2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0171(FM)
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0180(FM)
Gwnaf. Lywydd, rwy’n deall eich bod chi wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 1 a 4 gael eu grwpio. Gallaf ddweud bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran datblygu cydweithrediad a phartneriaeth ynghylch blaenoriaethau a rennir ar gyfer swyddi a thwf.
Credaf fod dinas-ranbarth Bae Abertawe yn datblygu'n dda iawn fel cyfrwng ar gyfer datblygu economaidd. Fodd bynnag, rwy’n gweld swyddogaeth fwy strategol iddo mewn pethau fel cynllun strwythur. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, ac a wnaiff y Prif Weinidog geisio defnyddio ôl troed dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru?
Mae gan y ddinas-ranbarth gyfle ardderchog. Byddwn yn annog pawb sy’n edrych ar gytundeb dinas ar gyfer bae Abertawe wneud y cais hwnnw cyn datganiad yr hydref gan y Canghellor. Mae'n bwysig bod llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn i hynny ddigwydd. Rydym wedi gweld hyn yn digwydd yn y brifddinas-ranbarth. Mae angen i'r un peth ddigwydd ym mae Abertawe hefyd. Ond, ydym, yn rhan o'r gwaith y mae'r Ysgrifennydd llywodraeth leol wedi bod yn ei wneud yn yr haf, rydym ni’n ystyried y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau ledled Cymru ar sail ranbarthol pan mai dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny.
Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gwestiynau yr wythnos diwethaf fod Aelodau'r Cynulliad braidd yn anniddig nad oeddem ni’n clywed llawer gan fwrdd y cytundeb dinas, ond rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael briff cryno ganddo erbyn hyn. O hynny, mae'n ymddangos mai eu pryder mawr ar hyn o bryd yw’r mater o lywodraethu yn y tymor byr i’r tymor canolig, ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan awgrymu model dielw ar gyfer y dyfodol. O gofio bod y bwrdd hwn dim ond gyda’i gilydd am chwe mis arall, neu lai na hynny, pryd fyddwch chi’n ymateb iddyn nhw a beth fyddwch chi’n ei ddweud wrthynt?
Wel, nhw sydd wrth y llyw. Mater i lywodraeth leol yw’r cytundeb dinas, ac nid i Lywodraeth Cymru. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni yno i helpu, fel y gwnaethom ni gyda chais cytundeb dinas Caerdydd, ond mae'n bwysig nawr eu bod yn gweithio gyda'i gilydd i roi cais credadwy ar y bwrdd.
Rydym ni’n cael ein hysbysu gan dîm y cytundeb dinas bod y sefyllfa'n anwadal iawn, ac mai 50/50 yw’r rhagolygon presennol o lwyddiant ar hyn o bryd.
Felly, o ystyried hynny, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a beth mae'n bwriadu ei wneud i gynorthwyo tîm y cais a chynyddu’r tebygolrwydd o lwyddiant o 50/50.
Wel, wrth gwrs, mater i lywodraeth leol yw gwneud cais y cytundeb dinas, nid i Lywodraeth Cymru, ond fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn cynharach, rydym ni’n barod i helpu. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod, fel y gwnaethom gyda chais cytundeb dinas Caerdydd. Felly, bydd unrhyw gais am gymorth, wrth gwrs, yn cael ei ystyried a bydd cymorth yn cael ei ddarparu; ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda thîm y cytundeb dinas er mwyn iddo—gan mai ei gyfrifoldeb ef yw hynny—i wneud cais. Rydym ni eisiau gweld cais cytundeb dinas yn llwyddo ar gyfer rhanbarth bae Abertawe.
