– Senedd Cymru am 3:01 pm ar 12 Hydref 2016.
Rydym ni’n symud ymlaen i eitem 3, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, ac rydw i’n galw ar Lee Waters i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6089 Lee Waters, Rhun ap Iorwerth, Huw Irranca-Davies, John Griffiths
Cefnogwyd gan David Melding, Janet Finch-Saunders
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgareddau corfforol.
2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy’n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt bob dydd.
3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai’n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o fod ymhlith llawer o Aelodau o bob rhan o’r Siambr sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer dadl heddiw i sicrhau ein bod yn cyflawni potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Fel y noda’r cynnig, mae gweithgarwch corfforol yn creu manteision lluosog i iechyd a lles, ac rydym yn wynebu bom amser o ordewdra. Rydym o’r diwedd yn cydnabod cystudd iechyd meddwl sy’n rhy aml yn gudd, ac mae yna heriau ehangach: y niwed a wnaed i’n hamgylchedd naturiol gan ollyngiadau carbon cynyddol y cyfranwyd atynt gan ein gorddibyniaeth ar geir; yr anghyfiawnder cymdeithasol o leoli gwasanaethau gan dybio bod gan bob teulu yng Nghymru gar at eu defnydd, a gorfodi’r 20 y cant tlotaf i dreulio chwarter eu hincwm ar redeg car. Rydym yn aml yn siarad am dlodi tanwydd fel rhywbeth sy’n berthnasol i aelwydydd sy’n gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar danwydd, ond nid ydym yn sôn am dlodi trafnidiaeth, sy’n taro’r tlotaf yn galetach na neb.
Mae yna rai ymyriadau a all effeithio ar draws heriau eang a hollbresennol o’r fath, ac mae teithio llesol yn un ohonynt. Efallai na fyddwch yn gallu perswadio pobl nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol i fynd i gampfa neu ar gae pêl-droed, ond mae modd creu amgylchedd sy’n annog teithio llesol, sy’n ymgorffori gweithgarwch corfforol yn rhan o’u harferion dyddiol. Mae potensial sylweddol i newid y ffordd rydym yn gwneud teithiau byr. Mae 20 y cant o deithiau car yn deithiau o dan un filltir o hyd, y math o daith y gellir ei gwneud mewn 20 munud ar droed. A hanner yr holl deithiau car—hanner—yn deithiau o dan bum milltir o hyd. Dyna bellter taith feic 30 munud nodweddiadol ar lwybr di-draffig, fel llwybr arfordir y mileniwm yn fy etholaeth, neu Lwybr Taf yma ym mae Caerdydd.
Ond mae yna rwystrau, nid yn lleiaf yr amgylchedd ffisegol sydd wedi annog y defnydd o geir ac wedi lladd awydd pobl i gerdded a beicio ar deithiau byr. Mae’r panel Foresight ar ordewdra wedi bathu’r ymadrodd ‘sy’n achosi gordewdra’ i ddisgrifio’r amgylchedd rydym wedi ei adeiladu, ac maent yn credu y bydd yn arwain at wneud 60 y cant o ddynion yn ordew erbyn 2050.
Nawr, gall Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 chwarae rhan bwysig yn herio hynny. Mae ganddi’r potensial i fod yn un o’r deddfau mwyaf radical o’r rhai a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a’r ymyrraeth iechyd cyhoeddus bwysicaf y gallwn ei chyflwyno i leihau’r pwysau ar y GIG. Mae data o gyfres hir o astudiaethau wedi dangos manteision helaeth annog gweithgarwch corfforol, o lai o risg o glefyd coronaidd y galon, canser, strôc, diabetes math 2, i wella’r gallu i ganolbwyntio, gwella hyder a lliniaru straen.
Ond un o’r heriau i weithredu’r agenda hon yw nad lle gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd yw ei gweithredu, ond gweithwyr proffesiynol trafnidiaeth. Ac o ran trafnidiaeth, mae hon yn agenda ymylol. Ers 50 mlynedd, mae polisi trafnidiaeth wedi canolbwyntio’n bennaf ar greu mwy o le i geir ac adeiladu ffyrdd i ganiatáu i geir deithio’n gyflymach. Mae cerddwyr a beicwyr wedi cael eu gwthio o’r neilltu yn llythrennol. Felly, yr her ar gyfer gweithredu hyn yw newid y diwylliant hwnnw ac ni ddylem fychanu pa mor anodd fydd hyn. Yn ôl ym mis Chwefror, roedd y pwyllgor menter yn llygad ei le’n nodi’r ffaith fod angen arweiniad pendant ar y Ddeddf er mwyn iddi lwyddo. Ond yn yr un modd ag y mae angen arweiniad ar lefel weinidogol—a gwn fod Rebecca Evans a Ken Skates wedi ymrwymo’n llwyr i’r agenda hon—mae’n rhaid i ni weld arweiniad ar bob lefel i osod esiampl, i normaleiddio ymddygiad, fel roedd yn normal rai cenedlaethau’n ôl yn unig.
Mae arnom angen arweiniad gan rieni: yn hytrach na chlicio’u plant i mewn i gefn ceir ar gyfer teithiau byr—byr iawn weithiau—gwneud ymdrech i gerdded yn lle hynny. Mae arnom angen arweiniad gan beirianwyr priffyrdd, archwilwyr diogelwch a chynllunwyr trafnidiaeth, er mwyn cynnwys llwybrau croesawgar a chyfleus fel mater o drefn. Nod y rhwydwaith beicio cenedlaethol, er enghraifft, a ddatblygwyd gan yr elusen trafnidiaeth werdd, Sustrans, yw llunio llwybrau a fyddai’n teimlo’n ddiogel i berson ifanc 12 oed ar feic ar ei ben ei hun. Faint o’n lonydd beicio neu lwybrau cyd-ddefnyddio presennol y gellir dweud yn onest eu bod yn pasio’r prawf hwnnw?
Mae arnom angen arweiniad gan feddygon teulu sydd â’r hyder i annog pobl sy’n cario gormod o bwysau neu dan straen neu’n dioddef o un o’r nifer o gyflyrau y cyfrennir atynt gan anweithgarwch corfforol, i gadw’n heini, yn hytrach na rhagnodi tabledi fel mater o drefn. Mae arnom angen arweiniad gan ysgolion. Mae plant egnïol yn dysgu’n well. Mae Wythnos y Beic yn iawn, ond sut mae gwneud pob diwrnod yn ddiwrnod Cerdded i’r Ysgol, a phob wythnos yn Wythnos y Beic? I gyflogwyr, ceir digon o dystiolaeth fod gweithwyr sy’n beicio i’r gwaith yn absennol yn llai aml o’r gwaith oherwydd salwch, a bydd buddsoddi mewn cawodydd a mannau parcio beiciau yn cael ei ad-dalu mewn cynhyrchiant.
Felly, yn union fel y ceir manteision lluosog yn sgil cael hyn yn iawn, ceir cyfrifoldebau lluosog hefyd er mwyn ei gael yn iawn. Rwyf am ganolbwyntio ar yr hyn rwy’n ei ystyried yn gyfrifoldeb sylfaenol, ac yn un sy’n cael ei grybwyll yn y cynnig, sef sicrhau ymgysylltiad llawn â chymunedau.
Nid pobl sy’n cerdded a beicio yw’r gynulleidfa darged ar gyfer yr agenda hon—maent yn ei wneud yn barod. Y bobl nad ydynt yn ei wneud yw’r gynulleidfa. Ni fydd stribed liw o darmac ar hyd ffordd brysur sy’n diflannu’n sydyn o dan geir wedi parcio yn gwneud y tro. Nid oes ond raid i ni edrych ar y strydoedd sydd wedi ceisio gwneud hynny i weld nad yw’n gwneud y tro. Y demtasiwn i gynghorau yw datblygu yn y man hawsaf, nid lle y ceir fwyaf o botensial i’w ddefnyddio. Mae hon yn agenda uchelgeisiol; bydd yn anodd a bydd yn cymryd amser. Ond mae angen i ni wybod i ble mae pobl yn dymuno mynd—y llwybrau y byddent yn cael eu temtio i roi cynnig arnynt. Mewn rhai cymunedau, efallai mai’r daith ddyddiol i’r gwaith fydd y llwybr sy’n annog pobl i fynd ar eu beiciau, mewn eraill, efallai mai taith ddydd Sadwrn i’r ganolfan hamdden leol fydd y llwybr hwn.
