1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2016.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddod â’r rhaglen Her Ysgolion Cymru i ben? OAQ(5)0037(EDU)
Diolch yn fawr, Vikki. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 7 a 10—
Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes digon o amser i grwpio’r cwestiynau, felly bydd cwestiwn 7 yn cael ei gymryd ar ei ben ei hun.
Ymddiheuriadau. Vikki, ymyrraeth dros dro yw Her Ysgolion Cymru i gyflymu gwelliannau yn ein hysgolion sy’n wynebu fwyaf o her. Mae cyllid canolog y rhaglen yn dod i ben yn 2016-17. Fodd bynnag, byddaf yn ystyried canlyniadau TGAU a ddilyswyd a chanfyddiadau gwerthusiadau i sefydlu’r gwersi a ddysgwyd a llywio defnydd o’r addewid o £100 miliwn i godi safonau ysgolion.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysgol Uwchradd Pontypridd yn fy etholaeth a chael trafodaeth ddefnyddiol gyda’r pennaeth ar sut roedd Her Ysgolion Cymru yn eu helpu i wella safonau. Er enghraifft, eu perfformiad yn 2016 oedd y gorau erioed o ran canlyniadau TGAU. Wedi dysgu mewn ysgol Her Ysgolion Cymru fy hun, yn yr ysgol a oedd wedi gwella orau ond un yng nghohort Her Ysgolion Cymru y llynedd, rwy’n gwybod hefyd am y manteision cadarnhaol y mae’r rhaglen wedi’u creu o ran morâl staff a morâl myfyrwyr hefyd. Mae Her Ysgolion Cymru o fudd i’r ysgolion sy’n cymryd rhan, nid oes amheuaeth am hynny, ac rwy’n awyddus i sicrhau na chollir unrhyw gynnydd. Pa wersi y gall Llywodraeth Cymru eu dysgu o’r rhaglen er mwyn i ni adeiladu ymhellach ar y cynnydd a wnaed a rhannu arfer gorau yn fwy eang o fewn y system addysg yng Nghymru?
Diolch. Fel chi, Vikki, hoffwn longyfarch Ysgol Uwchradd Pontypridd ar y gwelliannau a nodwyd. Rwy’n ymroddedig i adeiladu, fel y dywedais, ar y cynnydd a wnaed mewn ysgolion Llwybrau Llwyddiant, gan sicrhau bod y gwersi’n cael eu dysgu ynglŷn â sut y gallwn rannu hynny ar draws y system ysgolion ehangach. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol i sicrhau bod cynlluniau ymadael ar gyfer pob ysgol yn gadarn ac yn eu lle a’n bod ag ymagwedd gyfannol, fel bod y llwyddiannau a welsoch yn yr ysgolion hynny rydych wedi ymweld â hwy yn parhau, ac fel bod modd rhannu arferion gorau yn rhan o’n hymrwymiad i system hunanwella i ysgolion.
Fel y mae’r Aelod dros Gwm Cynon newydd ei ddweud, mae’r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth mewn rhai ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys ysgol gyfun Aberdaugleddau yn fy etholaeth fy hun, ond rwy’n deall bod y canlyniadau i’w gweld yn anghyson ledled Cymru. Fodd bynnag, gan y bydd y rhaglen yn awr yn dod i ben dair blynedd yn unig ar ôl ei sefydlu, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon fod rhaglen fel hon wedi cael yr amser angenrheidiol i brofi ei hun mewn gwirionedd?
Diolch yn fawr, Paul. Unwaith eto, hoffwn longyfarch llwyddiant yr ysgol a grybwylloch. Rydych hefyd wedi cydnabod nad yw’r llwyddiannau hynny wedi digwydd yn yr holl ysgolion a gymerodd ran yn y rhaglen. Yn anffodus, mewn rhai achosion, rydym wedi gweld rhai ysgolion yn llusgo ar ôl, ac mae hynny’n destun pryder mawr.
Gadewch i ni fod yn glir, pan ddechreuodd y rhaglen Her Ysgolion Cymru, roedd yn ymrwymiad dwy flynedd a rhaglen dwy flynedd—dyna sut y cafodd ei lansio. Penderfynodd fy rhagflaenydd, Huw Lewis, ymestyn y rhaglen am flwyddyn ychwanegol, ond fe’i gwnaed yn gwbl glir mai rhaglen am amser cyfyngedig oedd hi. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw ein bod yn dysgu o’r hyn sydd wedi gweithio yn yr ysgolion unigol hynny a’n bod yn lledaenu’r arferion gorau i bob ysgol yng Nghymru, gan gofio mai 39 o ysgolion Cymru yn unig oedd yn rhan o’r rhaglen. Mae gwersi cadarnhaol i’w dysgu, ac rydym yn cynnal gwerthusiad manwl o’r rhaglen er mwyn i ni fod yn ymwybodol o’r hyn sydd wedi gweithio a’n bod yn gallu ailadrodd hynny.
Cafodd Coleg Cymunedol y Dderwen yn fy etholaeth yn Ynysawdre ei roi o dan Her Ysgolion Cymru yn 2015. Mewn cyfnod hynod o fyr, o dan bennaeth gweithredol newydd, Nick Brain, gydag arweinyddiaeth gref iawn ar draws yr ysgol, nid yn unig gan Nick, ond ar draws yr ysgol yn awr, o dan Her Ysgolion Cymru, eleni cafodd ganlyniadau TGAU gwell nag erioed: cafodd 93 y cant o’r myfyrwyr o leiaf bum gradd TGAU A* i C—34 y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol; cafodd 56 y cant o fyfyrwyr y safon aur o bum gradd TGAU A* i C fan lleiaf; ac yn fyr, y canlyniadau gorau a gyflawnwyd yn hanes byr Coleg Cymunedol y Dderwen a’r ddwy ysgol a’i rhagflaenodd, sef ysgol gyfun Ogwr ac ysgol gyfun Ynysawdre. Felly, i adleisio sylwadau fy nghyd-Aelodau a siaradodd yn flaenorol, Vikki a Paul, sut rydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw i wneud yn siŵr ei fod yn parhau ymhell i’r dyfodol, fel bod fy holl ddisgyblion, ble bynnag y maent yn byw, a beth bynnag yw eu cefndir, yn cael y cyfle gorau mewn bywyd?
