– Senedd Cymru am 2:43 pm ar 22 Tachwedd 2016.
Eitem 2 ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar adolygiad Diamond o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru at agenda heddiw. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau’r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau yn ymwneud â Chomisiwn y Cynulliad yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel a ddangosir ar y cyhoeddiad datganiad busnes, sydd i’w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r sefyllfa yr oedd yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ynddi ddydd Sul? Rwy’n gwerthfawrogi bod y pwysau hyn yn bodoli ledled y Deyrnas Unedig ac rwy’n gwerthfawrogi bod mwy o bwysau ar adegau penodol o'r flwyddyn, ond pan fo gennych chi barafeddyg yn dweud bod y digwyddiad arbennig hwn wedi’i wthio i’r eithaf a’i fod yn llwyr fwriadu chwilio am waith arall gan fy mod wedi dod i’r pen yn feddyliol, dylai hynny wir beri i larymau rhybudd ganu yn uchel ym Mharc Cathays ac, yn wir, yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n gyfrifol am ddarparu’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac yn amlwg yr ymddiriedolaeth ambiwlans, yr oedd 12 o’u cerbydau wedi’u parcio y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys brynhawn Sul. Nid wyf yn ceisio dweud nad yw hyn yn digwydd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys eraill, ond hon yw’r adran Damweiniau ac Achosion Brys fwyaf yng Nghymru, a phan fo gennych chi 12 o ambiwlansys a phan fo gennych chi barafeddygon a staff ambiwlans yn cael eu dyfynnu yn y wasg yn dweud eu bod dan straen meddyliol oherwydd y profiad y maen nhw’n mynd drwyddo, mae hyn wir yn galw am i Lywodraeth Cymru weithredu ac, yn arbennig, Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda'r bwrdd iechyd i ymdrin â'r cyfnodau prysur hyn o ran galw, fel nad yw pobl yn teimlo wrth iddynt fynd i’r gwaith, eu bod wedi dod i’r pen yn feddyliol.
Fel yr ydych chi’n dweud, mae pwysau sylweddol ledled y DU o ran galwadau ar ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, a'r effaith y mae hynny’n ei gael ar y gwasanaethau ambiwlans. Ond fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, ac fel y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod, mae gennym ni gynlluniau ar gyfer galw uwch. Mae gan bob bwrdd iechyd gynlluniau ar gyfer galw uwch a chânt eu defnyddio pan fo’r galw yn cynyddu, yn enwedig pan fo galw sy’n uwch na'r lefelau disgwyliedig. Ac fe wnaeth y bwrdd iechyd ymateb i'r cynnydd hwn mewn galw gan ddefnyddio’r cynlluniau hynny, yn unol â'i statws lefel 4. Mi wnaethon nhw ymdopi, wrth gwrs, drwy’r dydd yn unol â chyfrifoldebau’r bwrdd iechyd. Roedd pwysau eithriadol ddydd Sul. Yn bwysig, roedd nifer y rhai a ddaeth yno draean yn uwch ddydd Sul na'r diwrnod cynt. Roedd hyn yn golygu bod angen cael amrywiaeth ehangach o gamau gweithredu i gefnogi cleifion ac aelodau staff rheng flaen. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod ar statws lefel 4, ond ar ôl i hyn leihau bydd ei statws yn gostwng. Ond byddwn yn dweud hefyd, yn olaf, er gwaethaf y pwysau, bod cyfraddau ymateb ambiwlansys yn ardal Caerdydd ar gyfer galwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn 80 y cant ddydd Sul, ac roedd hyn yn cynnwys 20 mewn un awr o ran ambiwlansys yn cyrraedd. Mae'n rhaid i ni dalu teyrnged i'r aelodau staff sydd, wrth gwrs, yn rheoli'r pwysau hyn.
