– Senedd Cymru am 4:28 pm ar 4 Hydref 2016.
Felly, byddwn yn symud i eitem 6, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar wella gofal ar gyfer cyflyrau iechyd difrifol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething, i gynnig y datganiad—Vaughan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fis Hydref diwethaf, rhannais â'r Cynulliad blaenorol fy nghynlluniau i ymestyn y cynlluniau cyflawni ar gyfer iechyd difrifol tan fis Mawrth 2020. Mae’r cynlluniau cyflawni ar gyfer canser, clefyd y galon, diabetes, gofal diwedd bywyd, y rhai difrifol wael a strôc wedi cael eu hadolygu ac maent wrthi’n cael eu hadnewyddu. Bydd y cynlluniau ar gyfer cyflyrau anadlol a niwrolegol yn cael eu hadolygu yn 2017. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer clefyd yr afu/iau yn dod i ben yn 2020. Byddaf yn lansio’r ail gynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl ar 10 Hydref ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi £10 miliwn yn flynyddol—sef £1 filiwn ar gyfer pob un o'r cynlluniau cyflawni—ac mae effaith y buddsoddiad hwn yn cael ei hadrodd mewn adroddiadau blynyddol ar bob cyflwr iechyd difrifol.
Mae gennym lawer i fod yn falch ohono. Ers eu cyflwyno, mae pob cynllun cyflawni wedi helpu i wella'r gofal a’r driniaeth i bobl sydd â chyflwr iechyd difrifol. Bu gwelliannau sylweddol yn y canlyniadau i gleifion, gan gynnwys, er enghraifft, ostyngiad cyson yng nghyfradd y bobl yng Nghymru sy’n marw o glefyd cardiofasgwlaidd a chlefydau sy'n gysylltiedig â diabetes. Mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer llawer o gyflyrau iechyd difrifol fel strôc a chlefyd y galon yn gwella, fel y mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer pobl sy'n cael eu trin mewn unedau gofal critigol yng Nghymru.
Mae pob grŵp cyflawni wedi canolbwyntio ar atal a chymorth, gyda phwyslais ar gyd-gynhyrchu â'r trydydd sector yn benodol. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer diabetes wedi datblygu adnoddau i gleifion sy’n addysgu a chefnogi pobl sy'n byw gyda diabetes. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys pynciau fel pwysigrwydd sgrinio'r retina, gofal traed a hypoglycemia. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc yn treialu dull o weithredu gyda gofal sylfaenol a chymunedol sy’n nodi’r rhai sydd mewn perygl o ffibriliad atrïaidd a sicrhau bod y driniaeth briodol yn ei lle. Dylai hyn leihau nifer y bobl sy'n cael strôc, yn ogystal â chefnogi pobl i ddeall a rheoli eu risg eu hunain. Dengys y canlyniadau o'r cynllun peilot y gallai'r dull hwn, o’i roi ar waith, arwain at ostyngiad o 10 y cant yn nifer y bobl sy’n cael strôc ledled Cymru.
Mae sicrhau bod gwasanaethau'n gweithio'n dda ac yn effeithlon er budd y claf yn un o’r agweddau allweddol ar bob cynllun cyflawni. Gan weithio mewn partneriaeth, mae’r grwpiau gweithredu ar gyfer clefyd y galon, strôc a diabetes yn cyflwyno rhaglen genedlaethol i asesu risg cardiofasgwlaidd. Mae hyn yn canolbwyntio ar gleifion sydd â’r risg uchaf o glefyd cardiofasgwlaidd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Y nod yw dod o hyd i glefyd cardiofasgwlaidd sydd heb ei ganfod a chefnogi pobl i leihau eu ffactorau risg eu hunain o ddatblygu'r cyflwr.
Bu datblygu gwasanaethau adsefydlu effeithiol yn flaenoriaeth genedlaethol i grwpiau cyflyrau niwrolegol a gweithredu ar gyfer strôc. O ganlyniad, mae’r ddau grŵp ar y cyd wedi darparu £1.2 miliwn i gefnogi gwasanaethau adsefydlu niwro yn y gymuned. Yn ogystal â hyn, fe wnaeth staff ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro gynnal gwasanaeth adsefydlu integredig peilot am saith diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar gleifion strôc. Mae'r canlyniadau wedi dangos bod yr amser aros i gleifion mewn ysbyty wedi gostwng ar gyfartaledd o 58 i 24 diwrnod. Mae'r gwasanaeth newydd wedi parhau ac wedi cael ei ehangu. Bydd yr hyn a ddysgir o'r gwasanaeth hwn yn cael ei rannu â byrddau iechyd eraill mewn digwyddiad cenedlaethol i ddysgu am strôc.
Mae sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis cyflym yn gwella’r cymorth a'r driniaeth y gall gwasanaethau eu darparu. Gwelwyd llawer o enghreifftiau ardderchog o gynnydd yn y mae hwn, gan gynnwys y gwasanaeth cardioleg cymunedol newydd a ariennir gan y grŵp gweithredu ar gyfer clefyd y galon, sydd bellach yn weithredol ar draws yr holl fyrddau iechyd. Mae'r gwasanaeth yn cynnig clinig cardioleg cymunedol sydd â mynediad uniongyrchol un stop, a chafodd gwasanaethau cardioleg cymunedol eu cyflwyno i ddarparu diagnosteg ac asesiad yn nes at gartref y claf mewn gofal sylfaenol neu mewn ysbyty cymunedol.
Gyda chefnogaeth Cymorth Canser Macmillan a'r cynllun cyflawni ar gyfer canser, mae rhaglen o fuddsoddi mewn oncoleg gofal sylfaenol wedi dechrau. Nodwyd meddygon teulu a nyrsys arweiniol ym mhob ardal bwrdd iechyd i gefnogi clystyrau gofal sylfaenol i wella diagnosis, atgyfeirio a chefnogaeth ôl-driniaeth.
Ym mis Medi y llynedd, cyflwynodd y bwrdd gweithredu ar gyfer gofal diwedd oes gynllun gofal ymlaen llaw, sy'n rhoi manylion am ddymuniadau a dewisiadau’r claf ar gyfer ei ofal yn y dyfodol. Hyd yn hyn, er enghraifft, mae mwy na 900 o aelodau o staff wedi cael hyfforddiant ar benderfyniadau gofal ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn unig.