Mae angen i ni wybod hefyd am ymyriadau ehangach, y tu hwnt i seilwaith, a fydd yn eu hannog: hyfforddiant beicio ar ffyrdd go iawn i oedolion a phlant, mapiau ac arwyddion hawdd eu darllen, a bysiau cerdded i blant fynd i’r ysgol. Yr hyn sy’n hollbwysig yw na fyddwn yn gwybod hyd nes y byddwn yn gofyn. Eto i gyd, yn y broses ddiweddaraf i sefydlu a mapio’r holl lwybrau sydd eisoes yn bodoli, ni wnaeth y rhan fwyaf o awdurdodau fwy na’r lleiafswm—holiadur ar-lein am y cyfnod gofynnol o 12 wythnos yn unig. Ar draws Cymru, 300 o bobl a gymerodd ran. Mae hynny’n llai na 0.01 y cant o boblogaeth Cymru. Mae’n hanfodol fod lleisiau ehangach yn cael eu clywed, ac os yw’r Ddeddf hon yn mynd i fod yn llwyddiant fel y gwn y gall fod, mae hynny’n golygu targedu pobl nad ydynt yn cerdded a beicio ar hyn o bryd.
Rwy’n canmol y fenter ar y cyd gan Sustrans Cymru, Living Streets, Cycling UK a Beicio Cymru i lansio adnodd syml, hawdd ei ddefnyddio ar y we i’w gwneud yn hawdd i bobl awgrymu llwybrau newydd ac wedi’u gwella. Ond gadewch i ni fod yn ddychmygus yn y ffordd rydym yn ei ddefnyddio—wrth gatiau’r ysgol ac mewn parciau trampolîn, mewn sinemâu a digwyddiadau dros dro, mewn gweithleoedd a meddygfeydd meddygon teulu. Bydd hyd oes y cynlluniau teithio llesol hyn rhwng 10 a 15 mlynedd a byddant wedi’u cysylltu â chyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Os na chawn yr ymgynghoriad cychwynnol hwn yn iawn, bydd adnoddau yr ymladdwyd yn galed amdanynt yn cael eu gwastraffu.
Mae’r manylion yn wirioneddol bwysig. Gellid gwario £500 ar lwybr newydd, ond gall giât neu rwystr heb ei ystyried yn iawn olygu na fydd yn cael ei ddefnyddio, ac rwyf wedi gweld llawer o lwybrau’n dioddef o hyn. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn cynnwys her yn y system. Dylai pobl leol allu herio ac awgrymu gwelliannau’n hawdd i gynghorau lleol. Mae angen i Lywodraeth Cymru gryfhau ei chyngor, er mwyn iddi allu herio’r cynlluniau a gyflwynir iddi gan yr awdurdodau lleol. Rydym wedi gweld o’r rownd gyntaf o fapiau fod yna ddigon o le i herio. Mae’n rhaid i ni gael hyn yn iawn. Mae’r Llywodraeth wedi penodi’r cynllunydd lleoedd mawr ei barch, Phil Jones, i arwain y grŵp arbenigol ar gyfer cytuno’r canllawiau statudol i gyd-fynd â’r Ddeddf, ac mae’r canllawiau hynny’n dda iawn.
Mae angen hyfforddiant a chymorth ar y rhai ar y rheng flaen yn awr i sicrhau y gallant ei gymhwyso’n iawn, ac argymhelliad allweddol y canllawiau cynllunio ar gyfer y Ddeddf teithio llesol yw ymgynghori da ar gamau cynnar er mwyn helpu i osgoi penderfyniadau gwael. Fel y mae’n dweud:
Po fwyaf o gyfle a gaiff pobl i lunio a dylanwadu ar gynlluniau cerdded a beicio ar gyfer eu hardal leol, y mwyaf tebygol y byddant o’u defnyddio.
Cael hyn ar y llyfr statud, Lywydd—y darn cyntaf o ddeddfwriaeth i gwblhau’r daith o ddeiseb i dderbyn cymeradwyaeth frenhinol—oedd y rhan hawdd. Mae hon yn ddeddfwriaeth radical a dylid cymeradwyo’r ymrwymiad y mae’r Llywodraeth wedi’i ddangos tuag at agenda sy’n cael ei hesgeuluso’n rhy aml. Ond ni fydd y ddeddf bwysig hon yn gweithio oni chaiff ei gweithredu’n radical, a dyna pam rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw. Diolch.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl arbennig o bwysig yma, a diolch yn fawr i Lee Waters am agor y ddadl mewn ffordd liwgar fel yna ac am esbonio hanfodion y ddadl, yn enwedig ynglŷn â phwysigrwydd y Ddeddf teithio llesol, a hefyd yr angen i ni feddwl nid jest bod y ddeddfwriaeth yna, ond bod angen i ni i gyd weithredu arni hi, achos mae e i gyd i lawr i ni fel cymdeithas i ddilyn yr egwyddorion a gweithredu. Achos, fel rwyf wedi dweud o’r blaen yma, mae pwysigrwydd cadw’n heini yn allweddol—bod yn ffit yn allweddol. Bydd rhai ohonoch chi yn bownd o fod yn cofio’n awr achos rwyf wedi olrhain y ffigurau yma o leiaf dwywaith yn y mis diwethaf: os ydych chi yn ffit, yn heini, mae lefel y siwgr yn eich gwaed chi 30 y cant yn llai, mae lefel y colesterol yn eich gwaed chi 30 y cant yn llai na phetasech chi ddim yn ffit, mae’ch pwysau gwaed chi 30 y cant yn is na phetasech chi ddim yn ffit, ac mae’ch pwysau chi’n gyffredinol yn llai o fod yn ffit. Fel rwyf i wedi darogan eisoes, nid oes yna dabled ar wyneb daear sydd yn dod â’r math yna o ganlyniadau llwyddiannus.
Hefyd, i ateb un o’r pethau ynglŷn â’n bod ni feddygon teulu weithiau yn rhy barod i roi tabledi allan i bobl, wel, dyma’r ateb. Dyma i chi ffurf—cadw’n heini—sy’n cymryd lle’r dabled a hefyd yn hynod fwy effeithiol na thabled arferol. Deg mil o gamau sydd angen eu cymryd bob dydd. Deg mil, ac mae’n ddigon posib cyflawni hynny hyd yn oed yn y lle yma drwy beidio â defnyddio’r lifftiau.
Wrth gwrs, nid jest y rheini sy’n gorfforol ffit ydym ni’n sôn amdanyn nhw rŵan. Mae’r sawl sydd hefyd â salwch hirdymor—os ydych chi’n dod yn fwy ffit, hyd yn oed pan fo yna glefyd ar eich ysgyfaint chi fel COPD ac ati, neu glefyd y galon, er bod y clefydau tymor hir yna gennych chi, mae e hefyd yn gwella safon ac ansawdd eich bywyd chi. Mae’ch symptomau chi’n gwella. Rydych chi’n llai byr o anadl o ddod yn ffit er bod yna nam ar eich ysgyfaint chi neu eich calon chi. Dyna ydy sail y rhaglenni adferiad yna ydych chi’n eu cael yn eich ysbytai ac hefyd yn ein meddygfeydd ni—y ‘pulmonary rehabilitation’ a ‘cardiac rehabilitation’, y gwasanaethau yna. Maen nhw’n gwneud pobl yn fwy hyderus ac yn fwy ffit yn gyffredinol iddyn nhw allu ymdopi â’r salwch tymor hir sydd gyda nhw eisoes.
Felly, mae’n galw am sialens ac mae’n ein galw ni i gyd—yr agenda hwn—i ni fynd i’r afael â’r peth o ddifrif rŵan, achos rydym ni’n gwybod yr ystadegau am ordewdra a phob peth fel yna. Mae angen mynd i’r afael â’r sefyllfa yma.