Bu honiadau bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cynnal cystadleuaeth ffug am gontract gwerth £3 biliwn i’w chyflenwi â cherbydau arfog. Honnir bod y broses wedi’i gwyro o blaid y cwmni Almaenig Rheinmetall, a’i gerbyd Boxer, a fydd yn costio hyd at 40 y cant yn fwy na'r dewis arall o Gymru a gaiff ei adeiladu yng Ngwent. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, neu, yn wir, y Prif Weinidog, i glywed pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynglŷn â'r broses hon, a’r ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru i sicrhau chwarae teg i bawb yn yr achos penodol hwn?
Mae Steffan Lewis yn codi pwynt pwysig ynglŷn â’n perthynas o ran pwerau a chyfrifoldebau ar gyfer caffael, yn ymwneud â’r contract â’r Weinyddiaeth Amddiffyn y byddwn ni, wrth gwrs, yn ceisio dylanwadu arno o fewn y cyfrifoldebau a'r pwerau sydd gennym ni, i wneud yn siŵr fod pob chwarae teg yn cael ei sicrhau mewn gwirionedd. Ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei nodi o ran y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei godi y prynhawn yma.
Rydym ni i gyd yn cydymdeimlo â phawb yr effeithwyd arnynt gan y llifogydd dros y penwythnos, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth i yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr, ac mewn ardaloedd ar dir is yn Heol-y-Cyw, Pencoed ac mewn mannau eraill. Ac rydym ni’n diolch ac yn canmol pawb sydd wedi helpu i ymateb i'r argyfwng a’r glanhau, sy’n parhau.
Mae llawer o hyn o ganlyniad i lifogydd sydyn, sy'n ddigwyddiad yn fwy rheolaidd erbyn hyn, gan fod ein patrymau tywydd yn newid o ganlyniad i gynhesu byd-eang. Mae'n effeithio ar ardaloedd nad ystyriwyd eu bod yn agored i lifogydd mynych o'r blaen, ond rwyf wedi cwrdd â thrigolion y mae hyn y trydydd digwyddiad o lifogydd mewn degawd iddynt, gan achosi problemau o ran yswiriant anfforddiadwy, yn ogystal â gofid a dinistr uniongyrchol ynghylch eu cartrefi a’u heiddo wedi’u difetha gan ddŵr llifogydd, mwd a llanast. A wnaiff y rheolwr busnes ofyn am ddatganiad ar wrthsefyll llifogydd—ac rwy’n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet yma ac mae hi’n ymwybodol iawn o hyn—fel y gallwn archwilio beth arall y gellir ei wneud ar lefel cymunedol, ar lefel y stryd ac ar lefel yr aelwyd i allu gwrthsefyll y digwyddiadau llifogydd hyn yn well? Ac a gawn ni gynnwys o fewn y datganiad hwnnw, yr angen i ddatblygu rhagor o fforymau llifogydd lleol, fel bod pobl leol yn rhan o'r ateb i’r digwyddiadau cynyddol ysgytiol hyn o lifogydd afon a dŵr arwyneb sy’n gynyddol reolaidd?
Mae Huw Irranca-Davies yn codi pwynt pwysig, a hoffwn innau ychwanegu fy niolch i'r gwasanaethau a ddaeth allan i gefnogi etholwyr yn fy ardal i a oedd yn dioddef llifogydd, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr hefyd, megis Cymdeithas Achub Caerdydd a'r Fro, a chwaraeodd eu rhan hefyd. Lluniwyd y datganiad ysgrifenedig gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, a bydd hi’n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datganiad hwn. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig, os edrychwch chi ar y datganiad ysgrifenedig, i gymryd sylw o’r llinell rhybuddion llifogydd—rwyf am ddweud er mwyn y cofnod, mai’r rhif yw 0345 9881188—a'r ffaith bod rhagor o ymchwiliadau yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol i gadarnhau'r niferoedd yr effeithir arnynt, a hefyd i nodi achos y llifogydd ym mhob lleoliad.