Mewn ymateb i'w flaenoriaethau lleol y mae eu hangen i gyflawni'r cynllun cyflawni ar gyfer y rhai difrifol wael, agorodd bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro uned gofal ôl-anaesthetig ym mis Ionawr y llynedd. Mae’r uned newydd hon yn darparu capasiti ar gyfer gofal critigol wedi'i neilltuo i gleifion risg uchel dewisol, ar ôl llawdriniaeth. Mae eisoes wedi darparu gwell canlyniadau i gleifion a chwyldroi'r modd y mae gofal critigol yn cael ei ddarparu i gleifion llawdriniaeth ddewisol. Er enghraifft, mae llai o achosion o ganslo llawdriniaethau oherwydd pwysau argyfwng, mae’n golygu lleihad pellach yn yr amser y mae’n rhaid i’r claf aros yn yr ysbyty, ac mae llai o oedi wrth drosglwyddo gofal.
Er mwyn mynd ati i hunanreoli, mae angen hyder a sgiliau ar unigolion i reoli eu hiechyd yn ddyddiol ac mae grwpiau gweithredu wedi gweithio â’r byrddau iechyd i wella gwasanaethau a phrofiad y claf. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer diabetes wedi datblygu rhaglen addysg strwythuredig Cymru gyfan ar gyfer rhai 11 i 16 mlwydd oed sydd â diabetes, a elwir yn SEREN. Ar gyfer pob un o'r cynlluniau cyflawni, mae profiad y cleifion a’u llais yn cael eu cynrychioli gan y grwpiau cymorth priodol.
Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau niwrolegol a strôc yn cydweithio i ddatblygu mesurau profiad a chanlyniad a adroddir gan gleifion cyflyrau niwrolegol a strôc. Mae hwn yn waith hynod bwysig nad yw unrhyw rannau eraill o'r DU wedi mynd i’r afael ag ef o'r blaen. Dylai'r ddau fesur fod yn barod i’w cyflwyno'n genedlaethol erbyn mis Mawrth 2018.
Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer canser wedi sefydlu cylch safon a llywodraethu tair blynedd ar gyfer adolygiad gan gymheiriaid. Adolygwyd pob un o'r prif wasanaethau canser, ac maent bellach yn cael eu hail-adolygu, gan ddechrau gyda chanser yr ysgyfaint yn ystod 2016. Mae’r canfyddiadau eisoes wedi dangos newid mesuradwy, gan gynnwys ariannu arbenigwyr nyrsio clinigol a staff clinigol eraill, a datblygu polisïau a phrotocolau clinigol i leihau amrywiad diangen mewn safonau gofal ar draws byrddau iechyd. Addaswyd y model hwn gan nifer o grwpiau gweithredu, fel y rhai ar gyfer pobl ddifrifol wael, clefyd y galon a diabetes.
Rwy’n gobeithio y gall yr Aelodau weld bod pob cynllun cyflawni a grŵp gweithredu wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol. Rwy’n disgwyl i’r cynlluniau cyflawni ar eu newydd wedd barhau i gael yr effaith honno, a hoffwn ddiolch i'r grwpiau gweithredu am y cynnydd y maent wedi'i wneud yn erbyn y cynlluniau presennol. Edrychaf ymlaen at gyflawniadau pellach dros y blynyddoedd sydd i ddod ar draws Cymru gyfan.
Diolch yn fawr iawn. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae rhyw ddau neu dri o bwyntiau gen i, a phump o gwestiynau, rwy’n meddwl. O ran pwyntiau agoriadol, rydym wrth gwrs yn croesawu'r gwelliannau a chyfraddau goroesi gwell a chanlyniadau gwell i gleifion pan mae hynny’n digwydd. Mae wrth gwrs yn digwydd ar draws Ewrop a’r byd yn gyffredinol oherwydd gwelliannau mewn triniaeth, mewn technoleg, mewn arloesedd, mewn rhannu arfer gorau, ac ati; y broblem sydd gennym ni yng Nghymru ydy bod y newidiadau hyn ddim yn digwydd a’r gwelliannau ddim yn digwydd mor gyflym ag y byddem ni’n dymuno.
Mae angen inni, wrth gwrs, yng nghanol hyn beidio â thynnu ein llygaid oddi ar y bêl ar y mater sylfaenol o wella amseroedd aros ar gyfer triniaethau a phrofion, achos yn aml iawn mae triniaeth gynharach yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn datblygu salwch cronig neu’n gwneud salwch cronig yn waeth wrth aros.
Y trydydd pwynt—y cyd-destun sydd angen ei grybwyll fan hyn—ydy’r methiant i fynd i’r afael â gordewdra yn benodol, sy’n golygu bod yna gynnydd yn yr angen am wasanaethau i bobl sydd â salwch cronig. Mae fy nghwestiwn cyntaf i yn ymwneud â hynny. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi neu wedi sôn am raglenni addysg strwythuredig i ddisgyblion 11 i 16 oed sydd â chlefyd siwgr, ond nid, wrth gwrs, plant ydy’r unig rai sydd angen hyn. Mae Diabetes UK wedi tynnu sylw at y diffyg presenoldeb mewn cyrsiau o’r fath. Dim ond 2 y cant o’r rhai sydd â chlefyd siwgr math 1, a 6 y cant o’r rhai sydd wedi cael diagnosis diweddar o fath 2 ar draws Cymru a Lloegr sydd wedi mynychu cwrs. Os edrychwn ni ar ffigurau Cymreig yn benodol, mae’r sefyllfa’n waeth byth. Dim ond 1 y cant o ddioddefwyr clefyd siwgr math 1 a 0.9 y cant o rai sy’n dioddef math 2 sy’n cael eu cofnodi fel rhai sydd wedi mynychu rhaglen addysg strwythuredig. A dim ond 24 y cant o gleifion yng Nghymru sydd â diabetes math 1 sydd wedi hyd yn oed cael cynnig mynd ar gwrs, ac mae hynny’n cymharu â thraean o’r cleifion yn Lloegr. Felly, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn bod angen darparu mwy o gyrsiau, eu hysbysebu’n nhw’n well, rhannu gwybodaeth amdanyn nhw a sicrhau eu bod nhw ar amseroedd cyfleus, ac ati?
Mi wnaf droi at y data, fel rwyf wedi ei wneud droeon. Mi gafodd ansawdd gwael casglu a chyhoeddi data ei amlygu mewn dim llai na 18 allan o’r 22 ymchwiliad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y pedwerydd Cynulliad. Mae’n rhyfeddol. Ac mae diffyg ac ansawdd gwael y data yn rhwystro cynllunio gwasanaethau. Mae o’n rhwystro’r gwerthusiad rydym ni ei angen o bolisïau a mentrau penodol. A fyddwch chi—rwy’n gofyn eto—yn sicrhau bod hyn yn gwella er mwyn ein sicrhau nad ydym ni yn gorfod dim ond cymryd eich gair chi ar bethau pan fyddwch chi’n hawlio gwelliannau?