Hefyd, gan fynd nôl at yr agwedd o’r Ddeddf teithio llesol, mae angen ei gwneud hi’n haws i allu mynd ar feic neu gerdded i lefydd fel mae Lee Waters wedi olrhain eisoes. Mae angen buddsoddiad, os ydym ni’n mynd i farchogaeth beic i’n lle gwaith, i gael cawodydd a llefydd i newid yn y lle gwaith, yn ogystal. Mae hynny angen buddsoddiad, ond mae angen y weledigaeth i greu hynny yn unol â’r Ddeddf teithio llesol, sydd yn fwy pwysig. Ond mae angen meddwl yn ehangach. Os ydych chi wedi trio erioed i gerdded o gwmpas Bae Caerdydd—mynd o fan hyn i ganol y ddinas yma, mae’n anodd ar droed. Wrth gerdded, mae e’n anodd iawn. Mae’n anodd iawn ffeindio palmant yn y lle cyntaf, heb sôn am fynd ar feic o Fae Caerdydd i ganol y ddinas yma. Felly, y neges yw: mae hon yn sialens i ni i gyd, ffit ai peidio ar hyn o bryd. Nid yw hi byth yn rhy hwyr. Fe allwn ni i gyd wella ansawdd ein hiechyd jest wrth gerdded i bob man. Mae hi i lawr i awdurdodau sy’n cynllunio ffyrdd, a ffyrdd eraill o fynd o gwmpas y lle. Mae angen i’r datblygiadau hynny gymryd i mewn i gof yr angen i’w gwneud hi’n hawdd inni allu marchogaeth beic a cherdded i bob man. Cerdded am 30 munud, bum gwaith yr wythnos: dyna’r lefel ffitrwydd sydd ei hangen. Bydd llai o alw wedyn ichi fynd i weld y meddyg teulu i gael eich tabledi ar ddiwedd y dydd. Diolch yn fawr.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon ar weithgarwch corfforol. Yn gyntaf oll, rwyf am ailadrodd pa mor bwysig yw hi fod plant yn cael cymaint o weithgarwch corfforol â phosibl, a dylid adeiladu’r gweithgarwch corfforol hwnnw’n rhan o’u diwrnod. Nid ydym eisiau magu cenedl o bobl ddiog, gan ein bod yn gwybod pa mor dda yw gweithgaredd corfforol i ni, fel y mae ein meddyg newydd ddweud wrthym. Wrth gwrs, fe wyddom ei fod yn dda iawn ar gyfer iechyd meddwl yn ogystal. Ddoe, roedd llawer o sôn am achlysur emosiynol iawn digwyddiad y Samariaid yn y Pierhead, pan siaradodd Nigel Owens mor deimladwy am ymdopi â phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn gwybod bod gweithgarwch corfforol yn dda iawn i’ch iechyd meddwl.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei adroddiad ar gyfer 2016, ‘Gwneud Gwahaniaeth’, bob blwyddyn, mae anweithgarwch corfforol yn costio £51 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru a gallai mwy o feicio a cherdded mewn ardaloedd trefol arbed £0.9 biliwn i’r GIG yng Nghymru dros 20 mlynedd. Felly, mae llawer iawn o wahaniaeth y gellid ei wneud i’r ffordd y caiff ein gwasanaeth iechyd ei weithredu. Felly, credaf mai’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yw annog plant i ddechrau patrymau ymddygiad da, iachus o gam cynnar yn eu bywydau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio ar y pwynt hwn fod llawer o’r gweithgareddau y mae plant yn eu gwneud y tu allan i’r ysgol yn costio cryn dipyn o arian i rieni. Clybiau pêl-droed, nofio a thenis—mae’n rhaid i rieni dalu am lawer o hyn o’u pocedi eu hunain mewn gwirionedd. Dyna pam y mae hi mor bwysig fod llawer o’r hyn sy’n cael ei wneud yn cael ei gynnwys yn rhan o’n system addysg.
Hoffwn ganmol y mentrau bysiau cerdded a grybwyllodd Lee Waters yn ei gyflwyniad. Yn benodol, hoffwn ganmol y fenter bws cerdded yn Ysgol y Wern yn fy etholaeth i, sy’n cael ei chefnogi erbyn hyn gan gyd-heddlu y Rhingyll Louise Lucas, a laddwyd mor drasig wrth iddi groesi’r ffordd yn Abertawe ym mis Mawrth y llynedd. Yn anffodus, bu mwy o gyhoeddusrwydd am hynny dros y dyddiau diwethaf. Mae ei chydweithwyr yng ngorsaf yr heddlu Llanisien yn benderfynol o barhau â’r bws cerdded i’r ysgol roedd hi wedi’i ddechrau. Euthum ar y bws cerdded fy hun yr adeg hon y llynedd. Rwy’n meddwl bod y fenter bws cerdded yn ffordd dda iawn o gynnwys ymarfer corff ym mywydau plant, ac rwy’n meddwl ei fod yn wych i rieni wybod bod eu plant yn ddiogel wrth gerdded i’r ysgol. Felly, credaf fod honno’n fenter sydd angen i ni ei hybu a’i rhannu gymaint â phosibl. Cafodd y fenter benodol honno ei chefnogi’n gryf iawn gan Sustrans, yr awdurdod lleol a’r heddlu.
Cerdded, wrth gwrs, yw’r gweithgaredd hawsaf a mwyaf hygyrch y gallwn i gyd ei gynnwys yn ein bywydau. Dyna pam rwy’n cefnogi’r Ddeddf teithio llesol yn fawr, fel pobl eraill yma, a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar gynllunio llwybrau teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio. Mae Lee Waters eisoes wedi crybwyll y methiant—efallai—i ymgysylltu yn y rownd gyntaf o ymgynghori. Rwy’n credu ei fod wedi dweud mai 300 o ymatebion yn unig a ddaeth i law i’r ymgynghoriad cyntaf drwy Gymru gyfan. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn yn awr ein bod yn ceisio cael llawer mwy o safbwyntiau ynglŷn â ble y dylai’r llwybrau fod. Os bydd pobl yn cymryd rhan yn y broses o benderfynu ble mae’r llwybrau hyn, mae’n llawer mwy tebygol y byddant yn eu defnyddio.
Y pwynt olaf roeddwn am ei wneud, mewn gwirionedd, oedd ynglŷn â rhai o’r gwahaniaethau rhwng y rhywiau sy’n bodoli o ran cerdded a beicio. Roedd gwybodaeth gan Sustrans yn gynharach eleni yn tynnu sylw at y ffaith y dylai awdurdodau lleol gofio bod yna wahaniaeth rhwng y rhywiau yn y ffordd y mae menywod eisiau beicio, er enghraifft. Mae menywod, er enghraifft, yn llawer mwy awyddus na dynion i feicio pan fo llwybrau beicio ar wahân ar gael.
Y mater arall yw fy mod yn meddwl bod yna wahaniaeth mawr rhwng nifer y menywod sy’n beicio a nifer y dynion. Dim ond 34 y cant o fenywod yng Nghaerdydd a ddywedodd eu bod yn beicio, o gymharu â 66 y cant o ddynion. Felly, mae hwnnw’n wahaniaeth eithaf mawr, ac unwaith eto, yng Nghaerdydd oedd hynny—arolwg a gynhaliwyd gan Sustrans. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gadw mewn cof pan fyddwn yn cynllunio’r pethau hyn fod yna gwestiynau rhyw-benodol y dylem edrych arnynt.
Yn olaf, cawsom Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch ddoe. Rwy’n meddwl bod y dyddiau rhyngwladol hyn yn bwysig iawn, gan eu bod yn gwneud i ni gofio a thynnu sylw at faterion gwahanol. Hoffwn sôn yn gyflym am ferched a chwaraeon oherwydd, yn anffodus, mae merched yn dal i lusgo ar ôl bechgyn o ran gwneud gweithgarwch corfforol ar ffurf chwaraeon. O ran y rhai sydd â’u bryd ar chwaraeon, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod chwaraeon yn mynd â bryd 52 y cant o fechgyn a 44 y cant yn unig o ferched. Mae wedi codi, ond mae yna hefyd wahaniaeth mawr rhwng plant ysgol mewn ardaloedd difreintiedig ac yn ôl grŵp ethnig, gyda’r lefel isaf o gyfranogiad mewn chwaraeon ymhlith merched Asiaidd, gyda 28 y cant yn unig yn cymryd rhan. Felly, rwy’n meddwl bod llawer o bethau i edrych arnynt.