Brif Weinidog, mae’r cytundeb dinas yn gyffrous ac yn arloesol. Mae'n canolbwyntio ar TGCh a'r genhedlaeth nesaf mewn gwirionedd. Wrth gwrs, adeiladwyd y rhanbarth ar y diwydiannau traddodiadol a gweithgynhyrchu. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y rhan honno yn parhau i fod yn ganolbwynt mewn cytundebau dinas fel y bydd y gweithgynhyrchu presennol, a gweithgynhyrchu uwch, yn enwedig meysydd ymchwil, yn cael eu cynorthwyo yn y dyfodol?
Wel, i mi, mae’r ddau beth hyn yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae'n hynod bwysig bod gweithgynhyrchu yng Nghymru ar flaen y gad. Mae hynny'n golygu gweithio, wrth gwrs, gyda'r prifysgolion. Rwy’n gwybod bod Prifysgol Abertawe, y gwn sydd yn ei etholaeth ef, wedi bod yn gweithio'n dda gyda byd diwydiant dros flynyddoedd maith. Yn wir, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw i weld sut orau y gallwn fanteisio i’r eithaf ar yr arbenigedd a'r eiddo deallusol y maen nhw’n eu datblygu.
Brif Weinidog, os yw dinas-ranbarth Bae Abertawe yn mynd i fod yn llwyddiant, bydd yn gofyn am weithio ar y cyd, nid yn unig rhwng y pedwar awdurdod lleol ond cydweithio gyda dinas-ranbarth Caerdydd a chyda Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod y seilwaith ar waith i gefnogi’r cynlluniau uchelgeisiol a gyflwynwyd gan fwrdd y ddinas-ranbarth. Pa welliannau seilwaith y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio ar gyfer rhanbarth bae Abertawe dros y pum mlynedd nesaf; a sut ydych chi’n bwriadu cysylltu rhanbarth ehangach bae Abertawe â phrosiect metro de Cymru?
Rydym ni’n ystyried, wrth gwrs, ffyrdd o greu prosiect metro yn y rhanbarth hwnnw yn y blynyddoedd i ddod. Mae Abertawe, fel dinas, yn sbardun economaidd i’r ardaloedd o'i chwmpas, ac mae'n bwysig bod pobl yn gallu cyrraedd Abertawe yn rhwydd hefyd. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud, yr hyn fyddai'n hynod ddefnyddiol yw pe byddai Llywodraeth y DU yn cyflawni ei haddewid i drydaneiddio prif reilffordd de Cymru cyn belled ag Abertawe, rhywbeth y mae wedi gwrthod yn llwyr ei wneud hyd yn hyn.
Hyd yma, cyfochrwyd Cwm Cynon yn gadarn gyda dinas-ranbarth Caerdydd, ac, er fy mod i’n croesawu'r cysylltiad hwn a'r manteision lu y gallai eu cynnig, o safbwynt daearyddol ac economaidd, mae gan fy etholaeth lawer o gysylltiadau ag ardal bae Abertawe hefyd. Pa sicrwydd allech chi ei roi, Brif Weinidog, y bydd y model dinas-ranbarth yn ddigon hyblyg i ymgorffori budd pennaf etholaethau fel fy un i, y mae eu buddiannau yn gorwedd yn y ddau ddinas-ranbarth.
Oes, mae’n rhaid i’r model fod yn hyblyg i gydnabod realiti economaidd, nid ffiniau gwleidyddol. Rydym ni’n deall hynny. Mae'r ddinas-ranbarth, a'r rheswm pam mae Cwm Cynon yn y ddinas-ranbarth ynghyd â Chaerdydd, yw oherwydd tuedd y cysylltiadau ffyrdd, a’r cyswllt rheilffordd yn arbennig, i ddod i mewn i Gaerdydd. Ond, wrth gwrs, fel y gwyddom, o gylchfan Baverstock i gyfeiriad y gorllewin, ceir cysylltiadau i Abertawe hefyd. Nid oes unrhyw reswm pam na all y ddau ddinas-ranbarth weithio gyda'i gilydd, gan weld eu hunain fel cydweithwyr ar gyfer ffyniant cyfunol yn hytrach na chystadleuwyr.