Mae yna sôn yn y datganiad heddiw am fuddsoddiad mewn oncoleg, mewn gofal sylfaenol a datblygu safonau mwy cyson mewn gofal canser, ac y bydd hyn yn cynnwys casglu a chyhoeddi data gwell. Fe roddaf enghraifft yn y fan hyn: mae adroddiad diweddar yn awgrymu mai dim ond 32 y cant o gleifion sy’n cael mynediad at weithiwr allweddol. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd bod gan y rhan fwyaf o gleifion weithiwr allweddol mewn gwirionedd, ond mai cofnodi hyn ydy’r her. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn, pan ei fod yn hawlio bod y gwasanaeth yn cyflawni rhywbeth, fod rhaid cael y data i brofi hynny fel ein bod ni yn gallu gwneud ein gwaith ni o ran sgrwtini?
Amrywiaeth rhanbarthol ydy’r pedwerydd cwestiwn. Yn aml, mae’r gwelliannau yn digwydd a chyfraddau goroesi yn gwella oherwydd bod rhyw dechnoleg neu ddull newydd o weithio yn cael ei gyflwyno o’r newydd, a hynny o bosibl yn digwydd mewn un ardal yn well nag ardaloedd eraill. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod y prosesau yma—cyflwyno’r gwelliannau yma—yn digwydd yn gyflymach ac yn fwy cyson ar draws Cymru?
Ac yn olaf, mae’r datganiad heddiw, fel llawer o ddatganiadau gan yr Ysgrifennydd Cabinet, i fod i ddangos bod yr NHS yng Nghymru yn gallu cyflwyno gwelliannau yn effeithiol. Ond os cofiwn ni bod tri allan o naw bwrdd iechyd Cymru mewn ymyrraeth wedi’i thargedu, sydd un cam, wrth gwrs, o dan fesurau arbennig, ac, wrth gwrs, fod yna un bwrdd mewn mesurau arbennig—. Er bod yna ragoriaeth mewn rheoli yn yr NHS yng Nghymru, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn hyderus bod y sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth iawn ar draws yr NHS yng Nghymru yno er mwyn gallu gweithredu’r math o newidiadau y mae o am eu gweld?
Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau a chwestiynau. Os gallaf fynd yn ôl at, rwy’n meddwl, rywfaint o'r mater agoriadol—rwy'n credu ei fod braidd yn anffodus, weithiau, mai’r argraff a roddir, pan fyddwch yn siarad am y gwelliannau ehangach ym maes gofal iechyd, yw bod hyn i gyd yn anochel a bod rôl y cynlluniau cyflawni a'r grwpiau gweithredu heb gael unrhyw effaith o gwbl. Nid wyf yn credu bod hynny'n asesiad teg na rhesymol. Yn sicr, os nad ydych am gymryd fy ngair i am hynny, gallech fynd a gofyn i'r clinigwyr sy'n ymwneud â’r gwaith hwnnw, pob un o'r arweinwyr clinigol cenedlaethol, a gallech fynd a gofyn i aelodau o'r trydydd sector sy’n ymgysylltu ar y grwpiau gweithredu, er enghraifft, ynglŷn â gwerth y gwaith hwnnw a'r effaith y maent wedi’i chael ar osod blaenoriaethau gyda'r gwasanaeth iechyd. Felly mae'n ymgysylltu gwirioneddol ac nid yw’n ymwneud yn unig â’r gwasanaeth yn penderfynu drosto’i hun beth fydd yn ei wneud. Mae gennych chi’r gynrychiolaeth uniongyrchol o'r trydydd sector. Mae'n un o gryfderau'r dull o weithredu yr ydym yn ei gymryd, mewn gwirionedd, bod gennym y trydydd sector yno fel ffrindiau beirniadol, ond maent yn dal i fod yn gallu helpu i osod yr agenda, ac maent yn cydnabod yr effaith yr ydym wedi ei gwneud. Er enghraifft, yn ystod amser cinio, nid oeddwn yn gallu gweld Dr Lloyd yno—yn anffodus, roedd yn rhaid iddo ddiflannu cyn i mi ei weld—ond yn nigwyddiad Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yr oeddech chi ynddo ac Aelodau eraill hefyd, roedd cydnabyddiaeth go iawn o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gyda nhw, er enghraifft, yn y cynlluniau iechyd difrifol y maent yn ymwneud â nhw ac yn gysylltiedig â nhw. Maent yn cydnabod bod y cynllun cyflwyno hwnnw a’i weithredu yn rhan bwysig o wella gwasanaethau. Yn wir, mae’r arian y maent wedi’i gael wedi bod yn bwysig hefyd—i beidio, dyweder, â dylunio strategaeth, ond bod rhywfaint o'r arian hwnnw wedyn i gael ei ddefnyddio i gyflawni blaenoriaethau cydnabyddedig. Enghraifft dda yw’r un yr ydych chi wedi’i chrybwyll—y grŵp gweithredu ar gyfer diabetes. Maen nhw mewn gwirionedd wedi cael addysg strwythuredig ac addysg i gleifion yn un o'u pum blaenoriaeth allweddol eleni. Fel y nodwyd gennych, rydym yn cydnabod nad oes digon o bobl yn manteisio ar y cyfle i gael addysg strwythuredig, yn enwedig ar adeg diagnosis, pan mae cyfle gwirioneddol i geisio cael rhywun i feddwl am ei gyflwr a sut mae modd rheoli’r cyflwr hwnnw ei hunan. Felly, mae cydnabyddiaeth lwyr bod addysg strwythuredig, nid yn unig ar ddiabetes, yn rhan bwysig o wella gwasanaethau a gwella canlyniadau a gwella profiad y claf. Mae rhywbeth yno eto, ac mae'n thema barhaus yr ydych chi, mewn gwirionedd, wedi ei chodi eich hun mewn trafodaethau o fewn y Siambr hon a'r tu allan, ynghylch y rôl y gall y dinesydd ei chwarae ac y dylai ei chwarae wrth helpu i reoli a gwella ei iechyd ei hunan a sut yr ydym yn helpu'r person hwnnw i wneud gwahanol ddewisiadau am ofal iechyd. Boed hynny’n ymwneud ag osgoi diabetes, sydd, unwaith eto, yn rhan arall o'r pum blaenoriaeth y maent wedi’u gosod eleni, ond hefyd o ran diabetes math 1, lle nad oes modd ichi osgoi ei gael—mae naill ai gennych chi neu nid yw gennych chi—mae'n ymwneud â sut rydych yn helpu'r unigolyn hwnnw i reoli ei gyflwr hefyd. Felly, rwy’n cydnabod y pwynt a wneir ac mae Diabetes UK, yn wir, yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu â’r grŵp gweithredu ar gyfer diabetes. Mae ganddynt nifer o bethau da a chadarnhaol i'w dweud, yn ogystal â beirniadaeth onest ac adeiladol i’w gwneud hefyd. Rwy’n croesawu'r ddwy ffordd y mae'r trydydd sector yn ymgysylltu â ni.
