– Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fynediad i fand eang, ac rwy’n galw ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6126 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu â chyflawni ei huchelgais yn rhaglen lywodraethu 2011 o sicrhau bod pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015.
2. Yn cydnabod mai gan Gymru y mae’r cyfartaledd uchaf o bobl ym Mhrydain nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo llythrennedd ddigidol a gosod targed mwy uchelgeisiol ar gyfer defnyddio band eang.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) gweithio gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau i sicrhau mynediad cyffredinol i fand eang cyflym a signalau ffonau symudol;
(b) diwygio’r system gynllunio i hyrwyddo buddsoddi mewn seilwaith telathrebu a defnyddio rhwydwaith;
(c) ystyried y cynnydd a wnaeth Llywodraeth yr Alban drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol a chyflwyno cynllun i ddarparu signalau ffonau symudol y genhedlaeth nesaf mewn ardaloedd lle y methodd y farchnad; a
(d) darparu amserlen ar gyfer ei hymrwymiad i gaffael contract i ymestyn mynediad i fand eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig yn enw Paul Davies a dangos cefnogaeth fy mhlaid i ddau welliant Plaid Cymru heddiw. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, ar y sail nad yw’n adlewyrchu nac yn cydnabod yn ddigonol y methiant i gyflwyno ymrwymiad rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011 i ddarparu band eang y genhedlaeth nesaf i bob eiddo erbyn 2015.
Nid yw ei gwelliant ychwaith yn dangos unrhyw fath o frys i ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i fynd ati i ddatrys y diffyg signalau ffonau symudol mewn ardaloedd helaeth o Gymru. Y tu hwnt i fwriad llac i weithio gyda’r rheoleiddiwr a gweithredwyr rhwydwaith, a bwriad i ddiwygio’r system gynllunio, a bwriad i bwyso a mesur cynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth yr Alban, ychydig iawn o ymrwymiadau a roddwyd i dawelu meddyliau cymunedau ledled Cymru sydd heb gysylltedd band eang digonol neu signalau ffonau symudol.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, nid wyf am fod yn angharedig wrth y Llywodraeth; yn ddi-os mae prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella argaeledd band eang ffeibr ar draws Cymru, er budd trigolion a busnesau yn yr ardaloedd ymyrryd, ac rwy’n cyffroi’n arw pan welaf fan Openreach wedi parcio mewn mannau amrywiol yn fy etholaeth, yn gweithio ar gabinet gwyrdd arbennig, ond gadewch i ni ddatgan y ffeithiau yma: ni ellir gwadu bod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni ei huchelgais yn 2011 i, ac rwy’n dyfynnu,
‘sicrhau y bydd gan bob cartref a phob busnes yng Nghymru fynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf erbyn 2016, gyda’r uchelgais y bydd gan 50% neu’n fwy gyswllt 100Mbps.’
Nawr, y realiti yw ein bod ymhell o fod yn darparu mynediad band eang cyffredinol at fand eang y genhedlaeth nesaf, ac yn ôl adroddiad Ofcom, ‘The Connected Nations Report 2015’, dim ond 26 y cant o safleoedd sydd â chyflymder lawrlwytho o 100 Mbps. Felly, dim ond hanner yr amcan a nododd y Llywodraeth yw hynny. Nawr, ychydig wythnosau yn ôl, ymatebodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, i’r Gweinidog mewn perthynas â datganiad, a’r hyn a ddywedodd oedd bod y Llywodraeth wedi goraddo mewn perthynas â band eang cyflym iawn ac wedi methu cyflawni, a gwrthododd y Gweinidog ei sylwadau. Wel, mae’n gywir: mae’r pyst gôl wedi cael eu symud dro ar ôl tro, cafodd pobl eu troi ymaith gan esgusodion, ac mae busnesau wedi methu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae etholwyr yn dal i ofyn i mi pam na all Llywodraeth Cymru roi gwybod iddynt pa bryd y bydd eu busnesau neu eu heiddo’n cael band eang cyflym iawn. Maent yn cael clywed ‘cewch’, yna cânt glywed ‘efallai’, ac yna, ‘na’. Y cyfan y mae pobl ei eisiau yw i Lywodraeth Cymru ddweud wrthynt yn agored pa un a yw eu gwasanaeth yn mynd i gael ei uwchraddio. Felly, byddwn yn annog y Gweinidog i gyflwyno amserlen ar gyfer eich ymrwymiad i ddarparu contract i ymestyn mynediad band eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.
Nawr, o ystyried y ffaith fod gennych gyfran o’r budd wedi ei chynnwys yn y contract Cyflymu Cymru, lle y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran o’r elw pan fo’r lefelau manteisio yn cyrraedd mwy na 21 y cant mewn unrhyw ardal, rwy’n gofyn pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar fand eang fel y dylai, a pham y mae ymelwa wedi bod mor druenus hyd yn hyn. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod 0.6 y cant o ddyraniad y gyllideb wreiddiol ar gyfer prosiect Cyflymu Cymru wedi’i bennu ar gyfer marchnata a chyfathrebu, felly byddwn yn dweud nad yw’n syndod mai gan Gymru y mae’r lefel uchaf o hyd o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd ym Mhrydain, a byddwn yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn trafferthu annog pobl i’w defnyddio, er ei bod yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd yn ceisio ei darparu. Yn wir, amlygodd y gwerthusiad o raglen band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru ddiffyg cydlyniad a dull strategol o farchnata a chyfathrebu a beirniadodd darged manteisio Llywodraeth Cymru o 50 y cant am ei ddiffyg uchelgais, pan fo disgwyl eisoes i’r lefel fanteisio gyrraedd 80 y cant erbyn 2020. Felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog nodi heddiw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog pawb i fanteisio ar fand eang y genhedlaeth nesaf a sut y mae’n bwriadu gwella llythrennedd digidol, ac rwy’n awgrymu y bydd hynny’n hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.
Nawr, mae fy mewnflwch, yn rheolaidd, yn llawn o bobl sy’n pryderu am nad oes ganddynt wasanaeth band eang. Bob dydd, rwy’n cael mwy nag un e-bost yn gofyn i mi pa bryd y maent yn mynd i gael band eang yn eu hardal hwy. Y mater arall sy’n llenwi fy mag post—neu fy mewnflwch, mae’n debyg nawr, yn agosach ati—yw signalau ffonau symudol. Nawr, byddwn yn dweud ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gweithio gyda’r rheoleiddiwr a’r gweithredwyr rhwydwaith i hyrwyddo buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu a defnydd o’r rhwydwaith. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod ein cynnig hefyd yn dangos ymagwedd Llywodraeth yr Alban. Nid oes gan Lywodraeth yr Alban unrhyw bwerau ychwanegol i’r rhai sydd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac eto maent wedi sefydlu cynllun gweithredu darpariaeth symudol, sy’n ymrwymo i ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd mewn ardaloedd anfasnachol, diwygio’r system gynllunio i gefnogi buddsoddiad masnachol mewn seilwaith symudol, a gwella asedau sector cyhoeddus ar gyfer y diwydiant telathrebu, a gwahanol fathau o waith ar y cyd gyda’r diwydiant telathrebu. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwelliant i’r cynnig hwn yn ymrwymo i ystyried y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth yr Alban. Pam na wnewch chi fwrw iddi a chyflwyno cynllun tebyg ar gyfer Cymru?