O ran dyrannu cyllid ar gyfer lliniaru llifogydd, wrth gwrs, mae gennym hanes da ynglŷn â hyn, ond gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ystyried y digwyddiad hwn, y llifogydd hyn dros y penwythnos, nos Sadwrn, 19 Tachwedd, sydd wedi achosi dinistr, ac nid dim ond o ran y dinistr i unigolion wrth sôn am eu cartrefi, sef y peth gwaethaf, ond o ran yr anhwylustod o safbwynt busnes, yr effaith ar ffyrdd, rheilffyrdd, ysgolion a phopeth arall a gofnodwyd o ddoe.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â’r gefnogaeth ar gyfer prosiect a oedd yn elwa o’r blaen ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? Mae'r prosiect Dowlais Engine House yn brosiect sy’n agored i blant a phobl ifanc o bob gallu ac yn darparu amrywiaeth gynhwysol o weithgareddau chwaraeon, dawns a drama, clybiau darllen a chlybiau gwaith cartref, ac sy’n annog ffyrdd iach o fyw. Mae'r prosiect yn cefnogi pobl ifanc sydd angen bod yn annibynnol, sydd angen magu hyder ac sydd angen dysgu sgiliau bywyd yn eu cymunedau difreintiedig, ond maen nhw’n bryderus iawn y gallai ddod i ben, oherwydd bod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben. Pryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i roi sicrwydd i grwpiau fel y Dowlais Engine House y byddant yn parhau i gael cyllid gan y Llywodraeth hon yn y dyfodol yng Nghymru? Diolch.
Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig am brosiect yn ei ranbarth ef, sydd â chanlyniadau buddiol yn amlwg. Byddwch chi’n gwybod bod yr ysgrifennydd dros gymunedau yn ceisio barn pobl ar effaith y posibilrwydd o ddiddymu’n raddol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ac yn wir yn ceisio barn, wrth gwrs, i gynrychiolwyr cymunedol ymateb iddi, fel y gallant ddweud eu dweud o ran y meysydd hynny o fuddsoddiad sy'n cael effaith fuddiol.
Dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon fod cyffuriau dosbarth A yn cael eu gwerthu yn agored o fewn tafliad carreg i’r Cynulliad hwn, a bod merch 13 oed, mewn cyfarfod cyhoeddus, wedi dweud ei bod yn ofni mynd allan oherwydd y gwerthwyr cyffuriau. Rydym ni mewn sefyllfa lle nad oes gan swyddogion rheng flaen yr heddlu yr adnoddau i wneud y gwaith yn iawn ac mae'r comisiynydd yn anweledig. Pryd y bydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad am hyn a datganiad o fwriad i wneud rhywbeth am y peth?
Yn ail, mae yna fater arall, a gafodd ei grybwyll yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos diwethaf, pan ddatgelwyd nad yw'r system glanio yn ôl deialau yn Sain Tathan yn gwbl weithredol. Rydych chi wedi cael pedair blynedd i sicrhau ei fod yn gwbl weithredol ac nid yw hynny wedi digwydd o hyd. Datgelwyd, hefyd, o ganlyniad i hyn, fod contract gyda Easyjet sydd werth miliynau o bunnoedd wedi’i golli. Yn drydydd, cadarnhawyd nad yw Aviation Caerdydd wedi talu unrhyw rent. Nawr, heb system lanio, nid wyf yn gweld bai arnyn nhw, a dweud y gwir.
Ceir mater arall hefyd ynglŷn â diwydrwydd dyladwy a'r cyllid gan Gyllid Cymru. Felly, pryd fydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad am y mater hollbwysig hwn yr ydych chi wedi cael pedair blynedd i’w ddatrys ac yn dal heb wneud hynny?
