1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod angen cael deddfwriaeth benodol sy'n cwmpasu gwasanaethau ar gyfer y rheini sydd ar y sbectrwm awtistiaeth?
Wel, y cwestiwn yr wyf yn ei ofyn bob amser yw beth fyddai deddfwriaeth yn ei ychwanegu—mae hwnnw’n gwestiwn agored. Ac, fel y mae'r Gweinidog wedi ei nodi eisoes, mae’r drws yn dal yn agored o ran ystyried a fyddai deddfwriaeth yn gwella'r sefyllfa i bobl.
Nodaf eich ateb, Brif Weinidog, a geiriau eich Gweinidog, ond aeth eich pleidlais ar y cynnig ychydig dros bythefnos yn ôl yn gwbl groes i’r hyn y mae ymgyrchwyr mewn gwirionedd eisiau ei weld yn hyn o beth. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cefnogi deddfwriaeth, sydd â chefnogaeth trawsbleidiol—rwy'n amau bod Aelodau ar eich meinciau chi hyd yn oed sy'n cefnogi deddfwriaeth—ac rwy'n siŵr, fel finnau, eich bod chi wedi derbyn negeseuon gan bobl yn gofyn am esboniad ynghylch y bleidlais honno bythefnos yn ôl. O gofio bod pobl ag awtistiaeth yn cael eu siomi gan gynifer o agweddau ar y system, a allwch chi weld pam mae ymgyrchwyr yn pwyso am y ddeddfwriaeth hon, neu a ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n anghywir?
Wel, mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud bod y drws yn agored. Yr hyn y mae angen ei archwilio yw a fyddai cyfraith yn gwneud gwahaniaeth. Os oes cyfraith ar gyfer awtistiaeth, a ddylai fod cyfraith ar gyfer canser, a ddylai fod cyfraith ar gyfer gwasanaethau eraill hefyd? Dyna’r cydbwysedd y mae'n rhaid ei daro. Nid oes amheuaeth ein bod ni eisiau gweld gwelliant i’r gwasanaethau a ddarperir i bobl. Rwy'n gwybod yn iawn pa mor anodd yw hi i bobl sy'n ymdopi â pherthnasau sydd ag awtistiaeth, ac rydym ni eisiau gweld y gwasanaethau hynny'n gwella, a dyna pam yr ydym ni wedi cymryd camau i wneud hynny. Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei archwilio yw a fyddai cyfraith yn helpu i wella’r gwasanaethau hynny mewn gwirionedd. Ac mae hwnnw’n gwestiwn agored.
Wel, o gofio bod yr ymgyrchwyr yn gwthio am gyfraith a bod cyllid yn dilyn deddfwriaeth, a bod eich Gweinidog wedi dweud bod y drws yn agored i hyn, a wnewch chi ymrwymo nawr i newid eich meddwl a chefnogi Bil awtistiaeth, pe byddai cynnig newydd yn ymddangos gerbron y Cynulliad hwn?
Wel, mae angen i ni ystyried ymhellach beth fyddai cyfraith yn ei ychwanegu, fel yr wyf i wedi ei ddweud. Rwy’n derbyn y pwynt am wasanaethau’n gwella. Nid yw arian o reidrwydd yn dilyn y gyfraith; mae Lloegr, rwy’n credu, yn cynnig digon o enghreifftiau lle nad yw hynny wedi digwydd. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw gwelliant i wasanaethau—mae hynny'n wir—ond mae angen gwneud rhagor o waith i archwilio pa un a fyddai cyfraith yn gwneud y gwahaniaeth y byddai ymgyrchwyr yn ei obeithio ac yn ei ddisgwyl.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, ceir heriau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan o ran recriwtio a chadw athrawon mewn unrhyw system addysg. Yn anffodus, mae'r ffigurau yma yng Nghymru ar gyfer recriwtiaid newydd i'r proffesiwn yn eithaf damniol, i fod yn onest â chi. Ar ôl pum mlynedd yn y proffesiwn, bu cynnydd o 50 y cant mewn athrawon yn troi eu cefnau ar y proffesiwn a cherdded i ffwrdd. Bu cynnydd o 16 y cant yn yr athrawon sy'n ymddeol cyn amser ymddeol. Pa ffydd a all fod gennym y bydd eich Llywodraeth newydd yn gallu atal y ffigurau hyn a gwella’r ffigurau hynny fel bod athrawon, pan fyddan nhw wedi’u hyfforddi a phan fyddan nhw yn y proffesiwn, yn aros yn y proffesiwn i wneud y gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld mewn addysg?