Byddaf yn ymdrin â'ch pwynt chi am arweinyddiaeth y saith bwrdd iechyd a'r tair ymddiriedolaeth. Gwneuthum y penderfyniad, a drafodwyd gennym yn y Siambr hon o'r blaen, y dylai ymyrraeth wedi'i thargedu ddigwydd mewn tri bwrdd iechyd. Ar yr un pryd, wrth gwrs, symudodd y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru i lawr yn y statws ymyrraeth gan eu bod wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol a sylweddol, a gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod hynny ar sail fwy cyson o bosib. Rwy'n hyderus y byddwn yn gallu rhoi ystod o gefnogaeth ac atebolrwydd ar waith i weld gwelliant gwirioneddol yn cael ei wneud. Y sicrwydd y dylai'r Aelod ei gymryd yw bod hon yn broses real—pe na fyddai, yna gallem fod wedi osgoi ceisio uwchgyfeirio tri bwrdd iechyd at ddibenion gwleidyddol. Ni ddigwyddodd hynny, ac ni ddigwyddodd oherwydd bod y broses yn un real ac mae'n gadarn, ac mae swyddogaeth y rheoleiddiwr yn rhan go iawn a phwysig o wneud hynny’n real hefyd. Felly, os ydych yn gweld y sefydliadau hynny yn gwella, bydd hynny oherwydd bod gwelliant gwirioneddol wedi digwydd. Rydym bob amser yn chwilio am welliannau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth, ac mae’r cynlluniau cyflawni eu hunain wedi helpu i ddarparu rhywfaint o'r arweinyddiaeth glinigol o fewn y gwasanaeth hefyd. Rwy’n credu’n wirioneddol bod pob un o'r arweinwyr clinigol cenedlaethol wedi cael effaith go iawn wrth wella rhannau o'u meysydd gwasanaeth hefyd. Mae'n gweithio ochr yn ochr, er enghraifft, â’r rhaglen gwella 1000 o Fywydau hefyd.
Cyn imi orffen, byddaf yn ymdrin â’r pwynt am ddata. Rydym yn sylweddoli bod meysydd lle mae data yn anniben ac nad ydynt mor lân ag yr ydym yn dymuno iddynt fod. Mae heriau’n bodoli wrth godio ystod o wahanol faterion, er enghraifft, ond mae'r data yn bwysig iawn i ni. Mae'r data a'r broses archwilio clinigol hefyd wedi bod yn ffactor bwysig iawn, er enghraifft, yn y cynllun cyflawni ar gyfer clefyd y galon a'r maes cardiaidd, ac edrych ar yr hyn y mae’r archwiliadau hynny’n ei ddweud wrthym. Mae'n ffynhonnell ddefnyddiol iawn, nid dim ond yr hyn y gallant ei ddweud wrthym am atebolrwydd, ond sut gallant wella gwasanaethau, ac nid dim ond trwy gymharu ein hunain ar sail archwiliad o fewn Cymru. Mewn gwirionedd mae'r rhain yn arolygon sylweddol a gynhelir ledled Cymru a Lloegr, ac yn sicr mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cymryd rhan yn rheolaidd yn yr un treialon hefyd. Nid ydym ond yn edrych arnom ni ein hunain yn unig o fewn y saith bwrdd iechyd a thair ymddiriedolaeth yng Nghymru; rydym yn edrych ar yr hyn y gall data ei ddweud wrthym a sut y gallai’r daith tuag at welliant edrych.
Felly, mae heriau gwirioneddol i wella arnynt ac mae hynny’n cael ei gydnabod. Rydym wedi gwneud nifer o bethau i wella hynny hefyd; er enghraifft, pan edrychwch ar adolygiadau o farwolaethau, mae hynny wedi bod yn welliant pendant yn ystod y tymor diwethaf. Ond, mae hefyd ddigon o ddata o ansawdd uchel, ac un o'r pethau yr ydym wedi’i weld o'r cynlluniau cyflawni yw, lle y gallwch mewn gwirionedd edrych ar y data o ansawdd uchel ac edrych ar ymchwil sy'n digwydd yn y maes hwnnw, ei fod yn aml yn helpu i wella arfer clinigol ymhellach a’r potensial hwnnw ar gyfer arloesi hefyd. Felly, mae cwestiynau pellach i'w gofyn a phwyntiau i'w gwneud am barhau i wella ansawdd y data sydd gennym—heb fod yn hunanfodlon am y peth. Mae gennym hefyd stori dda i'w hadrodd mewn ystod eang o feysydd ac nid oes arnaf eisiau colli golwg ar hynny un ai yn y datganiad hwn neu yn y gwaith y byddwn yn ei wneud yn y blynyddoedd i ddod.
Weinidog, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae gen i bedwar maes yr hoffwn ofyn cwestiynau amdanynt gyda chi. Y peth cyntaf yr hoffwn i siarad amdano yw cyd-gynhyrchu—mae hyn wedi dod yn arwyddair i lawer o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r GIG. Hoffwn i ddeall yn well yr hyn yr ydych yn mynd i fod yn gallu ei wneud gyda phob un o’r cynlluniau gwahanol hyn er mwyn sicrhau bod cyd-gynhyrchu ac integreiddio go iawn yn digwydd, yn enwedig yn y meysydd sy'n eistedd yn fwy cyfforddus ochr yn ochr â’i gilydd, er enghraifft, gwasanaethau strôc gyda gwasanaethau niwrolegol.
Roeddech chi a minnau mewn digwyddiad dim ond yr wythnos diwethaf pan oedd y niwrolegwyr yn sôn am y ffaith bod ffordd bell iawn i fynd o hyd cyn y gallant sicrhau eu bod yn dylanwadu’n effeithiol ar rai o'r cynlluniau gweithredu hyn, a’u bod yn galw am integreiddio gwasanaethau’n well. Felly, nid dim ond yn y maes hwn y mae, ond mewn meysydd eraill hefyd. Pa fath o gysylltiad yr ydych chi'n ei chael? Sut yr ydych chi’n sicrhau bod gan y bobl sy'n cynnal y cynlluniau hyn gysylltiadau â’r holl gynlluniau eraill sy’n bodoli er mwyn sicrhau ein bod yn cael cymaint o integreiddio a chymaint o gyd-gynhyrchu ag y bo modd?