O ran eich cwestiwn cyntaf, byddwch chi’n ymwybodol, wrth gwrs, mi wn, o'n cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau a hwnnw yw’r cynllun cyflawni o 2016 i 2018, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', sef yr union reswm pam mae’r cynllun cyflawni mor bwysig, o ran ateb eich cwestiwn. Mae hyn yn egluro beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf i wella canlyniadau'r rhai hynny yr effeithir arnynt drwy gamddefnyddio sylweddau. Wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod ni’n ystyried hyn o ran adolygiad o beth sy'n gweithio, ac fe wnes i ymateb i'r cwestiwn hwn gan yr Aelod yr wythnos diwethaf. Mae’n rhaid i ni ystyried ffyrdd newydd o leihau niwed i’r unigolion, fel yr ydych chi wedi’i ddisgrifio, a hefyd i gymunedau. Felly, nid yw hyn yn syml, ond mae'r cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau yn mynd i’r afael â hyn yn benodol.
Ynglŷn â’ch ail bwynt, mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith bod hwn yn fater sy'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwy'n credu mai dyna'r lle y dylid ei ystyried. Os yw hwn yn fater sydd o berthnasedd a phwysigrwydd i ni fel Llywodraeth—ac rwy'n siŵr bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn rhan o hyn hefyd cyn belled â bod Sain Tathan yn y cwestiwn, a'r system benodol y soniasoch chi amdani—mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymateb iddo. Rwy'n siŵr y bydd yn cael cyfle yn ystod y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet maes o law.
Rwy’n galw am ddatganiad sengl, neu hyd yn oed yn well, ddadl yn amser y Llywodraeth, ar y newid yn strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Rwyf am sôn am nifer o faterion bach, sy'n bwysig i lawer. Yng ngoleuni adolygiad Llywodraeth Cymru o reoliadau adeiladu, mae angen i ni ystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â thystysgrifau perfformiad ynni, a all godi neu ostwng yn seiliedig ar gost y tanwydd yn unig, ac nid yn seiliedig ar ba un a yw effeithlonrwydd y cartref mewn gwirionedd wedi gwella. Mae angen i ni wybod a yw Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai fod yn defnyddio arbedion cost neu garbon, neu'r ddau, fel y dull sgorio ar gyfer ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni, yn enwedig os oes ganddi’r bwriad o fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynllun tlodi tanwydd a arweinir gan alw a gaiff ei weithredu yn y dyfodol, yn bwriadu cyflwyno gofynion o ran oedran i'r meini prawf cymhwysedd, ochr yn ochr â nodweddion eiddo a meini prawf ariannol, gan gael gwared mewn gwirionedd ar aelwydydd o oedran gweithio rhag bod yn gymwys oni bai bod gan aelod gyflyrau iechyd penodol. Mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn pryderu y bydd hyn yn gwadu cymorth i lawer o aelwydydd a fyddai fel arall, ar hyn o bryd, yn gymwys, ac yn peri risg iddynt ddioddef tlodi tanwydd. Felly, mae angen inni wybod beth yw rhesymeg Llywodraeth Cymru ar gyfer cymaint o gartrefi tanwydd, o bosibl, yn peidio â bod yn gymwys mwyach, a pha gefnogaeth fydd ar gael i’r aelwydydd hynny i leihau costau ynni a chael cartref cynnes?
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu hepgor y sector rhentu preifat o’r gofynion cymhwysedd, gan ddadlau y gall cynllun benthyciadau gwella cartrefi Llywodraeth Cymru lenwi'r bwlch. Ond mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn pryderu na fydd landlordiaid yn cael eu hannog i gymryd y benthyciadau hyn, gan olygu na fydd gan denantiaid sy’n rhentu’n breifat ffynhonnell o gymorth os ydynt yn dioddef o dlodi tanwydd. Felly, mae angen inni wybod pa ddata sydd gan Lywodraeth Cymru ar y nifer o landlordiaid preifat sydd wedi manteisio ar fenthyciadau gwella cartrefi ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni hyd yn hyn, ac esboniad o sut y bydd yn annog landlordiaid i gymryd benthyciadau o'r fath yn y dyfodol.