Rwy’n ddiolchgar iawn yn wir i Lee Waters AC am gychwyn y ddadl hon, i gofnodi, mewn gwirionedd, peth cydnabyddiaeth o’r gwaith a wnaethoch yn flaenorol dros flynyddoedd lawer yn ymladd, wyddoch chi, gyda brwdfrydedd ac angerdd dros greu ffocws gwirioneddol i brif nodau a diben y Ddeddf teithio llesol.
Wyddoch chi, mae wedi cael ei ddweud yma, onid yw, fod effeithiau a manteision gweithgarwch corfforol rheolaidd i iechyd a lles wedi’u cofnodi’n dda, ac yn fwy na hynny hyd yn oed, wedi’u profi. Gall ymarfer corff rheolaidd leihau cyfraddau marwolaethau 39 y cant, ymestyn disgwyliad oes, lleihau’r risg o gael strôc 27 y cant, lleihau’r risg o ddatblygu diabetes math 2 60 y cant, a’r risg o ddatblygu canser y colon, y fron neu’r groth 20 y cant, a gall osgoi crebachu’r ymennydd i helpu i atal dementia. Ceir hwb i endorffinau a serotonin fel therapi naturiol i’r rhai sy’n cael teimladau o ddiffyg hunan-barch, ynysu, straen ac iselder—ffactor allweddol sy’n cyfrannu at ein hymyrraeth atal a’n hagenda gofal iechyd darbodus. 35 y cant yn unig o blant Cymru sy’n gwneud awr y dydd o weithgarwch corfforol. O’r rheini sy’n byw o fewn llai na hanner milltir i’w hysgol gynradd, caiff 30 y cant eu cludo yno yn y car bob dydd, a 2 y cant yn unig sy’n beicio i’r ysgol gynradd—a llai na hynny hyd yn oed, 1 y cant, i’r ysgol uwchradd.
Mae anweithgarwch corfforol yn fater sy’n effeithio ar oedolion hefyd—mae 34 y cant o bobl heb wneud unrhyw fath o deithio llesol yn y saith niwrnod diwethaf, ac yn fwy trawiadol, roedd 35 y cant yn dweud mai anaml, os o gwbl, roeddent wedi cerdded yn ystod y tri mis diwethaf. Mae hwnnw’n ystadegyn eithriadol o wael. Siaradwch ag unrhyw un sydd wedi colli eu gallu i symud drwy gwymp neu ddamwain, a sut y mae eu bywydau wedi newid yn sylweddol er gwaeth, ac nid ydynt yn cael y cyfle mwyach, ar ôl colli eu gallu i symud, i allu cymryd rhan mewn unrhyw beth.
Nododd yr Athro Stuart Cole yn ei adroddiad i’r Gweinidog blaenorol y llynedd fod lefelau cyllid ar gyfer teithio llesol yn isel, ar £5 y pen yn unig, o’i gymharu ag ardaloedd eraill yn y DU, sy’n gwario ddwywaith cymaint. Canfu Cycling England fod £10 y pen yn unig wedi arwain at gynnydd o 27 y cant mewn beicio yn eu trefi arddangos beicio dros dair blynedd. Yn yr Iseldiroedd, maent yn gwario tua £25 y pen, ac mae bron i draean o’r bobl yn rhestru beicio fel eu prif fath o gludiant. Yn Sydney—cynnydd o 82 y cant mewn beicio mewn dwy flynedd yn unig o ganlyniad i fuddsoddiad pum mlynedd yn strategaeth feicio’r ddinas, gan gynnwys adeiladu 55 km o draciau beicio i’w cwblhau eleni. Cymharwch hynny â ni yma yng Nghymru.
Mae cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â chanllawiau cynlluniau’r Ddeddf teithio llesol i oedolion yn hanfodol. Maent wedi cyflawni’r hyfforddiant technegol, ond mae’n rhaid nodi pryderon am effeithiolrwydd monitro cyllid grantiau teithio llesol yn y fan hon heddiw, a byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod sut y mae hyn yn cael ei weithredu mewn gwirionedd. Ar ben hynny, mae ymgysylltiad eang a chynnar awdurdodau lleol yng ngham nesaf y Ddeddf teithio llesol yn hanfodol. Mae’r adnodd ar-lein a lansiwyd gan Cycling UK, Sustrans Cymru, Living Streets a Beicio Cymru i alluogi pobl i gysylltu â’u hawdurdodau lleol wedi arwain at dros 600 o bobl yn cymryd rhan yn y ffordd hon, mwy na dwbl y nifer a gymerodd ran ar y cam cyntaf. Fodd bynnag, rydym yn awr yn bwriadu gwella’r ymgysylltiad hwnnw â grwpiau lleol o bobl â nam ar y synhwyrau i sicrhau bod lleisiau pobl ddall, pobl rhannol ddall neu bobl sy’n drwm eu clyw yn cael eu clywed.
Mae adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru 2015 ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn methu ystyried cynnydd yn y defnydd o lwybrau teithio llesol a sut y mae hyn yn mynd i gael ei ystyried pan fydd y mapiau rhwydwaith integredig yn eu lle. Hoffwn alw felly am adolygiad gan Lywodraeth Cymru wedi’i gomisiynu’n allanol ar sut y caiff cynnydd ei gofnodi o dan y Ddeddf, er enghraifft gan ddefnyddio profiad y bwrdd teithio llesol gyda phartner academaidd. Mae Sustrans a rhanddeiliaid eraill ar y bwrdd teithio llesol wedi galw am gyflwyno targedau ystyrlon ar gyfer cynyddu teithio llesol. Mae’n effeithiol yn yr Alban, lle mae set o ddangosyddion yn y cynllun gweithredu ar feicio wedi’u cysylltu ag 1 y cant y flwyddyn o gynnydd mewn cyllid trafnidiaeth, gan arwain at adroddiadau o ansawdd llawer gwell. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud a fyddwch yn ceisio cyflwyno targedau o’r fath?
Lywydd, mae uchelgeisiau’r Ddeddf teithio llesol i’w canmol, ond mae llawer i Lywodraeth Cymru ei wneud yn awr i wireddu’r uchelgeisiau hyn. Diolch.
Rwyf wedi crybwyll o’r blaen, Lywydd, ein bod wedi bod yn cael cyfarfodydd ers peth amser bellach yng Nghasnewydd, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o’u galw ynghyd rhwng y bwrdd iechyd lleol, ac iechyd y cyhoedd yn arbennig, Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth hamdden, cyngor Dinas Casnewydd, cymdeithasau tai, gan gynnwys Cartrefi Dinas Casnewydd a gymerodd y gwaith trosglwyddo stoc a’r prif stadau gan gyngor Dinas Casnewydd, clybiau chwaraeon ac amryw o rai eraill. Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw ceisio gwneud poblogaeth Casnewydd yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn iachach. Rwy’n gobeithio’n fawr y gall Llywodraeth Cymru gefnogi rhai o’r mentrau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hynny i weld a ydynt yn effeithiol, eu bod yn gweithio ac y gellid eu cyflwyno ledled Cymru, oherwydd rwy’n credu ein bod angen cynlluniau peilot i brofi rhai o’r partneriaethau hyn. Oherwydd oni bai ein bod yn adeiladu partneriaethau gwirioneddol eang, a dwfn yn wir, mae’n ymddangos i mi nad ydym yn mynd i gael y newid ar y raddfa fawr sydd ei angen arnom i gael Cymru’n fwy gweithgar yn gorfforol ac yn iach, gyda’r holl fanteision amlwg sy’n deillio o hynny.