Mae datganoli cyflogau ac amodau gwaith athrawon yn cynnig cyfle gwych i ni weithio gyda'r proffesiwn er mwyn cynnig pecyn cynhwysfawr o delerau ac amodau a chyflog. Dyna’n union y mae'r Albanwyr wedi ei wneud a dyna’n union y mae angen i ni ei wneud yng Nghymru, a symud oddi wrth y syniad bod yn rhaid, rywsut, i’r Llywodraeth a'r proffesiwn fod mewn gwrthdrawiad. Nid wyf yn ei gweld hi felly, ac rwy’n meddwl bod y cyfle i ddatganoli telerau ac amodau yn un sy'n rhoi cyfle i ni gynnig y pecyn iawn i athrawon yng Nghymru.
Bri Weinidog, yn amlwg, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y gwelliant hwnnw i Fil Cymru ddoe, a mater i chi yw mapio sut yn union y byddwch chi’n defnyddio'r pwerau newydd hynny fel Llywodraeth pan fyddant yn cyrraedd yma. Mae'r undebau yn amlwg wedi rhoi eu barn ar hynny eisoes. Ond os edrychwch chi, mewn gwirionedd, ar bobl sy'n bwriadu hyfforddi i fod yn athrawon, bu gostyngiad o 9 y cant o ran ceisiadau i fod yn athrawon dim ond eleni. Mae hynny'n ostyngiad o 36 y cant dros y 10 mlynedd ddiwethaf, o bobl sy’n cynnig eu hunain i ddechrau’r hyfforddiant i ddod yn athro neu’n athrawes. Felly, rydych chi’n mynd i gael y pwerau yn y Cynulliad hwn ar delerau ac amodau athrawon. Beth yn union ydych chi’n mynd i'w wneud â nhw i newid y ffigurau hyn?
Nid dilyn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn Llundain yn ei wneud, oherwydd, yn amlwg, nid yw'n gweithio o ran recriwtio a chyflog ac amodau. Rydym ni’n awyddus i sicrhau bod gennym ni becyn wedi'i deilwra ar gyfer athrawon yng Nghymru, o ran hyfforddiant ac o ran y ffordd y maen nhw’n datblygu yn eu proffesiwn. Rydym ni wedi nodi'r dull a ddefnyddiwyd yn yr Alban, ac mae hwnnw'n ddull y byddwn yn ei archwilio, ynghyd ag eraill, i wneud yn siŵr bod y pecyn yn un sy'n fwyfwy deniadol i athrawon, oherwydd mae’n gwbl eglur, pan ddaw i gyflog ac amodau athrawon, nad yw’r hyn sy’n bodoli nawr yn gweithio iddyn nhw.
Rwy’n gobeithio y byddwch chi, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, yn gallu rhoi rhywfaint o gig gwirioneddol ar asgwrn beth yn union y bydd eich Llywodraeth yn ei wneud ynghylch cyflogau ac amodau gwaith athrawon gyda'r cyfrifoldebau newydd. Nid wyf yn dwyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyfrif am yr adran ar hyn o bryd, ond mynegodd Dr Philip Dixon, er tegwch, farn dros y penwythnos ar y capasiti yn yr adran addysg, ac mae'n sylw teg, yn dod gan rywun sydd wedi bod ar ddwy ochr y ffens, os mynnwch chi, fel uwch gynrychiolydd undeb ATL ac, rwy’n credu, ar ôl gweithio yn y Llywodraeth hefyd am gyfnod a gweithio ym maes gwleidyddiaeth. Felly, mae wedi mynegi amheuon ynghylch capasiti yn yr adran. Fel y dywedais, nid wyf yn lladd ar yr Ysgrifennydd Cabinet presennol, oherwydd, er tegwch, dim ond newydd ddod i mewn i'r swydd y mae hi, ac rwy'n siŵr ei bod hi’n gwneud ei hasesiadau ei hun. Ond mae'n sylw teg, i ddeall yn union pa un a oes gennych chi’r hyder yn yr adran i fwrw ymlaen â'r newidiadau sydd eu hangen yng ngoleuni sylwadau sy’n cael eu lleisio’n uwch ac yn uwch wrth i ni ddod yn agosach at yr adolygiad PISA a fydd, yn y pen draw, yn meincnodi eich cyflawniadau fel Prif Weinidog a chyflawniadau’r Blaid Lafur mewn addysg o dan ddatganoli ar y raddfa ryngwladol?
