neu beidio, o ran nodi sut y mae'r partneriaid yn y fargen ddinesig yn mynd i ddatblygu'r pwerau statudol i gomisiynu cynlluniau defnydd tir a phrynu’r tir sydd ei angen ar gyfer y rheilffyrdd ysgafn newydd hyn ac ar gyfer y gorsafoedd hyn y gallai fod eu hangen. Fel yr ydych eisoes wedi dweud yn eich datganiad, nid oes gan Trafnidiaeth Cymru bwerau i ysgwyddo swyddogaeth awdurdodau lleol statudol. Felly, os nad oes ganddo’r pwerau hynny, pam nad ydym yn awr eisoes yn gwthio ymlaen i ddatblygu’r pwerau statudol hyn? Dyna'r cwestiwn a ofynnwyd gan bennaeth cynllun datblygu Stuttgart ac, felly, mae'n ymddangos i mi yn gwestiwn hollol berthnasol.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:55, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Rydym yn dal i fod yn hyderus na fydd llithriant ac y bydd pontio di-dor o’r fasnachfraint bresennol i'r un newydd. Mae'r ymgynghoriad sydd wedi ei gynnal wedi bod yn un cyhoeddus, ond byddwn hefyd yn dilyn hynny ag ymgynghoriad arall ar ôl inni allu dyfarnu statws gweithredwr a phartner datblygu. A byddaf yn cwrdd â nifer o arweinwyr awdurdodau lleol i drafod yr union faterion hynny y cododd yr Aelod ynghylch y tir a hefyd y gwaith o reoli llwybrau a gwasanaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:56, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Cyfeiriasoch at well darpariaeth ar gyfer teithwyr anabl, ac mae sylwadau wedi eu gwneud ynghylch hynny eisoes. A wnewch chi sicrhau bod eich ystyriaeth yn cynnwys namau ar y synhwyrau—pobl sydd wedi colli eu clyw a’u golwg? A wnewch chi roi sicrwydd, pan fydd y tendr yn mynd allan, yn unol â’r gofynion caffael, y bydd yn deg a heb unrhyw ragdybiaeth bod model penodol yn fwy addas ar gyfer anghenion neu ofynion Llywodraeth Cymru?

Wrth ymateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig,

‘Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'w gwneud yn ofynnol i drenau fod â dull awtomatig o gyfrif nifer y teithwyr?' eich ateb oedd,

'Bydd... masnachfraint Cymru a'r Gororau yn pennu cerbydau o ansawdd uchel a all gynnwys gosod offer i gyfrif teithwyr yn awtomatig.'

A wnewch chi, felly, os gwelwch yn dda, ymdrin â'r pryder y dylai trefniadau cadarn ar gyfer cyfrif teithwyr fod yn ofyniad allweddol yn y fasnachfraint newydd, ac y bydd angen codi hynny pan ymgynghorir ar gynigion manylach?

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar alwadau gan grwpiau defnyddwyr y rheilffyrdd am ddau drên yr awr ar y llinell o Wrecsam i Bidston, gan ddechrau yn gynt ac yn parhau gyda’r nos, ym manyleb y fasnachfraint ar gyfer 2018?

O ran y cyfeiriad yr ydym wedi ei glywed yn eich datganiad at raglen metro gogledd Cymru a'r uwchgynhadledd yn y gogledd ddydd Gwener diwethaf, yn eich datganiad rydych yn dweud eich bod am wneud y mwyaf o gyfleoedd i sicrhau cysylltedd ar draws y ffin ac rydych yn cyfeirio at fargeinion twf y naill ochr i’r ffin a’r llall. Onid yw'n wir fod angen un fargen twf gyda’r Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd, sef cynnig Llywodraeth y DU? Rwyf yn falch fod yr Is-ysgrifennydd yn bresennol, fel y deallaf, yn y cyfarfod ddydd Gwener, ond a wnewch chi roi sylwadau yng nghyd-destun y fargen twf gydgysylltiedig honno a gwaith cyngor busnes gogledd Cymru, y bwrdd uchelgais economaidd, Cynghrair Mersi Dyfrdwy, ac eraill ar gynnig sy'n ymgorffori pob rhan o ogledd Cymru, o Gaergybi i ogledd-orllewin Lloegr, nid dim ond yn benodol yr hyn yr ydych yn cyfeirio ato fel y rhanbarth metro?