Mae’r ail faes yn ymdrin ag arferion gorau. Roeddwn yn falch iawn o ddarllen rhai o'r enghreifftiau hyn o arferion gorau yr ydych yn eu dyfynnu yma. Rydych yn sôn am Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro â'u gwasanaeth adsefydlu integredig peilot saith diwrnod sy'n canolbwyntio ar gleifion strôc, ac rwy’n meddwl eich bod yn siarad am—mae un arall yn rhywle—Brifysgol Caerdydd gyda'i huned gofal ôl-anesthetig. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa mor hir y mae'n ei gymryd i’r cynlluniau peilot hyn (a) gael eu cynnal, (b) gael eu gwerthuso, ac (c) yna rhannu’r arferion gorau hwnnw ar draws byrddau iechyd eraill, fel y gallwn ni sicrhau’r enillion hyn drwy’r GIG cyfan ac nid mewn un neu ddau faes yn unig.
Mae’r trydydd maes yn ymwneud â recriwtio a hoffwn i ddweud, er fy mod yn derbyn eich optimistiaeth wrth gyflwyno’r datganiad hwn, mae’n rhaid i mi ddweud bod gennym ni o hyd ganlyniadau gwaeth mewn rhai meysydd—strôc, gofal y galon a chanser. Rydym yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond hoffwn i ddeall, yn yr uchelgais i gyrraedd y nodau llwyddiannus a dal i fyny â gwledydd eraill, pa ran sy’n cael ei chwarae gan y prinder ymgynghorwyr arbenigol, y nyrsys arbenigol a’r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn y meysydd penodol hynny o'r cynlluniau hyn. Sut y mae hynny’n effeithio ar lwyddiant? Siaradais yn gynharach—rwy’n credu eich bod chi yma—â’r Prif Weinidog ynghylch prinder nyrsys epilepsi, er enghraifft. Gan nad oes gennym nyrsys epilepsi, beth am redeg clinigau epilepsi? Nid oes gennym y naill na’r llall. Byddai mentrau fel hyn mewn gwirionedd, yn yr achos hwnnw, yn hyrwyddo darpariaeth well o wasanaethau niwrolegol i gleifion, ac wrth gwrs, yn y pen draw, yn gwella bywyd y cleifion hynny ac yn arbed arian i'r GIG. Oherwydd os yw 70 y cant o bobl yn gallu rheoli eu ffitiau, mae hynny’n well o lawer na bod dim ond 50 y cant o bobl yn gallu gwneud hynny. O ran epilepsi, gallwch ddarllen amdano’n gyffredinol. Rydych chi a minnau’n gwybod bod y broses recriwtio yn broblem wirioneddol. Felly, hoffwn ddeall pa effaith y mae'n ei chael ar y cynlluniau hyn.
Fy maes olaf yw y byddwn i'n hoffi deall yr elfen ariannol ohono. Rwy’n credu eich bod wedi dweud ei fod yn £10 miliwn fesul cynllun. [Torri ar draws.] Deg miliwn o bunnoedd dros bob un o'r cynlluniau? Ie, diolch, oherwydd roeddwn yn meddwl ei fod yn £10 miliwn ar gyfer pob un o’r cynlluniau ac roeddwn yn meddwl, ‘Diwedd annwyl, nid wyf wedi sylwi arnoch yn dyrannu £100 miliwn yn ddiweddar, y dyn hael iawn ag yr ydych chi.' Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf, o ran y £10 miliwn hwnnw, sut y caiff ei rannu ar draws yr holl wahanol gynlluniau gweithredu hynny? Pwy sy'n dweud pwy sy'n mynd i gael pa arian, faint o arian? A phwy mewn gwirionedd wedyn sy’n dilyn yr arian hwnnw drwy'r broses gyfan i sicrhau ein bod yn cael gwerth priodol am yr arian hwnnw, a'i fod yn cyflwyno’r canlyniad yr ydym yn ei ystyried yn foddhaol mewn cysylltiad â'r gwerth am yr arian hwnnw?
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Efallai y gallaf ddechrau gyda’r diwedd, dim ond i ddelio â hynny yn gyflym. Mae'n £1 miliwn ar gyfer pob un o'r prif gynlluniau cyflwr, ac mae sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio yn cael ei benderfynu gan y grŵp gweithredu. Felly, mae amrywiaeth o bobl o'r gwasanaeth iechyd yn ymwneud â hynny. Yn aml, cyfarwyddwr meddygol neu brif weithredwr bwrdd iechyd lleol neu ymddiriedolaeth sy'n cadeirio’r cyrff hynny, ond maent yn cynnwys amrywiaeth o wahanol bobl o wahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd a'r trydydd sector, sydd, fel y dywedais yn gynharach, yn gryfder pwysig. Byddant wedyn yn penderfynu ar nifer penodol o flaenoriaethau a beth i'w roi i mewn i bob maes. Felly, nid yw'r Llywodraeth yn dweud wrthynt, 'Dyma beth sy'n rhaid i chi ei wneud gyda'r arian hwn.' Mae’n fater i’r grŵp hwnnw benderfynu, 'Beth allwn ni ei wneud gyda’r swm hwn o arian i wella'r maes gwasanaeth hwn, a beth yr ydym ni'n credu yw'r blaenoriaethau go iawn o fewn hynny?' Mae hynny wedi’i groesawu mewn gwirionedd gan bobl yn y gwasanaeth a'r tu allan —y lobi, y grwpiau diddordeb a thrydydd sector: cael swm o arian i wneud gwahaniaeth go iawn.
Fel y dywedais yn gynharach, yn fy natganiad, am y cynlluniau hynny, mae hyn yn mynd yn ôl at eich pwynt ynghylch faint sy'n cael ei rannu, oherwydd fy mod i mewn gwirionedd wedi fy nghalonogi gan faint o waith ar y cyd sydd wedi digwydd yn eithaf cyflym ers i’r arian fod yno—felly, mae'r pwyntiau a wneuthum ynghylch y meysydd o waith ar y cyd rhwng cyflyrau niwrolegol a strôc, a’r pwynt am asesu risg cardiofasgwlaidd, ar waith a rennir yno hefyd. Felly, rydym wir wedi gweld pobl yn dod at ei gilydd i siarad â'i gilydd am sut i ddefnyddio eu harian mewn ffordd gydgysylltiedig, ac mae hynny'n wirioneddol galonogol. Mae hefyd wedi dwyn ynghyd ystod o wahanol bobl yn y trydydd sector mewn cynghreiriau newydd hefyd. Er enghraifft, ceir cynghrair cardiofasgwlaidd newydd rhwng amrywiaeth o wahanol elusennau sy’n ymwneud ag ac yn cymryd rhan yn yr un math o faes gwaith, ac mae hynny'n wirioneddol galonogol i ni. Mae'n golygu, mwy na thebyg, bod ganddynt fwy o lais o ganlyniad, ond mae hefyd yn fwy defnyddiol i'r Llywodraeth ymgysylltu â hwy fel grŵp, sy’n dod at ei gilydd â blaenoriaethau unedig. Felly, rwy’n meddwl bod hynny wedi bod yn galonogol iawn hefyd.