Byddwn yn ofalus iawn o ddefnyddio barn rhywun sy'n amlwg yn anfodlon, sydd newydd ysgrifennu llyfr ac eisiau ei werthu, ac sydd, felly, yn gwneud datganiadau er mwyn gwerthu'r llyfr hwnnw. Felly, nid wyf yn derbyn yr hyn y mae’r Dr Philip Dixon yn ei ddweud. Nid wyf yn credu bod gan yr adran unrhyw fath o broblem. Rydym ni wedi gweld, dros y blynyddoedd diwethaf, gwelliant cyson i safonau, buddsoddiad cyson mewn ysgolion ac yn y proffesiwn, wrth i ysgolion newydd gael eu hadeiladu ledled Cymru, gwelliannau i ganlyniadau TGAU a gwelliannau o ran Safon Uwch. Mae'r holl bethau hyn wedi bod yn digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld, o dan ei blaid ef yn Lloegr, yw academeiddio, cam yn ôl i ysgolion gramadeg a methiant i fuddsoddi mewn ysgolion. Nid yw hwnnw'n llwybr yr ydym ni eisiau ei ddilyn yng Nghymru. Un peth y gallaf ei ddweud, ac rwy’n dweud hyn yn hollol eglur, yw, fel sy'n wir mewn ardaloedd eraill lle mae cyflog ac amodau wedi eu datganoli, nad oes unrhyw bosibilrwydd—dim posibilrwydd o gwbl—y bydd athrawon yng Nghymru yn cael eu talu llai nag athrawon yn Lloegr. Yn syml, nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Byddwn yn sicrhau bod ein hathrawon yn cael eu gwobrwyo’n dda am y sgiliau sydd ganddynt ac yn sicrhau bod y proffesiwn yn gallu ymarfer yng Nghymru gyda chefnogaeth lawn y Llywodraeth. Mae gennyf bob hyder yn yr adran yn Llywodraeth Cymru.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. A yw'r Prif Weinidog yn teimlo ychydig yn fwy siriol ar ôl ein hwythnos o saib, gan ein bod ni wedi cael tri darn o newyddion da iawn i economi'r DU, ac economi Cymru hefyd felly, yn y cyfamser? Mae Nissan wedi cymeradwyo ffatri i 600,000 o geir y flwyddyn gael eu gwneud yng ngogledd-ddwyrain Lloegr; mae’r cwmni yswiriant mawr o Ffrainc, Axa, ar ôl gohirio ei waith o adeiladu ei dŵr talaf yn Ninas Llundain, wedi penderfynu bwrw ymlaen ag ef; ac, yn y tri mis hyd at fis Medi, roedd ffigurau twf y DU yn gadarnhaol: twf o 0.5 y cant o’i gymharu â'r rhagolygon negyddol chwe mis yn ôl gan y Trysorlys a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Felly, onid yw hyn yn dangos, mewn gwirionedd, bod gan Gymru a’r DU ar ôl Brexit gyfleoedd helaeth i wella iechyd a lles holl boblogaeth y wlad hon?