Yn olaf, ac ystyried tystiolaeth sy'n awgrymu bod 20 y cant o gynigion am gyfweliadau neu swyddi ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cael eu gwrthod oherwydd anawsterau cludiant, a bod cyfrifiad 2011 yn dangos mai dim ond 1 y cant sy’n defnyddio’r rheilffyrdd i deithio i'r gwaith yn Sir y Fflint—llai na hanner y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan, mewn rhanbarth lle mae economi gryfach a phoblogaeth sylweddol yn byw o fewn 5 km i orsafoedd sydd eisoes yn bodoli—sut y bydd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth rheilffyrdd yn y rhanbarth yn galluogi pobl i deithio’n ddibynadwy o le y maent i’r lle y maent yn dymuno mynd iddo, ar yr adeg y maent yn dymuno teithio, gan alluogi'r rhai hynny na allant yrru i gyrraedd swyddi ac i hyrwyddo newid yn y modd o deithio tuag at y rheilffyrdd yn ein rhanbarth?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:59, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau a gallaf ei sicrhau, fel y dywedais wrth ymateb i gwestiynau Julie Morgan, y bydd gwell mynediad a gwasanaethau yn rhan o’r gofynion ar y gweithredwr a’r partner datblygu, ac wedi’u nodi yn yr allbynnau lefel uchel sy'n cynnwys gwasanaethau a hefyd welliannau o ran hygyrchedd i bobl ddall a rhannol ddall, a phobl ag anghenion synhwyraidd ychwanegol. Gallaf ei sicrhau y bydd chwarae teg. Rydym yn pennu’r allbynnau hynny y mae angen eu cyflawni. Bydd y darpar gynigwyr yn cynnig atebion heb i Lywodraeth Cymru fod ag unrhyw ragfarn ynglŷn â pha atebion sydd fwyaf addas ar gyfer y problemau yr ydym yn eu cyflwyno i’r cynigwyr hynny.

O ran y fargen twf, dywedais 'bargeinion twf ar y naill ochr i'r ffin a’r llall' oherwydd, eisoes, mae Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington wedi llunio cais bargen twf. Bydd yr Aelod yn gwybod bod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ochr yn ochr â chyngor busnes gogledd Cymru, hefyd wedi datblygu cynnig twf. Mae dau ar hyn o bryd. Fy newis i fyddai cael un sy'n integreiddio datblygu economaidd yn llwyr ar draws yr ystod honno, os mynnwch chi, o weithgaredd. Fodd bynnag, os oes dwy fargen twf yn mynd i fod, rhaid i’r bargeinion twf hynny gydweddu’n berffaith a rhaid iddynt ystyried, yn allweddol, seilwaith trafnidiaeth a rhwydweithiau integredig rheilffyrdd a ffyrdd.

Rwyf yn cytuno â'r Aelod hefyd; mae’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston yn llinell hollbwysig yn y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol, ac rwyf yn awyddus ac yn benderfynol y dylid buddsoddi’n ddigonol yn y llwybr hwnnw i fodloni anghenion y teithwyr y mae’n eu cludo a'r bobl hynny a fyddai'n dymuno defnyddio'r gwasanaeth. Mae’r Aelod hefyd yn iawn i nodi bod Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn ardal y mae angen sylw arni. Rydym wedi gallu nodi, er enghraifft, y bydd angen gorsaf newydd ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer y rhanbarth penodol hwnnw. Mae gweithgaredd economaidd aruthrol o amgylch Glannau Dyfrdwy. Mae angen inni sicrhau bod yr holl rwystrau i bobl rhag cael cyfleoedd cyflogaeth nid yn unig yn yr ardal honno, ond hefyd ymhellach i ffwrdd, yn cael eu chwalu er mwyn i bobl allu cyrraedd y swyddi hynny o safon ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd—byddaf mor gryno ag y bo modd. Gan edrych ymlaen at fasnachfraint Cymru a'r gororau yn y dyfodol, mae angen i ni yn y gogledd fod wedi ein cysylltu’n well â’n prifddinas. Rwyf yn cydnabod ein bod wedi ein cyfyngu gan seilwaith a rhwydwaith a etifeddwyd, ond ni all fod yn iawn ei bod, o'r brif orsaf yn y Fflint yn fy etholaeth i, yn gynt mynd i Lundain nag ydyw i Gaerdydd. Mae angen inni hefyd sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni gofynion yr unfed ganrif ar hugain a’r iwtopia gyfoes honno. Byddai hynny'n cynnwys Wi-Fi, ond rwyf yn siŵr y byddai llawer o'r cymudwyr rheolaidd yn meddwl, a dweud y gwir, fod y Nadolig wedi dod yn gynnar pe byddai socedi plygiau sy'n gweithio ar bob gwasanaeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn falch o glywed y cynlluniau i fwrw ymlaen â'r rhaglen metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, ac a chithau hefyd yn Ogleddwr, byddwch yn gwybod, fel finnau, fod ein rhanbarth yn ddiwylliannol ac yn economaidd yn rhyng-gysylltiedig â’n cymdogion agos dros y ffin yng ngogledd-orllewin Lloegr. Felly, a wnewch chi sicrhau bod yr anghenion seilwaith er mwyn i’r gogledd ffynnu a’r cynlluniau ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru yn aros yn uchel ar yr agenda wrth symud ymlaen?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 6:03, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiwn ac, yn arbennig, y diddordeb y mae wedi ei ddangos mewn cysylltedd trawsffiniol, ynghyd ag Aelodau eraill sydd wedi siarad heddiw. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fynd i’w man gweithio neu i allu ymweld â ffrindiau a theulu ar drafnidiaeth gyhoeddus, p'un a ydynt yn byw yng ngogledd Cymru ac yn manteisio ar y cyfleoedd hynny yn y gogledd-orllewin neu i'r gwrthwyneb. Mae'n un gymuned economaidd fawr ond arwyddocaol, ac mae trafnidiaeth yn mynd i fod yn allweddol o ran sicrhau bod yr economi’n tyfu yn y dyfodol.