Ond mae'r gwaith yn dal yn gymharol newydd, felly mae'r pwynt ynghylch deall yr hyn y maent am ei wneud, sut y maent yn hysbysu eu hunain am flaenoriaethau, bwrw ati a chyflawni, a bod yn gallu gwerthuso hynny, mewn gwirionedd yn dal i fod ar y gweill, felly ni fyddwn yn gallu gwerthuso pa effaith y mae wedi'i chael tan rywbryd yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn. Ond, wrth ddyrannu’r arian hwnnw, mae’n rhaid inni dderbyn, wrth wneud hynny, efallai na fydd yr arian bob amser yn esgor ar y canlyniadau dymunol yr ydym eisiau iddo eu cynhyrchu. Ond, rwy’n credu y byddwn yn gweld cynnydd go iawn yn cael ei wneud o ran amrywiaeth ohonynt, ac rwy’n meddwl efallai mai’r enghraifft orau o hynny yw'r gardioleg gymunedol, a gyflwynwyd i ddechrau yn Abertawe Bro Morgannwg, yn ardal Abertawe, ac sydd erbyn hyn yn cael ei chyflwyno ar draws y wlad. Oherwydd mae tystiolaeth wirioneddol bod budd gwirioneddol i’r claf o symud gwasanaethau i'r gymuned, ac i'r dinesydd hefyd, ac mae mewn gwirionedd yn buddsoddi mewn gofal sylfaenol yn hynny o beth hefyd. Mae gofal eilaidd ar gyfer hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn yn ardal Abertawe, gan eu bod yn cydnabod ei fod wir wedi symud pobl yn eu hardal i fannau lle y gallant gael eu gweld, mae wedi rhyddhau pwysau arnynt, mae'r amseroedd aros bellach yn lleihau yn y maes gofal eilaidd o ganlyniad, ac mae meddygon ymgynghorol gweld pobl y maent yn cydnabod y mae gwir angen iddynt eu gweld. Felly, mae'n enghraifft dda iawn o'r cynnydd yr ydym yn awyddus i’w wneud.
Ac rwy’n meddwl y byddaf yn ceisio delio â'ch pwyntiau yn awr ynghylch cyd-gynhyrchu ac integreiddio, oherwydd mae’n ymwneud â mwy na dim ond y trydydd sector, mae'n ymwneud â'r dinesydd, sy'n rhan o'r uchelgais ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru, nid dim ond yn y cynlluniau cyflawni. Mae'n ymwneud â sicrhau bod y berthynas rhwng y dinesydd a'r gweithiwr iechyd proffesiynol wedi newid, mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod y trafodaethau hefyd yn cael eu hategu gan integreiddio gwasanaethau yn ehangach hefyd—felly, y newid rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd yr ydym wedi siarad amdano ers sefydlu’r lle hwn—ac mae’n ymwneud â sicrhau bod mwy o dystiolaeth bod hynny'n digwydd, gyda chardioleg gymunedol yn un enghraifft o faes lle y mae wedi digwydd. Ond, yr un modd, integreiddio â meysydd eraill o wasanaeth hefyd, felly nid gofal sylfaenol ac eilaidd yn unig, nid gwasanaethau cymdeithasol yn unig, ond integreiddio â chydweithwyr mewn adrannau addysg a thai hefyd, a chydnabod y rhan sydd gan hyn i'w chwarae wrth wella ystod o wahanol feysydd. Ac rwy’n meddwl efallai, o ran adsefydlu, mae’n enghraifft dda iawn o’r swyddogaeth bwysig sydd gan tai hefyd, wrth gael pobl i mewn i’w cartrefi eu hunain yn gyflymach, a beth y mae hynny'n ei olygu wedyn ar gyfer uno gwahanol wasanaethau, ac mewn gwirionedd y gwahanol weithwyr proffesiynol y mae angen iddynt ymgysylltu â hynny. Mae hynny'n bwysig iawn, er enghraifft, gyda gofal strôc, wrth symud ymlaen, yn fersiwn nesaf y cynllun, a deall y cyngor a'r canllawiau wedi’u diweddaru a gynhyrchwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon, sy’n rhoi pwyslais trwm ar gael pobl i mewn i'w cartref eu hunain yn fwy cyflym er mwyn i’r broses adsefydlu gael dechrau. Felly, mae sbardunau pwysig iawn ar waith y mae angen i bob grŵp gweithredu eu hystyried.
Felly, rwyf yn dymuno gorffen drwy ddweud, o ran y pwyntiau a wnewch am ganlyniadau, recriwtio a materion sy’n ymwneud â’r gweithlu, yn sicr rydym yn cydnabod bod pob un o'r cynlluniau cyflawni wedi bod yn ddefnyddiol yn y modd hwn, wrth amlygu meysydd lle y mae angen gwneud yn well, lle y mae diffyg go iawn, lle y mae tystiolaeth am yr hyn y mae hynny'n ei olygu, ac am sut y bydd y gwelliannau’n edrych hefyd. Felly, amser cinio, roeddwn yn gallu nodi bod cael tîm amlddisgyblaethol yn trin clefyd interstitaidd yr ysgyfaint yn gadarnhaol iawn o ran lleihau amseroedd aros i bobl, o rywbeth fel 18 wythnos i lawr at bythefnos. Mae hynny’n cael ei ysgogi gan y ffordd y mae'r grŵp gweithredu wedi gweithio gyda'i gilydd, felly ceir profiad gwell, ac erbyn hyn ceir canlyniadau gwell i bobl hefyd. Felly, mae rhesymau da dros fod yn gadarnhaol, yn ogystal â dros ddweud na ddylem fod yn hunanfodlon. Mewn gwirionedd, mae'r dull hwn yn golygu na ddylem fod yn hunanfodlon gan fod gennym ystod o wahanol bobl sy'n ymwneud ac yn cymryd rhan yn y gwaith sydd ar y gweill gennym.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n edrych ymlaen at adolygu’r cynlluniau cyflawni ar eu newydd wedd pan gânt eu cyhoeddi. Nodaf eich sylwadau bod cyfraddau goroesi ar gyfer llawer o gyflyrau iechyd yn gwella ac, er bod hyn yn wir, mae gennym lawer mwy o waith i'w wneud.