Yn y pen draw ac yn olaf, mae angen inni wybod pa ran sydd gan yr agenda ymyrraeth ac atal yn hyn, nid dim ond o ran gwella bywydau, ond o ran arbed arian ar gyfer gwasanaethau statudol. A lle mae’r dangosyddion llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n cynnwys effeithlonrwydd ynni?
Mae Mark Isherwood yn codi cwestiwn sydd, wrth gwrs, yn cael ei ystyried drwy ymgynghoriad. Dyna'r ffordd yr ydym ni’n bendant yn awyddus i ddatblygu’r broses o lunio polisïau’r Llywodraeth: o ganlyniad i ymgynghori. Yn enwedig drwy ymgynghori ac ymgysylltu â'r rhai hynny sy'n arbenigwyr yn y maes, ac wrth gwrs dyna’r hyn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar fwriad Dŵr Severn Trent i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy? Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod yna gonsyrn ynglŷn â’r 190 o swyddi—rhai o bosib yn mynd i gael eu colli, eraill yn mynd i gael eu trosglwyddo i Loegr. Rŷm ni eisoes hefyd wedi clywed am yr 80 o gwmnïau lleol sydd yn rhan o gadwyn gyflenwi Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, a’r gofid efallai ynglŷn â’u dyfodol nhw. Mae hwn hefyd yn codi cwestiwn ehangach ynglŷn â phwy, mewn gwirionedd, sydd yn biau un o’n hadnoddau naturiol pwysicaf ni fel cenedl. Mae Severn Trent, wrth gwrs, yn prynu’r hawl i fonopoli yn fan hyn o safbwynt gwasanaethau dŵr, ac mae’n rhaid gofyn lle mae llais y cwsmer yn hyn i gyd. Onid oes gan y cwsmeriaid yr hawl i ddweud pa fath o gwmni neu fenter sy’n edrych ar ôl eu gwasanaethau dŵr nhw? Felly, nid mater yn unig i gyfranddalwyr yw hyn, ond mater i holl gwsmeriaid y cwmni.
Mae’n rhaid imi ddweud, roedd ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, pan awgrymodd e fod y Llywodraeth yn mynd i ohebu â’r cwmnïau, yn destun braw a dweud y lleiaf, oherwydd mae hwn y gyhoeddus, wrth gwrs, ers wythnos diwethaf. Mae angen datganiad buan, oherwydd os mai dyma yw cyflymder y Llywodraeth yn ymateb i’r sefyllfa yma, yna mae hynny yn gwbl annerbyniol.
Mae’n mynd yn ôl i—fel y dywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru—pa ymyrraeth, pa ddulliau a pha bwerau sydd gennym ni. Wrth gwrs, fe wnaeth sôn am y posibilrwydd o ddatganoli’r pwerau hynny. Mae arwyddocâd a phwysigrwydd enfawr i hyn yn amlwg, ac fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud hynny wrth ymateb i'r cwestiwn y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd yn dymuno rhannu â'r Aelodau y modd y gall ef, ac, yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet, wneud ein barn yn hysbys, a dyna’r cyfan, mewn gwirionedd, y gallwn ei wneud ar hyn o bryd.
Arweinydd y tŷ, fel yr amlygodd Huw Irranca-Davies yn ei sylwadau i chi yn gynharach, mae’r dyddiau diwethaf o law trwm wedi arwain at lifogydd ledled y wlad. Mae hefyd wedi arwain at y llifogydd tymhorol arferol a rhagweladwy ar yr A4042 wrth bont Llanelen yn fy etholaeth i. Mae hwn yn llwybr cefnffordd pwysig. Mae'r llifogydd blynyddol yn achosi llawer o anghyfleustra i gymudwyr a thrigolion lleol, a gellid ei osgoi pe gwnaed newidiadau i ddraenio caeau cyfagos ac, yn wir, i strwythur y ffordd ei hun. Mae'n broblem barhaus. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a thrafnidiaeth ar gadernid ein rhwydwaith cefnffyrdd yn y gaeaf ac, efallai, adolygiad o fannau sy’n achosi problemau, fel hwnnw yr wyf wedi’i amlinellu ar yr A4042 ym mhont Llanelen, er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y gwelliannau angenrheidiol fel bod ein rhwydwaith cefnffyrdd yn gallu ateb heriau’r gaeaf cystal ag y gall wneud hynny?
