1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y galw ar wasanaethau gofal sylfaenol? OAQ(5)0213(FM)
Rydym wedi gweld cynnydd, wrth gwrs, yn y galw am wasanaethau gofal sylfaenol. Byddaf yn lansio ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol i annog rhagor o ymarferwyr cyffredinol i weithio yng Nghymru. Mae yna £42 miliwn wedi cael ei roi i fyrddau iechyd i gefnogi gweithredu ein cynlluniau.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Roedd nifer ohonom mewn cyfarfod o’r BMA yma yr wythnos diwethaf, a oedd yn lansio ‘Rhagnodiad brys: Arolwg o feddygaeth teulu yn 2016’. Darlun oedd hynny o’r pwysau anferthol sydd ar feddygon teulu, o gofio bod meddyg teulu’n gweld tua 50 o gleifion bob dydd ar gyfartaledd, a hynny i gyd yn cynnwys problemau cymhleth, dyrys, dwys, achos mae’r problemau syml eisoes wedi cael eu didoli allan y dyddiau yma, a dim ond y problemau dwys sydd ar ôl i’r meddyg teulu gael eu gweld. Ac, wrth gwrs, dim ond y sefyllfaoedd sydd angen meddyg teulu ydy’r rheini. Felly, dyna pam mae’r pwysau’n anferthol—mae yna 50 o gleifion cymhleth sydd ddim ond yn gallu cael eu gweld gan feddyg teulu. Beth allwch chi ei wneud i leihau’r pwysau anferthol yna ar feddygon teulu nawr, y dyddiau yma?
Mae’r BMA, wrth gwrs, yn rhan o’r gwaith rydym ni’n ei wneud. Nid ydyn nhw tu fas i hynny. Wrth gwrs, maen nhw’n cynrychioli eu haelodau, rwy’n deall hynny, ond rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod yna leihad yn y pwysau sydd ar feddygon teulu. Un enghraifft yw’r ‘collaborative’ yn y canolbarth sydd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bobl yn y canolbarth ac yn ystyried ffyrdd newydd o weithio. Yn y pen draw, wrth gwrs, rydym ni’n moyn gweld mwy o feddygon teulu yn cael eu hyfforddi yng Nghymru a hefyd yn gweithio yng Nghymru. Dyma pam mae’r ymgyrch yn cael ei lansio mewn dau ddiwrnod.
Mae'n bwysig ein bod ni’n darparu cyfleusterau gofal sylfaenol sy'n addas i'w diben ac sy’n bodloni’r galw. Mae bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf a chyngor RhCT yn cydweithio i ddatblygu canolfan iechyd newydd yn Aberpennar a fydd yn gwneud yn union hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i wella cyfleusterau gofal sylfaenol ledled Cymru?
Gwn fod y bwrdd iechyd wedi sefydlu bwrdd prosiect i ddatblygu cynnig ar gyfer y cyfleuster gofal sylfaenol newydd yn Aberpennar, ac rydym ni’n ceisio gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd i ddarparu’r mathau hynny o gyfleusterau. Rwyf wedi eu gweld nhw’n cael eu hagor ar draws Cymru gyfan—cyfleusterau modern lle gall practisau gadw eu hunaniaeth o fewn yr adeiladau hynny, ond, serch hynny, cael mynediad at wasanaethau cymorth a chyfleusterau modern. Byddwn yn parhau i weithio gyda meddygon teulu a chyda byrddau iechyd i gyflwyno canolfannau iechyd mwy cyfredol, modern yn y dyfodol.
Mae cadw pobl allan o'r ysbyty yn cyflwyno galw am wasanaethau gofal sylfaenol sydd eisoes o dan bwysau. Mae pobl sydd angen gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o alw ar ofal sylfaenol ac, yn ôl pob tebyg, gofal ailalluogi, na'r boblogaeth gyffredinol. Nid yw gofal cymdeithasol yn ymwneud â'r meddyg teulu yn gyfan gwbl, fodd bynnag, ac rwy’n meddwl tybed sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cefnogaeth ymyrraeth anfeddygol i gynorthwyo hyder a lles emosiynol pobl mewn gofal cymdeithasol, a sut yr ydych chi’n mesur wedyn y gostyngiad i’r galw am wasanaethau gofal sylfaenol, yn enwedig gwasanaethau gofal iechyd meddwl sylfaenol.
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cael gwasanaethau cymorth i bobl pan fyddant y tu allan i'r ysbyty. Mae hynny'n golygu sicrhau nad ydym ni’n torri gwariant yn y gwasanaethau cymdeithasol, fel sydd wedi digwydd, wrth gwrs, dros y ffin. Yng Nghymru, mae gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 7 y cant yn uwch y pen nag ydyw yn Lloegr, oherwydd ni allwch chi wahanu’r ddau. Ni allwch chi ysbeilio cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn talu am iechyd; mae’r ddau yn mynd law yn llaw. Dyna pam yr ydym ni wedi diogelu cyllidebau yng Nghymru ac y byddwn yn parhau i wneud hynny.
Brif Weinidog, mae gan Gymru boblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio sy'n rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Fel y gall y rhai hynny ohonom a lofnododd y presgripsiwn brys ar gyfer ymarfer cyffredinol dystio, mae pwysau llwyth gwaith ar feddygon teulu yn tanseilio diogelwch gofal cleifion. A wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi cais Cymdeithas Feddygol Prydain i fyrddau iechyd lleol roi terfyn ar yr arfer o fynnu bod meddygon teulu yn cynnal profion wedi’u trefnu mewn rhannau eraill o'r GIG ac i gyflwyno safon genedlaethol ar gyfer isafswm cleifion y gellir disgwyl i feddyg teulu ymdrin â nhw yn ystod diwrnod gwaith?
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod ei bod fel rheol yn wir, pan fo Meddygon Teulu yn cynnal profion ar ran rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, eu bod yn cael eu talu am wneud hynny. Nid ydynt yn ei wneud am ddim, ac, o ganlyniad i hynny, nid yw'n wir, felly, eu bod yn canfod nad yw eu hamser yn cael ei ddigolledu yn hynny o beth. Mae’n rhaid i mi ddweud, er enghraifft, yn ogystal â’r hyn yr wyf newydd ei ddweud, eleni, ein bod ni wedi gweld dros 400 o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio ledled Cymru, gan gynnwys fferyllwyr clinigol, ffisiotherapyddion a chydgysylltwyr gofal, ac maen nhw’n helpu ac yn cefnogi meddygon teulu yn rhan o ddull amlbroffesiwn o dan arweiniad meddygon teulu. Pan edrychwn ni ar Brestatyn, er enghraifft, rydym ni’n gweld enghraifft wych yno o wasanaeth sydd wedi gwella’n fawr i bobl, a gymerwyd drosodd gan y bwrdd iechyd, lle mae nifer o ymarferwyr ar gael i bobl a gellir eu cyfeirio at yr ymarferwr iawn pan fyddant yn cyrraedd y safle. Mae hwnnw'n fodel da y mae angen i ni ymchwilio iddo ar gyfer gweddill Cymru.