Mae angen i ni fod ar y droed flaen mewn perthynas ag iechyd, yn hytrach na bod yn adweithiol yn bennaf, ac rwy’n credu bod poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol yn rhan fawr o’r ymdrech honno. Felly, yn yr un modd ar gyfer teithio llesol, rwy’n credu bod arnom angen partneriaeth system gyfan os ydym yn mynd i wneud teithio llesol ar gyfer teithiau byr yn ddewis rheolaidd. Bydd angen cynllunwyr arnom i gefnogi’r gwaith, a bydd arnom angen awdurdodau lleol a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus o ran y ffordd y maent yn hwyluso teithiau llesol i ac o’r gwaith ymhlith eu staff. Wrth gwrs, bydd angen i ni gael ysgolion, efallai, i wneud hyd yn oed rhagor ar lwybrau diogel i ysgolion, hyfforddiant beicio, a darparu beiciau weithiau, gobeithio, i blant mewn amgylchiadau mwy difreintiedig nad oes ganddynt feiciau, efallai drwy gynlluniau cymunedol lle y caiff beiciau eu rhoi, eu trwsio a’u gwneud yn ddefnyddiadwy eto. Hefyd, wrth gwrs, y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru. Rydym yn siarad am bartneriaethau sector cyfan os ydym yn mynd i gael newid ar raddfa fawr; credaf fod hynny’n berthnasol i weithgarwch corfforol yn gyffredinol, ac mae’n berthnasol i deithio llesol hefyd. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn gamu ymlaen yn yr ysbryd hwnnw ar lefel Llywodraeth Cymru, ar lefel llywodraeth leol, gyda’r holl bartneriaid allweddol ar ôl y ddadl hon heddiw.
Clywsom yn gynharach, Lywydd, gan Lee Waters, wrth agor y ddadl, am fanteision gwych a natur radicalaidd y Ddeddf teithio llesol. Wel, os caf ddweud, Lywydd, fel y Gweinidog a gafodd y fraint o dywys y ddeddfwriaeth teithio llesol drwy’r Cynulliad a’i rhoi ar y llyfr statud, cytunaf yn fawr iawn â fy nghyd-Aelod Lee Waters a llawer o siaradwyr eraill yn y ddadl hon heddiw, rwy’n siŵr. Rwy’n credu ei bod yn radical. Rwy’n credu y gallai gyflawni newid sylweddol o ran gweithgarwch corfforol ac iechyd, yr amgylchedd, yr economi ac ansawdd bywyd yn gyffredinol yng Nghymru. Felly, o ystyried yr addewid hwnnw, y potensial hwnnw, rwy’n gobeithio’n fawr iawn, ar ôl heddiw, y byddwn yn symud ymlaen i weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn llawn, yn frwdfrydig ac mewn modd amserol. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau y cyflwynwyd y cynnig hwn yn eu henwau heddiw. Fe ganolbwyntiaf fy sylwadau ar ddau bwynt cyntaf y cynnig, ac wrth wneud hynny, fe ddychwelaf at thema a gafodd sylw gennyf ychydig wythnosau’n ôl yn fy nadl fer ar addysg awyr agored yng Nghymru.
Fel y noda’r cynnig, nid yw ychydig o dan ddwy ran o dair o blant Cymru yn cael yr awr a argymhellir o weithgarwch corfforol bob dydd sydd ei hangen arnynt i aros yn iach. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac i adleisio maint yr her, hoffwn ailadrodd ystadegyn arall a wnaeth argraff fawr arnaf: mae tri chwarter y plant yn y DU yn treulio llai o amser yn yr awyr agored na charcharorion mewn carchardai.
Mae gweithgarwch corfforol yn yr awyr agored, boed ar ffurf teithio llesol neu addysg yn yr awyr agored, yn dda i iechyd corfforol a lles meddyliol, ac mae yna heriau sylweddol sydd angen i ni fynd i’r afael â hwy mewn hen gymunedau diwydiannol, fel fy un i yn arbennig. Er enghraifft, mae ystadegau diweddar yn dangos bod tua 63 y cant o oedolion yn ardal fy awdurdod lleol sef Rhondda Cynon Taf yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, mae 14 y cant o drigolion yn dweud eu bod yn cael triniaeth at salwch meddwl, ac mae dros chwarter yr oedolion yn ysmygu. Mae codi lefelau gweithgarwch corfforol o oed cynnar yn cynnig un ateb i’r canlyniadau iechyd gwirioneddol heriol hyn.
Rydym hefyd yn wynebu anhwylder diffyg natur, lle mae ein plant a phobl ifanc wedi’u hynysu rhag y byd y tu allan i garreg eu drws, sydd ynddo’i hun yn codi cwestiynau ynglŷn â’n hymagwedd tuag at faterion pwysig yn ymwneud â chynaliadwyedd yn y dyfodol. 13 y cant yn unig o blant Cymru a oedd yn ystyried bod ganddynt gysylltiad agos â’r awyr agored, yn ôl y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, ffigur is nag yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Llundain hyd yn oed. Ac unwaith eto, er nad dyna’r unig ateb, ni all annog teithio llesol niweidio ein cysylltiad â’r byd ehangach.
Rwyf hefyd yn credu bod pedwaredd ran y cynnig yn gwneud pwynt pwysig am ein dull o weithredu. Mae angen i ni ddatblygu atebion cydgysylltiedig rhwng cymunedau a rhanddeiliaid, er mwyn cysylltu cyrchfannau â llwybrau teithio newydd a gwell. Er enghraifft, roedd papur pwysig a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyfleoedd naturiol a ddarperir gan y tirlun yn y Rhondda yn nodi bod dros 700 km o lwybrau a llwybrau cerdded sefydledig yn fy awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, yn cysylltu cymunedau a phentrefi â choetiroedd a mynyddoedd. Mae’n amlwg fod gan y rhain ran i’w chwarae yn annog teithio llesol.
Ar bwynt tebyg, er fy mod wrth fy modd mai Parc Gwledig Cwm Dâr, yn fy etholaeth, fydd y lleoliad ar gyfer ysgol feithrin natur gyntaf Cymru i blant rhwng dwy a phump oed, rwy’n awyddus i rwydweithiau teithio llesol gael eu datblygu i alluogi plant a’u teuluoedd i gyrraedd y cyrchfan hwn. Os mai diben yr ysgol feithrin yw annog ein plant i allu cymryd rhan yn yr addysg awyr agored sydd wedi bod mor fuddiol o ran iechyd, hyder a lles mewn gwledydd eraill, yn sicr mae’n rhaid i ni weithio i ddatblygu cyfleoedd teithio llesol ategol, fel bod y daith yn dod yr un mor bwysig â’r cyrchfan. Diolch.
Diolch i Lee am gychwyn y ddadl. Oes, mae manteision iechyd hirdymor i weithgaredd corfforol, a allai hefyd drosi’n fanteision ariannol hirdymor, hynny yw, os gallwn leihau cyflyrau megis gordewdra a diabetes. Rwy’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn awr yn ceisio defnyddio dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â’r mater hwn, sydd yn anochel yn rhychwantu nifer o wahanol adrannau’r Llywodraeth.
Yn UKIP Cymru, rydym yn croesawu cyfranogiad Chwaraeon Cymru, er enghraifft, yn hyrwyddo chwaraeon ymysg y rhai nad ydynt wedi bod yn gorfforol egnïol o’r blaen, ac mae hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Mae’n bosibl y gall Deddf Teithio Llesol (Cymru) chwarae rhan fawr yn helpu gyda’r amcan o gynyddu gweithgarwch corfforol. Mae angen i ni gael mwy o bobl i deithio i’r ysgol, i’r gwaith, a hyd yn oed i’r siopau. I’r perwyl hwn, gall targedau helpu weithiau—pwynt a wnaeth Janet yn gynharach—a nodaf eu bod ar hyn o bryd yn Lloegr yn ystyried targed i sicrhau bod 55 y cant o blant ysgol yn cerdded i’r ysgol erbyn 2025. Er bod hwn yn darged uchelgeisiol, os ydym o ddifrif ynglŷn â chyflawni amcanion Deddf Teithio Llesol (Cymru), yna efallai y dylem ystyried gosod targed tebyg yma yng Nghymru.