Byddwn yn dweud fod Llywodraeth Cymru yn gyson yn gorfod ceisio dal i fyny yma. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi argymhellion ar waith i’w gwneud yn haws uwchraddio safleoedd presennol ac adeiladu mastiau newydd, ac er gwaethaf sylwadau a gyflwynwyd gan y gweithredwyr rhwydwaith darpariaeth symudol, a gohebiaeth gennyf fi at eich Gweinidog blaenorol, Carl Sargeant, rydym yn dal i fod heb ddiwygio hawliau datblygu a ganiateir yma yng Nghymru, ac rydym yn llusgo ar ôl Lloegr a’r Alban. Os gwelwch yn dda, Weinidog, peidiwch â dweud wrthyf eich bod yn mynd i gael trafodaethau gyda chyd-Aelodau. Peidiwch â dweud wrthyf fod eich swyddogion yn siarad â swyddogion eraill. Dywedwch wrthyf fod gennych gynllun gweithredu wedi’i gytuno, a bod gennych amserlen.
Mawr obeithiaf y bydd yr Aelodau’n cyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwy’n mawr obeithio cael ymateb cadarnhaol a chynllun gweithredu gan y Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o safbwynt gweithredu cynllun Cyflymu Cymru, sef cynllun sydd wedi galluogi dros 610,000 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang cyflym ac a fydd yn galluogi 100,000 o safleoedd ychwanegol i fanteisio arno erbyn i’r prosiect ddod i ben yn 2017.
2. Yn nodi cynnydd Allwedd Band Eang Cymru a’r prosiect a wnaeth ei ragflaenu sydd wedi galluogi dros 6,500 o eiddo ar draws Cymru i fanteisio ar fand eang drwy wahanol dechnolegau arloesol.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd band eang cyflym a chysylltedd digidol i fusnesau, cymunedau a’r economi ym mhob rhan o Gymru ac yn nodi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i gynnig band eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.
4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i:
a) cydweithio ag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr y rhwydwaith er mwyn cynnig mynediad at fand eang cyflym a signal ffonau symudol ar draws Cymru;
b) diwygio Hawliau Datblygu a Ganiateir o fewn y system gynllunio er mwyn hybu buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu ac adleoli’r rhwydwaith;
c) pwyso a mesur yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi’i gyflawni drwy ei chynllun gweithredu ffonau symudol wrth ddatblygu cynigion yng Nghymru; a
d) cyhoeddi rhagor o wybodaeth am estyn mynediad at fand eang dibynadwy a chyflym i bob eiddo yng Nghymru.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Dai Lloyd.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth yma, ac yn falch hefyd o gydnabod bod y Ceidwadwyr wedi derbyn ein dau gwelliant ni fel plaid. Felly, band llydan uwch gyflym neu band eang cyflym iawn—rydym ni yn naturiol yn derbyn ac yn dathlu’r ffaith, yn wir, fod dros 89 y cant o gartrefi yng Nghymru erbyn hyn yn gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn. Mae’n bwysig cydnabod hynny, ond, wrth gwrs, mae’r profiadau yn rhai o awdurdodau lleol Cymru yn hollol wahanol. Mae rhai yn gwneud yn dda iawn—ym Merthyr, mae 98.32 y cant o dai yn gallu derbyn band eang cyflym iawn, ac ym Mlaenau Gwent, mae 97.9 y cant o dai yn gallu derbyn yr un un band eang. Ond, mae rhai awdurdodau lleol eraill—yn bennaf, rhai gwledig—yn colli allan.
Fel rydw i wedi dweud yn y Siambr yma o’r blaen, yng Ngheredigion, dim ond 64.44 y cant o dai sy’n gallu derbyn band eang cyflym iawn. Ym Mhowys, dim ond 65.67 y cant o dai sy’n gallu derbyn yr un un band eang cyflym iawn. Mae ffigurau BT yr wythnos yma yn cadarnhau bod llai nag 1 y cant o dai Cymru ar hyn o bryd yn derbyn cyflymder is na 2 Mbps a llai na 7 y cant o dai Cymru o dan 10 Mbps. Rydym ni’n deall, wrth gwrs, bod sicrhau mynediad i’r gwasanaeth yma yn mynd i fod yn anoddach mewn rhai ardaloedd gwledig ac mewn rhai ardaloedd trefol hefyd lle mae problemau lleol, fel cyfyngiadau cynllunio neu rwystrau ffisegol sy’n eu hatal rhag gosod ceblau. Tra’i bod hi’n amlwg bod yna angen mwy o wariant i dargedu’r ardaloedd hyn, mae hefyd angen cydnabod bod angen gweld mwy o gydlynu lleol rhwng unigolion a grwpiau cymunedol er mwyn delifro gwasanaeth uwch gyflym.
Mae cynllun mynediad i fand eang Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn un sy’n galluogi unigolion i wneud cais am gymorth ariannol, ond pwrpas ein gwelliant ni heddiw ydy rhoi rôl flaenllaw i lywodraeth leol yng Nghymru, fel bod yna ddisgwyl ar gynghorau lleol i gydweithio gyda chymunedau a chydlynu’r anghenion sirol mewn ffordd strategol, yn hytrach na’r system adweithiol sydd yn nodweddiadol o’r system bresennol sydd gennym ni.
Unwaith bod yr isadeiledd mewn lle, mae’n amlwg bod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sy’n codi o’r mynediad hwnnw. Mae’n werth nodi, wrth gwrs, bod llai nag un o bob tri person sy’n gallu cael gwasanaeth uwch gyflym yn bachu ar y cyfle hwnnw. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyflwyno ymgyrch marchnata a chyfathrebu er mwyn hyrwyddo’r defnydd o fand eang unwaith ei fod ar gael mewn ardaloedd, ond mae angen edrych ar effeithiolrwydd yr ymgyrch hon i sicrhau bod mwy o unigolion a busnesau yn gwneud defnydd o’r dechnoleg newydd sydd ar gael.
Mae’r dechnoleg yma’n hollbwysig i Gymru wrth i ni geisio gau’r gagendor economaidd gyda gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Rwy’n croesawu’r ffaith bod BT Cymru yn awr yn profi gwasanaeth G.fast yn Abertawe ac yn edrych ymlaen at weld adolygiad y peilot yma. Ond, wrth i ni groesawu’r ffaith bod rhai ardaloedd Abertawe yn derbyn cyflymdra oddeutu 500 Mbps fel eu band eang cyflym iawn fel rhan o’r peilot yma, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio am yr ardaloedd hynny sydd yn dal ddim yn derbyn gwasanaeth sylfaenol. Ar sail hynny, rwy’n annog Aelodau i gefnogi’r gwelliant sydd gerbron. Diolch yn fawr.
Mae cysylltedd digidol yn hanfodol yn ein bywydau modern. Mae sgiliau digidol yn dod yn fwyfwy hanfodol i gael mynediad at amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau. Mae’r bobl sy’n meddu ar y wybodaeth a’r offer i ymgysylltu â’r technolegau digidol yn tueddu i ennill cyflogau uwch, gan adlewyrchu eu cynhyrchiant uwch. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae diffyg seilwaith digidol a sgiliau digidol gwael yn golygu bod cymunedau ar draws y wlad yn wynebu lefelau uchel o allgáu digidol.
Cymru sydd â’r cyfartaledd uchaf o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd ym Mhrydain. Methwyd â chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru i ddarparu band eang cyflym i gartrefi a busnesau. Mae dyddiadau cyflawni wedi’u hymestyn gyda chanlyniadau niweidiol i swyddi a’r economi. Mae cyflymder didostur technolegau digidol sy’n dod i’r amlwg eisoes wedi trawsnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn gweithio. Mae busnesau angen gweithlu â sgiliau arbenigol lefel uchel.