Mae'r Aelod yn llygad ei lle hefyd wrth sôn am yr angen am dechnoleg well ar wasanaethau, gan gynnwys Wi-Fi. Rydym am i gontract y fasnachfraint sicrhau bod technoleg newydd yn cael ei chofleidio, ac annog defnyddio technolegau newydd lle y maent yn debygol o gynnig gwelliannau i deithwyr, ond—ac mae'n rhaid imi sicrhau'r Aelodau am hyn—na fydd hyn yn achosi gostyngiad yn lefelau cyffredinol y staff o ganlyniad. Mae'r dechnoleg y byddwn yn disgwyl i'r fasnachfraint newydd ei chyflwyno yn dechnoleg sy'n gwella profiad y teithwyr ac yn gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth.

O ran teithio o’r gogledd i’r de, credaf fy mod wedi ymdrin â rhai o'r cwestiynau ynghylch trafnidiaeth rhwng y gogledd a'r de. Mae'r Llywodraeth hon yn dal i fod yn ymroddedig hefyd i sicrhau ein bod yn lleihau’r amserau teithio hynny ar y rheilffordd rhwng gogledd Cymru a de Cymru. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth yn y gwasanaethau hynny, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Tri chwestiwn cyflym ichi, Ysgrifennydd y Cabinet: yn gyntaf, ac ystyried arwyddocâd y fasnachfraint rheilffyrdd a’r prosiect metro ar gyfer Cymoedd y de, tybed pa ystyriaeth yr ydych wedi ei rhoi i leoli tîm Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd?

Yn ail, mae'r prosiect metro yn cynnig y cyfle i ailgysylltu cymunedau sydd wedi colli eu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. A ydych yn meddwl y byddai'n bosibl ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd i ardaloedd sydd wedi dioddef dan fwyell Beeching? Rwyf yn meddwl yn benodol am bentref Hirwaun yn fy etholaeth i.

Yn olaf, fel y rhan fwyaf o’m cydweithwyr sy'n cynrychioli etholaethau’r Cymoedd, rwyf yn cael cwynion yn aml ynghylch annigonolrwydd gwasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd. Pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cynnwys mewn unrhyw fasnachfraint yn y dyfodol fel bod anghenion cymudwyr yn cael eu rhoi yn gyntaf ac yn flaenaf wrth ddarparu unrhyw wasanaethau rheilffordd?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 6:05, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau. Rwyf yn falch o allu dweud wrth yr Aelod a’r Siambr heddiw mai fy mwriad yw sefydlu pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd, yn anad dim i amlygu ein cred y dylai'r metro yn ne Cymru wasanaethu’r cymunedau hynny sy’n aml yn teimlo'n ynysig.

O ran Beeching, defnyddiwyd bwyell Beeching yn eang, ond fy ngobaith i yw y gallem weld, yn rhan o'r broses hirdymor o ddarparu gwell gwasanaethau a gwasanaethau newydd, ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd yr effeithiodd cynlluniau Beeching arnynt. Rwyf yn cytuno hefyd fod angen gwella'r profiad o’r gwasanaeth—nid oes amheuaeth am hyn. Rwyf yn derbyn llawer o lythyrau, fel Ysgrifennydd y Cabinet, gan Aelodau sy'n pryderu am brofiad eu hetholwyr ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Byddwn yn cynnwys yng nghontract y fasnachfraint nifer o ofynion, gan gynnwys, fel yr wyf wedi ei amlinellu, yr angen am wasanaethau amlach, gwell capasiti, defnydd o dechnolegau newydd, gorsafoedd a chyfleusterau gwell a cherbydau glanach sydd o ansawdd gwell.