Mae awdurdodau lleol yma yn dechrau ymateb i ysgogiad grwpiau fel Living Streets, sy’n cefnogi cerdded, a Sustrans, sy’n hybu seiclo. Rydym yn gweld y grwpiau hyn yn dod â’r gymuned leol i mewn gyda mentrau fel archwiliadau stryd cymunedol, sy’n ceisio edrych ar wahanol lwybrau o safbwynt cerddwyr. O hyn, gall cynghorau ddysgu pa fesurau sydd angen eu cyflwyno i wella mynediad i gerddwyr, fel bolardiau a rheiliau mewn rhai achosion, sy’n galw am fuddsoddiad bach, ac mewn achosion eraill, adleoli person lolipop, neu groesfan sebra. Yn fy ardal i, sef Treganna yng ngorllewin Caerdydd, mae gennym bellach gynllun rhedeg a pharcio a rhodio, sy’n gwneud i blant gerdded rhan o’r llwybr i’r ysgol. Yn gyntaf, maent yn cerdded i fan parcio diogel, ac yna fe gânt eu cludo, ond o leiaf fe gânt gerdded rhywfaint o’r ffordd. Y cynllun arall a hyrwyddir gan Cymru Fyw ar gyfer cerdded yw’r bws cerdded, fel y soniwyd eisoes, lle mae plant yn cerdded yr holl ffordd mewn gorymdaith wedi’i threfnu, gan hel mwy o gerddwyr ar y ffordd.
Beicio yw’r gweithgaredd pwysig arall sy’n gallu helpu iechyd hirdymor. Mae hyn hefyd yn codi cwestiynau. Mae Sustrans yng Nghaerdydd, er enghraifft, wedi cwestiynu’n gyson y cyfleusterau sydd ar gael i feicwyr yng ngorsaf fysiau Caerdydd sydd i’w hailddatblygu’n fuan. Fel y mae’r Gweinidog yn ymwybodol mae’n siŵr, mae yna waith mawr yn digwydd ar ailddatblygu swyddfeydd yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, a fydd yn arwain at orsaf fysiau lai o faint. Mae’r newid hwn hefyd wedi arwain at gwestiynau ynglŷn â chyfleusterau beicio. Felly, rwyf am ofyn pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i sicrhau bod cynghorau lleol yn cadw at amcanion teithio llesol drwy ddarparu cyfleusterau beicio digonol yn ein prif ganolfannau trafnidiaeth? Ac a ydym i gael unrhyw dargedau ar gerdded i’r ysgol? Diolch.
Gan ei bod yn ymddangos fod consensws eang ar draws pob plaid yma, rwyf eisiau cyflwyno ychydig o frys a her i’r ddadl hon o bosibl. Mae’r pedwerydd cymal yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai’n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da. Rhif 1: Hoffwn awgrymu bod Dai Lloyd yn rhoi cynnig ar Rodfa Lloyd George fel llwybr i ganol y ddinas, gan ei fod yn llwybr beicio a cherdded gwych nes i chi gyrraedd Sgwâr Callaghan ac yna mae’n beryg bywyd. Felly, byddai’n wych pe gallech ei ddilyn ac yna gwneud argymhellion i gyngor Caerdydd ar sut i’w wneud yn fwy diogel, gan ei fod yn wych wrth i chi fynd ar hyd Rhodfa Lloyd George ac mae’n eithaf erchyll ar ôl i chi gyrraedd canol y ddinas. Felly, dyna un peth.
Un o’r pethau pwysicaf rydym yn ei wneud yw derbyn ysgolion sy’n ymweld â’r Senedd o’n hetholaethau, ac fe addewais ofyn fel mater o drefn i’r holl ysgolion sy’n ymweld o fy etholaeth i ‘Sut y teithioch chi i’r ysgol y bore yma?’, oherwydd mae’n ddadlennol iawn, rwy’n teimlo, er bod cyfran sylweddol sydd naill ai’n cerdded neu’n beicio, serch hynny mae yna gyfran sylweddol iawn o bobl ifanc hefyd sy’n byw o fewn milltir i’w hysgol gynradd ac sy’n mynd yno mewn car. Mae hynny’n nonsens llwyr yn wir. Nid yw’n dda i’r plentyn, nac yn dda i’r amgylchedd, nac yn dda i’r gymuned. Felly, mae gwir angen i ni osod hyn yn uwch ar yr agenda. Dylai fod yn hollol orfodol i bob ysgol feddu ar bolisi teithio llesol fel bod modd i ni ddweud wrth unrhyw un sy’n cytuno i fynychu’r ysgol honno, ‘Dyma’r llwybr teithio llesol y dylech fod yn ei deithio heddiw. ‘
Roeddwn yn siarad â phennaeth ysgol yn un o etholaethau’r Cymoedd, rwy’n meddwl, a ddywedodd, ‘Wel, mae fy ysgol ar gopa bryn uchel.’ Rwy’n cydnabod bod honno’n her fawr i blentyn feicio i’r ysgol, nid yn unig am ei fod i fyny’r rhiw, oherwydd gall pobl ifanc feicio i fyny rhiwiau, ond oherwydd mai mynd i lawr rhiwiau yw un o’r pethau mwyaf peryglus am feicio ac ni ddylai’r dibrofiad wneud hynny. Ond mae ei phlant yn cerdded i’r ysgol, am mai dyna beth rydym yn ei wneud, a beth rydym bob amser wedi’i wneud. Felly, rwy’n credu bod angen i ni fynnu llawer mwy gan ein rhieni a gofyn iddynt pam y maent yn cludo eu plant i’r ysgol er ein bod yn gwybod y byddant yn fwy parod i ddysgu yn y bore o fod wedi gwneud i’r gwaed lifo’n gynt yn eu pennau drwy gerdded neu feicio i’r ysgol.
Mae gennym raglen addysg i’w gwneud gyda’n teuluoedd, gan fy mod yn credu y byddai llawer o blant nad ydynt yn cerdded neu’n beicio ar hyn o bryd yn hoffi gwneud hynny. Felly, yn union fel y mae gennym gynllun prynu beic ar gyfer ein staff yn y Cynulliad Cenedlaethol, a nifer wych wedi manteisio arno yn fy marn i, hoffwn awgrymu, fel y mae John Griffiths wedi awgrymu, y dylem geisio cael cynllun prynu beic ar gyfer ein holl ysgolion, yn enwedig i’r rhai sy’n gwario hyd at 20 y cant o’u hincwm, fel y dywedodd Lee Waters, ar deithio, sy’n amlwg yn fater o bwys o ran eu hincwm teuluol ac un a fyddai’n lladd sawl aderyn ag un garreg. Felly, rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylem fod yn cynnwys y sector gwirfoddol ynddo a chael grantiau i bobl allu ad-dalu cost y beic yn raddol wedyn.
Rwy’n sylweddoli bod y darlun yn llawer mwy cymhleth mewn ardaloedd gwledig, ond rwy’n cynrychioli etholaeth drefol ac nid oes unrhyw esgus, mewn gwirionedd, pam na all unrhyw un o’r bobl ifanc yn fy etholaeth, ac eithrio rhai yn y system ofal o bosibl neu blant anabl wrth gwrs—.
Dylai’r rhan fwyaf o bobl fod yn mynd i’r ysgol naill ai drwy gerdded, beicio neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae llawer mwy sydd angen i ni ei wneud. Rwy’n credu bod yr ysgol yn lle da i ddechrau drwy ymwneud â theuluoedd a’u herio o ddifrif, ‘A ydych yn mynd i fod yn mynd â’ch plentyn i’r gwaith?’, oherwydd pam ar y ddaear rydym yn mynd â hwy i’r ysgol uwchradd? Felly, os gallwn gael ysgolion i fod yn fan lle gallwn drafod sut y gallai plant gyrraedd yr ysgol yn ddiogel drwy wneud mân newidiadau i’r dirwedd amgylcheddol sy’n achosi gordewdra, sef ein cynlluniau ffyrdd, yna gallai hynny (a) eu cael i ddeall yn well fod yna lwybrau diogel i’r ysgol a (b) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod hynny’n wir. Felly, byddwn yn annog y Llywodraeth yn gryf i sicrhau bod hyn yn rhan lawer mwy canolog o’i hagenda les yn gyffredinol.
Rwy’n galw ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.
Diolch i chi, Lywydd. Bydd yr Aelodau’n cofio fy mod wedi nodi yn fy natganiad llafar yn ddiweddar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teithio llesol yng Nghymru a beth rydym yn ei wneud yn fwy eang i annog pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Rwy’n falch o roi fy nghefnogaeth lawn i’r cynnig sy’n cael ei drafod heddiw, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelodau am y diddordeb diffuant a’r brwdfrydedd y maent yn ei gyfrannu i’r agenda hon.
Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gynorthwyo pobl i fod yn iach ac yn heini. Mae cyflawni hyn, fodd bynnag, yn galw am weithredu ar draws y portffolios i greu’r amgylchedd a’r cyfle i bobl ddewis ffyrdd o fyw iachach. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ystod wirioneddol eang o sefydliadau trydydd sector i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o fanteision gweithgarwch corfforol ac yn cael eu hysgogi, a bod cyfleoedd yn cael eu darparu iddynt allu cynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd. Mae gan Chwaraeon Cymru nifer o raglenni ar waith sy’n annog pobl ifanc yn arbennig i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac rwy’n wirioneddol falch o ddweud bod y cyfraddau sy’n cymryd rhan yn cynyddu, ond rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud.
Dros yr haf, rydym wedi ystyried, ochr yn ochr â rhai sydd â diddordeb, amrywiaeth o argymhellion i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol. Bydd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn cadeirio grŵp trawsbynciol sydd newydd ei sefydlu i flaenoriaethu ein camau gweithredu i gefnogi’r agenda hon. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio ein strategaeth iach a gweithgar yr ymrwymasom iddi yn ein rhaglen lywodraethu.
Mae ail bwynt y cynnig heddiw yn cyfeirio at ddata arolwg iechyd Cymru ar y cyfraddau gweithgarwch corfforol ymhlith plant. Mae’n rhaid i wella lefelau gweithgarwch corfforol ymysg plant fod yn flaenoriaeth oherwydd bod manteision ffordd iach a gweithgar o fyw yn ystod plentyndod yn cael eu gwireddu drwy gydol oes yr unigolyn. Hefyd ceir cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a chyrhaeddiad addysgol. Gwelais enghraifft go iawn o hyn yn ddiweddar pan ymwelais ag Ysgol Gynradd Pantysgallog i weld sut y maent wedi cyflwyno taith gerdded, loncian neu redeg 1 filltir o hyd i holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2, ac sy’n digwydd rhwng y clwb brecwast a dechrau’r diwrnod ysgol. Yn ogystal â’r manteision iechyd, mae’r athrawon yn yr ysgol wedi sylwi ar ostyngiad mewn ymddygiad aflonyddgar yn ystod y gwersi a dywedodd y plant wrthyf am eu lefelau canolbwyntio gwell. Roeddent hefyd yn dweud wrthyf faint o hwyl oedd gwneud hyn, ac ni allwn orbwysleisio pa mor bwysig yw hynny.
Dangosodd canlyniadau’r arolwg iechyd Cymru diweddaraf fod y gyfradd o blant oedran ysgol sy’n cyrraedd y lefel a argymhellir gan y prif swyddog meddygol o weithgarwch corfforol wedi cynyddu 1 y cant i 36 y cant, felly mae pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, ond rydym am gyflymu’r gwelliant hwnnw. Mae hyn yn galw am ymateb y gymdeithas gyfan.
Mae gan ysgolion rôl allweddol i’w chwarae. Mewn ymateb i’r adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ gan yr Athro Donaldson, rydym yn datblygu cwricwlwm newydd a fydd yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i ddod yn unigolion iach a hyderus. Bydd gweithredu chwe maes newydd o brofiadau dysgu yn ganolog i’r cwricwlwm newydd ac un ohonynt fydd iechyd a lles. Mae ein rhaglen lywodraethu yn egluro ein hymrwymiad i weithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dewis ffyrdd iach o fyw.
Mae Rhwydwaith Cymru o Gynlluniau Ysgolion Iach yn cefnogi ymagwedd ysgol gyfan tuag at iechyd. Mae 99 y cant o’r holl ysgolion a gynhelir yn rhan o’r cynllun a chaiff ei ystyried yn un o’r goreuon yn Ewrop. Ar ben hynny, mae’r cynllun wedi ei ymestyn yn llwyddiannus bellach i gynnwys lleoliadau cyn ysgol.
Mae’r rhaglen Teithiau Llesol, sy’n gweithio mewn ysgolion i hyrwyddo teithio llesol i ac o’r ysgol, yn ategu’r ymdrechion hyn mewn ffordd wirioneddol ymarferol ac yn sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i ysgolion ledled Cymru. I adeiladu ar hyn, gallaf gyhoeddi heddiw y byddaf yn comisiynu Living Streets i gyflwyno prosiect Cerdded i’r Ysgol yng Nghymru a fydd yn tynnu sylw at fanteision teithio llesol i iechyd. Bydd hefyd yn cynorthwyo nifer o ysgolion i gyflawni eu hadolygiad eu hunain o lwybrau cerdded yn eu hardal, gan gynnig ffordd gynaliadwy o asesu a nodi ffyrdd o wella’r seilwaith teithio llesol.
Mae amgylchedd y cartref hefyd yn chwarae rhan hanfodol. Mae ymgyrch 10 Cam at Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu rhieni i ennyn arferion iach yn eu plant drwy nodi camau hawdd y gallant eu cymryd i gynorthwyo eu plentyn i ddatblygu a chynnal pwysau iach, fel cyfyngu amser o flaen sgrîn ac annog chwarae awyr agored. Drwy ein rhaglen sydd newydd ei lansio, Plant Iach Cymru, byddwn yn sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn gallu cynorthwyo teuluoedd i wneud dewisiadau iach o’r cyfnod cyn geni hyd at saith oed.
Mae’r trydydd pwynt yn y cynnig yn tynnu sylw at botensial y Ddeddf teithio llesol i godi lefelau gweithgarwch corfforol ar draws y boblogaeth. Rydych wedi fy nghlywed yn dweud o’r blaen fy mod yn gweld teithio llesol fel elfen allweddol o gynnwys gweithgarwch corfforol ym mywydau pob dydd pobl a bod y Ddeddf yn gosod fframwaith i gefnogi hyn. Mae’n gwneud hynny drwy sicrhau bod rhwydweithiau cerdded a beicio cydlynol yn cael eu cynllunio yn ein cymunedau ar draws Cymru a thrwy hyrwyddo eu defnydd. Er mwyn sicrhau bod y rhwydweithiau hyn yn addas i’r diben a’u bod yn diwallu anghenion pobl mewn gwirionedd, mae angen i awdurdodau lleol gynnwys y rhai sy’n cerdded ac yn beicio’n rheolaidd, ond hefyd, yn hollbwysig, y rhai nad ydynt yn gwneud hynny, fel rydym wedi clywed. Roeddwn yn falch o gael cyfarfod yn ddiweddar gyda’n bwrdd teithio llesol, er mwyn dangos fy mod yn gwbl o ddifrif ynglŷn â’u gwaith. Ac rwyf wrth fy modd fod Dr Adrian Davis wedi cytuno i ymuno â’n bwrdd gan ei fod yn cyfrannu cryn dipyn o arbenigedd ym maes teithio llesol ac ym maes iechyd cyhoeddus.
Mewn perthynas â phedwerydd pwynt y cynnig, rydym yn cytuno bod ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned yn allweddol i bennu’r ffordd orau o gynllunio seilwaith teithio llesol lleol, ac mae hwn yn ofyniad rydym yn ei fynnu gan awdurdodau lleol, sydd yn y sefyllfa orau i ymgysylltu ag anghenion ac asedau amrywiol eu cymunedau lleol.
Diolch i chi am ildio. Rwy’n credu bod tua thair blynedd bellach ers i mi fod yn holi’r Aelod dros Lanelli mewn bywyd blaenorol, pan oeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes ac yntau’n rhoi tystiolaeth ar ran Sustrans. Felly, mae tair blynedd wedi mynd heibio ac roeddem yn siarad am hyn i gyd bryd hynny. Mae hyn i gyd yn wych, ond beth sy’n digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad gyda’r rhwydweithiau beicio hyn? A ydych yn hyderus fod awdurdodau lleol yn eu darparu?
Mae awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn o’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar weithrediad y Ddeddf ac un o’r pethau cyntaf a wneuthum ar ôl dod i’r swydd oedd eu hatgoffa am eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, ond mae’n gyfrifoldeb nid yn unig i bobl ym maes teithio; mewn gwirionedd mae’n gyfrifoldeb ar bobl mewn llywodraeth leol drwyddi draw. Felly, mae awdurdodau lleol yn awr yn paratoi eu mapiau integredig a byddwn yn gweld datblygiadau yn y dyfodol i lenwi’r bylchau y mae pobl yn eu nodi drwy’r prosiect fel y crybwyllodd Janet Finch-Saunders. Dyna’r ymgyrch gan Cycling UK, Living Streets, Sustrans Cymru a Beicio Cymru er mwyn helpu pobl i ymgysylltu â’r broses a gadael i’r awdurdodau lleol wybod yn union ble mae angen gwelliannau lleol i rwydweithiau beicio a cherdded.