Adroddodd Sefydliad Tinder fod bron i 90 y cant o swyddi newydd eisoes yn galw am sgiliau digidol. Gwelsant fod 72 y cant o gyflogwyr yn dweud eu bod yn amharod i gyfweld ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar sgiliau TG sylfaenol. Daeth astudiaeth yn 2014 i’r casgliad y gallai 35 y cant o swyddi gael eu hawtomeiddio dros yr 20 mlynedd nesaf. Swyddi ym maes cymorth swyddfa a chymorth gweinyddol, cludiant, gwerthiant a gwasanaethau, adeiladu a gweithgynhyrchu yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu hawtomeiddio neu eu troi’n waith a wneir gan gyfrifiaduron. Dyma’r her sy’n wynebu Cymru—her y mae Llywodraeth Cymru yn methu ei goresgyn. Yng Nghymru heddiw [Torri ar draws.]—Iawn, ewch chi.
Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad ac rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniad gan Google Digital Garage i ddod i Gymru am gyfnod o dri mis i sefydlu cynlluniau hyfforddi yma yng Nghymru—yn wir, roedd y ddau ddiwrnod cyntaf yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud llawer iawn â hwy er mwyn dod â hwy i Gymru mewn gwirionedd, er mwyn i ni gael yr hyfforddiant digidol hwn.
Mae hynny’n newyddion da, ond rydym yn dal i lusgo ar ôl llawer o wledydd eraill. Yng Nghymru heddiw, mae yna dros 14 y cant o bobl nad ydynt byth yn defnyddio’r rhyngrwyd. Mae honno’n ffaith, David. Mae 38 y cant o bobl heb sgiliau digidol sylfaenol. Sut y maent yn mynd i gyflogi pobl? Mae busnesau newydd sylfaenol a mentrau bach a chanolig eu maint ar eu colled oherwydd prinder gweithwyr domestig. Rwy’n cydnabod bod dyletswydd ar gyflogwyr staff heb lawer o sgiliau i wella sgiliau eu gweithlu. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr hyn a ddysgir yn yr ysgolion a’r colegau yn cyfateb i’r hyn y mae busnesau yng Nghymru ei angen.
Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol yn anelu i ddatblygu sgiliau digidol sy’n ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd ac yn drosglwyddadwy i fyd gwaith. Rwy’n croesawu hyn. Fodd bynnag, mae’n anodd gweld pa mor effeithiol fydd y fframwaith hwn heb gyflwyno seilwaith band eang yn llawn a heb hyfforddiant sgiliau effeithiol i athrawon a rhieni.
Addysg yw’r peiriant ar gyfer gweithlu mwy medrus yn ddigidol. Mae’n rhaid i system addysg Cymru gael ei chynllunio i sicrhau bod gan bawb sgiliau rhifedd a llythrennedd cryf, gan gynnwys llythrennedd gwybodaeth. Mae tystiolaeth yn dangos bod myfyrwyr a oedd ond yn cael addysg ddigidol mewn dosbarthiadau TGCh dynodedig yn dioddef anfantais amlwg o gymharu â’r rhai roedd eu hysgolion yn dewis prif ffrydio technoleg a sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm. Ond nid yw sicrhau bod myfyrwyr yn defnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth yn ddigon ar ei ben ei hun.
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
Yn sicr, David.
Unwaith eto, diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych felly yn croesawu adolygiad Donaldson, sy’n gosod cymhwysedd digidol a’r fframwaith digidol yn ganolog i rywfaint o’i waith, ac felly bydd y cwricwlwm mewn gwirionedd yn cynnwys yr hyn rydych yn ei ddweud?
Ydw, rwy’n cytuno ag ef. Dyna rwy’n ei ddweud, rydym yn llusgo ar ôl oherwydd y polisïau yn y gorffennol gan y Llywodraeth Lafur. Rydym ar ei hôl hi; dyna rydym yn ceisio’i ddatrys er mwyn ei gynnwys cyn gynted ag y bo modd.
Ond nid yw myfyrwyr yn defnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth yn ddigon ar ei ben ei hun. Trwy addysgu da yn unig y mae hyn yn trosi i ddysgu sgiliau digidol allweddol. O ystyried cyflymder datblygiadau technolegol, mae angen i ysgolion ddal i fyny gyda’r datblygiadau diweddaraf. Mae angen gwella sgiliau athrawon yn barhaus fel y gellir prif ffrydio sgiliau digidol yn well yn hytrach na bod yn bwnc ar ei ben ei hun.
Rhaid i ni beidio â bychanu rôl rhieni. Mae rhieni sy’n gyfarwydd â TG ac yn ei ddefnyddio’n rheolaidd yn gallu chwarae rhan hollbwysig yn y defnydd y mae eu plant yn ei wneud o TG mewn ffordd nad yw’n tynnu sylw oddi ar ddysgu. Felly, mae angen i rieni gael yr adnoddau yn y cartref i alluogi hyn i ddigwydd. Ddirprwy Lywydd, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod buddsoddiad mewn seilwaith a sgiliau digidol yn cyfateb i gyflymder y twf yn y sector hwn. Mae hyn yn hollbwysig os yw Cymru i sicrhau lle fel arweinydd yn y byd digidol. Diolch.
Cymeradwyaf y Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Cynulliad heddiw. Rwy’n credu bod Russell George wedi nodi’n daclus iawn y problemau rydym wedi’u hwynebu yn y gorffennol a chyfyngiadau’r hyn sydd gan y Llywodraeth i’w gynnig i ni ar gyfer y dyfodol. Bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig, a diwygiadau Plaid Cymru iddo, yn wir, ac rwy’n gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r Aelodau yn eu cefnogi.
Roeddwn yn meddwl bod yr hyn a ddywedodd Russell George am ddiffyg brys y Llywodraeth yn galw am ei bwysleisio a’i danlinellu er mwyn cyflwyno band eang cyflym iawn i’r mwyafrif llethol o bobl Cymru. Rhaid cyfaddef, mae’r rhaglen Cyflymu Cymru wedi gweld cynnydd cyflym, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr, ond rwy’n dal i feddwl bod yn rhaid i ni gymharu ein hunain â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o Ewrop yn wir i weld pa mor bell ar ei hôl hi rydym ni yng Nghymru. Yn ôl y wefan thinkbroadband heddiw, mae 88.3 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn cael cyflymder o 24 Mbps, ond nid 24 Mbps yw’r mesur yn yr Alban, ond 30—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf?
Mae’n 30 Mbps yma hefyd.
Mae’n ddrwg gennyf. Wel, os felly, rwy’n ymddiheuro ac rwy’n llongyfarch y Llywodraeth ar ddilyn yr Alban. [Chwerthin.] Dylwn fod wedi mynd yn ddiplomydd a dweud y gwir.
Ond mae’r amrywiadau rhwng rhanbarthau ac etholaethau, wrth gwrs, ynghudd yn y ffigur cyffredinol hwnnw. Os edrychwn ar fy rhanbarth, Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn erbyn cyfartaledd Cymru o 89.4 y cant ar gyfer 24 Mbps, mae’n mynd i lawr i 58 y cant ar gyfer Ceredigion; 61 y cant ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; 61 y cant ar gyfer Sir Drefaldwyn; 63 y cant ar gyfer Brycheiniog a Maesyfed; a 74 y cant ar gyfer Dwyfor Meirionnydd. Ar gyfer Llanelli, mae’n 92 y cant a dyna’r unig etholaeth yn y rhanbarth cyfan sy’n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru. Rwy’n meddwl bod hyn yn gwbl annerbyniol yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain. Mae llwyddiant busnesau’n dibynnu’n helaeth heddiw, ac mae rhan fawr o ffyniant Cymru’n dibynnu ar gysylltedd ar y cyflymder cywir ac mae hyn yn ein dal yn ôl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Un pwynt na chafodd ei wneud yn y ddadl heddiw y credaf ei fod yn haeddu mwy o sylw yw treiddiad band eang yn ôl grwpiau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl adroddiad Ofcom yn 2015—ac rwy’n deall y bydd datblygiadau diweddar wedi’i oddiweddyd, i raddau—ond yn 2015, dim ond 63 y cant o oedolion ar incwm aelwydydd o dan £17,500 y flwyddyn a oedd yn defnyddio band eang, o’i gymharu â 92 y cant o bobl ar gyflogau uwch na’r trothwy hwnnw o £17,500 y flwyddyn. Felly, mae allgáu digidol i’r rhai ar ben isaf y raddfa incwm yn realiti ac rwy’n meddwl y dylem i gyd gywilyddio, yn y Cynulliad hwn, ein bod wedi mynd i’r fath sefyllfa yn awr. Ni all gwella’r ystadegau hyn ddigwydd yn rhy fuan.