Unwaith eto, a gaf fi longyfarch y gwaith caled aruthrol a wnaed yn yr ysgol newydd honno am y gwelliannau y maent wedi’u gweld? Mae’n dyst i ymroddiad y staff ac ymrwymiad y disgyblion a’r rhieni, ac mae Nick Brain i’w longyfarch. Huw, rydych wedi crybwyll y pwynt canolog iawn sef sut y gallwn ysgogi newid addysgol yn y wlad hon a’r ateb yw drwy arweinyddiaeth ragorol. Rydym yn gwybod y gall hynny fod yn un o’r ysgogiadau pennaf i sicrhau newid addysgol, pa un a yw ysgol wedi’i chynnwys mewn rhaglen benodol ai peidio. Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu gallu arweinyddiaeth prifathrawon Cymru a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ysgolion, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ynglŷn â fy academi arweinyddiaeth a chyllid mewn perthynas â hynny yn nes ymlaen y mis hwn.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn fod Her Ysgolion Cymru wedi dod i ben a byddai wedi bod yn well o lawer gennyf ei weld yn cael ei ailraddnodi yn hytrach na’i ddileu. Ceir sylfaen dystiolaeth y gallwn ddysgu oddi wrthi ym Manceinion a Llundain ble y mae wedi llwyddo ac rwy’n credu ei bod yn bwysig fod Ysgrifennydd y Cabinet yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn ysgolion, lle y ceir tystiolaeth i gyfiawnhau hynny.
O ran dysgu’r gwersi, o fy nealltwriaeth o Her Ysgolion Cymru, rhan allweddol oedd y gair ‘her’ a’r defnydd o grŵp cymheiriaid i gynorthwyo a chraffu ar ysgol. Felly, sut y gellir cynnwys hynny mewn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan, a sut y gall yr Ysgrifennydd sicrhau nad yw’n cael ei lastwreiddio?
Diolch yn fawr iawn. Ni ddylai’r Aelod synnu bod y rhaglen wedi dod i ben, oherwydd fel y dywedais ar y cychwyn, ni fwriadwyd i’r rhaglen fod yn unrhyw beth ond ymyrraeth yn y tymor byrrach am y cyfnod o dair blynedd, ac rydym bellach wedi dod i ddiwedd y tair blynedd. Rydym yn cynnal gwerthusiad manwl o’r agweddau ar y rhaglen sydd yn bendant wedi sicrhau canlyniadau a newidiadau aruthrol mewn rhai ysgolion. Rydym eisiau gweithio ar hynny. Rydych yn dweud, ‘Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â’r cwestiwn o her?’ Wel, mae’r consortia rhanbarthol a’r cynghorwyr her a gyflogir gan y consortia rhanbarthol—dyna’n union yw’r rôl sydd ganddynt yn y consortia, ac rydym yn gweithio’n agos iawn gydag ysgolion Her Ysgolion Cymru a’r consortia rhanbarthol i sicrhau nad yw’r cynnydd y maent wedi’i wneud yn cael ei golli, ac er mwyn i ni allu dysgu gwersi o’r hyn sydd wedi gweithio ac osgoi diffygion rhannau o’r rhaglen nad ydynt wedi bod mor llwyddiannus ag y byddech chi neu finnau eu heisiau, rwy’n siŵr.
Ac yn olaf, David Melding.
Weinidog, rwy’n meddwl eich bod wedi clywed gan bawb fod ysgolion sy’n tangyflawni’n cael eu gweddnewid gan arweinyddiaeth a disgwyliadau. Dylem ddisgwyl i’n pobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir cymdeithasol, gael canlyniadau TGAU da iawn, ac yna dylai llawer ohonynt gael tiwtor ar unwaith wrth iddynt ddechrau ar eu safon uwch i’w tywys drwy’r broses o ymgeisio am le yn y prifysgolion gorau—dyna sut y mae sicrhau llwyddiant.
A gaf fi ddiolch i chi, David? Rydych yn hollol gywir. Arweinyddiaeth, yn ei holl ffurfiau, o bennaeth sefydliad unigol i’r rheolwyr haen ganol ac arweinwyr pynciau unigol yn yr ysgol—mae arweinyddiaeth ar bob lefel yn ein hysgolion yn gwbl hanfodol, a dyna pam y byddwn yn sefydlu academi arweinyddiaeth a byddaf yn cyhoeddi manylion amdani yn nes ymlaen y mis hwn.
Mae’n rhaid i ni gael disgwyliadau uchel ar gyfer ein plant. Rwy’n ofni, yn y gorffennol, ein bod wedi diystyru gormod o’n plant. Rydym wedi gadael i’w cod post neu faint cyfrif banc eu rhieni benderfynu’r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan y plant hynny. Dyna pam y mae’r Llywodraeth hon yn blaenoriaethu gwariant ar blant o’n cefndiroedd tlotach, drwy’r grant amddifadedd disgyblion, ac mae ein rhaglen Seren wedi ei chynllunio i sicrhau bod ein perfformwyr gorau, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ymgeisio a llwyddo i gael lle yn Rhydychen, Caergrawnt a phrifysgolion eraill Grŵp Russell, ac mae’r rhaglen Seren yn sicrhau llwyddiant mawr i ni.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.