Wel, nid yw Brexit wedi digwydd eto, fel y mae arweinydd UKIP yn ei wybod. Sbardunwyd y gwelliant i’r economi bron yn gyfan gwbl gan ddiwydiannau gwasanaeth ac nid gan weithgynhyrchu, ac fe’i sbardunwyd bron yn gyfan gwbl gan ostyngiad i werth y bunt, nad yw’n ffactor y gallwn ddibynnu arno yn y tymor hir. Cyn belled ag y mae Nissan yn y cwestiwn, byddai unrhyw un yn croesawu'r cyhoeddiad a wnaed gan Nissan. Yr hyn sy'n rhyfedd yw nad oes gennym ni unrhyw syniad beth yn union a ddywedwyd wrth Nissan. Rwy’n amau bod Llywodraeth y DU wedi datgelu rhan o'i strategaeth drafod i Nissan, ond ni wnaiff wneud hynny i Senedd y DU. Nid wyf yn credu am eiliad bod Nissan wedi cael ei ddarbwyllo i fuddsoddi yn Sunderland ar yr addewid amwys y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio peidio â chael tariffau wedi’u gorfodi ar y sector moduron. Nawr, rwy’n cytuno; nid wyf eisiau gweld tariffau yn cael eu gorfodi ar y sector moduron, ond beth am ddur? Beth am awyrofod? Beth am bob sector arall yn economi Cymru sy'n bwysig? Anwybyddwyd hynny hyd yn hyn. Mae'n dangos dull trwblus, tameidiog o ymdrin â hyn, yn hytrach na bod strategaeth gyffredin. Ac, rwy’n dweud wrthych chi, mae'n gwrthddweud yn uniongyrchol yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU wrthyf ddydd Llun diwethaf. Gofynnais iddi’n uniongyrchol i ddiystyru unrhyw gytundeb—unrhyw gytundeb masnach â'r UE—a oedd yn cynnwys tariffau. Nid oedd yn fodlon gwneud hynny. Nid oedd yn fodlon gwneud hynny. Ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach, yn sydyn, diystyrwyd tariffau ar gyfer y sector moduron. Mae'n draed moch llwyr.
Wel, nid yw'n syndod nad yw Prif Weinidog y DU yn mynd i ddatgelu ei strategaeth drafod i Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, sy'n aelod o blaid arall. [Torri ar draws.] Nid fy lle i yw siarad ar ran Theresa May—[Torri ar draws.]
Gadewch i ni glywed y cwestiwn.
Ond yr hyn y mae yn ei ddangos, onid yw, yw bod Brexit yn cynnig cyfle, yn ogystal â her, ac os awn ni i’r afael â’r trafodaethau gydag ysbryd optimistig a chadarnhaol, yna rydym ni’n debygol o gyflawni llawer mwy? Y broblem gyda'r Prif Weinidog yw ei fod e’n gwynwr. Dim ond y problemau y mae’n ei weld. Nid yw'n gweld y cyfleoedd. O ran dur a’r sectorau diwydiannol eraill, nid oes unrhyw reswm o gwbl i feddwl na all ein diwydiannau fod yn fwy cystadleuol na'r rhai ar draws y sianel, yn enwedig gan fod y ffaith nad ydym yn rhan o ardal yr ewro yn rhoi arian cyfred mwy cystadleuol i ni.
Mae’n ymddangos bod UKIP yn dadlau y gallwn ni fod yn gystadleuol gyda thariffau; gallaf ddweud wrthych chi na allwn. Rydym ni’n allforio 30 y cant o'r dur yr ydym ni’n ei gynhyrchu ac nid oes unrhyw ffordd y gallwn ni fod yn gystadleuol gyda thariffau. Ni all y sector moduron fod yn gystadleuol gyda thariffau. Ni all maes awyrofod, Airbus, fod yn gystadleuol gyda thariffau. Mae wedi fy nghlywed i’n dweud sawl gwaith, os oes cytundeb ar y bwrdd nad yw'n cynnwys tariffau, i mi, mae hynny'n hynod ddefnyddiol. Hynod ddefnyddiol. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud wrtho, nid wyf yn disgwyl i Brif Weinidog y DU ddatgelu ei strategaeth drafod gan nad wyf i’n credu bod ganddi hi un. Dywedais hyn wrthi, a dywedais, 'Edrychwch, rhowch syniad i ni o’ch egwyddorion cyffredinol o leiaf.' 'Ddim yn gwybod'. Pam? Oherwydd na allant gytuno â'i gilydd. Os siaradwch chi â David Davis, yr ateb a gewch chi bob tro yw, 'Bydd popeth yn iawn.' Dim byd. Dim byd arall mwy na hynny. Nawr, mae rhai o blaid cytundebau masnach rydd. Efallai y gallai cytundebau masnach rydd fod yn dda gyda rhai gwledydd ond nid gydag eraill. Mae cytundeb masnach rydd gyda Mecsico yn wahoddiad i ddinistrio gweithgynhyrchu yn y DU, sef yr union beth y pleidleisiodd pobl yn ei erbyn yn y refferendwm. Un o'r materion yr oedd pobl yn poeni amdanynt oedd masnach rydd a cholli swyddi. Mae cytundebau masnach rydd gyda'r gwledydd anghywir yn arwain yn y pen draw at sefyllfa lle gallwch chi ddinistrio eich diwydiant gweithgynhyrchu. Felly, nid ydynt yn ateb i bob problem y maen nhw’n ymddangos i fod.