Cyfeiriodd Russell George yn ei araith at fag post gorlawn, neu fag post digidol, o gwynion, ac er ei fod yn ôl pob tebyg yn cael mwy o Sir Drefaldwyn na minnau, rwy’n cael rhywfaint o’i sir, ond hefyd, wrth gwrs, o siroedd eraill yn fy rhanbarth. Mae’n rhyfeddol mewn gwirionedd, o fewn pellter byr iawn i ardal gymharol drefol, sut y gall pobl fod bron yn gwbl amddifad o gysylltedd. Rwyf wedi aros yng ngwesty Waun Wyllt ym Mhum Heol ger Llanelli, er enghraifft, sydd ond tafliad carreg o Lanelli—a methu cael unrhyw signal ffôn symudol o gwbl. Mae’n broblem fawr, rwy’n meddwl, i lawer o westai gwledig a busnesau eraill, fod eu busnesau’n cael eu llyffetheirio gan ddiffyg yr hyn sydd bellach yn cael ei ystyried yn gwbl angenrheidiol ar gyfer bywyd modern, nid yn unig at ddibenion busnes, ond hefyd ar gyfer rhyngweithio rhwng pobl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Mae gennyf gŵyn gan etholwr yn Llanwrda yn Sir Gaerfyrddin sy’n dweud ei fod wedi bod yn aros am ffeibr ers blynyddoedd lawer, ond mae ei gyflymder rhyngrwyd BT yn parhau i fod yn druenus, ar 0.2 Mbps. Dywed: ‘Rwy’n sylweddoli bod gosod ffeibr yn brosiect anodd, ond ar naw achlysur, mae Openreach neu Cyflymu Cymru wedi rhoi amserlen i mi ond wedyn wedi’i hymestyn ar ôl methu ei chyflawni. Ym mis Mehefin 2016, newidiwyd fy nyddiad gosod unwaith eto i fis Medi 2016’—ac mae’n dal heb gysylltiad, hyd yn oed yn awr. Rwy’n sylweddoli mai achos unigol yw hwnnw, ond pe bai ond yn un achos, yn hytrach nag un o lawer, yna gallem ei anwybyddu—nid anwybyddu, ond o leiaf gallem ei roi mewn persbectif. Ond oherwydd bod cymaint o’r achosion hyn, hyd yn oed yn awr, rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth gael ei gwneud yn atebol am ei methiannau yn y gorffennol, a hefyd am ei diffyg brys presennol i fynd ati i gyflwyno rhaglen cysylltedd band eang cyflym iawn sy’n briodol ar gyfer Cymru gyfan.
Mae’r ddadl hon yn amserol iawn, yn enwedig o ystyried rhai o’r anawsterau sydd i’w gweld bellach mewn perthynas â materion band eang ledled Cymru, ac nid yn lleiaf yn Aberconwy. Yn hytrach na meithrin cysylltedd, mae Llywodraeth Cymru bellach â rhaniad digidol mawr ar ei dwylo, gyda llawer wedi’u dal mewn loteri cod post o ran mynediad a chyflymder lawrlwytho. Nid oes ond 60 y cant o eiddo yng nghefn gwlad Cymru â mynediad at gyflymder sefydlog o 10 Mbps, o’i gymharu â 95 y cant mewn ardaloedd trefol. Mae gennyf lawer o etholwyr nad ydynt yn gallu cael cyflymder o 1 Mbps hyd yn oed, ac yn yr un modd, gan Gymru y mae’r gwasanaeth 3G gwaethaf o blith y gwledydd datganoledig. Problem benodol yn fy etholaeth yw bod llawer o’r eiddo yn ardaloedd gwledig Aberconwy wedi’u cysylltu â chabinetau sydd filltiroedd i ffwrdd o’u heiddo. O ganlyniad, hyd yn oed pan fydd y cabinetau wedi’u huwchraddio â ffeibr i’r cabinet, ni all safleoedd fanteisio ar y datblygiad digidol. Yn syml iawn, nid yw’r cysylltedd llinell ffôn a’r seilwaith sylfaenol yno, ac ni fydd yn syndod mai Conwy a Sir Ddinbych sydd â’r gyfradd isaf o ddefnydd o’r rhyngrwyd, gyda 18 y cant o bobl nad ydynt yn defnyddio’r adnodd hanfodol hwn sy’n cael ei ystyried bellach yn bedwerydd cyfleustod hanfodol.
Ar gyfer ein ffermwyr yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi symud ceisiadau ffermio a chofrestriadau ar-lein, megis Taliadau Gwledig Cymru ac EID Cymru. Fodd bynnag, heb gysylltiad dibynadwy, mae llawer o ffermwyr bellach yn gorfod talu i rywun arall wneud y gwaith hwn neu wynebu cosbau difrifol o bosibl. Yn 2014, casglwyd bron i £0.5 miliwn o gosbau gan ein ffermwyr gweithgar: nid yw’n deg o gwbl. Mae’r methiant i ddarparu band eang cyflym iawn i lawer o ardaloedd anghysbell wedi ynysu ein cymunedau gwledig fwyfwy, gan greu bwlch digidol enfawr rhwng y rhai mwy ffodus a’r tlodion. Gyda banciau’n cau yn wythnosol, mae banciau’r ddinas yn tybio y bydd perchnogion busnesau’n mynd ar-lein, pe baent ond yn gallu gwneud hynny. Cymerir yn ganiataol bellach, felly, fod yn rhaid i bob cymuned gael mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf a blas o’r cysylltedd y mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn ei gymryd yn ganiataol. Mae 90 y cant o fusnesau bach yng Nghymru wedi dweud bod rhyng-gysylltiad dibynadwy yn hanfodol i’w gweithgarwch, ac fe’i hystyrir yr un mor bwysig ag unrhyw gyfleustod sylfaenol arall. Felly pam mai dim ond 58 y cant o gartrefi a busnesau sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn sy’n gweithio’n effeithiol?
Ond wrth siarad, hoffwn ddiolch i’r Gweinidog Julie James AC am ei chyngor a’i chymorth gyda rhai o’r materion anodd rwyf wedi eu dwyn i sylw ei hadran yn ddiweddar. Rwy’n credu’n wir eich bod yn gwneud eich gorau i gyflawni’r targedau a addawyd a’r amcanion hynny. Ond rhaid i mi ddweud, mae angen ymagwedd gorfforaethol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan yr holl Ysgrifenyddion Cabinet a’r Prif Weinidog ei hun, er mwyn darparu mwy o adnoddau ac i’ch cynorthwyo i wneud eich gwaith a’r dasg o’ch blaen.
Yn ddiweddar iawn, cafodd gogledd Cymru ei enwi yn ‘Lonely Planet’s Best in Travel 2017’ fel un o’r ardaloedd gorau yn y byd—gwych. Ond os yw’r rhai yn y diwydiant lletygarwch a’n busnesau gwledig ond yn cynnig gwasanaeth rhyngrwyd trydydd dosbarth, mae hyn yn mynd i gael effaith negyddol. Amcangyfrifir y gallai cynnydd yng ngalluoedd digidol busnesau bach a chanolig ar draws y DU ryddhau adenillion economaidd o £18.8 miliwn. Mae’n rhaid cefnogi’r rhain er mwyn manteisio ar gyfle o’r fath.