Diolch i chi, Nick Ramsay, ac rwyf eisoes, wrth ateb Huw Irranca-Davies, wedi dweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad. Rwy'n credu ei bod yn briodol iddi wneud datganiad yn dilyn ei datganiad ysgrifenedig pan fydd rhai o'r ymchwiliadau hynny wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol a chan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn i ni allu ymateb i’r hyn a allai fod yn cael ei gynllunio o ran y gwaith o liniaru llifogydd. Gwyddom, ddoe, bod llawer o ffosydd wedi cau. Hefyd, cafodd natur y digwyddiad, ac rwy’n meddwl bod Huw Irranca wedi cyfeirio at hyn, effaith arbennig o ddinistriol, nid yn unig ar gartrefi ac aelwydydd, ond ar ein seilwaith. Felly, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dod yn ôl â datganiad yn dilyn yr adolygiad hwnnw o'r digwyddiadau dros y penwythnos.
Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd, neu o bosibl gan Weinidog iechyd y cyhoedd, ar ddarparu diffibrilwyr sydd ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru. Yn benodol, hoffwn wybod am ymateb Cymru i’r fenter Ewropeaidd Diwrnod Restart a Heart a pha gymorth a chyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei roi i gynghorau cymuned ar y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw allu darparu diffibrilwyr. Bydd y Gweinidog iechyd y cyhoedd yn gyfarwydd â'r esiampl wych a osodwyd gan gynghorau cymuned a chyrff eraill ym Mro Gwyr yn fy rhanbarth i, sydd, wrth gwrs, yn ei hetholaeth hithau hefyd. A allai’r datganiad hefyd amlinellu faint o sicrwydd hyfforddiant sydd ar gael ledled Cymru? Yn amlwg, mae hyn ar gael gan nifer o sefydliadau, weithiau heb gost, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod ble y mae'r bylchau daearyddol, os mynnwch chi. A allai’r datganiad hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar fapio yr ymddiriedolaeth ambiwlans o ble y mae diffibrilwyr ar gael ar hyn o bryd?
Mewn cysylltiad â hyn, a gaf i ofyn am ail ddatganiad gan yr Ysgrifennydd addysg am y ganran a gafodd addysg wirfoddol o sgiliau achub bywyd brys mewn ysgolion? Roedd aelodau o bob plaid yn gefnogol iawn i fy ngalwad yn y Cynulliad diwethaf i wneud yr addysg briodol i oedran o'r sgiliau hyn yn orfodol mewn ysgolion a gobeithiaf y bydd yr Aelodau newydd, yn ogystal â'r Ysgrifennydd dros addysg, yr un mor frwdfrydig ag yr wyf i’n dal i fod. Diolch.
Mae Suzy Davies yn codi pwynt pwysig iawn. Mae llawer iawn o weithgarwch gwirfoddol yn digwydd ledled Cymru. Ceir dull strategol ac, mewn gwirionedd, mae’r dull strategol hwnnw yn cynnwys y trydydd sector, yn ogystal â'r sector statudol o ran ymateb brys. Mae'n atal, mae'n ymwneud â hyfforddiant ac, yn arbennig, o ran technegau achub bywyd yn cael eu lledaenu drwy addysg, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes yn nodi yr hoffai ymateb, felly credaf ei fod yn edrych fel pe gallem symud ymlaen ar ddatganiad ar y cyd gan Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion ar y mater hwn.
Diolch i’r Gweinidog.