Felly, o ran pedwerydd pwynt y cynnig, rydym yn cytuno pa mor bwysig yw ymgysylltiad lleol. Gallwn, ac fe fyddwn yn parhau i ddarparu’r arweiniad ar lefel genedlaethol fodd bynnag i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith. Felly, rwy’n credu ei bod yn amlwg iawn o’r cyfraniadau ystyriol a gawsom i’r ddadl heddiw ein bod i gyd yn cytuno ar rôl bwysig gweithgarwch corfforol i’n cadw ni i gyd yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Rwy’n gobeithio bod ymrwymiad y Llywodraeth hon i’r maes—nid yn lleiaf drwy’r amlygrwydd a roddir iddo yn ein rhaglen lywodraethu, ond hefyd drwy ddwyn ynghyd y cyfrifoldebau yn y maes i mewn i un portffolio—yn glir i’r Aelodau ei weld ac edrychwn ymlaen at gael cefnogaeth gyda’r agenda teithio llesol yn y dyfodol.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i gael fy nghysylltu efo’r cynnig yma ac i gefnogi’r Aelodau eraill sydd wedi siarad mor frwd heddiw dros yr angen i hybu gweithgaredd corfforol ac i sicrhau bod yr isadeiledd priodol yn ei le o ran teithio llesol, i allu sicrhau i hynny ddigwydd o fewn ein cymunedau ni fel rhan o fywyd bob dydd.
Mae iechyd pobl Cymru, a phlant Cymru yn arbennig, wrth gwrs, yn fater sy’n achos pryder i bob un ohonom ni yma. Mae yna ddigon o arwyddion ein bod ni’n creu problemau iechyd a chymdeithasol enfawr ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae’r ffaith ein bod ni’n gwario 10 y cant o gyllideb yr NHS ar drin diabetes yn rhybudd digon clir i ni. Fel Aelod Cynulliad Ynys Môn, nid oeddwn yn falch iawn o weld Môn yn codi i frig un tabl y llynedd, pan wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi mai ym Môn bellach oedd y gyfran uchaf o blant sydd dros eu pwysau neu’n ordew. Un rhan o dair o blant yr ynys dros eu pwysau neu’n ordew; mae’r ffigurau yna’n gwbl, gwbl frawychus.
Wrth gwrs, mae diffyg gweithgaredd corfforol wrth wraidd llawer o hynny. Y broblem, fel dywedodd Julie Morgan yn gynharach, ydy bod patrymau plant yn gynnar yn eu bywydau’n aml iawn yn cael eu hefelychu pan mae’r plant hynny’n troi’n oedolion. Felly, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r broblem wrth ei gwraidd. Rwy’n gwneud tipyn o hyfforddi rygbi yng nghlwb rygbi Llangefni. Rwy’n ymddiheuro wrth y plant am safon y rygbi rwy’n ei ddysgu iddyn nhw, ond un peth sy’n fy ngyrru heb os ydy’r elfen o hybu gweithgaredd corfforol. Mae yna enghreifftiau lu ar draws Ynys Môn o gyfleon sy’n cael eu darparu ar gyfer ein pobl ifanc ni, o rygbi i bêl-droed i hoci i gymnasteg i athletau i hwylio—mae yna ormod i’w henwi. Mae’n olygfa wych bod yng nghanolfan codi pwysau a ffitrwydd Caergybi pan fydd ysgol Caergybi sydd gerllaw yn cau ar ddiwedd y dydd a’r bobl ifanc yn llifo i mewn oherwydd bod yna adnoddau yna ar eu cyfer nhw a bod yna bobl yna i’w hysbrydoli nhw i edrych ar ôl eu hiechyd eu hunain drwy ymarfer corff.
Ond, rhywsut, mae’n rhaid inni sicrhau bod rhagor o weithgaredd corfforol yn digwydd yn ein hysgolion ni. Wrth gwrs, mae yna addysg gorfforol wedi’i hamserlenni. Ond, fel mae’r cynnig yn ei nodi, dim ond rhyw draean o blant Cymru sy’n cael yr awr ddyddiol o weithgaredd corfforol sy’n cael ei argymell. Maddeuwch i fi am beidio â chyffroi gormod bod y ffigur wedi codi o 35 y cant i 36 y cant. Rwy’n meddwl mai drwy’r ysgol, ar gyfer pobl ifanc, y mae gwthio’r ffigur hwnnw i fyny. Rwy’n gredwr cryf, er enghraifft, mewn ymestyn y dydd yn yr ysgol er mwyn rhoi amser i hybu gweithgarwch. Mae’n rhaid sicrhau bod yr adnoddau yno yn ein hysgolion ni. Ac, wrth gwrs, mae hybu teithio llesol ar gyfer cyrraedd yr ysgol yn cynnig haen ychwanegol o weithgarwch corfforol. Rwy’n sicr yn croesawu’r gwaith newydd sydd wedi cael ei gomisiynu gan y Llywodraeth, ond mae’n amser, fel dywedodd Nick Ramsay, inni weld addewidion yn troi’n realiti.
Gadewch inni edrych ar ychydig yn hwyrach mewn bywyd, lle mae gweithgaredd corfforol yr un mor allweddol. Mae Age Cymru yn ein hatgoffa ni bod sicrhau lefelau digonol o ymarfer corff yn hanfodol i’r boblogaeth hŷn er mwyn eu hiechyd yn gyffredinol, ond hefyd er mwyn eu hannibyniaeth nhw a’u gallu nhw i chwarae rhan lawn mewn cymdeithas. A’r hyn sy’n wych, wrth gwrs, ydy bod yr ymarfer corff yna yn gallu bod yn rhan greiddiol o fywyd bob dydd. Un arf sydd gennym ni, sydd i fod i helpu, ydy’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Yn anffodus, nid yw manteision iechyd teithio llesol yn cael eu gwerthfawrogi digon. Mae’r system i werthuso cost a budd prosiectau yn gadael nifer o’r manteision iechyd allan o’u dadansoddiad, er enghraifft, sy’n golygu nad ydy cynlluniau teithio llesol yn sgorio mor uchel ag y dylen nhw. Mae Sustrans—rydym wedi clywed llawer amdanyn nhw heddiw—o’r farn nad ydy pob adran o lywodraeth yn gwerthfawrogi manteision teithio llesol. Eu profiad nhw ydy mai, hyd yma, dim ond yr adrannau trafnidiaeth sydd efo hyn ar eu radar. Rydym wedi clywed hynny’n cael ei ddweud heddiw’n barod. Ond, er mwyn creu diwylliant o deithio llesol yng Nghymru, mae arnom ni angen gweithlu llawer ehangach yn gwneud iddo fo ddigwydd. Mae’n rhaid i’r meddylfryd seilo yna ddod i ben.
Fel y mae’r cynnig yn ei ddweud, ac fel y dywedodd yr Aelod dros Lanelli, mae angen gweithio yn effeithlon efo cymunedau i adnabod sut i gael y gorau o’r arf deddfwriaethol yna sydd gennym ni. Gadewch i ni felly hybu teithio llesol efo egni newydd. Mae’n amlwg ar draws y Siambr yma ein bod ni’n rhannu uchelgais. Mae’n amlwg ein bod ni’n rhannu syniad cyffredin ynglŷn ag i le rydym ni eisiau mynd, felly mae’n amser gwireddu’r weledigaeth a oedd gan John Griffiths fel Gweinidog a’r Siambr yma yn gyffredinol—y Cynulliad yn gyffredinol—nôl yn 2013 pan gafodd y Ddeddf ei phasio. Gadewch inni hybu teithio llesol, gadewch inni hybu gweithgarwch corfforol drwy’n cymdeithas ni, a gadewch inni wneud Cymru yn wlad fwy iach. Rwy’n eich annog chi i gefnogi’r cynnig yma heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.