Mae twf digidol yn allweddol i ysgogi arloesedd yn ein heconomi, gyda 12 y cant o gynnyrch domestig gros yn cael ei gynhyrchu drwy’r rhyngrwyd. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae gennym seilwaith sydd wedi dyddio ar gyfer cynnal darpariaeth band eang cyflymach. Materion a grybwyllwyd yn lleol yn fy nghymorthfeydd yw nad yw BT Openreach a phrosiect y band eang cyflym iawn yn siarad â’i gilydd—gan weithio mewn seilos. Nid oes ymagwedd gydgysylltiedig pan fo anawsterau’n digwydd, ac mae llawer o daflu baich yn digwydd. Felly, mae’n dilyn, ar ran pobl a busnesau yn Aberconwy, fy mod am gofnodi fy siom eithafol fod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu cyflawni ei huchelgais ei hun yn rhaglen lywodraethu 2011 i sicrhau y byddai pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf.
Mae’r datganiad diweddar gan y Gweinidog yn ei gwneud yn glir y gellid defnyddio £12.9 miliwn o gyllid a gynhyrchir drwy’r lefelau manteisio a ragwelir, gobeithio, i ddarparu mynediad band eang cyflym iawn cyn diwedd y contract presennol ar 27 o Ragfyr. Fodd bynnag, cytunaf na fydd yr arian ychwanegol hwn ond yn mynd ran o’r ffordd i fynd i’r afael â’r safleoedd sy’n weddill heb gysylltedd a rhaid rhoi mwy o ffocws ar berfformiad cyffredinol BT mewn perthynas â’u seilwaith. Unwaith eto, rwyf am ailadrodd fy mod yn gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi a gweithredu ar alwadau’r Gweinidog Julie James AC i geisio ymestyn y gwaith i 2018 a thu hwnt, i wynebu’r her a sicrhau bod y pedwerydd cyfleustod hwn yn cael ei ddarparu i bawb.
Er bod cysylltedd digidol yn hanfodol bellach i’n bywydau o ddydd i ddydd, mae gormod o gymunedau ledled Cymru yn wynebu lefelau uchel o allgáu digidol, a chan Gymru y mae’r gyfradd uchaf o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd yn y DU. Yn erbyn ei tharged i brosiect Cyflymu Cymru gyrraedd 96 y cant o eiddo presennol yn 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn dyddiad cwblhau’r cyfnod adeiladu i fis Mehefin 2017 yn dilyn adolygiad marchnad agored a ddangosai fod nifer y safleoedd sydd angen eu cynnwys yn y prosiect wedi cynyddu. Pan holais y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ynglŷn â hyn ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, dywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru ond â hawl i ymyrryd yn y farchnad lle nad oedd unrhyw weithredwyr masnachol wedi dweud y byddent yn mynd.
Soniodd, er enghraifft, nad oedd Cyflymu Cymru yng nghanol Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd. Dywedodd os edrychwch ar fap o Cyflymu Cymru, mae’n hepgor yr holl ardaloedd lle y mae cwmni masnachol wedi dweud y byddent yn darparu gwasanaeth.
Ond pan gynhaliwyd adolygiad marchnad agored arall ganddynt, ar ôl i sawl Aelod, yn fy nghynnwys i, fynegi pryderon wrthi, dangosai’r adolygiad fod y gweithredwyr masnachol wedi diwygio eu cynlluniau ac na fyddent yn darparu yn yr ardaloedd diwydiannol hynny. O ganlyniad i hynny, ychwanegodd, roedd 42,000 o safleoedd wedi’u hychwanegu at y targed gwreiddiol a’r dyddiad cwblhau wedi’i ymestyn flwyddyn.
Datblygwyd FibreSpeed yng ngogledd Cymru fel partneriaeth gyhoeddus-preifat ar ôl ennill tendr cystadleuol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau band eang cyflym iawn ar draws ystadau diwydiannol, parciau busnes a lleoliadau eraill yng ngogledd Cymru i gynyddu twf economaidd. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru yn sylweddol yn hyn, buddsoddiad y deellir ei fod yn filiynau lawer. Wrth holi’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yma ym mis Mehefin 2014, cyfeiriais at lythyr a anfonwyd at yr Aelodau gan FibreSpeed yn mynegi pryder fod Cyflymu Cymru yn goradeiladu buddsoddiad FibreSpeed a’u bod yn ceisio arweiniad gan Gomisiwn yr UE ar achos posibl o dorri rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Mewn llythyr at yr Aelodau ym mis Hydref 2014, atebodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, sef y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth presennol, fy nghwestiwn, gan nodi bod adolygiad marchnad agored 2014 wedi penderfynu, drwy drafodaethau gyda FibreSpeed Ltd, a thrwy ymarfer technegol cyfreithiol blaenorol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, y byddai’r 793 o godau post safleoedd busnes yn unig yn cael eu cynnwys bellach yn rhan o gwmpas prosiect mewnlenwi newydd Cyflymu Cymru ar y sail nad yw FibreSpeed yn bwriadu darparu cysylltedd band eang i safleoedd busnes yn y dyfodol a bernir bod ei bris yn anfforddiadwy. Felly, Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru gwestiynau difrifol i’w hateb. Faint o filiynau o filoedd o bunnoedd a wastraffwyd ar brosiect Llywodraeth Cymru yn deillio o dendr Lywodraeth Cymru? Beth a aeth o’i le a pham y cafodd FibreSpeed eu rhoi yn y sefyllfa hon?
Wrth ymateb i mi yn y pwyllgor, fe ddywedoch hefyd fod Llywodraeth Cymru newydd bennu canran a nifer yn ei chontract Cyflymu Cymru ac mai mater i’r darparwr, BT, yn llwyr oedd cyrraedd nifer y safleoedd. Fodd bynnag, rydym hefyd yn deall bod BT wedi methu miloedd o ddefnyddwyr drwy gategoreiddio safleoedd fel neuaddau preswyl myfyrwyr a pharciau gwyliau fel cyfeiriadau sengl. Yng ngogledd Cymru, mynychais ddau gyfarfod gyda changen Clwyd o Gymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain a rheolwr mynediad y genhedlaeth nesaf BT Cymru i fynd i’r afael â’r ddarpariaeth band eang yn y Gymru wledig, sy’n parhau i effeithio ar fusnes parciau a’u gallu i ateb gofynion cwsmeriaid—yr ymwelwyr y mae economi twristiaeth gogledd Cymru yn dibynnu arnynt, gan adleisio sylwadau a wnaeth fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders. Mae’r rheolwr rhaglen BT wedi bod yn gyswllt gwerthfawr iddynt, gan roi gwybodaeth am y ddarpariaeth bresennol ac yn y dyfodol, gan gynnwys cynllun Llywodraeth Cymru i helpu busnesau fel y rhain i gael mynediad at ffeibr ar alw. Fodd bynnag, mae busnesau parciau wedi dweud wrthyf mai’r broblem yw dod o hyd i rywun i werthu’r cynnyrch. Gwadodd BT Local Business eu bod yn gwybod am gynllun ffeibr ar alw Llywodraeth Cymru, a phan ddaethant o hyd i gwmni yn y diwedd a oedd yn barod i werthu hwn, roedd yn Lloegr. Fel roeddent yn dweud, maent yn anniddig fod yn rhaid iddynt fynd at gwmni yn Lloegr i brynu prosiect Cymreig sy’n cael ei gefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru. Roeddent yn dweud hefyd fod prisiau manwerthu, yn un peth, yn ei roi allan o gyrraedd llawer o fusnesau yng Nghymru.