Rwy’n croesawu'r gwaith y bydd y grŵp gweithredu ar strôc yn ei wneud mewn cysylltiad â ffibriliad atrïaidd, ac yn gobeithio y gellir cyflawni’r gostyngiad a ragwelir yn nifer y bobl sy’n dioddef strôc, gyda'r pwyslais ar atal ac adsefydlu. Mae strôc yn lladd ddwywaith gymaint o fenywod â chanser y fron, a mwy o ddynion na chanser y brostad a’r ceilliau gyda’i gilydd. Diolch byth, mae mwy a mwy o bobl yn goroesi strôc erbyn hyn, ond daw heriau eraill yn sgil hyn. Erbyn hyn mae bron i 65,000 o bobl yn byw gydag effeithiau hirdymor strôc yma yng Nghymru. Strôc yw’r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth, ac mae dros hanner y rhai sy’n goroesi strôc yn dioddef o anabledd yn ei sgil. Rydym yn croesawu'r flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi gan y grwpiau gweithredu i ddatblygu gwasanaethau adsefydlu a'r cyllid ar gyfer gwasanaethau adsefydlu niwrolegol yn y gymuned hefyd. Ysgrifennydd y Cabinet, nodaf lwyddiant y peilot ar gyfer gwasanaethau adsefydlu yng Nghaerdydd a'r Fro, a'r bwriad i rannu'r hyn a ddysgwyd gyda byrddau iechyd eraill. Ond, siawns, os oedd y peilot yn llwyddiannus, dylid ei gyflwyno ar draws Cymru, yn hytrach na dim ond rhannu'r hyn a ddysgwyd.
Rydym yn croesawu'r gwelliannau mewn gofal cardiaidd, ac yn edrych ymlaen at y cynlluniau cyflawni a manylion am sut y mae’r Bil iechyd y cyhoedd sydd ar ddod yn bwriadu mynd i'r afael â'r cyfranwyr mwyaf at glefyd y galon.
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn croesawu’r adolygiad o wasanaethau canser. O ran gofal canser, mae gennym ffordd bell iawn i fynd. Cymru sydd â'r cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn Ewrop ac, er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, nid ydym wedi gwneud digon. Er mwyn craffu’n effeithiol, mae casglu data o'r pwys mwyaf. Felly, mae angen data i gynhyrchu trywydd archwilio o’n llwyddiannau a'n methiannau fel ei gilydd. Dim ond trwy fanteisio ar brofiad y gorffennol, y gallwn ni wir wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Nid yw triniaethau gofal canser traddodiadol bob amser yn effeithiol ac, er mwyn gwella cyfraddau goroesi, mae'n rhaid i ni ystyried trefniadau trin amgen. A fydd y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn cynnwys ymrwymiad i wella mynediad at feddyginiaethau haenedig yng Nghymru? Un o'r rhwystrau mwyaf i oroesi yw diffyg diagnosis cynnar. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyflymu mynediad at ddiagnosteg, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith TG gwell er mwyn cyflymu'r broses o rannu data profion er mwyn lleihau’r llwybr diagnosis, cyn belled ag sy’n bosibl?
Unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau gwelliannau gofal iechyd yn ystod y Cynulliad hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'r gwahanol grwpiau gweithredu am y gwaith caled y maent yn ei wneud i wella cyfraddau goroesi o gyflyrau mawr yng Nghymru. Diolch.
Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Rwy’n sicr yn cydnabod bod mwy i'w wneud ym maes atal salwch a gwella goroeswyr—yn y ddau faes hyn. Dyna pam y mae’r dull hwn gennym—sy’n dwyn ynghyd y bobl hyn sydd â diddordeb uniongyrchol yn hyn o’r Llywodraeth, y tu allan i'r Llywodraeth, a'r GIG hefyd. Mae eich enghraifft gyntaf chi, sef strôc, yn enghraifft dda o sut y mae'r grŵp gweithredu wedi helpu i fod yn rhan o gyflawni gwelliannau. Mae cwestiynau anodd i ni i gyd hefyd am y newid yn natur y ddarpariaeth, oherwydd bod y gwelliant, er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, wedi dod yn sgil proses anodd o ailgynllunio gwasanaethau, ac nid yw hynny'n hawdd. Ond os ydych chi’n siarad â'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yn ysbyty Bronglais, bydd yn dweud bod angen nifer llai o unedau hyper-acíwt. Nawr, mae hynny'n golygu dewisiadau anodd i bobl ledled Cymru. Os ydym yn mynd i ganolbwyntio ar y ffurf honno wasanaeth ac arbenigo ynddi, yna mae'n rhaid gwneud hynny ar y sail bod yna sylfaen dystiolaeth wirioneddol a chlir a fydd yn gwella canlyniadau, gan y bydd heriau anodd os disgwylir i bobl deithio ymhellach ar gyfer y driniaeth honno. Ond, yn y pen draw, os mai’r dystiolaeth yn dangos bod mwy o siawns iddynt oroesi, a gwell cyfle iddynt gael adferiad effeithiol o ganlyniad, mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i'r gwasanaeth ei gyflawni.
O ran eich pwyntiau ehangach—y pwyntiau ehangach a wnaethoch ynghylch canser—mewn gwirionedd, mae'n stori lwyddiant rhyfeddol ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol i gynnal y cynnydd yn y galw am y gwasanaethau canser, a dal i weld cymaint o bobl ag y maent yn ei wneud. Rydym yn gweld y nifer mwyaf erioed o bobl o fewn yr amserlenni a bennwyd, gan fod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser, a mwy o bobl yn cael eu trin yn fwy llwyddiannus nag erioed o'r blaen. Nid wyf yn credu ei fod yn beth drwg i atgoffa ein hunain bod cyfraddau goroesi am flwyddyn dros 70 y cant erbyn hyn, a goroesi am fwy na phum mlynedd yn 50 y cant. Yr her i ni yw sut yr ydym yn gwneud cynnydd pellach. Bydd cam nesaf y cynllun cyflawni, rwy’n meddwl, yn helpu i bennu hynny ar ein cyfer: yn benodol, rhai o'r meysydd yr ydym wedi tynnu sylw atynt, er enghraifft, diagnosis a mynediad cynharach. Ond, wyddoch chi, mae hynny—. Nid ydym yn dysgu o’r hyn sy’n digwydd yn y DU yn unig. Felly, mae rhywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud wedi golygu mynd i Ddenmarc ac edrych ar yr hyn y maent wedi ei wneud yn llwyddiannus dros gyfnod o amser i wella eu cyfraddau goroesi nhw hefyd. Mae hyn yn dod yn ôl at sut yr ydym yn rhannu’r hyn a ddysgir, ond nid dim ond siarad am y dysgu a rennir, ond bwrw ymlaen a’i weithredu. Mae hon wedi bod neges gyson iawn gennyf i ac arweinwyr yma ar lefel y Llywodraeth—ein bod yn disgwyl gweld mwy o gysondeb o ran darparu ar welliannau a mwy o gyflymder wrth eu cyflawni ar draws y wlad hefyd.