Wel, fel mae'n digwydd, mae gennym ni gytundeb masnach rydd gyda Mecsico. Dyna un o'r ddau gytundeb y maen nhw wedi llwyddo i’w sicrhau yn yr 50 mlynedd diwethaf. Felly, mae hynny’n annilysu pwynt y Prif Weinidog braidd, onid yw?
Ond, cafwyd digwyddiad diddorol arall yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Nid wyf yn gwybod a welodd y Prif Weinidog ganlyniad yr etholiad yn Lithwania lle’r aeth plaid Gwerinwyr ac Undeb Werdd Lithwania o fod â dim ond un sedd yn y Senedd i fod â 54 o 141, ar ôl ennill 40 y cant o'r bleidlais. Mae'r ddadl am fewnfudo yn Lithwania yn adlewyrchiad cyfatebol o'r ddadl honno yn y wlad hon. Rydym wedi bod yn trafod problemau mewnfudo; maen nhw wedi bod yn trafod problemau allfudo gan eu bod nhw wedi colli 15 y cant o'u poblogaeth yn y 10 mlynedd diwethaf, ers i Lywodraeth Llafur agor y llifddorau yn 2004 a chaniatáu i 150,000 o ddinasyddion Lithwania ymfudo i'r wlad hon, mewn gwirionedd. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn gweld y cyfle yma gyda gwlad fel Lithwania, sy'n gweld symudiad rhydd llafur fel rhan o'u problem, er bod hynny am y rhesymau croes i’r hyn yr ydym ni’n ei weld yn y wlad hon, ac efallai y gallem ni ffurfio cynghreiriau gyda gwledydd fel Lithwania i gyflawni amcan cyffredin, er bod hynny am resymau gwahanol?
Felly, adeiladu wal yw’r ateb. Hynny yw, mae'n ymddangos nawr mai ef yw etifedd Khrushchev, yn poeni bod wal Berlin wedi diflannu fel na allem ni atal y llif hwn o bobl rhag dod o ddwyrain Ewrop. Wel, os mai dyna’r polisi mae’n dymuno ei arddel, iawn. Y gwir yw bod digonedd o bobl—. Mae 1.2 miliwn—1.2 miliwn—o ddinasyddion y DU sy'n byw yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd. A ydym ni’n mynd i ddweud wrthyn nhw, wel, a dweud y gwir, dylid eu taflu nhw allan o'r gwledydd lle maen nhw’n byw, a dylen nhw ddychwelyd i'r DU? Defnyddiodd y gair 'llifddorau'. Defnyddiodd y gair 'llifddorau'. Mae'n gwybod pa mor ymfflamychol yw’r gair hwnnw. Nid all gwyno—. Sôn am gwyno; Ni all gwyno, ar ôl iddo ddefnyddio'r gair 'llifddorau'. Y gwir yw y bydd y diwydiant ffermio yn dal i fod angen pobl o ddwyrain Ewrop i weithio yn y diwydiant ffermio, beth bynnag sy'n digwydd gyda Brexit; ni fyddant yn gallu recriwtio’n lleol.
Rwy’n derbyn y pwynt, wrth gwrs, bod pobl wedi bod yn anhapus gyda'r system bresennol o ryddid i symud. Mae hynny, i mi, yn amlwg yn y bleidlais, ond y gwir amdani yw y bydd yn dal i fod angen i bobl symud ar draws ffiniau er mwyn darparu'r llafur y mae diwydiant ei angen. Ni fydd ffermio’n goroesi heb y llafur y gall ei gael i mewn o ddwyrain Ewrop, gan na allant recriwtio pobl yn lleol. Mae pob ffermwr yn gwybod hynny. Ac felly, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw dull synhwyrol, trugarog a rhesymegol o ymdrin â rhyddid i symud ac nid siarad am lifddorau ac atal pobl rhag dod i mewn ac, i bob pwrpas, adeiladu waliau. Y peth olaf sydd ei angen ar ddynoliaeth yn yr argyfwng presennol yw i’r byd adeiladu mwy o waliau a rhwystrau.