Yn erbyn y targed o 95 y cant yn Lloegr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganfyddiadau ei chynllun peilot ar gyfer cronfa arloesi gwerth £10 miliwn ar gyfer y 5 y cant olaf o gymunedau mwyaf anghysbell Lloegr ym mis Chwefror. Felly, yn olaf, Weinidog, pryd a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith i gyrraedd y 4 y cant olaf o safleoedd yma, ac nid y 96 y cant cyntaf yn unig? Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw? Diolch hefyd i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl. Rwy’n diolch iddynt am ei bod yn glir iawn fod seilwaith digidol yn hanfodol o bwysig i bobl, cymunedau ac economi Cymru. Fel y dangosodd y cyfraniadau heddiw yn glir iawn, nid oes angen ailadrodd pwysigrwydd cynyddol cysylltiadau band eang cyflym o safon uchel i gartrefi a busnesau ledled Cymru. Rwyf am fynd i’r drafferth i ailadrodd ein bod, fel Llywodraeth Cymru, wedi dweud yn eglur iawn ein bod am i gymaint o bobl â phosibl allu cael mynediad at wasanaethau band eang cyflym a dibynadwy, ac yn hollbwysig, iddynt allu manteisio i’r eithaf ar fynediad o’r fath.
Gwnaeth Mark Isherwood waith da iawn ar fy rhan yn egluro sut y mae prosiect Cyflymu Cymru’n gweithio, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddo am hynny, ond rwyf am ailadrodd un neu ddau o bwyntiau. Mae Cyflymu Cymru yn brosiect a gynlluniwyd i ddarparu lawrlwythiadau 30 Mbps, ac nid 24 Mbps, i bobl Cymru. Ymyrraeth yn y farchnad ydyw. Heb ymyrraeth rhaglen y Llywodraeth, mae hynny’n golygu na fyddem wedi cael unrhyw fand eang cyflym iawn na darpariaeth arall o unrhyw fath o wasanaeth band eang i ardaloedd nad ydynt yn gallu ennyn marchnad fasnachol.
Rydym wedi bod yn sgwrsio gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn ers peth amser, ac rwy’n falch iawn fod Llywodraeth y DU bellach wedi gweld gwerth mewn cyflwyno Bil sy’n gosod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar waith, ond mae’n bwysig cofio nad ystyrir mai seilwaith yw hyn ar hyn o bryd. Felly, nid yw’n rhywbeth y gallwn fynd i’w wneud pryd bynnag y dymunwn. Ni allwn daflu arian ato ac adeiladu rhagor na dim byd arall. Mae’n rhaid i ni fynd drwy raglen cymorth gwladwriaethol er mwyn ymyrryd yn y farchnad. Felly, mae wedi cymryd amser hir iddo ddod yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Rydym wrth ein bodd â hynny, ond byddai’n werth i’r Aelodau gofio bod y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol ar hyn o bryd yn argymell 10 Mbps, ac nid 24 Mbps neu 30 Mbps, a’n bod ar hyn o bryd yn gweithio’n galed iawn i wneud i Lywodraeth y DU weld synnwyr a chyflymu hynny, fel ei fod, fan lleiaf, yn codi o 10 Mbps yn y dyfodol, hyd yn oed os nad oeddent yn gweld gwerth yn ei osod yn uwch na hynny yn y gorffennol.
Rwy’n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am gydnabod y cyfarfodydd rydym wedi’u cael ac yn y blaen. Ond rwy’n wirioneddol ddiffuant ynglŷn â hyn—nid yw’n fater gwleidyddiaeth plaid mewn unrhyw ffordd. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol y Llywodraeth yn addas i’r pwrpas ac yn ein cynorthwyo yn ein cenhadaeth i gael y band eang hwn ar draws Cymru. Felly, os oes unrhyw Aelod yn awyddus i gysylltu â mi, fe ddywedaf wrthynt beth yw ein pryderon—ac rwy’n meddwl fy mod wedi’u rhoi i Janet Finch-Saunders eisoes. Rwy’n hapus i’w rhoi i unrhyw un arall sydd eu heisiau, fel y gallant ein cynorthwyo i helpu Llywodraeth y DU i gyrraedd sefyllfa lle y mae’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol yn rhywbeth gwerth ei gael mewn gwirionedd, ac y gallwn ei ariannu wedyn yn unol â hynny. Felly, roeddwn eisiau gwneud y pwyntiau hynny.
O ran yr ymrwymiadau y clywsom lawer ynglŷn â’n bod wedi’u torri, yn amlwg ni fyddwch yn synnu clywed fy mod yn gwrthod hynny. Mae’n bwysig cofio bod y canrannau a niferoedd yr eiddo’n newid drwy’r amser. Pe baem ond yn gosod lefel o eiddo yn 2011 a dweud, ‘Fe wnawn y rheini i gyd’, yna ni fyddai unrhyw beth a adeiladwyd ar ôl hynny wedi cael band eang. Mae’n wireb i ddweud hynny, ond mae’n werth ei hailadrodd. Ac mewn gwirionedd, un o’r rhesymau y gwnaethom yr adolygiad marchnad agored pellach oedd er mwyn cynnwys peth o’r eiddo a adeiladwyd ar ôl hynny. Unwaith eto, mae’n fater o gryn bryder i ni nad yw Llywodraeth y DU yn gweld gwerth mewn cynnwys y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol honno ym mhob gwaith adeiladu newydd ar hyn o bryd. Felly, mae gennych sefyllfa chwerthinllyd lle rydych yn adeiladu stad o dai newydd ac yna byddwch yn cloddio’r ffordd i roi band eang i mewn wedyn. Yn amlwg, nid yw’n gwneud synnwyr. Apeliaf ar bob Aelod o bob plaid wleidyddol i fynd ati i geisio perswadio pobl i gynnwys rhywfaint o synnwyr cyffredin yn rhai o’r rhwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol hyn.
Beth bynnag, gan droi at yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a’r gweithredwyr rhwydwaith i ddarparu gwell seilwaith digidol gyda’r hyn sydd gennym yn awr, ledled Cymru. Rydym wedi bod yn ceisio gwella’r ddarpariaeth band eang ym mhob man. Hefyd, mae’n rhaid i chi gadw mewn cof fod y galw cynyddol am ddata symudol wedi cymhlethu pethau. Pan ddechreuasom y rhaglenni hyn, roedd band eang a darpariaeth symudol yn ddau beth gwahanol iawn, ond nid yw hynny’n wir bellach. Felly, mae’r dechnoleg wedi newid yn sylweddol iawn hefyd, ac rydym yn awyddus iawn i gadw ar y blaen gyda hynny.
Rwy’n cynnal cyfarfod bwrdd crwn yn ddiweddarach y mis hwn, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ofcom a’r diwydiant, er mwyn trafod sut y gallwn wella cysylltedd symudol yng Nghymru. Bydd y ddadl yn canolbwyntio nid yn unig ar gynlluniau’r diwydiant i ehangu darpariaeth a gallu symudol, ond hefyd yn archwilio pob dull sydd ar gael i ni yma yng Nghymru. Yn amlwg, un o’r dulliau sylfaenol yw’r gyfundrefn gynllunio. Rwyf wedi comisiynu ymchwil i edrych ar newidiadau a newidiadau arfaethedig i’r drefn gynllunio yn Lloegr a’r Alban mewn perthynas â seilwaith ffonau symudol, sut y maent yn gymwys i Gymru, a dulliau amgen sy’n gweddu i’n topograffi a’n dwysedd poblogaeth yng Nghymru. I roi hynny’n symlach, nid wyf yn sicr o gwbl fod y bobl sy’n byw yn ein parciau cenedlaethol am gael mast 250 troedfedd bob 10 metr er mwyn cael cysylltedd symudol mewn gwirionedd. Felly, yn amlwg, mae yna gyfaddawd i’w gael rhwng yr hyn rydych eisiau ei gael a beth sy’n rhaid i chi ei gael er mwyn ei gael. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cael hynny’n iawn i bobl Cymru. Rwy’n gwybod bod Russell George yn cael trafferth gyda mathau eraill o fastiau gyda generaduron ar eu pennau, ac nid wyf yn rhy siŵr y byddai ei etholwyr mor fodlon â hynny â mastiau sy’n cario signalau symudol ychwaith.