Yn olaf, Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dau faes yn unig yr wyf am eich holi amdanynt, os yw hynny'n iawn. Rwy'n synnu nad ydych wedi crybwyll dementia o gwbl yn eich datganiad y prynhawn yma. Mae dementia yn un o'r pedwar prif glefyd sy’n lladd, clefyd cyffredin dros ben, ac mae hefyd yn tyfu o ran nifer yr achosion yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, ac eto nid oes un cyfeiriad o gwbl at ddementia yn eich datganiad cyfan, sydd i fod i sôn am gyflyrau iechyd difrifol. Rwy'n siomedig iawn yn hynny o beth, ac efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â dementia, ac yn wir i annog gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud diagnosis o ddementia.
Yn ail, dim ond un cyfeiriad at blant sydd yn eich datganiad i gyd, ac mae hynny mewn cysylltiad â’r gwaith sy'n cael ei wneud ar y rhaglen addysg strwythuredig, SEREN, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu yn fawr iawn. Ond does dim sôn arall am blant drwy gydol y ddogfen, ac, fel y gwyddoch, mae plant a phobl ifanc yn aml iawn yn wynebu cyflyrau cronig sy'n cyfyngu ar fywyd, ac yn aml mae angen llawer iawn o gefnogaeth arnynt o ganlyniad i hynny. Tybed a allech ddweud wrthym pa waith penodol sy'n cael ei wneud mewn cysylltiad â'r cyflyrau iechyd yr ydych wedi cyfeirio atynt yn eich datganiad i gefnogi plant a phobl ifanc â’r cyflyrau hynny, ac, yn wir, pa gamau yr ydych chi’n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru yn benodol i ehangu swyddogaeth nyrsys ysgol o ran cefnogi pobl ifanc a phlant yn ein hysgolion sy'n byw gyda’r mathau hyn o gyflyrau, ac yn wir eraill a allai effeithio ar blant a phobl ifanc. Diolch.
Efallai os dechreuaf gyda'r pwynt cyntaf, rwy’n meddwl efallai y gall fod rhywfaint o ddryswch ynghylch cynnwys y datganiad. Mae hyn yn ymwneud â'r cynlluniau gweithredu sydd gennym—y cynlluniau cyflawni yn cwmpasu cyflyrau iechyd difrifol, ac y mae 10 ohonynt. Ac, yn arbennig, rwyf wedi bod yn cyfeirio at y chwech sy'n cael eu hadnewyddu ac sydd i fod i gael eu hail-lansio o fewn y flwyddyn. Dyna pam nad yw dementia wedi’i grybwyll, oherwydd bydd cyfeiriad ato yn y cynllun cyflawni ar iechyd meddwl, a—. [Torri ar draws.] Gallwch naill ai wrando ar yr ateb, neu gallwn ni gael dadl rhyngom ni’n dau, os mynnwch. Rwy’n ceisio bod o gymorth, oherwydd nid wyf yn meddwl eich bod chi wedi bod yn gwrando yn gynharach, Darren.
[Anghlywadwy.] —yr ateb, ac yna—
Bydd y cynllun gweithredu dementia yn cael ei lunio eleni. Felly, bydd ar gael eleni, ac mae gwaith ar y gweill mewn gwirionedd i wneud hynny. Bûm mewn digwyddiad bythefnos yn ôl ym Mhrifysgol De Cymru, a ddaeth ag ynghyd ag ystod o wahanol bobl ynghyd, yn ofalwyr ac yn unigolion sydd â dementia, a sefydliadau trydydd sector, yn rhan o’r hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd i geisio sbarduno gwelliant yn y maes hwn er mwyn cyflawni ar yr uchelgeisiau—nid dim ond rhai’r Llywodraeth; rwy'n meddwl bod uchelgais ehangach yn y fan hyn sy'n ymestyn ar draws y pleidiau ynghylch sut yr ydym yn cael sgwrs fwy agored am ddementia a sut yr ydym wedyn yn gwella gwasanaethau ac yn gweithio ochr yn ochr â phobl hefyd.
Felly, mae’r prif swyddog meddygol, er enghraifft, yn aelod o’r grŵp sy’n ceisio bwrw ymlaen â hynny. Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r cynllun gweithredu hwnnw o fewn y flwyddyn galendr hon. Ac, er nad ydym wedi crybwyll plant yn benodol ym mhob un o'r cynlluniau cyflawni a luniwyd o ganlyniad, bydd yr amrywiaeth o wasanaethau hyn hefyd yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael wrth gwrs. Ac, mewn cysylltiad ag ystod o’r blaenoriaethau a bennwyd gan y grŵp gweithredu, maent yn edrych yn arbennig, er enghraifft, ar y gwasanaeth diabetig pediatrig, hefyd—ystod o wahanol feysydd a chyflyrau gwahanol. Maent yn mynd ati’n benodol i ystyried gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Felly, nid yw’r ffaith nad wyf wedi dweud yn benodol bod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar blant a bod plant yn cael eu blaenoriaethu yn hyn o beth, nid yw hynny'n golygu bod plant a phobl ifanc yn cael eu hanghofio—ddim o bell ffordd.
Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol wedi’i wneud gyda'i bartneriaid a gyda'r trydydd sector wrth sicrhau enillion mawr i bobl yng Nghymru ym mhrofiad cleifion a chanlyniadau cleifion. Mae gennym ddull da o fynd ati. Rwy'n falch ein bod yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl y tu allan i'r Llywodraeth a'r tu allan i'r gwasanaeth iechyd, ac edrychaf ymlaen at glywed am fwy o lwyddiant yn cael ei adrodd yn sgil cam nesaf cynlluniau’r grwpiau gweithredu hyn yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.