Felly, rydym yn gwybod ein bod am ei wneud, ond rydym am ei wneud yn iawn. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw’n iawn, a bod pobl yn cael cysylltedd, ond nid ar draul mwynderau eraill, a dyna pam y mae pobl yn byw yn y parciau cenedlaethol ac yn awyddus i ddod i ymweld â ni yn y lle cyntaf.
Felly, rydym yn gwneud y gwaith ymchwil hwnnw. Rydym yn awyddus i’w gael yn iawn i Gymru. Rydym yn gwybod bod sicrhau mynediad at y technolegau digidol, a’r cymhelliant a’r sgiliau i’w defnyddio’n effeithiol yn bwysicach nag erioed, ac mae canfyddiad pobl o’r hyn y maent yn barod i’w oddef er mwyn eu cael yn newid. Felly, rydym yn awyddus i gael hynny’n iawn.
O ran allgáu digidol, rydym yn ymrwymedig iawn i fynd i’r afael ag allgáu digidol a gwella llythrennedd digidol, nad ydynt yr un pethau’n hollol. Felly, hoffwn ddiolch i Mohammad Asghar am ei gyfraniad, ond gan nodi nad yw llythrennedd digidol sylfaenol—y gallu i fynd ar-lein, trefnu ffeiliau a ffolderi, gwneud rhai pethau sylfaenol gyda gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen—yr un peth â meddu ar y sgiliau angenrheidiol i weithio mewn economi ddigidol. Mae arnom angen y ddau beth yn ein cymdeithas ac rydym yn gweithio’n galed iawn i’w cael.
Mae gennym fframwaith cymhwysedd digidol y gobeithiaf fod pob Aelod yn gyfarwydd ag ef, ac a lansiwyd gennym yn ddiweddar. Yn wir, ymwelais ag ysgol arloesi yn etholaeth fy nghyd-Aelod Mike Hedges fore Llun i edrych ar y fframwaith cymhwysedd digidol ar waith, ac roedd yn drawiadol iawn yn wir. Rwy’n siŵr y bydd gan yr holl Aelodau ysgolion yn eu hardaloedd a fydd yn gallu dangos iddynt sut y mae hynny’n gweithio. Credaf ei bod yn bwysig sylweddoli bod Donaldson yn gweithio’n wirioneddol dda yng Nghymru, a bod y cynnydd rydym wedi’i wneud yma yng Nghymru drwy ddweud bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn fframweithiau sylfaenol i addysg fodern yn fyw ac yn iach ac yn bendant ar flaen y meddwl addysgol yng Nghymru.
Rydym hefyd yn cyflawni ein rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, gan gynnwys Hwb, y platfform Cymru gyfan ar gyfer ysgolion, ac yn cynyddu cyflymder band eang ar gyfer ysgolion fel rhan o’r rhaglen.
Mae angen i ni gael cefnogaeth, fodd bynnag, i’r holl sefydliadau a’r gymdeithas ehangach fel y gallwn sicrhau ein bod yn genedl wirioneddol gynhwysol yn ddigidol. Felly, yn ystod datganiad llafar a wneuthum yn ddiweddar ar y mater hwn, darparais ddiweddariad i’r Aelodau ar amserlenni ymyrraeth bosibl yn y dyfodol i ymestyn band eang cyflym iawn ymhellach. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar gynlluniau i lansio proses adolygiad marchnad agored ffurfiol pellach yn ddiweddarach yr hydref hwn. Pan fyddwn wedi cael canlyniad yr adolygiad hwnnw, byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau a ellir datblygu proses gaffael newydd i ddarparu mynediad at safleoedd pellach a sut i wneud hynny. Fe ddarparaf ragor o wybodaeth am hynny wrth i’r broses barhau, fel y dywedais yn fy natganiad. Fe wnaf yn siŵr fod yr Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Hoffwn gywiro’r camsyniad, fodd bynnag, fod Cyflymu Cymru wedi llithro. Symudwyd y dyddiad cwblhau yn ôl o ganlyniad i drafodaethau a ragwelwyd rhwng Llywodraeth y DU a’r UE ar y cynllun band eang cenedlaethol. Bydd yr Aelodau’n cofio bod y 40,000 o safleoedd pellach yn dilyn adolygiad marchnad agored ac roedd yn unol â chontractau tebyg o’r maint hwn. Felly, dyna ni.
I orffen ar hyn—ac rwyf wedi’i ddweud sawl gwaith ac fe’i dywedaf eto—rwy’n gwneud yr un cynnig ag a wneuthum i bawb ar ddiwedd fy natganiad: os oes gennych broblemau penodol yn eich etholaeth, rwy’n hapus iawn i ddod gyda chi ac egluro sut y gallwn fynd i’r afael â hwy. O ran y rhaglen gyffredinol, rydym yn bendant iawn yn pwyso ar BT. Byddaf yn cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gyda hwy. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd ynglŷn â’u perfformiad tuag at y dyddiadau targed. Rwy’n sicrhau’r Aelodau nad ydynt o dan unrhyw argraff fy mod yn hunanfodlon ynglŷn â’u gallu i gyflawni’r contract. Rwy’n rhannu rhwystredigaeth yr Aelodau fod yr amserlenni’n llithro i unigolion, ond yr hyn sy’n bwysig i mi yw bod y contract cyfan yn cyflawni’n gyffredinol, ac rwy’n sicrhau’r Aelodau y bydd yn cyflawni yn y modd hwnnw, neu bydd BT yn wynebu’r canlyniadau ariannol difrifol iawn sy’n codi o ganlyniad i’r methiant a byddwn yn defnyddio’r arian hwnnw wedyn i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud iawn am eu methiant. Fodd bynnag, dywedaf ar ran BT eu bod yn hynod o gydweithredol gyda hynny, eu bod yn dod i’r cyfarfodydd gyda’r holl wybodaeth ac nad oes gennym unrhyw reswm dros feddwl na fydd canlyniad llwyddiannus i’r contract.
Rwy’n meddwl bod yr Aelodau wedi cael eu gwahodd gan BT i gael diweddariad pellach ar hynny, ac rwy’n gobeithio mynychu’r cyfarfod fy hun. Mae BT hefyd yn gymwynasgar iawn yn dod allan i etholaethau Aelodau gyda mi ac esbonio rhai o’r manylion ar lawr gwlad. Yn gyffredinol, rwyf am i’r Aelodau ddeall bod hwn yn gontract llwyddiannus iawn mewn gwirionedd, fod Cymru ar flaen y gad o ran cynhwysiant digidol a llythrennedd digidol a chysylltedd digidol, ac er bod rhai o’r ffigurau i’w gweld yn isel, mewn gwirionedd maent yn uchel iawn. Yn ddiweddar, cefais brofiad mewn prifddinas Ewropeaidd lle na allwn gael fy ffôn i gysylltu ag unrhyw beth o gwbl. Felly, rwy’n credu ein bod mewn perygl o fychanu ein hunain. Rwy’n deall rhwystredigaethau’r Aelodau, ond mewn gwirionedd, dylem fod yn falch iawn, fel y mae pob un ohonom, o ymrwymiad Llywodraeth Cymru a lle Cymru yn y dyfodol digidol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Russell George i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fe sylwais nad oedd unrhyw Aelodau o feinciau cefn Llafur wedi cyfrannu, ar wahân i David Rees yn neidio ar ei draed unwaith neu ddwy i ymyrryd, felly efallai fod hynny’n arwydd fod band eang yn dda ym mhob un o’r etholaethau hynny, a byddai hynny’n newyddion da. A dylwn ddweud yn ogystal—David. [Chwerthin.]
Diolch. Dim ond i egluro pwynt, mae band eang yn broblem mewn rhai ardaloedd yn fy etholaeth i hefyd.
Diolch i chi, David, am eich trydydd ymyriad yn ein dadl heddiw—mae i’w groesawu.
Dylwn ddweud, er mwyn bod yn garedig wrth y Gweinidog, fy mod yn cytuno’n llwyr â Janet Finch-Saunders: credaf fod y Gweinidog yn angerddol iawn ynglŷn â’i maes yma ac rwy’n croesawu hynny’n fawr. Mae hi wedi cytuno i ddod i wahanol etholaethau gydag Aelodau ac esbonio’r sefyllfa. Hyd yn oed os oes ychydig gannoedd o bobl yn berwi o gynddaredd, mae hi’n barod i ddod, ac rwy’n meddwl y dylid croesawu hynny’n fawr. Rwy’n talu teyrnged hefyd i BT sydd hefyd yn ymgysylltu’n dda, rwy’n meddwl, gydag Aelodau’r Cynulliad—bob amser yn barod i gyfarfod a gohebu hefyd, a dod i etholaethau yn ogystal. Felly, diolch i’r Gweinidog am hynny.
Mae yna ychydig o faterion yr hoffwn eu crybwyll. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae yna rwystredigaeth fawr—mae’r Gweinidog yn iawn ac mae hi’n derbyn hynny—ond yn sicr, ceir rhwystredigaethau mewn ardaloedd gwledig a hefyd mewn ardaloedd trefol yn ogystal, byddwn yn dweud, fel y mae David Rees wedi nodi. Fe gymerais gyfraniad Neil Hamilton—gwrandewais yn ofalus iawn arno—cyfraniad da iawn, ac wrth gwrs mae ei ranbarth yn cynnwys naw etholaeth, rwy’n credu, a dim ond un etholaeth mewn gwirionedd sydd â chyflymder band eang cyflym iawn sy’n uwch na chyfartaledd Cymru. Rwy’n meddwl bod hynny’n dangos mai problem wledig yw hon i raddau helaeth—nid yn llwyr, ond i raddau helaeth, mae’n broblem wledig. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cysylltu hefyd â phwyntiau Janet Finch-Saunders mewn perthynas â’r gymuned ffermio. Gwyddom fod y broblem fwyaf yng nghefn gwlad Cymru—dyna ble y mae busnesau ffermio wedi’u lleoli—ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy a mwy o bwysau ar sicrhau bod busnesau ffermio yng Nghymru yn cyflwyno ceisiadau a dogfennau penodol ar-lein. Wel, yn syml iawn, ni allant wneud hynny os nad oes ganddynt fand eang da, sy’n gyflym a dibynadwy.
Gwnaeth y Gweinidog y pwynt hefyd, yn gwbl briodol, fod yna newidiadau i’r ffordd y mae rhwydweithiau symudol a gweithredwyr symudol—. Mae darpariaeth symudol yn newid ac yn esblygu. Mae’r ddarpariaeth symudol ar gyfer data bellach yn ogystal â galwadau llais, ac rwy’n derbyn hynny. Mae hynny wedi digwydd yn fwy yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n derbyn bod yna faterion yn codi yn hynny o beth o ran darparu band eang. Ond mewn sawl ffordd, gallai hynny fod yn ateb, wrth gwrs, i ddarparu band eang mewn ardaloedd penodol; os oes yna ddarpariaeth symudol dda sy’n gyflym ac yn ddibynadwy, yna, wrth gwrs mae hynny hefyd yn ateb y galw am fand eang, drwy fynediad dros y rhwydwaith symudol.
Galwodd Dai Lloyd hefyd, yn ei gyfraniad fel llefarydd Plaid Cymru, am sefydlu cynllun lleol pwrpasol i sicrhau nad oes unrhyw gartref neu fusnes yng Nghymru yn mynd heb fynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf. Mae rhinwedd i hyn yn bendant, rwy’n meddwl, ac rwy’n sicr yn credu bod hwnnw’n fater y dylid ei archwilio. Tynnodd sylw hefyd, wrth gwrs, at Flaenau Gwent a’r ffaith fod 99 y cant o Flaenau Gwent â mynediad at fand eang cyflym iawn. Ond wrth gwrs, mynediad yw hynny; nid yw’n golygu eu bod wedi cael band eang, mae’n golygu eu bod wedi cael mynediad ato. Ac fe welwch, mewn gwirionedd, mai cyfran fechan yn unig o’r bobl ym Mlaenau Gwent sy’n gallu cael mynediad at y band eang sydd wedi manteisio ar hynny mewn gwirionedd, a dyna, wrth gwrs, yw pwynt ein dadl heddiw o ran tynnu sylw at y diffyg yn y lefelau manteisio, sy’n bwynt a wnaeth ef ei hun yn nes ymlaen.
Soniodd hefyd am y ffaith fod cysylltedd digidol bellach yn rhan hanfodol o fywyd modern, sy’n cyfrannu nid yn unig at ffyniant economaidd a darparu cynnydd pendant mewn sgiliau a pherfformiad addysgol, ond sydd hefyd yn effeithio’n gadarnhaol ar fyw’n iach a’r amgylchedd. Yn wir, rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod mynediad at y band eang yn prysur ddod yn hawl ddynol, ac nid yn fraint.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, buaswn yn dweud mai bwriad y Ceidwadwyr Cymreig yn y cynnig hwn heddiw yw galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo llawer mwy o amser, ymdrech ac adnoddau i sicrhau bod gennym seilwaith telathrebu sy’n addas ar gyfer economi Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Boed ar gyfer cysylltu â theulu neu ffrindiau, neu helpu plant i astudio yn eu cartrefi a gwneud eu gwaith cartref, neu gynnal twf ar gyfer busnesau lleol, mae cysylltedd digidol bellach yn rhan hanfodol o’n bywydau o ddydd i ddydd ac ni all Cymru fforddio bod ar ei hôl hi ym Mhrydain, fel y mae ar hyn o bryd yn anffodus. Ond mewn perthynas â’r nifer sy’n manteisio ar fand eang a darpariaeth symudol, rwy’n credu bod yn rhaid i hyn fod yn brif flaenoriaeth, oherwydd yn sicr fe hoffwn fod yma ymhen ychydig flynyddoedd pan fydd fy mewnflwch yn llawer llai llawn o bobl yn cysylltu â mi i drafod problemau gyda’r band eang a ffonau symudol. Ond rwy’n sicr yn gobeithio y bydd ymrwymiad presennol Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd gan Gymru gyfan fand eang cyflym iawn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn yn cael ei gyflawni. Rwyf eisiau sefyll yma yn y dyfodol a dweud, ‘Diolch, Lywodraeth Cymru, am gyflawni hyn ac am leihau cynnwys fy mewnflwch yn sylweddol.’ Ond rwy’n bendant yn cymeradwyo’r cynnig hwn i’r Cynulliad heddiw ac yn annog yr Aelodau i’w gefnogi.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb welliant. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.